gan Dafydd ap Gwilym

Ni chwsg bun gyda’i hunben,
Ni chaiff arall wall ar wen.
Ni chwsg yn amgylch ei chaer,
Ni warcheidw fy niweirchwaer.
Ni mynnai lai, ni wnâi les,
No chwephunt er ei chyffes.
Minnau, da y gwyddwn fasnach,
A roddwn bunt I’r ddyn bach,
Ond na rown bunt ar untu
I’m dyn drwyadl geinddadl gu.
Chweugain, o châi feichiogi,
I’r ddyn aur a roddwn i,
A’r chweugain ar oed chwegwaith
A roddwn, deuwn I’r daith.


Ar chweugain mirain eu maint
Y trigwn, a rhoi trigaint.
O’r trigaint hy,ni fyn fi,
Digon oedd deugain iddi
A hefyd, freuddwyd fryd fraint,
O dygai gwbl o’m deugaint,
Gormodd yw gwerth dyn girth gain
Aros agos I ugain.
Deuddeg ceiniog dan ddormach,
Neu with dan bwyth i’m dyn bach.
Chew cheiniog yw’r llog yn llaw,
Pedair a rown rhag peidiaw.
O bedair i dair dirwy,
Ac o dair ydd air i ddwy.
Och am arian yn echwyn,
Ceiniog y caid Penaid fwyn.


Ni allaf, ond f’ewyllys,
Arian i wen ar ben bys.
O mynny, nef i’m enaid,
Y corf, dros y corfi y’I caid,
A llw gwas dan ddail glasberth
Nad hagr, gwen, ond teg yw’r gwer
Oerfel iddo os myfy,
Oni fyn hyn, fy nyn hy,
Nid er a ddlyai’r forwyn,
A ry mwy fyth er ei mwyn.
Amser arall pan allwyf
Mewn oedd dydd dyn ufudd wyf.