Llithiadur Beibl (1588)
Genesis
Genesis

wedi'i gyfieithu gan William Morgan
Exodus

Llyfr cyntaf Moses yr
hwn a elwir Genesis

PENNOD I

Creadwriaeth y nêf, a’r ddaiar, 2 Y goleuni a’r cywyllwch, 8 Y ffurfafen, 16 Y pysc, yr adar, a’r anifeiliaid, 26 A dyn. 29. Llynniaeth dyn ac anifail.

Yn y dechreuad y creawdd Duw y nefoedd a’r ddaiar.

2 Y ddaiar oedd afluniaidd, a gwâg, a thywyllwch [ydoedd] ar wyneb y dyfnder, ac yspryd Duw yn ymsymmud ar wyneb y dyfroedd.

3 Yna Duw a ddywedodd, bydded goleuni, a goleuni a fû.

4 Yna Duw a welodd y goleuni mai dâ [oedd,] a Duw a wahanodd rhwng y goleuni a’r tywyllwch.

5 A Duw a alwodd y goleuni yn ddydd, a’r tywyllwch a alwodd efe yn nôs: a’r hwyr a fû, a’r borau a fû, y dydd cyntaf.

6 Duw hefyd a ddywedodd bydded ffurfafen yng-hanol y dyfroedd, a bydded hi yn gwahanu rhwng y dyfroedd a dyfroedd.

7 Yna Duw a wnaeth y ffurfafen, ac a wahanodd rhwng y dyfroedd y rhai [oeddynt] oddi tann y ffurfafen, a’r dyfroedd y rhai [oeddynt] oddi ar y ffurfafen: ac felly y bu.

8 A’r ffurfafen a alwodd Duw yn nefoedd: felly yr hwyr a fû, a’r borau a fû, ’r ail ddydd.

9 Duw hefyd a ddywedodd, cascler y dyfroedd oddi tann y nefoedd i’r un lle, ac ymddangosed y sych-dîr: ac felly y bû.

10 A’r sych-dîr a alwodd Duw yn ddaiar, chascliad y dyfroedd, a alwodd efe yn foroedd: a Duw a welodd mai dâ oedd.

11 A Duw a ddywedodd egined y ddaiar egin [sef] llyssiau yn hadu hâd, a phrennau ffrwyth-lawn yn dwyn ffrwyth, wrth eu rhywogaeth, y rhai [y mae] eu hâd ynddynt ar y ddaiar: ac felly y bû.

12 A’r ddaiar a ddûg egin [sef] llyssiau yn hadu hâd wrth eu rhywogaeth, a phrennau yn dwyn ffrwyth y rhai [y mae] eu hâd ynddynt wrth eu rhywogaeth: a Duw a welodd mai da oedd.

13 Felly yr hwyr a fu, a’r borau a fu, y trydydd dydd.

14 Duw hefyd a ddywedodd, bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd i wahanu rhwng y dydd a’r nos; a byddant yn arwyddion, ac yn dymmorau, ac yn ddyddiau, a blynyddoedd.

15 A byddant yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i oleuo ar y ddaiar: ac felly y bu.

16 Oblegit Duw a wnaeth ddau oleuad mawrion; y goleuad mwyaf i lywodraethu y dydd, a’r goleuad lleiaf i lywodraethu y nôs: a’r sêr [hefyd.]

17 Ac yn ffurfafen y nefoedd y rhoddes Duw hwynt, i oleuo ar y ddaiar:

18 Ac i lywodraethu y dydd a’r nôs, ac i wahanu rhwng y goleuni a’r tywyllwch: a gwelodd Duw mai dâ oedd.

19 Felly yr hwyr a fu, a’r borau a fu, y pedwerydd dydd.

20 Duw hefyd a ddywedodd, heigied y dyfroedd ymlusciaid byw, ac eheded ehediaid ar y ddaiar, ac wyneb ffurfafen y nefoedd.

21 A Duw a greawdd y mor-feirch mawrion, a phôb ymlusciad byw y rhai a heigiodd y dyfroedd yn eu rhywogaeth, a phôb ehediad ascellog yn ei rywogaeth: a gwelodd Duw mai dâ oedd.

22 Yna Duw ai bendigodd hwynt, gan ddywedyd: ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwwch y dyfroedd yn y moroedd, a lluosoged yr ehediaid ar y ddaiar.

23 A’r hwyr a fû, a’r borau a fû, y pummed dydd.

24 Duw hefyd a ddywedodd, dyged y ddaiar ar [bôb] peth byw wrth ei rywogaeth, yr anifail, a’r ymlusciad, a bwyst-fil y ddaiar wrth ei rywogaeth: ac felly y bu.

25 Felly y gwnaeth Duw fwyst-fil y ddaiar, wrth ei rywogaeth, a’r anifail wrth ei rywogaeth, a phôb ymlusciad y ddaiar wrth ei rywogaeth: a gwelodd Duw mai dâ oedd.

26 Duw hefyd a ddywedodd gwnawn ddŷn ar ein delw ni, wrth ein llûn ein hunain, ac arglwyddiaethant ar bŷsg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar yr anifail, ac ar yr holl ddaiar, ac ar bôb ymlusciad yr hwn a ymlusco ar y ddaiar.

27 Felly Duw a greawdd y dŷn ar ei lûn ei hun, ar lûn Duw y creawdd efe ef: yn wryw, ac yn fenyw y creawdd efe hwynt.

28 Duw hefyd ai bendigodd hwynt, a Duw a ddywedodd wrthynt, ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwwch y ddaiar, a darostyngwch hi; ac arglwyddiaethwch ar bysc y môr, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar bôb bwyst-fil yr hwn a symmudo ar y ddaiar.

29 A Duw a ddywedodd wele mi a roddais i chwi bôb llyssieun yn hadu hâd yr hwn [sydd] ar wyneb yr holl ddaiar: a phôb prenn yr hwn [y mae] ynddo ffrwyth prenn yn hadu hâd, a fydd yn fwyd i chwi.

30 Hefyd i bôb bwyst-fil y ddaiar, ac i bôb ehediad y nefoedd, ac i bôb [peth] a symmudo ar y ddaiar, yr hwn [y mae] enioes ynddo, [y bydd] pob llyssieun gwyrdd yn fwyd: ac felly y bû.

31 A gwelodd Duw yr hyn oll a’r a wnaethe, ac wele da iawn ydoedd: felly, yr hwyr a fû, a’r borau a fu, y chweched dydd.

PEN. II.

Duw yn peidio oddi wrth ei wait ar seithfed dydd yr hwn a gyssegrir. 15 Duw yn gosod dyn yn yr ardd. 22 Creadwriaeth gwraig 24 ordinhad priodas.

1 Felly y gorphennwyd y nefoedd a’r ddaiar, ai holl lu hwynt.

2 Ac ar y seithfed dydd y gorphennodd Duw ei waith yr hwn a wnaethe efe, ac a orphwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith, yr hwn a wnaethe efe.

3 A Duw a fendigodd y seithfedd dydd, ac ai sancteiddiodd ef: o blegit ynddo y gorphywysase oddi wrth ei holl waith, yr hwn a grease Duw iw wneuthur.

4 Dymma genhedlaethau y nefoedd, a’r ddaiar, pan greuwyd hwynt, yn y dydd y gwnaeth yr Arglwydd Dduw ddaiar a nefoedd:

5 Aphôb planhigin y maes cyn ei fôd yn y ddaiar; a phôb llyssieun y maes cyn tarddu allan: o blegit ni pharase yr Arglwyd Dduw lawio ar y ddaiar, ac nid [ydoedd] dŷn i lafurio y ddaiar.

6 Onid tarth a escynnodd o’r ddaiar, ac a ddyfrhaodd holl wyneb y ddaiar.

7 A’r Arglwydd Dduw a luniase y dŷn o bridd y daiar, ac a anadlase yn ei ffroenau ef anadl einioes: felly yr aeth y dŷn yn enaid byw.

8 Hefyd yr Arglwydd Dduw a blannodd ardd yn Eden, o’ du y dwyrain, ac a osododd yno y dŷn a luniasai efe.

9 A gwnaeth yr Arglwydd Dduw, i bôb prenn dymunol i’r golwg, a daionus yn fwyd, ac i brenn y bywyd yng-hanol yr ardd, ac i brenn gwybodaeth dâ a drwg, dyfu allan o’r ddaiar.

10 Ac afon a aeth allan o Eden i ddyfrhâu yr ardd, ac oddi yno hi a rannwyd, ac a aeth yn bedwar pen.

11 Henw y cyntaf [yw] Pison, yr hon sydd yn amgylchu holl wlâd Hafila lle [y mae] yr aur:

12 Ac aur y wlâd honno sydd dda: yno [y mae] Bdeliwm a’r maen Onix.

13 A henw yr ail afon [yw] Gihon: honno sydd yn amgylchu holl wlad Ethiop.

14 A henw y drydedd afon [yw] Hidecel: honno sydd yn myned o du yr dwyrain i Assyria: a’r bedwaredd afon yw Euphrates.

15 A’r Arglwydd Dduw a gymmerodd y dŷn, ac ai gosododd ef yng-ardd Eden, iw llafurio ac iw chadw hi.

16 A’r Arglwydd Dduw a orchymynnodd i’r dŷn, gan ddywedyd: o holl brennau yr ardd gan fwytta y bwyttei.

17 Ond o brenn gwybodaeth dâ a drŵg, na fwytta o honaw; oblegit yn y dydd y bwyteich ti o honaw, gan farw y byddi farw.

18 Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedase, nit dâ fod y dŷn ei hunan, gwnaf ymgeledd cymmwys iddo.

19 A’r Arglwydd Dduw a luniodd o’r ddaiar holl fwyst-filod y maes, a holl ehediaid y nefoedd, ac ai dygodd at y dyn i weled pa henw a rodde efe iddynt hwy: a pha fodd bynnac yr henwodd y dŷn bôb peth byw, hynny [fu] ei henw ef.

20 Y dŷn yntef a henwodd henwau ar yr holl anifeiliad ac ar [holl] ehediaid y nefoedd, ac ar holl fwyst-filod y maes: ond ni chafodd efe i Adda ymgeledd cymmwys iddo.

21 Yr Arglwydd Dduw am hynny a wnaeth i drym-gwsc syrthio ar y dŷn, fel y cyscodd, ac efe a gymmerodd un oi assennau ef, ac a gaeodd gig yn ei lle hi.

22 A’r Arglwydd Dduw a wnaeth yr assen yr hon a gymmerase efe o’r dŷn, yn wraig, ac ai dug at y dŷn.

23 A’r dŷn a ddywedodd, hon weithian [sydd] ascwrn o’m hescyrn i, a chnawd o’m cnawd i: hon a elwir gwraig, o blegit o ŵr y cymmerwyd hi.

24 O herwydd hyn yr ymedy gŵr ai dâd, ac ai fam, ac y glŷn wrth ei wraig, ac hwy a fyddant yn un cnawd.

25 Ac yr oeddynt ill dau yn noethion, Adda ai wraig: ac nid oedd arnynt gywilydd.

PEN. III.

1. Y sarph yn hudo y wraig. 6 hithe yn denu ei gwr i bechu. 8 y gwr a’r wraig yn ymguddio rhag Duw. 14 Cospedigaeth ar bob un o’r tri. 15 Addewid o Grist. 19 Bod dyn yn bridd. 22 Bwriad dyn allan o baradwys.

A’r sarph oedd gyfrwysach na holl fwystfilod y maes, y rhai a wnaethe yr Arglwydd Dduw, a hi a ddywedodd wrth y wraig, ai diau ddywedyd o Dduw na chaech chwi fwytta o holl brennau ’r ardd?

2 A’r wraig a ddywedodd wrth y sarph, O ffrwyth prennau’r ardd y cawn ni fwytta:

3 Ond am ffrwyth y prenn [sydd] yng-hanol yr ardd, Duw a ddywedodd, na fwyttewch o honaw, ac na chyffyrddwch ag ef, rhac eich marw.

4 Yna y sarph a ddywedodd wrth y wraig: ni byddwch feirw ddim.

5 Canys gwybod y mae Duw, mai yn y dydd y bwyttaoch chwi, ohonaw ef, yr agorir eich llygaid, ac y byddwch megis duwiau yn gwybod dâ a drwg.

6 Pan welodd y wraig mai dâ oedd [ffrwyth] y prenn yn fwyd, ac mai têg mewn golwg ydoedd, ai fod yn brenn dymunol i beri deall, yna hi a gymmerth oi ffrwyth ef, ac a fwyttaodd, ac a roddes iw gŵr hefyd gyda a hi, ac efe a fwyttaodd.

7 Yna eu llygaid hwynt ill dau a agorwyd, a gwybuant mai noethion [oeddynt] hwy, a gwnîasant ddail y ffigus-bren, a gwnaethant arffedogau iddynt.

8 Pan glywsant lais yr Arglwydd Dduw yn rhodio yn yr ardd, gyd ag awel y dydd, yna yr ymguddiodd Adda ai wraig o olwg yr Arglwydd Dduw, ym mysc prennau’r ardd.

9 A’r Arglwydd Dduw a alwodd ar y dŷn, ac a ddywedodd wrtho, pa le [yr ydwyt] ti?

10 Yntef a ddywedodd, dy lais a glywais yn yr ardd; ac mi a ofnais, oblegit noeth [oeddwn] i am hynny yr ymguddiais.

11 Yna y dywedodd [Duw:] pwy a fynegodd i ti mai noeth [oeddyt] ti? ai o’r prenn yr hwn y gorchymynnaswn i ti na fwytteit o honaw, y bwyteaist?

12 Ac Adda a ddywedodd: y wraig yr hon a roddaist gyd â mi, hi a roddodd i mi o’r prenn, a mi a fwytteais.

13 Yr Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y wraig, pa ham y gwnaethost ti hyn? a’r wraig a ddywedodd: y sarph a’m twyllodd, a bwytta a wneuthum.

14 Yna yr Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y sarph: am wneuthur ohonot hyn, melldigediccach [wyt] ti na’r holl anifeiliaid, ac na holl fwyst-filod y maes: ar dy dorr y cerddi, a phridd a fwyttei holl ddyddiau dy enioes.

15 Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy hâd ti, ai hâd hithe; efe a yssiga dy benn di, a thithe a yssigi ei sodl ef.

16 Wrth y wraig y dywedodd, gan amlhau yr amlhaf dy boenau di a’th feichiogi: mewn poen y dygi blant, a’th ddymuniad [fydd] at dy ŵr, ac efe a feistrola arnat ti.

17 Hefyd wrth Adda y dywedodd, am wrando o honot ar lais dy wraig, a bwytta o’r prenn am yr hwn y gorchymynnaswn i ti, gan ddywedyd, na fwytta o honaw; melldigedic [fydd] y ddaiar o’th achos di, a thrwy lafur y bwyttei o honi holl ddyddiau dy enioes.

18 Drain hefyd ac ysgall a ddŵg hi i ti; a llyssiau y maes, a fwyttei di.

19 Trwy chwŷs dy wyneb y bwyttei fara, hyd pan ddychwelech i’r ddaiar; o blegit o honi i’th gymmerwyt: canys pridd [wyt] ti, ac i’r pridd y dychweli.

20 A’r dŷn a alwodd enw ei wraig Efa: o blegit hi oedd fam pob [dŷn] byw.

21 A’r Arglwydd Dduw a wnaeth i Adda ac iw wraig ef beisiau crwyn, ac ai gwiscodd am danynt.

22 Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedodd, wele y dŷn sydd megis un o honom ni yn gwybod dâ a drwg, weithian gan hynny, [edrychwn] rhac iddo estyn ei law, a chymmeryd hefyd o brenn y bywyd, a bwytta, a byw yn dragwyddol:

23 Am hynny yr Arglwydd Dduw ai hanfonodd ef allan o ardd Eden, i lafurio y ddaiar, yr hon y cymmerasyd ef o honi.

24 Felly efe a yrrodd allan y dŷn, ac a osododd o’r tu dwyrain i ardd Eden y Cerubiaid, a llafn y cleddyf yscwydedic, i gadw ffordd prenn y bywyd.

PEN. IIII.

<1 Ganedigaeth Cain ac Abel. 3 Ai hoffrwm. 8 Lladdiad Abel. 11 Cospedigaeth Cain. 13 Ai annobaith. 17 Hiliogaeth Cain. 23 Cyssur Lamech. 25 Ganedigaeth Seth, ac adnewyddiad gwir grefydd.

Wedi hyn, Adda a adnabu Efa ei wraig, a hi a feichiogodd, ac a escorodd ar Gain, ac a ddywedodd: cefais ŵr gan yr Arglwydd.

2 A hi a escorodd eil-waith ar ei frawd ef Abel; ac Abel oedd fugail defaid, ond Cain oedd yn llafurio y ddaiar.

3 A bu, wedi talm o ddyddiau, i Gain ddwyn o ffrwyth y ddaiar offrwm i’r Arglwydd.

4 Ac Abel yntau a ddûg o flaen-ffrwyth ei ddefaid ef, ac ei braster hwynt: a’r Arglwydd a edrychodd ar Abel, ac ar ei offrwm.

5 Ond nid edrychodd efe ar Gain, nac ar ei offrwm ef, am hynny y dicllonodd Cain yn ddirfawr fel y syrthiodd ei wyneb-pryd ef.

6 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Cain, pa ham y llidiaist? a pha ham y syrthiodd dy wyneb-pryd?

7 Os yn ddâ y gwnei, oni chei oruchafiaeth? ac oni wnei yn ddâ, pechod a orwedd wrth y drws: attat ti hefyd [y mae] ei ddymuniad ef, a thi a feistroli arno ef.

8 Yna Cain a ddywedodd wrth Abel ei frawd: ac fel yr oeddynt hwy yn y maes, Cain a gododd yn erbyn Abel ei frawd, ac ai lladdodd ef.

9 Yna yr Arglwydd a ddywedodd wrth Gain, mae Abel dy frawd ti? yntef a ddywedodd, ni’s gwnn; ai ceidwad fy mrawd [ydwyf] fi?

10 Yna y dywedodd [Duw,] beth a wnaethost, llef gwaed dy frawd sydd yn gweiddi arnaf fi o’r ddaiar.

11 Ac yr awrhon melldigedig wyt ti o’r ddaiar, yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o’th law.

12 Pan lafuriech y ddaiar ni chwanega hi roddi ei ffrwyth it, gwibiad, a chyrwydrad fyddi ar y ddaiar.

13 Yna y dywedodd Cain wrth yr Arglwydd mwy [yw] fy anwiredd nac y maddeuir ef.

14 Wele gyrraist fi heddyw oddi ar wyneb y ddaiar, ac o’th ŵydd di y’m cuddîr: gwibiad hefyd a chyrwydrad fyddaf ar y ddaiar [a] phwy bynnac a’m caffo a’m lladd.

15 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrtho, am hynny y dielir yn saith ddyblyg [ar] bwy bynnac a laddo Gain, a’r Arglwydd a osododd nôd ar Gain, rhac i neb a’r ai caffe ei ladd.

16 Yna Cain aeth allan o ŵydd yr Arglwydd, ac a drigodd yn nhîr Nod, o’r tu dwyrain i Eden.

17 Cain hefyd a adnabu ei wraig; a hi a feichiogodd, ac a escorodd ar Henoch: yna’r ydoedd efe yn adeiladu dinas, ac efe a alwodd henw y ddinas yn ol henw ei fâb ef Henoch.

18 Ac i Henoch y ganwyd Irad: ac Irad a genhedlodd Mehuiael, a Mehuiael a genhedlodd Methusael, a Methusael a genhedlodd Lamech.

19 A Lamech a gymmerodd iddo ddwy wragedd: henw y gyntaf [oedd] Ada, a henw’r ail Sila.

20 Ac Ada a escorodd ar Iabel; hwn ydoedd dâd [pob] presswylydd pabell, a [pherchen] anifail.

21 A henw ei frawd ef oedd Iubal; ac efe oedd dâd pob teimlydd telyn ac organ.

22 Sila hithe a escorodd ar Thubalcain, gweithydd pob celfydd-waith prês a haiarn: a chwaer Thubalcain [ydoedd] Noema.

23 A Lamech a ddywedodd wrth ei wragedd, Ada a Sila, gwragedd Lamech clywch fy llais, gwrandewch fy lleferydd, canys mi a leddais ŵr i’m harcholl, a llangc i’m clais.

24 Os Cain a ddielir seith-waith yna Lamech saith ddeng-waith a seith-waith.

25 Ac Adda a adnabu ei wraig trachefn; a hi a escorodd ar fab, ac hi a alwodd ei enw ef Seth: o herwydd Duw [eb hi] a osododd i mi hâd arall, yn lle Abel, am ladd o Gain ef.

26 I’r Seth hwn hefyd y ganwyd mâb; ac efe a alwodd ei enw ef Enos: yna y decreuwyd galw ar enw’r Arglwydd.

PEN. V.

Hanes Adda. 6 Ai hiliogaeth hyd ddwfr diluw.

Dyma lyfr cenhedlaethau Adda, yn y dydd y creawdd Duw ddŷn: a’r lûn Duw y gwnaeth efe ef.

2 Yn wryw, ac yn fanyw y creawdd efe hwynt: ac ai bendithiodd hwynt, ac a alwodd eu henw hwynt dŷn ar y dydd y creuwyd hwynt.

3 Ac Adda a fu fyw ddeng-mhlynedd ar hugain a chant, ac a genhedlodd [fâb] ar ei lun, ai ddelw ei hun, ac a alwodd ei enw ef Seth.

4 A dyddiau Adda wedi iddo genhedlu Seth oeddynt wyth gan mlhynedd, ac efe a genhedlodd feibion a merched.

5 Felly holl ddyddiau Adda y rhai y bu efe fyw, oeddynt naw can mlhynedd a deng-mlhynedd ar hugain, ac efe a fu farw.

6 Seth hefyd a fu fyw bum-mhlynedd, a chan mhlynedd, ac a genhedlodd Enos.

7 A Seth a fu fyw wedi iddo genhedlu Enos saith mlynedd ac wyth gan mlhynedd, ac a genhedloed feibion a merched.

8 Felly holl ddyddiau Seth oeddynt ddeu-ddeng mhlynedd, a naw-can mhlynedd, ac efe a fu farw.

9 Ac Enos a fu fyw, ddeng mlhynedd a phedwar ugain, ac a genhedlodd Cenan.

10 Ac Enos a fu fyw wedi iddo genhedlu Cenan bymtheng mlhynedd ac wyth gan mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

11 Felly holl ddyddiau Enos oeddynt bum mlhynedd, a naw-can mlhynedd, ac efe a fu farw.

12 Cenan hefyd a fu fyw ddeng mlhynedd a thrugain, ac a genhedlodd Mahalaleel.

13 A bu Cenan fyw wedi iddo genhedlu Mahalaleel ddeugain mlhynedd, ac wyth gan mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

14 Felly holl ddyddiau Cenan oeddynt ddeng mlhynedd, a naw can mlhynedd; ac efe a fu farw.

15 A Mahalaleel a fu fyw bum mlhynedd, a thrugain mlhynedd, ac a genhedlodd Iered.

16 A Mahalaleel a fu fyw, wedi iddo genhedlu Iered, ddeng mlhynedd ar hugain ac wyth gan mlhynedd, ac a genhedlodd feibion, a merched.

17 Felly holl ddyddiau Mahalaleel oeddynt, bymtheng mlhynedd, a phedwar ugain ac wyth gan mlhynedd; ac efe a fu farw.

18 Ac Iered a fu fyw ddwy flynedd a thrûgain, a chan mlhynedd ac a genhedlodd Henoc.

19 Yna Iered a fu fyw wedi iddo genhedlu Henoch wyth gan-mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

20 Felly holl ddyddiau Iered oeddynt ddwy flynedd, a thrugain, a naw can mlhynedd, ac efe a fu farw.

21 Henoc hefyd a fu fyw bum mlhynedd a thrugain, ac a genhedlodd Methuselah.

22 A Henoc, a rodiodd gyd a Duw wedi iddo genhedlu Methuselah, dry-chant o flynyddoedd, ac a genhedlodd feibion, a merched.

23 Felly holl ddyddiau Henoc oedd bum mlhynedd a thrugain a thrychant o flynyddoedd.

24 Ie rhodiodd Henoc gyd a Duw, ac ni [welwyd] efe: canys Duw ai cymmerase ef.

25 Methuselah hefyd a fu fyw saith mlynedd a phedwar ugain, a chant, ac a genhedlodd Lamec.

26 Methwsela a fu fyw wedi iddo genhedlu Lamec, dwy flyneddd, a phedwar ugain, a saith gan mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

27 Felly holl ddyddiau Methuselah oeddynt, naw mlynedd a thrugain, a naw can mlhynedd, ac efe a fu farw.

28 Lamec hefyd a fu fyw ddwy flynedd a phedwar ugain a chan mlhynedd, ac a genhedlodd fâb,

29 Ac a alwoddei enw ef Noah, gan ddywedyd hwn a’n cyssura ni, am ein gwaith, a llafur ein dwylo, o herwydd y ddaiar yr hon a felldigodd yr Arglwydd.

30 Yna Lamec a fu fyw wedi iddo genhedlu Noa, bymtheng mlhynedd a phedwar ugain a phum-can mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

31 Felly holl ddyddiau Lamec oeddynt ddwy flynedd, ar bymthec a thrugain a saith gan mlhynedd, ac efe a fu farw.

32 A Noah ydoedd fab pum can mlwydd pan genhedlodd Noah, Sem, Cam, a Iapheth.

PEN. VI.

Achos dwfr diluw. 8 Hanes Noah. 14 Gwneythuriad yr Arch.

Yna y bû, pan ddechreuodd dynion amlhau ar wyneb y ddaiar, a geni merched iddynt,

2 Weled o feibion Duw ferched dynion mai teg [oeddynt] hwy; a hwynt a gymmerasant iddynt wragedd o’r rhai oll a ddewisasant.

3 Yna y dywedodd yr Alglwydd nid ymrysona fy ysbryd i a dŷn yn dragywydd, oblegit mai cnawd yw efe: ai ddyddiau fyddant ugain mlhynedd, a chant.

4 Cawri oeddynt ar y ddaiar y dyddiau hynny: ac wedi hynny hefyd, pan ddaeth meibion Duw at ferched dynion, a phlanta [o’r rhai hynny] iddynt: dymha y cedyrn y rhai [a fuant] wŷr enwoc gynt.

5 A’r Alglydd a welodd mai amloedd drygioni dŷn ar y ddaiar, â [bod] holl fwriad meddyl-fryd ei galon yn unic yn ddrygionus bôb amser.

6 Yna yr edifarhaodd ar yr Arglwydd wneuthur o hanaw efe ddyn ar y ddaiar, ac efe a ymofidiodd yn ei galon.

7 A’r Alglwydd a ddywedodd, deleaf ddŷn yr hwn a greais oddi ar wyneb y ddaiar, o ddŷn hyd anifail, hyd yr ymlusciad, a hyd ehediad y nefoedd: canys y mae yn edifar gennif eu gwneuthur hwynt.

8 Ond Noah a gafodd ffafor yng-olwg yr Arglwydd.

9 Dymma genedlaethau Noah, Noa [oedd] ŵr cyfiawn, perffaith yn ei oes: gyd a Duw y rhodiodd Noah.

10 A Noah a genhedlodd dri o feibion Sem, Cam ac Iapheth.

11 A’r ddaiar a lygreasyd ger bron Duw, llanwasyd y ddaiar hefyd a thrawsedd.

12 Yna a edrychodd Duw ar y ddaiar, ac wele hi a lygreasyd; canys pôb cnawd a lygrease ei lwybr ar y ddaiar.

13 A Duw a ddywedodd wrth Noah, diwedd pôb cnawd a ddaeth ger fy mron: o blegit llanwyd y ddaiar a thrawsedd oi herwydd hwynt: ac wele myfi ai difethaf hwynt gyd ar ddaiar.

14 Gwna di it Arch o goed Gopher, yn gellau y gwnei’r Arch, a phŷga hi oddi fewn, ac oddi allan a phŷg.

15 Fel hyn y gwnei hi: try chant cufydd [fydd] hŷd yr Arch, dec cufydd a deûgain ei llêd, a dec cufydd ar hugain ei huchter.

16 Gwna Fenestr i’r Arch, a gorphen [hi] yn gufydd oddi arnodd: a gosot ddrws yr Arch yn ei hystlys: o drî [uchder] y gwnei di hi.

17 O herwydd wele fi yn dwyn dyfroedd diluw ar y ddaiar, i ddifetha pob cnawd, yr hwn [y mae] anadl einioes ynddo, oddi tann y nefoedd: yr hyn oll [sydd] ar y ddaiar a drenga.

18 Ond a thi y cadarnhaf fyng-hyfammod; oblegit i’r Arch yr ei di, a’th feibion, a’th wraig, a gwragedd dy feibion gyd a thi.

19 Ac o bôb [peth] byw, o bôb cnawd, y dygi ddau o bôb [rhyw] i’r arch iw cadw [hwynt] yn fyw gyd a thi; gwryw a banyw fyddant.

20 O’r ehediaid wrth eu rhywogaeth, ac o’r anifailiaid wrth eu rhywogaeth, o bôb ymlusciad y ddaiar wrth ei rywogaeth, dau o bôb [rhywogaeth] a ddeuant attat iw cadw yn fyw.

21 A chymmer di it, o bôb bwyd yr hwn a fwytteir, a chascl attat; a bydded yn ymborth iti, ac iddynt hwythau.

22 Felly y gwnaeth Noah, yn ol yr hyn oll a orchymynnase Duw iddo, felly y gwnaeth efe.

PEN. VII.

1 Mynediad Noah ai eiddo i’r Arch 17 y diluw yn dyfod, ac yn difetha y rhann arall o’r byd.

Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Noah, dôs di, a’th holl dŷ i’r Arch: canys tydi a welais i yn gyfiawn yn yr oes hon, ger fy mron i.

2 O bôb anifail glân y cymmeri gyd a thi bôb yn saith, y gwryw ai fanyw; a dau o’r anifailiaid y rhai nid ydynt lân, y gwryw ai fanyw:

3 O ehediaid y nefoedd hefyd, bôb yn saith, yn wryw ac yn fenyw, i gadw hâd yn fyw, ar wyneb yr holl ddaiar.

4 O blegit wedi saith niwrnod etto, mi a lawiaf ar y ddaiar ddeugain nhiwrnod, a deugain nhôs: ac mi a ddeleaf oddi ar wyneb y ddaiar bôb peth byw a’r a wneuthum i.

5 A Noah a wnaeth yn ol yr hyn oll a orchymynnase yr Arglwydd iddo.

6 Noah hefyd [ydoedd] fâb chwe chan mlwydd, pan fu y diluw ddyfroedd ar y ddaiar.

7 Yna y daeth Noah, ai feibion, ai wraig, a gwragedd ei feibion gyd ag ef i’r Arch rhac y dwfr diluw.

8 O’r anifeiliaid glân, ac o’r anifeiliaid y rhai nid [oeddynt] lân, o’r ehediaid hefyd, ac o’r hyn oll a ymlusce ar y ddaiar,

9 Y daethant at Noah i’r Arch bôb yn ddau, yn wryw ac yn fanyw, fel y gorchymynnase Duw i Noah.

10 Ac wedi saith niwrnod y dwfr diluw a ddaeth ar y ddaiar.

11 Yn y chwe chanfed flwyddyn o fywyd Noah, yn yr ail mîs, ar yr ail dydd ar bymthec o’r mîs, ar y dydd hwnnw y rwygwyd holl ffynhonnau y dyfnder mawr, a ffenestri y nefoedd a agorwyd.

12 A’r glaw fu ar y ddaiar ddeugain nhiwrnod, a deugain nhos.

13 O fewn corph y dydd hwnnw y daeth Noah, a Sem, a Cham, a Iapheth, meibion Noah, a gwraig Noah, a thair gwragedd ei feibion ef gyd a hwynt i’r Arch.

14 Hwynt, a phôb bwyst-fil wrth ei rywogaeth, a phôb anifail wrth ei rywogaeth, a phôb ymlusciad a ymlusce ar y ddaiar wrth ei rywogaeth, a phôb ehediad wrth ei rywogaeth, [sef] pôb rhyw aderyn.

15 A daethant at Noah i’r Arch bôb yn ddau, o bôb cnawd yr hwn [yr oedd] ynddo anadl enioes.

16 A’r rhai a ddaethant, yn wryw, a banyw y daethant o bôb cnawd, fel y gorchymynnase Duw iddo, yna’r Arglwydd a gaeodd arno ef.

17 A’r diluw fu ddeugain nhiwrnod ar y ddaiar, a’r dyfroedd a amlhausant, fel y dygasant yr Arch, ac y codwyd hi oddi ar y ddaiar.

18 A’r dyfroedd a ymgryfhasant, ac a amlhausant yn ddirfawr ar y ddaiar, a’r Arch a rodiodd ar hyd wyneb y dyfroedd.

19 A’r dyfroedd a ymgryfhasant yn ddirfawr iawn ar y ddaiar, a gorchguddiwyd yr holl fynyddoedd uchel y rhai oedd tann yr holl nefoedd.

20 Pymthec cufydd yr ymgryfhaodd y dyfroedd, tuac i fynu wedi gorchguddio y mynyddoedd.

21 Yna y bu farw pôb cnawd yr hwn a ymlusce ar y ddaiar, yn ehediaid, ac yn anifeiliaid ac yn fwyst-filod, ac yn bôb [rhyw] ymlusciad a ymlusce ar y ddaiar, a phôb dŷn [hefyd].

22 Yr hyn oll [yr oedd] ffûn anadl enioes yn ei ffroenau: o’r hyn oll [ydoedd] ar y sych-dir a fuant feirw.

23 Ac efe a ddeleodd bôb sylwedd byw a’r a [oedd] ar wyneb y ddaiar, yn ddŷn, yn anifail, yn ymlusciaid, ac yn ehediaid o’r nefoedd, ie delewyd hwynt o’r ddaiar: a Noah a’r rhai [oedynt] gyd ag ef yn yr Arch yn unic a adawyd yn fyw.

24 A’r dyfroedd a ymgryfhasant ar y ddaiar, ddeng nhiwrnod a deugain, a chant.

PEN. VIII.

Y dyfroedd yn treio. 7 Noah yn anfon allan y gig-fran ar golommen. 16 Mynediad Noah allan o’r Arch, 20 ai aberth.

Yna Duw a gofiodd Noah, a phôb bwyst-fil a phôb anifail, y rhai [oeddynt] gyd ag ef yn yr Arch: a gwnaeth Duw i wynt dramwyo ar y ddaiar, a’r dyfroedd a lonyddasant.

2 Caewyd hefyd ffynhonnau y dyfnder a ffenestri y nefoedd; a lluddiwyd y glaw o’r nefoedd.

3 A’r dyfroedd a ddychwelasant oddi ar y ddaiar gan fyned a dychwelyd: ac ym mhen deng nhiwrnod a deugain a chant y dyfroedd a dreiasent.

4 Ac yn y seithfed mîs, ar yr ail dydd ar bymthec o’r mis, y gorphywysodd yr Arch ar fynyddoedd Armenia.

5 A’r dyfroedd fuant yn myned ac yn treio hyd y decfed mîs, yn y decfed [mîs], ar y [dydd] cyntaf o’r mîs y gwelwyd pennau y mynyddoedd.

6 Ac ym mhen deugain nhiwrnod yr agorodd Noah ffenestr yr Arch yr hon a wnaethe efe.

7 Ac efe a anfonodd allan gig-frân; a hi aeth, gan fyned allan a dychwelyd: hyd oni sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaiar.

8 Yna’r anfonodd efe y golommen oddi wrtho, i weled a yscafnhause y dyfroedd oddi ar wyneb y ddaiar.

9 Ac ni chafodd y golommen orphwysfa i wadn ei throed; amhynny hi a ddychwelodd atto ef i’r Arch, am [fod] y dyfroedd ar wyneb yr holl-dîr: ac efe a estynnodd ei law, ac ai cymmerodd hi, ac ai derbynniodd hi atto i’r Arch.

10 Ac efe a ddisgwiliodd etto saith niwrnod eraill, yna yr anfonodd efe eil-waith y golommen o’r Arch.

11 A’r golommen a ddaeth atto ef ar bryd nawn, ac wele ddeilen oliwydden yn ei gylfin hi, wedi ei thynnu: yna y gwybu Noah yscafnhau y dyfroedd oddi ar y tir.

12 Ac efe a ddisgwiliodd etto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd y golommen, ac ni ddychwelodd hi ail-waith atto ef mwy.

13 Ac yn yr unfed flwyddyn a chwe chant, yn y [mîs] cyntaf, ar y [dydd] cyntaf o’r mîs, y darfu i’r dyfroedd sychu oddi ar y tîr: A Noah a symmudodd gaead yr Arch, ac a edrychodd, ac wele wyneb y ddaiar a sychase.

14 Ac yn yr ail mîs, ar y seithfed dydd ar hugain o’r mîs, y ddaiar a sychase.

15 Yna y llefarodd Duw wrth Noah gan ddywedyd:

16 Dos allan o’r Arch, ti, a’th wraig, a’th feibion, a gwragedd dy feibion, gyd a thi.

17 Pôb bwyst-fil yr hwn [sydd] gyd a thi, o bôb cnawd, yn adar, ac yn anifeiliad, ac yn bôb [rhyw] ymlusciad a ymlusco ar y ddaiar, a ddygi allan gyd a thi: heigiant hwythau yn y ddaiar, a ffrwythant ac amlhânt ar y ddaiar.

18 Yna Noah a aeth allan ai feibion, ai wraig, a gwragedd ei feibion gydag ef.

19 Pôb bwyst-fil, pôb pryf, a phôb ehediad, pôb ymlusciad ar y ddaiar, wrth eu rhywogaethau, a daethant allan o’r Arch.

20 A Noah a adailadodd allor i’r Arglwydd, ac a gymmerodd o bôb anifail glân, ac o bôb ehediad glân, ac a offrymmodd boeth offrymmau ar yr allor.

21 Yna’r aroglodd yr Arglwydd arogl esmwyth, a dywedodd yr Arglwydd yn ei galon ni chwanegaf felldithio y ddaiar mwy er mwyn dŷn: er [bôd] brŷd calon dŷn yn ddrwg oi ieuenctid: ac ni chwanegaf mwy ladd pôb [peth] byw, fel y gwneuthum.

22 Pryd hâu, a chynhaiaf, ac oerni, a gwrês, a hâf, a gaiaf, a dydd, a nôs ni pheidiant mwy holl ddyddiau y ddaiar.

PEN. IX.

Duw yn bendithio Noah ai feibion 3 yn caniatâu bwyta cîg. 4 Ac yn gwahardd gwaed. 9 Duw yn addo na ddifethir y byd mwy trwy ddwfr. 12 Yr enfys yn wystl o hynny. 21 Meddwdod Noah. 22 Cam yn amherchi ei dâd, 25 ei dâd yn ei felldigo yntef 29 oedran a marwolaeth Noah.

Duw hefyd a fendithiodd Noah, ai feibion: ac a ddywedodd wrthynt, ffrwythwch, a lluosogwch a llenwch y ddaiar.

2 Eich ofn hefyd, ’ach arswyd fydd ar holl fwystfilod y ddaiar, ac ar holl ehediaid y nefoedd, a’r hyn oll a sathr ar y ddaiar, ac ar holl byscod y môr; yn eich llaw chwi y rhoddwyd hwynt.

3 Pôb ymsymmudydd yr hwn sydd fyw, fydd i chwi yn fwyd: fel y gwyrdd lessieun y rhoddais i chwi bôb dim.

4 Er hynny na fwytewch gîg yng-hyd ai enioes [sef] ei waed.

5 Canis yn ddiau gwaed eich enioes chwithau hefyd a ofynnaf fi, o law pôb bwyst-fil y gofynnaf ef, ac o law dŷn, o law pôb brawd iddo y gofynnaf enioes dŷn.

6 A dywalldo waed dŷn, drwy ddŷn y tyweldir ei waed yntef, o herwydd ar ddelw Duw y gwnaeth efe ddŷn.

7 Ond ffrwythwch, ac amlhewch, heigiwch ar y ddaiar, a lluosogwch ynddi.

8 Duw a lefarodd wrth Noah, ac wrth ei feibion gyd ag ef: gan ddywedyd,

9 Wele fi hefyd yn cadarnhau fyng-hyfammod a chwi, ac a’ch hâd chwi ar eich ol chwi.

10 Ac a phôb peth byw’r hwn [sydd] gyd a chwi, a’r ehediaid, a’r anifeiliaid, ac a phôb bwyst-fil y tîr gŷd a chwi, o’r rhai oll ydynt yn myned allan o’r Arch: drwy holl fwyst-filod y ddaiar.

11 Ac mi a gadarnhaf fyng-hyfammod a chwi, fel na thorrir ymmaith bôb cnawd mwy gan y dwfr diluw, ac ni byddo diluw mwy i ddifetha y ddaiar.

12 A Duw a ddywedodd, dymma arwydd y cyfammod yr hwn yr ydwyfi yn ei roddi rhyngofi a chwi, ac a phôb peth byw yr hwn [sydd] gyd a chwi, tros oesoedd tragywyddol:

13 Fy mŵa a roddais yn y cwmmwl, ac efe a fydd yn arwydd cyfamod rhyngofi a’r ddaiar.

14 A bydd, pan godwyf gwmwl ar y ddaiar, yr ymddangos o’r bŵa yn y cwmwl,

15 Y cofiaf fyng-hyfammod, yr hwn [sydd] rhyngofi a chwi, ac a phôb peth byw o bôb cnawd: ac ni bydd y dyfroedd yn ddiluw mwy, i ddifetha pôb cnawd.

16 A’r bŵa a fydd yn y cwmwl; ac mi a edrychaf arno ef i gofio cyfammod tragwyddol, rhwng Duw a phôb peth byw, o bôb cnawd yr hwn [sydd] ar y ddaiar.

17 A Duw a ddywedodd wrth Noah, dymma arwydd y cyfammod, yr hwn a gadarnheais rhyngofi, a phôb cnawd: yr hwn sydd ar y ddaiar.

18 A meibion Noah y rhai a ddaethant allan o’r Arch, oedd Sem, Cam, ac Iapheth; a Cham hwnnw [oedd] dâd Canaan.

19 Y tri hyn [oeddynt] feibion Noah: ac o’r rhai hyn yr eppiliodd yr holl ddaiar.

20 A Noah a ddechreuodd [fod] yn llafurwr, ac a blannodd win-llan.

21 Ac a yfodd o’r gwîn, ac a feddwodd, ac a ymnoethodd yng-hanol ei babell.

22 Yna Cam tâd Canaan a welodd noethni ei dâd, ac a fynegodd iw ddau frodyr allan.

23 Yna y cymmerodd Sem, ac Iapheth, ddilledyn ac ai gosodasant ar eu hyscwyddau ill dau, ac a gerddasant yn-wysc eu cefn, ac a orchguddiasant noethni eu tâd; ai hwynebau yn ol, fel na welent noethni eu tad.

24 Yna y deffroawdd Noah oi wîn, ac a wybu beth a wnaethe ei fab ieuangaf iddo.

25 Ac efe a ddywedodd, melldigedic [fyddo] Canaan, gwâs gweision iw frodyr fydd.

26 Ac efe a ddywedodd, bendigedic yw Arglwydd Dduw Sem; a Chanaan fydd wâs iddynt.

27 Duw a helaetha ar Iapheth, ac efe a bresswylia ym mhebyll Sem: a Chanaan fyddo wâs iddynt hwy.

28 A Noah a fu fyw wedi yr diluw, dry-chan-mlhynedd, a deng mlhynedd a deugain.

29 Felly holl ddyddiau Noah oeddynt, naw can mlhynedd a deng mlhynedd a deugain ac efe a fu farw.

PEN. X.

Cynnydd rhywogaeth dyn allan o Noah ai feibion. 10 Dechreuad dinasoedd, gwledydd, a chenhedlaethau wedi dwfr diluw.

Ac dymma genhedlaethau meibion Noah, Sem, Cam, ac Iapheth; ganwyd hefyd meibion i’r rhai hyn wedi’r diluw.

2 Meibion Iapheth [oedynt] Gomer, a Magog, a Madai, ac Iafan, a Thubal, a Mesech, a Thiras.

3 Meibion Gomer hefyd: Ascenas, a Riphath, a Thogarma.

4 A meibion Iafan, Elisa, a Tharsis, Cittim, a Dodanim.

5 O’r rhai hyn y rhannwyd ynysoedd y cenhedloedd yn eu gwledydd, pawb wrth eu iaith ei hun, trwy eu teuluoedd, yn eu cenhedloedd.

6 A meibion Cam [oeddynt] Cus, a Mizraim, a Phut, a Chanaan.

7 A meibion Cus: Seba, ac Hafilah, a Sabthah, a Raamah, a Sabthecah: a meibion Raamah [oeddynt] Saba, a Dedan.

8 Cus hefyd a genhedlodd Nimrodd, efe a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaiar.

9 Efe oedd heliwr cadarn ger bron yr Arglwydd: am hynny y dywedir, fel Nimrod, gadarn o helwriaeth ger bron yr Arglwydd.

10 A dechreuad ei frenhiniaeth ef ydoedd Babel, ac Erech, ac Acad, a Chalneh, yng-wlad Sinar.

11 O’r wlâd honno yr aeth Assur allan, ac a adailadodd Ninefe, a dinas Rehoboth, a Chalah.

12 A Resen, rhwng Ninife a Chalah; honno [sydd] ddinas fawr.

13 Mizraim hefyd a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Nephthuim,

14 Pathrusim hefyd a Chasluhim, a’r Capthoriaid y rhai y daeth y Philistiaid allan o honynt.

15 Canaan hefyd a genhedlodd Sidon ei gyntafanedic, a Heth.

16 A’r Iebusiad, a’r Amoriad, a’r Gergasiad,

17 A’r Hefiad, a’r Arciad, a’r Siniad,

18 A’r Arfadiad a’r Semariad, a’r Hamathiad: ac wedi hynny yr ymwascarodd teuluoedd, y Canaaneaid.

19 Terfyn y Canaaneaid oedd hefyd o Sidon ffordd yr elych i Gerar hyd Azah: a ffordd yr elych i Sodoma, a Gomorra, ac Adama, a Seboiim, hyd Lesa.

20 Dymma feibion Cam, yn ol eu teuluoedd, wrth eu hiaithoedd, yn eu gwledydd [ac] yn eu cenhedloedd.

21 I Sem hefyd y ganwyd plant, yntef oedd dâd holl feibion Heber [a] brawd Iapheth yr hwn oedd hynaf.

22 Meibion Sem [oeddynt,] Elam, ac Assur, ac Arphaxad, a Lud, ac Aram.

23 A meibion Aram, Us, a Hul, a Gether, a Mas.

24 Ac Arphaxad a genhedlodd Selah, a Selah, a genhedlodd Heber.

25 Ac i Heber y ganwyd dau o feibion, henw un [oedd] Peleg: o herwydd yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaiar; a henw ei frawd Iactan.

26 Ac Iactan a genhedlodd Almadad, a Saleph, a Hazarmafeth, ac Ierah.

27 Hadoram hefyd, ac Usal, a Dicla.

28 Obal hefyd, ac Abimael, a Seba,

29 Ophir hefyd, a Hafilah, ac Iobab, yr holl rai hyn [oeddynt] feibion Iactan.

30 Ai presswylfa, oedd o Mesa ffordd yr elych i Sapher mynydd y dwyrain.

31 Dymma feibion Sem, wrth eu teuluoedd, yn ol eu hiaithoedd, yn eu gwledydd, trwy eu cenhedloedd.

32 Dyma deuluoedd meibion Noah, wrth eu cenhedlaethau yn ol eu cenhedloedd, ac o’r rhai hyn yr ymrannodd y cenhedloedd ar y ddaiar wedi y diluw.

PEN. XI.

Adailadaeth twr Babel. 7 Cymmysciad yr ieithoedd. 10 Hiliogaeth Sem, hyd Abraham.

A’r holl dîr ydoedd o un-iaith, ac o un ymadrodd.

2 Ac wrth fudo o honynt o’r dwyrain, y cawsant wastadedd yn nhir Sinar, ac yno y trigâsant.

3 Ac a ddywedasant bôb un wrth ei gilydd, deuwch gwnawn briddfeini, a llosgwn yn boeth, felly ’r ydoedd ganddynt briddfeini yn lle cerric, a chlai oedd ganddynt yn lle calch.

4 A dywedasant, moeswch adeiladwn i ni ddinas, a thŵr, ai nenn hyd y nefoedd, a gwnawn i ni enw rhac ein gwascaru rhyd wyneb yr holl ddaiar.

5 Yna y descynnodd yr Arglwydd i weled y ddinas a’r tŵr, y rhai a adeilade meibion dynion.

6 A dywedodd yr Arglwydd, wele bobl yn un, ac un iaith iddynt oll, ac dymma eu dechreuad hwynt ar weithio: ac yr awr hon nid oes rwystr arnynt am ddim oll ar a amcanasant ei wneuthur.

7 Deuwch, descynnwn, a chymmyscwn yno eu hiaith hwynt fel na ddeallo un iaith ei gilydd.

8 Felly yr Arglwydd ai gwascarodd hwynt oddi yno rhyd wyneb yr holl ddaiar, a pheidiasant ac adailadu y ddinas.

9 Am hynny y gelwir ei henw hi Babel; o blegid yno y cymmyscodd yr Arglwydd iaith yr holl ddaiar, ac oddi yno y gwascarodd yr Arglwydd hwynt ar hyd wyneb yr holl ddaiar.

10 Dymma genhedlaethau Sem, Sem [ydoedd] fâb can-mlwydd, ac a genhedlodd Arphaxad ddwy flynedd wedi’r diluw.

11 A Sem a fu fyw wedi iddo genhedlu Arphaxad, bump can mlhynedd, ac a genhedlodd feibion, a merched.

12 Arphaxad hefyd a fu fyw bymtheng mlhynedd a’r hugain, ac a genhedelodd Selah.

13 Ac Arphaxad a fu fyw gwedi iddo genhedlu Selah dair o flynyddoedd a phedwar can mlhynedd, ac a genhedlodd feibion, a merched.

14 Sela hefyd a fu fyw ddeng mlhynedd ar hugain, ac a genhedlodd Heber.

15 A Selah a fu fyw wedi iddo genhedlu Heber dair o flynyddoedd a phedwar can mlhynedd: ac a genhedlodd feibion, a merched.

16 Heber hefyd a fu fyw bedair blynedd ar ddêc ar hugain, ac a genhedlodd Peleg.

17 A Heber a fu fyw wedi iddo genhedlu Peleg, ddeng mlhynedd ar hugain a phedwar can mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

18 Peleg hefyd a fu fyw ddeng mlhynedd ar hugain, ac a genhedlodd Reu.

19 A Pheleg a fu fyw gwedi iddo genhedlu Reu, naw o flynyddoedd a deucan mlhynedd, ac a genhedlodd feibion, a merched.

20 Reu hefyd a fu fyw ddeu-ddeng mlhynedd ar hugain, ac a genhedlodd Serug.

21 A Reu a fu fyw wedi iddo genhedlu Serug, saith o flynyddoedd a dau can mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

22 Serug hefyd a fu fyw ddeng mlhynedd ar hugain, ac a genhedlodd Nachor.

23 Serug a fu fyw wedi iddo genhedlu Nachor, ddau can mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

24 Nachor hefyd a fu fyw naw mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Tarah.

25 A Nachor fu fyw wedi iddo genhedlu Tarah, onid un flwyddyn chwech ugain mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

26 Tarah hefyd a fu fyw ddeng mlhynedd a thrugain, ac a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran.

27 A dymma genedlaethau Tarah: Tarah a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran; a Haran a genhedlodd Lot.

28 A Haran a fu farw o flaen Tarah ei dâd, yngwlad ei anedigaeth, o fewn Ur y Caldeaid.

29 Yna y cymmerodd Abram, a Nachor iddynt wragedd: enw gwraig Abram [oedd] Sarai; a henw gwraig Nachor Milcha merch Haran tâd Milcha, a thâd Iischa.

30 A Sarai oedd amhlantadwy heb plentyn iddi.

31 A Thara a gymmerodd Abram ei fâb, a Lot fâb Haran, mâb ei fâb, a Sarai ei waudd ef gwraig Abram ei fâb ef, a hwynt a aethant allan yng-hyd o Ur y Caldeaid, gan fyned tua dir Canaan; ac a ddaethant hyd yn Haran, ac a drigasant yno.

32 A dyddiau Tarah oeddynt bump o flyneddoedd, a deucan mlhynedd, a bu farw Tarah yn Haran.

PEN. XII.

Mynediad Abram, a Lot, i wlâd Canaan. 10 Ac oddi yno i’r Aipht. 13 Abram yn peri iw wraig ddywedyd mai ei chwaer ef ydoedd hi. 17 Cospedigaeth Pharao am chwenychu Sarai.

A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, dos di o’th wlad, ac oddi wrth dy genedl, ac o dŷ dy dâd, i’r wlad yr hon a ddangoswyf i ti.

2 A mi a’th wnaf yn genhedlaeth fawr ac a’th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw; a thi a fyddi yn fendith.

3 Bendithiaf hefyd dy fendith-wyr, a’th felldith-wyr a felldigaf: a holl deuluoedd y ddaiar a fendithir ynot ti.

4 Yna’r aeth Abram, fel y llefarase’r Arglwydd wrtho ef, a Lot a aeth gyd ag ef: ac Abram [oedd] fâb pymtheng-mlwydd a thrugain pan aeth efe allan o Haran.

5 Ac Abram a gymmerodd Sarai ei wraig, a Lot mab ei frawd, ai holl olud hwynt, yr hyn a feddent: a’r dynion y rhai a gawsent yn Haran: ac aethant allan gan fyned i wlâd Canaan; ac a ddaethant i wlâd Canaan.

6 Ac Abram a dramwyodd drwy’r tîr hyd y lle [a elwir] Sichem, hyd wastadedd Moreh: a’r Canaanead [oedd] yno yn y wlâd.

7 A’r Arglwydd a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd: i’th hâd ti y rhoddaf y tîr hwn: yntef a adailadodd yno allor i’r Arglwydd, yr hwn a ymddangosase iddo.

8 Ac efe a dynnodd oddi yno i’r mynydd, o du dwyrain Bethel, ac a estynnodd ei babell, [gan adel] Bethel tu a’r gorllewyn, a Hai tu a’r dwyrain: ac a adailadodd yno allor i’r Arglwydd, ac a alwodd ar enw ’r Arglwydd.

9 Yna y cychwnnodd Abraham gan fyned, a chychwyn tua’r dehau.

10 Ac yr oedd newyn yn y tîr; ac Abram aeth i waered i’r Aipht, i ymdeithio yno, am drymhau o’r newyn yn y wlâd.

11 A phan ddaeth efe yn agos i’r Aipht, yna y dywedodd efe wrth Sarai ei wraig, wele, yn awr gwn mae gwraig lân yr olwg [wyt] ti:

12 A phan welo’r Aiphtiaid dy di, yna y dywedant: dymma ei wraig ef, a hwynt a’m lladdant a thi a adawant yn fyw.

13 Dywet ti attolwg, [mai] fy chwaer [wyt] ti, fel y bydder dâ wrthif er dy fwyn di, ac y byddwyf fyw o’th blegit ti.

14 A phan ddaeth Abram i’r Aipht, yna yr Aiphtiaid a welsant y wraig, mai glân odieth [oedd] hi.

15 A thywysogion Pharao ai gwelsant hi, ac ai canmolasant hi wrth Pharao: a’r wraig a gymmerwyd i dŷ Pharao.

16 Ac efe a fu dda wrth Abram er ei mwyn hi fel yr oedd ganddo ef ddefaid a gwarthec, ac assynnau, a gweision, a morynion, ac assynnod, a chamêlod.

17 Yna yr Arglwydd a darawodd Pharao, ai dŷ, a phlagau mawrion, o achos Sarai gwraig Abram.

18 A Pharao a alwodd Abram, ac a ddywedodd: pa ham y gwnaethost ti hyn i mi? pa ham na fynegaist i mi, mai dy wraig [oedd] hi?

19 Pa ham y dywedaist fy chwaer [yw] hi? fel y cymmerwn hi yn wraig i mi: ond yr awr hon wele dy wraig, cymmer [hi,] a dos ymaith:

20 A Pharao a roddes orchymmyn [iw] ddynion oi blegit ef: a hwynt ai gollyngasant ef, a’i wraig, a’r hyn oll oedd eiddo ef.

PEN. XIII.

Mynediad Abram o’r Aipht. 8 Abram, a Lot yn ymado. 14 Duw yn addo gwlad Canaan i Abram cilwaith. 18 Abram yn gwneuthur allor i Dduw.

1 Ac Abram a aeth i fynu o’r Aipht, efe ai wraig, a’r hyn oll [oedd] eiddo, a Lot gyd ag ef tu a’r dehau.

2 Ac Abram [oedd] gyfoethog iawn, o anifeiliaid, [ac] o arian, ac o aur.

3 Ac efe a aeth yn ei deithoedd, o’r dehau hyd Bethel, hyd y lle yr hwn y buase ei babell ef ynddo yn y dechreuad, rhwng Bethel a Hai.

4 I lê ’r allor yr hon a wnaethe efe yno o’r cyntaf, a llê y galwase Abram ar enw yr Arglwydd.

5 Ac i Lot Hefyd yr hwn aethe gyd ag Abram, yr oedd defaid, a gwarthec, a phebyll.

6 A’r wlâd nid oedd ddigon helaeth iddynt i drigo yng-hyd am fod eu cyfoeth hwynt yn helaeth, fel nad allent drigo yng-hyd.

7 Cynnen hefyd oedd rhwng bugelydd anifeiliaid Abram, a bugelydd anifeiliaid Lot: y Canaaneaid hefyd, a’r Phereziaid oeddynt yna yn trigo yn y wlâd.

8 Ac Abram a ddywedodd wrth Lot, na fydded cynnen attolwg, rhyngo fi a thi, na rhwng fy mugeiliaid i, a’th fugeiliaid ti; oherwydd dynion [ydym] ni [sydd] frodyr.

9 Onid yw yr holl dîr o’th flaen di? ymnailltua, attolwg oddi wrthif, os ar y llaw asswy y [troi] minne a droaf ar y ddehau: ac os ar y llaw ddehau, minne [a droaf] ar yr asswy.

10 Yna y cyfododd Lot ei olŵg, ac a welodd holl wastadedd yr Iorddonen, mai dyfradwy [ydoedd] oll, fel gardd yr Arglwydd, fel tîr yr Aipht, ffordd yr elech di i Soar cyn difetha o’r Sodoma a Gomorra.

11 A Lot a ddewisodd iddo holl wastadedd yr Iorddonen, a Lot a fudodd o’r Dwyrain: felly yr ymnailltuasant bôb un oddi wrth ei gilydd.

12 Abram a drigodd yn nhir Canaan, a Lot a drigodd yn-ninasoedd y gwastadedd, ac a luestodd hyd Sodoma.

13 A dynion Sodoma [oeddynt] ddrygionus, ac yn pechu yn erbyn yr Arglwydd yn ddirfawr.

14 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, wedi ymnailltuo o Lot oddi wrtho ef, cyfot dy lygaid, ac edrych o’r lle yr hwn yr ydwyt ynddo, tua’r gogledd, a’r dehau, a’r dwyrain, a’r gorllewyn.

15 Canys yr holl dir yr hwn a weli, i ti y rhoddaf ef, ac i’th hâd bŷth.

16 Gosodaf hefyd dy hâd ti fel llŵch y ddaiar, megis os dichon gŵr rifo llŵch y ddaiar, yna y rhifir dy hâd dithe.

17 Cyfot rhodia drwy yr wlâd, ar ei hŷd, ac ar ei llêd; canys i ti y rhoddaf hi.

18 Ac Abram a symmudodd [ei] luest, ac a ddaeth, ac a drigodd yng-wastadedd Mamre, yr hwn [sydd] yn Hebron, ac a adailadodd yno allor i’r Arglwydd.

PEN. XIIII.

Codorlaomer ac eraill yn rhyfela yn erbyn Sodoma. 12 Ac yn dala Lot. 14 Abram yn achub Lot. 18 Melchisedec yn cyfarfod, ac yn bendithio Abram. 22 Abram yn gwrthod golud y Sodomiaid.

A bu yn nyddiau Amraphel brenin Sinar, Arioch brenin Elasar, Codorlaomer brenin Elam, a Thidal brenin y cenhedloedd,

2 Wneuthur o honynt ryfel a Bera brenin Sodoma, ac a Birsa brenin Gomorra, [a] Sinab brenin Adma, ac [a] Semeber brenin Seboim, ac [a] brenin Bela, honno [yw] Soar.

3 Y rhai hyn oll a ymgyfarfuant yn nyffryn Sidim: hwnnw yw yr môr heli.

4 Deuddeng mlhynedd y gwasanaethasent Codorlaomer, a’r drydedd flwyddyn ar ddec y gwrthryfelasant.

5 A’r bedwaredd flwyddyn ar ddec y daeth Codorlaomer, a’r brenhinoedd y rhai [oeddynt] gyd ag ef, ac a darawsant y Raphiaid, yn Asterothcarnaim, a’r Zusiaid yn Ham, a’r Emiaid yng-wastadedd Ciriathaim.

6 A’r Horriaid yn eu mynydd Seir, Hyd wastadedd Paran, yr hwn [sydd] wrth yr anialwch.

7 Yna y dychwelasant, ac y daethant i Enmispat, honno [yw] Cades, ac a darawsant holl wlâd yr Amaleciaid, a’r Amoriaid hefyd, y rhai oeddynt yn trigo yn Hazezonthamar.

8 Allan hefyd yr aeth brenin Sodoma, a brenin Gomorra, a brenin Adma, a brenin Seboim, a brenin Bela honno [yw] Soar: ac yn nyffryn Sidim y lluniaethasant ryfel a hwynt;

9 A Chodorlaomer brenin Elam, a Thidal brenin y cenhedloedd, ac Amraphel brenin Sinar, ac Arioch brenin Elasar, pedwar o frenhinoedd yn erbyn y pump.

10 A dyffryn Sidim [oedd] lawn o byllau clai; a brenhinoedd Sodoma, a Gomorra, a ffoasant ac a syrthiasant yno: a’r lleill a ffoasant i’r mynydd.

11 Yna y cymmerasant holl gyfoeth Sodoma a Gomorra, ai holl lynniaeth hwynt, ac a aethant ymmaith.

12 Cymmerasant hefyd Lot [nai] fab brawd [i] Abram, ai gyfoeth, ac a aethant ymmaith; o herwydd yn Sodoma yr ydoedd efe yn trigo.

13 Yna y daeth un a ddianghase: ac a fynegodd i Abram yr Hebread, ac efe yn trigo yng-wastadedd, Mamre’r Amoread, brawd Escol, a brawd Aner; a’r rhai hynny [oeddynt] mewn cyngrair ag Abram.

14 Pan glybu Abram gaeth-gludo ei gâr yna efe a arfogodd oi hyfforddus [weision] y rhai a anesyd yn ei dŷ ef ddau naw, a thrychant, ac a ymlidiodd hyd Dan.

15 Yna yr ymrannodd efe yn eu herbyn hwynt liw nôs, efe ai weision, ac ai tarawodd hwynt ac ai hymlidiodd hwynt hyd Hoba, yr hon [sydd] o’r tu asswy i Ddamascus.

16 Ac efe a ddûg trachefn yr holl gyfoeth, ai gâr Lot hefyd ai gyfoeth a ddug ef trachefn, a’r gwragedd hefyd, a’r bobl.

17 Yna brenin Sodoma a aeth allan iw gyfarfod ef, i ddyffryn Safeh hwnnw yw dyffryn y brenin, wedi ei ddychwelyd o daro Codorlaomer, a’r brenhinoedd y rhai [oeddynt] gyd ag ef.

18 Melchisedec hefyd brenin Salem, a ddûg allan fara, a gwin, ac efe oedd offeiriad i Dduw goruchaf:

19 Ac a’i bendithiodd ef, ac a ddywedodd: bendigêdic fyddo Abram gan Dduw goruchaf, meddiannydd nefoedd, a daiar.

20 A bendigêdic fyddo Duw goruchaf yr hwn a roddes dy elynion yn dy law: ac [Abram] a roddes iddo ddegwm a bôb dim.

21 Dywedodd hefyd brenin Sodoma wrth Abram, dôd ti i mi y dynion, a chymmer i ti y cyfoeth.

22 Ac Abram a ddywedodd wrth frenin Sodoma, derchefais fy llaw at yr Arglwydd Dduw goruchaf, meddiannydd nefoedd a daiar,

23 Na chymmerwn o edef hyd garreu escid, nac o’r hynn oll [sydd] eiddo ti rhac dywedyd o honot, myfi a gyfoethogais Abram.

24 Ond yn unic yr hyn a fwyttaodd y llangciau, a rhann y gwyr y rhai a aethant gyd a mi, Aner, Escol, a Mamre: cymmerant hwy eu rhann.

PEN. XV.

Duw yn amddeffynniad, ac yn wobr i Abram. 4. Addo Isaac. 6. ffydd Abram yn ei gyfiawnhau. Duw yn addo gwlâd Canaan i Abram. 13. Caethiwed Israel yn yr Aipht, ai ryddhâd.

Wedi y pethau hynn y daeth gair yr Arglwydd at Abram, mewn gweledigaeth gan ddywedyd: nac ofna Abram; myfi [ydywf] dy darian, dy wobr [sydd] fawr iawn.

2 Yna y dywedodd Abram, Arglwydd Dduw, bêth a roddi di i mi? gan fy mod yn myned yn ddiblant, ar’ mâb a gadewir iddo fy nhŷ yw Eleazar o Ddamascus.

3 Abram hefyd a ddywedodd wele ni roddaist i mi hâd; ac wele fyng-haethwas fydd fy etifedd.

4 Ac wele air yr Arglwydd atto ef gan ddywedyd: nid hwn fydd dy etifedd, onid un a ddaw allan o’th gorph di fydd dy etifedd.

5 Yna efe ai dug ef allan, ac a ddywedodd, golyga yn awr y nefoedd, a rhif y sêr o gelli di eu cyfrif hwynt: dywedodd hefyd felly y bydd dy hâd ti.

6 Yntef a gredodd yn yr Arglwydd, a chyfrifwyd hynny iddo yn gyfiawnder.

7 Ac efe a ddywedodd wrtho myfi [ydwyf] yr Arglwydd yr hwn ath ddygais di allan o Ur y Caldeaid i roddi i ti y wlad hon iw hetifeddu.

8 Yntef a ddywedodd, Arglwydd Dduw, trwy ba bêth y câf wybod yr etifeddaf hi?

9 Ac efe a ddywedodd wrtho, cymmer i mi anner dair blwydd, a gafr dair blwydd, a hwrdd tair blwydd, a thurtur, a chiw colommen.

10 Ac efe a gymmerth iddo y’rhai hyn oll, ac au holltodd hwynt ar hyd [eu] canol, ac a roddodd bôb rhann ar gyfer ei gilydd; ond ni holltodd efe yr adar.

11 Pan ddescynne yr adar ar y burgynnod yna Abram ai gwylltie hwynt.

12 A phan oedd yr haul at fachludo y syrthiodd trym-gwsc ar Abram: ac wele ddychryn, [a] thywyllni mawr, yn syrthio arno ef.

13 Ac efe a ddywedodd wrth Abram, gan wybod gwybydd di y bydd dy hâd yn ddieithr mewn gwlad nid [yw] eiddynt, ac ai gwasanaethant hwynt, a hwyntau ai cystuddiant bedwar-can mlhynedd.

14 A’r genhedlaeth hefyd yr hon a wasanaethant, a farna fi, ac wedi hynny y deuant allan a chyfoeth mawr,

15 A thi a ddeui at dy dadau mewn heddwch: ti a gleddir mewn henaint teg.

16 Ac yn y bedwaredd oes y ddychwelant ymma am na chyflawnwyd hyd yn hynn anwiredd yr Amoriaid.

17 Aphan fachludodd yr haul yr oedd tywyllwch, ac wele ffwrn yn mygu, a phentewyn tân yn tramwyo rhwng y darnau hynny.

18 Yn y dydd hwnnw y gwnaeth yr Arglwydd gyfammod ag Abram gan ddywedyd: i’th hâd ti y rhoddais y wlad hon, o afon yr Aipht hyd yr afon fawr [sef] afon Euphrates.

19 Y Ceniaid, ar’ Ceneziaid, ar’ Cadmoniaid.

20 Yr Hethiaid hefyd, ar’ Phereziaid, ar’ Raphiaid.

21 Yr Amoriaid hefyd, ar’ Canaaneaid, ar’ Girgasiaid, ar’ Iebusiaid.

PEN. XVI.

Sarai yn rhoddi Agar ei morwyn i Abram. 4. honno yn beichiogi ac yn diystyru ei meistres. 6. Ac yn ffoi oddi wrth ei meistres rhac ei blined wrthi. 7. Yr angel yn ei chyssuro. 11. Enw, a chynneddfau ei mâb. 13. Ai gwêddi.

Sarai hefyd gwraig Abram ni phlantase iddo, ac yr ydoedd iddi forwyn o Aiphtes, ai henw Agar.

2 Yna y dywedodd Sarai wrth Abram, wele yn awr, yr Arglwydd a lluddiodd i mi blanta: Dos attolwg at fy llaw forwyn, fe alle y ceir i mi blant o honi hi, ac Abram a wrandawodd ar lais Sarai.

3 Yna y cymmerodd Sarai gwraig Abram ei morwyn Agar yr Aiphtes, ym mhen ddeng mlhynedd wedi trigo o Abram yn nhir Canaan, a hi ai rhoddes i Abram ei gŵr yn wraig iddo.

4 Ac efe a aeth at Agar, a hi a feichiogodd: a phan welodd hithe feichiogi o honi, ei meistres oedd wael yn ei golwg hi.

5 Yna y dywedodd Sarai wrth Abram yr ydwyfi yn cael cam gennit ti: mi a roddais fy morwyn i’th fonwes, a hithe a welodd feichiogi o honi, a gwael ydwyf yn ei golwg hi, barned yr Arglwydd rhyngof fi, a thi.

6 Ac Abram a ddywedodd wrth Sarai, wele dy forwyn yn dy law di, gwna iddi yr hyn a fyddo da yn dy olwg dy hun: yna Sarai ai cystuddiodd hi a hithe a ffoawdd rhacddi.

7 Ac angel yr Arglwydd ai cafodd hi wrth ffynnon yn ffordd Sur.

8 Ac efe a ddywedodd, Agar, morwyn Sarai, o ba le y daethost? ac i ba le yr ei di? a hi a ddywedodd ffoi yr ydwyfi o wyneb fy meistres Sarai.

9 Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrthi, dychwel at dy feistres, ac ymddarostwng tann ei dwylo hi.

10 Angel yr Arglwydd a ddywedodd hefyd wrthi hi: gan amlhau yr amlhaf dy hâd di, fel na rifir ef o luosogrwydd.

11 Dywedodd hefyd angel yr Arglwydd wrthi hi, wele di yn feichiog, a thi a escori ar fâb, ac a elwi ei enw ef Ismael: canys yr Arglwydd a glybu dy gystudd di.

12 Ac efe a fydd ddŷn gwyllt, ai law ar baŵb, a llaw paŵb arno yntef, ac yn trigo ger bron ei holl frodyr.

13 A hi a alwodd enw’r Arglwydd yr hwn oedd yn llefaru wrthi, ti, ô Dduw, wyt yn edrych arnafi: canys dywedodd oni edrychais ymma hefyd ar ol yr hwn sydd yn edrych arnaf?

14 Am hynny y galwyd y ffynnon, ffynnon Laha Roi: wele, rhwng Cades a Bared [y mae hi.]

15 Ac Agar a ymmddug fâb i Abram: ac Abram a alwodd enw ei fâb, yr hwn a ymddugase Agar, Ismael.

16 Ac Abram [oedd] fâb pedwar ugainmlwydd a chwech o flynyddoedd, pan ymddug Agar Ismael i Abram.

PEN. XVII.

Abram a elwir Abraham. 8 Addewid arall i Abram ar dir Canaan. 12 Gossod enwaediad. 15 Sarai a elwir Sara. 16 Duw yn addo Isaac. 23 Abrahan yn ei enwaedu ei hun, ac Ismael, ai holl deulu.

Pan oedd Abram onid un mlwydd cant, yna’r ymddangosodd yr Arglwydd i Abram, ac a ddywedodd wrtho: myfi [ydwyf] Dduw hôll alluog, rhodia ger fy mron i, a bydd berffaith.

2 Ac mi a roddaf fyng-hyfammod rhyngof a thi, ac a’th amlhâf di yn aml iawn.

3 Yna y syrthiodd Abram ar ei wyneb; a llefarodd Duw wrtho ef gan ddywedyd.

4 Myfi wele [a wnaf] fyng-hyfammod a thi, a thi a fyddi yn dad llaweroedd o genhedloedd.

5 Ath henw ni elwir mwy Abram, onid dy enw fydd Abraham, canys yn dâd llaweroedd o genhedloedd i’th roddais.

6 Ac mi a’th wnaf yn ffrwythlon iawn, ac a’th roddaf di yn genhedloedd, a brenhinoedd a ddeuant allan o honot ti.

7 Cadarnhaf hefyd fyng-hyfammod rhyngof a thi, ac a’th hâd ar dy ôl di, trwy eu hoesoedd, yn gyfammod tragywyddawl, i fod yn Dduw i ti, ac ith hâd ar dy ôl di.

8 A mi a roddaf i ti, ac i’th hâd ar dy ôl di, wlâd dy ymdaith sef holl wlâd Canaan, yn etifeddiaeth dragwyddawl; ac mi a fyddaf yn Dduw iddynt.

9 A Duw a ddywedodd wrth Abraham, cadw dithe fyng-hyfammod, ti, a’th had ar dy ôl trwy eu hoesoedd.

10 Dyma fyng-hyfammod yr hwn gedwch rhyngof fi, a chwi, a’th hâd, ar dy ôl di: enwaeder pôb gwryw o honoch chwi.

11 Enwaedwch gan hynny gnawd eich dienwaediad: fel y byddo yn arwydd cyfammod rhyngof fi, a chwithau.

12 Pôb gwryw yn wyth niwrnod oed a enwaedir i chwi trwy eich oesoedd: yr hwn a aner yn tŷ, ac a brynner am arian gan neb dieithr, yr hwn nid yw o’th hâd di.

13 Gan enwaedu enwaeder yr hwn a aner yn dy dŷ di, ac a brynner am dy arian di, fel y byddo fyng-hyfammod yn eich cnawd chwi, yn gyfammod tragywyddawl.

14 A’r gwryw dienwaededic, yr hwn nid enwaeder cnawd ei ddienwaediad, torrir ymmaith yr enaid hwnnw o fysc ei bobl: [oblegit] efe a dorrodd fyng-hyfammod.

15 Duw hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Sarai dy wraig ni elwi ei henw Sarai, onid Sara [fydd] ei henw hi.

16 Bendithiaf hi hefyd, a rhoddaf i ti fâb o honi: ie bendithiaf hi fel y byddo yn genhedloedd, brenhinoedd pobloedd fyddant o honi hi.

17 Ac Abraham a syrthiodd ar ei wyneb, ac a chwarddodd, ac a ddywedodd yn ei galon, a blentir i fâb can mlwydd? ac a blanta Sara yn ferch ddeng mlwydd a phedwarugain?

18 Ac Abraham a ddywedodd wrth Dduw, ôh na bydde fyw Ismael ger dy fron di,

19 A Duw a ddywedodd, Sara dy wraig a ymddŵg i ti fab yn ddiau; a thi a elwi ei enw ef Isaac: a mi a gadarnhaf fyng-hyfammod ag ef, yn gyfammod tragywyddawl iw had ar ei ol ef.

20 Am Ismael hefyd ith wrandewais, wele, mi ai bendithiais ef ac mi ai ffrwythlonaf ef, ac ai lluosogaf yn amliawn: deuddec tywysog a genhedla efe, ac mi ai rhoddaf ef yn genhedlaeth fawr.

21 Am cyfammod a gadarnhaf ag Isaac yr hwn a ymddŵg Sara i ti y pryd-hwn y flwyddyn nessaf.

22 Yna y peidiodd a llafaru wrtho, a Duw a aeth i fynu oddi wrth Abraham.

23 Ac Abraham a gymmerodd Ismael ei fâb, a’r rhai oll a anesyd yn ei dŷ ef, a’r rhai oll a brynnase efe ai arian, pôb gwryw o ddynion tŷ Abraham, ac efe a enwaedodd gnawd eu dienwaediad hwynt, o fewn corph y dydd hwnnw, fel y llefarase Duw wrtho ef.

24 Ac Abraham [oedd] fâb onid un mlwydd cant, pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef.

25 Ac Ismael ei fâb ef yn fâb tair blwydd ar ddec pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef.

26 O fewn corph y dydd hwnnw ’r enwaedwyd Abraham, ac Ismael ei fâb.

27 A holl ddynion ei dŷ ef y rhai a anesyd yn tŷ, ac a brynnesyd ag arian gan neb dieithr, a enwaedwyd gŷd ag ef.

PEN. XVIII.

Abraham yn derbyn tri angel iw dy. 10. Addewid o Isaac. 12 Sara’n ammeu’r addewid. 18. Addewid o Grist. 21. Duw yn rhybuddio Abraham am ddinistr Sodoma. 23 Ac Abraham yn eiriol trostynt.

A’r Arglwydd a ymddangosodd iddo ef yng-wastadedd Mamre: ac efe yn eistedd [wrth] ddrŵs y babell, yng-wrês y dydd.

2 Ac efe a gododd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele dry-ŵyr yn sefyll ger ei fron, pan welodd, yna efe a redodd iw cyfarfod hwynt, ac a ymgrymmodd tua ar ddaiar.

3 Ac efe a ddywedodd fy arglwydd, os cefais yn awr ffafor yn dy olwg di, na ddos heibio oddi wrth dy wâs.

4 Cymmerer, attolwg, ychydic ddwfr, a golchwch eich traed, a gorphwysswch dann y prenn hwnn;

5 Ac mi a ddygaf dammed o fara fel y cryfhaoch eich calon, wedi hynny y cewch fyned ymmaith, o herwydd i hynny y daethoch heb law eich gwâs: a hwynt a ddywedasant, gwna felly, fel y dywedaist:

6 Ac Abraham a fryssiodd i’r babell at Sara, ac a ddywedodd, paratoa di ar frŷs dair phioled o flawd peillied, telina a gwna yn deissennau.

7 Ac Abraham a rêdodd at y gwarthec, ac a gymmerodd lô tŷner, a dâ, ac ai rhoddodd at y llangc, yr hwn a fryssiodd iw baratoi ef.

8 Ac efe a gymmerodd ymenyn, a llaeth, a’r llô yr hwn a baratoase efe, ac a rhoddes oi blaen hwynt: ac efe a safodd gyd a hwynt tann y prenn; a hwy a fwytawsant.

9 Yna y dywedasant wrtho ef, mae Sara dy wraig? ac efe a ddywedodd, wele [hi] yn y Babell.

10 Ac [un] a ddywedodd, gan ddychwelyd y dychwelaf attat yng-hylch amser bywiolaeth; ac wele fab i Sara dy wraig, a Sara oedd yn clywed [wrth] ddrws y babell, a hwnnw [oedd] oi ôl ef.

11 Abraham hefyd a Sara [oeddynt] hên, wedi myned mewn oedran [a] pheidiase fod i Sara yn ôl arfer gwraged.

12 Am hynny y chwardodd Sarah rhyngddi a hi ei hun, gan ddywedyd: ai gwedi fy heneiddio y bydd i mi drythyllwch a’m harglwydd yn hên [hefyd?]

13 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Abraham, pa ham y chwarddodd Sarah fel hynn, gan ddywedydd, A blantaf inne yn wir, wedi fy heneiddio?

14 A fydd dim yn anhawdd i’r Arglwydd? ar yr amser nodedic y dychwelaf attat, yng-hylch amser bywiolaeth, a mâb [fydd] i Sara.

15 A Sara a wadodd gan ddywedyd: ni chwerddais, o herwydd hi a ofnodd: yntef a ddywedodd nid [gwir], oblegit ti a chwerddaist.

16 Ar’ gwŷr a godasant oddi yno, ac a edrychasant tua Sodoma, ac Abraham a aeth gyd a hwynt, iw hanfon hwynt.

17 A’r Arglwydd a ddywedodd, a gelaf fi oddi wrth Abraham yr hyn a wnaf fi?

18 Canys Abraham gan fod a fydd yn genhedlaeth fawr, a chref, ac ynddo ef y bendithir holl genhedloedd y ddaiar.

19 Am i mi ei adnabod ef [ni chelaf,] fel y gorchymynno efe iw feibion, ac i’w dylwyth ar ei ôl ef gadw o honynt ffordd yr Arglwydd gan wneuthur cyfawnder, a barn, fel y dygo’r Arglwydd ar Abraham yr hyn a lefarodd efe am danaw.

20 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd, am [fod] gwaedd Sodoma, a Gomorra yn ddirfawr, ai pechod hwynt yn drwm iawn.

21 Descynnaf yn awr, ac edrychaf, ai yn ôl ei gwaedd yr hon a ddaeth attafi, y gwnaethant yn hollawl: ac onide, mynnaf wybod.

22 A [dau] or gwŷr a droesant oddi yno, ac a aethant tua Sodoma, ac Abraham yn sefyll etto ger bron yr Arglwydd.

23 Abraham hefyd a nesaodd, ac a ddywedodd, a ddifethi di y cyfyawn hefyd yng-hyd â’r annuwiol?

24 Ond odid y mae dec a deugain o rai cyfiawn yn y ddinas, a ddifethi di [hwynt] hefyd, ac nid arbedi y lle er mwyn y dec a deugain cyfiawn y rhai [ydynt] oi mewn hi?

25 Na byddo i ti wneuthur y cyfryw beth, gan ladd y cyfiawn gyd a’r annuwiol, fel y byddo y cyfiawn megis yr annuwiol: na byddo [hynny] i ti: oni wna barnudd yr holl dir farn?

26 Yna y dywedodd yr Arglwydd os câf fi yn Sodoma ddeg a deugain yn gyfiawn ofewn y ddinas, yna y maddeuaf i’r holl fangre er eu mwyn hwynt.

27 Ac Abraham a attebodd, ac a ddywedodd, wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd, a mi yn llwch ac yn lludw.

28 Ond odid bydd pump yn eisieu o’r dec a deugain cyfiawn a ddifethi di’r holl ddinas er pumb? yntef a ddywedodd na ddifethaf, os câf yno bump a deugain.

29 Chwanegodd hefyd lefaru wrtho ef etto, a dywedodd: ond odid ceir yno ddeugain, yntef a ddywedodd nis gwnaf er mwyn y deugain.

30 Yna y dywedodd na ddigied fy Arglwydd atolwg os llefaraf, ceir yno ond odid ddêc ar hugain: yntef a ddywedodd nis gwnaf os caf yno ddêc ar hugain.

31 Yna y dywedodd efe wele yn awr y chwenychwn lefaru wrth fy Arglwydd: Ond odid ceir yno ugain: yntef a ddywedodd nis difethaf er mwyn ugain.

32 Yna y dywedodd efe, na ddigied fy Arglwydd atolwg, a llefaraf y waith hon yn unic, ond odid ceir yno ddêc: yntef a ddywedodd nis difethaf er mwyn y dêc.

33 Yna’r aeth yr Arglwydd ymmaith pan ddarfu iddo lefaru wrth Abraham, ac Abraham a ddychwelodd iw le ei hun.

PEN. XIX.

Lot yn derbyn angelion iw dy. 4 Anaturiol bechod y Sodomiaid. 10 Yr angylion yn achub Lot. 24 Dinistr Sodoma. 26 Colp gwraig Lot. 31 Merched Lot yn meddwi eu tad iw ddwyn ef i ymlosgach a hwynt.

Yna y ddau angel a ddaethant i Sodoma yn yr hwyr, a Lot yn eistedd ym-mhorth Sodoma a phan welodd Lot, efe a gyfododd iw cyfarfod hwynt, ac a ymgrymmodd [ai] wyneb tua yr ddaiar;

2 Ac efe a ddywedodd wele yn awr fy arglwyddi, troiwch atolwg i dŷ eich gwâs; lletteuwch heno hefyd a golchwch eich traed: yna codwch yn foreu ac ewch i’ch taith: hwynt a ddywedasant na [wnawn] o herwydd nyni a allwn letteu yn yr heol.

3 Ac efe a fu daer iawn arnynt hwy, yna y troesant atto, ac y daethant iw dŷ ef; ac efe a wnaeth iddynt wledd, ac a bobodd fara croiw, a hwynt a fwyttasant.

4 Yna cyn gorwedd o honynt, gwyr y ddinas, [sef] gwyr Sodoma, hên ac ieuangc, a amgylchasant o amgylch y tŷ [sef] yr holl bobl o eithaf [y ddinas.]

5 Ac a alwasant ar Lot, ac a ddywedasant wrtho, mae y gwyr a ddaethant attat ti heno? dwg hwynt allan attom ni, fel yr adwaenom hwynt.

6 Yna y daeth Lot attynt hwy allan i’r drws, ac a gaeodd y ddôr ar ei ôl;

7 Ac a ddywedodd atolwg fy-mrodyr na wnewch ddrwg.

8 Wele yn awr [y mae] dwy ferched genifi, y rhai nid adnabuant ŵr; dygaf hwynt allan attoch chwi yn awr, a gwnewch iddynt fel y gweloch yn ddâ: yn unic na wnewch ddim i’r gwyr hyn; o herwydd er mwyn hynny y daethant dan gyscod fyng-hronglwyd mau fi.

9 Yna y dywedasant, nessa hwnt: dywedasant hefyd, efe a ddaeth i ymdaith yn unic, ac yn awr ai gan farnu y barna efe? yn awr nyni a wnawn fwy o niwed i ti nac iddynt hwy, felly y buant daer iawn ar y gwr [sef] ar Lot, a hwy a nessasant i dorri y ddôr.

10 Yna y gwŷr a estynnasant eu llaw, ac a ddygasant Lot attynt i’r tŷ, ac a gaeasant y ddôr.

11 Tarawsant hefyd y dynion y rhai [oeddynt wrth] ddrws y tŷ a dallineb, o fychan i fawr, fel y blinasant yn ceisio y drws.

12 A’r gwŷr a ddywedasant wrth Lot, pwy sydd genniti ymma etto, [dy] ddawon, ath feibion, ath ferched, a’r hyn ôll [sydd] i ti yn y ddinas a ddŷgi di allan o’r fangre hon.

13 O blegid yr ydym ni ar ddinistrio y lle hwn; am fod eu gwaedd hwynt yn fawr ger bron yr Arglwydd: a’r Arglwydd a’n hanfonod ni iw ddinistrio ef.

14 Yna yr aeth Lot allan, ac a lefarodd wrth ei ddawon, y rhai oeddynt yn priodi ei ferched ef, ac a ddywedodd: cyfodwch, deuwch allan o’r fan ymma: o herwydd y mae r’ Arglwydd yn difetha y ddinas: ac yng-olwg ei ddawon yr ydoedd efe fel [un] yn cellweir.

15 Ac ar godiad y wawr yr angylion a fuant daer ar Lot, gan ddywedyd: cyfot ti cymmer dy wraig, a’th ddwy ferched, y rhai ydynt iw cael, rhac dy ddifetha di yn anwiredd y ddinas hon.

16 Yntef a oedd hwyr-frydig, yna y gwyr a ymafelasant yn ei law ef, ac yn llaw ei wraig, ac yn llaw ei ferched; am dosturio o’r Arglwydd wrtho ef; ac ai dugasant ef allan, ac ai gossodasant o’r tu allan i’r ddinas.

17 Ac wedi iddynt eu dwyn hwynt allan, efe a ddywedodd, diangc am dy enioes; nac edrych ar dy ôl, ac na sâf yn yr holl wastadedd: diangc i’r mynydd rhac dy ddifetha.

18 Yna y dywedodd Lot, nid [felly] atolwg fy arglwyddi.

19 Wele yn awr, cafodd dy wâs ffafor yn dy olŵg, a mawrheaist dy drugaredd yr hon a wnaethost a mi gan gadw fy enioes yn fyw: ac ni allaf fi ddiangc i’r mynydd rhac i’r drwg fyng-oddiweddyd, a marw o honof.

20 Wele yn awr, y ddinas hon yn agos i ffoi iddi, a bechan yw, atolwg gad ti i mi ddiangc yno: (onid bechan yw hi?) a byw fydd fy enaid.

21 Yntef a ddywedodd wrtho, wele, mi a ganniadheais dy ddymuniad hefyd am y pêth hyn, fel na ddinistriwyf y ddinas [am] yr hon y dywedaist.

22 Bryssia, diangc di yno; o herwydd ni allaf wneuthur dim nes dy ddyfod yno: am hynny y galwodd efe enw y ddinas Zoar.

23 Cyfodase yr haul a’r y ddaiar, pan ddaeth Lot i Zoar.

24 Yna r’ Arglwydd a lawiodd ar Sodoma a Gomorra frwmstan a thân oddi wrth yr Arglwydd o’r nefoedd.

25 Felly y dinistriodd efe y dinasoedd hynny, a’r holl wastadedd, a holl drigolion y dinasoedd, a chnwd y ddaiar.

26 Yna ei wraig ef a edrychodd drach ei chefn o’i du ôl ef, a hi a aeth yn golofn halen.

27 Ac Abraham a gododd yn foreu i’r lle yr hwn y safase efe ynddo ger bron yr Arglwydd.

28 Ac efe a edrychodd tua Sodoma, a Gomorra, a thua hôll dir y gwastadedd, yna y gwelodd, ac wele, cyfododd mwg y tir fel mwg ôdyn.

29 A phan ddifethodd Duw ddinasoedd y gwastadedd, yna y cofiodd Duw am Abraham, ac a yrrodd Lot o ganol y dinistr pan ddinistriodd efe y dinasoedd yr hai yr oedd Lot yn trigo ynddynt.

30 A Lot a escynnodd o Zoar, ac a drigodd yn y mynydd, ai ddwy ferched gydag ef, o herwydd efe a ofnodd drigo yn Zoar; ac a drigodd mewn ogof, efe a’i ddwy ferch.

31 Yna y dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, ein tad ni [sydd] hen, a gŵr nid oes yn y wlad i ddyfod attom ni, wrth ddefod yr holl dir.

32 Tyret rhoddwn i’n tâd wîn iw yfed, fel y gorweddom gyd ag ef ac y cadwom hâd yn fyw o’n tâd.

33 Felly hwynt a roddasant wîn iw tâd i yfed y noson honno, a’r hynaf a ddaeth ac a orweddodd gyd ai thâd; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.

34 A thrannoeth y dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, wele, gorweddais neithiwr gyd a’m tâd; rhoddwn wîn iddo ef iw yfed heno hefyd, a dos di, a gorwedd gyd ag ef, fel y cadwom yn fyw hâd o’n tâd.

35 Felly hwynt a roddasant wîn iw tâd i yfed y noson honno hefyd: a’r ieuangaf a gododd, ac a orweddodd gyd ag ef, ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.

36 Felly dwy ferch Lot a feichiogwyd oi tâd eu hun.

37 A’r hynaf a escorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Moab: efe yw tâd y Moabiaid hyd heddyw.

38 A’r ieuangaf, hefyd, a escorodd hithe ar fab, ac a alwodd ei enw efe Bennammi: ef yw tad meibion Ammon hyd heddyw.

PEN. XX.

Abraham yn gwladychu yng-wlad Gerar. 2 Abimelec yn dwyn ei wraig ef. 3 Duw yn bygwth Abimelec. 9 Abimelec yn beio ar Abraham. 11 Atteb Abraham. 14 Rhoddiad gwraig Abraham adref. 17 Duw yn iachau ty Abimelec trwy weddi Abraham.

Ac Abraham a gychwnnodd oddi yno i dîr y dehau, ac a gyfanneddodd rhwng Cades a Sur, ac a ymdeithiodd yn Gerar.

2 A dywedodd Abraham am Sara ei wraig, fy chwaer yw hi: ac Abimelec brenin Gerar a anfonodd, ac a ddug Sara.

3 Yna y daeth Duw at Abimelech noswaith mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho: wele di yn farw am y wraig yr hon a gymmeraist, a hi yn berchen gŵr.

4 Ond Abimelech ni nessase atti hi, ac efe a ddywedodd fy Arglwydd, a leddi di y genedl gyfiawn hefyd?

5 Oni ddywedodd efe wrthyf fi, fy chwaer yw hi: a hithe hefyd ei hun a ddywedodd, fy mrawd yw efe: ym mherffeithrwydd fyng-halon, ac yng-lendid fy nwylo, y gwneuthum hyn.

6 Yna y dywedodd Duw wrtho ef mewn breuddwyd, minne hefyd a wn mai ym mherffeithrwydd dy galon y gwnaethost hyn, a mi a’th attaliais rhac pechu i’m herbyn: am hynny ni’th adewais i ti gyffwrdd a hi.

7 Yn awr gan hynny, dot ti y wraig trachefn i’r gŵr; o herwydd prophwyd yw efe, a phan weddio efe trosot, byddi fyw: ond oni roddi trachefn, gwybydd mai gan farw y byddi farw, ti a’r rhai oll ydynt eiddoti.

8 Yna y cododd Abimelec yn foreu, ac a alwodd am ei holl weision, ac a draethodd yr holl betheu hyn wrthynt hwy, a’r gwyr a ofnasant yn ddirfawr.

9 Galwodd Abimelec hefyd am Abraham, a dywedodd wrtho, beth a wnaethost i mi? a pheth a bechais i’th erbyn, pan ddygyt bechod [mor] fawr arnafi, ac ar fy nheyrnas? gwnaethost a mi weithredoedd ni ddylesyd eu gwneuthur.

10 Abimelec hefyd a ddywedodd wrth Abraham, beth a welaist, pan wnaethost y peth hynn?

11 A dywedodd Abraham am ddywedyd o honofi yn ddiau nid [oes] ofn Duw yn y lle hwn: a hwynt a’m lladdant o achos fyng-wraig.

12 A hefyd yn wîr fy chwaer [yw] hi, merch fy nhâd, ond nid merch fy mam; ac y mae hi yn wraig i mi.

13 Ond pan barodd Duw i mi gyrwydro o dŷ fy-nhad, yna y dywedais wrthi hi, dymma dy garedigrwydd yr hwn a wnei a mi ym-mhôb lle yr hwn y delom ni iddo; dywet am danaf fi, fy mrawd yw efe.

14 Yna y cymmerodd Abimelec ddefaid, a gwarthec, a gweision, a morwynion, ac ai rhoddes i Abraham: rhoddes hefyd iddo ef Sara ei wraig trachefn.

15 A dywedodd Abimelec, wele fyng-wlad ger dy fron di, trig lle y byddo da yn dy olwg.

16 Ac wrth Sara y dywedodd, wele rhoddais i’th frawd fîl o [ddarnau] arian: wele efe yn orchudd llygaid it, yn erbyn y rhai oll [ydynt] gyd a thi, a phawb [arall] ac felly hi a geryddwyd.

17 Yna Abraham a weddiodd ar Dduw: a Duw a iachaodd Abimelec, ai wraig, ai forwynion, felly plantent.

18 O herwydd yr Arglwydd gan gaeu, a gaeasai ar bob croth yn nhŷ Abimelec, o achos Sara gwraig Abraham.

PEN. XXI.

2 Ganedigaeth Isaac, ai enwaediad. 9 Bwriad Agar o dy Abraham am i Ismael warwar Isaac. 17 Yr angel yn cyssuro Agar. 22 Cyngrair rhwng Abraham, ac Abimelec.

A’r Arglwydd a ymwelodd â Sara fel y dywedase, a gwnaeth yr Arglwydd i Sara fel y llefarase.

2 O herwydd Sara a feichiogodd, ac a ymddug i Abraham fab yn ei henaint, ar yr amser nodedic yr hwn a ddywedase Duw wrtho ef.

3 Ac Abraham a alwodd henw ei fab a anesyd iddo, (yr hwn a ymddygase Sara iddo ef) Isaac.

4 Ac Abraham a enwaedodd ar Isaac ei fâb, yn wyth niwrnod oed: fel y gorchymynase Duw iddo ef.

5 Ac Abraham [oedd] fab can mlwydd, pan anwyd iddo ef Isaac ei fâb.

6 Yna y dywedodd Sara: gwnaeth Duw i mi chwerthyn; pob un a glywo a chwardd gyd a mi.

7 Hi a ddywedodd hefyd, pwy a ddywedase i Abraham y rhoddase Sara sug yn i blant? canys mi a escorais fab yn ei henaint ef.

8 A’r bachgen a gynnyddodd, ac a ddiddyfnwyd, ac Abraham a wnaeth wledd fawr ar y dydd y diddyfnwyd Isaac,

9 A Sara a welodd fâb Agar yr Aiphtes, yr hwn a ymddugase hi i Abraham yn gwattwar.

10 A hi a ddywedodd wrth Abraham, gyrr ymmaith y gaeth forwyn hon ai mâb, o herwydd ni chaiff mâb y gaethes hon gyd etifeddu a’m mab mau fi Isaac.

11 A’r peth hyn fû ddrwg iawn gan Abraham er mwyn ei fâb.

12 Yna Duw a ddywedodd wrth Abraham na fydded drwg yn dy olwg am y llangc, nac am dy gaeth forwyn, yr hyn oll a ddywedo Sara wrthit, gwrando ar ei llais: o herwydd yn Isaac y gelwir i ti hâd.

13 Ac am fab y forwyn gaeth hefyd gossodaf ef yn genhedlaeth, o herwydd dy hâd ti ydyw ef.

14 Yna y cododd Abraham yn foreu, ac a gymmerodd fara, a chostreled o ddwfr, ac ai rhoddes at Agar, gan ossod ar ei hyscwydd hi [hynny] a’r bachgen hefyd, ac efe ai gollyngodd hi ymmaith: a hi a aeth, ac a gyrwydrodd yn anialwch Beersebah.

15 Pan ddarfu y dwfr yn y gostrel; a hi a fwriodd y bachgen tan un o’r gwŷdd.

16 A hi a aeth, ac a eisteddodd ei hunan yn bell ar gyfer, megis ergyd bŵa: canys dywedase ni allafi edrych ar y bachgen yn marw: felly hi a eisteddodd ar [ei] gyfer, ac a dderchafodd ei llef, ac a ŵylodd.

17 Yna Duw a wrandawodd ar lais y llangc, ac angel Duw a alwodd ar Agar o’r nefoedd, ac a ddywedodd wrthi, beth [a ddarfu] i ti, Agar? nac ofna, o herwydd Duw a wrandawodd ar lais y llangc o’r lle y mai efe.

18 Cyfot, cymmer y llangc, ac ymafel ynddo a’th law, o blegid myfi ai gossodaf ef yn genhedlaeth fawr.

19 Yna Duw a agorodd ei llygaid hi, a hi a ganfu bydew dwfr; ac hi a aeth ac a lanwodd y gostrel [o’r] dwfr, ac a ddiododd y llangc.

20 Ac yr oedd Duw gyd a’r llangc; ac efe a gynnyddodd, ac a drigodd yn yr anialwch, ac oedd berchen bwa.

21 Ac yn anialwch Paran y trigodd efe; ai fam a gymmerodd iddo wraig o wlad yr Aipht.

22 Ac yn yr amser hwnnw Abimelec a Phicol tywysog ei lu ef a ymddiddanasant ag Abraham gan ddywedyd, Duw [sydd] gyd a thi yn yr hyn oll yr ydwyt yn ei wneuthur.

23 Yn awr gan hynny, twng wrthif fi i Dduw, na fyddi anffyddlon i mi, nac i’m mâb, nac i’m hwyr: yn ol y drugaredd yr hon a wneuthum a thi y gwnei di a minne, ac a’m gwlad yr hon yr ymdeithiaist ynddi.

24 Ac Abraham a ddywedodd mi a dyngaf.

25 Yna Abraham a geryddodd Abimelec, o achos y pydew dwfr yr hwn a ddygase gweision Abimelec trwy drais.

26 Ac Abimelec a ddywedodd, nis gwybum i pwy a wnaeth y peth hyn: tithe hefyd ni fynegaist i mi, a minne ni chlywais [hynny] hyd heddyw.

27 Yna y cymmerodd Abraham ddefaid a gwarthec, ac ai rhoddes i Abimelec, ac a wnaethant gyngrair ill dau.

28 Ac Abraham a osododd saith o hespinod [o’r] praidd ar y naill du.

29 Yna y dywedodd Abimelec wrth Abraham, beth [a wna] y saith hespin hynn y rhai a ossodaist wrthynt eu hunain:

30 Ac yntef a ddywedodd, fel y cymmerech di y saith hespin o’m law, i fod yn destiolaeth mai myfi a gloddiais y pydew hwn.

31 Am hynny efe a alwodd henw y lle hwnnw Beer-sebah: o blegid yno y tyngasant ill dau.

32 Felly y gwnaethant gyngrair yn Beer-sebah: a chyfododd Abimelec, a Phichol tywysog ei lu ef, ac a ddychwelasant i dîr y Philistiaid.

33 Ac yntef a blannodd goed yn Beer-seba, ac a alwodd yno ar enw yr Arglwydd Dduw tragywyddol.

34 Ac Abraham a ymdeithiodd ddyddiau lawer yn nhir y Philistiaid.

PEN. XXII.

1 Duw yn profi ffydd Abraham, drwy orchymmyn iddo aberthu ei fab. Ac Abraham yn dangos ei ffydd ai usydd-dod. 20 Hiliogaeth Nachor.

Ac wedi y petheu hyn y bu i Dduw brofi Abraham, a dywedyd wrtho, Abraham: yntef a ddywedodd wele fi.

2 Yna y dywedodd [Duw] cymmer yr awran dy fâb yr hwn a hoffaist sef dy unic Isaac, a dos rhagot i dîr Moriah, ac offrymma ef yno yn boeth offrwm ar un o’r mynyddoedd yr hwn a ddywedwyf wrthit.

3 Yna Abraham a foreu gododd, ac a gyfrwyodd ei assyn, ac a gymmerodd ei ddau langc gydag ef, ac Isaac ei fâb, ac a holltodd goed y poeth offrwm, ac a gyfododd, ac a aeth i’r lle yr hwn, a ddywedase Duw wrtho ef.

4 Ac ar y trydydd dydd y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac efe a wele y lle o hir-bell.

5 Ac Abraham a ddywedodd wrth ei langciau arhoswch chwi ymma gyd a’r assyn; a mi a’r llangc a awn hyd accw, ac a addolwn, ac a ddychwelwn attoch.

6 Yna y cymmerth Abraham goed y poeth offrwm, ac ai gosododd ar Isaac ei fâb; ac a gymmerodd y tân a’r gyllell yn ei law ei hun, ac a aethant ill dau yng-hyd.

7 Yna y llefarodd Isaac wrth Abraham ei dad, ac a ddywedodd fy nhâd: yntef a ddywedodd wele fi fy mab: yna ebr ef wele dân a choed, ond mae oen y poeth affrwm?

8 Ac Abraham a ddywedodd, Duw a edrych iddo ei hun am oen y poeth affrwm, felly’r aethant ill dau yng-hyd,

9 Ac a ddaethant i’r lle’r hwn a ddywedase Duw wrtho ef; ac yno ’r adeiladodd Abraham allor, ac a osododd y coed mewn trefn ac a rwymodd Isaac ei fab, ac ai gosododd ef ar yr allor, ar uchaf y coed.

10 Yna Abraham a estynnodd ei law ac a gymmerodd y gyllell i ladd ei fâb.

11 Ac angel yr Arglwydd a alwodd arno ef o’r nefoedd, ac a ddywedodd, Abraham, Abraham: yntef a ddywedodd wele fi.

12 Ac efe a ddywedodd nac effyn di dy law ar y llangc, ac na wna ddim iddo, o herwydd gwn weithian i ti ofni Duw, gan nad atteliaist dy fab, dy unic fab, oddi wrthif fi.

13 Yna y derchafodd Abraham ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele hwrdd yn [ei] ôl, [ef] wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn drysni: ac Abraham a aeth ac a gymmerth yr hwrdd, ac ai hoffrymmodd yn boeth offrwm yn lle ei fâb.

14 Ac Abraham a alwodd henw y lle hwnnw, ’r Arglwydd a wêl, am hynny y dywedir heddyw yn y mynydd y gwelir yr Arglwydd.

15 Ac angel yr Arglwydd a alwodd ar Abraham yr ail waith o’r nefoedd:

16 Ac a ddywedodd i mi fy hun y tyngais, medd yr Arglwydd, o herwydd gwneuthur o honot y peth hyn, ac nad attaliaist dy unic fâb,

17 Mai gan fendithio i’th fendithiaf, a chan amlhau’r amlhaf dy hâd, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod yr hwn [sydd] ar lann y môr; a’th hâd a feddianna borth ei elynion.

18 Ac yn dy hâd ti y bendithîr holl genhedloedd y ddaiar: o achos gwrando o honot ar fy llais i.

19 Yna Abraham a ddychwelodd at ei langciau; a hwy a godasant, ac a aethant yng-hyd i Beer-sebah, ac Abraham a drigodd yn Beer-sebah.

20 Darfu hefyd wedi y pethau hyn fynegu i Abraham, gan ddywedyd: wele, dûg Milcha hithe hefyd blant i Nachor dy frawd.

21 Hus ei gyntaf-anedic, a Buz ei frawd; Camuel hefyd tâd Aram.

22 A Chesed, a Hazo, a Phildas, ac Idlaph, a Bethuel:

23 Bethuel hefyd a genhedlodd Rebecca: yr wyth hyn a blantodd Milcha i Nachor frawd Abraham.

24 Ei ordderch-wraig hefyd, ai henw Reumah, a escorodd hithe hefyd Tebah, a Gaham, a Thahas, a Mahacha.

PEN. XXIII.

1 Marwolaeth Sara. 4 Abraham yn prynu iddi feddrod. 19 Claddedigaeth Sara.

Ac oes Sara ydoedd gan-mlhynedd a saith-mlhynedd ar hugain [dymma] flynyddoedd oes Sara.

2 A Sara a fu farw yng-haer Arbah; honno [yw] Hebron yn nhîr Canaan, ac Abraham aeth i alaru am Sara, ac i wylofain [am deni] hi.

3 Yna y cyfododd Abraham i fynu oddi ger bron ei [gorph] marw, ac a lefarodd wrth feibion Heth gan-ddywedyd:

4 Dieithr ac alltud ydwyfi gyd a chwi, rhoddwch i mi etifeddiaeth beddrod gyd a chwi, fel y claddwyf fy marw allan o’m gwydd.

5 A meibion Heth a attebasant Abraham, gan ddywedyd wrtho.

6 Clyw ni fy arglwydd: tywysog Duw [wyt] ti, yn ein plith: cladd dy farw yn [dy] ddewis o’n beddau ni: ni rwystr neb ohonom ni ei fedd i ti, i gladdu dy farw.

7 Yna y cyfododd Abraham, ac a ymgrymodd i bobl y tîr [sef] i feibion Heth;

8 Ac a ymddiddanodd a hwynt gan ddywedyd: os yw eich ewyllys at gladdu fy marw o’m gŵydd, gwrandewch fi, ac eiriolwch trosof fi ar Ephron fab Zohar:

9 Ar roddi o honaw ef i mi yr ogof Machpelah, yr hon [sydd] eiddo ef, ac [sydd] yng-hwrr ei faes, er ei llawn [werth] o arian rhodded hi i mi, yn etifeddiaeth beddrod yn eich plith chwi.

10 Ac Ephron oedd yn aros ym-mysc meibion Heth: yna Ephron yr Hethiad a attebodd Abraham, lle y clywodd holl feibion Heth, yng-wydd pawb a ddeuent i borth ei ddinas ef, gan ddywedyd:

11 Nage fy arglwydd clyw fi, rhoddais y maes i ti, a’r ogof yr hon [sydd] ynddo, i ti y rhoddais hi, yng-wydd meibion fy mhobl y rhoddais hi i ti: cladd di dy farw.

12 Yna Abraham a ymgrymmodd o flaen pobl y tîr.

13 Ac efe a lefarodd wrth Ephron lle y clybu pobl y tîr, gan ddywedyd: etto os tydi [yw ef] ô na’m gwrandewit fi: rhoddaf werth y maes, cymmer gennif ac mi a gladdaf fy marw yno.

14 Ac Ephron a attebodd Abraham, gan ddywedyd wrtho.

15 Gwrando fi fy arglwydd, y tîr [a dâl] bedwar can sicl o arian, beth yw hynny rhyngof fi a thithe? am hynny cladd dy farw.

16 Felly Abraham a wrandawodd ar Ephron: a phwysodd Abraham i Ephron yr arian y rhai a ddywedase efe lle y clybu meibion Heth: pedwar-cant sicl o arian cymmeradwy ymmhlith marchnad-wyr.

17 Felly y siccrhauwyd maes Ephron yr hwn [oedd] ym-Machpelah, yr hon [oedd] o flaen Mamre, y maes a’r ogof yr hon [oedd] ynddo, a phôb pren yr hwn [oedd] yn y maes, ac yn ei holl derfynau o amglylch,

18 Yn feddiant i Abraham, yng-olwg meibion Heth gyd a phawb a ddelynt i borth ei ddinas ef.

19 Ac wedi hynny Abraham a gladdodd Sara ei wraig, yn ogof maes Machpelah ar gyfer Mamre, honno [yw] Hebron, yn nhir Canaan.

20 Felly y siccrhauwyd y maes, a’r ogof yr hon oedd ynddo, i Abraham yn etifeddiant beddrod, oddi wrth feibion Heth.

PEN. XXIIII.

3 Abraham yn peri iw wâs dyngu y ceisie wraig i Isaac o genedl Abraham. 12 Gweddi y gwâs, a’r arwydd llwyddiant a gafodd efe. 33 Eo ddiwydrwydd ef i wneuthur ewyllys ei feistr. 50 Atteb cenedl Rebecca. 58 Cydtundeb Rebecca i fyned at Isaac. 67 Isaac yn priodi Rebecca.

Ac Abraham oedd hên, wedi myned yn oedrannus; a’r Arglwydd a fendithiase Abraham ym mhob dim.

2 A dywedodd Abraham wrth ei wâs hynaf [yn] ei dŷ, yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a’r [a oedd] ganddo: gosot yn awr dy law tann fy morddwyd.

3 Fel y parwyf it dyngu i Arglwydd Dduw y nefoedd a Duw y ddaiar, na chymmerech wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai ’r ydwyf yn trigo yn eu mysc.

4 Ond i’m gwlad fy hun yr ei, ac at fyng-henedl fy hun yr ei di, ac a gymmeri wraig i’m mab Isaac.

5 A’r gwâs a ddywedodd wrtho ef, onid odid ni fyun y wraig ddyfod ar fy ôl i i’r wlad hon: gan ddychwelyd a ddychwelaf dy fab di i’r tîr yr hwn y daethost allan o honaw?

6 Yna y dywedodd Abraham wrtho, gwilia arnat rhac i ti ddychwelyd fy mâb mau-fi yno.

7 Arglwydd Dduw y nefoedd, yr hwn a’m cymmerodd i o dŷ fy nhâd, ac o wlad fynghenedl, yr hwn hefyd a ymddiddanodd a mi, ac a dyngodd wrthif gan ddywedyd: ith hâd ti y rhoddaf y tîr hwnn; efe a enfyn ei angel o’th flaen di, fel y cymmerech wraig i’m mâb oddi yno.

8 At os y wraig ni fynn ddyfod ar dy ol di, yna glân fyddi oddi wrth fy llw hwn: yn unic na ddychwel di fy mab i yno.

9 A’r gwâs a osododd ei law tann forddwyd Abraham ei feistr, ac a dyngodd iddo am y pêth hynn.

10 A chymmerodd y gwâs ddec camel, o gamelod ei arglwydd, ac a aeth ymmaith: canys holl dda ei arglwydd [oedd] tann ei law ef: ac efe a gododd, ac a aeth i Mesopotamia, i ddinas Nachor.

11 Ac efe a wnaeth i’r camelod orwedd or tu allan i’r ddinas, wrth bydew dwfr ar bryd nawn, yng-hylch yr amser y bydde [merched] yn dyfod allan i dynnu dwfr.

12 Ac efe a ddywedodd ô Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, gwny [i lwyddiant] ddigwyddo o’m blaen i heddyw: a gwna di drugaredd a’m meistr Abraham.

13 Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr, a merched gwyr y ddinas yn dyfod allan i dynnu dwfr.

14 Bydded mai’e llangces yr hon y dywedwyf wrthi gogwydda attolwg, dy stên, fel yr yfwyf: os dywed hi ŷf, a mi a ddiodaf dy gamelod di hefyd; honno a ddarperaist i’th wâs Isaac: ac wrth hynn y caf wybod wneuthur o honot ti drugaredd a’m meistr.

15 A bu hynn: cynn darfod iddo lefaru, wele Rebecca yn dyfod allan, (yr honn a anesyd i Bethuel fab Milcha, gwraig Nachor, brawd Abraham,) ai stên ar ei hyscwydd.

16 A’r llangces [oedd] dêg odieth yr olwg, yn forwyn, a heb i wr ei hadnabod, a hi a aeth i wared i’r ffynnon, ac a llanwodd ei stên, ac a ddaeth i fynu.

17 A’r gwâs a redodd iw chyfarfod, ac a ddywedodd: attolwg gad i mi yfed ychydig ddwfr o’th stên.

18 A hi a ddywedodd ŷf fy meistr, a hi a fryssiodd, ac a ddescynnodd ei stên ar ei llaw, ac ai diododd ef.

19 Pan ddarfu iddi ei ddiodi ef, hi a ddywedodd: tynnaf hefyd i’th gamelod hyd oni ddarffo iddynt yfed.

20 Yna hi a fryssiodd, ac a dywalltodd ei stên i’r cafn, ac a redodd eil-waith i’r pydew i dynnu, ac a dynnodd iw holl gamelod ef.

21 Felly y gŵr a synnodd oi phlegit hi, a dewi, i wybod a lwyddase’r Arglydd ei daith ef, ai nac do.

22 A bu, pan ddarfu i’r camelod yfed, gymmeryd o’r gŵr glust-dlws aur, yn hanner sicl ei phwys: a dwy fraichled aur iw dwylo hi, yn ddêc [sicl] eu pwys.

23 Ac efe a ddywedodd, merch pwy [ydwyt] ti? mynega i mi attolwg: a oes lle i mi i leteu [yn] nhŷ dy dâd?

24 A hi a ddywedodd wrtho, myfi [ydwyf] ferch i Bethuel fâb Milcha, yr hwn a ymddug hi i Nachor.

25 Ac hi a ddywedodd wrtho ef, [y mae] gwellt ac ebran ddigon gennym ni, a lle i letteu.

26 Yna y gŵr, a ymgrymmodd, ac a addolodd yr Arglwydd,

27 Ac a ddywedodd, bendigêdig fyddo Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn ni adawodd fy meistr heb ei drugaredd, ai ffyddlondeb: yr [ydwyf] fi ar y ffordd: dug yr Arglwydd fi [i] dŷ brodyr fy meistr.

28 A’r llangces a redodd, ac a fynegodd yn nhŷ ei mam fel [y buase] y pethau hynn.

29 Ac i Rebecca ’r [oedd] brawd, ai enw Laban: a Laban a redodd at y gŵr allan i’r ffynnon.

30 A phan welodd efe y glust-dlws, ar breichledau am ddwylo ei chwaer, a phan glywodd efe eiriau Rebecca ei chwaer yn dywedyd: fel hyn y dywedodd y gŵr wrthifi, yna efe a aeth at y gŵr; ac wele efe yn sefyll gyd ar camelod wrth y ffynnon.

31 Ac efe a ddywedodd, tyret ti i mewn fendigêdig yr Arglwydd, pa ham y sefi di allan? mi a baratoais y tŷ, a llê i’r camelod.

32 Yna y daeth y gŵr i’r tŷ, ac yntef a ryddhaodd y camelod, ac a roddodd wellt ac ebran i’r camelod; a dwfr i olchi ei draed ef, a thraed y dynion y rhai oeddynt gyd ag ef.

33 Yna y gosodwyd [bwyd] oi flaen ef i fwytta; ac efe a ddywedodd ni fwyttâf hyd oni thraethwyf fy negesau: yna y dywedwyd traetha.

34 Ac efe a ddywedodd gwâs Abraham [ydwyf] fi.

35 A’r Arglwydd a fendithiodd fy meistr yn ddirfawr, ac efe a gynnyddodd, canys rhoddodd iddo ddefaid, a gwarthec, ac arian, ac aur, a gweision, a morwynion, a chamelod, ac assynod.

36 Sara hefyd gwraig fy meistr a ymddug fab i’m meistr, wedi ei heneiddio hi, ac efe a roddodd i hwnnw yr hyn oll [oedd] ganddo.

37 A’m meistr a’m tyngodd i, gan ddywedyd: na chymmer wraig i’m mab i, o ferched y Canaaneaid, y rhai’r ydwyf yn trigo yn eu tîr.

38 Ond ti a ei i dŷ fy nhâd, ac at fy nhŷlwyth, fel y cymmerech wraig i’m mâb.

39 Yna y dywedais wrth fy meistr, onid odid ni ddaw ’r wraig ar fy ôl:

40 Yna y dywedodd efe wrthif, yr Arglwydd yr hwn y rhodiais ger ei fron, a enfyn ei angel gyd a thi, ac a lwydda dy daith di; fel y cymmerech wraig i’m mab i o’m tylwyth fy hun, ac o dŷ fy nhâd.

41 Yna y byddi rydd oddi wrth fy melldith, os ti a ddaw at fy nhŷlwyth; canys oni roddant i ti, yna y byddi rydd oddi wrth fy melldith.

42 A heddyw y daethum at y ffynnon, ac a ddywedais, Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, os ti sydd yr awrau yn llwyddo fy-nhaith, yr hon yr wyfi yn myned arni.

43 Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr; a’r forwyn yr hon a ddelo allan i dynnu, ac y dywedwyf wrthi: dod ti i mi, attolwg ychydic dwfr iw yfed oth stên:

44 Ac a ddywedo wrthif inne, ŷf di, a thynnaf hefyd i’th gamelod, bydded honno y wraig yr hon a ddarparodd yr Arglwydd i fab fy meistr.

45 Cyn darfod i mi ddywedyd yn fyng-halon, wele Rebecca yn dyfod allan, ai stên ar ei hyscwydd; a hi aeth i wared i’r ffynnon, ac a dynnodd: yna dywedais wrthi dioda fi attolwg.

46 Hithe a fryssiodd, ac a ddescynnodd ei stên oddi arni, ac a ddywedodd ŷf, a mi a ddyfrhaf dy gamelod hefyd: felly ’r yfais, a hi a ddyfrhaodd y camelod.

47 A mi a ofynnais iddi, ac a ddywedais, merch pwy [ydwyt] ti? hithe a ddywedodd merch Bethuel mab Nachor, yr hwn a ymddug Milcha iddo ef. Yna y gossodais y glustdlws wrth ei hwyneb, a’r breichledau am ei dwylo hi:

48 Ac a ben-ŵyrais, ac a ymgrymmais i’r Arglwydd, ac a fendithiais Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn a’m harweiniodd ar hyd yr iawn ffordd, i gymmeryd merch brawd fy meistr iw fâb.

49 Ac yn awr od ydych chwi yn gwneuthur trugaredd, a ffyddlondeb a’m meistr, mynegwch i mi, ac onid e, mynegwch i mi, fel y troiwyf ar y llaw ddehau, neu ar y llaw asswy.

50 Yna’r attebodd Laban, a Bethuel, ac a ddyweddasant: oddi wrth yr Arglwydd y daeth y peth hyn, ni allwn ddywedyd wrthit ddrwg, na dâ.

51 Wele Rebecca o’th flaen; cymmer, a dôs, a bydded wraig i fab dy feistr, fel y llefarodd yr Arglwydd.

52 A phan glybu gwâs Abraham eu geiriau hwynt, yna efe a ymgrymmodd hyd lawr i’r Arglwydd.

53 A thynnodd y gwas allan dlŷsau arian, a thlysau aur, a gwiscoedd, ac ai rhoddodd i Rebecca: rhoddodd hefyd [bethau] gwerthfawr iw brawd hi, ac iw mam.

54 Yna y bwyttasant, ac yr yfasant, efe, a’r dynion y rhai [oeddynt] gydag ef, ac a letteuasant, a chodasant yn foreu, ac efe a ddywedodd gollyngwch fi at fy meistr.

55 Yna y dywedodd ei brawd, ai mam, triged y llangces gyd a ni ddeng-nhiwrnod o’r lleiaf, wedi hynny hi a gaiff fyned.

56 Yntef a ddywedodd wrthynt, na rwystrwch fi gan i’r Arglwydd lwyddo fy nhaith, gollyngwch fi, fel yr elwyf at fy meistr.

57 Yna y dywedasant galwnn ar y llangces, a gofynnwn iddi hi.

58 Felly y galwasant ar Rebecca, a dywedasant wrthi: a ei di gyd a’r gŵr hwn? a hi a ddywedodd af.

59 Yna y gollyngasant Rebecca ei chwaer, ai mammaeth, a gwâs Abraham, ai ddynion:

60 Ac a fendithiasant Rebecca, ac a ddywedasant wrthi: ein chwaer, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy hâd borth ei gaseion.

61 Yna y cododd Rebecca ai llangcessau, ac a farchogasant ar gamelod, ac aethant ar ôl y gŵr; a’r gwas a gymmerodd Rebecca, ac a aeth ymmaith.

62 Ac Isaac oedd yn dyfod o ffordd pydew, Lahairoi ac efe yn trigo yn nhîr y dehau.

63 Yna y daeth Isaac allan i fyfyrrio yn y maes ym mîn yr hwyr; ac a dderchafodd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele gamelod yn dyfod.

64 Rebecca hefyd a dderchafodd ei llygaid, ac wele Isaac, ac hi a ddescynnodd oddi ar y camel.

65 A hi a ddywedodd wrth y gwâs pwy [yw] ’r gwr hwn sydd yn rhodio yn y maes i’n cyfarfod ni? a’r gwâs a ddywedodd fy meistr [yw] efe: a hi a gymmerth foled, ac a ymwiscodd.

66 A’r gwâs a fynegodd i Isaac yr hyn oll a wnaethe efe.

67 Yna Isaac ai dûg hi i mewn i babell Sara ei fam; ac efe a gymmerth Rebecca if od yn wraig iddo, ac ai hoffôdd hi, ac Isaac a ymgyssurodd ar ol ei fam.

PEN. XXV.

1 Abraham yn priodi Cetura, ac yn ennill plant lawer o honi. 5 Abraham yn rhoddi ei holl dda i Isaac, ac yn marw. 12 Hiliogaeth Ismael. 21 Rebecca yn beichiogi ac yn eseor Esau, ac Iacob. 30 Esau yn gwerthubraint ei anedigaeth er ychydic gawl.

Ac Abraham a gymerodd eilwaith wraig, a’i henw Cetura.

2 A hi a escorodd iddo ef, Zimran, ac Iocsan, a Medan, a Midian, ac Iesbac, a Suah.

3 A Iocsan a genhedlodd Seba, a Dedan: a meibion Dedan oedd, Assurim, a Letusim, a Leumim.

4 A meibion Midian, [oeddynt,] Ephah, ac Epher, a Hanoch, ac Abida, ac Eldaah: yr holl rai hyn [oeddynt] feibion Cetura.

5 Ac Abraham aroddodd yr hyn oll [oedd] ganddo i Isaac.

6 Ac i feibion gordderch-wragedd y rhai [oeddynt] i Abraham y rhoddodd Abraham roddion; ac efe ai hanfonodd hwynt oddi wrth Isaac ei fâb, tu a’r dwyrain, i dîr y dwyrain, ac efe etto yn fyw.

7 Ac dymma ddyddiau blynyddoedd einioes Abraham y rhai y bu efe fyw: can-mlhynedd, a phymtheng mlhynedd, a thrugain.

8 Ac Abraham a drengodd, ac a fu farw, mewn oed têg, yn hên, ac yn ddigonawl [o ddyddiau,] ac efe a gasclwyd at ei bobl.

9 Yna Isaac, ac Ismael ei feibion ai claddasant ef yn ogof Machpelah ym maes Ephron fab Zohar yr Hethiad, yr hwn [sydd] ar gyfer Mamre.

10 Y maes yr hwn a brynase Abraham gan feibion Heth: yno y claddwyd Abraham, a Sara ei wraig.

11 Ac wedi Marw Abraham, darfu hefyd i Dduw fendithio Isaac ei fâb ef: ac Isaac a drigodd wrth ffynnon Laharoi.

12 Ac dymma genhedlaethau Ismael fab Abraham, yr hwn a ymddugase Agar yr Aiphtes morwyn Sara i Abraham.

13 Ac dymma henwau meibion Ismael, erbyn eu henwau: trwy eu cenedlaethau: Nabaioth cyntaf-anedic Ismael, yna Cedar, ac Adbeel, a Mibsam,

14 Misma hefyd, a Dumah, a Massa,

15 Hadar, a Thema, Ietur, Naphis, a Chedmah.

16 Dymma hwynt meibion Ismael, ac dymma eu henwau hwynt wrth eu trefydd, ac wrth eu cestill; yn ddeuddec o dywysogion ar eu pobl.

17 Ac dymma flynyddoedd einioes Ismael; can-mlynedd, a dwy ar bymthec ar hugain o flynyddoedd: yna y trengodd, ac y bu farw, ac y casclwyd ef at ei bobl.

18 Presswyliasant hefyd o Hafilah hyd Sur, yr hon [sydd] ar gyfer yr Aifft, ffordd yr ei di i Assyria: ac o flaen ei holl frodyr y cyfanneddodd efe.

19 Ac dymma genedlaethau Isaac fab Abraham, Abraham a genhedlodd Isaac.

20 Ac Isaac oedd fab deugain mlwydd, pan gymmerodd efe Rebeca ferch Bethuel y Syriad, o Mesopotamia, chwaer Laban y Syriad, yn wraig iddo.

21 Ac Isaac a weddiodd ar yr Arglwydd dros ei wraig am ei bod hi ’n amhlantadwy a’r Arglwydd a wrandawodd arno ef, a Rebecca ei wraig a feichiogodd.

22 A’r meibion a ymgurasant yn ei chroth hi, yna y dywedodd hi, os felly, beth [a wnaf] fi fel hyn? ac hi a aeth i ymofyn a’r Arglwydd.

23 A’r Arglwydd a ddywedodd wrthi hi, dwy genhedlaeth [ydynt] yn dy grôth di, a dau [fath ar] bobl a wahenir o’th fru di; a’r naill fydd cryfach na’r llall, a’r hynaf a wasanaetha ’r ieuangaf.

24 A phan gyflawnodd ei dyddiau hi i escor, yna wele gefellion [oeddynt] yn ei chrôth hi.

25 A’r cyntaf a ddaeth allan yn gôch oll, fell cochl flewoc, a galwasant ei enw ef Esau.

26 Ac wedi hynny y daeth ei frawd ef allan, ai law yn ymaflyd yn sodl Esau, a galwyd ei enw ef Iacob. Ac Isaac oedd fab trugein mlwydd pan anwyd hwynt.

27 A’r llangciau a gynnyddasant: ac Esau oedd wr yn medru hela [a] gwr gwyllt, ac Iacob, [oedd] wr perffaith yn cyfanneddu mewn pebyll.

28 Isaac hefyd oedd hôff ganddo Esau, o herwydd helwriaeth [fydde] ŷn ei safn ef: a Rebecca a hoffe Iacob.

29 A Iacob a ferwodd gawl: yna Esau a ddaeth o’r maes, ac efe yn ddeffygiol.

30 A dywedodd Esau wrth Iacob, gad ti i mi yfed attolwg o’r [cawl] côch ymma: o herwydd deffygiol [wyf] fi: am hynny y galwyd ei enw ef Edom.

31 Yna y dywedodd Iacob, gwerth di heddyw i mi dy anedigaeth-fraint,

32 A dywedodd Esau, wele fi yn myned i farw, ac i ba beth [y cadwaf] y ganedigaeth-fraint hwn i mi?

33 A dywedodd Iacob twng i mi heddyw, ac efe a dyngodd iddo, ac felly y gwerthodd efe ei anedigaethfraint i Iacob.

34 Ac Iacob a roddes i Esau fara a chawl ffacbys, ac efe a fwyttaodd, ac a yfodd, ac a gododd ac a aeth ymmaith: felly y diystyrodd Esau ei anedigaeth-fraint.

PEN. XXVI.

1 Duw yn ymgeleddu Isaac yn amser newyn 3, Ac yn addo iddo wlâd Canaan, a’r fendith yng-Hrist 7, Isaac yn galw ei wraig yn chwaer 12, llwyddiant Isaac 15 Y Philistiaid yn llestr dwfr i Isaac, ac yn ei yrru o’r wlâd 24, Duw ’n cyssuro Isaac 26, Abimelec yn gwneuthur cyntrair ag Isaac 34. Gwragedd Esau.

Yna y bu newyn yn y tir, heb law y newyn cyntaf yr hwn a fuase yn nyddiau Abraham: ac Isaac a aeth at Abimelec brenin y Philistiaid i Gerar.

2 Canys yr Arglwydd a ymddangosase iddo ef, ac a ddywedase, na ddos i waered i’r Aipht: aros yn y wlâd yr hon a ddywedwyf fi wrthyt.

3 Ymdeithia yn y wlâd honn, a mi a fyddaf gyd a thi, ac ’ath fendithiaf: o herwydd i ti ac ’ith hâd y rhoddaf yr holl wledydd hynn, ac mi a gyflawnaf fy llw ’r hwn a dyngais wrth Abraham dy dâd ti.

4 Ac mi a amlhaf dy hâd ti fel sêr y nefoedd, a rhoddaf ’ith hâd ti ’r holl wledydd hynn: a holl genedlaethau y ddaiar a fendithir yn dy hâd ti,

5 Am wrando o Abraham ar fy llais i, a chadw fyng-hadwriaethau, fyng-orchmynnion, fy neddfau, a’m cyfreithiau.

6 Felly y trigodd Isaac yn Gerar.

7 A gwŷr y lle hwnnw a ymofynnasant am ei wraig ef, ac efe a ddywedodd, fy chwaer [yw] hi canys ofnodd ddywedydd fyng-wraig [yw], rhac [eb ef] i ddynion y lle hwnnw fy lladd am Rebecca: canys hi [ydoedd] dêg yr olwg.

8 Yna y bu gwedi ei fod yno ddyddiau lawer, i Abimelech brenin y Philistiaid edrych trwy ’r ffenestr, a chanfod, ac wele Isaac yn chware a Rebecca ei wraig.

9 Ac Abimelec a alwodd ar Isaac, ac a ddywedodd, wele, yn ddiau dy wraig [yw] hi: a pha ham y dywedaist fy chwaer [yw] hi? yna y dywedodd Isaac wrtho, dywedais [hynn] rhac fy lladd oi phlegit.

10 A dywedodd Abimelec, pa ham y gwnaethost hynn a ni? braidd na orweddodd un o’r bobl orwedd gyd a’th wraig di, felly y dygasyt arnom ni bechod.

11 Yna y gorchmynnodd Abimelec i’r holl bobl, gan ddywedyd, yr hwn a gyffyrddo a’r gŵr hwn, neu ai wraig, a leddir yn farw.

12 Ac Isaac a hauodd yn y tîr hwnnw, ac a gafodd yn y flwyddyn hono y can-cymmaint: felly y bendithiase y’r Arglwydd ef.

13 A’r gŵr a gynyddodd, ac a aeth gan fyned a thyfu, hyd onid aeth yn fawr odieth.

14 Ac yr oedd ganddo ef gyfoeth o ddefaid a chyfoeth o warthec, a gweision lawer: a’r Philistiaid a genfigennasant wrtho ef.

15 A’r holl bydewau y rhai a gloddiase gweision ei dâd ef, yn nyddiau Abradam ei dâd ef, y Philistiaid ai caeasant, ac ai llanwasant a phridd.

16 Ac Abimelec a ddywedodd wrth Isaac, dos oddi wrthym-ni; canys ti a aethost yn gryfach o lawer na nyni.

17 Ac Isaac a aeth oddi yno, ac a wersyllodd yn-nyffryn Gerar, ac a bresswyliodd yno.

18 Ac Isaac a ddychwelodd, ac a gloddiodd y pydewau dwfr, y rhai a gloddiasent yn nyddiau Abraham ei dâd ef, ac a gaeasae y Philistiaid wedi marw Abraham, ac a henwodd henwau arnynt, yn ol yr henwau y rhai a henwase ei dâd ef arnynt hwy.

19 Gweision Isaac a gloddiasant hefyd yn y dyffryn, ac a gawsant yno ffynnon o ddwfr rhedegoc.

20 Yna bugeiliaid Gerar a ymrysonnasant a bugeiliaid Isaac, gan ddywedyd, y dwfr [sydd] eiddom ni, yna efe a alwodd henw y pydew Esec: o herwydd ymgynhennu o honynt ag ef.

21 Cloddiasant hefyd bydew arall; ac ymrysonasant am hwnnw: ac efe a alwodd ei enw ef Sitnah.

22 Ac efe a fudodd oddi yno, ac a gloddiodd bydew arall, ac nid ymrysonasant am hwnnw, ac efe a alwodd ei enw ef Rehoboth: ac a ddywedodd, canys yn awr yr ehangodd yr Arglwydd arnom fel y ffrwythom yn y tîr.

23 Ac efe a aeth i fynu oddi yno i Beersebah,

24 A’r Arglwydd a ymddangosodd iddo y noson honno, ac a ddywedodd, myfi [ydyw] Duw Abraham dy dâd, nac ofna, canys byddaf gyd a thi, ac mi a’th fendithiaf, ac a luosogaf dy hâd er mwyn Abraham fyng-wâs.

25 Ac efe a adailadodd yno allor, ac a alwodd ar enw ’r Arglwydd; ac yno y gosododd efe ei babell: a gweision Isaac a gloddiasant yno bydew.

26 Yna y daeth Abimelec ato ef o Gerar, ac Ahuzah ei gyfell, a Phicol tywysog ei lû.

27 Ac Isaac a ddywedodd wrthynt, pa ham y daethoch chwi attaf fi? gan i chwi fyng-hasau, a’m hanfon oddi wrthych?

28 Yna y dywedasant gan weled ni a welsom mai ’r Arglwydd [sydd] gyd a thi, a dywedasom, bydded yn awr gyngrair rhyngom ni [sef] rhyngom ni a thi: a wnawn gyfamod a thi.

29 Na wnei i ni ddrwg, megis na chyffyrddasom a thi, a megis, y gwnaethom ddaioni yn unic a thi, ac a’th anfonasom mewn heddwch, ti yn awr [wyt] fendigedic yr Arglwydd.

30 Ac efe a wnaeth iddynt wledd; a hwynt a fwyttasant, ac a yfasant.

31 Yna y codasant yn foreu, a hwynt a dyngasant bôb un i’w gilydd: ac Isaac ai gollyngodd hwynt a hwy a aethant oddi wrtho ef mewn heddwch.

32 Y dydd hwnnw y darfu i weision Isaac ddyfod, a mynegu iddo ef o achos y pydew yr hwn a gloddiasent, a dywedasant wrtho, cawsom ddwfr.

33 Ac efe ai galwodd ef Sebah, am hynny henw y ddinas [yw] Beerseba hyd y dydd hwn.

34 Ac yr oedd Esau yn fâb deugein-mlwydd, ac efe a gymmerodd yn wraig, Iudith ferch Beeri’r Hethiad, a Basemah ferch Elon yr Hethiad.

35 Ac hwynt oeddynt chwerwder yspryd i Isaac, ac i Rebecca.

PEN. XXVII.

Isaac yn gofynsaig o helwriaeth Esau, gan addaw ei fendith iddo 5, Iacob trwy gyngor ei fam yn achub laen Esau am y fendith 30, Esau yn dyfod, a thrwy ymbil mawr yn caffel yr ail fendith. 41 Esau yn casâu, ac yn bygwth cnioes Iacob. 42 Rebecca yn anfon Iacob i Mesopotamia.

A bu wedi heneiddio o Isaac, a thywyllu ei lygaid fel na wele, alw o honaw ef Esau ei fâb hynaf, a dywedyd wrtho, fy mâb: yntef a ddywedodd wrtho ef, Wele fi.

2 Ac efe a ddywedodd wele mi a heneiddiais yn awr, nid adwen ddydd fy marwolaeth.

3 Ac yn awr cymmer attolwg, dy offer, dy gawell saethau, a’th fwa, a dos allan i’r maes, a hela i mi helfa.

4 A gwna i mi ddainteithion or fâth a garaf, a dŵg [hwynt] attafi, fel y bwytawyf, er mwyn dy fendithio o’m henaid cynn fy marw.

5 A Rebeca a glybu pan ddywedodd Isaac wrth Esau ei fâb: ac Esau a aeth i’r maes i hela helfa iw dwyn.

6 Yna Rebecca a lefarodd wrth Iacob ei mâb, gan ddywedyd: wele clywais dy dâd yn llefaru wrth Esau dy frawd gan-ddywedyd.

7 Dŵg i mi helfa, a gwna di i mi ddainteithion: fel y bwyttawyf, ac i’th fendithiwyf, ger bron yr Arglwydd o flaen fy marw.

8 Ond yn awr fy mâb gwrando ar fy llais i, am yr hynn a orchymynnaf i ti.

9 Dos yn awr i’r praidd, a chymmer oddi yno ddau fynn gafr da, a mi ai harlwyaf hwynt yn ddainteithion i’th dâd, fel y câr efe.

10 A thi ai dygi [hwynt] i’th dâd, fel y bwyttao megis i’th fendithio o flaen ei farw.

11 Yna y dywedodd Iacob wrth Rebecca ei fam, wele Esau fy mrawd yn ŵr blewoc, a minne yn ŵr llyfn.

12 Fy nhad ond odid a’m teimla, yna y byddaf yn ei olwg ef fel twyll-wr: felly y dygaf arnaf felldith, ac nid bendith.

13 Ai fam a ddywedodd wrtho ef, arnafi [y byddo] dy felldith fy mâb, yn unic gwrando ar fy llais, dôs a dŵg i mi.

14 Ac efe a aeth, ac a gymmerth [y mynnod] ac ai dygodd at ei fam: ai fam a wnaeth ddainteithion fel y care ei dâd.

15 Rebecca hefyd a gymmerodd hoff wiscoed Esau ei mab hynaf, y rhai [oeddynt] gyd a hi yn tŷ, ac a wiscodd Iacob ei mab ieuangaf.

16 Gwiscodd hi hefyd grwyn y mynnod geifr am ei ddwylo ef, ac am lyfndra ei wddf ef,

17 Ac a roddes y dainteithion, a’r bara y rhai a arlwyase hi yn llaw Iacob ei mab.

18 Ac efe a ddaeth at ei dâd, ac a ddywedodd, fy-nhad, yntef a ddywedodd, wele fi, pwy ydwyt ti fy mâb?

19 Yna y dywedodd Iacob wrth ei dâd, myfi [ydwyf] Esau dy gyntaf-anedic, gwneuthym fel y dywedaist wrthif: cyfot yn awr, eistedd, a bwytta o’m helfa, fel i’m bendithio dy enaid.

20 Ac Isaac a addywedodd wrth ei fâb, pa fodd fy mab y cefaist morr fuan a hynn? Yntef a ddywedodd, am i’r Arglwydd dy Dduw beri [iddo] ddigwyddo o’m blaen.

21 Yna y dywedodd Isaac wrth Iacob, tyret yn nes yn awr fel i’th deimlwyf fy mâb; ai tydi [yw] fy mâb Esau, ai nad e.

22 Yna y nessaodd Iacob at Isaac ei dâd: yntef ai teimlodd, ac a ddywedodd, y llais, [yw] llais Iacob, a’r dwylo, dwylo Esau [ydynt].

23 Ac nid adnabu efe ef, am fod ei ddwylo fel dwylo ei frawd Esau, yn flewoc: am hynny efe ai bendithiodd ef.

24 Dywedodd hefyd, ai ti [sydd] ymma fy mâb Esau? yntef a ddywedodd myfi.

25 Ac efe a ddywedodd dŵg di attaf fel y bwyttawyf o helfa fy mâb megis i’th fendithio fy enaid: yna y dûg atto ef ac efe a fwyttâodd: dûg iddo ef win hefyd ac efe a yfodd.

26 Yna y dywedodd Isaac ei dâd wrtho ef tyret ti yn nês yn awr fel i’th gussanawyf fy mâb.

27 Yna y daeth efe yn nês, ac yntef ai cussanodd ef, ac a sawyrodd aroglau ei wiscoedd ef, ac ai bendithiodd ef, ac a ddywedodd wele aroglau fy mâb, fel arogl maes yr hwn a fendithiodd yr Arglwydd.

28 A rhodded Duw i ti o wlith y nefoedd, ac o fraster y ddaiar, ac amldra o ŷd a gwin.

29 Gwasanaethed pobloedd dy di, ac ymgrymmed cenhedloedd i ti, bydd di feistr ar dy frodyr, ac ymgrymmed meibion dy fam i ti: melldigedic [fyddo] a’th felldithio, a bendigedic, a’th fendithio.

30 A phan ddarfu i Isaac fendithio Iacob, ac i Iacob yn brinn fyned allan o ŵydd Isaac ei dâd, yna Esau ei frawd a ddaeth oi hela.

31 Ac yntef hefyd a wnaeth ddainteithion ac a ddûg at ei dâd, ac a ddywedodd wrth ei dâd: cyfoded fy nhâd, a bwyttaed o helfa ei fab, fel im bendithio dy enaid.

32 Ac Isaac ei dad a ddywedodd wrtho ef, pwy [ydwyt] ti? yntef a ddywedodd myfi [ydwyf] dy fab cyntaf-annedic di Esau.

33 Ac Isaac a ddychrynodd a dychryn mawr iawn, ac a ddywedodd: pwy yn awr [ydyw] efe yr hwn a heliodd helfa, ac a ddûc i mi? a mi a fwytteais o’r cwbl cyn dy ddyfod, ac ai bendithiais ef, bendigedig hefyd fydd efe.

34 Pan glybu Esau eiriau ei dâd, efe a waeddodd â gwaedd fawr a chwerw iawn, ac a ddywedodd wrth ei dâd, bendithia di fynne, ie finne, fy nhâd.

35 Ac efe a ddywedodd, dy frawd addaeth mewn twyll, ac a ddûg dy fendith.

36 Dywedodd yntef, ond iawn y gelwir ei enw ef Iacob, canys efe a’m disodlodd i ddwy waith bellach: dûg efe fyng anedigaeth-fraint, ac wele yn awr efe a ddygodd fy mendith: dywedodd hefyd, oni chedwaist gyd a thi fendith i minne?

37 Ac Isaac a attebodd, ac a ddywedodd wrth Esau, wele, mi ai gossodais ef yn feistr i ti, a rhoddais ei holl frodyr yn weision iddo ef, ag ŷd, a gwin y cynheliais ef: a pheth a wnaf i tithe fy mab weithian?

38 Ac Esau a ddywedodd wrth ei dâd, ai un fendith a oedd gennit fy nhâd? bendithia finne, finne hefyd fy nhâd: felly Esau a dderchafodd ei lef ac a ŵylodd.

39 Yna ’r attebodd Isaac ei dâd, ac a ddywedodd wrtho, wele ym mraster y ddaiar y bydd dy breswylfod, ac ym mysg gwlith y nefoedd oddi uchod.

40 Wrth dy gleddyf hefyd y byddi fyw, a’th frawd a wasanaethi: onid bydd [amser] pan feistrolech di, ac y torrech ei iau ef oddi am dy wddf.

41 Ac Esau a gasaodd Iacob am y fendith [a]’r hon y bendithiasai ei dâd ef: ac Esau a ddywedodd yn ei galon, nesau y mae dyddiau galar fy nhâd; yna lladdaf Iacob fy mrawd.

42 A mynegwyd i Rebeca eiriau Esau ei mâb hynaf, hithe a anfonodd, ac a alwodd am Iacob ei mâb ieuangaf, ac a ddywedodd wrtho ef: wele Esau dy frawd a ymgyssura ynot ti trwy dy ladd.

43 Ond yn awr fy mab gwrando ar fy llais, cyfot ti, ffô rhagot at Laban fy mrawd i Haram;

44 Ac aros gyd ag ef ychydic ddyddiau, hyd oni chilio llid dy frawd:

45 Hyd oni chilio digofaint dy frawd oddi wrthit, ac anghofio o honaw ef yr hyn a wnaethost iddo: yna ’r anfonaf ac i’th gymmeraf oddi yno: pa ham y byddwn yn ymddifad o honoch ill dau [mewn] un dydd?

46 Dywedodd Rebeca hefyd wrth Isaac, blinais ar fy einioes o herwydd merched Heth: os cymmer Iacob wraig o ferched Heth, i ba beth y [chwennychwn] fy einioes?

PEN. XXVIII.

Isaac yn gwahardd i Iacob briodi un o’r Canaaneaid. 6 Esau yn cymmeryd y drydedd wraig o blith yr Ismaeliaid. 12 Iacob yn gweled yscal yn cyredd i’r nef. 13 Duw yn addo i Iacob wlâd Canaan, a’r fendith yng-Hrist. 20 Adduned Iacob.

Yna y galwodd Isaac ar Iacob, ac ai bendithiodd ef, efe a orchymynnodd iddo hefyd, ac a ddywedodd wrtho, na chymmer di wraig o ferched Canaan.

2 Cyfod, dos i Mesopotamia i dŷ Bethuel tâd dy fam, a chymmer it wraig oddi yno, o ferched Laban brawd dy fam.

3 A Duw holl alluog a’th fendithio, ac a’th ffrwythlono, ac a’th luosogo, fel y byddech yn gynnulleidfa pobloedd,

4 Ac a roddo i ti fendith Abraham, i ti ac i’th hâd gyd a thi, i etifeddu o honot ti dir dy ymdaith, yr hwn aroddodd Duw i Abraham.

5 Felly Isaac a anfonodd Iacob, ac efe a aeth i Mesopotamia at Laban fâb Bethuel y Syriad brawd Rebecca, mam Iacob ac Esau.

6 Pan welodd Esau fendithio o Isaac Iacob, ai anfon ef i Mesopotamia, i gymmeryd iddo wraig oddi yno, a gorchymyn iddo wrth ei fendithio gan ddywedyd; na chymmer wraig o ferched Canaan,

7 A gwrando o Iacob ar ei dad, ac ar ei fam, ai fyned i Mesopotamia;

8 Yna y gwelodd Esau mai drwg oedd ferched Canaan yng-olwg Isaac ei dad ef.

9 Ac Esau a aeth at Ismael, ac gymmerodd Mahalath merch Ismael mab Abraham, chwaer Nebaioth, yn wraig iddo at ei wraged [eraill].

10 Ac Iacob a aeth allan o Beer-seba ac a aeth tua Haran.

11 Ac a ddaeth drwy ddamwain i fangre, ac a letteuodd yno: oblegit machludo’r haul, ac efe a gymmerth o gerric y lle hwnnw, ac a ossododd tann ei benn, ac a gyscodd yn y fan honno.

12 Yna y breuddwydiodd, ac wele yscal yn sefyll ar y ddaiar, ai phenn yn cyrhaeddyd i’r nefoedd: ac wele angylion Duw yn dringo ac yn descyn ar hyd ddi.

13 Ac wele yr Arglwydd yn sefyll arni hi, ac efe a ddywedodd my fi [ydwyf] Arglwydd Dduw Abraham dy dâd, a Duw Isaac, i ti ac i’th hâd y rhoddaf y tir yr hwn yr ydwyt ti yn gorwedd arno.

14 A’th hâd ti fydd fel llŵch y ddaiar; a thi a dorri allan i’r gorllewyn, ac i’r dwyrein, ac i’r gogledd, ac i’r dehau: a holl deuluoedd y ddaiar a fendithir ynot ti, sef yn dy hâd di.

15 Ac wele mi [a fyddaf] gyd a thi, mi a’th gadwaf pa le bynnac yr elech, ac a’th ddygaf trachefn i’r wlad honn: o herwydd ni’th adawaf, hyd oni wnelwyf yr hyn a leferais wrthit.

16 Yna y deffroawdd Iacob oi gwsc, ac a ddywedodd diau fod yr Arglwydd yn y lle hwn, ac nis gwyddwn.

17 Ac efe a ofnodd, ac a ddywedodd, morr ofnadwy yw yr lle hwn? nid [oes] ymma onid tŷ i Dduw, ac dymma borth y nefoedd,

18 Ac Iacob a gyfododd yn foreu, ac a gymmerth y garrec yr hon a ossodase efe tann ei benn, ac ai gosododd hi yn ei sefyll, ac a dywaltodd olew ar ei phenn:

19 Ac efe a alwodd henw y lle hwnnw Bethel, ond er hynny Luz [fuase] henw y ddinas o’r cyntaf.

20 Yna yr addunodd Iacob adduned gan ddywedyd: os Duw fydd gyd a’m fi, ac am ceidw yn y ffordd ymma, yr hon yr ydwyf yn ei cherdded, a rhoddi i mi fara iw fwytta, a dillad i wisco:

21 A dychwelyd o honof mewn heddwch i dŷ fy nhâd; yna y bydd yr Arglwydd yn Dduw i mi.

22 A’r garrec ymma yr hon a ossodais yn ei sefyll a fydd yn dŷ Dduw, ac o’r hyn oll a roddech i mi gan ddegymmu mi ai degymmaf i ti.

PEN. XXIX.

Iacob yn dyfod at Laban, yn cyfarfod a Rahel, ac yn ymgaredigo a hi. 13 Laban yn myned i gyfarfod Iacob ac yn ei ddwyn ef iw dy. 18 Iacob yn gwasanaethu Laban saith mlynedd er cael Rahel. 22 Laban trwy dwyll yn rhoddi Lea at Iacob yn lle Rahel. 27 Iacob yn gwasanaethu saith mlynedd eraill ac yn caffel Rahel. 31 ffrwythlondeb Lea.

A Iacob a gymmerth ei draed, ac a aeth i wlâd meibion y dwyrein.

2 Ac efe a edrychodd ac wele bydew yn y maes, ac wele dair diadell o ddefaid yn gorwedd wrtho; o herwydd o’r pydew hwnnw y dyfrhaent y diadelloedd: a charrec fawr [oedd] ar eneu y pydew.

3 Ac yno y cesclyd yr holl ddiadelloedd: a hwynt a dreiglent y garrec oddi ar eneu y pydew, ac a ddwfrhaent y praidd; yna y rhoddent y garrec trachefn ar eneu y pydew yn ei lle.

4 Yna y dywedodd Iacob wrthynt, fy mrodyr o bale’r [ydych] chwi? a hwynt a ddywedasant yr ydym ni o Haran.

5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, a adwaenoch chwi Laban fab Nachor? a hwynt a ddywedasant, adwaenom.

6 Yntef a ddywedodd wrthynt hwy a [oes] lwyddiant iddo ef? a hwynt a ddywedasant [oes] lwyddiant. Ac wele Rahel ei ferch ef yn dyfod gyd a’r praidd,

7 Yna y dywedodd efe wele etto y dydd yn gynnar, nid [yw] bryd casglu yr anifeiliaid: dyfrhewch y praidd, ac ewch, [a] bugeiliwch.

8 A hwynt a ddywedasant ni allwn, hyd oni chascler yr holl ddiadelloedd, a threiglo o honynt y garrec oddi ar wyneb y pydew; yna y dwfrhawn ni y praidd.

9 Tra yr ydoedd efe etto yn llefaru wrthynt, y daeth Rahel hefyd gyd a’r praidd yr hwn [oedd] eiddo ei thâd hi, oblegit hi oedd yn bugeilio.

10 A phan welodd Iacob Rahel ferch Laban brawd ei fam, a phraidd Laban brawd ei fam yna y nessaodd Iacob, ac a dreiglodd y garrec oddi ar eneu y pydew, ac a ddwfrhaodd braidd Laban brawd ei fam.

11 Yna y cussanodd Iacob Rahel, ac a dderchafodd ei lef, ac a wylodd,

12 A mynegodd Iacob i Rahel, mai carwr ei thad oedd efe: ac mai mab Rebecca oedd efe: hithe a redodd, ac a fynegodd iw thâd.

13 A phan glybu Laban hanes Iacob mab ei chwaer, yna efe a redodd i’w gyfarfod ef, ac ai cofleidiodd ef, ac ai cussanodd, ac ai dug ef iw dŷ: yna y mynegodd efe i Laban yr holl eiriau hyn.

14 A dywedodd Laban wrtho ef, yn ddiau fy asgwrn a’m cnawd ydwyt ti, ac efe a drigodd gyd ag ef fis llawn.

15 Yna y dywedodd Laban wrth Iacob, ai o herwydd mai fyng-harwr wyt ti i’m gwasanaethi yn rhad? mynega di mi beth [fydd] dy gyflog?

16 Ac i Laban [yr oedd] dwy ferched: a henw yr hynaf [oedd] Lea, ac enw yr ieuangaf Rahel.

17 A llygaid Lea [oeddynt] weiniaid ond Rahel oedd dêg [ei] phrŷd, a glan-deg yr olwg.

18 Ac Iacob a hoffodd Rahel ac a ddywedodd, mi a’th wasanaethaf di saith mlynedd am Rahel dy ferch ieuangaf.

19 Yna y dywedodd Laban, gwell yw ei rhoddi hi i ti, nai rhoddi i ŵr arall: aros gyd a mi.

20 Felly Iacob a wasanaethodd am Rahel saith mlynedd, ac yr oeddynt yn ei olwg ef fel ychydig ddyddiau: am fod yn hoff ganddo efe hi.

21 Yna y dywedodd Iacob wrth Laban moes fyng-wraig, (canys cyflawnwyd fy nyddiau) fel yr elwyf atti hi.

22 A Laban a gasclodd holl ddynion y fann honno, ac a wnaeth wledd.

23 Ond bu yn yr hwyr iddo gymmeryd Lea ei ferch, ai dwyn hi atto ef, ac yntef a aeth atti hi.

24 A Laban a rodd iddi Zilphah ei forwyn, yn forwyn i Lea ei ferch.

25 A bu y boreu, wele mai Lea [oedd] hi, yna y dywedodd efe wrth Laban, pa ham y gwnaethost hyn i mi? onid am Rahel i’th wasanaethais? a pha ham i’m twyllaist?

26 A dywedodd Laban ni wneir felly yn y lle hwnn: gan roddi yr ieuangaf o flaen yr hynaf.

27 Cyflawna di yr wythnos honn, yna y rhoddwn i ti honn hefyd, am dy wasanaeth yr hwn a wasanaethi gyd a mi etto saith mlynedd eraill.

28 Ac Iacob a wnaeth felly, ac a gyflawnod yr wyth nos honno, yna efe a roddodd Rahel ei ferch yn wraig iddo.

29 Laban hefyd a roddodd i Rahel ei ferch, Bilha ei forwyn, yn forwyn iddi hi.

30 Ac efe a aeth hefyd at Rahel, ac a hoffodd Rahel yn fwy na Lea, ac a wasanaethodd gyd ag ef etto saith mlynedd eraill.

31 Pan welodd yr Arglwydd, mai câs oedd Lea, yna efe a agorodd ei chroth hi: a Rahel [oedd] amhlantadwy.

32 A Lea a feichiogodd, ac a escorodd ar fâb ac a alwodd ei enw ef Ruben: o herwydd hi a ddywedodd, diau edrych o’r Arglwyd ar fyng-hystudd; canys yn awr fyng-wr a’m hoffa fi.

33 A hi a feichiogodd eilwaith, ac a escorodd ar fâb, ac a ddywedodd: am glywed o’r Arglwydd mai câs [ydwyf] fi, am hynny y rhoddodd efe i mi hwn hefyd: a hi a alwodd ei enw ef Simeon.

34 A hi a feichiogodd trachefn, ac a escorodd ar fâb, ac a ddywedodd, fyng-wr weithian a lŷn yn awr wrthifi, canys plentais iddo dri mâb. Am hynny galwyd ei enw ef Lefi.

35 A hi a feichiogodd trachefn, ac a esgcrodd ar fâb, ac a ddywedodd: weithian y moliannaf yr Arglwydd: am hynny y galwodd ei enw ef Iuda, ac hi a beidiodd a phlanta.

PEN. XXX.

Rachel a Lea heb allu planta eu hunain yn rhoddi eu llaw-forwynion iw gwr, a’r rhai hynny yn planta. 15 Lea yn rhoddi i Rachel fandragorau am gael Iacob i gyscu gyd a hi. 27 Duw yn cyfoethogi Laban er mwyn Iacob. 31 Cyflog Iacob. 43 Ai gyfoeth.

Pan welodd Rahel na phlantase hithe i Iacob: yna Rahel a genfigennodd wrth ei chwaer, ac a ddywedodd wrth Iacob, moes feibion i mi, ac onid e mi [a fyddaf] farw.

2 Yna’r enynnodd llid Iacob wrth Rahel, ac efe a ddywedodd: ai myfi [sydd] yn lle Duw? yr hwn a attaliodd ffrwyth [dy] grôth oddi wrthit ti.

3 Yna y dywedodd hithe, wele fy llaw-forwyn Bilha, dos i mewn atti hi, ’r hon a blanta ar fyng-liniau fi, fel y caffer plant i minne hefyd o honi hi.

4 Felly hi a roddes ei llaw-forwyn Bilha iddo ef yn wraig, a Iacob a aeth i mewn atti.

5 A Bilha a feichiogodd, ac a ymddûg fâb i Iacob.

6 Yna Rahel a ddywedodd, Duw am barnodd fi, ac a wrandawodd hefyd ar fy llais, ac a roddodd i mi fâb: am hynny hi a alwodd ei enw ef Dan.

7 Hefyd Bilha, llaw-forwyn Rahel eilwaith a feichiogodd, ac a ymddûg yr ail mâb i Iacob.

8 Yna Rahel a ddywedodd ymdrechais ymdrechiadau tra gorchestol a’m chwaer, [a] gorchfygais hefyd: A hi a alwodd ei enw ef Nepthali.

9 Yna Lea a welodd beidio o honi a phlanta, ac a gymmerth ei llaw-forwyn Zilpha, ac ai rhoddes hi yn wraig i Iacob.

10 Felly Zilpha, llaw-forwyn Lea a ymddûg fâb i Iacob.

11 Yna Lea a ddywedodd tyrfa a ddaeth: a hi a alwodd ei enw ef Gad.

12 Hefyd Zilpha llaw-forwyn Lea a ymddûg yr ail mâb i Iacob.

13 Yna Lea a ddywedodd yr ydwyf yn ddedwydd o blegit merched a’m cymmerant yn ddedwydd, a hi a alwodd ei enw ef Aser.

14 Ruben hefyd a aeth yn nyddiau cynhaiaf gwenith, ac a gafodd Fandragorau yn y maes, ac ai dug hwynt at Lea ei fam ef: yna Rahel a ddywedodd wrth Lea, dyro atolwg, i mi o Fandragorau dy fâb.

15 Hithe a attebodd iddi, ai bychan [yw] dwyn o honot fyng-wr? ond dwyn a fynnit hefyd Fandragorau fy mâb? A Rahel a ddywedodd, cysced gan hynny gyd a thi heno a’m Fandragorau dy fâb.

16 Yna Iacob a ddaeth o’r maes yn yr hwyr; a Lea a aeth allan iw gyfarfod ef, ac a ddywedodd, attaf fi y deui, o blegit gan brynu i’th brynais am Fandragorau fy mâb: ac efe a gyscodd gyd a hi y nos honno.

17 A Duw a wrandawodd ar Lea a hi a feichiogodd, ac a ymddûg y pummed mâb i Iacob.

18 Yna Lea a ddywedodd, rhodd Duw fyng-obr [im,] o herwydd rhoddi o honofi fy llaw-forwyn i’m gŵr: a hi a alwodd ei enw ef Isacar.

19 Lea hefyd a feichiogodd etto, ac a ymddûg y chweched mâb i Iacob.

20 Yna Lea a ddywedodd, cynhyscaeddodd Duw fy fi a chynhyscaeth dda; fyng-ŵr a drig weithian gyd a mi, o blegit chwech o feibion a ymddygais iddo ef, a hi a alwodd ei enw ef Zabulon.

21 Ac wedi hynny hi a escorodd ar ferch, ac a alwodd ei henw hi Dina.

22 Yna y cofiodd Duw Rahel, a Duw a wrandawodd arni, ac a agorodd ei chrôth hi.

23 A hi a feichiogodd, ac a escorodd ar fâb, ac a ddywedodd: Duw a ddeleodd fyng-warthrudd.

24 A hi a alwodd ei enw ef Ioseph, gan ddywedyd: yr Arglwydd a ddyru yn ychwaneg i mi fâb arall.

25 A phan ymddugase Rahel Ioseph, yna Iacob a ddywedase wrth Laban: gollwng fi ymmaith fel yr elwyf i’m brô, ac i’m gwlad fy hun.

26 Dyro fyng-wragedd i mi, a’m plant, y rhai y gwasanaethais am danynt gyd a thi, fel yr elwyf ymmaith: o blegit ty di a wyddost fyng-wasanaeth, yr hwn a wneuthum i ti.

27 A Laban a ddywedodd wrtho, ôs cefais ffafor yn dy olwg [na syfl:] da y gwn i’r Arglwydd fy mendithio i, o’th blegit ti.

28 Hefyd efe a ddywedodd, dogna dy gyflog arnaf a mi ai rhoddaf.

29 Yntef a ddywedodd wrtho, ti a wyddost pa ddelw y gwasanaethais dy di: a pha fodd y bu dy anifeiliaid di gyd a’m fi.

30 O blegid ychydic [oedd] yr hyn ydoedd gennit ti cyn fy [nyfod] i, ond yn lluossogrwydd y cynnyddodd [hynny;] o herwydd yr Arglwydd a’th fendithiodd di trwy fyngwaith i: bellach gan hynny pa brŷd y darparaf [ddim] hefyd i’m tŷ fy hun?

31 Yna y dywedodd yntef, pa beth a roddaf i i? ac Iacob a attebodd, ni roddi i mi ddim; ôs gwnei i mi y peth hyn, dychwelaf, bugeiliaf [a] chadwaf dy braidd di.

32 Tramwyaf trwy dy holl braidd di heddyw, gan nailltuo oddi yno bôb llwdn mân-frith a mawr-frith, a phôb llwdn coch-ddu ym mhlith y defaid; y mawr-frith hefyd a’r mân-frith ym mhlith y geifr: a [hynny] a fydd fyng hyflog.

33 A’m cyfiawnder fy hun a destiolaetha gyd a mi o hyn allan ger dy fron di pan ddelych at fyng-obr i: yr hyn oll ni [byddo] fân-frith, neu fawr-frith ym mhlith y geifr, neu goch-ddu ym mhlith y defaid, lladrad [a fydd] hwnnw gyd a’m fi.

34 Yna y dywedodd Laban, wele: ô na bydde [felly] a’r ôl dy air di.

35 Ac yn y dydd hwnnw y nailltuodd efe y bychod traed-frithion, a mawr-frithion, a’r holl eifr mân-frithion, a mawr-frithion, yr hyn oll yr [oedd] gwynn arno, a phôb coch-ddu ym mhlith y defaid, ac ai rhoddes tann law ei feibion ei hun.

36 Ac a osododd daith tri diwrnod rhyngddo ei hun or Iacob: felly Iacob a borthodd yr rhan arall o braidd Laban.

37 Yna Iacob a gymmerth iddo ei hun wiail o boplyswydd a chyll, a ffawydd, ac a ddirisclodd ynddynt ddiriscliadau gwynnion, gan ddatguddio y gwnning yr hwn [ydoedd] yn y gwiail.

38 Ac a osododd y gwiail y rhai a ddirisclase efe, yn y nentydd, o fewn y cafnau dyfroedd, lle y deue y praidd i yfed, ar gyfer y praidd fel y cyfebrent pan ddelent hwy i yfed.

39 Felly y praidd a gyfebrasant wrth y gwiail; a’r praidd a hiliodd [rai] traed-frithion, a mân-frithion, a mawr-frithion.

40 Yna Iacob a ddidolodd yr ŵyn, ac a ossododd wynebau y praidd, at y traed-frithion, ac at, bôb cochddu ym mhlith praidd Laban: ac a ossododd ddiadellau iddo ei hun a’r nailltu, ac nid gyd a phraidd Laban y gosododd hwynt.

41 A Phôb [amser] y cyfebre y defaid cryfaf, Iacob a osode y gwiail o flaen y praidd yn y nentydd, i gael o honynt gyfebru wrth y gwiail.

42 Ond pan gyfebre y praidd yn ddiweddar ni osode efe [ddim:] felly y diweddaraf oeddynt eiddo Laban, a’r cryfaf eiddo Iacob.

43 A’r gŵr a gynyddodd yn dra rhagorol; ac yr ydoedd iddo ef braidd helaeth, a morwynion, a gweision, a chamelod, ac Assynnod.

PEN. XXXI.

Plant Laban yn grwgnach yn erbyn Iacob. 3 Duw yn gorchymyn iddo ddychwelyd iw wlad. 5 Efe yn mynegu ei helynt iw wragedd priod. 13 Gofal Duw tros Iacob. 19 Rahel yn lledratta delwau ei thad. 23 Laban yn canlyn ar ol Iacob. 44 Y cyfammod rhwng Laban ac Iacob.

Ac efe a glybu eiriau meibion Laban yn dywedydd, Iacob a ddûg yr hyn oll oedd ’in tâd ni, ac o’r hyn [ydoedd] ’in tâd ni y gwnaeth efe yr holl anrhydedd hyn.

2 Hefyd Iacob a welodd wyneb-pryd Laban, ac wele nid [ydoedd] tu ag attaw ef megis cynt.

3 A’r Arglwydd a ddywedase wrth Iacob, dychwel i wlad dy dadau, ac at dy genhedl dy hun, ac mi a fyddaf gyd a thi.

4 Yna Iacob a anfonodd, ac a alwodd Rahel a Lea i’r maes, at ei braidd.

5 Ac a ddywedodd wrthynt, my fi a welaf wyneb-pryd eich tâd chwi, mai nad fel cynt [y mae] ese tu ag attafi: a Duw fy nhâd a fu gyd a’m fi.

6 A chwi a wyddoch mai a’m holl allu y gwasanaethais gyd a’ch tâd.

7 Onid eich tâd a anghywirodd a’m fi, ac a newidiodd fyng-hyflog i ddeng-waith: ond nis goddefodd Duw iddo wneuthur i mi ddrwg.

8 Os fel hyn y dywede: y man-frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a heppilient fân frithion: ond os fel hyn y dywede: y traed-frithion a fydd dy gyflog di, yna ’r holl braidd a heppilient [rai] traed-frithion.

9 Felly Duw a ddûg anifeiliaid eich tâd chwi, ac ai rhoddes i mi.

10 Bu hefyd yn amser cyfebru o’r praidd, dderchafu o honof fy llygaid, ac mewn breuddwyd y gwelais, ac wele yr hyrddod, (y rhai oeddynt yn llamu’r praidd,) yn draed-frithion, ac yn fân frithion, ac yn fawr frithion.

11 Yna y dywedodd angel Duw wrthif mewn breuddwyd, Iacob: minne a attebais, wele fi.

12 Yntef a ddywedodd, derchafa weithian dy lygaid, a gwêl di yr holl hyrddod y rhai ydynt yn llamu y praidd yn draed-frithion, yn fân-frithion, ac yn fawr-frithion; o blegit gwelais yr hyn oll y mae Laban yn ei wneuthur i ti.

13 My fi [yw] Duw o Bethel, lle ’r enneniaist golofn [ac] lle ’r addunaist adduned i mi, cyfot ti bellach dos allan o’r wlad hon, dychwel i wlad dy genhedl dy hun.

14 Yna’r attebodd Rahel a Lea, ac a ddywedasant wrtho, a [oes] etto i ni rann, neu etifeddiaeth yn nhŷ ein tâd.

15 Onid yn estronesau y cyfrifodd efe nyni? o blegid efe a’n gwerthodd, a chan dreulio a dreuliodd hefyd ein harian ni.

16 Canys yr holl olud yr hwn a ddûg Duw oddi a’r ein tâd ni, ny ni a’n meibion ai piau: bellach yr awr hon gwna di yr hyn oll a ddywedodd Duw wrthit.

17 Yna Iacob a gyfododd, ac a ossododd ei feibion ai wragedd, ar y camelod.

18 Ac a ddûg ymmaith ei holl anifeiliaid, ai holl gyfoeth yr hwn a enillase, [sef] ei anifeiliaid meddiannol, y rhai a enillase efe ym Mesopotamia, i fyned at Isaac ei dâd, i wlad Canaan.

19 Laban hefyd a aethe i gneifio ei ddefaid: a Rahel a ledrattaodd y delwau y rhai [oeddynt] gan ei thâd hi.

20 Felly Iacob a aeth yn lledradaidd oddi wrth y Syriad: canys ni fynegodd iddo mai ffoi yr oedd efe.

21 Felly y ffôdd efe a’r hyn oll [oedd] ganddo, ac a gyfododd ac a aeth drwy ’r afon, ac a gyfeiriodd at fynydd Gilead.

22 A mynegwyd i Laban, ar y trydydd dydd, mai ffôi a wnaethe Iacob.

23 Yna y cymerth efe ei frodyr gyd ag ef, ac a erlidiodd ar ei ôl ef daith saith niwrnod; ac ai goddiweddodd ef ym mynydd Gilead.

24 Onid Duw a ddaethe at Laban y Syriad liw nôs mewn breuddwyd, ac a ddywedase wrtho, ymgadw arnat, rhag yngen o honot wrth Iacob na da na drwg.

25 Yna Laban a oddiweddodd Iacob, ac Iacob a osododd ei babell yn y mynydd: Laban hefyd a wersyllodd yng hyd ai frodyr ym mynydd Gilead.

26 Yna Laban a ddywedodd wrth Iacob, Pa beth a wnaethost? oblegit ti a aethost yn lledradaidd oddi wrthif i, a chludaist fy merched, fel caethglud cleddyf.

27 Am ba beth y ffoaist yn ddirgel, ac y lledratteaist oddi wrthi fi, ac ni fynegaist i mi, fel yr hebryngaswn dydiaâ llawenydd, ac a chaniadau, a thympan, ac a thelyn?

28 Hefyd ni adewaist i mi gusanu fy meibion, a’m merched, gwnaethost yr awr hon yn ffôl.

29 Mi a allwn wneuthur i chwi ddrwg; ond Duw eich tâd chwi a lefarodd wrthif neithwyr gan ddywedyd, ymgadw arnat rhac yngen wrth Iacob, na da, na drwg.

30 Weithian gan hynny, gan fyned yr aethost ymmaith, o blegit gan hiraethu yr hiraethaist am dy dâd. [Ond] pa ham y lledratteaist fy nuwiau i?

31 Yna Iacob a attebodd, ac a ddywedodd wrth Laban, am ofni o honof; o blegid meddyliais rhac dwyn o honot dy ferched oddi wrthyf.

32 Gyd a’r hwn y ceffych dy dduwiau, na chaffed fyw ger bron ein brodyr, mynn di wybod pa beth [o’r eiddoti sydd] gyd a’m fi, a chymmer i ti: ac nis gwydde Iacob mai Rahel ai lledratase hwynt.

33 Laban gan hynny a aeth i mewn i babell Iacob, ac i babell Lea, ac i babell y ddwy lawforwyn, ac ni chafodd hwynt: yna yr aeth allan o babell Lea, ac y daeth i babell Rahel.

34 A Rahel a gymerase y delwau, ac a’u gosodase hwynt yn sadell y camel, ac a eisteddodd arnynt; a Laban a deimlodd yr holl babell, ac nis cafodd [hwynt.]

35 O blegit dywedase hi wrth ei thâd, na ddigied fy arglwydd, am nas gallaf gyfodi ger dy fron di; canys arfer gwragedd a [ddigwyddodd] i mi, yna a chwiliodd efe, ac ni chafodd y delwau.

36 Yna Iacob a ddigiodd, ac a ymrysonodd a Laban: o blegit Iacob a attebodd ac a ddywedodd wrth Laban, pa beth [yw] fyng-hamwedd i? pa beth [yw] fy mhechod? gan erlid o honot ar fy ôl?

37 Canys teimlaist fy holl ddodrefn i, pa beth a gefaist o holl ddodrefn dy dŷ di? gosot [ef] ymma ger bron fy mrodyr i a’th frodyr dithe, fel y barnant rhyngom ni ein dau.

38 My fi bellach [a fum] ugain mlhynedd gyd a thi; dy ddefaid a’th eifr ni erthylasant, ac ni fwytteais hyrddod dy braidd.

39 Ni ddygum sclyfaeth attat ti: my fi ai gwnawn ef yn dda; o’m llaw i y gofynnit hynny, yr hyn a ledrateid y dydd, a’r hyn a ledrateid y nos, [a fynnit hefyd.]

40 Bûm [lle]] i’m treuliodd gwrês trwy yr dydd, a rhew yr nôs; a’m cwsc a gilie o’m llygaid.

41 Bellach [y cerddodd] i mi ugain mhlynedd yn dy dŷ di, pedair blynedd ar ddec y gwasanaethais di am dy ddwy ferched, a chwe blynedd am dy braidd; a thi a newidiaist fyng-hyflog ddeg o weithiau.

42 Oni buase [fod] Duw fy nhâd, Duw Abraham, ac arswyd Isaac gyd a’m fi, diau yr awr hon y gollyngasit fi ymmaith yn waglaw: onid Duw a welodd fyng-hystydd a llafur fy nwylaw, ac a’th geryddodd [di] neithiwyr.

43 Yna Laban a attebodd, ac a ddywedodd wrth Iacob, y merched [hyn ydynt] fy merched mau fi, a’r meibion [hyn ynt] fy meibion mau fi, a’r praidd [yw] fy mhraidd mau fi: a’r hyn oll a weli eiddo fi oedd: ond heddyw pa beth a wnaf i’m merched hyn fy hun? ac iw meibion hwynt, y rhai a escorasant.

44 Tyret gan hynny yn awr, gwnawn gyfammod, mi a thi, a bydded yn destiolaeth rhyngofi, a thithe.

45 Yna Iacob a gymmerth garrec ac ai cododd hi yn golofn.

46 Hefyd Iacob a ddywedodd wrth ei frodyr cesclwch gerric, a hwynt a gymmerasant gerric, ac a wnaethant garnedd, ac a fwyttasant yno ar y garnedd.

47 A Laban ai galwodd hi Iegar Sahadwuha: ac Iacob ai galwodd hi Gilead.

48 O blegit Laban a ddywedase: y garnedd hon a sydd dyst rhyngofi a thithe heddyw: am hynny y galwodd [Iacob] ei henw hi Gilead,

49 A Mispah hefyd, o blegit efe a ddywedase, edryched yr Arglwydd rhwngofi a thithe, pan fôm ni bob un o olwg ein gilydd.

50 Os gorthrymmi di fy merched, neu os cymmeri wragedd heb law fy merched i: nid [oes un] gŵr gyd a ni; edrych, Duw [sydd] dŷst rhyngofi a thithe.

51 Dywedodd hefyd Laban wrth Iacob: wele y garnedd hon, ac wele y golofn yr hon a osodais rhyngof fi a thi:

52 Tŷst [a fydd] y garnedd hon, a thŷst [a fydd] y golofn, na ddeuafi tros y garnedd hon attat ti, ac na ddoi dithe tros y garnedd hon, neu’r golofn hon attafi, er niwed.

53 Duw Abraham, a Duw Nachor a farno rhyngom ni ([sef] Duw eu tadau hwynt) felly y tyngodd Iacob i ofn ei dâd Isaac.

54 Hefyd Iacob a aberthodd aberth yn y mynydd, ac a alwodd ar ei frodyr i fwytta bara: a hwynt a fwyttasant fara, ac a drigasant tros nôs yn y mynydd.

55 A Laban a gyfododd yn foreu, ac a gusanodd ei feibion ai ferched ef, ac ai bendithiodd hwynt: felly Laban a aeth ymmaith, ac a ddychwelodd i’w frô ei hun.

PEN. XXXII

1 Duw yn cyssuro Iacob trwy ei angylion. 6 Esau a phedwar cant o wyr yn dyfod i gyfarfod Iacob. 10 Iacob yn gweddio ar Dduw gan gyfadde ei anheilyngdod ei hun. 13 Efe yn anfon anrhegion at Esau. 24 Efe yn ymaflyd cwymp a’r angel. 28 A’r angel yn ei henwi ef Israel.

Yna Iacob a gerddodd iw daith yntef: ac angylion Duw a gyfarfuant ag ef.

2 Ac Iacob a ddywedodd pan welodd hwynt: dymma werssyll Duw: ac a alwodd henw y lle hwnnw Mahanaim.

3 Ac Iacob a anfonodd gennadau oi flaen at ei frawd Esau, i wlad Seir [i] faes Edom.

4 Ac a orchmynnodd iddynt gan ddywedyd: fel hyn y dywedwch wrth fy arglwydd [sef] wrth Esau, fel hyn y dywed dy wâs di Iacob; gyd a Laban yr ymdeithiais, ac y trigais hyd yn hyn.

5 Ac y mae i mi eidionnau, ac assynnod, defaid, a gweision, a morwynion: ac anfon a wneuthum i fynegu i’m harglwydd, i gael ffafr yn dy olwg.

6 A’r cennadau a ddychwelasant at Iacob gan ddywedyd, daethom at dy frawd [sef] at Esau yr hwn hefyd [sydd] yn dyfod i’th gyfarfod di, a phedwar cant o wŷr gyd ag ef.

7 Yna Iacob a ofnodd yn fawr, a chyfyng oedd arnaw, ac a rannodd y bobl y rhai [oeddynt] gyd ag ef, a’r defaid, a’r eidionnau, a’r camelod yn ddwy fintai.

8 Ac a ddywedodd, os daw Esau at y naill fintai, a tharo honno, yna y fintai arall a fydd yn ddihangol.

9 Yna y dywedodd Iacob, ô Duw fy-nhâd Abraham, a Duw fy-nhâd Isaac, ô Arglwydd, yr hwn a ddywedaist wrthif, dichwel i’th wlâd, ac at dy genedl dy hun, ac mi a wnaf ddaioni i ti.

10 Ni ryglyddais ddim o’th holl drugareddau di, nac o’r holl wirionedd yr hyn a wnaethost a’th wâs di: o blegit a’m ffonn y daethym tros yr Iorddonen hon; ond yn awr ’r ydwif yn ddwy fintai.

11 Achub fi atolwg o law fy mrawd, o law Esau, o blegit yr ydwyfi yn ei ofni ef, rhac dyfod o honaw, a’m taro fi, [a’r] fam gyd a’r plant.

12 O blegit ty di a ddywedaist, gwnaf ddaioni i ti yn ddiau: a’th hâd ti a osodaf fel tyfod y môr, yr hwn o amlder ni rifir.

13 Ac yno y trigodd efe y noson honno: ac o’r hyn a ddaeth iw law ef y cymmerth efe anrheg iw frawd Esau,

14 Dau cant o eifr, ac ugain o fychod, deu cant o ddefaid, ac ugain o hyrddod:

15 Dêc ar hugain o gamelod blithion ai llydnod, deugain o warthec, a dêc o deirw, ugain o assynnod, a dec o ebolion.

16 Felly efe a roddes yn llaw ei weision, bôb gyrr o’r nailltu, ac a ddywedodd wrth ei weision: ewch trosodd o’m blaen i, a gosodwch gyfrwng rhwng pob gyrr ai gilydd.

17 Ac efe a orchymynnodd i’r blaenaf gan ddywedyd: os Esau fy mrawd a’th gyferfydd di, ac a ymofyn a thy di, gan ddywedyd: I bwy [y perthyni] di? ac i ba le ’r ei? ac eiddo pwy [yw] y rhai hyn o’th flaen di?

18 Yna y dywedi, anrheg dy wâs Iacob yw honn, wedi ei hanfon i’m harglwydd Esau: ac wele yntef hefyd ar ein hol ni.

19 Felly y gorchymynnodd hefyd i’r ail, ac i’r trydydd, ac i’r rhai oll oeddynt yn canlyn y gyrroedd, gan ddywedyd: yn y modd hwn y dywedwch wrth Esau, pan gyfarfyddoch ag ef.

20 A dywedwch hefyd, wele dy wâs Iacob ar ein hol ni o blegit (eb ef) bodlonaf ei wyneb ef a’r anrheg yr hon [sydd] yn myned o’m blaen: ac wedi hynny edrychaf yn ei wyneb ef, onid antur efe a dderbyn fy wyneb inne.

21 Felly yr anrheg a aeth oi flaen ef, ac efe a drigodd y noson honno yn y gwersyll.

22 Ac efe a gyfododd y noson honno, ac a gymmerth ei ddwy wragedd, ai ddwy law-forwyn, ai un mâb ar ddêc, ac a aeth tros rŷd Iabboc.

23 Ac ai cymmerth hwynt, ac ai trosglwyddodd trwy’r afon: felly efe a drosglwyddodd yr hyn [oedd] ganddo.

24 Ac Iacob a adawyd ei hunan, yna yr ymdrechodd gŵr ag ef, nes codi’r wawr.

25 A phan welodd na bydde drech nac ef: yna y cyffyrddodd efe ag afal ei glun ef, fel y llaessodd afal clun Iacob, wrth ymdrechu o honaw ag ef.

26 A’r [Angel] a ddywedodd, gollwng fi ymmaith, o blegid y wawr a gyfododd: yntef a attebodd nith ollyngaf oni’m bendithi fi.

27 Hefyd [yr angel] a ddywedodd wrtho, beth [yw] dy henw di? ac efe a attebodd Iacob.

28 Yntef a ddywedodd, mwyach ni elwir dy henw di Iacob, ond Israel: o blegit ymdrechaist gyd a Duw fel tywysog, felly [yr ymdrechi] gyda dynion a thi a orchfugi.

29 Yna Iacob a ymofynnodd, ac a ddywedodd mynega attolwg dy henw, ac yntef a attebodd, i ba beth y gofynni hyn am fy henw i? ac yno efe ai bendithiodd ef.

30 Ac Iacob a alwodd henw y fann Peniel: o blegit gwelais Dduw wyneb yn wyneb, a diangodd fy einioes.

31 A’r haul a gyfodase arno fel yr oedd yn myned trwy Peniel, ac efe [oedd] yn gloff oi glûn.

32 Am hynny meibion Israel ni fwytânt y gewyn a giliodd, yr hwn [sydd] o fewn afal y glun hyd y dydd hwn, o blegit cyfwrdd ag afal clun Iacob ar y gewyn a giliodd.

PEN. XXXIII

4 Esau ac Iacob yn cyfarfod, ac yn cymmodi ai gilydd. 11 Esau yn derbyn anrhegion Iacob. 19 Iacob yn prynu dryll o dîr. 20 Ac yn cyfodi allor.

Ac Iacob a dderchafodd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele Esau yn dyfod, a phedwar cant o wŷr: ac efe a rannodd y plant at Lea, at Rahel, ac at y ddwy law-forwyn.

2 Ac ym mlaen, y gosododd efe y ddwy law-forwyn, ai plant hwynt: a Lea ai phlant hithe yn ol [y rhai hynny:] yno Rahel a Ioseph yn olaf.

3 Ac yntef a gerddodd oi blaen hwynt, ac a ymostyngodd i lawr seith-waith, oni ddaeth efe hyd at ei frawd.

4 Yna Esau a redodd iw gyfarfod ef, ac ai cofleidiodd ef, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac ai cussanodd ef, a hwynt a wylasant.

5 Ac a dderchafodd ei lygaid ac a ganfu y gwragedd, a’r plant, ac a ddywedodd, pwy yw y rhai hyn cennyt ti? yntef a ddywedodd y plant y rhai a roddes Duw i’th wâs di.

6 Felly y llaw-forwynion a ddynessasant, hwynt-hwy, ai plant, ac a ymgrymmasant.

7 Yna y nessaodd Lea, ai phlant hithe, ac a ymgrymmasant, ac wedi hynny y nessaodd Ioseph a Rahel, ac a ymgrymmasant.

8 Yna [Esau] a ddywedodd, pa beth [yw] cennyt yr holl fintai accw yr hon a gyfarfûm i? yntef a ddywedodd [anfonais hwynt] i gael ffafor yng-olwg fy arglwydd.

9 Ac Esau a ddywedodd y mae gennifi ddigon fy mrawd: bydded i ti yr hyn [sydd] gennyt.

10 Ond Iacob a ddywedodd nage attolwg os cefais ffafor yn dy olwg: ond cymmer fy anrheg o’m llaw fi, gan weled o honof dy wyneb di, fel gweled wyneb Duw, a’th fod yn fodlon i mi.

11 Cymmer attolwg fy anrheg, yr hon a dducpwyd i ti: o blegit Duw ai roddes i mi, ac am fod gennifi bôb peth: felly efe a fu daer arnof ef, ac yntef a gymmerodd:

12 Ac a ddywedodd cychwnnwn, ac awn, a mi a âf o’th flaen di.

13 Yntef a ddywedodd wrtho, fy arglwydd a ŵyr mai tyner [yw] y plant, a [bod] y praidd a’r gwarthec blithion gŷd a’m fi: os gyrryr hwynt un diwrnod yn rhy chwyrn, yna marw a wna yr holl braidd.

14 Aed attolwg fy arglwydd o flaen ei wâs, a minne a ddeuaf yn araf gyd a’r anifeiliaid y rhai [ydynt] o’m blaen i, a chyd ar plant, hyd oni ddelwyf at fy arglwydd i Seir.

15 Yna Esau a ddywedodd, gadawaf yn awr gyd a thi [rai] o’r bobl y rhai [ydynt] gennif fi: yntef a atebodd, I ba beth [y gwnei] hynny? cafwyf ffafor yng-olwg fy arglwydd.

16 Felly Esau y dydd hwnnw a ddychwelodd ar hyd ei ffordd ei hun i Seir.

17 Ac Iacob a gerddodd i Succoth, ac a adailadodd iddo dŷ, ac a wnaeth fythod iw anifeiliaid: am hynny efe a alwodd henw y lle Succoth.

18 Hefyd Iacob a ddaeth yn llwyddiannus i ddinas Sichem, yr hon [sydd] yng-wlad Canaan, (pan ddaeth efe o Mesopotamia,) ac a werssyllodd o flaen y ddinas.

19 Ac a brynodd rann o’r maes yr hwn yr ellynnase ei babell ynddo, o law meibion Hemor, tâd Sichem, am gant darn o arian.

20 Ac a ossododd yno allor, ac ai henwodd [allor] cadarn Dduw ’r Israel.

PEN. XXXIIII.

2 Sichem mab Hemor yn treisio Dina. 8 Hemor yn ei gofyn hi yn briod i Sichem. 22 Enwaediad y Sicemiaid wrth ddymuniad meibion Iacob, a thrwy eiriol Hemor. 25 Simeon a Lefi yn dial am aniweirdeb Sichem. 28 Iacob yn ceryddu ei feibion am eu gwaith yn dial.

Yna Dina merch Lea, yr hon a ymddugase hi i Iacob, a aeth allan i weled merched y wlâd.

2 Yna Sichem mab Hemor yr Hefiad, tywysog y wlad [honno] ai canfu hi, ac ai cymmerth hi, ac a orweddodd gyd a hi, ac ai treisiodd.

3 Ai feddwl ef a lŷnodd wrth Dina ferch Iacob: ie efe a hoffodd y llangces, ac a ddywedodd wrth [fodd] calon y llangces.

4 Sichem hefyd a lefarodd wrth Hemor ei dâd gan ddywedyd: cymmer y llangces hon yn wraig i mi.

5 Yna Iacob a glybu [i Sichem] halogi Dina ei ferch, ai feibion ef oeddynt gyd ai hanifeiliaid yn y maes: am hynny Iacob a dawodd asônhyd oni ddaethant hwy [adref].

6 A Hemor tâd Sichem a aeth allan at Iacob, i ymddiddan ag ef.

7 Yna meibion Iacob a ddaethant o’r maes, ac wedi clywed o honynt, ymofidiasant a digiasant yn ddirfawr, o blegit gwneuthur [o Sichem] ffolmeb yn Israel, gan orwedd gyd a merch Iacob, canys ni ddyleyssyd gwneuthur felly.

8 A Hemor a ymddiddanodd a hwynt gan ddywedyd, glynu a wnaeth meddwl Sichem fy mâb i wrth eich merch chwi: rhoddwch hi attolwg yn wraig iddo ef.

9 Ac ymgyfathrechwch a ni; rhoddwch eich merched chwi i ni, a chymmerwch ein merched ni i chwithau.

10 Felly y prewswyliwch gyd a ni, a’r wlad fydd o’ch blaen chwi, trigwch a negeseuwch ynddi, a byddwch feddiannol o honi.

11 Sichem hefyd a ddywedodd wrth ei thâd, ac wrth ei brodyr hi, cafwyf ffafor yn eich golwg, a’r hyn a ddywedoch wrthif a roddaf.

12 Gosodwch arnaf fi ddirfawr gynhyscaeth, neu roddiad, ac mi a roddaf fel y dywedoch wrthif: rhoddwch chwithau y llangces i mi yn wraig.

13 Yna meibion Iacob a attebasant Sichem, a Hemor ei dâd ef, ac a ymddiddanasant yn dwyllodrus, o herwydd iddo ef halogi Dina eu chwaer hwynt.

14 Ac a ddywedasant wrthynt hwy, ni allwn wneuthur y peth hyn, gan roddi ein chwaer i ŵr dienwaededic, o blegit gwarthrudd [yw] hynny i ni.

15 Ond yn hynn y cytunwn a chwi, os byddwch fel nyni, gan enwaedu pôb gwryw i chwi.

16 Yna y rhoddwn ein merched ni i chwi, ac y cymmerwn eich merched chwithau i ninnau, a chyd trigwn a chwi, a byddwn yn un bobl.

17 Ond oni wrandewch arnom ni i gael o honoch eich enwaedu, yna y cymmerwn ein merch, ac a awn ymmaith.

18 Ai geiriau hwynt oeddynt dda yng-olwg Hemor, ac yng-olwg Sichem mâb Hemor.

19 Ac nid oedodd y llanc wneuthur y peth o blegit efe a roddase serch ar ferch Iacob: ac yr oedd efe yn anrhydeddusach na holl dŷ ei dâd ef.

20 Yna Hemor, a Sichem ei fab ef a aethant at borth eu dinas hwynt, ac a lefarasant wrth eu dinasyddion hwynt, gan ddywedyd:

21 Y gwyr hynn heddychol [ynt] hwy gyd a ni; ac a drigant yn y wlad [hon,] a wnant eu negesau [ynddi:] ac wele [y mae] y wlâd yn ehang o leoedd ger eu bron hwynt: cymmerwn eu merched hwynt i ni yn wragedd, a rhoddwn ein merched ninnau iddynt hwy.

22 Ond yn hyn y cytuna y dynion a ni, i drigo gyd a ni, ar fod yn un bobl, trwy enwaedir pôb gwryw i ni, fel y maent hwy yn enwaededig.

23 Eu hanifeiliaid hwynt, ai cyfoeth hwynt, ai holl yscrubliaid hwynt onid eiddo ni [fyddant] hwy? yn unic cytunwn a hwynt, fel y trigant gyd a ni.

24 Yna ar Hemor, ac ar Sichem ei fab ef y gwrandawodd pawb a’r a oeddynt yn dyfod allan o borth ei ddinas ef: ac enwaedwyd pôb gwryw [sef] y rhai oll a’r a oeddynt yn dyfod allan o borth ei ddinas ef.

25 A bu ar y trydydd dydd pan oeddynt hwy yn ddolurus, gymmeryd o ddau o feibion Iacob Simeon, a Lefi, brodyr Dina, bôb un ei gleddyf, ac a ddaethant yn erbyn y ddinas yn hyderus, a laddasant bôb gwryw.

26 Lladdasant hefyd Hemor a Sichem ei fâb ef, â mîn y cleddyf: a chymmerasant Dina o dŷ Sichem, ac a aethant allan.

27 Meibion Iacob a ddaethant ar lladdedigion, ac a yspeiliasant y ddinas, am halogi o honynt eu chwaer hwynt.

28 Cymmerasant eu defaid hwynt, ai gwarthec, ai hassynnod hwynt, a’r hyn [oedd] yn y ddinas, a’r hyn [oedd] yn y maes.

29 Caeth-gludasant hefyd, ac yspeiliasant eu holl gyfoeth hwynt, ai holl blant hwynt, ai gwragedd hwynt, a’r hyn oll [oedd] yn y tai.

30 Yna Iacob a ddywedodd wrth Simeon, ac wrth Lefi, trallodasoch fi gan beri i mi fod yn ffiaidd gan bresswylwyr y wlâd, gan y Canaaneaid a’r Phereziaid, a minne ag ychydic o wŷr: ymgasclant gan hynny yn fy erbyn, a tharawant fi, felly y difethir fi, mi, a’m tŷ wyth.

31 Hwythau a attebasant, ai megis puttain y gwnae efe ein chwaer ni?

PEN. XXXV.

1 Iacob yn myned i Bethel wrth orchymmyn Duw i adailadu allor. 2 Efe yn puro tylwyth ei dy. 5 Duw ’n gwneuthur i elynion Iacob ei ofni. 8 Debora mammaeth Rebecca ’n marw. 12 Addo gwlad Canaan. 18 Rahel yn marw ar anedigaeth dyn bach. 23 Meibion Iacob. 27 Iacob yn dyfod at ei dâd Isaac. 29 Oes, a marwolaeth Isaac.

Yna y ddywedodd Duw wrth Iacob, cyfot, escyn i Bethel, a thrîg yno; a gwna yno allor i Dduw, yr hwn a ymddangosodd i ti pan ffoaist o wydd Esau dy frawd.

2 Yna Iacob a ddywedodd wrth ei deulu, ac wrth y rhai oll [oeddynt] gyd ag ef: bwriwch ymmaith y duwiau dieithr, y rhai [ynt] yn eich plith chwi, ac ymlânhewch, a newidiwch eich gwiscoedd.

3 O blegit cyfodwn, ac escynnwn i Bethel, ac yno y gwnaf allor i Dduw yr hwn a’m gwrandawodd yn nŷdd fyng-hystudd, ac a fu gyd a’m fi yn y ffordd, yr hon a gerddais.

4 Yna y roddasant at Iacob yr holl dduwiau dieithr y rhai [oeddynt] yn eu llaw hwynt, a’r clust-dlysau, y rhai [oeddynt] yn eu clustiau hwynt: a Iacob ai cuddiodd hwynt, tann y dderwen, yr hon [oedd] yn ymmyl Sichem.

5 Felly y cychwnnasant, ac ofn Duw [oedd] ar y dinasoedd, y rhai [oeddynt] oi hamgylch hwynt, ac nid erlidiasant ar ol meibion Iacob.

6 Ac Iacob a ddaeth i Luz, yng-wlad Canaan, hon [yw] Bethel, efe ai holl bobl y rhai [oeddynt] gyd ag ef;

7 Ac a adailadodd yno allor, ac a henwodd y lle El-bethel: o blegid yno yr ymddangosasse Duw iddo ef, pan ffoase efe o wydd ei frawd.

8 A marw a wnaeth Debora mammaeth Rebecca, a hi a gladdwyd islaw Bethel, dann y dderwen: am hynny a galwyd henw honno Alhon-bachuth.

9 Hefyd Duw a ymddangosodd eilwaith i Iacob pan ddaeth efe o Mesopotamia ac ai bendithiodd ef.

10 A Duw a ddywedodd wrtho, dy henw di [yw] Iacob, ni elwir dy henw di Iacob mwy, onid Israel a fydd dy henw di: galwodd gan hynny ei enw ef Israel.

11 Hefyd Duw a ddywedodd wrtho, myfi [wyf] Dduw holl alluog, cynnydda, ac amlhâ: cenedl a chynnulleidfa cenhedloedd a fydd o honot ti, a brenhinoedd a ddeuant allan ’oth lwynau di,

12 A’r wlâd yr hon a roddais i Abraham, ac i Isaac, a roddaf i ti, ac i’th hâd ti ar dy ôl di y rhoddaf y wlâd [honno].

13 Yna ’r escynnodd Duw oddi wrthaw ef yn y fan lle y llefarase efe wrtho ef.

14 Ac Iacob a osododd golofn i sefyll yn y fan lle ’r ymddiddanase efe ag ef, [sef] colofn faen, ac a daenellodd arni ddiod offrwm, ac a dywalltodd olew arni.

15 Felly Iacob a alwodd henw y fann lle ’r ymddiddanodd Duw ag ef: Bethel.

16 Yna’r aethant ymmaith o Bethel, ac yr oedd etto megis milltir o dîr i ddyfod i Ephrath: yno ’r escorodd Rahel, a bu galed [arni hi] wrth escor.

17 A darfu pan oedd yn galed [arni] wrth escor o honi, i’r fŷdwraig ddywedyd wrthi hi, nac ofna: o blegit llymma hefyd i ti fâb,

18 Darfu hefyd wrth fyned oi henaid hi allan, ( oblegid marw a wnaeth hi) yna iddi hi alw ei enw ef Benoni: ond ei dâd ai henwodd ef Ben-iamin.

19 Felly Rahel a fu farw, ac a gladdwyd yn y ffordd i Ephrath: hon [yw] Bethlehem.

20 Ac Iacob a osododd golofn i sefyll ar ei bedd hi: honno [yw] colofn bedd Rahel hyd heddyw.

21 Yna Israel a gerddodd, ac a estynnodd ei babell o’r tu hwnt i Migdal-eder.

22 A phan ydoedd Israel yn trigo yn y wlâd honno, yna Ruben a aeth ac a orweddodd gyd a Bilha gordderchwraig ei dâd ef, a chlybu Israel [hynny:] yna meibion Iacob oeddynt ddeu-ddec.

23 Meibion Lea, Ruben cyntafanedig Iacob, a Simeon, a Lefi, ac Iuda, ac Isacar, a Zabulon.

24 Meibion Rahel, Ioseph, a Beniamin.

25 A meibion Bilha llaw-forwyn Rahel: Dan, a Nephthali.

26 A meibion Zilpha llawforwyn Lea: Gad, ac Aser. Dymma feibion Iacob, y rhai a anwyd iddo ym-Mesopotamia.

27 Yna Iacob a ddaeth at Isaac ei dâd ef i Mamre i gaer Arba, hon [yw] Hebron, lle’r ymdeithiasei Abraham, ac Isaac.

28 A dyddiau Isaac [oeddynt] gan-mlwydd, a phedwar ugain mlwydd.

29 Yna Isaac a drengodd, ac a fu farw, ac a gasclwyd at ei bobl yn hên, ac yn gyflawn o oedran, ai feibion Esau ac Iacob ai claddasant ef.

PEN. XXXVI.

2 Gwragedd Esau. 7 Cyfoeth Iacob, ac Esau. 9 Hiliogaeth Esau. 24 Caffaeliad mûlod.

Ac dymma genedlaethau Esau: efe yw Edom.

2 Esau a gymmerth ei wragedd o ferched Canaan: Ada merch Elon yr Hethiad, ac Aholibama merch Ana, merch Sibeon yr Hefiad;

3 Basemath hefyd, merch Ismael, chwaer Nebaioth.

4 Ac Ada a ymddug Eliphas i Esau, a Basemath a escorodd ar Rehuel.

5 Aholibama hefyd a escorodd ar Iehus, ac Ialam, a Chorah: dymma feibion Esau, y rhai a anwyd iddo yng-wlad Canaan.

6 Ond Esau a gymmerase ei wragedd, ai feibion, ai ferched, a holl ddynion ei dŷ, ai anifeiliaid, ai holl yscrubliaid, ai holl gyfoeth ef yr hyn a gasglase efe yng-wlad Canaan, ac a aeth ymmaith i wlad [Seir], cynn dyfod ei frawd Iacob.

7 O blegit eu cyfoeth hwynt oedd fwy, nac y gellynt gydtrigo: ac nis galle gwlâd eu hymdaith eu cynnwys hwynt gan eu hanifeiliaid.

8 Felly y trigodd Esau ym mynydd Seir: Esau [yw] Edom.

9 A dymma genedlaethau Esau tâd yr Edomiaid ym mynydd Seir.

10 Dymma henwau meibion Esau: Eliphas, mâb Ada gwraig Esau; Rehuel mâb Basemath gwraig Esau.

11 A meibion Eliphas oeddynt Theman, Omar, Sepho, a Gatham, a Chenaz.

12 A Thimna oedd ordderch-wraig i Eliphas mab Esau, ac a escorodd Amelec i Eliphas, dymma feibion Ada gwraig Esau.

13 A dyma feibion Rehuel: Nahath, a Serah, Samma, a Mizza, y rhai hyn oeddynt feibion Basemath gwraig Esau.

14 Hefyd y rhai hyn oeddynt feibion Aholibama merch Ana, merch Sibeon gwraig Esau: canys hi a ymddug i Esau, Iehus, ac Ialam, a Chorah.

15 Dymma ddûgiaid meibion Esau: meibion Eliphas cyntafanedic Esau, duwc Theman, duwc Omar, duwc Sepho, duwc Cenaz,

16 Duwc Corah, duwc Gatham, duwc Amelec: dymma ddugiaid Eliphas yng-wlad Edom: dymma feibion Ada.

17 A dymma feibion Rehuel mab Esau, duwc Nahath, duwc Serah, duwc Samma, duwc Mizza: dymma ddugiaid Rehuel, yng-wlad Edom: dymma feibion Basemath gwraig Esau.

18 Dymma hefyd feibion Aholibama gwraig Esau, duwc Iehus, duwc Ialam, duwc Corah: dymma ddugiaid Aholibama merch Ana gwraig Esau.

19 Dymma feibion Esau, ac dymma eu dûgaid hwynt: efe [yw] Edom.

20 Dymma feibion Seir yr Horiad, cyfanneddwyr y wlad [honno:] Lotan, a Sobal, a Sibeon, ac Ana.

21 A Dison, ac Eser, a Disan: dymma ddûgiaid yr Horiaid meibion Seir, yng-wlad Edom.

22 A meibion Lotan oeddynt Hori, a Hemam: a chwaer Lotan [oedd] Thimna.

23 Ac dymma feibion Sobal: Alfan, a Manahath, ac Ebal, Sepho, ac Onam.

24 A dymma feibion Sibeon: sef, Aia, ac Ana: hwn yw Ana ’r hwn a gafodd y mulod yn yr anialwch wrth borthi o honaw asynnod Sibeon ei dâd.

25 Ac dymma feibion Ana: Dison ac Aholibama merch Ana.

26 Dymma hefyd feibion Dison; Hemdan, ac Esban, ac Iethran, a Cheran.

27 Dymma feibion Eser, Bilhan, a Saafan, ac Acan.

28 Dymma feibion Disan: Us ac Aran.

29 Dymma ddugiaid yr Horiaid: Duwc Lotan duwc Sobal, duwc Sibeon, duwc Ana.

30 Duwc Dison, duwc Eser, duwc Disan: dymma ddugiaid yr Horiaid, wrth eu dugiaethau yng-wlâd Seir.

31 Dymma hefyd y brenhinoedd y rhai a deyrnasasant yng-wlad Edom cyn teyrnasu brenin ar feibion Israel.

32 Yn gyntaf y teyrnasodd yn Edom Bela mab Beor: a henw ei ddinas ef [oedd] Dinhebah.

33 Yna Bela a fu farw: a Iobab mab Serah o Bosra a deyrnasodd yn ei le ef.

34 Iobab hefyd a fu farw: a Husam, o wlâd Temani, a deyrnasodd yn ei le ef.

35 A bu Husam farw; yna Hadad mab Bedad yr hwn a darawodd y Midian ym maes Moab, a deyrnasodd yn ei le ef: a henw ei ddinas ef [ydoedd] Afith.

36 Marw hefyd a wnaeth Hadad, a Samlah, o Masrecah a deyrnasodd yn ei le ef.

37 A phan fu Samlah farw: Saul o Rehoboth [wrth] yr afon, a deyrnasodd yn ei le ef.

38 A phan fu Saul farw, Baalhanan mab Achbor a deyrnasodd yn ei le ef.

39 A phan fu Baalhanan mab Achbor farw: Hadar a deyrnasodd yn ei le ef: a henw ei ddinas ef [oedd] Pau: A henw ei wraig Mehetabel, merch Matred, merch Mezahab.

40 Dymma gan hynny henwau dûgiaid Esau ynol eu teuluoedd hwynt, yn eu trig-leoedd, erbyn eu henwau hwynt: duwc Timna, duwc Alfah, duwc Ietheth.

41 Duwc Aholibama, duwc Ela, duwc Pinon.

42 Duwc Cenaz, duwc Theman, duwc Mibsar,

43 Duwc Magdiel, duwc Iran: dymma ddugiaid Edom, yn ol eu presswylfeudd, yng-wlad eu perchennogaeth: dymma Esau tâd yr Edomiaid.

PEN. XXXVII.

2 Ioseph yn achwyn ar ei frodyr wrth ei dâd. 5 Efe yn breuddwydio, ai frodyr yn ei gasau. 28 Ac yn ei werthu ef i’r Ismaeliaid. 34 Galar Iacob am Ioseph.

A thrigodd Iacob yng-wlâd ymddaith ei dâd sef yng-wlâd Canaan.

2 Dymma genhedlaethau Iacob: Ioseph, yn fab dwy flwydd ar bymthec oedd fugail gyd ai frodyr ar y praidd: ac efe oedd yn llangc gyd a meibion Bilha, a chyd a meibion Zilpha, gwragedd ei dâd ef: yna Ioseph a ddygodd eu drwg enllib hwynt at eu tâd hwynt.

3 Ac Israel oedd hoffach ganddo Ioseff nai holl feibion, o blegit efe ai cawse ef yn ei henaint: ac efe a wnaeth siacced fraith iddo ef.

4 Pan welodd ei frodyr, fod eu tâd yn ei garu ef yn fwy nai holl frodyr: yna hwy ai casasant ef, ac ni fedrent ymddiddan [ag] ef yn heddychol.

5 Ac Ioseph a freuddwydiodd freuddwyd, ac ai mynegodd i’w frodyr: am hynny y casasant ef etto yn ychwaneg.

6 O blegit dywedase wrthynt, gwrandewch atolwg y breuddwyd hwn, yr hwn a freuddwydiais.

7 Ac wele rhwymo ysgubau ’r oeddem ni yng-hanol y maes, ac wele fy yscub mau fi a gyfododd, ac a safodd hefyd, ac wele eich yscubau chwi a ddaethant o amgylch ac a ymgrymmasant i’m hysgub mau fi.

8 Yna ei frodyr a ddywedasant wrtho ef, ai gan deyrnasu y teyrnesi arnom ni? ai gan arglwyddiaethu ’r arglwyddiaethi arnom ni? etto am hynny y chawnegasant ei gasau ef, o blegit ei freuddwydion, ac o blegit ei eiriau ef.

9 Hefyd efe a freuddwydiodd etto freuddwyd arall, ac ai mynegodd iw frodyr, ac a ddywedodd: wele yr haul, a’r lleuad, ac un ar ddec o sêr yn ymgrymmu i mi.

10 Ac efe ai mynegodd iw dâd, ac iw frodyr, ai dâd a feiodd arno ef, ac a ddywedodd wrtho ef pa freuddwyd yw hwn, yr hwn a freuddwydiaist? ai gan ddyfod y deuwn ni, mi a’th fam, a’th frodyr, i ymgrymmu i lawr i ti?

11 Ai frodyr a genfigennasant wrtho ef, ond ei dâd a gadwodd y peth [mewn côf:]

12 Yna ei frodyr ef a aethant i fugeilio praidd eu tâd yn Sichem.

13 Ac Israel a ddywedodd wrth Ioseph, onid [yw] dy frodyr yn bugeilio yn Sichem? tyret, a mi a’th anfonaf attynt: yntef a ddywedodd wrtho ef, wele fi.

14 Yna y dywedodd ei [dâd] wrtho ef, dos weithian, edrych [pa] lwyddiant [sydd] i’th frodyr, a [pha] lwyddiant [sydd] ir praidd; a dŵg eilchwyl air [i] mi: felly efe ai hanfonodd ef o lynu Hebron, ac efe a ddaeth i Sichem.

15 Yna y cyfarfu gŵr ag ef: ac wele efe yn crwydro yn y maes: a’r gŵr a ymofynnodd [ag] ef, gan ddywedyd, pa beth yr ydwyt yn ei geisio?

16 Yntef a ddywedodd ceisio fy-mrodyr yr ydwyf fi: mynega, atolwg i mi pa le y maent hwy yn bugeilio?

17 A’r gŵr a ddywedodd cychwnnasant oddi ymma, o blegit clywais hwynt yn dywedyd, awn i Dothan: yna Ioseph a aeth a’r ôl ei frodyr, ac ai cafodd hwynt o fewn Dothan.

18 Hwythau ai canfuant ef o bell, a chyn ei ddynessu attynt hwy ’r ymfwriadasant hefyd [yn] ei [erbyn] ef, iw ladd ef.

19 A dywedasant bôb un ŵrth ei gilydd, wele accw y breuddwyd-wr yn dyfod.

20 Deuwch gan hynny yn awr, a lladdwn ef, a thaflwn ef yn un o’r pydewau; a dywedwn, bwyst-fil drwg ai bwyttaodd ef: yna y cawn weled beth fydd ei freuddwydion ef.

21 A Ruben a glybu, ac ai hachubodd ef oi llaw hwynt, ac a ddywedodd, na laddwn ef yn farw.

22 Ruben a ddywedodd hefyd wrthynt, na thywelltwch waed: bwriwch ef i’r pydew hwn, yr hwn [sydd] yn yr anialwch, ac nac estynnwch law arno ef: fel yr achube ef oi llaw hwynt iw ddwyn eil-waith at ei dâd.

23 A phan ddaeth Ioseph at ei frodyr, yna y gwnaethant i Ioseph ddiosc ei siadced [sef] y siacced fraith ’r hon [ydoedd] a’m dano ef.

24 Yna y cymmerasant ef, a thaflasant ef i’r pydew, a’r pydew [oedd] wâg hêb ddwfr ynddo.

25 Yna ’r eisteddasant i fwytta bwyd; ac a dderchafasant eu llygaid, ac a edrychasant: ac wele fintai o Ismaeliaid yn dyfod o Gilead yn myned i wared i’r Aipht, ai camelod yn dwyn llyssiau, a balm, a myrr.

26 Yna y dywedodd Iuda wrth ei frodyr, pa lesaad [a fydd,] ôs lladdwn ein brawd, a chêlu ei waed ef?

27 Deuwch a gwerthwn ef i’r Ismaeliaid, ac na fydded ein llaw ni arno ef, o blegit ein brawd ni a’n cnawd ydyw efe: ai frodyr a gytunasant.

28 A phan ddaeth y marchnad-wyr o Midian heibio, y tynnasant, ac y cyfodasant Ioseph i fynu o’r pydew, ac a werthasant Ioseph i’r Ismaeliaid, er ugain darn o arian: hwyntau a ddygasant Ioseph i’r Aipht.

29 Wedi hynny Ruben a ddaeth eil-waith i’r pydew; ac wele nid [ydoedd] Ioseph yn y pydew: ac yntef a rwygodd ei ddillad.

30 Ac a ddychwelodd at ei frodyr, ac a ddywedodd, y llangc nid [ydyw] accw: a minne i ba le ’r âf fi?

31 Yna hwy a gymmerasant siacced Ioseph, ac a laddasant lwdn gafr, ac a drochasant y siacced yn y gwaed.

32 Ac a anfonasant y siacced fraith, ac ai dugasant at eu tâd hwynt, ac a ddywedasant, honn a gawsom: mynn ŵybod weithian ai siacced dy fâb [yw] hi, ai nad e.

33 Yntef ai hadnabu hi, ac a ddywedodd, siacced fy mab [yw hi] bwyst-fil drwg ai bwyttaodd ef: gan larpio y llarpiwyd Ioseph.

34 Ac Iacob a rwygodd ei ddillad, ac a osododd sach-len am ei lwynau, ac a alarodd am ei fâb ddyddiau lawer.

35 Ai holl feibion, ai holl ferched a godasant iw gyssuro ef, ond efe a wrthododd gymmeryd cyssur, ac a ddywedodd: yn ddiau descynnaf yn alarus at fy mâb i’r beddrod: ai dâd a wylodd [am dano] ef.

36 A’r Madianiaid ai gwerthasant ef i’r Aipht, i Putiphar tywysog Pharao, [a’r] distain.

PEN. XXXVIII.

2 Iuda yn priodi. 7 Drygioni Er, ac Onan, a dialedd Duw arnynt hwy. 18 Iuda yn gorwedd gyd a Thamar. 24 Ac yn barnu Thamar iw llosci am Odineb. 29 39 Ganedigaeth Phares, a Zarah.

Ac yn y cyfamser hwnnw, y darfu i Iuda ddescyn oddi wrth ei frodyr, a throi at ŵr o Adulam, ai henw Hirah.

2 Ac yna y canfu Iuda ferch gŵr o Ganaan, ai enw ef [oedd] Sua, ac ai cymmerodd hi, ac a aeth atti hi.

3 A hi a feichiogodd, ac a escorodd a’r fâb, ac efe a alwodd ei enw ef Er.

4 A hi a feichiogodd eil-waith, ac a escorodd ar fâb; a hi a alwodd ei enw ef Onan.

5 A thrachefn hi a escorodd ar fâb, ac a alwodd ei enw ef Selah: Ac yn Cezib yr oedd [Iuda] pan escorodd hi ar hwn.

6 Yna Iuda a gymmerth wraig i Er ei gyntaf-anedig, ai henw hi [oedd] Thamar.

7 Ac yr oedd Er, cyntaf-anedic Iuda, yn ddrygionus yng-olwg yr Arglwydd, am hynny y lladdodd yr Arglwydd ef.

8 A Iuda a ddywedodd wrth Onan dôs at wraig dy frawd, a gwna iddi rann cyfathrach-wr, a chyfot hâd i’th frawd.

9 Felly Onan a wybu nad iddo ei hun y bydde’r hâd: gan hynny pan ele efe at wraig ei frawd, yna y colle efe ei [hâd] ar y llawr, rhac rhoddi o honaw hâd i’w frawd.

10 A drygionus oedd yr hyn a wnaethe efe yng-olwg yr Arglwydd: am hynny efe ai lladodd yntef.

11 Yna Iuda a ddywedodd wrth Thamar ei waudd ef, trig yn weddw [yn] nhŷ dy dâd, hyd oni chynnyddo fy mâb Selah: oblegit efe a feddyliase rhac lladd hwnnw hefyd, fel ei frodyr ef: felly Thamar a aeth, ac a drigiodd [yn] nhŷ ei thâd.

12 Ac wedi llawer o ddyddiau, marw a wnaeth merch Sua gwraig Iuda, yna Iuda a gymmerth gyssur, ac a aeth i fynu i Thimnath, at gneif-wyr ei ddefaid, ef ai gymydog Hirah yr Adulamiad.

13 Mynegwyd hefyd i Thamar, gan ddywedyd: wele dy chwegrwn yn myned i fynu i Thimnath, i gneifio ei ddefaid.

14 Hithe a ddioscodd ddillad ei gweddwdod oddi am deni, ac a orchguddiodd [ei hwyneb] a moled, ac a ymwiscodd, ac a eisteddodd yn nrws Enaim, yr hwn [sydd] ar y ffordd i Timnath: oblegid gweled yr oedd hi fyned Sela yn fawr, ac na roddasid hi yn wraig iddo ef.

38:15 A Iwda a’i canfu hi, ac a dybiodd mai putain ydoedd hi; oblegid gorchuddio ohoni ei hwyneb.

38:16 Ac efe a drodd ati hi i’r ffordd, ac a ddywedodd. Tyred, atolwg, gad i mi ddyfod atat: (oblegid nid oedd efe yn gwybod mai ei waudd ef ydoedd hi.) Hithau a ddywedodd, Beth a roddi i mi, os cei ddyfod ataf?

38:17 Yntau a ddywedodd. Mi a hebryngaf fyn gafr o blith y praidd. Hithau a ddywedodd, A roddi di wystl hyd oni hebryngech?

38:18 Yntau a ddywedodd. Pa wystl a roddaf i ti? Hithau a ddywedodd, Dy sêl, a’th freichledau, a’th ffon sydd yn dy law. Ac efe a’u rhoddes iddi, ac a aeth ati; a hi a feichiogodd ohono ef.

38:19 Yna y cyfododd hi, ac a aeth ymaith ac a ddiosgodd ei gorchudd oddi amdani, ac a wisgodd ddillad ei gweddwdod.

38:20 A Iwda a hebryngodd fyn gafr yn llaw yr Adulamiad ei gyfaill, i gymryd y gwystl o law y wraig: ond ni chafodd hwnnw hi.

38:21 Ac efe a ymofynnodd â gw?r y fro honno, gan ddywedyd. Pa le y mae y butain honno a ydoedd yn Enaim wrth y ffordd? A hwythau a ddywedasant, Nid oedd yma un butain.

38:22 Ac efe a ddychwelodd at Iwda ac a ddywedodd, Ni chefais hi; a gw?r y fro honno hefyd a ddywedasant, Nid oedd yma un butain.

38:23 A Iwda a ddywedodd, Cymered iddi hi, rhag i ni gael cywilydd: wele, mi a hebryngais y myn hwn, a thithau ni chefaist hi.

38:24 Ac ynghylch pen tri mis y mynegwyd i Iwda, gan ddywedyd, Tamar dy waudd di a buteiniodd; ac wele, hi a feichiogodd hefyd mewn godineb. A dywedodd Iwda, Dygwch hi allan, a llosger hi.

38:25 Yna hi, pan ddygwyd hi allan, a anfonodd at ei chwegrwn, gan ddywedyd, O’r g?r biau’r rhai hyn yr ydwyf fi yn feichiog: hefyd hi a ddywedodd, Adnebydd, atolwg, eiddo pwy yw y sêl, a’r breichledau, a’r ffon yma.

38:26 A Iwda a adnabu y pethau hynny, ac a ddywedodd, Cyfiawnach yw hi na myfi, oherwydd na roddais hi i’m mab Sela: ac ni bu iddo ef a wnaeth â hi mwy.

38:27 Ac yn amser ei hesgoredigaeth hi, wele efeilliaid yn ei chroth hi.

38:28 Bu hefyd pan esgorodd hi, i un roddi allan ei law: a’r fydwraig a gymerth ac a rwymodd am ei law ef edau goch, gan ddywedyd, Hwn a ddaeth yn gyntaf allan.

38:29 A phan dynnodd efe ei law yn ei hôl, yna wele, ei frawd ef a ddaeth allan: a hithau a ddywedodd, Pa fodd y torraist allan? bid y toriad hwn arnat ti, am hynny y galwyd ei enw ef Phares.

38:30 Ac wedi hynny ei frawd ef a ddaeth allan, yr hwn yr oedd yr edau goch am ei law: a galwyd ei enw ef Sera.

PEN. XXXIX.

39:1 A Ioseff a ddygwyd i waered i’r Aifft: a Potiffar yr Eifftwr, tywysog Pharo a’i ddistain, a’i prynodd ef o law yr Ismaeliaid, y rhai a’i dygasant ef i waered yno.

39:2 Ac yr oedd yr Arglwydd gyda Ioseff, ac efe oedd ?r llwyddiannus: ac yr oedd efe yn nh? ei feistr yr Eifftiad.

39:3 A’i feistr a welodd fod yr Arglwydd gydag ef, a bod yr Arglwydd yn llwyddo yn ei law ef yr hyn oll a wnelai efe.

39:4 A Ioseff a gafodd ffafr yn ei olwg ef, ac a’i gwasanaethodd ef: yntau a’i gwnaeth ef yn olygwr ar ei d?, ac a roddes yr hyn oll oedd eiddo dan ei law ef.

39:5 Ac er pan wnaethai efe ef yn olygwr ar ei d?, ac ar yr hyn oll oedd eiddo, bu i’r Arglwydd fendithio t?’r Eifftiad, er mwyn Ioseff: ac yr oedd bendith yr Arglwydd ar yr hyn oll oedd eiddo ef, yn y t?, ac yn y maes.

39:6 Ac efe a adawodd yr hyn oll oedd ganddo dan law Ioseff; ac ni wyddai oddi wrth ddim a’r a oedd gydag ef, oddieithr y bwyd yr oedd efe yn ei fwyta: Ioseff hefyd oedd deg o bryd, a glân yr olwg.

39:7 A darfu wedi’r pethau hynny, i wraig ei feistr ef ddyrchafu ei golwg ar Ioseff, a dywedyd, Gorwedd gyda mi.

39:8 Yntau a wrthododd, ac a ddywedodd wrth wraig ei feistr, Wele, fy meistr ni ?r pa beth sydd gyda mi yn y t?; rhoddes hefyd yr hyn oll sydd eiddo dan fy llaw i.

39:9 Nid oes neb fwy yn y t? hwn na myfi, ac ni waharddodd efe ddim rhagof onid tydi; oblegid ei wraig ef wyt ti: pa fodd, gan hynny, y gallaf wneuthur y mawr ddrwg hwn, a phechu yn erbyn Duw!

39:10 A bu, fel yr oedd hi yn dywedyd wrth Ioseff beunydd, ac yntau heb wrando arni hi, i orwedd yn ei hymyl hi, neu i fod gyda hi.

39:11 A bu, ynghylch yr amser hwnnw, i Ioseff ddyfod i’r t?, i wneuthur ei orchwyl; ac nid oedd yr un o ddynion y t? yno yn t?.

39:12 Hithau a’i daliodd ef erbyn ei wisg, gan ddywedyd, Gorwedd gyda mi. Yntau a adawodd ei wisg yn ei llaw hi, ac a ffodd, ac a aeth allan.

39:13 A phan welodd hi adael ohono ef ei wisg yn ei llaw hi, a ffoi ohono allan,

39:14 Yna hi a alwodd ar ddynion ei th?, ac a draethodd wrthynt, gan ddywedyd, Gwelwch, efe a ddug i ni Hebrëwr i’n gwaradwyddo: daeth ataf fi i orwedd gyda myfi, minnau a waeddais â llef uchel,

39:15 A phan glywodd efe ddyrchafu ohonof fi fy llef, a gweiddi, yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl i, ac a ffodd, ac a aeth allan.

39:16 A hi a osododd ei wisg ef yn ei hymyl, hyd oni ddaeth ei feistr ef adref.

39:17 A hi a lefarodd wrtho yn y modd hwn, gan ddywedyd, Yr Hebrewas, yr hwn a ddygaist i ni, a ddaeth ataf i’m gwaradwyddo;

39:18 Ond pan ddyrchefais fy llef, a a gweiddi, yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl, ac a ffodd allan.

39:19 A phan glybu ei feistr ef eiriau ei wraig, y rhai a lefarodd hi wrtho ef, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y gwnaeth dy was di i mi, yna yr enynnodd ei lid ef.

39:20 A meistr Ioseff a’i cymerth ef, ac a’i rhoddes yn y carchardy, yn y lle yr oedd carcharion y brenin yn rhwym. Ac yno y bu efe yn y carchardy.

39:21 Ond yr Arglwydd oedd gyda Ioseff, ac a ddangosodd iddo ef drugaredd, ac a roddes ffafr iddo yng ngolwg pennaeth y carchardy.

39:22 A phennaeth y carchardy a roddes dan law Ioseff yr holl garcharorion y rhai oedd yn y carchardy; a pha beth bynnag a wnaent yno, efe oedd yn ei wneuthur.

39:23 Nid oedd pennaeth y carchardy yn edrych am ddim oll a’r a oedd dan ei law ef, am fod yr Arglwydd gydag ef; a’r hyn a wnâi efe, yr Arglwydd a’i llwyddai.

PEN. XL.

40:1 A darfu wedi’r pethau hynny, i drulliad brenin yr Aifft, a’r pobydd, bechu yn erbyn eu harglwydd, brenin yr Aifft.

40:2 A Pharo a lidiodd wrth ei ddau swyddwr, sef wrth y pen-trulliad, a’r pen-pobydd:

40:3 Ac a’u rhoddes hwynt mewn dalfa, yn nh?’r distain, sef yn y carchardy, y lle yr oedd Ioseff yn rhwym.

40:4 A’r distain a wnaeth Ioseff yn olygwr arnynt hwy; ac efe a’u gwasanaethodd hwynt mewn dalfa dros amser.

40:5 A breuddwydiasant freuddwyd ill dau, pôb un ei freuddwyd ei hun yn yr un nos, pôb un at ôl dehongliad ei freuddwyd ei hun, trulliad a phobydd brenin yr Aifft, y rhai oedd yn rhwym yn y carchardy.

40:6 A’r bore y daeth Ioseff atynt, ac a edrychodd arnynt; ac wele hwynt yn athrist.

40:7 Ac efe a ymofynnodd â swyddwyr Pharo, y rhai oedd gydag ef mewn dalfa yn nh? ei arglwydd, gan ddywedyd, Paham y mae eich wynebau yn ddrwg heddiw?

40:8 A dywedasant wrtho, Breuddwydiasom freuddwyd, ac nid oes a’i dehonglo. A Ioseff a ddywedodd wrthynt, Onid i Dduw y perthyn dehongli? mynegwch, atolwg, i mi.

40:9 A’r pen-trulliad a fynegodd ei freuddwyd i Ioseff; ac a ddywedodd wrtho, Yn fy mreuddwyd yr oeddwn, ac wele winwydden o’m blaen;

40:10 Ac yn y winwydden yr oedd tair cainc: ac yr oedd hi megis yn blaendarddu; ei blodeuyn a dorasai allan, ei grawnsypiau hi a ddug rawnwin aeddfed.

40:11 Hefyd yr oedd cwpan Pharo yn fy llaw: a chymerais y grawnwin, a gwesgais hwynt i gwpan Pharo; a rhoddais y cwpan yn llaw Pharo.

40:12 A Ioseff a ddywedodd wrtho, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw’r tair cainc.

40:13 O fewn tri diwrnod eto Pharo a ddyrchafa dy ben di, ac a’th rydd di eilwaith yn dy le; a rhoddi gwpan Pharo yn ei law ef, fel y buost arferol yn y cyntaf, pan oeddit drulliad iddo.

40:14 Eto cofia fi gyda thi, pan fo daioni i ti, a gwna, atolwg, a mi drugaredd, a chofia fi wrth Pharo, a dwg fi allan o’r t? hwn:

40:15 Oblegid yn lladrad y’m lladratawyd o wlad yr Hebreaid; ac yma hefyd ni wneuthum ddim, fel y bwrient fi yng ngharchar.

40:16 Pan welodd y pen-pobydd mai da oedd y dehongliad, efe a ddywedodd wrth Ioseff, Minnau hefyd oeddwn yn fy mreuddwyd; ac wele, dri chawell rhwyd-dyllog ar fy mhen.

40:17 Ac yn y cawell uchaf yr oedd peth o bôb bwyd Pharo o waith pobydd; a’r ehediaid yn eu bwyta hwynt o’r cawell oddi ar fy mhen.

40:18 A Ioseff a atebodd ac a ddywedodd, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw y tri chawell.

40:19 O fewn tri diwrnod eto y cymer Pharo dy ben di oddi arnat, ac a’th groga di ar bren; a’r ehediaid a fwytant dy gnawd di oddi amdanat.

40:20 Ac ar y trydydd dydd yr oedd dydd genedigaeth Pharo: ac efe a wnaeth wledd i’w holl weision: ac efe a ddyrchafodd ben y pen-trulliad, a’r pen-pobydd ymysg ei weision.

40:21 Ac a osododd y pen-trulliad eilwaith yn ei swydd; ac yntau a roddes y cwpan i law Pharo.

40:22 A’r pen-pobydd a grogodd efe, fel y deonglasai Ioseff iddynt hwy.

40:23 Ond y pen-trulliad ni chofiodd Ioseff, eithr anghofiodd ef.

PEN. XLI.

41:1 Yna ymhen dwy flynedd lawn, y bu i Pharo freuddwydio; ac wele efe yn sefyll wrth yr afon.

41:2 Ac wele, yn esgyn o’r afon, saith o wartheg teg yr olwg, a thewion o gig; ac mewn gweirglodd-dir y porent.

41:3 Wele hefyd, saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hôl hwynt o’r afon, yn ddrwg yr olwg, ac yn gulion o gig; a hwy a safasant yn ymyl y gwartheg eraill, ar lan yr afon.

41:4 A’r gwartheg drwg yr olwg, a chulion o gig, a fwytasant y saith gwartheg teg yr olwg, a breision. Yna y dihunodd Pharo.

41:5 Ac efe a gysgodd, ac a freuddwydiodd eilwaith: ac wele, saith o dywysennau yn tyfu ar un gorsen, o rai breisgion a da.

41:6 Wele hefyd, saith o dywysennau teneuon, ac wedi deifio gan wynt y dwyrain, yn tarddu allan ar eu hôl hwynt.

41:7 A’r tywysennau teneuon a lyncasant y saith dywysen fraisg a llawn. A deffrôdd Pharo; ac wele breuddwyd oedd.

41:8 A’r bore y bu i’w ysbryd ef gynhyrfu; ac efe a anfonodd, ac a alwodd am holl ddewiniaid yr Aifft a’i holl ddoethion hi: a Pharo a fynegodd iddynt hwy ei freuddwydion; ond nid oedd a’u dehonglai hwynt i Pharo.

41:9 % Yna y llefarodd y pen-trulliad wrth Pharo, gan ddywedyd, Yr wyf fi yn cofio fy meiau heddiw.

41:10 Llidio a wnaethai Pharo wrth ei weision; ac efe a’m rhoddes mewn carchar yn nhy’r distain, myfi a’r pen-pobydd.

41:11 A ni a freuddwydiasom freuddwyd yn yr un nos, mi ac efe: breuddwydiasom bôb un ar ôl dehongliad ei freuddwyd.

41:12 Ac yr oedd yno gyda nyni fab ieuanc o Hebread, gwas i’r distain; a ni a fynegasom iddo ef: yntau a ddehonglodd i ni ein breuddwydion; i bôb un yn ôl ei freuddwyd y dehonglodd efe.

41:13 A darfu, fel y dehonglodd i ni, felly y bu: rhodd fi eilwaith i’m swydd; ac yntau a grogodd efe.

41:14 Pharo, gan hynny, a anfonodd ac a alwodd am Ioseff: hwythau ar redeg a’i cyrchasant efo’r carchar: yntau a eilliodd ei wallt, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth at Pharo.

41:15 A Pharo a ddywedodd wrth Ioseff, Breuddwydiais freuddwyd, ac nid oes a’i dehonglo: a myfi a glywais ddywedyd amdanat ti, y medri ddeall breuddwyd i’w ddehongli.

41:16 A Ioseff a atebodd Pharo, gan ddywedyd, Nid myfi; Duw a etyb lwyddiant i Pharo.

41:17 A Pharo a ddywedodd wrth Ioseff, Wele fi yn fy mreuddwyd yn sefyll ar fin yr afon.

41:18 Ac wele yn esgyn o’r afon saith o wartheg tewion o gig, a theg yr olwg, ac mewn gweirglodd-dir y porent.

41:19 Wele hefyd saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hôl hwynt, truain, a drwg iawn yr olwg, ac yn gulion o gig: ni welais rai cynddrwg â hwynt yn holl dir yr Aifft.

41:20 A’r gwartheg culion a drwg a fwytasant y saith muwch tewion cyntaf.

41:21 Ac er eu myned i’w boliau, ni wyddid iddynt fyned i’w boliau; ond yr olwg arnynt oedd ddrwg, megis yn y dechreuad. Yna mi a ddeffroais.

41:22 Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd, ac wele saith dywysen lawn a theg yn cyfodi o’r un gorsen.

41:23 Ac wele saith o dywys mân, teneuon, wedi deifio gan ddwyreinwynt, yn tyfu ar eu hôl hwynt.

41:24 A’r tywysennau teneuon a lyncasant y saith dywysen dda; a mi a ddywedais hyn wrth y dewiniaid; ond nid oedd a’i dehonglai i mi.

41:25 A dywedodd Ioseff wrth Pharo, Breuddwyd Pharo sydd un: yr hyn y mae Duw yn ei wneuthur a fynegodd efe i Pharo.

41:26 Y saith o wartheg teg, saith mlynedd ydynt; a’r saith dywysen deg, saith mlynedd ydynt; y breuddwyd un yw.

41:27 Hefyd y saith muwch culion a drwg, y rhai oedd yn esgyn ar eu hôl hwynt, saith mlynedd ydynt; a’r saith dywysen wag wedi deifio gan y dwyreinwynt, a fyddant saith mlynedd o newyn.

41:28 Hyn yw’r peth a ddywedais i wrth Pharo: Yr hyn a wna Duw, efe a’i dangasodd i Pharo.

41:29 Wele y mae saith mlynedd yn dyfod o amldra mawr, trwy holl wlad yr Aifft.

41:30 Ond ar eu hôl hwynt y cyfyd saith mlynedd o newyn; ac anghofir yr holl amlder trwy wlad yr Aifft: a’r newyn a ddifetha’r wlad.

41:31 Ac ni wybyddir oddi wrth yr amldra yn y wlad, oherwydd y newyn hwnnw wedi hynny: oblegid trwm iawn fydd.

41:32 Hefyd am ddyblu’r breuddwyd i Pharo ddwywaith, hynny a fu oblegid sicrhau’r peth gan Dduw, a bod Duw yn brysio i’w wneuthur.

41:33 Yn awr, gan hynny, edryched Pharo ?r deallgar a doeth, a gosoded ef ar wlad yr Aifft.

41:34 Gwnaed Pharo hyn, a gosoded olygwyr ar y wlad, a chymered bumed ran cnwd gwlad yr Aifft dros saith mlynedd yr amldra.

41:35 A chasglant holl ymborth y blynyddoedd daionus sydd ar ddyfod, a chasglant ?d dan law Pharo, a chadwant ymborth yn y dinasoedd.

41:36 A bydded yr ymborth yng nghadw i’r wlad dros y saith mlynedd newyn, y rhai fyddant yng ngwlad yr Aifft, fel na ddifether y wlad gan y newyn.

41:37 A’r peth oedd dda yng ngolwg Pharo, ac yng ngolwg ei holl weision.

41:38 A dywedodd Pharo wrth ei weision, A gaem ni ?r fel hwn, yr hwn y mae ysbryd Duw ynddo?

41:39 Dywedodd Pharo hefyd wrth Ioseff, Gan wneuthur o Dduw i ti wybod hyn oll, nid mor ddeallgar a doeth neb a thydi.

41:40 Tydi a fyddi ar fy nh?, ac wrth dy air di y llywodraethir fy mhobl oll: yn y deyrngadair yn unig y byddaf fwy na thydi.

41:41 Yna y dywedodd Pharo wrth Ioseff, Edrych, gosodais di ar holl wlad yr Aifft.

41:42 A thynnodd Pharo ei fodrwy oddi ar ei law, ac a’i rhoddes hi ar law Ioseff, ac a’i gwisgodd ef mewn gwisgoedd sidan, ac a osododd gadwyn aur am ei wddf ef,

41:43 Ac a wnaeth iddo farchogaeth yn yr ail gerbyd oedd ganddo; a llefwyd o’i flaen ef, Abrec: felly y gosodwyd ef ar holl wlad yr Aifft.

41:44 Dywedodd Pharo hefyd wrth Ioseff, Myfi yw Pharo, ac hebot ti ni chyfyd g?r ei law na’i droed, trwy holl wlad yr Aifft.

41:45 A Pharo a alwodd enw Ioseff, Saffnath-Panea; ac a roddes iddo Asnath, merch Potiffera offeiriad On, yn wraig: yna yr aeth Ioseff allan dros wlad yr Aifft,

41:46 A Ioseff ydoedd fab deng mlwydd ar hugain pan safodd efe gerbron Pharo brenin yr Aifft: a Ioseff a aeth allan o ?ydd Pharo, ac a dramwyodd trwy holl wlad yr Aifft.

41:47 A’r ddaiar a gnydiodd dros saith mlynedd yr amldra yn ddyrneidiau.

41:48 Yntau a gasglodd holl ymborth y saith mlynedd a fu yng ngwlad yr Aifft, ac a roddes ymborth i gadw yn y dinasoedd: ymborth y maes, yr hwn fyddai o amgylch pôb dinas, a roddes efe i gadw ynddi.

41:49 A Ioseff a gynullodd ?d fel tywod y môr, yn dra lluosog, hyd oni pheidiodd a’i rifo: oblegid yr ydoedd heb rifedi.

41:50 Ond cyn dyfod blwyddyn o newyn, y ganwyd i Ioseff ddau fab, y rhai a ymddug Asnath, merch Potiffera offeiriad On, iddo ef.

41:51 A Ioseff a alwodd enw ei gyntaf-anedig, Manasse: Oblegid (eb efe) Duw a wnaeth i mi anghofio fy llafur oll, a thylwyth fy nhad oll.

41:52 Ac efe a alwodd enw yr ail, Effraim: Oblegid (eb efe) Duw a’m ffrwythlonodd i yng ngwlad fy ngorthrymder.

41:53 Darfu’r saith mlynedd o amldra, y rhai a fu yng ngwlad yr Aifft.

41:54 A’r saith mlynedd newyn a ddechreuasant ddyfod, fel y dywedasai Ioseff: ac yr oedd newyn yn yr holl wledydd; ond yn holl wlad yr Aifft yr ydoedd bara.

41:55 A phan newynodd holl wlad yr Aifft, y bobl a waeddodd ar Pharo am fara: a Pharo a ddywedodd wrth yr holl Eifftiaid, Ewch at Ioseff; yr hyn a ddywedo efe wrthych, gwnewch.

41:56 Y newyn hefyd ydoedd ar holl wyneb y ddaiar: a Ioseff a agorodd yr holl leoedd yr ydoedd ?d ynddynt, ac a werthodd i’r Eifftiaid; oblegid y newyn oedd drwm yng ngwlad yr Aifft.

41:57 A daeth yr holl wledydd i’r Aifft at Ioseff i brynu; oherwydd y newyn oedd drwm yn yr holl wledydd.

PEN. XLII.

42:1 Pan welodd Iacob fod ?d yn yr Aifft, dywedodd Iacob wrth ei feibion, Paham yr edrychwch ar eich gilydd?

42:2 Dywedodd hefyd, Wele, clywais fod ?d yn yr Aifft: ewch i waered yno, a phrynwch i ni oddi yno, fel y bom fyw, ac na byddom feirw.

42:3 A deg brawd Ioseff a aethant i waered, i brynu ?d, i’r Aifft.

42:4 Ond ni ollyngai Iacob Ben-iamin, brawd Ioseff, gyda’i frodyr: oblegid efe a ddywedodd, Rhag digwydd niwed iddo ef.

42:5 A meibion Israel a ddaethant i brynu ymhlith y rhai oedd yn dyfod, oblegid yr ydoedd y newyn yng ngwlad Canaan.

42:6 A Ioseff oedd lywydd ar y wlad, ac oedd ei hun yn gwerthu i holl bobl y wlad: a brodyr Ioseff a ddaethant, ac a ymgrymasant i lawr iddo ef ar eu hwynebau.

42:7 A Ioseff a ganfu ei frodyr, ac a’u hadnabu hwynt, ac a ymddieithrodd iddynt hwy, ac a lefarodd wrthynt yn arw, ac a ddywedodd wrthynt, O ba le y daethoch? Hwythau a atebasant, O wlad Canaan, i brynu lluniaeth.

42:8 A Ioseff oedd yn adnabod ei frodyr; ond nid oeddynt hwy yn ei adnabod ef.

42:9 A Ioseff a gofiodd ei freuddwydion a freuddwydiasai efe amdanynt hwy, ac a ddywedodd wrthynt, Ysbïwyr ydych chwi; i edrych noethder y wlad y daethoch.

42:10 Hwythau a ddywedasant wrtho ef, Nage, fy arglwydd; ond dy weision a ddaethant i brynu lluniaeth.

42:11 Nyni oll ydym feibion un g?r: gw?r cywir ydym ni; nid yw dy weision di ysbïwyr.

42:12 Yntau a ddywedodd wrthynt hwy, Nage; ond i edrych noethder y wlad y daethoch.

42:13 Hwythau a ddywedasant, Dy weision di oedd ddeuddeg brawd, meibion un g?r yng ngwlad Canaan: ac wele, y mae yr ieuangaf heddiw gyda’n tad ni, a’r llall nid yw fyw.

42:14 A Ioseff a ddywedodd wrthynt, Dyma yr hyn a adroddais, wrthych, gan ddywedyd, Ysbïwyr ydych chwi.

42:15 Wrth hyn y’ch profir: Myn einioes Pharo, nid ewch allan oddi yma, onid trwy ddyfod o’ch brawd ieuangaf yma.

42:16 Hebryngwch un ohonoch i gyrchu eich brawd, a rhwymer chwithau; fel y profer eich geiriau chwi, a oes gwirionedd ynoch: oblegid onid e, myn einioes Pharo, ysbïwyr yn ddiau ydych chwi.

42:17 As efe a’u rhoddodd hwynt i gyd yng ngharchar dridiau.

42:18 Ac ar y trydydd dydd y dywedodd Ioseff wrthynt, Gwnewch hyn, fel y byddoch fyw: ofni Duw yr wyf fi.

42:19 Os gw?r cywir ydych chwi, rhwymer un o’ch brodyr chwi yn eich carchardy; ac ewch chwithau, dygwch ?d rhag newyn i’ch tylwyth.

42:20 A dygwch eich brawd ieuangaf ataf ti; felly y cywirir eich geiriau chwi, ac ni byddwch feirw. Hwythau a wnaethant felly.

42:21 Ac a ddywedasant wrth ei gilydd, Diau bechu ohonom yn erbyn ein brawd; oblegid gweled a wnaethom gyfyngdra ei enaid ef, pan ymbiliodd efe â ni, ac ni wrandawsom ef: am hynny y daeth y cyfyngdra hwn arnom ni.

42:22 A Reuben a’u hatebodd hwynt, gan ddywedyd, Oni ddywedais i wrthych, gan ddywedyd, Na phechwch yn erbyn yr herlod, ac ni wrandawech chwi? wele am hynny ynteu y gofynnir ei waed ef.

42:23 Ac nis gwyddynt hwy fod Ioseff yn eu deall; am fod cyfieithydd rhyngddynt.

42:24 Yntau a drodd oddi wrthynt, ac a wylodd, ac a ddaeth eilchwyl atynt, ac a lefarodd wrthynt hwy, ac a gymerth o’u mysg hwynt Simeon, ac a’i rhwymodd ef o flaen eu llygaid hwynt.

42:25 Ioseff hefyd a orchmynnodd lenwi eu sachau hwynt o ?d, a rhoddi drachefn arian pôb un ohonynt yn ei sach, a rhoddi bwyd iddynt i’w fwyta ar y ffordd: ac felly y gwnaeth iddynt hwy.

42:26 Hwythau a gyfodasant eu h?d ar eu hasynnod, ac a aethant oddi yno.

42:27 Ac un a agorodd ei sach, ar fedr rhoddi ebran i’w asyn yn y llety; ac a ganfu ei arian; canys wele hwynt yng ngenau ei ffetan ef.

42:28 Ac a ddywedodd wrth ei frodyr, Rhoddwyd adref fy arian, ac wele hwynt hefyd yn fy ffetan: yna y digalonasant hwy, ac a ofnasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Paham y gwnaeth Duw i ni hyn?

42:29 A hwy a ddaethant at Iacob eu tad i wlad Canaan, ac a fynegasant iddo eu holl ddamweiniau, gan ddywedyd,

42:30 Dywedodd y g?r oedd arglwydd y wlad yn arw wrthym ni, ac a’n cymerth ni fel ysbïwyr y wlad.

42:31 Ninnau a ddywedasom wrtho ef, Gw?r cywir ydym ni, nid ysbïwyr ydym.

42:32 Deuddeg o frodyr oeddem ni, meibion ein tad ni: un nid yw fyw, ac y mae yr ieuangaf heddiw gyda’n tad ni yng ngwlad Canaan.

42:33 A dywedodd y g?r oedd arglwydd y wlad wrthym ni, Wrth hyn y caf wybod mai cywir ydych chwi; gadewch gyda myfi un o’ch brodyr, a chymerwch luniaeth i dorri newyn eich teuluoedd, ac ewch ymaith.

42:34 A dygwch eich brawd ieuangaf ataf fi, fel y gwybyddwyf nad ysbïwyr ydych chwi, ond eich bod yn gywir: yna y rhoddaf eich brawd i chwi, a chewch farchnata yn y wlad.

42:35 Fel yr oeddynt hwy yn tywallt eu sachau, yna wele godaid arian pôb un yn ei sach: a phan welsant y codau arian, hwynt-hwy a’u tad, ofni a wnaethant.

42:36 A Iacob, eu tad hwynt, a ddywedodd wrthynt hwy, Diblantasoch fi: Ioseff nid yw fyw, a Simeon yntau nid yw fyw, a Ben-iamin a ddygech ymaith: yn fy erbyn i y mae hyn oll.

42:37 A dywedodd Reuben wrth ei dad, gan ddywedyd, Lladd fy nau fab i, oni ddygaf ef drachefn atat ti: dyro ef yn fy llaw i, a mi a’i dygaf ef atat ti eilwaith.

42:38 Yntau a ddywedodd, Nid â fy mab i waered gyda chwi: oblegid bu farw ei frawd, ac yntau a adawyd ei hunan: pe digwyddai iddo ef niwed ar y ffordd yr ewch ar hyd-ddi, yna chwi a barech i’m penwynni ddisgyn i’r bedd mewn tristwch.

PEN. XLIII.

43:1 A’r newyn oedd drwm yn y wlad.

43:2 A bu, wedi iddynt fwyta yr ?d a ddygasent o’r Aifft, ddywedyd o’u tad wrthynt hwy, Ewch eilwaith, prynwch i ni ychydig luniaeth.

43:3 A Iwda a atebodd, gan ddywedyd, Gan rybuddio y rhybuddiodd y g?r nyni, gan ddywedyd, Nac edrychwch yn fy wyneb, oni bydd eich brawd gyda chwi.

43:4 Os anfoni ein brawd gyda ni, ni a awn i waered, ac a brynwn i ti luniaeth.

43:5 Ond os ti nid anfoni, nid awn i waered; oblegid y g?r a ddywedodd wrthym ni, Nac edrychwch yn fy wyneb, oni bydd eich brawd gyda chwi.

43:6 Ac Israel a ddywedodd, Paham y drygasoch fi, gan fynegi i’r g?r fod i chwi eto frawd?

43:7 Hwythau a ddywedasant, Gan ymofyn yr ymofynnodd y g?r amdanom ni, ac am ein cenedl, gan ddywedyd, Ai byw eich tad chwi eto? Oes frawd arall i chwi? Ninnau a ddywedasom wrtho ef ar ôl y geiriau hynny: a allem ni gan wybod wybod y dywedai efe, Dygwch eich brawd i waered?

43:8 Iwda a ddywedodd hefyd wrth ei dad Israel, Gollwng y bachgen gyda mi, ninnau a gyfodwn ac a awn ymaith; fel y byddom byw, ac na byddom feirw, nyni, a thithau, a’n plant hefyd.

43:9 Myfi a fechnïaf amdano ef, o’m llaw i y gofynni ef: onis dygaf ef atat ti, a’i osod ef ger dy fron di, yna y byddaf euog o fai i’th erbyn byth.

43:10 Canys, pe na buasem hwyrfrydig, daethem eilchwyl yma ddwy waith bellach.

43:11 Ac Israel eu tad a ddywedodd wrthynt, Os rhaid yn awr felly, gwnewch hyn; cymerwch o ddewis ffrwythau’r wlad yn eich llestri, a dygwch yn anrheg i’r g?r, ychydig falm, ac ychydig fêl, llysiau, a myrr, cnau, ac almonau.

43:12 Cymerwch hefyd ddau cymaint o arian gyda chwi; a dygwch eilwaith gyda chwi yr arian a roddwyd drachefn yng ngenau eich sachau: ond odid amryfusedd fu hynny.

43:13 Hefyd cymerwch eich brawd, a chyfodwch, ewch eilwaith at y g?r.

43:14 A Duw Hollalluog a roddo i chwi drugaredd gerbron y g?r, fel y gollyngo i chwi eich brawd arall, a Ben-iamin: minnau fel y’m diblantwyd, a ddiblentir.

43:15 A’r gw?r a gymerasant yr anrheg honno, a chymerasant arian yn ddwbl yn eu llaw, a Ben-iamin hefyd; a chyfodasant, ac a aethant i waered i’r Aifft, a safasant gerbron Ioseff.

43:16 A Ioseff a ganfu Ben-iamin gyda hwynt; ac a ddywedodd wrth yr hwn oedd olygwr ar ei d?, Dwg y gw?r hyn i’r t?, a lladd laddfa, ac arlwya: oblegid y gw?r a gânt fwyta gyda myfi ar hanner dydd.

43:17 A’r g?r a wnaeth fel y dywedodD Ioseff: a’r g?r a ddug y dynion i d? Ioseff.

43:18 A’r gw?r a ofnasant, pan dducpwyd hwynt i d? Ioseff; ac a ddywedasant, Oblegid yr arian a roddwyd eilwaith yn ein sachau ni yr amser cyntaf, y ducpwyd nyni i mewn; i fwrw hyn arnom ni, ac i ruthro i ni, ac i’n cymryd ni yn gaethion, a’n hasynnod hefyd.

43:19 A hwy a nesasant at y g?r oedd olygwr ar d? Ioseff, ac a lefarasant wrtho, wrth ddrws y t?,

43:20 Ac a ddywedasant, Fy arglwydd, gan ddisgyn y disgynasom yr amser cyntaf i brynu lluniaeth.

43:21 A bu, pan ddaethom i’r llety, ac agoryd ein sachau, yna wele arian pôb un yng ngenau ei sach; ein harian ni, meddaf, yn ei bwys: ond ni a’i dygasom eilwaith yn ein llaw.

43:22 Dygasom hefyd arian arall i waered yn ein llaw, i brynu lluniaeth: nis gwyddom pwy a osododd ein harian ni yn ein ffetanau.

43:23 Yntau a ddywedodd, Heddwch i chwi; nac ofnwch: eich Duw chwi, a Duw eich tad, a roddes i chwi drysor yn eich sachau; daeth eich arian chwi ataf fi. Ac efe a ddug Simeon allan atynt hwy.

43:24 A’r g?r a ddug y dynion i d? Ioseff, ac a roddes ddwfr, a hwy a olchasant eu traed; ac efe a roddes ebran i’w hasynnod hwynt.

43:25 Hwythau a baratoesant eu hanrheg erbyn dyfod Ioseff ar hanner dydd oblegid clywsent mai yno y bwytaent fara.

43:26 Pan ddaeth Ioseff i’r t?, hwythau a ddygasant iddo ef yr anrheg oedd ganddynt i’r t?, ac a ymgrymasant iddo ef hyd lawr.

43:27 Yntau a ofynnodd iddynt am eu hiechyd, ac a ddywedodd, Ai iach yr hen ?r eich tad chwi, yr hwn y soniasoch amdano? ai byw efe eto?

28 Hwythau a ddywedasant, Iach yw dy was, ein tad ni, byw yw efe eto. Yna yr ymgrymasant, ac yr ymostyngasant.

29 Yntau a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu ei frawd Ben-iamin, mab ei fam ei hun, ac a ddywedodd, Ai dyma eich brawd ieuangaf chwi, am yr hwn y dywedasoch wrthyf fi? Yna y dywedodd, Duw a roddo ras i ti, fy mab.

30 A Ioseffa frysiodd, (oblegid cynesasai ei ymysgaroedd ef tuag at ei frawd,) ac a geisiodd le i wylo; ac a aeth i mewn i’r ystafell, ac a wylodd yno.

31 Gwedi hynny efe a olchodd ei wyneb, ac a ddaeth allan, ac a ymataliodd, ac a ddywedodd, Gosodwch fara.

32 Hwythau a osodasant fwyd iddo ef wrtho ei hun, ac iddynt hwy wrthynt eu hun, ac i’r Eifftiaid y rhai oedd yn bwyta gydag ef wrthynt eu hunain: oblegid ni allai’r Eifftiaid fwyta bara gyda’r Hebreaid, oherwydd ffieidd-dra oedd hynny gan yr Eifftiaid.

33 Yna yr eisteddasant ger ei fron ef, y cyntaf-anedig yn ô1 ei gyntafenedigaeth, a’r ieuangaf yn ôl ei ieuenctid: a rhyfeddodd y gw?r bôb un wrth ei gilydd.

34 Yntau a gymerodd seigiau oddi ger ei fron ei hun iddynt hwy: a mwy ydoedd saig Ben-iamin o bum rhan na seigiau yr un ohonynt oll. Felly yr yfasant ac y gwleddasant gydag ef.

PEN. XLIIII.

44:1 Ac efe a orchmynnodd i’r hwn oedd olygwr ar ei d? ef, gan ddywedyd, llanw sachau’r gw?r o fwyd, cymaint ag a allant ei ddwyn, a dod arian pôb un yng ngenau ei sach.

44:2 A dod fy nghwpan fy hun, sef y cwpan arian, yng ngenau sach yr ieuangaf, gydag arian ei ?d ef. Yntau a wnaeth yn ôl gair Ioseff, yr hwn a ddywedasai efe.

44:3 Y bore a oleuodd, a’r gw?r a ollyngwyd ymaith, hwynt a’u hasynnod.

44:4 Hwythau a aethant allan o’r ddinas. Ac nid nepwll, pan ddywedodd Ioseff wrth yr hwn oedd olygwr ar ei d?, Cyfod, a dilyn ar ôl y gw?r: a phan oddiweddech hwynt, dywed wrthynt, Paham y talasoch ddrwg am dda?

44:5 Onid dyma’r cwpan yr yfai fy arglwydd ynddo, ac yr arferai ddewiniaeth wrtho? Drwg y gwnaethoch yr hyn a wnaethoch.

44:6 Yntau a’u goddiweddodd hwynt, ac a ddywedodd y geiriau hynny wrthynt hwy.

44:7 Y rhai a ddywedasant wrtho yntau, Paham y dywed fy arglwydd y cyfryw eiriau? na ato Duw i’th weision di wneuthur y cyfryw beth.

44:8 Wele, ni a ddygasom atat ti eilwaith o wlad Canaan yr arian a gawsom yng ngenau ein sachau; pa fodd gan hynny y lladrataem ni arian neu aur o d? dy arglwydd di?

44:9 Yr hwn o’th weision di y ceffir y cwpan gydag ef, bydded hwnnw farw; a ninnau hefyd a fyddwn gaethweision i’m harglwydd.

44:10 Yntau a ddywedodd, Bydded yn awr fel y dywedasoch chwi: yr hwn y ceffir y cwpan gydag ef a fydd was i mi, a chwithau a fyddwch ddieuog.

44:11 Hwythau a frysiasant, ac a ddisgynasant bôb un ei sach i lawr, ac a agorasant bawb ei ffetan.

44:12 Yntau a chwiliodd; ar yr hynaf y dechreuodd, ac ar yr ieuangaf y diweddodd: a’r cwpan a gafwyd yn sach Ben-iamin.

44:13 Yna y rhwygasant eu dillad, ac a byniasant bawb ar ei asyn, ac a ddychwelasant i’r ddinas.

44:14 A daeth Iwda a’i frodyr i d? Ioseff, ac efe eto yno; ac a syrthiasant i lawr ger ei fron ef.

44:15 A dywedodd Ioseff wrthynt, Pa waith yw hwn a wnaethoch chwi? oni wyddech chwi y medr g?r fel myfi ddewiniaeth?

44:16 A dywedodd Iwda, Pa beth a ddywedwn wrth fy arglwydd? pa beth a lefarwn? pa fodd yr ymgyfiawnhawn? cafodd Duw allan anwiredd dy weision: wele ni yn weision i’m harglwydd, ie nyni, a’r hwn y cafwyd y cwpan gydag ef hefyd.

44:17 Yntau a ddywedodd, Na ato Duw i mi wneuthur hyn: y g?r y cafwyd y cwpan yn ei law, efe fydd was i mi; ewch chwithau i fyny, mewn heddwch, at eich tad.

44:18 Yna yr aeth Iwda ato ef, ac a ddywedodd, Fy arglwydd, caffed, atolwg, dy was ddywedyd gair yng nghlustiau fy arglwydd, ac na enynned dy lid wrth dy was: oherwydd yr wyt ti megis Pharo.

44:19 Fy arglwydd a ymofynnodd â’i weision, gan ddywedyd, A oes i chwi dad, neu frawd?

44:20 Ninnau a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y mae i ni dad, yn hen ?r; a phlentyn ei henaint ef, un bychan: a’i frawd a fu farw, ac efe a adawyd ei hunan o’i fam ef; a’i dad sydd hoff ganddo ef.

44:21 Tithau a ddywedaist wrth dy weision, Dygwch ef i waered ataf ft, fel y gosodwyf fy llygaid arno.

44:22 A ni a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y llanc ni ddichon ymadael â’i dad: oblegid os ymedy efe â’i dad, marw fydd ei dad.

44:23 Tithau a ddywedaist wrth dy weision. Oni ddaw eich brawd ieuangaf i waered gyda chwi, nac edrychwch yn fy wyneb mwy.

44:24 Bu hefyd, wedi ein myned ni i fyny at dy was fy nhad, mynegasom iddo ef eiriau fy arglwydd.

44:25 A dywedodd ein tad, Ewch eilwaith, prynwch i ni ychydig luniaeth.

44:26 Dywedasom ninnau, Nis gallwn fyned i waered: os bydd ein brawd ieuangaf gyda ni, nyni a awn i waered; oblegid ni allwn edrych yn wyneb y g?r, oni bydd ein brawd ieuangaf gyda ni.

44:27 A dywedodd dy was fy nhad wrthym ni, Chwi a wyddoch mai dau a blantodd fy ngwraig i mi;

44:28 Ac un a aeth allan oddi wrthyf fi; minnau a ddywedais, Yn ddiau gan larpio y llarpiwyd ef; ac nis gwelais ef hyd yn hyn:

44:29 Os cymerwch hefyd hwn ymaith o’m golwg, a digwyddo niwed iddo ef; yna y gwnewch i’m penllwydni ddisgyn mewn gofid i fedd.

44:30 Bellach gan hynny, pan ddelwyf at dy was fy nhad, heb fod y llanc gyda ni; (gan fod ei hoedl ef yngl?n wrth ei hoedl yntau;)

44:31 Yna pan welo efe na ddaeth y llanc, marw fydd efe; a’th weision a barant i benwynnedd dy was ein tad ni ddisgyn mewn gofid i fedd.

44:32 Oblegid dy was a aeth yn feichiau am y llanc i’m tad, gan ddywedyd, Onis dygaf ef atat ti, yna byddaf euog o fai yn erbyn fy nhad byth.

44:33 Gan hynny weithian, atolwg, arhosed dy was dros y llanc, yn was i’m harglwydd; ac aed y llanc i fyny gyda’i frodyr:

44:34 Oblegid pa fodd yr af i fyny at fy nhad, a’r llanc heb fod gyda mi? rhag i mi weled y gofid a gaiff fy nhad.

PEN. XLV.

45:1 Yna Ioseff ni allodd ymatal gerbron y rhai oll oedd yn sefyll gydag ef: ac efe a lefodd, Perwch allan bawb oddi wrthyf. Yna nid arhosodd neb gydag ef, pan ymgydnabu Ioseff a’i frodyr.

45:2 Ac efe a gododd ei lef mewn wylofain: a chlybu’r Eifftiaid, a chlybu t? Pharo.

45:3 A Ioseff a ddywedodd wrth ei frodyr, Myfi yw Ioseff: ai byw fy nhad eto? A’i frodyr ni fedrent ateb iddo; oblegid brawychasent ger ei fron ef.

45:4 Ioseff hefyd a ddywedodd wrth ei frodyr, Dyneswch, atolwg, ataf fi. Hwythau a ddynesasant. Yntau a ddywedodd, Myfi yw Ioseff eich brawd chwi, yr hwn a werthasoch i’r Aifft.

45:5 Weithian gan hynny na thristewch, ac na ddigiwch wrthych eich hunain, am werthu ohonoch fyfi yma; oblegid i achub einioes yr hebryngodd Duw fyfi o’ch blaen chwi.

45:6 Oblegid dyma ddwy flynedd o’r newyn o fewn y wlad; ac fe a fydd eto bum mlynedd, y rhai a fydd heb nac âr na medi.

45:7 A Duw a’m hebryngodd i o’ch blaen chwi, i gadw i chwi hiliogaeth yn y wlad, ac i beri bywyd i chwi, trwy fawr ymwared.

45:8 Ac yr awr hon nid chwi a’m hebryngodd i yma, ond Duw: ac efe a’m gwnaeth i yn dad i Pharo, ac yn arglwydd ar ei holl d? ef, ac yn llywydd ar holl wlad yr Aifft.

45:9 Brysiwch, ac ewch i fyny at fy nhad, a dywedwch wrtho, Fel hyn y dywed dy fab Ioseff: Duw a’m gosododd i yn arglwydd ar yr holl Aifft: tyred i waered ataf; nac oeda:

45:10 A chei drigo yng ngwlad Gosen, a bod yn agos ataf fi, ti a’th feibion, a meibion dy feibion, a’th ddefaid, a’th wartheg, a’r hyn oll sydd gennyt:

45:11 Ac yno y’th borthaf; (oblegid pum mlynedd o’r newyn a fydd eto;) rhag dy fyned mewn tlodi, ti, a’th deulu, a’r hyn oll sydd gennyt.

45:12 Ac wele eich llygaid chwi, a llygaid fy mrawd Ben-iamin yn gweled, mai fy ngenau i sydd yn ymadrodd wrthych.

45:13 Mynegwch hefyd i’m tad fy holl anrhydedd i yn yr Aifft, a’r hyn oll a welsoch; brysiwch hefyd, a dygwch fy nhad i waered yma.

45:14 Ac efe a syrthiodd ar wddf ei frawd Ben-iamin, ac a wylodd; Ben-iamin hefyd a wylodd ar ei wddf yntau.

45:15 Ac efe a gusanodd ei holl frodyr, ac a wylodd arnynt: ac ar ôl hynny ei frodyr a ymddiddanasant ag ef.

45:l6 A’r gair a ddaeth i d? Pharo, gan ddywedyd, Brodyr Ioseff a ddaethant: a da oedd hyn yng ngolwg Pharo, ac yng ngolwg ei weision.

45:17 A Pharo a ddywedodd wrth Ioseff, Dywed wrth dy frodyr, Gwnewch hyn; Llwythwch eich ysgrubliaid, a cherddwch, ac ewch i wlad Canaan;

45:18 A chymerwch eich tad, a’ch teuluoedd, a deuwch ataf fi: a rhoddaf i chwi ddaioni gwlad yr Aifft, a chewch fwyta braster y wlad.

45:19 Gorchymyn yn awr a gefaist, gwnewch hyn: cymerwch i chwi o wlad yr Aifft gerbydau i’ch rhai bach, ac i’ch gwragedd; a chymerwch eich tad, a deuwch.

45:20 Ac nac arbeded eich llygaid chwi ddim dodrefn; oblegid da holl wlad yr Aifft sydd eiddo chwi.

45:21 A meibion Israel a wnaethant felly: a rhoddodd Ioseff iddynt hwy gerbydau, yn ôl gorchymyn Pharo, a rhoddodd iddynt fwyd ar hyd y ffordd.

45:22 I bôb un ohonynt oll y rhoddes bâr o ddillad: ond i Ben-iamin y rhoddes dri chant o ddarnau arian, a phum pâr o ddillad.

45:23 Hefyd i’w dad yr anfonodd fel hyn; deg o asynnod yn llwythog o dda yr Aifft, a deg o asennod yn dwyn ?d, bara, a bwyd i’w dad ar hyd y ffordd.

45:24 Yna y gollyngodd ymaith ei frodyr: a hwy a aethant ymaith: ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Nac ymrysonwch ar y ffordd.

45:25 Felly yr aethant i fyny o’r Aifft, ac a ddaethant i wlad Canaan, at eu tad Iacob;

45:26 Ac a fynegasant iddo, gan ddywedyd, Y mae Ioseff eto yn fyw, ac y mae yn llywodraethu ar holl wlad yr Aifft. Yna y llesgaodd ei galon yntau; oblegid nid oedd yn eu credu.

45:27 Traethasant hefyd iddo ef holl eiriau Ioseff, y rhai a ddywedasai efe wrthynt hwy. A phan ganfu efe y cerbydau a anfonasai Ioseff i’w ddwyn ef, yna y bywiogodd ysbryd Iacob eu tad hwynt.

45:28 A dywedodd Israel, Digon ydyw; y mae Ioseff fy mab eto yn fyw: af, fel y gwelwyf ef cyn fy marw.

PEN. XLVI.

46:1 Yna y cychwynnodd Israel, a’r hyn oll oedd ganddo, ac a ddaeth i Beerseba, ac a aberthodd ebyrth i Dduw ei dad Isaac.

46:2 A llefarodd Duw wrth Israel mewn gweledigaethau nos, ac a ddywedodd, Iacob, Iacob. Yntau a ddywedodd, Wele fi.

46:3 Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Duw, Duw dy dad: nac ofna fyned i waered i’r Aifft; canys gwnaf di yno yn genhedlaeth fawr.

46:4 Myfi a af i waered gyda thi i’r Aifft; a myfi gan ddwyn a’th ddygaf di i fyny drachefn: Ioseff hefyd a esyd ei law ar dy lygaid di.

46:5 A chyfododd Iacob o Beer-seba: a meibion Israel a ddygasant Iacob eu tad, a’u rhai bach, a’u gwragedd, yn y cerbydau a anfonasai Pharo i’w ddwyn ef.

46:6 Cymerasant hefyd eu hanifeiliaid, a’u golud a gasglasent yn nhir Canaan, ac a ddaethant i’r Aifft, Iacob, a’i holl had gydag ef:

46:7 Ei feibion, a meibion ei feibion gydag ef, ei ferched, a merched ei feibion, a’i holl had, a ddug efe gydag ef i’r Aifft.

46:8 A dyma enwau plant Israel, y rhai a ddaethant i’r Aifft, Iacob a’i feibion Reuben, cynfab Iacob.

46:9 A meibion Reuben; Hanoch, a Phalu, Hesron hefyd, a Charmi.

46:10 A meibion Simeon, Iemwel, a Iamin, ac Ohad, a Iachin, a Sohar, a Saul mab Canaanees.

46:11 Meibion Lefi hefyd; Gerson, Cohath, a Merari. ’

46:12 ^ A meibion Iwda; Er, ac Onan, a Sela, Phares hefyd, a Sera: a buasai farw Er ac Onan yn nhir Canaan. A meibion Phares oedd Hesron a Hamul.

46:13 Meibion Issachar hefyd. Tola, a Phufa, a Iob, a Simron.

46:14 A meibion Sabulon, Sered, ac Elon, a Ialeel.

46:15 Dyma feibion Lea, y rhai a blantodd hi i Iacob ym Mesopotamia, a Dina ei ferch: ei feibion a’i ferched oeddynt oll dri dyn ar ddeg ar hugain.

46:16 A meibion Gad, Siffion, a Haggi, Suni, ac Esbon, Eri, ac Arodi, ac Areli.

46:17 A meibion Aser; Iimna, ac Isua, ac Isui, a Bereia, a Sera eu chwaer hwynt. A meibion Bereia, Heber a Malchiel.

46:18 Dyma feibion Silpa, yr hon a roddodd Laban i Lea ei ferch: a hi a blantodd y rhai hyn i Iacob, sef un dyn ar bymtheg.

46:19 Meibion Rahel, gwraig Iacob, oedd Ioseff a Ben-iamin.

46:20 Ac i Ioseff y ganwyd, yn nhir yr Aifft, Manasse ac Effraim, y rhai a blantodd Asnath, merch Potiffera offeiriad On, iddo ef.

46:21 A meibion Ben-iamin; Bela, a Becher, ac Asbel, Gera, a Naaman, Ehi, a Ros, Muppim, a Huppim, ac Ard.

46:22 Dyma feibion Rahel, y rhai a blantodd hi i Iacob; yn bedwar dyn ar ddeg oll.

46:23 A meibion Dan oedd Husim.

46:24 A meibion Nafftali; Iahseel, a Guni, a Ieser, a Silem.

46:25 Dyma feibion Bilha, yr hon a roddodd Laban i Rahel ei ferch: a hi a blantodd y rhai hyn i Iacob, yn saith dyn oll.

46:26 Yr holl eneidiau y rhai a ddaethant gyda Iacob i’r Aifft, yn dyfod allan o’i lwynau ef, heblaw gwragedd meibion Iacob, oeddynt oll chwe enaid a thrigain.

46:27 A meibion Ioseff, y rhai a anwyd iddo ef yn yr Aifft, oedd ddau enaid: holl eneidiau t? Iacob, y rhai a ddaethant i’r Aifft, oeddynt ddeg a thrigain.

46:28 Ac efe a anfonodd Iwda o’i flaen at Ioseff, i gyfarwyddo ei wyneb ef i Gosen: yna y daethant i dir Gosen.

46:29 A Ioseff a baratodd ei gerbyd, ac a aeth i fyny i gyfarfod Israel ei dad i Gosen; ac a ymddangosodd iddo: ac efe a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a wylodd ar ei wddf ef ennyd.

46:30 A dywedodd Israel wrth Ioseff, Byddwyf farw bellach, wedi i mi weled dy wyneb, gan dy fod di yn fyw eto.

46:31 A dywedodd Ioseff wrth ei frodyr ac wrth deulu ei dad, Mi a af i fyny, ac a fynegaf i Pharo, ac a ddywedaf wrtho, Fy mrodyr, a theulu fy nhad, y rhai oedd yn nhir Canaan, a ddaethant ataf fi.

46:32 A’r gw?r, bugeiliaid defaid ydynt: canys perchen anifeiliaid ydynt; a dygasant yma eu praidd, a’u gwartheg, a’i hyn oll oedd ganddynt.

46:33 A phan alwo Pharo amdanoch, dywedyd, Beth yw eich gwaith?

46:34 Dywedwch, Dy weision fuant drinwyr anifeiliaid o’u hieuenctid hyd yr awr hon, nyni a’n tadau hefyd; er mwyn cael ohonoch drigo yn nhir Gosen: canys ffieidd-dra yr Eifftiaid yw pôb defaid.

PEN. XLVII.

47:1 Yna y daeth Ioseff ac a fynegodd i Pharo, ac a ddywedodd, Fy nhad, a’m brodyr, a’u defaid, a’u gwartheg, a’r hyn oll oedd ganddynt, a ddaethant o dir Canaan; ac wele hwynt yn nhir Gosen.

47:2 Ac efe a gymerth rai o’i frodyr, sef pum dyn, ac a’u gosododd hwynt o flaen Pharo.

47:3 A dywedodd Pharo wrth ei frodyr ef, Beth yw eich gwaith chwi? Hwythau a ddywedasant wrth Pharo, Bugeiliaid defaid yw dy weision, nyni a’n tadau hefyd.

47:4 Dywedasant hefyd wrth Pharo, I orymdaith yn y wlad y daethom, am nad oes borfa i’r defaid gan dy weision; canys trwm yw y newyn yng ngwlad Canaan: ac yr awr hon, atolwg, caed dy weision drigo yn nhir Gosen.

47:5 A llefarodd Pharo wrth Ioseff, gan ddywedyd, Dy dad a’th frodyr a ddaethant atat.

47:6 Tir yr Aifft sydd o’th flaen; cyflea dy dad a’th frodyr yn y man gorau yn y wlad; trigant yn nhir Gosen: ac os gwyddost fod yn eu mysg w?r grymus, gosod hwynt yn ben-bugeiliaid ar yr eiddof fi.

47:7 A dug Ioseff Iacob ei dad, ac a’i gosododd gerbron Pharo: a Iacob a fendithiodd Pharo.

47:8 A dywedodd Pharo wrth Iacob, Pa faint yw dyddiau blynyddoedd dy einioes di?

47:9 A Iacob a ddywedodd wrth Pharo, Dyddiau blynyddoedd fy ymdaith ydynt ddeg ar hugain a chan mlynedd: ychydig a drwg fu dyddiau blynyddoedd fy einioes, ac ni chyraeddasant ddyddiau blynyddoedd einioes fy nhadau yn nyddiau eu hymdaith hwynt.

47:10 A bendithiodd Iacob Pharo, ac a aeth allan o ?ydd Pharo.

47:11 A Ioseff a gyfleodd ei dad a’i frodyr, ac a roddes iddynt feddiant yng ngwlad yr Aiffit, yng nghwr gorau y wlad, yn nhir Rameses, fel y gorchmynasai Pharo.

47:12 Ioseff hefyd a gynhaliodd ei dad, a’i frodyr, a holl dylwyth ei dad, a bara, yn ôl eu teuluoedd.

47:13 Ac nid oedd bara yn yr holl wlad: canys y newyn oedd drwm iawn; fel yr oedd gwlad yr Aifft, a gwlad Canaan, yn dyddfu gan y newyn.

47:14 Ioseff hefyd a gasglodd yr holl arian a gawsid yn nhir yr Aifft, ac yn nhir Canaan, am yr ymborth a brynasent hwy: a Ioseff a ddug yr arian i d? Pharo.

47:15 Pan ddarfu’r arian yn nhir yr Aifft, ac yng ngwlad Canaan, yr holl Eifftiaid a ddaethant at Ioseff, gan ddywedyd, Moes i ni fara: canys paham y byddem ni feirw ger dy fron? oherwydd darfu’r arian.

47:16 A dywedodd Ioseff, Moeswch eich anifeiliaid; a rhoddaf i chwi am eich anifeiliaid, os darfu’r arian.

47:17 A hwy a ddygasant eu hanifeiliaid at Ioseff: a rhoddes Ioseff iddynt fara am y meirch, ac am y diadelloedd defaid, ac am y gyrroedd gwartheg, ac am yr asynnod; ac a’u cynhaliodd hwynt â bara, am eu holl anifeiliaid, dros y flwyddyn honno.

47:18 A phan ddarfu’r flwyddyn honno, y daethant ato ef yr ail flwyddyn, ac a ddywedasant wrtho, Ni chelwn oddi wrth fy arglwydd ddarfod yr arian, a myned ein hysgrubliaid a’n hanifeiliaid at fy arglwydd; ni adawyd i ni gerbron fy arglwydd onid ein cyrff a’n tir.

47:19 Paham y byddwn feirw o flaen dy lygaid, nyni a’n tir? pr?n ni a’n tir am fara; a nyni a’n tir a fyddwn gaethion i Pharo: dod dithau i ni had, fel y byddom fyw, ac na fyddom feirw, ac na byddo’r tir yn anghyfannedd.

47:20 A Ioseff a brynodd holl dir yr Aifft i Pharo: canys yr Eifftiaid a werthasant bôb un ei faes; oblegid y newyn a gryfhasai arnynt: felly yr aeth y tir i Pharo.

47:21 Y bobl hefyd, efe a’u symudodd hwynt i ddinasoedd, o’r naill g?r i derfyn yr Aifft hyd ei chwr arall.

47:22 Yn unig tir yr offeiriaid ni phrynodd efe: canys rhan oedd i’r offeiriaid wedi ei phennu iddynt gan Pharo, a’u rhan a roddasai Pharo iddynt a fwytasant hwy; am hynny ni werthasant hwy eu tir.

47:23 Dywedodd Ioseff hefyd wrth y bobl, Wele, prynais chwi heddiw, a’ch tir, i Pharo: wele i chwi had, heuwch chwithau y tir.

47:24 A bydded i chwi roddi i Pharo y bumed ran o’r cnwd; a bydd y pedair rhan i chwi, yn had i’r maes, ac yn ymborth i chwi, ac i’r rhai sydd yn eich tai, ac yn fwyd i’ch rhai bach.

47:25 A dywedasant, Cedwaist ni yn fyw: gad i ni gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd, a byddwn weision i Pharo.

47:26 A Ioseff a osododd hynny yn ddeddf hyd heddiw ar dir yr Aifft, gael o Pharo y bumed ran; ond o dir yr offeiriaid yn unig, yr hwn nid oedd eiddo Pharo.

47:27 Trigodd Israel hefyd yng ngwlad yr Aifft o fewn tir Gosen, ac a gawsant feddiannau ynddi; cynyddasant hefyd, ac amlhasant yn ddirfawr.

47:28 Iacob hefyd a fu fyw yn nhir yr Aifft ddwy flynedd ar bymtheg; felly yr oedd dyddiau Iacob, sef blynyddoedd ei einioes ef, yn saith mlynedd a deugain a chan mlynedd.

47:29 A dyddiau Israel a nesasant i farw: ac efe a alwodd am ei fab Ioseff, ac a ddywedodd wrtho, O chefais yn awr ffafr yn dy olwg, gosod, atolwg, dy law dan fy morddwyd, a gwna â mi drugaredd a gwirionedd; na chladd fi, atolwg, yn yr Aifft:

47:30 Eithr mi a orweddaf gyda’m tadau; yna dwg fi allan o’r Aifft, a chladd fi yn eu beddrod hwynt. Yntau a ddywedodd, Mi a wnaf yn ôl dy air.

47:31 Ac efe a ddywedodd, Twng wrthyf. Ac efe a dyngodd wrtho. Yna Israel a ymgrymodd ar ben y gwely.

PEN. XLVIII.

48:1 A bu, wedi’r pethau hyn, ddywedyd o un wrth Ioseff, Wele, y mae dy dad yn glaf. Ac efe a gymerth ei ddau fab gydag ef, Manasse ac Effraim.

48:2 A mynegodd un i Iacob, ac a ddywedodd, Wele dy fab Ioseff yn dyfod atat. Ac Israel a ymgryfhaodd, ac a eisteddodd ar y gwely.

48:3 A dywedodd Iacob wrth Ioseff, Duw, Hollalluog a ymddangosodd i mi yn Lus, yng ngwlad Canaan, ac a’m bendithiodd:

48:4 Dywedodd hefyd wrthyf, Wele, mi a’th wnaf yn ffrwythlon, ac a’th amlhaf, ac yn dyrfa o bobloedd y’th wnaf, a rhoddaf y tir hwn i’th had di ar dy ôl di, yn etifeddiaeth dragwyddol.

48:5 Ac yr awr hon, dy ddau fab, y rhai a anwyd i ti yn nhir yr Aifft, cyn fy nyfod atat i’r Aifft, eiddof fi fyddant hwy: Effraim a Manasse fyddant eiddof fi, fel Reuben a Simeon.

48:6 A’th epil, y rhai a genhedlych ar eu hôl hwynt, fyddant eiddot ti dy hun, ar enw eu brodyr y gelwir hwynt yn eu hetifeddiaeth.

48:7 A phan ddeuthum i o Mesopotamia, bu Rahel farw gyda mi yn nhir Canaan, ar y ffordd, pan oedd eto filltir o dir hyd Effrath: a chleddais hi yno ar ffordd Effrath: honno yw Bethlehem.

48:8 A gwelodd Israel feibion Ioseff, ac a ddywedodd, Pwy yw y rhai hyn?

48:9 A Ioseff a ddywedodd wrth ei dad, Dyma fy meibion i, a roddodd Duw i ni yma. Yntau a ddywedodd, Dwg hwynt, atolwg, ataf fi, a mi a’u bendithiaf hwynt.

48:10 Llygaid Israel hefyd oedd drymion gan henaint, fel na allai efe weled; ac efe a’u dygodd hwynt ato ef: yntau a’u cusanodd hwynt, ac a’u cofleidiodd.

48:11 Dywedodd Israel hefyd wrth Ioseff, Ni feddyliais weled dy wyneb; eto, wele parodd Duw i mi weled dy had hefyd.

48:12 A Ioseff a’u tynnodd hwynt allan wrth ei liniau ef, ac a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb.

48:13 Cymerodd Ioseff hefyd hwynt ill dau, Effraim yn ei law ddeau tua llaw aswy Israel, a Manasse yn ei law aswy tua llaw ddeau Israel; ac a’u nesaodd hwynt ato ef.

48:14 Ac Israel a estynnodd ei law ddeau, ac a’i gosododd ar ben Effraim, (a hwn oed yr ieuangaf,) a’i law aswy ar ben Manasse: gan gyfarwyddo ei ddwylo trwy wybod; canys Manasse oedd y cynfab.

48:15 Ac efe a fendithiodd Ioseff, ac a ddywedodd, Duw, yr hwn y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac ger ei fron, Duw, yr hwn a’m porthodd er pan ydwyf, hyd y dydd hwn,

48:16 Yr angel yr hwn a’m gwaredodd oddi wrth bôb drwg, a fendithio’r llanciau; fy enw hefyd, ac enw fy nhadau Abraham ac Isaac, a alwer arnynt: heigiant hefyd yn lliaws yng nghanol y wlad.

48:17 Pan welodd Ioseff osod o’i dad ei law ddeau ar ben Effraim, bu anfodlon ganddo: ac efe a ddaliodd law ei dad, i’w symud hi oddi ar ben Effraim, ar ben Manasse.

48:18 Dywedodd Ioseff hefyd wrth ei dad, Nid felly, fy nhad: canys dyma’r cynfab, gosod dy law ddeau ar ei ben ef.

48:19 A’i dad a omeddodd, ac a ddywedodd, Mi a wn, fy mab, mi a wn: bydd hwn hefyd yn bobl, a mawr fydd hwn hefyd, ond yn wir ei frawd ieuangaf fydd mwy nag ef, a’i had ef fydd yn lliaws o genhedloedd.

48:20 Ac efe a’u bendithiodd hwynt yn y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Ynot ti y bendithia Israel, gan ddywedyd, Gwnaed Duw di fel Effraim, ac fel Manasse. Ac efe a osododd Effraim o flaen Manasse.

48:21 Dywedodd Israel hefyd wrth Ioseff, Wele fi yn marw, a bydd Duw gyda chwi, ac efe a’ch dychwel chwi i dir eich tadau.

48:22 A mi a roddais i ti un rhan goruwch dy frodyr, yr hon a ddygais o law yr Amoriaid â’m cleddyf ac â’m bwa.

PEN. XLIX.

49:1 Yna y galwodd Iacob ar ei feibion, ac a ddywedodd, Ymgesglwch, fel y mynegwyf i chwi yr hyn a ddigwydda i chwi yn y dyddiau diwethaf.

49:2 Ymgesglwch, a chlywch, meibion Iacob; ie, gwrandewch ar Israel eich tad.

49:3 Reuben fy nghynfab, tydi oedd fy ngrym, a dechreuad fy nerth, rhagoriaeth braint, a rhagoriaeth cryfder.

49:4 Ansafadwy oeddit fel dwfr: ni ragori di; canys dringaist wely dy dad; yna yr halogaist ef: fy ngwely a ddringodd.

49:5 Simeon a Lefi sydd frodyr; offer creulondeb sydd yn eu hanheddau.

49:6 Na ddeled fy enaid i’w cyfrinach hwynt: fy ngogoniant, na fydd un â’u cynulleidfa hwynt: canys yn eu dig y lladdasant ?r, ac o’u gwirfodd y diwreiddiasant gaer.

49:7 Melltigedig fyddo eu dig, canys tost oedd; a’u llid, canys creulon fu: rhannaf hwynt yn Iacob, a gwasgaraf hwynt yn Israel.

49:8 Tithau, Iwda, dy frodyr a’th glodforant di: dy law fydd yng ngwar dy elynion; meibion dy dad a ymgrymant i ti.

49:9 Cenau llew wyt ti, Iwda; o’r ysglyfaeth y daethost i fyny, fy mab: ymgrymodd, gorweddodd fel llew, ac fel hen lew: pwy a’i cyfyd ef?

49:10 Nid ymedy’r deyrnwialen o Iwda, na deddfwr oddi rhwng ei draed ef, hyd oni ddêl Seilo; ac ato ef y bydd cynulliad pobloedd.

49:11 Yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden, a llwdn ei asyn wrth y bêr winwydden: golchodd ei wisg mewn gwin, a’i ddillad yng ngwaed y grawnwin.

49:12 Coch fydd ei lygaid gan win, a gwyn fydd ei ddannedd gan laeth.

49:13 Sabulon a breswylia ym mhorthleoedd y môr; ac efe a fydd yn borthladd llongau, a’i derfyn fydd hyd Sidon.

49:14 Issachar sydd asyn asgyrnog, yn gorwedd rhwng dau bwn.

49:15 Ac a wêl lonyddwch mai da yw, a’r tir mai hyfryd: efe a ogwydda ei ysgwydd i ddwyn, ac a fydd yn gaeth dan deyrnged.

49:16 Dan a farn ei bobl fel un o lwythau Israel.

49:17 Dan fydd sarff ar y ffordd, a neidr ar y llwybr; yn brathu sodlau’r march, fel y syrthio ei farchog yn ôl.

49:18 Am dy iachawdwriaeth di y disgwyliais, Arglwydd.

49:19 Gad, llu a’i gorfydd; ac yntau a orfydd o’r diwedd.

49:20 O Aser bras fydd ei fwyd ef, ac efe a rydd ddanteithion brenhinol.

49:21 Nafftali fydd ewig wedi ei gollwng, yn rhoddi geiriau teg.

49:22 Ioseff fydd gangen ffrwythlon, cangen ffrwythlon wrth ffynnon, ceinciau yn cerdded ar hyd mur.

49:23 A’r saethyddion fuant chwerw wrtho ef, ac a saethasant, ac a’i casasant ef.

49:24 Er hynny arhodd ei fwa ef yn gryf, a breichiau ei ddwylo a gryfhasant, trwy ddwylo grymus Dduw Iacob: oddi yno y mae y bugail, maen Israel:

49:25 Trwy Dduw dy dad, yr hwn a’th gynorthwya, a’r Hollalluog, yr hwn a’th fendithia â bendithion y nefoedd oddi uchod, a bendithion y dyfnder yn gorwedd isod, a bendithion y bronnau a’r groth.

49:26 Rhagorodd bendithion dy dad ar fendithion fy rhieni, hyd derfyn bryniau tragwyddoldeb: byddant ar ben Ioseff, ac ar gorun yr hwn a neilltuwyd oddi wrth ei frodyr.

49:27 Ben-iamin a ysglyfaetha fel blaidd: y bore y bwyty’r ysglyfaeth, a’r hwyr y rhan yr ysbail.

49:28 Dyma ddeuddeg llwyth Israel oll, a dyma’r hyn a lefarodd eu tad wrthynt, ac y bendithiodd efe hwynt: pôb un yn ôl ei fendith y bendithiodd efe hwynt.

49:29 Yna y gorchmynnodd efe iddynt, ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a gesglir at fy mhobl: cleddwch fi gyda’m tadau, yn yr ogof sydd ym maes Effron yr Hethiad;

49:30 Yn yr ogof sydd ym maes Machpela, yr hon sydd o flaen Mamre, yng ngwlad Canaan, yr hon a brynodd Abraham gyda’r maes gan Effron yr Hethiad, yn feddiant beddrod.

49:31 Yno y claddasant Abraham a Sara ei wraig; yno y claddasant Isaac a Rebeca ei wraig; ac yno y cleddais i Lea.

49:32 Meddiant y maes, a’r ogof sydd ynddo, a gaed gan feibion Heth.

49:33 Pan orffennodd Iacob orchymyn i’w feibion, efe a dynnodd ei draed i’r gwely, ac a fu farw; a chasglwyd ef at ei bobl.

PEN. L.

50:1 Yna y syrthiodd Ioseff ar wyneb ei dad, ac a wylodd arno ef, ac a’i cusanodd ef.

50:2 Gorchmynnodd Ioseff hefyd i’w weision, y meddygon, berarogli ei dad ef: felly y meddygon a beraroglasant Israel.

50:3 Pan gyflawnwyd iddo ddeugain niwrnod, (canys felly y cyflawnir dyddiau y rhai a beraroglir,) yna yr Eifftiaid a’i harwylasant ef ddeng niwrnod a thrigain.

50:4 Pan aeth dyddiau ei arwyl ef heibio, yna y llefarodd Ioseff wrth deulu Pharo, gan ddywedyd, Os cefais yr awr hon ffafr yn eich golwg, lleferwch wrth Pharo, atolwg, gan ddywedyd,

50:5 Fy nhad a’m tyngodd, gan ddywedyd, Wele fi yn marw: yn fy medd yr hwn a gloddiais i mi yng ngwlad Canaan, yno y’m cleddi. Ac yr awr hon caffwyf fyned i fyny, atolwg, fel y claddwyf fy nhad; yna mi a ddychwelaf.

50:6 A dywedodd Pharo, Dos i fyny, a chladd dy dad, fel y’th dyngodd.

50:7 A Ioseff a aeth i fyny i gladdu ei dad: a holl weision Pharo, sef henuriaid ei d? ef, a holl henuriaid gwlad yr Aifft, a aethant i fyny gydag ef,

50:8 A holl d? Ioseff, a’i frodyr, a th? ei dad: eu rhai bach yn unig, a’u defaid a’u gwartheg, a adawsant yn nhir Gosen.

50:9 Ac aeth i fyny gydag ef gerbydau, a gw?r meirch hefyd: ac yr oedd yn llu mawr iawn.

50:10 A hwy a ddaethant hyd lawr dyrnu Atad, yr hwn sydd dros yr Iorddonen; ac a alarasant yno alar mawr, a thrwm iawn: canys gwnaeth alar dros ei dad saith niwrnod.

50:11 Pan welodd y Canaaneaid, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad, y galar yn llawr dyrnu Atad, yna y dywedasant, Dyma alar trwm gan yr Eifftiaid: am hynny y galwasant ei enw Abel-Misraim, yr hwn sydd dros yr Iorddonen.

50:12 A’i feibion a wnaethant iddo megis y gorchmynasai efe iddynt.

50:13 Canys ei feibion a’i dygasant ef i wlad Canaan, ac a’i claddasant ef yn ogof maes Machpela: yr hon a brynasai Abraham gyda’r maes, yn feddiant beddrod, gan Effron yr Hethiad, o flaen Mamre.

50:14 A dychwelodd Ioseff i’r Aifft, efe, a’i frodyr, a’r rhai oil a aethant i fyny gydag ef i gladdu ei dad, wedi iddo gladdu ei dad.

50:15 Pan welodd brodyr Ioseff farw o’u tad, hwy a ddywedasant, Ioseff ond odid a’n casâ ni, a chan dalu a dâl i ni yr holl ddrwg a wnaethom ni iddo ef.

50:16 A hwy a anfonasant at Ioseff i ddywedyd, Dy dad a orchmynnodd o flaen ei farw, gan ddywedyd,

50:17 Fel hyn y dywedwch wrth Ioseff, Atolwg, maddau yr awr hon gamwedd dy frodyr, a’u pechod hwynt, canys gwnaethant i ti ddrwg: ond yr awr hon, maddau, atolwg, gamwedd gweision Duw dy dad. Ac wylodd Ioseff pan lefarasant wrtho.

50:18 A’i frodyr a ddaethant hefyd, ac a syrthiasant ger ei fron ef, ac a ddywedasant, Wele ni yn weision i ti.

50:19 A dywedodd Ioseff wrthynt, Nac ofnwch, canys a ydwyf fi yn lle Duw?

50:20 Chwi a fwriadasoch ddrwg i’m herbyn; ond Duw a’i bwriadodd i ddaioni, i ddwyn i ben, fel y gwelir heddiw, i gadw yn fyw bobl lawer.

50:21 Am hynny, nac ofnwch yr awr hon: myfi a’ch cynhaliaf chwi, a’ch rhai bach. Ac efe a’u cysurodd hwynt, ac a lefarodd wrth fodd eu calon.

50:22 A Ioseff a drigodd yn yr Aifft, efe, a theulu ei dad: a bu Ioseff fyw gan mlynedd a deg.

50:23 Gwelodd Ioseff hefyd, o Effraim, orwyrion: maethwyd hefyd blant Machir, fab Manasse, ar liniau Ioseff.

50:24 A dywedodd Ioseff wrth ei frodyr, Myfi sydd yn marw: a Duw gan ymweled a ymwêl â chwi, ac a’ch dwg chwi i fyny o’r wlad hon, i’r wlad a dyngodd efe i Abraham, i Isaac, ac i Iacob.

50:25 A thyngodd Ioseff feibion Israel, gan ddywedyd, Duw gan eich gofwyo a’ch gofwya chwi, dygwch chwithau fy esgyrn i fyny oddi yma.

50:26 A Ioseff a fu farw yn fab deng mlwydd a chant: a hwy a’i peraroglasant ef, ac efe a osodwyd mewn Arch yn yr Aifft.