Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/I Gymmrodorion Llundain

Cywydd i Ddiawl Barddoniaeth Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Tri Englyn Milwr

CANIAD

I'r hybarch GYMDEITHAS O GYMMRODORION YN LLUNDAIN; ac i'r hen odidawg Iaith Gymraeg. Ar y Pedwar Mesur ar hugain.

Sefydlwyd y Gymdeitnas hon yn mis Medi, 1751. Ei llywydd cyntaf oedd William Vaughan, Ysw., of Gors-y-gedol a Nannau, A.S. tros sir Feirionydd. Ei chadeiryd, Mr. Richard Morris o'r Navy Office, der- bynydd lluaws o Lythyrau oddiwrth y Bardd; trysorydd, Mr. D. Humphreys; Ysgrifenydd, Mr. Daniel Venables. Yr oedd gan Lewis Morris hefyd ran flaenllaw yn ei sefydliad a'i hyrwyddiad. Yn ol un o'i rheolau, yr oeddynt i brynu pob llyfr Cymraeg a llawysgrif ellid gael am bris rhesymol. Yr oeddynt i gyhoeddi pob Llawysgrif Gymraeg werthfawr. Un o'i bwriadau da oedd adeiladu, prynu neu ardrethu, eglwys i addoli ynddi yr yr iaith Gymraeg yn Llun- dain; ac awgryma y Parch. R. Jones, Rotherhithe, mai er mwyn cael bod yn gaplan yr eglwys hon y rhoddodd Goronwy Owen i fynu Guradiaeth Walton. Ond y mae amryw ffeithiau yn milwrio yn erbyn y dybiaeth hono.

[Gelwir yr awdl hon yn gyffredin "Arwyrain y Cymmrodorion. Gweler LLYTHYRAU, tudal. 77, lle y dywed y Bardd am y bai sydd yn y Tawddgyrch Cadwynog-y mesur olaf yn yr awdl.]

1. Englyn Unodl Union.

MAWL i'r Ion! aml yw ei rad,[1]-ac amryw,
I Gymru fu'n wastad:
Oes genau na chais ganiad,
A garodd lwydd gwŷr ei wlad.


2. Proest Cadwynodl.

Di yw ein Tŵr, Duw, a'n Tad,
Mawr yw'th waith yn môr a thud[2];
A oes modd, O, Iesu mad,
I neb na fawl, na bo'n fud?


3. Proest Cyfnewidiog.

Cawsom får llachar a llid,
Am ein bai yma'n y byd;
Tores y rhwym, troes y rhod,
Llwydd a gawn a llawn wellhad.


4. Unodl Grweca.

Rhoe nefoedd yr hynafiaid
Dan y gosp, a dyna gaid;
Llofr a blin oll a fu'r blaid—flynyddoedd,
Is trinoedd estroniaid.


5. Unodl Gyrch.

Doe Rufeinwyr, dorf, unwaith
I doliaw'n hedd, dileu'n hiaith,
Hyd na roes Duw Ion, o'i rad,
O'r daliad wared eilwaith.


6. Cywydd Deuair hirion.

Aml fu alaeth mil filoedd,
Na bu'n well, ein bai ni oedd.


7. Cywydd Deuair fyrion, ac—8. Awdl Gywydd ynghyd.

Treiswyr trawsion
I'n iaith wen hon,
Dygn adwyth digwyn ydoedd
Tros oesoedd tra y Saeson.


9. Cywydd Llosgyrnog, a 10—Toddaid ynghyd.

Taerflin oeddynt hir flynyddoedd,
Llu a'n torai oll o'n tiroedd
I filoedd o ofalon :
Yno, o'i rad, ein Ner Ion—a'n piau
A droe galonau drwg elynion.


11. Gwawdodyn byr.

Ion trugarog! onid rhagorol
Y goryw'r[3] Iesu geirwir, rasol ?
Troi esgarant[4] traws a gwrol,—a wnaeth,
Yn nawdd a phenaeth iawn ddiffynol.


12. Gwawdodyn Hir.

Coeliaf, dymunaf, da y mwyniant,
Fawr rin Taliesin, fraint dilysiant;
Brython, iaith wiwlon a etholant
Bythoedd, cu ydoedd, hwy a'i cadwant
Oesoedd rai miloedd, hir y molant ;-Ner
Moler; i'n Gwiwner rhown ogoniant.


13. Byr a Thoddaid.

A dd'wedai eddewidion-a wiriwyd
O warant wir ffyddlon,
Od âi'n tiroedd dan y teirion,
Ar fyr dwyre[5] wir Frodorion,
Caem i'r henfri Cymru hoenfron,
Lloegr yn dethol llugyrn[6] doethion,
Llawn dawn dewrweilch Llundain dirion,-impiau
Dewr weddau Derwyddon.


14. Hira Thoddaid.

Llwydd i chwi, eurweilch, llaw Dduw i'ch arwedd[7]
Dilyth eginau, da lwythau Gwynedd;
I yrddwe's Dehau urddas a dyhedd.
Rhad a erfyniwn i'r hydriw fonedd;
Bro'ch tadau, a bri'ch tudwedd, a harddoch,
Y mae, wŷr, ynoch emau o rinwedd.


15. Hupynt Byr.

Iawn i ninau
Er ein rhadau
Roi anrhydedd
Datgan gwyrthiau
Duw, Wr gorau
Ei drugaredd.


16. Hupynt Hir.

Yn ein heniaith
Gwnawn gymhenwaith
Gân wiw lanwaith
Gynil, union;

Gwnawn ganiadau
A phlethiadau
Mal ein tadau,
Moliant wiwdôn


17. Cyhydedd fer.

Mwyn ein gweled mewn un galon,
Hoenfryd eurweilch, hen frodorion,
Heb rai diddysg, hoyw brydyddion,
Cu mor unfryd Cymru wenfron.


18. Cyhydedd hir.

Amlhawn ddawn, ddynion, i'n mad henwlad hon
E ddaw i feirddion ddeufwy urddas
Awen gymhen, gu, hydr mydr o'i medru,
Da ini garu doniau gwiwras.


19. Cyhydedd Nawban.

Bardd a fyddaf, ebrwydd, ufuddol,
I'r Gymdeithas, wŷr gwiw a'm dethol,
O fry i'n heniaith, wiw, frenhinol,
Iawn, iaith geinmyg, yw ini'th ganmol.


20. Clogyrnach.

Fy iaith gywraint fyth a garaf,
A'i theg eiriau, iaith gywiraf;
Iaith araith eirioes, wrol, fanol foes,
Er f'einioes, a'r fwynaf.


21. Cyrch a Chwta.

Neud esgud[8] un a'i dysgo,
Nid cywraint ond a'i caro,
Nid mydrwr ond a'i medro,
Nid cynil[9] ond a'i cano,
Nid pencerdd ond a'i pyncio,
Nid gwallus ond a gollo
Natur ei iaith; nid da'r wedd,
Nid rhinwedd ond ar hono.


22. Gorchest y Beirdd.

Medriaith mydrau,
Wiriaith eiriau,
Araith orau,
wyrth eres.
Wiwdôn wawdiau,
Gyson geisiau,
Wiwlon olau,
lân wiwles.


23. Cadwyn fer.

Gwymp[10] odiaethol gamp y doethion,
A'r hynawsion wŷr hen oesol:
Gwau naturiol i gantorion
O hil Brython hylwybr, ethol.


24. Tawddgyrch Cadwynog.

O'ch arfeddyd[11] wŷch, wir fuddiol,
Er nef, fythol, wŷr, na fethoch:
Mi rof enyd amryw fanol,
Ddiwyd, rasol, weddi drosoch;
Mewn serch brawdol, diwahanol,
Hoyw-wyr doniol, hir y d'unoch;
Cymru'n hollol o ddysg weddol,
Lin olynol, a lawn lenwoch.


Nodiadau

golygu
  1. Rhoddion
  2. Tir.
  3. Darfu.
  4. Gwrthwynebwyr
  5. Esgyn
  6. Goleuadau: "llewyga gwawl y llugyrn ebe awdl "Gwledd Balsassar" Glan Geirionydd.
  7. Arwain, neu dywys.
  8. Cyflym.
  9. Cynil yr hen ystyr oedd medrus.
  10. Smart, trim, fair.-Dr. PUGH.
  11. Bwriad.