Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Marwnad i John Owen
← Englyn i John Dean | Barddoniaeth Goronwy Owen gan Goronwy Owen golygwyd gan Isaac Foulkes |
Cywydd i ofyn Ffrancod → |
MARWNAD
I'r elusengar a'r anhebgor wrda, Mr. JOHN OWEN, o'r
Plas yng Ngheidio, yn Lleyn, 1754.
[Gwel LLYTHYRAU, tudal. 77.]
1. Unodl union.
GWAE Nefyn, gwae Leyn gul wedd!—Gwae Geidio,
Gwae i giwdawd[1] Gwynedd!
Gwae oer farw gwr o fawredd!
Llwyr wae ac y mae ym medd!
2. Proest Cyfnewidiog.
Achwyn mawr, och in' y modd!
Nid ael sech, ond wylo sydd;
Gwayw yw i bawb gau y bedd
Ar Sion Owen, berchen budd.
3. Proest Cadwynog.
Cadd ei wraig bêr drymder draw,
Am ei gwaraidd, lariaidd lyw;
A'i blant hefyd frwynfryd[2] fraw;
Odid un fath dad yn fyw.
4. Unodl Grwcca.
Mawr gwynaw y mae'r gweinion,
"Gwae oll y sut golli Sion."
Ni bu rwyddach neb o'i roddion,—diwg,
Diledwg i dlodion.
5. Unodl Gyrch.
Llyw gwaraidd llaw egored,
Rhwydd a gwiw y rhoddai ged;
Mwynwych oedd (y mae'n chwith!)
Digyrith da ei giried.[3]
6. Cywydd Deuair hirion.
Gwrda na phrisiai gardawd,
Ond o les a wnai i dlawd.
7. Cywydd Deuair byrion—8. Awdl Gywydd—
9. Cywydd Llosgyrnawg.—a 10.Toddaid ynghyd.
Ni bu neb wr,
Rhwyddach rhoddwr:
A mawr iawn saeth ym mron Sion,
Cri a chwynion croch wanwr.
Llawer teulu (llwyr eu toliant,
A'u gwall !) eusus a gollasant,
Sin[4] addiant Sion i'w noddi.
Bu ŷd i'w plith, a bwyd i'w plant,—eu rhaid
Hyd oni ailgaid yn y weilgi.[5]
11. Gwawdodyn Byr.
Sion o burchwant (os un) a berchid,
Synwyr goreu, Sion wâr a gerid,
Sion a felus iawn folid:—pan hunodd
Sion Owen gufodd, syn yw'n gofid.
12. Gwawdodyn Hir.
Chychwi y gweiniaid, och eich geni!
A marw'ch triniwr, mawr yw'ch trueni!
Pwy rydd luniaeth, pa rodd yleni
Yn ail i Sion, iawn eleuseni?
Oer boed achos i'r byd ochi,—nis daw,
Er gofidiaw awr i gyfodi.
13. Byr a Thoddaid.
Ar hyd ei fywyd o'i fodd,—iawn haelwas,
Yn helaeth y rhanodd,
A'i Dduw eilwaith a addolodd,
Wiw ban dethol, a'i bendithiodd.
Diwall oedd, a da y llwyddodd,
Am elw ciried[6] mil a'i carodd;
Hap llesol, pwy a'i llysodd?[7]—Duw un—tri,
Ei Geli, a'i galwodd.
14. Hira Thoddaid.
Wiwddyn cariadus, i Dduw Ion credodd,
Hoff oedd i'w Geidwad, a'i ffydd a gadwodd;
A'i orchymyn, i wyraw o chwimiodd,[8]
Da fu y rheol, edifarhaodd.
Ym marwolaeth, e 'moralwodd[9] â'i Ner,
A Duw, oreu Byw-ner, a'i derbyniodd.
15. Hupynt Byr.
Os tra pherchid
O mawr eurid
am arwredd,
Deufwy cerid
Mwy yr enwid
am ei rinwedd
16. Hupynt Hir.
Am ei roddion,
Hoyw wr cyfion,
A'i 'madroddion,
hir y cofier:
Ei blant grasol,
Gan Dduw nefol,
Fwyn had ethol,
a fendithier.
17. Cyhydedd Fêr.
Cu hil hynaws, cael o honynt,
Duw'n dedwyddwch, Di'n Dad iddynt;
Yn ymddifaid na 'moddefynt
Gyrchau trawsder; gwarchod trostynt.
18. Cyhydedd hir.
I'w gain fain, fwynhael, briod, hyglod hael,
Duw tirionhael, dod Ti hir einioes;
Rhad ddifrad ddwyfron, amledd hedd i hon
I hwylio'i phurion hil hoff eirioes.
19. Cyhydedd Nawban.
Am a wna Wiliam[10] mwy na wyled,
Diwyd haelioni ei dad dilyned;
A digas eiriau da gysured
Och a mawrgwyn ei chwaer Marged.
20. Clogyrnach.
Os rhai geirwyr sy wŷr gorau,
I fyd saint e fudes yntau;
Draw, ddifraw ddwyfron,
I fâd lwysgad lon
Angylion yn ngolau.
21. Cyrch a Chwta.
Yn wych byth, ddinych y bo,
Yn iach wiwddyn, och iddo!
Mae hi'n drist am hyn o dro,
Wir odiaeth wr, ei ado:
Ni wiw i ddyn waeddi, O!
Och! wâr Owen ! a chrio,
Dal yn ei waith, dilyn ef
I'r wiwnef, fe'i ceir yno.
22. Gorchest y Beirdd.
Nid oes, Ion Dad,
Na'n hoes, na'n had,
Na moes, na mâd,
na maws mwyn;
Dy hedd, Duw hael,
Main fedd, mae'n fael,
A gwedd ei gael,
e gudd gŵyn.
23. Cadwyn Fyr.
Yn iach, wrol oen awch araf,
I'r hygaraf wr rhagorol;
Ef i'w faenol a fu fwynaf,
Un diddanaf, enaid ddoniol.
24. Tawddgyrch Cadwynog, o'r hen ddull gywraint,
fel y canai'r hen Feirdd; ac ynddo mae godidowg
rwydd gorchestwaith, a chadwyn ddidor trwyddo.
Arall o'r ddull newydd drwsgl, ar y groes gynghanedd,
heb nemawr o gadwyn ynddo, ac nid yw'r fath yma
amgen na rhyw fath ar gadwyn fyr gyfochr, a
hupynt hir ynglyn a'u gilydd.
Doluriasant, dwl oer eisiau
Ei rinweddau, wr iawn noddol,
Llai eu ffyniant oll i'w ffiniau
Heb ei radau, bu waredol:
Cofiwn ninau ddilyn llwybrau
Ei dda foddau, oedd wiw fuddiol:
Cawn, fal yntau, i'n heneidiau
Unrhyw gaerau, Oen rhagorol.