Beibl (1588)/Lefiticus
13 1 Llefarodd yꝛ Arglwydd hefyd wꝛth Moſes ac Aaron, gan ddywedyd:
13 2 Dŷn (pan fyddo yng-hꝛoen ei gnawd, chŵydd neu grammen, neu ddiſclaerder, a bod ynghꝛoen ei gnawd ef megis anafod y clwyf gwahanol,) a ddygir at Aaron yꝛ offeiriad, neu at vn oi feibion ef yꝛ offeiriaid.
13 3 Pan welo yꝛ offeiriad yꝛ anafod yng-hꝛoen y cnawd: os y blewyn yn yꝛ anafod fydd wedi troi yn wynn a gwelediad yꝛ anafod yn ddyfnach na chꝛoen ei gnawd ef, anafod gwahan-glwyf yw hwnnw: a’r offeiriad ai hedꝛych ac ai barn yn aflan.
13 4 Ond os diſgleirdeb gwynn fydd efe yng-hꝛoen ei gnawd ef, ac heb fod yn îs ei welediad na’r croen, a’r blewyn heb dꝛoi yn wynn: yna caeed yꝛ offeiriad ar yꝛ [anafodus] ſaith niwꝛnod
13 5 A’r ſeithfed dydd edꝛyched yꝛ offeiriad ef, ac os ſefyll y bydd yꝛ anafod yn ei olwg ef, heb ledu o’ꝛ anafod yn y croen, yna caeed yꝛ offeiriad arno ſaith niwꝛnod eil-waith.
13 6 Ac edꝛyched yꝛ offeiriad ef yꝛ ail ſeithfed dydd, ac os bydd yꝛ anafod yn crychu, heb ledu o’ꝛ anafod yn y croen, yna barned yꝛ offeiriad ef yn lân: crammen yw honno, yna golched ei wiſcoedd a glân fydd.
13 7 Ac os y grammen gan ledu a leda yn y croen, wedi i’r offeiriad ei weled, ai farnu yn lân: yna dangoſer ef eilwaith i’r offeiriad.
13 8 Ac edꝛyched yꝛ offeiriad, ac os lledodd y grammen yn y croen, yna barned yꝛ offeiriad ef yn aflan: gwahan-glwyf yw hwnnw.
13 9 Pan fyddo ar ddyn anafod gwahan-glwyf, yna dyger ef at yꝛ offeiriad.
13 10 Ac edꝛyched yꝛ offeiriad, yna os chŵydd gwynn [a fydd] yn y croen, a hwnnw wedi troi y blewyn yn wynn, a dim cîg byw yn y chŵydd.
13 11 Hên wahan-glwyf yw hwnnw, yng-hꝛoen ei gnawd ef, a barned yꝛ offeiriad ef yn aflan: na chaeed arno o herwydd y mae efe yn aflan:
13 12 Ond os y gwahan-glwyf gan darddu a dardda yn y croen, a goꝛchguddio o’ꝛ gwahan-glwyf holl groen yꝛ anafodus, oi ben hyd ei dꝛaed: pa le bynnac yꝛ edꝛycho ’r offeiriad.
13 13 Yna edꝛyched yꝛ offeiriad ac os y gwahan-glwyf fydd yn cuddio ei holl gnawd ef, yna barned oꝛ offeiriad yꝛ anafodus yn lân, [os] trôdd yn wynn ei gyd, glân yw.
13 14 A’r dydd y gwelir ynddo gîg byw, aflā fydd
13 15 Yna edꝛyched yꝛ offeiriad ar y cîg byw, a barned ef yn aflan, aflan yw ’r cîg byw hunnw, gwahan-glwyf yw.
13 16 Neu os dychwel y cîg byw a thꝛoi ’n wynn: yna deued at yꝛ offeiriad.
13 17 Ac edꝛyched yꝛ offeiriad arno, ac os trôdd yꝛ anafod yn wynn, yna barned yꝛ offeiriad yꝛ anafod yn lân, glân yw efe.
13 18 A chnawd hefyd (o bydd ynddo goꝛnwyd yn ei groen, ai iachau,
13 19 A bod yn lle y coꝛnwyd chŵydd gwŷnn neu ddiſclaerder gwynn-goch) a ddangoſir i’r offeiriad.
13 20 Ac edꝛyched yꝛ offeiriad, ac os gwelir ef yn îs na’r croen, a’r blewyn wedi troi yn wynn, yna barned yꝛ offeiriad ef yn aflan gwahan-glwyf yw efe yn tarddu yn y coꝛnwyd.
13 21 Ond os yꝛ offeiriad ai hedꝛych, ac wele ni bydd ynddo flewyn gwynn ac ni bydd îs na’r croen, ond wedi duo: yna caeed yꝛ offeiriad arno ſaith niwꝛnod.
13 22 Ac os gan ledu y lleda yn y croen, yna barned yꝛ offeiriad ef yn aflan, anafod yw efe.
13 23 Ond os y diſclaerder y ſaif yn ei lê heb ymledu craith coꝛnwyd yw efe, a barned yꝛ offeiriad ef yn lân.
13 24 Os cnawd fydd a lloſciad tân ar ei groen, a bod cîg byw y lloſciad yn ddiſclaerder gwyn-goch neu wynn.
13 25 Yna edꝛyched yꝛ offeiriad ef, ac os y blewyn yn y diſclaerdeb fydd wedi troi yn wyn, ac yn îs iw weled na’r croen, gwahan-glwyf yw hwnnw yn tarddu yn y lloſciad, a barned yꝛ offeiriad ef yn aflan, anafod gwahan-glwyf yw hunnw.
13 26 Ond os yꝛ offeiriad ai hedꝛych, ac wele ni bydd blewyn gwyn yn y diſclaerder, ac ni bydd îs na’r croen ond ei fod wedi crychu: yna caeed yꝛ offeiriad arno ſaith niwꝛnod.
13 27 Ac edꝛyched yꝛ offeiriad ef y ſaithfed dydd os gan ledu y ledodd yn y croen, yna barned yꝛ offeiriad ef yn aflan, anafod gwahan-glwyf yw hwnnw.
13 28 Ac os y diſcleirdeb a ſaif yn ei lê, heb ledu yn y croen, ac efe yn crychu hefyd, chŵydd y lloſciad yw efe: barned yꝛ offeiriad ef yn lân: canys craith y lloſgiad yw hwnnw.
13 29 Pann fyddo gwꝛ neu wꝛaig a’r anafod arno mewn pen neu farf.
13 30 Yna edꝛyched yꝛ offeiriad yꝛ anafod, ac os îs y gwelir na’r croē, a blewyn melyn main ynddo yna barned yꝛ offeiriad ef yn aflā, y ddufrech yw hwnnw, gwahan-glwyf pen neu farf yw efe.
13 31 Ac os yꝛ offeiriad a edꝛych ar anafod y ddufrech, ac wele nid îs i weled na’r croen a heb flewyn du ynddo, yna caeed yꝛ offeiriad ar anafod y ddu-frech ſaith niwꝛnod.
13 32 Ac edꝛyched yꝛ offeiriad ar yꝛ anafod y ſeithfed dydd, ac os y ddufrech ni bydd wedi lledu, ac ni bydd blewyn melyn ynddi, ac heb fod îs gweled y ddu-frech na’r croen:
13 33 Yna ymeillied, ac na eillied [y fan y byddo] y ddufrech, a chaeed yꝛ offeiriad ar [berchen] y ddu-frech ſaith niwꝛnod eilwaith.
13 34 A’r ſeithfed dydd edꝛyched yꝛ offeiriad ar y ddu-frech, ac os y ddufrech ni ledodd yn y croen, ac ni bydd îs ei gweled na’r croen, yna barned yꝛ offeiriad ef yn lân, a golched ei ddillad, a glân fydd.
13 35 Ond os y ddu-frech gan ledu a leda yn y croen wedi ei farnu ef yn lân,
13 36 Yna edꝛyched yꝛ offeiriad ef, ac os lledodd y ddufrech yn y croen, na chwilied yꝛ offeiriad amy blewyn melyn: y mae efe yn aflan.
13 37 Ond os ſefyll y bydd y ddufrech yn ei olwg ef, a blewyn du yn tyfu trwyddi, aeth y ddu-frech yn iach, glân yw hwnnw, a barned yꝛ offeiriad ef yn lân.
13 38 A phan fyddo yng-hꝛoen cnawd gwꝛ neu wꝛaig lawer o ddiſclaer fannau gwynnion:
13 39 Yna edꝛyched yꝛ offeiriad ac os bydd ynghꝛoen eu cnawd hwynt ddiſcleiriadau gwynnion wedi eu crychu, bꝛychni yw hynny, yn tarddu yn y croen: glân yw efe.
13 40 A gŵꝛ pan foelo ei ben, moel fydd, [etto] glân fydd efe.
13 41 Ac os o du ei wyneb y moela ei benn ef, efe a fydd tâl-foel [etto] glân fydd efe.
13 42 Ond pan fyddo anafod gwyn-goch yn y pen-foeledd, neu yn y tâl-foeledd, gwahan-glwyf yw efe yn tarddu yn ei ben-foeledd, neu yn ei dâl-foeledd ef.
13 43 Ac edꝛyched yꝛ offeiriad ef, ac os bydd chŵydd yꝛ anafod yn wyn-goch yn ei ben-foeledd neu yn ei dâl-foeledd ef, fel lliw gwahan-glwyf croen cnawd,
13 44 Gŵꝛ gwahan-glwyfus yw hwnnw, aflan yw: a’r offeiriad ai barna ef yn llwyꝛ aflan: yn ei ben [y mae] ei anafod.
13 45 A’r gwahan-glwyfus yꝛ hwn y byddo ’r anafod arno, bydded ei wiſcoedd ef yn agoꝛed, a bydded ei ben ef yn noeth a rhodded gaead ar ei enau a llefed: aflan, aflan.
13 46 Yꝛ holl ddyddiau y rhai y byddo (\roman) ’r anafod arno, bernir ef yn aflan, aflan yw efe, triged ei hunan, bydded (\roman) ei dꝛigfa o’ꝛ tu allan i’r gwerſyll
13 47 Ac os dilledyn fydd a phla gwahanglwyf ynddo, o ddilledyn gwlân, neu o ddilledyn llîn.
13 48 Pwy vn bynnac ai yn yꝛ yſtof, ai yn yꝛ anwê o lîn, neu o wlân, neu mewn croen, neu mewn dim a wnaed o groen:
13 49 Os gwyꝛdd-las, neu gôch fydd yꝛ anafod yn y dilledyn, neu yn y croen, neu yꝛ yſtof, neu yn yꝛ anwê, neu mewn vn offeryn croen, anafod y gwahan-glwyf yw efe: a dangoſer ef i’r offeiriad.
13 50 Ac edꝛyched yꝛ offeiriad yꝛ anafod, a chaeed ar yꝛ anafod ſaith niwꝛnod.
13 51 A’r ſeithfed dydd edꝛyched yꝛ anafod, os yꝛ anafod a ledodd yn y dilledyn, pa vn bynac ai mewn yſtof, ai mewn anwê, ai mewn croen i ba waith bynnac y gweithir y croen, gwahan-glwyf yſſol [ac] anafod aflan yw.
13 52 A lloſced y dilledyn neu ’r yſtof, neu ’r anwê, o wlân, neu o lîn, neu bôb offeryn croen, yꝛ hwn y byddo anafod ynddo, canys gwahan-glwyf yſſol yw efe, lloſger mewn tân.
13 53 Ac os edꝛych yꝛ offeiriad, ac wele ni ledodd yꝛ anafod mewn dilledyn, neu mewn yſtof, neu mewn anwê, neu mewn vn offeryn croen:
13 54 Yna goꝛchymynned yꝛ offeiriad iddynt olchi yꝛ hyn y byddo ’r anafod ynddo, a chaeed arno ſaith niwꝛnod eil-waith.
13 55 Ac edꝛyched yꝛ offeiriad yꝛ anafod wedi ei olchi: os yꝛ anafod ni thꝛôdd ei liw, er na ledodd yꝛ anafod, efe a fydd aflan: lloſcer ef mewn tân, ffrettiad yw efe yn ei lwmder yn y tu wyneb, neu yn ei lwmder yn y tu gwꝛthwyneb.
13 56 Ac os edꝛych yꝛ offeiriad, ac wele ’r anafod wedi crychu yn ôl ei olchi ef, yno toꝛred ef allan o’ꝛ dilledyn, neu o’ꝛ croen, neu o’ꝛ yſtof neu o’ꝛ anwê.
13 57 Ond os gwelir mwy yn y dilledyn, neu yn yꝛ yſtof, neu yn yꝛ anwê, neu mewn vn offeryn croen, tarddu y mae efe, lloſger yꝛ hwn [y mae] yꝛ anafod ynddo mewn tân.
13 58 A’r dilledyn, neu ’r yſtof, neu ’r anwe, neu pa offeryn bynnac o groen, y rhai a olcher, ac yꝛ ymadawo yꝛ anafod a hwynt, a olchir eilwaith, a glân fydd efe.
13 59 Dymma gyfraith anafod gwahanglwyf dilledyn gwlân, neu lîn, neu yſtof, neu anwê, neu pa offeryn croen bynnac iw farnu ’n lân, neu iw farnu ’n aflan.
[…]
14 35 Yna deued yꝛ hwn biau y tŷ, a dangoſed i’r offeiriad gan ddywedyd gwelaf megis anafod yn tŷ.
14 36 A goꝛchymynned yꝛ offeiriad iddynt arloeſi y tŷ cyn dyfod yꝛ offeiriad i weled yꝛ anafod, fel na halogir yꝛ hyn oll a [fyddo] yn tŷ, ac wedi hynny deued yꝛ offeiriad i edꝛych y tŷ.
14 37 Ac edꝛyched yꝛ anafod: ac os yꝛ anafod [fydd] ym mharwydydd y tŷ yn agennau gwyꝛdd-leiſion, neu gochion, a’r olwg arnynt yn îs na’r pared.
14 38 Yna aed yꝛ offeiriad allan o’ꝛ tŷ, i ddꝛws y tŷ, a chaeed y tŷ ſaith niwꝛnod.
14 39 A’r ſeithfed dydd deued yꝛ offeiriad trachefn, ac edꝛyched, ac os lledodd yꝛ anafod ym mharwydydd y tŷ,
14 40 Yna goꝛchymynned yꝛ offeiriad iddynt, dynnu y cerric y rhai [y byddo] ’r anafod arnynt, a bwꝛiant hwynt, o’ꝛ tu allan i’r dinas i lê aflan.
14 41 A phared efe grafu y tŷ oi fewn o amgylch, a thywalldant y llwch yꝛ hwn a graſant, o’ꝛ tu allan i’r dinas i lê aflan.
14 42 A chymmerant gerric eraill, a goſſodant yn lle y cerric hynny, a chymmered bꝛidd arall a phꝛidded y tŷ.
14 43 Ond os daw ’r anafod trachefn, a tharddu yn tŷ, wedi tynnu y cerric, ac wedi crafu y tŷ, ac wedi pꝛiddo.
14 44 Yna doed yꝛ offeiriad, ac edꝛyched, ac os lledodd yꝛ anafod yn y tŷ, gwahan-glwyf yſſol yw hwnw yn tŷ: aflan yw efe.
14 45 Yna tynned i lawꝛ y tŷ yng-hyd ai gerric, ai goed, a holl bꝛidd y tŷ: a bwꝛied i’r tu allan i’r dinas i lê aflan.
14 46 A’r hwn a ddêl i’r tŷ, yꝛ holl ddyddiau [y rhai] y parodd efe ei gaeu, efe a fydd aflan hyd yꝛ hwyꝛ.
14 47 A’r hwn a gyſco yn y tŷ, golched ei ddillad: felly yꝛ hwn a fwyttu yn tŷ golched ei ddillad.
14 48 Ac os yꝛ offeiriad gan ddyfod a ddaw, ac a edꝛych, ac wele ni ledodd yꝛ anafod yn tŷ, wedi pꝛiddo y tŷ, yna barned yꝛ offeiriad y tŷ yn lân, o herwydd iachau ’r anafod.