Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Marwnad Lewis Morris
← I Gyfarch y Cymmrodorion | Barddoniaeth Goronwy Owen gan Goronwy Owen golygwyd gan Isaac Foulkes |
→ |
MARWNAD LEWIS MORRIS, Ysw.
Gynt o Fon, yn ddiweddar o Allt-Fadog yn Ngheredigion. Pen-bardd, Hanesydd, Hynafieithydd a Philosophydd yr oes a aeth heibio; gwir garwr ei frenin a lles cyffredin ei wlad; a hoffwr, hyfforddwr, a choleddwr ei iaith a'i genedl.
Yn yr awdl hon y mae pedwar mesur ar hugain Cerdd Dafawd; ac mae'r holl nodiadau ynddi o waith yr awdwr, oddieithr y rhai sydd rhwng [ ]
Englynion unodl union.
OCH dristyd ddyfryd ddwyfron!—Och Geli!
Och galed newyddion!
Och eilwaith gorph a chalon!
Och roi'n y bedd mawredd Mon!
Mawredd gwlad Wynedd, glod union,—ceinwalch,
Cynnor[1] presenolion;
A byw urddas y beirddion,
A'u blaenawr oedd Llew mawr Mon.
Cyd b'ai hirfaith taith o'r wlad hon—yno,
Hyd ewynawg eigion,
Trwst'neiddiwch trist newyddion,
Ni oludd tir, ni ladd ton.
Mae tonau dagrau digron[2]—i'm hwyneb,
Am hynaws gâr ffyddlon;
Llwydais i gan golledion;
Oer a fu'r hynt i'r fro hon.[3]
Bro coedydd, gelltydd gwylltion,—pau[4] prifwigs[5]
Pob pryfed echryslon;
Hell fro eddyl[6] llofruddion,
Indiaid, eres haid, arw son!
Soniais, sugenais gwynion,—do ganwaith,
Am deg Wynedd wendon;
Doethach im' dewi weithion;
Heb Lewys mwy, ba les Mon!
Galar ac afar gofion—mynych y'nt,
Man na chaid ond hoywon;
Nis deryw, ynys dirion,
Loes a fu waeth i lwys Fon.
Cywydd Llosgyrnog ac Awdl-gywydd yn nghyd
Ni fu'n unig i Fon ynys
Loes am arwyl Lewis Morys;
Ond erys yn oed ŵyrion
Ym mhob gwlad achwyniad chwith
O'i ran ym mhlith cywreinion.
Cywydd Deuair Fyrion a Deuair Hirion yn nghyd.
Cynal cwynion,
O dir i don,
Dan gaerau Prydain goron,
Yr ydis am Lewis lon.
Proest Cyfnewidiog Seith-ban.
Unodl Grweca,
Teiroes i'r mwynwr tirion,
O ras nef, a roisai'n Ion
O'i ddawn, o chawsai ddynion-eu meddwl
Ar fanwl erfynion.
Unodl Gyrch.
Er eidduned taer ddynion,
Er gwaedd mil, er gweddi Mon,
Ni adfer Ner amser oes;
Rhed einioes, nid rhaid unon.[9]
Proest Cadwynodl.
Duw a'i dug ef, dad y gân;
Cywir i'w ddydd, carodd Ion;
Yn ngolau gwledd engyl glân;
Yntau ä'n sant: tawn a son.
Clogyrnach.
Hawdd y gorthaw[10] ddifraw ddwyfron;
Erchyll celu archoll calon ;
O raen oer enaid,
Diau bydd di-baid
Uchenaid a chwynion.
Gwawdodyn Byr.
Cair och o'i hunaw, cur a chwynion,
A chaeth iawn alaeth i'w anwylion;
Parawdd i ddinawdd weinion,—o'u colled,
Drem arw eu gweled, drom oer galon.
Dau Doddaid.
Gwawdodyn Hir.
A fyno gyrhaedd nef, wen goron,
Dwy ran ei helynt drain a hoelion,
Pigawg, dra llidiawg fawr drallodion,
Croesau, cryf—loesau, criau croywon,
Erlid a gofid i'w gyfion—yspryd,
Ym myd gwael bawlyd ac helbulon.
Byr a Thoddaid.
Dau Doddaid.
Bu'n wastad ddifrad ddwyfron,—ddiysgog,
I'w hydr eneiniog deyrn union;
Rhyngodd ei fodd â'i ufuddion—swyddau,
A chwys ei aeliau â chysulion.[15]
Gwawdodyn Byr.
Mesurai, gwyddai bob agweddion,
Llun daear ogylch, llanw dŵr eigion;
Amgylchoedd moroedd mawrion,—a'u cymlawdd,
Iawn[16] y danghosawdd, nid annghyson.
Dau Wawdodyn Hir.
Daear[17] a chwiliodd drwy ei chalon,
Chwalai a chloddiai ei choluddion,
A'i dewis wythi, meini mwynion:
A thew res euraid ei thrysorion,
A'i manylaf ddymunolion—bethau
Deuai i'r golau ei dirgelion.
Olrheiniodd, chwiliodd yr uchelion,
Llwybrau'r taranau a'r terwynion
Fflamawg fellt llamawg, folltau llymion,
Is awyr ganaid a ser gwynion;
Nodai'r lloer a'i newidion;—hynt cwmwl
O fro y nifwl[18] i fôr Neifion.
Dau Doddaid eto.
Ebrwyddaf oedd o'r wybryddion,—hyglod,
A llwyr ryfeddod holl rifyddion!
Traethai, fe wyddai foddion—teyrnasoedd,
Rhoe o hen oesoedd wir hanesion.
Gwawdodyn Hir.
Honni a gafodd o hen gofion,
Achoedd dewr bobloedd o dŵr Bab'lon,
Coffa[19] bri ethol cyff y Brython,
Gomer a'i hil yn Gymry haelion.
Gwawdodyn Byr.
A thrin a thrabludd, lludd lluyddion
Prydain a'i filwyr, pryd nefolion;[22]
A'r lladdiad, gâd ergydion-a oryw,
A gwaed a distryw 'r giwdawd estron.
Huppynt Byr.
Ni chaid diwedd O'i hynawsedd a'i hanesion;
Ni chair hafal Wr a chystal ei orchestion.
Tawddgyrch Gyfochrog.
Llon wr gwraidd llawn rhagorau,
Mawrdda 'i ddoniau mor ddiddanion,
Dof arwraidd, difyr eiriau,
Meddaidd[23] enau, wiw 'mddiddanion.
Huppynt Hir.
Glyw defodau
Eisteddfodau,
A'u hanodau,[24]
A'u hynadon;
Eu cyngreiriau,
A'u cyweiriau,
A chadeiriau
Uwch awduron.
Cadwyn Fyr
Uwch awduron a chadeiriawg,
Bur iaith rywiawg bêr athrawon,
A chelfyddon uchel feiddiawg,
A'r beirdd enwawg, eirbêr ddynion.
Huppynt Hir yn nglŷn â Gorchest y Beirdd.
Ef oedd Ofydd[25]
A dywenydd,
Hylwybr ieithydd,
Hil y Brython;
Gan wau gwynwaith,
Tlysau tloswaith,
Orau araith
Aur wron.
Hir a Thoddaid.
Goleuodd wedi ei gywleiddiadon[26]
A gwir hyfforddiant geiriau hoff heirddion;
Cyrch a Chwtta.
Ar y sydd i'r oes hon
Yn fawrddysg Awen feirddion,
A gwiw les fryd i'w glwys fron,
Bryd arail i'w bro dirion,
Agos oll ynt, dêg weis llon
O ddysg abl, ei ddisgyblion;
A phoed maith goffhâd a mawl
I'w arglwyddawl ryglyddon.
Cyhydedd Naw Sillafog Chwe-ban.
A thra bo urddawl athro beirddion,
A mwyn dysg wiwles mewn dwys galon,
Gwiwdeb ar iaith, a gwaed y Brython,
Ac Awen Gwyndud, ac ewyn gwendon,[29]
Daear a nef a dŵr yn afon,
Ef a gaiff hoywaf wiw goffeion.
Cyhydedd Fer.
Aed, wâr enaid; aed, wr union;
Aed ragorwalch diwair, gwirion,
I fro Iesu fry a'i weision;[30]
I'w gain gaerau a gwen goron.
Cyhydedd Hir.
Gwawdodyn Byr.
Uned ganiad eneidiau gwynion,
Llem araith wrol llu merthyron,
Ni ludd gweli, ni ladd gâlon[34]—ei grym,
Nac ing croywlym, nac angeu creulon.
Dau Wawdodyn Hir.
Gwedi caledi, cyni, cwynion.
Artaith, erchyllwaith ac archollion,
Gwaed ffráu,[35] a ffrydiau dagrau digron,
A chûr marwol, a chriau mawrion,
Gwyarlliw[36] fraenfriw oer frwynfron,—nid mud
Mawl cain côr astud mil can Cristion.
Eiddunaf finau, Dduw Naf union,
Allu im' uno â'u llu mwynion,
Prydu[37] i geisio perwawd[38] gyson
I lwyswawd eirioes Lewis dirion,
Cywyddau, cu odlau cydlon,—ganu,
Lle myno Iesu—lleu Monwysion.
Yr awdl hon a gant GORONWY OWEN, Person Llanandreas, yn swydd Brunswic, yn Virginia, yn y Gogleddawl AMERICA; lle na chlybu, ac na lefarodd hauach ddeng air o Gymraeg, er ys gwell na deng mlynedd.Gorphenaf 20, 1767.
Nodiadau
golygu- ↑ [Penaeth.]
- ↑ [O'r gair cronni.]
- ↑ Virginia yn America, lle mae'r Awdwr yn drigianol, wedi colli y rhan fwyaf o'i deulu ar y môr wrth fordwyo yno o Lundain, yn y flwyddyn 1757.
- ↑ [Gwlad]
- ↑ [Forest.]
- ↑ [Hiliogaeth]
- ↑ [Dyddanwch.]
- ↑ Cyffelybai Homer einioes dyn i ddail.
- ↑ [Amheu.]
- ↑ [Gorddystawrwydd.]
- ↑ [Telmau—math o faglau.]
- ↑ Hyn, a rhan fawr o'r hyn a ganlyn, sy'n penodi at ryw ddamweiniau a ddigwyddasant iddo enyd cyn ei farw; ac nid rhaid i'w gydnabyddiaeth wrth nodau amgen na'u coffadwriaeth eu hunain i'w hegluro.
- ↑ [Ni adawodd.]
- ↑ Lluosog am llednais, mwyn, tyner, gweddaidd.
- ↑ Ffurf i'r gair counsells.
- ↑ Gwel y Mapiau cywraint o arfordiroedd Cymru a wnaeth ar orchymyn y brenin.
- ↑ Sef pan oedd olygwr ar fwngloddiau'r brenin yn Esgair y Mwyn, yn Ngheredigion.
- ↑ Bro'r nifwl, neu fro'r tarth, yw yr hyn a eilw y philosophyddion Saesonig atmosphere.
- ↑ Efe a ysgrifenodd dwysgen ar y testyn hwnw; ond pa un ei bod dim o'r gwaith yn argraphedig, nis gwn.
- ↑ Areulbarth, sef y Dwyrain, neu godiad haul.
- ↑ Enw yr ynys cyn dyfodiad Prydain, oedd ynys Albion, hwnw a'i frawd Bergion a hanoeddynt (fe allai) o lin y Titaniaid neu Celta, cynfrodorion Ffrainc o Phrydain, a meibion oeddynt i Neptun, medd Pompenius, Mela, ac eraill awduron Rhufeinig; sof lyngesyddion dewrion, nc agatfydd mor-wylliaid dilesg; yn gymaint ag mai daw'r moroedd oedd Neptun, a'u gorchfygu eill dan a wnaed, medd yr un Awduron, gan ryw Erewlff (nen Hercules) nis gwyddis pa'r an, gan fod amryw o naddunt; of a allai mai pen lloyddwr Brewlff oedd Prydain, a gorchfygu o hono Albion Gawr, a goresgyn el ynys a'i galw with ei enw ei hun, YNYS PRYDAIN; fel na Li YNYS ALBION o'r blaen; ond coelled pawb y clawedl a fyno,
- ↑ Efallai y tybir hyn yn rhy eofn i'w dywedyd am ddyn daearol, er ei laned, eithr araith gynefin gan Homer tad yr awen oedd, Dæmonios, &c., a'r cyfryw; y rhai ydynt o'r un ystyr a phryd nefolion, ac y mae llyfr y Trioedd yn son am un a elwid Sanddef bryd Angel, oherwydd ei lendid.
- ↑ Meddaidd, hyny yw peraidd; o'r gair medd y daw.
- ↑ ['Haniadau.]
- ↑ Ofydd, sef yw hwnnw, P, Ofidius Naso, un o brydyddion godidocaf Rhufain.
- ↑ [Ei-gydwladwyr.]
- ↑ Miscuit utile dulci, &c., Hor. Nodwch yma nad yw'r gair 'maswedd," yn ei briod a'i gynefin ystyr, ddim yn arwyddocau serthedd neu fryntni; ond yn unig rhywbeth ysgafn, digrif, nwyfus, yn wrthwyneb i bethau dwysion pwysfawr."
- ↑ Mae'r awdwr, gyd â phob dyledus barch i goffadwriaeth Mr. Lewys Morys, yn tra diolchgar gydnabod, mai iddo ef y mae 'n rhwymedig am yr ychydig wybodaeth ym marddoniaeth Gymraeg a ddaeth i'w ran; ac yn ffyddlon gredu—nid er gwaith nac er gogan i neb—y gall y rhan fwyaf o feirdd Cymru, ar a haeddant yr enw, gyfaddef yr un peth. Ac er nad yw les yn y byd i'r Awdwr mewn dieithr wlad dramor, lle nas deall yn oed ei blant ei hun air o'r iaith Gymraeg, eto mae 'n ddywenydd ganddo goffhau iaith ei fam a'i wlad gynhenid yn ei hir alltudedd; a gresyn ganddo na bai lle y gallai wneuthur mwy o les a pharch i'w iaith a'i wlad;—ond a fynno Duw a fydd.
- ↑ In freta dum fluvii current, &c.-VIRG
- ↑ Cyffelybrwydd i gân y pedwar anifail, DAT. iv. 8., a arferent yn yr eglwys filwraidd ar y ddaear ym mhob oes, ac a hyderus obeithient gael yno a chôr saint bendigedig i'w chanu yn y nef yn oes oesoedd
- ↑ Arferol ym mhob ia'th yw rhoi rhif crwn, cyfan, yn lle rhif anwahanrhedol, megis cant yn lle bagad, mil yn lle lliaws mawr, a'r cyffelyb, pan fynid arwyddocau llawer, ond na wys pa nifer.
- ↑ "Un o enwau Duw yn Hebraeg, yn ateb yn union i'r gair Groeg Pantokrátor yn Datguddiad iv. 8 (cymhared Esay vi. 3), a Hollalluog neu Hollddigonol a arwyddocâ. Cof yw gennyf mewn rhyw ymddiddan â Mr. Lewis Morris y mynnai ef mai Cymraeg oedd ELL SADAI, sef A ALL SYDD DDA; ac yn wir nis gwn pa sut well y gellid ei gyfieithu."
- ↑ "Nid wyf yn tybied y ceir mo'r gair 'musig' yn nemawr o'r geirlyfrau Cymraeg; eithr nid wyf yn amau nad oedd yn arferedig yn yr iaith er yn amser y Rhufeiniaid. Pa ddelw bynnag, fe ei harferodd Lewys Morgannwg, er ys gwell na deucan mlynedd, yn ei awdl wrth Leision, abad Glyn nedd,—Arithmetic, music, grymusion
- ↑ [Lluosog am golyn].
- ↑ Gwaedlif.
- ↑ Lliw gwaed
- ↑ Prydyddu.
- ↑ [ Sweet praise.]