Beibl (1620)/2 Brenhinoedd

1 Brenhinoedd Beibl (1620)
2 Brenhinoedd
2 Brenhinoedd

wedi'i gyfieithu gan William Morgan
1 Cronicl

AIL LYFR Y BRENHINOEDD YR HWN A ELWIR HEFYD PEDWERYDD LLYFR Y BRENHINOEDD

PENNOD 1

1:1 Yna Moab a wrthryfelodd yn erbyn Israel, wedi marwolaeth Ahab.

1:2 Ac Ahaseia a syrthiodd trwy ddellt o’i lofft, yr hon oedd yn Samaria, ac a glafychodd; ac efe a anfonodd genhadau, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, ac ymofynnwch â Baal-sebub duw Ecron, a fyddaf fi byw o’r clefyd hwn.

1:3 Ac angel yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Eleias y Thesbiad, Cyfod, dos i fyny i gyfarfod â chenhadau brenin Samaria, a dywed wrthynt, Ai am nad oedd Duw yn Israel, yr ydych chwi yn myned i ymofyn a Baal-sebub duw Ecron?

1:4 Ac am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD; Ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw. Ac Eleias a aeth ymaith.

1:5 A phan ddychwelodd y cenhadau ato ef, efe a ddywedodd wrthynt, Paham y dychwelasoch chwi?

1:6 A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr a ddaeth i fyny i’n cyfarfod ni, ac a ddy¬wedodd wrthym ni, Ewch, dychwelwch at y brenin a’ch anfonodd, a lleferwch wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ai am nad oes Duw yn Israel, yr ydwyt ti yn anfon i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron? oherwydd hynny ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw.

1:7 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Pa ddull oedd ar y gŵr a ddaeth i fyny i’ch cyfarfod chwi, ac a lefarodd wrthych yr ymadroddion yma?

1:8 A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr blewog oedd efe, wedi ymwregysu hefyd â gwregys croen am ei lwynau. Dywed¬odd yntau, Eleias y Thesbiad oedd efe.

1:9 Yna efe a anfonodd ato ef dywysog ar ddeg a deugain, ynghyda’i ddeg a deugain: ac efe a aeth i fyny ato ef; (ac wele ef yn eistedd ar ben bryn;) ac a lefarodd wrtho, Ti ŵr Duw, y brenin a lefarodd, Tyred i waered.

1:10 Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrth dywysog y deg a deugain, Os gŵr i Duw ydwyf fi, disgynned tân o’r nefoedd, ac ysed di a’th ddeg a deugain. A thân a ddisgynnodd o’r nefoedd, ac a’i hysodd ef a’i ddeg a deugain.

1:11 A’r brenin a anfonodd eilwaith ato ef dywysog arall ar ddeg a deugain, a’i ddeg a deugain: ac efe a atebodd ac a ddywedodd, O ŵr Duw, fel hyn y dywedodd y brenin. Tyred i waered yn ebrwydd.

1:12 Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy, Os gŵr Duw ydwyf fi, disgynned tan o’r nefoedd, ac ysed di a’th ddeg a deugain. A thân Duw a ddisgynnodd o’r nefoedd, ac a’i hysodd ef a’i ddeg a deugain.

1:13 A’r brenin a anfonodd eto y trydydd tywysog ar ddeg a deugain, a’i ddeg a deugain: a’r trydydd tywysog ar ddeg a deugain a aeth i fyny, ac a ddaeth ac a ymgrymodd ar ei liniau gerbron Eleias, ac a ymbiliodd ag ef, ac a lefarodd wrtho, O ŵr Duw, atolwg, bydded fy einioes i, ac einioes dy ddeg gwas a deugain hyn, yn werthfawr yn dy olwg di.

1:14 Wele, disgynnodd tân o’r nefoedd, ac a ysodd y ddau dywysog cyntaf ar ddeg a deugain, a’u deg a deugeiniau: am hynny yn awr bydded fy einioes i yn werthfawr yn dy olwg di.

1:15 Ac angel yr ARGLWYDD a lefarodd wrth Eleias, Dos i waered gydag ef, nac ofna ef. Ac efe a gyfododd, ac a aeth i waered gydag ef at y brenin.

1:16 Ac efe a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Oherwydd i ti anfon cenhadau i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron, (ai am nad oes Duw yn Israel i ymofyn â’i air?) am hynny ni ddisgynni o’r gwely y dringaist amo, eithr gan farw y byddi farw.

1:17 Felly efe a fu farw, yn ôl gair yr ARGLWYDD yr hwn a lefarasai Eleias: a Jehoram a deyrnasodd yn ei le ef, yn yr ail flwyddyn i Jehoram mab Jehosaffat brenin Jwda; am nad oedd mab iddo ef.

1:18 A’r rhan arall o weithredoedd Ahaseia y rhai a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?

PENNOD 2 2:1 A phan oedd yr ARGLWYDD ar gymryd i fyny Eleias mewn corwynt i’r nefoedd, aeth Eleias ac Eliseus allan o Gilgal.

2:2 Ac Eleias a ddywedodd wrth Eliseus, Aros, atolwg, yma: canys yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i Bethel. Ac Eliseus a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. Felly hwy a aethant i waered i Bethel.

2:3 A meibion y proffwydi, y rhai oedd yn Bethel, a ddaethant allan at Eliseus, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti mai heddiw y mae yr ARGLWYDD yn dwyn dy feistr oddi arnat ti? Dywedodd yntau. Mi a wn hynny hefyd, tewch chwi â son.

2:4 Ac Eleias a ddywedodd wrtho, Aros yma, atolwg, Eliseus; canys yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i Jericho. Dywedodd yntau, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. Felly hwy a ddaethant i Jericho.

2:5 A meibion y proffwydi, y rhai oedd yn Jericho, a ddaethant at Eliseus, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti mai heddiw y mae yr ARGLWYDD yn dwyn dy feistr oddi arnat ti? Yntau a ddywedodd, Mi a wn hynny hefyd, tewch chwi â son.

2:6 Ac Eleias a ddywedodd wrtho, Aros yma, atolwg; canys yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i’r Iorddonen. Dywedodd yntau, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. A hwy a aethant ill dau rhagddynt.

2:7 A dengwr a deugain o feibion y proffwydi a aethant, ac a safasant ar gyfer o bell: a hwy ill dau a safasant wrth yr Iorddonen.

2:8 Ac Eleias a gymerth ei fantell, ac a’i plygodd ynghyd, ac a drawodd y dyfroedd, a hwy a ymwahanasant yma ac acw, fel yr aethant hwy trwodd ill dau ar dir sych.

2:9 Ac wedi iddynt fyned drosodd, Eleias a ddywedodd wrth Eliseus, Gofyn y peth a wnelwyf i ti, cyn fy nghymryd oddi wrthyt. A dywedodd Eliseus, Bydded gan hynny, atolwg, ddau parth o’th ysbryd di arnaf fi.

2:10 Dywedodd yntau, Gofynnaist beth anodd: os gweli fi wrth fy nghymryd oddi wrthyt, fe fydd i ti felly; ac onid e, ni bydd.

2:11 Ac fel yr oeddynt hwy yn myned dan rodio ac ymddiddan, wele gerbyd tanllyd, a meirch tanllyd, a hwy a’u gwahanasant hwynt ill dau. Ac Eleias a ddyrchafodd mewn corwynt i’r nefoedd.

2:12 Ac Eliseus oedd yn gweled, ac efe a lefodd, Fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel, a’i farchogion. Ac nis gwelodd ef mwyach: ac efe a ymaflodd yn ei ddillad, ac a’u rhwygodd yn ddeuddarn.

2:13 Ac efe a gododd i fyny fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef; ac a ddychwelodd ac a safodd wrth fin yr Iorddonen.

2:14 Ac efe a gymerth fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef, ac a drawodd y dyfroedd, ac a ddywedodd. Pa le y mae ARGLWYDD DDUW Eleias? Ac wedi iddo yntau daro’r dyfroedd, hwy a wahanwyd yma ac acw. Ac Eliseus a aeth drosodd.

2:15 A phan welodd meibion y proffwydi ef, y rhai oedd yn Jericho ar ei gyfer, hwy a ddywedasant, Gorffwysodd ysbryd Eleias ar Eliseus. A hwy a ddaethant i’w gyfarfod ef, ac a ymgrymasant hyd lawr iddo.

2:16 A hwy a ddywedasant wrtho, Wele yn awr, y mae gyda’th weision ddeg a deugain o wŷr cryfion; elont yn. awr, ni a atolygwn, a cheisiant dy feistr: rhag i ysbryd yr ARGLWYDD ei ddwyn ef, a’i fwrw ar ryw fynydd, neu mewn rhyw ddyffryn. Dywedodd yntau, Na anfonwch.

2:17 Eto buant daer arno, nes cywilyddio ohono, ac efe a ddywedodd, Anfonwch. A hwy a anfonasant ddengwr a deugain, y rhai a’i ceisiasant ef dridiau, ond nis cawsant.

2:18 A hwy a ddychwelasant ato ef, ac efe oedd yn aros yn Jericho; ac efe a ddy¬wedodd wrthynt hwy, Oni ddywedais i wrthych, Nac ewch?

2:19 A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrth Eliseus, Wele, atolwg, ansawdd y ddinas, da yw, fel y mae fy arglwydd yn gweled: ond y dyfroedd sydd ddrwg, a’r tir yn ddiffaith.

2:20 Ac efe a ddywedodd, Dygwch i mi ffiol newydd, a dodwch ynddi halen. A hwy a’i dygasant ato ef.

2:21 Ac efe a aeth at ffynhonnell y dyfr¬oedd, ac a fwriodd yr halen yno, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Mi a iacheais y dyfroedd hyn; ni bydd oddi yno farwolaeth mwyach, na diffrwythdra.

2:22 Felly yr iachawyd y dyfroedd hyd y dydd hwn, yn ôl gair Eliseus, yr hwn a ddywedasai efe.

2:23 Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Bethel: ac fel yr oedd efe yn myned i fyny ar hyd y ffordd, plant bychain a ddaeth allan o’r ddinas, ac a’i gwatwarasant ef, ac a ddywedasant wrtho ef, Dos i fyny, moelyn, dos i fyny, moelyn.

2:24 Ac efe a drodd yn ei ôl, ac a edrychodd arnynt, ac a’u melltithiodd yn enw yr ARGLWYDD. A dwy arth a ddaeth allan o’r goedwig, ac a ddrylliodd ohonynt ddau blentyn a deugain.

2:25 Ac efe a aeth oddi yno i fynydd Carmel, ac oddi yno efe a ddychwelodd i Samaria.

PENNOD 3 3:1 A JEHORAM mab Ahab a aeth yn frenin ar Israel yn Samaria, yn y ddeunawfed flwyddyn i Jehosaffat brenin Jwda, ac a deyrnasodd ddeuddeng mlynedd.

3:2 Ac efe a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ond nid fel ei dad nac fel ei fam: canys efe a fwriodd ymaith ddelw Baal, yr hon a wnaethai ei dad.

3:3 Eto efe a lynodd wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu: ni chiliodd efe oddi wrthynt hwy.

3:4 A Mesa brenin Moab oedd berchen defaid, ac a dalai i frenin Israel gan mil o ŵyn, a chan mil o hyrddod gwlanog.

3:5 Ond wedi marw Ahab, brenin Moab a wrthryfelodd yn erbyn brenin Israel.

3:6 A’r brenin Jehoram a aeth allan y pryd hwnnw o Samaria, ac a gyfrifodd holl Israel.

3:7 Efe a aeth hefyd ac a anfonodd at Jehosaffat brenin Jwda, gan ddywedyd, Brenin Moab a wrthryfelodd i’m herbyn i: a ddeui di gyda mi i ryfel yn erbyn Moab? Dywedodd yntau, Mi a af i fyny; myfi a fyddaf fel tithau, fy mhobl i fel dy bobl dithau, fy meirch i fel dy feirch dithau.

3:8 Ac efe a ddywedodd. Pa ffordd yr awn ni i fyny? Dywedodd yntau, Ffordd anialwch Edom.

3:9 Felly yr aeth brenin Israel, a brenin Jwda, a brenin Edom; ac a aethant o amgylch ar eu taith saith niwrnod: ac nid oedd dwfr i’r fyddin, nac i’r anifeiliaid oedd yn eu canlyn hwynt.

3:10 A brenin Israel a ddywedodd, Gwae fi! oherwydd i’r ARGLWYDD alw y tri brenin hyn ynghyd i’w rhoddi yn llaw Moab.

3:11 A Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma broffwyd i’r ARGLWYDD, fel yr ymofynnom ni â’r ARGLWYDD trwyddo ef? Ac un o weision brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd, Y mae yma Eliseus mab Saffat, yr hwn a dywalltodd ddwfr ar ddwylo Eleias.

3:12 A Jehosaffat a ddywedodd, Y mae gair yr ARGLWYDD gydag ef. Felly brenin Israel, a Jehosaffat, a brenin Edom, a aethant i waered ato ef.

3:13 Ac Eliseus a ddywedodd wrth frenin Israel, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi? dos at broffwydi dy dad, ac at broffwydi dy fam. A brenin Israel a ddywedodd wrtho, Nage: canys yr ARGLWYDD a alwodd y tri brenin hyn ynghyd i’w rhoddi yn llaw Moab.

3:14 Ac Eliseus a ddywedodd, Fel mai byw ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, oni bai fy mod i yn perchi wyneb Jehosaffat brenin Jwda, nid edrychaswn i arnat ti, ac ni’th welswn.

3:15 Ond yn awr dygwch i mi gerddor. A phan ganodd y cerddor, daeth llaw yr ARGLWYDD arno ef.

3:16 Ac efe a ddywedodd. Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Gwna y dyffryn hwn yn llawn ffosydd.

3:17 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ni welwch wynt, ac ni welwch law; eto y dyffryn hwn a lenwir o ddwfr, fel yr yfoch chwi, a’ch anifeiliaid, a’ch ysgrubliaid.

3:18 A pheth ysgafn yw hyn yng ngolwg yr ARGLWYDD: efe a ddyry Moab yn eich llaw chwi hefyd.

3:19 A chwi a drewch bob dinas gaerog, a phob dinas ddetholedig; a phob pren teg a fwriwch chwi i lawr; yr holl ffynhonnau dyfroedd hefyd a gaewch chwi, a phob darn o dir da a ddifwynwch chwi â cherrig.

3:20 A’r bore pan offrymwyd y bwyd-offrwm, wele ddyfroedd yn dyfod o ffordd Edom; a’r wlad a lanwyd o ddyfr¬oedd.

3:21 A phan glybu yr holl Foabiaid fod y brenhinoedd hynny wedi dyfod i fyny i ymladd yn eu herbyn hwynt, y galwyd ynghyd bawb a’r a allai wisgo arfau, ac uchod, a hwy a safasant ar y terfyn.

3:22 A hwy a gyfodasant yn fore, a’r haul a gyfodasai ar y dyfroedd; a’r Moabiaid a ganfuant ar eu cyfer y dyfroedd yn goch fel gwaed:

3:23 A hwy a ddywedasant, Gwaed yw hwn: gan ddifetha y difethwyd y brenhin¬oedd, a hwy a drawsant bawb ei gilydd: am hynny yn awr at yr anrhaith, Moab.

3:24 A phan ddaethant at wersyll Israel, yr Israeliaid a gyfodasant ac a drawsant y Moabiaid, fel y ffoesant o’u blaen hwynt: a hwy a aethant rhagddynt, gan daro’r Moabiaid yn eu gwlad eu hun.

3:25 A hwy a ddistrywiasant y dinasoedd, ac i bob darn o dir da y bwriasant bawb ei garreg, ac a’i llanwasant; a phob ffynnon ddwfr a gaeasant hwy, a phob pren da a gwympasant hwy i lawr: yn unig yn Cir-haraseth y gadawsant ei cherrig; eto y rhai oedd yn taflu a’i hamgylchynasant, ac a’i trawsant hi.

3:26 A phan welodd brenin Moab fod y rhyfelwyr yn drech nag ef, efe a gymerth saith gant o wŷr gydag ef yn tynnu cleddyf, i ruthro ar frenin Edom: ond nis gallasant hwy.

3:27 Yna efe a gymerodd ei fab cyntaf-anedig ef, yr hwn oedd i deyrnasu yn ei le ef, ac a’i hoffrymodd ef yn boethoffrwm ar y mur. A bu llid mawr yn erbyn Israel: a hwy a aethant ymaith oddi wrtho ef, ac a ddychwelasant i’w gwlad eu hun.

PENNOD 4 4:1 A rhyw wraig o wragedd meibion y proffwydi a lefodd ar Eliseus, gan ddywedyd, Dy was fy ngŵr a fu farw; a thi a wyddost fod dy was yn ofni yr AR¬GLWYDD: a’r echwynnwr a ddaeth i gymryd fy nau fab i i fod yn gaethion iddo.

4:2 Ac Eliseus a ddywedodd wrthi, Beth a wnaf fi i ti? mynega i mi, beth sydd gennyt ti yn dy dŷ? Dywedodd hithau, Nid oes dim gan dy lawforwyn yn tŷ, ond ystenaid o olew.

4:3 Ac efe a ddywedodd, Dos, cais i ti lestri oddi allan gan dy holl gymdogion, sef llestri gweigion, nid ychydig.

4:4 A phan ddelych i mewn, cae y drws arnat, ac ar dy feibion, a thywallt i’r holl lestri hynny; a dod heibio yr hwn a fyddo llawn.

4:5 Felly hi a aeth oddi wrtho ef, ac a gaeodd y drws arni, ac ar ei meibion: a hwynt-hwy a ddygasant y llestri ati hi; a hithau a dywalltodd.

4:6 Ac wedi llenwi y llestri, hi a ddywed¬odd wrth ei mab, Dwg i mi eto lestr. Dywedodd yntau wrthi, Nid oes mwyach un llestr. A’r olew a beidiodd.

4:7 Yna hi a ddaeth ac a fynegodd i ŵr Duw. Dywedodd yntau, Dos, gwerth yr olew, a thâl dy ddyled; a bydd di fyw, ti a’th feibion, ar y rhan arall.

4:8 A bu ar ryw ddiwrnod i Eliseus dramwyo i Sunem; ac yno yr oedd gwraig oludog, yr hon a’i cymhellodd ef i fwyta bara. A chynifer gwaith ag y tramwyai efe heibio, efe a droai yno i fwyta bara.

4:9 A hi a ddywedodd wrth ei gŵr, Wele yn awr, mi a wn mai gŵr sanctaidd i DDUW ydyw hwn, sydd yn cyniwair heibio i ni yn wastadol.

4:10 Gwnawn, atolwg, ystafell fechan ar y mur; a gosodwn iddo yno wely, a bwrdd, ac ystôl, a chanhwyllbren: fel y tro efe yno, pan ddelo efe atom ni.

4:11 Ac ar ddyddgwaith efe a ddaeth yno, ac a drodd i’r ystafell, ac a orffwysodd yno.

4:12 Ac efe a ddywedodd wrth Gehasi ei was, Galw ar y Sunamees hon. Yntau a alwodd arni hi: hithau a safodd ger ei fron ef.

4:13 Dywedodd hefyd wrtho, Dywed yn awr wrthi hi, Wele, ti a ofelaist trosom ni; a’r holl ofal yma; beth sydd i’w wneuthur erot ti? a oes a fynnych di ei ddy¬wedyd wrth y brenin, neu wrth dywysog y llu? Hithau a ddywedodd, Yng nghanol fy mhobl yr ydwyf fi yn trigo.

4:14 Ac efe a ddywedodd, Beth gan hynny sydd i’w wneuthur erddi hi? A Gehasi a ddywedodd, Yn ddiau nid oes iddi fab, a’i gŵr sydd hen.

4:15 Ac efe a ddywedodd, Galw hi. Ac efe a’i galwodd hi; a hi a safodd yn y drws.

4:16 Ac efe a ddywedodd, Ynghylch y pryd hwn wrth amser bywoliaeth, ti a gofleidi fab. Hithau a ddywedodd, Nage, fy arglwydd, gŵr Duw, na ddywed gelwydd i’th lawforwyn.

4:17 A’r wraig a feichiogodd, ac a ddug fab y pryd hwnnw, yn ôl amser bywoliaeth, yr hyn a lefarasai Eliseus wrthi hi.

4:18 A’r bachgen a gynyddodd, ac a aeth ddyddgwaith allan at ei dad at y medelwyr.

4:19 Ac efe a ddywedodd wrth ei dad, Fy mhen, fy mhen. Dywedodd yntau wrth lanc, Dwg ef at ei fam.

4:20 Ac efe a’i cymerth, ac a’i dug ef at ei fam. Ac efe a eisteddodd ar ei gliniau hi hyd hanner dydd, ac a fu farw.

4:21 A hi a aeth i fyny, ac a’i gosododd ef i orwedd ar wely gŵr Duw, ac a gaeodd y drws amo, ac a aeth allan.

4:22 A hi a alwodd ar ei gŵr, ac a ddy¬wedodd, Anfon, atolwg, gyda mi un o’r llanciau, ac un o’r asynnod: canys mi a redaf hyd at ŵr Duw, ac a ddychwelaf.

4:23 Dywedodd yntau, Paham yr ei di ato ef heddiw? nid yw hi na newyddloer, na Saboth. Hithau a ddywedodd pob peth yn dda.

4:24 Yna hi a gyfrwyodd yr asyn; ac a ddywedodd wrth ei llanc, Gyr, a dos rhagot; nac aros amdanaf fi i farchogaeth, onid archwyf i ti.

4:25 Felly hi a aeth, ac a ddaeth at ŵr Duw i fynydd Carmel. A phan welodd gŵr Duw hi o bell, efe a ddywedodd wrth Gehasi ei was, Wele y Sunamees honno.

4:26 Rhed yn awr, atolwg, i’w chyfarfod, a dywed wrthi hi; A wyt ti yn iach? a ydyw dy ŵr yn iach? a ydyw y bachgen yn iach? Dywedodd hithau, Iach.

4:27 A phan ddaeth hi at ŵr Duw i’r mynydd, hi a ymaflodd yn ei draed ef: a Gehasi a nesaodd i’w gwthio hi ymaith. A gŵr Duw a ddywedodd. Gad hi yn llonydd: canys ei henaid sydd ofidus ynddi; a’r ARGLWYDD a’i celodd oddi wrthyf fi, ac nis mynegodd i mi.

4:28 Yna hi a ddywedodd, A ddymunais i fab gan fy arglwydd? oni ddywedais, Na thwylla fi?

4:29 Yna efe a ddywedodd wrth Gehasi, Gwregysa dy lwynau, a chymer fy ffon yn dy law, a dos ymaith: o chyfarfyddi â neb, na chyfarch iddo.; ac o chyfarch neb di, nac ateb ef: a gosod fy ffon i ar wyneb y bachgen.

4:30 A mam y bachgen a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid di, nid ymadawaf fi â thi. Ac efe a gyfododd, ac a aeth ar ei hôl hi.

4:31 A Gehasi a gerddodd o’u blaen hwynt, ac a osododd y ffon ar wyneb y bachgen: ond nid oedd na lleferydd, na chlywed. Am hynny efe a ddychwelodd i’w gyfarfod ef; ac a fynegodd iddo, gan ddywedyd, Ni ddeffrodd y bachgen.

4:32 A phan ddaeth Eliseus i mewn i’r tŷ, wele y bachgen wedi marw, yn gorwedd ar ei wely ef.

4:33 Felly efe a ddaeth i mewn, ac a gaeodd y drws arnynt ill dau, ac a weddïodd ar yr ARGLWYDD.

4:34 Ac efe a aeth i fyny, ac a orweddodd ar y bachgen, ac a osododd ei enau ar ei enau yntau, a’i lygaid ar ei lygaid ef, a’i ddwylo ar ei ddwylo.ef, ac efe a ymestynnodd arno ef; a chynhesodd cnawd y bachgen.

4:35 Ac efe a ddychwelodd, ac a rodiodd yn y tŷ i fyny ac i waered; ac a aeth i fyny, ac a ymestynnodd arno ef: a’r bachgen a disiodd hyd yn seithwaith, a’r bachgen a agorodd ei lygaid.

4:36 Ac efe a alwodd ar Gehasi, ac a ddywedodd, Galw y Sunamees hon. Ac efe a alwodd arni hi. A hi a ddaeth ato ef. Dywedodd yntau, Cymer dy fab.

4:37 A hi a aeth i mewn, ac a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a ymgrymodd hyd lawr, ac a gymerodd ei mab, ac a aeth allan.

4:38 Ac Eliseus a ddychwelodd i Gilgal. Ac yr oedd newyn yn y wlad; a meibion y proffwydi oedd yn eistedd ger ei fron ef: ac efe a ddywedodd wrth ei was, Trefna’r crochan mawr, a berw gawl i feibion y proffwydi.

4:39 Ac un a aeth allan i’r maes i gasglu bresych, ac a gafodd winwydden wyllt, ac a gasglodd ohoni fresych gwylltion lonaid ei wisg, ac a ddaeth ac a’u briwodd yn y crochan cawl: canys nid adwaenent hwynt.

4:40 Yna y tywalltasant i’r gwŷr i fwyta. A phan fwytasant o’r cawl, hwy a waeddasant, ac a ddywedasant, O ŵr Duw, y mae angau yn y crochan: ac ni allent ei fwyta.

4:41 Ond efe a ddywedodd, Dygwch flawd. Ac efe a’i bwriodd yn y crochan: dywedodd hefyd, Tywallt i’r bobl, fel y bwytaont. Ac nid oedd dim niwed yn y crochan.

4:42 A daeth gŵr o Baal-salisa, ac a ddug i ŵr Duw o fara blaenffrwyth ugain torth haidd, a thywysennau o ŷd newydd yn ei gibau. Ac efe a ddywedodd, Dod i’r bobl, fel y bwytaont.

4:43 A’i weinidog ef a ddywedodd, I ba beth y rhoddaf hyn gerbron cannwr? Dywedodd yntau, Dyro i’r bobl, fel y bwytaont: canys fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Hwy a fwytânt, a bydd gweddill.

4:44 Felly efe a’i rhoddodd ger eu bron hwynt: a hwy a fwytasant, ac a weddillasant, yn ôl gair yr ARGLWYDD.

PENNOD 5 5:1 A Naaman, tywysog llu brenin Syria, oedd ŵr mawr yng ngolwg ei ar¬glwydd, ac yn anrhydeddus; canys trwyddo ef y rhoddasai yr ARGLWYDD ymwared i Syria: ac yr oedd efe yn ŵr cadarn nerthol, ond yr oedd yn wahanglwyfus.

5:2 A’r Syriaid a aethent allan yn finteioedd, ac a gaethgludasent o wlad Israel lances fechan; a honno oedd yn gwasanaethu gwraig Naaman.

5:3 A hi a ddywedodd wrth ei meistres, O na byddai fy arglwydd o flaen y proffwyd sydd yn Samaria! canys efe a’i hiachai ef o’i wahanglwyf.

5:4 Ac un a aeth ac a fynegodd i’w arglwydd, gan ddywedyd, Fel hyn ac fel hyn y dywedodd y llances o wlad Israel.

5:5 A brenin Syria a ddywedodd, Dos, cerdda, a mi a anfonaf lythyr at frenin Israel. Ac efe a aeth ymaith, ac a ddug gydag ef ddeg talent o arian, a chwe mil o aur, a deg pâr o ddillad.

5:6 Ac efe a ddug y llythyr at frenin Israel, gan ddywedyd, Yn awr pan ddêl y llythyr hwn atat ti, wele, anfonais atat ti Naaman fy ngwas, fel yr iacheit ef o’i; wahanglwyf.

5:7 A phan ddarllenodd brenin Israel y llythyr, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ddywedodd, Ai Duw ydwyf fi, i farwhau, ac i fywhau, pan anfonai efe ataf fi i iacháu gŵr o’i wahanglwyf? gwybyddwch gan hynny, atolwg, a gwelwch mai ceisio achos y mae efe i’m herbyn i.

5:8 A phan glybu Eliseus gŵr Duw rwygo o frenin Israel ei ddillad, efe a anfonodd at y brenin, gan ddywedyd, Paham y rhwygaist dy ddillad? deued yn awr ataf fi, ac efe a gaiff wybod fod proffwyd yn Israel.

5:9 Yna Naaman a ddaeth â’i feirch ac â’i gerbydau, ac a safodd wrth ddrws tŷ Eliseus. .

5:10 Ac Eliseus a anfonodd ato ef gennad, gan ddywedyd, Dos ac ymolch saith waith yn yr Iorddonen; a’th gnawd a ddychwel i ti, a thithau a lanheir.

5:11 Ond Naaman a ddigiodd, ac a aeth ymaith; ac a ddywedodd, Wele, mi a feddyliais ynof fy hun, gan ddyfod y deuai efe allan, ac y safai efe, ac y galwai ar enw yr ARGLWYDD ei DDUW, ac y gosodai ei law ar y fan, ac yr iachai y gwahan-glwyfus.

5:12 Onid gwell Abana a Pharpar, afonydd Damascus, na holl ddyfroedd Israel? oni allaf ymolchi ynddynt hwy, ac ymlanhau? Felly efe a drodd, ac, a aeth ymaith mewn dicter.

5:13 A’i weision a nesasant, ac a lefarasant wrtho, ac a ddywedasant, Fy nhad, pe dywedasai y proffwyd beth mawr wrthyt ti, onis gwnelsit? pa faint mwy, gan iddo ddywedyd wrthyt, Ymolch, a bydd lân?

5:14 Ac yna efe a aeth i waered, ac a ymdrochodd saith waith yn yr Iorddonen, yn ôl gair gŵr Duw: a’i gnawd a ddy¬chwelodd fel cnawd dyn bach, ac efe a lanhawyd.

5:15 Ac efe a ddychwelodd at ŵr Duw, efe a’i holl fintai, ac a ddaeth ac a safodd ger ei fron ef; ac a ddywedodd, Wele, yn awr y gwn nad oes Duw trwy yr holl ddaear, ond yn Israel: am hynny cymer yn awr, atolwg, rodd gan dy was.

5:16 Ond efe a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, ni chymeraf. Ac efe a gymhellodd arno ei chymryd; eto efe a’i gwrthododd.

5:17 A Naaman a ddywedodd, Oni roddir yn awr i’th was lwyth cwpl o fulod o ddaear? canys ni offryma dy was mwyach boethoffrwm nac aberth i dduwiau eraill, ond i’r ARGLWYDD.

5:18 Yn y peth hyn yr ARGLWYDD a faddeuo i’th was; pan elo fy arglwydd i dŷ Rimmon i addoli yno, a phwyso ar fy llaw i, a phan ymgrymwyf finnau yn nhŷ Rimmon; pan ymgrymwyf yn nhŷ Rimmon, maddeued yr ARGLWYDD i’th was yn y peth hyn.

5:19 Ac efe a ddywedodd wrtho, Dos mewn heddwch. Ac efe a aeth oddi wrtho ef encyd o ffordd.

5:20 Ond Gehasi, gwas Eliseus gŵr Duw, a ddywedodd, Wele, fy meistr a arbedodd Naaman y Syriad hwn, heb gymryd o’i law ef yr hyn a ddygasai efe: fel mai byw yr ARGLWYDD, mi a redaf ar ei ôl ef, ac a gymeraf ryw beth ganddo ef.

5:21 Felly Gehasi a ganlynodd ar ôl Naaman. A phan welodd Naaman ef yn rhedeg ar ei ôl, efe a ddisgynnodd oddi ar y cerbyd i’w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, A yw pob peth yn dda?

5:22 Dywedodd yntau, Y mae pob peth yn dda. Fy meistr a’m hanfonodd i, gan ddywedyd, Wele, yr awr hon dau lanc o fynydd Effraim, o feibion y proffwydi, a ddaeth ataf fi: dyro yn awr iddynt hwy dalent o arian, a dau bâr o ddillad.

5:23 A Naaman a ddywedodd, Bydd fodlon, cymer ddwy dalent. Ac efe a fu daer arno ef; ac a rwymodd ddwy dalent arian mewn dwy god, a deubar o ddillad; ac efe a’u rhoddodd ar ddau o’i weision, i’w dwyn o’i flaen ef.

5:24 A phan ddaeth efe i’r bwlch, efe a’u cymerth o’u llaw hwynt, ac a’u rhoddodd i gadw yn tŷ; ac a ollyngodd ymaith y gwŷr, a hwy a aethant ymaith.

5:25 Ond efe a aeth i mewn, ac a safodd o flaen ei feistr. Ac Eliseus a ddywedodd wrtho ef, O ba le y daethost ti, Gehasi? Dywedodd yntau, Nid aeth dy was nac yma na thraw.

5:26 Ac efe a ddywedodd wrtho, Onid aeth fy nghalon gyda thi, pan drodd y gŵr oddi ar ei gerbyd i’th gyfarfod di? a ydoedd hi amser i gymryd arian, ac i gymryd gwisgoedd, ac olewyddlannau, a gwinllannau, a defaid, a gwartheg, a gweision, a morynion?

5:27 Am hynny gwahanglwyf Naaman a lŷn wrthyt ti, ac wrth dy had yn dragywydd. Ac efe a aeth ymaith o’i ŵydd ef yn wahanglwyfus cyn wynned â’r eira.

PENNOD 6 6:1 A meibion y proffwydi a ddywedasant wrth Eliseus, Wele yn awr, y lle yr hwn yr ydym ni yn trigo ynddo ger dy fron di, sydd ry gyfyng i ni.

6:2 Awn yn awr hyd yr Iorddonen, fel y cymerom oddi yno bawb ei drawst, ac y gwnelom i ni yno le i gyfanheddu ynddo. Dywedodd yntau, Ewch.

6:3 Ac un a ddywedodd, Bydd fodlon, atolwg, a thyred gyda’th weision. Dywed¬odd yntau. Mi a ddeuaf.

6:4 Felly efe a aeth gyda hwynt. A hwy a ddaethant at yr Iorddonen, ac a dorasant goed.

6:5 A phan oedd un yn bwrw i lawr drawst, ei fwyell ef a syrthiodd i’r dwfr. Ac efe a waeddodd, ac a ddywedodd, Och fi, fy meistr! canys benthyg oedd.

6:6 A gŵr Duw a ddywedodd. Pa le y syrthiodd? Yntau a ddangosodd iddo y fan. Ac efe a dorrodd bren, ac a’i taflodd yno; a’r haearn a nofiodd.

6:7 Ac efe a ddywedodd, Cymer i fyny i ti. Ac efe a estynnodd ei law, ac a’i cymerodd.

6:8 A brenin Syria oedd yn rhyfela yn erbyn Israel; ac efe a ymgynghorodd â’i weision, gan ddywedyd, Yn y lle a’r lle y bydd fy ngwersyllfa.

6:9 A gŵr Duw a anfonodd at frenin Israel, gan ddywedyd, Ymgadw rhag myned i’r lle a’r lle: canys yno y disgynnodd y Syriaid.

6:10 A brenin Israel a anfonodd i’r lle am yr hwn y dywedasai gŵr Duw wrtho, ac y rhybuddiasai ef, ac a ymgadwodd yno, nid unwaith, ac nid dwywaith.

6:11 A chalon brenin Syria a gythryblwyd herwydd y peth hyn; ac efe a alwodd ar ei weision, ac a ddywedodd wrthynt, Oni fynegwch i mi pwy ohonom. ni sydd gyda brenin Israel?

6:12 Ac un o’i weision ef a ddywedodd, Nid oes neb, fy arglwydd frenin: ond Eliseus y proffwyd, yr hwn sydd yn Israel, a fynega i frenin Israel y geiriau a lefri di yng nghanol dy ystafell wely.

6:13 Ac efe a ddywedodd, Ewch, ac edrychwch pa le y mae efe, fel yr anfonwyf i’w gyrchu ef. A mynegwyd iddo, gan ddywedyd, Wele, yn Dothan y mae efe.

6:14 Am hynny efe a anfonodd yno feirch a cherbydau, a llu mawr: a hwy a ddaeth¬ant liw nos, ac a amgylchynasant y ddinas.

6:15 A phan gododd gweinidog gŵr Duw yn fore, a myned allan, wele lu yn amgylchynu y ddinas, â meirch ac â cherbydau. A’i was a ddywedodd wrtho ef. Aha, fy meistr! pa fodd y gwnawn?

6:16 Ac efe a ddywedodd, Nac ofna: canys amlach yw y rhai sydd gyda ni na’r rhai sydd gyda hwynt.

6:17 Ac Eliseus a weddïodd, ac a ddy¬wedodd, O ARGLWYDD, agor, atolwg, ei lygaid ef, fel y gwelo. A’r ARGLWYDD a agorodd lygaid y llanc; ac efe a edrychodd: ac wele y mynydd yn llawn meirch a cherbydau tanllyd o amgylch Eliseus.

6:18 A phan ddaethant i waered ato ef, Eliseus a weddïodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Taro, atolwg, y genedl hon â dallineb. Ac efe a’u trawodd hwy â dallineb, yn ôl gair Eliseus.

6:19 Ac Eliseus a ddywedodd wrthynt, Nid hon yw y ffordd, ac nid hon yw y ddinas: deuwch ar fy ôl i, a mi a’ch dygaf chwi at y gŵr yr ydych chwi yn ei geisio. Ond efe a’u harweiniodd hwynt i Samaria.

6:20 A phan ddaethant hwy i Samaria, Eliseus a ddywedodd, O ARGLWYDD, agor lygaid y rhai hyn, fel y gwelont. A’r ARGLWYDD a agorodd eu llygaid hwynt; a hwy a welsant: ac wele, yng nghanol Samaria yr oeddynt.

6:21 A brenin Israel a ddywedodd wrth Eliseus, pan welodd efe hwynt, Gan daro a drawaf hwynt, fy nhad?

6:22 Dywedodd yntau, Na tharo: a drewit ti y rhai a gaethiwaist a’th gleddyf ac a’th fwa dy hun? gosod fara a dwfr ger eu bron hwynt, fel y bwytaont ac yr yfont, ac yr elont at eu harglwydd.

6:23 Ac efe a arlwyodd iddynt hwy arlwy fawr: a hwy a fwytasant ac a yfasant; ac efe a’u gollyngodd hwynt ymaith, a hwy a aethant at eu harglwydd. Felly byddinoedd Syria ni chwanegasant ddyfod mwyach i wlad Israel.

6:24 Ac wedi hyn Benhadad brenin Syria a gynullodd ei holl lu, ac a aeth i fyny, ac a warchaeodd ar Samaria.

6:25 Ac yr oedd newyn mawr yn Samaria: ac wele, yr oeddynt hwy yn gwarchae arni hi, nes bod pen asyn er pedwar ugain sicl o arian, a phedwaredd ran cab o dom colomennod er pum sicl o arian.

6:26 Ac fel yr oedd brenin Israel yl myned heibio ar y mur, gwraig a lefodd arno ef, gan ddywedyd, Achub, fy arglwydd frenin.

6:27 Dywedodd yntau, Oni achub yr ARGLWYDD dydi, pa fodd yr achubaf fi di? Ai o’r ysgubor, neu o’r gwinwryf?

6:28 A’r brenin a ddywedodd wrthi hi, Beth a ddarfu i ti? Hithau a ddywedodd, Y wraig hon a ddywedodd wrthyf, Dyro dy fab, fel y bwytaom ef heddiw; a’m mab innau a fwytawn ni yfory.

6:29 Felly ni a ferwasom fy mab i, ac a’i bwytasom ef: a mi a ddywedais wrthi hithau y diwrnod arall, Dyro dithau dy fab, fel y bwytaom ef: ond hi a guddiodd ei mab.

6:30 A phan glybu y brenin eiriau y wraig, efe a rwygodd ei ddillad, ac a aeth heibio ar y mur; a’r bobl a edrychodd, ac wele, sachliain oedd am ei gnawd ef oddi fewn.

6:31 Ac efe a ddywedodd, Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, os saif pen Eliseus mab Saffat arno ef heddiw.

6:32 Ond Eliseus oedd yn eistedd yn ei dŷ, a’r henuriaid yn eistedd gydag ef. A’r brenin a anfonodd ŵr o’i flaen: ond cyn dyfod y gennad ato ef, efe a ddywedodd wrth yr henuriaid, A welwch chwi fel yr anfonodd mab y llofrudd hwn i gymryd ymaith fy mhen i? Edrychwch pan ddêl y gennad i mewn, caewch y drws, a deliwch ef wrth y drws: onid yw trwst traed ei arglwydd ar ei ôl ef?

6:33 Ac efe eto yn ymddiddan â hwynt, wele y gennad yn dyfod i mewn ato ef: ac efe a ddywedodd, Wele, y drwg hyn sydd oddi wrth yr ARGLWYDD; paham y disgwyliaf wrth yr ARGLWYDD mwy?

PENNOD 7 7:1 Yna Eliseus a ddywedodd, Gwrandewch air yr ARGLWYDD: Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Ynghylch y pryd hwn yfory y gwerthir sat o beilliaid er sicl, a dau sat o haidd er sicl, ym mhorth Samaria.

7:2 Yna tywysog yr oedd y brenin yn pwyso ar ei law a atebodd ŵr Duw, ac a ddywedodd, Wele, pe gwnelai yr ARGLWYDD ffenestri yn y nefoedd, a fyddai y peth hyn? Dywedodd yntau, Wele, ti a’i gweli â’th lygaid, ond ni fwytei ohono.

7:3 Ac yr oedd pedwar gŵr gwahanglwyfus wrth ddrws y porth, a hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Paham yr ydym ni yn aros yma nes ein meirw?

7:4 Os dywedwn ni, Awn i mewn i’r ddinas, newyn sydd yn y ddinas, a ni a fyddwn feirw yno; ac os trigwn yma, ni a fyddwn feirw hefyd. Am hynny deuwch yn awr, ac awn i wersyll y Syriaid: o chadwant ni yn fyw, byw fyddwn; ac os lladdant ni, byddwn feirw.

7:5 A hwy a gyfodasant ar doriad dydd i fyned i wersyll y Syriaid. A phan ddaethant at gwr eithaf gwersyll y Syriaid, wele, nid oedd neb yno.

7:6 Canys yr ARGLWYDD a barasai i wersyll y Syriaid glywed trwst cerbydau, a thrwst meirch, trwst llu mawr: a hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Wele, brenin Israel a gyflogodd i’n herbyn ni frenhinoedd yr Hethiaid, a brenhinoedd yr Aifft, i ddyfod arnom ni.

7:7 Am hynny hwy a gyfodasant, ac a ffoesant, ar lasiad dydd, ac a adawsant eu pebyll, a’u meirch, a’u hasynnod, sef y gwersyll fel yr ydoedd, ac a ffoesant am eu heinioes.

7:8 A phan ddaeth y rhai gwahanglwyfus hyn hyd gwŵr eithaf y gwersyll, hwy a aethant i un babell, ac a fwytasant, ac a yfasant, ac a gymerasant oddi yno arian, ac aur, a gwisgoedd, ac a aethant, ac a’i cuddiasant, ac a ddychwelasant; ac a aethant i babell arall, ac a gymerasant oddi yno, ac a aethant, ac a’i cuddiasant.

7:9 Yna y dywedodd y naill wrth y llall, Nid ydym ni yn gwneuthur yn iawn; y dydd hwn sydd ddydd llawen-chwedl, ac yr ydym ni yn tewi â son; os arhoswn ni hyd oleuni y bore, rhyw ddrwg a ddigwydd i ni: deuwch gan hynny yn awr, ac awn fel y mynegom i dŷ y brenin.

7:10 Felly hwy a ddaethant, ac a waeddasant ar borthor y ddinas; a hwy a fynegasant iddynt, gan ddywedyd, Daethom i wersyll y Syriaid, ac wele, nid oedd yno neb, na llais dyn, ond y meirch yn rhwym, a’r asynnod yn rhwym, a’r pebyll megis yr oeddynt o’r blaen.

7:11 Ac efe a alwodd ar y porthorion; a hwy a’i mynegasant i dŷ y brenin oddi fewn.

7:12 A’r brenin a gyfododd liw nos, ac a ddywedodd wrth ei weision, Mynegaf yn awr i chwi yr hyn a wnaeth y Syriaid i ni. Gwyddent mai newynog oeddem ni; am hynny yr aethant ymaith o’r gwersyll i ymguddio yn y maes, gan ddywedyd. Pan ddelont hwy allan o’r ddinas, ni a’u daliwn hwynt yn fyw, ac a awn i mewn i’r ddinas.

7:13 Ac un o’r gweision a atebodd ac a ddywedodd, Cymer yn awr bump o’r meirch a adawyd, y rhai a adawyd yn y ddinas, (wele, y maent hwy fel holl liaws Israel, y rhai a arosasant ynddi; wele, y maent hwy fel holl liaws Israel, y rhai a ddarfuant;) ac anfonwn, ac edrychwn.

7:14 Felly hwy a gymerasant feirch dau gerbyd: a’r brenin a anfonodd ar ôl gwersyll y Syriaid, gan ddywedyd, Ewch ac edrychwch.

7:15 A hwy a aethant ar eu hôl hwynt hyd yr Iorddonen, ac wele, yr holl ffordd ydoedd yn llawn o ddillad a llestri, y rhai a fwriasai y Syriaid ymaith wrth frysio: a’r cenhadau a ddychwelasant ac a fynegasant i’r brenin.

7:16 A’r bobl a aethant allan, ac a anrheithiasant wersyll y Syriaid: a bu sat o beilliaid er sicl, a dau sat o haidd er sicl, yn ôl gair yr ARGLWYDD.

7:17 A’r brenin a osododd y tywysog yr oedd efe yn pwyso ar ei law i wylied ar y porth: a’r bobl a’i mathrasant ef yn y porth, ac efe fu farw, megis y llefarasai gŵr Duw, yr hwn a ddywedasai hynny pan ddaeth y brenin i waered ato ef.

7:18 A bu megis y llefarasai gŵr Duw wrth y brenin, gan ddywedyd, Dau sat o haidd er sicl, a sat o beilliaid er sicl, fydd y pryd hwn yfory ym mhorth Samaria.

7:19 A’r tywysog a atebasai ŵr Duw, ac a ddywedasai, Wele, pe gwnelai yr AR¬GLWYDD ffenestri yn y nefoedd, a fyddai y peth hyn? Dywedodd yntau, Wele, ti a’i gweli â’th lygaid, ond ni fwytei ohono.

7:20 Ac felly y bu iddo ef: canys y bobl a’i sathrasant ef yn y porth, ac efe a fu farw.

PENNOD 8 º1 YNA Eliseus a lefarodd wrth y wraig y bywhasai efe ei mab, gan ddy¬wedyd, Cyfod, a dos,ti a’th dylwyth, ac ymdeithia lle y gellych ymdeithio: canys yr ARGLWYDD a alwodd am newyn, a hwnnw a ddaw ar y wlad saith mlynedd.

º2 A’r wraig a gyfododd, ac a wnaeth yn ôl gair gŵr Duw: a hi a aeth, hi a’i thylwyth, ac a ymdeithiodd yng ngwlad y Philistiaid saith mlynedd.

º3 Ac ymhen y saith mlynedd, y wraig a ddychwelodd o wlad y Philistiaid: a hi a aeth i weiddi ar y brenin am ei thy, ac am ei thir.

º4 A’r brenin oedd yn ymddiddan â Gehasi gwas gŵr Duw, gan ddywedyd, Adrodd i mi, atolwg, yr holl bethau mawr a wnaeth Eliseus.

º5 Ac fel yr oedd efe yn mynegi i’r brenin y modd y bywhasai efe y marw, yna wele y wraig y bywhasai efe ei mab yn gweiddi ar y brenin am ei thy, ac am ei thir. A Gehasi a ddywedodd, Fy arglwydd frenin, dyma’r wraig, a dyma ei mab yr hwn a ddarfu i Eliseus ei fywhau.

º6 A’r brenin a ofynnodd i’r wraig; a hithau a fynegodd iddo ef. A’r brenin a roddodd iddi ryw ystafellydd, gan ddy¬wedyd, Dod drachefn yr hyn oll oedd eiddi hi, a holl gnwd y maes, o’r dydd y gadawodd hi y wlad hyd y pryd hwn.

º7 A daeth Eliseus i Damascus: a Benhadad brenin Syria oedd glaf; a mynegwyd iddo ef, gan ddywedyd, Daeth gŵr Duw yma.

º8 A’r brenin a ddywedodd wrth Hasael, Cymer anrheg yn dy law, a dos i gyfarfod â gŵr Duw; ac ymofyn a’r ARGLWYDD trwyddo ef, gan ddywedyd, A fyddaf fi byw o’r clefyd hwn?

º9 Felly Hasael a aeth i’w gyfarfod ef, ac a gymerth anrheg yn ei law, a phob peth a’r a oedd dda o Damascus, sef Bwyth deugain o gamelod; ac a ddaeth, ac a safodd o’i flaen ef, ac a ddywedodd, Benhadad brenin Syria dy fab a’m hanfonodd atat, gan ddywedyd, A fyddaf fi byw o’r clefyd hwn?

º10 Ac Eliseus a ddywedodd wrtho, DOS, a dywed wrtho, Diau y gelli fyw: eto yr ARGLWYDD a ddangosodd i mi y bydd efe marw yn ddiau.

º11 Ac efe a osododd ei wyneb, ac a ddaliodd sylw arno, nes cywilyddio ohono ef: a gŵr Duw a wylodd.

º12 A Hasael a ddywedodd, Paham y mae fy arglwydd yn wylo? Dywedodd yntau. Am fy mod yn gwybod y drwg a wnei di i feibion Israel: eu hamddiffynfaoedd hwynt a losgi di â thân, a’u gwŷr ‘ieuainc a leddi â’r cleddyf , a’u plant a bwyi, a’u gwragedd beichiogion a rwygi.

º13 A Hasael a ddywedodd. Pa beth! ai ei yw dy was, fel y gwnelai efe y mawr beth hyn? Ac Eliseus a ddywedodd, Yr ARGLWYDD a ddangosodd i mi y byddi di, yn frenin ar Syria.

º14 Felly efe a aeth ymaith oddi wrth Eliseus, ac a ddaeth at ei arglwydd; yr hwn a ddywedodd wrtho, Beth a ddy¬wedodd Eliseus wrthyt ti? Ac efe a ateb¬odd, Efe a ddywedodd wrthyf, y byddit ti byw yn ddiau.

º15 A thrannoeth efe a gymerth wrthban, ac a’i gwlychodd mewn dwfr, ac a’i lledodd ar ei wyneb ef, fel y bu efe farw: a Hasael a deyrnasodd yn ei le ef.

º16 Ac yn y bumed flwyddyn i Jorara mab Ahab brenin Israel, a Jehosaffat yn, frenin yn Jwda, y dechreuodd Jehoram mab Jehosaffat brenin Jwda deyrnasu.

º17 Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu; ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.

º18 Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhin¬oedd Israel, fel y gwnai tŷ Ahab: canys merch Ahab oedd yn wraig iddo: felly efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

º19 Ond ni fynnai yr ARGLWYDD ddifetha Jwda, er mwyn Dafydd ei was; megis yr addawsai efe, y rhoddai iddo oleuni, ac i’w feibion yn dragywydd.

º20 Yn ei ddyddiau ef y gwrthryfelodd Edom oddi tan law Jwda, ac y gosodasant frenin arnynt eu hunain.

º21 A Joram a aeth trosodd i Sair, a’r holl gerbydau gydag ef; ac efe a gyfododd liw nos, ac a drawodd yr Edomiaid oedd yn ei amgylchu ef, a thywysogion y cerbydau: a’r bobl a ffodd i’w pebyll.

º22 Er hynny Edom a wrthryfelodd oddi tan law Jwda hyd y dydd hwn. Yna y gwrthryfelodd Libna y pryd hwnnw.

º23 A’r rhan arall o hanes Joram, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

º24 A Joram a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd; ac Ahaseia ei fab a deyrnasoddi yn ei le ef.

º25 Yn y ddeuddegfed flwyddyn i Joram mab Ahab brenin Israel yr aeth Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda yn frenin.

º26 Mab dwy flwydd ar hugain oedd Ahaseia pan aeth efe yn frenin; ac un flwyddyn y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Athaleia, merch Omri brenin Israel.

º27 Ac efe a rodiodd yn ffordd tŷ Ababa ac a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel tŷ Ahab: canys’ daw tŷ Ahab ydoedd efe.

º28 Ac efe a aeth gyda Joram mab Ahab i ryfel yn erbyn Hasael brenin Syria i RamothGilead; a’r Syriaid a drawsant Joram.

º29 A Joram y brenin a ddychwelodd i Jesreel i ymiacháu o’r briwiau a roesai y Syriaid iddo ef yn Rama, wrth ymladd, ohono ef yn erbyn Hasael brenin Syria: ac Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda a aeth i waered i ymweled a Joram mab Ahab yn Jesreel; canys claf ydoedd.

PENNOD 9 º1 A3 Eliseus y proffwyd a alwodd un o-feibion y proffwydi, ac a ddywedodd wrtho, Gwregysa dy lwynau, a chymer y ffiolaid olew hon yn dy law, a dos i RamothGilead.

º2 A phan ddelych yno, edrych yno am Jehu mab Jehosaffat, mab Nimsi; a dos i mewn, a phar iddo godi o fysg ei frodyr, a dwg ef i ystafell ddirgel:

º3 Yna cymer y ffiolaid olew, a thywallt ar ei ben ef, a dywed, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Mi a’th eneiniais di yn frenin ar Israel; yna agor y drws, a ffo, ac nac aros.

º4 Felly y llanc, sef llanc y proffwyd, a aeth i RamothGilead.

º5 A phan ddaeth efe, wele, tywysogion y llu oedd yn eistedd: ac efe a ddywedodd, Y mae i mi air a thi, O dywysog. A dywedodd Jehu, A pha un ohonom ni oil? Dywedodd yntau, A thydi, O dywys¬og.

º6 Ac efe a gyfododd, ac a aeth i mewn i’r tŷ: ac yntau a dywalltodd yr olew ar ei ben ef, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel; Myfi a’th eneiniais di yn frenin ar bobl yr ARGLWYDD, sef ar Israel.

º7 A thi a drewi dy Ahab dy arglwydd; fel y dialwyf fi waed fy ngweision y proffwydi, a gwaed holl weision yr AR— GLWYDD, ar law Jesebel.

º8 Canys holl dy Ahab a ddifethir: a mi a dorraf ymaith oddi wrth Ahab bob gwryw, y gwarchaeëdig hefyd, a’r hwn a adawyd yn Israel.

º9 A mi a wnaf dy Ahab fel tŷ Jeroboam mab Nebat, ac fel tŷ Baasa mab Ahia.

º10 A’r cwn a fwytânt Jesebel yn rhandir Jesreel, ac ni bydd a’i claddo hi. Ac efe a agorodd y drws, ac a ffodd.

º11 A Jehu a aeth allan at weision ei arglwydd, a dywedwyd wrtho ef, A yw pob peth yn dda? paham y daeth yr ynfyd hwn atat ti? Dywedodd yntau wrthynt, Chwi a adwaenoch y gŵr, a’i ymadroddion.

º12 Dywedasant hwythau, Celwydd;. mynega yn awr i ni. Dywedodd yntau, Fel hyn ac fel hyn y llefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Mi a’th eneiniais di yn frenin ar Israel.

º13 A hwy a frysiasant, ac a gymerasant bob un ei wisg, ac a’i gosodasant dano ef ar ben uchaf y grisiau, ac a ganasant mewn utgom, ac a ddywedasant, Jehu sydd frenin.

º14 A Jehu mab Jehosaffat mab Nimsi a gydfwriadodd yn erbyn Joram: (a Joram oedd yn cadw RamothGilead, efe a holl Israel, rhag Hasael brenin Syria:

º15 Ond Joram y brenin a ddychwelasai i ymiacháu i Jesreel, o’r archollion a’r rhai yr archollasai y Syriaid ef wrth ymladd ohono yn erbyn Hasael brenin Syria.) A dywedodd Jehu, Os mynnwch chwi, nac eled un dihangol o’r ddinas i fyned i fynegi i Jesreel.

º16 Felly Jehu a farchogodd mewn cerbyd, ac a aeth i Jesreel; canys Joram oedd yn gorwedd yno. Ac Ahaseia brenin Jwda a ddaethai i waered i ymweled a Joram.

º17 A gwyliwr oedd yn sefyll ar y twr yn Jesreel, ac a ganfu fintai Jehu pan oedd efe yn dyfod, ac a ddywedodd, Yr ydwyf yn gweled mintai. A Joram a ddywedodd, Cymer ŵr march, ac anfbn i’w cyfarfod hwynt, a dyweded, Ai heddwch?

º18 A gŵr march a aeth i’w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywed y brenin, A oes heddwch? A dywedodd Jehu, Beth sydd i ti a ofynnych am hedd¬wch? tro yn fy ôl i. A’r gwyliwr a fynegodd, gan ddywedyd, Y gennad a ddaeth hyd atynt hwy, ond nid yw efe yn dychwelyd.

º19 Yna efe a anfonodd yr ail ŵr march, ac efe a ddaeth atynt hwy, ac a ddywed¬odd, Fel hyn y dywedodd y brenin, A oes heddwch? A dywedodd Jehu, Beth sydd i ti a ofynnych am heddwch? tro yn fy ôl i.

º20 A’r gwyliwr a fynegodd, gan ddy¬wedyd, Efe a ddaeth hyd atynt hwy, ond nid yw efe yn dychwelyd; a’r gyriad sydd fel gyriad Jehu mab Nimsi; canys y mae efe yn gyrru yn ynfyd.

º21 A Joram a ddywedodd, Rhwym ff cerbyd. Yntau a rwymodd ei gerbyd ef. A Joram brenin Israel a aeth allan, ac Ahaseia brenin Jwda, pob un yn ei gerbyd, a hwy a aethant yn erbyn Jena, a chyfarfuant ag ef yn rhandir Naboth y Jesreeliad.

º22 A phan welodd Joram Jehu, efe a ddywedodd, A oes heddwch, Jehu? Dywedodd yntau, Pa heddwch tra fyddo puteindra Jesebel dy fam di, a’i hudoliaeth, mor aml?

º23 A Joram a drodd ei law, ac a ffodd, ac a ddywedodd wrth Ahaseia, Y mae bradwriaeth, O Ahaseia.

º24 A Jehu a gymerth fwa yn ei law, ac a drawodd Joram rhwng ei ysgwyddau, fel yr aeth y saeth trwy ei galon ef, ac efe a syrthiodd yn ei gerbyd.

º25 A Jehu a ddywedodd wrth Bidcar ei dywysog, Cymer, bwrw ef i randir maes Naboth y Jesreeliad: canys cofia pan oeddem ni, mi a thi, yn marchogaeth ynghyd ein dau ar ôl Ahab ei dad ef, roddi o’r ARGLWYDD arno ef y baich hwn.

º26 Diau, meddai yr ARGLWYDD, gwaed Naboth, a gwaed ei feibion, a welais i neithiwr, a mi a dalaf i ti yn y rhandir hon, medd yr ARGLWYDD. Gan hynny cymer a bwrw ef yn awr yn y rhandir hon, yn ôl gair yr ARGLWYDD.

º27 Ond pan welodd Ahaseia brenin Jwda hynny, efe a ffodd ar hyd ffordd tŷ yr ardd. A Jehu a yrnlidiodd ar ei ôl ef, ac a ddywedodd, Trewch hwn hefyd yn ei gerbyd. A hwy a’i trawsant ef yn rhiw Gur, yr hon sydd wrth Ibleam; ac efe a ffodd i Megido, ac a fu farw yno.

º28 A’i weision a’i dygasant ef mewn cerbyd i Jerwsalem, ac a’i claddasant ef yn ei feddrod gyda’i dadau, yn ninas Dafydd.

º29 Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg’i Joram mab Ahab yr aethai Ahaseia yn frenin ar Jwda.

º30 A phan ddaeth Jehu i Jesreel, Jesebel a glybu hynny, ac a golurodd ei hwyneb, ac a wisgodd yn wych am ei phen, ac a edrychodd trwy ffenestr.

º31 A phan oedd Jehu yn dyfod i mewn i’r porth, hi a ddywedodd, A fu heddwch "i Simri, yr hwn a laddodd ei feistr?

º32 Ac efe a ddyrchafodd ei wyneb at y ffenestr, ac a ddywedodd, Pwy sydd gyda mi, pwy? A dau neu dri o’r ystafellyddion a edrychasant arno ef.

º33 Yntau a ddywedodd, Teflwch hi i lawr. A hwy a’i taflasant hi i lawr; a thaenellwyd peth o’i gwaed hi ar y pared, ac ar y meirch: ac efe a’i mathrodd hi.

º34 A phan ddaeth efe i mewn, efe a fwytaodd ac a yfodd, ac a ddywedodd, Edrychwch am y wraig felltigedig honno, a. chleddwch hi; canys merch brenin ydyw hi.

º35 A hwy a aethant i’w chladdu hi; ond ni chawsant ohoni onid y benglog a’r traed, a chledrau’r dwylo.

º36 Am hynny hwy a ddychwelasant, ac a fynegasant iddo ef. Dywedodd yntau, Dyma air yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarodd efe trwy law ei wasanaethwr Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd, Yn rhandir Jesreel y bwyty y own gnawd Jesebel:

º37 A chelain Jesebel a fydd fel tomen ar wyneb y maes, yn rhandir Jesreel; fel na ellir dywedyd, Dyma Jesebel.

PENNOD 10 º1 AC i Ahab yr oedd deng mab a thrigain Ax yn Samaria. A Jehu a ysgrifennodd lythyrau, ac a anfonodd i Samaria, at dywysogion Jesreel, ac at yr henuriaid, ac at dadmaethod Ahab, gan ddywedyd,

º2 Ac yn awr pan ddêl y llythyr hwn atoch chwi, canys gyda chwi y mae meibion eich arglwydd, a chennych chwi y mae cerbydau, a meirch, a dinasoedd caerog, ac arfau:

º3 Yna edrychwch yr hwn sydd orau, ac yn gymhwysaf o feibion eich arglwydd, a gosodwch ef ar deyrngadair ei dad, ac ymleddwch dros dy eich arglwydd.

º4 A hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant, Wele, dau frenin ni safasant o’i flaen ef: pa fodd gan hynny y safwn ni?

º5 Am hynny yr anfonodd yr hwn oedd ar y tŷ, a’r hwn oedd ar y ddinas, a’r henuriaid, a’r tadmaethod, at Jehu, gan ‘ddywedyd, Dy weision di ydym ni, a’r byn oll a ddywedych di wrthym a wnawn ni; ni wnawn ni neb yn frenin: gwna yr hyn a fyddo da yn dy olwg.

º6 Yna efe a ysgrifennodd yr ail lythyr atynt hwy, gan ddywedyd, Os eiddof fi fyddwch, ac os ar fy llais i y gwrandewch, cymerwch bennau y gwŷr, meibion eich arglwydd xxxx a deuwch ataf fi y pryd hwn yfory i Jesreel. A meibion y brenin, sef deng nyn a thrigain, oedd gyda phenaethiaid y ddinas, y rhai oedd yn eu meithrin hwynt.

º7 A phan ddaeth y llythyr atynt, hwy a gymerasant feibion y brenin, ac a laddasant ddeng nyn a thrigain, ac a osodasant eu pennau hwynt mewn basgedau, ac a’u danfonasant ato ef i Jesreel.

º8 A chennad a ddaeth ac a fynegodd iddo ef, gan ddywedyd, Hwy a ddygasant bennau meibion y brenin. Dywed¬odd yntau, Gosodwch hwynt yn ddau bentwr wrth ddrws y porth hyd y bore.

º9 A’r bore efe a aeth allan, ac a safodd, ac a ddywedodd wrth yr holl bobl, Cyfiawn ydych chwi: wele, myfi a gydfwriedais yn erbyn fy arglwydd, ac a’i lleddais ef: ond pwy a laddodd yr holl rai hyn?

º10 Gwybyddwch yn awr na syrth dim o air yr ARGLWYDD i’r ddaear, yr hwn a lefarodd yr ARGLWYDD am dy Ahab: canys gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn a lefarodd efe trwy law Eleias ei was.

º11 Felly Jehu a drawodd holl weddillion tŷ Ahab yn Jesreel, a’i holl benaethiaid ef, a’i gyfneseifiaid ef, a’i offeiriaid, ‘fel na adawyd un yng ngweddill.

º12 Ac efe a gyfododd, ac a aeth ymaith hefyd, ac a ddaeth i Samaria. Ac fel yr oedd efe wrth dy cneifio y bugeiliaid ar y ffordd,

º13 Jehu a gyfarfu a brodyr Ahaseia brenin Jwda, ac a ddywedodd, Pwy ydych chwi? Dywedasant hwythau, Brodyr Ahaseia ydym ni; a ni a ddaethom i waered i gyfarch gwell i feibion y brenin, ac i feibion y frenhines.

º14 Ac efe a ddywedodd, Deliwch hwynt yn fyw. A hwy a’u daliasant hwy yn fyw, ac a’u lladdasant hwy wrth bydew y tŷ cneifio, sef dau ŵr a deugain, ac ni adawodd efe ŵr ohonynt.

º15 A phan aethai efe oddi yno, efe a gyfarfu a Jehonadab mab Rechab yn cyfarfod ag ef, ac a gyfarchodd well iddo, xxx ac a ddywedodd wrtho, A yw dy galon di yn uniawn, fel y mae fy nghalon i gyda’th galon di? A dywedodd Jehonadab, Ydyw. Od ydyw, eb efe, moes dy law. Rhoddodd yntau ei law, ac efe a barodd iddo ddyfod i fyny ato i’r cerbyd.

º16 Ac efe a ddywedodd. Tyred gyda mi, a gwêl fy sel i tuag at yr ARGLWYDD. Felly hwy a wnaethant iddo farchogaeth yn ei gerbyd ef.

º17 A phan ddaeth efe i Samaria, efe a drawodd yr holl rai a adawsid i Ahab yn Samaria, nes iddo ei ddinistrio ef, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe wrth Eleias.

º18 A Jehu a gynullodd yr holl bobl ynghyd, ac a ddywedodd wrthynt, Ahab a wasanaethodd Baal ychydig, ond Jehu a’i gwasanaetha ef lawer.

º19 Ac yn awr gelwch ataf fi holl broffwydi Baal, ei holl weision, a’i holl offeir¬iaid ef, na fydded un yn eisiau; canys aberth mawr sydd gennyf i Baal: pwy bynnag a fyddo yn eisiau, ni bydd efe byw. Ond Jehu a wnaeth hyn mewn cyfrwystra, fel y difethai efe addolwyr Baal.

º20 A Jehu a ddywedodd, Cyhoeddwch gymanfa sanctaidd i Baal. A hwy a’i cyhoeddasant.

º21 A Jehu a anfonodd trwy holl Israel; a holl addolwyr Baal a ddaethant, ac nid oedd un yn eisiau a’r ni ddaethai: a hwy a ddaethant i dŷ Baal, a llanwyd tŷ Baal o ben bwygilydd.

º22 Ac efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd geidwad ar y gwisgoedd, Dwg allan wisgoedd i holl addolwyr Baal. Ac efe a ddug wisgoedd iddynt.

º23 A Jehu a aeth i mewn, a Jehonadab mab Rechab, i dŷ Baal, ac a ddywedodd wrth addolwyr Baal, Chwiliwch ac edrychwch, rhag bod yma gyda chwi neb o weision yr ARGLWYDD, ond addolwyr Baal yn unig.

º24 A phan ddaethant i mewn i wneuthur aberthau, a phoethoffrymau, Jehu a osod? odd iddo allan bedwar ugeinwr, ac a ddywedodd, Os dianc yr un o’r dynion a ddygais i’ch dwylo chwi, einioes yr hwn y dihango ganddo fydd am ei einioes ef.

º25 A phan orffennodd efe wneuthur y poethoffrwm, Jehu a ddywedodd wrth y swyddogion a’r tywysogion, Ewch i mewn, lleddwch hwynt, na ddeled neb allari; Felly hwy a’u trawsant hwy â min y cleddyf: a’r swyddogion a’r tywysogion a’u taflasant hwy allan, ac a aethant i ddinas tŷ Baal.

º26 A hwy a ddygasant allan ddelwau. tŷ Baal, ac a’u llosgasant hwy.

º27 A hwy a ddistrywiasant ddelw Baal, ac a ddinistriasant dy Baal, ac a’i gwnaethant ef yn domdy hyd heddiw.

º28 Felly y dileodd Jehu Baal allan o Israel.

º29 Eto pechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, ni throdd Jehu oddi wrthynt hwy, sef oddi wrth y lloi aur oedd yn Bethel, a’r rhai oedd yn Dan.

º30 A’r ARGLWYDD a ddywedodd with Jehu, Oherwydd i ti wneuthur yn dda, gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i, yn ôl yr hyn oll a’r a oedd yn fy nghalon i y gwnaethost i dŷ Ahab, meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar orseddfainc Israel.

º31 Ond nid edrychodd Jehu am rodio yng nghyfraith ARGLWYDD DDUW Israel a’i holl galon: canys ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

º32 Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr ARGLWYDD dorri cyrrau Israel: a Hasael a’u trawodd hwynt yn holl derfynau Israel;

º33 O’r Iorddonen tua chodiad haul, sef holl wlad Gilead, y Gadiaid, a’r Reubeniaid, a’r Manassiaid, o Aroer, yr hon sydd wrth afon Arnon, Gilead a Basan hefyd.

º34 A’r rhan arall o hanes Jehu, a’r hyn oll a’r a wnaeth efe, a’i holl gadernid ef; onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?

º35 A Jehu a hunodd gyda’i dadau, a chladdwyd ef yn Samaria, a Joahas ei fab a deymasodd yn ei le ef.

º36 A’r dyddiau y teyrnasodd Jehu as Israel yn Samaria oedd wyth mlynedd ar hugain.

PENNOD 11

º1 A PHAN welodd Athaleia mam Ahaseia farw o’i mab, hi a gyfododd, ac a ddifethodd yr holl had brenhinol.

º2 Ond Joseba merch y brenin Joram, chwaer Ahaseia, a gymerth Joas mab Ahaseia, ac a’i lladrataodd ef o fysg meibion y brenin y rhai a laddwyd: a hwy a’i cuddiasant ef a’i famaeth yn ystafell y gwelyau, rhag Athaleia, fel na ladd-royd ef.

º3 Ac efe a fu gyda hi ynghudd yn nhŷ yr ARGLWYDD chwe blynedd: ac Athaleia oedd yn teyrnasu ar y wlad.

º4 Ac yn y seithfed flwyddyn yr anfonodd Jehoiada, ac y cymerth dywysogion y cannoedd, a’r capteiniaid, a’r swyddogion, ac a’u dug hwynt i mewn ato i dŷ yr ARGLWYDD, ac a wnaeth a hwynt gyfamod, ac a wnaeth iddynt dyngu yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac a ddangosodd iddynt fab y brenin.

º5 Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Dyma’r peth a wnewch chwi; Trydedd ran ohonoch sydd yn dyfod i mewn ar y Saboth, a gadwant wyliadwriaeth tŷ y brenin:

º6 A thrydedd ran fydd ym mhorth Sur: a thrydedd ran yn y porth o’r tu ôl i’r swyddogion: felly y cedwch wyliadwriaeth y tŷ rhag ei dorri.

º7 A deuparth ohonoch oll sydd yn myned allan ar y Saboth, a gadwant wyliadwriaeth tŷ yr ARGLWYDD, ynghylch y brenin.

º8 A chwi a amgylchynwch y brenin o bob parth, pob un a’i arfau yn ei law; a’r hwn a ddelo i’r rhesau, lladder ef: a byddwch gyda’r brenin pan elo efe allan, a phan ddelo efe i mewn.

º9 A thywysogion y cannoedd a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jehoiada yr offeiriad, a chymerasant bawb eu gwŷr y rhai oedd yn dyfod i mewn ar y Saboth, gyda’r rhai oedd yn myned allan ar y Saboth; ac a ddaethant at Jehoiada yr offeiriad.

º10 A’r offeiriad a roddodd i dywysogion y cannoedd waywffyn a tharianau y brenin Dafydd, y rhai oedd yn nhŷ yr ARGLWYDD.

º11 A’r swyddogion a safasant bob un a5i arfau yn ei law, o’r tu deau i’r tŷ, hyd y tu aswy i’r tŷ, wrth yr allor a’r tŷ, amgylch ogylch y brenin.

º12 Ac efe a ddug allan fab y brenin, ac a roddodd y goron arno ef, a’r dystiolaeth: a hwy a’i hurddasant ef yn frenin, ac a’i heneiniasant ef; curasant hefyd eu dwylo, a dywedasant, Byw fyddo’r brenin.

º13 A phan glybu Athaleia drwst y bobl yn rhedeg, hi a ddaeth i mewn at y bobl i dŷ yr ARGLWYDD.

º14 A phan edrychodd hi, wele, y brenin oedd yn sefyll wrth y golofn yn ôl yr arfer, a’r tywysogion a’r utgyrn yn ymyl y brenin, a holl bobl y wlad yn llawen, ac yn canu mewn utgyrn. Ac Athaleia a rwygodd ei dillad, ac a waeddodd, Bradwriaeth, bradwriaeth!

º15 A Jehoiada yr offeiriad a orchymynodd i dywysogion y cannoedd, y rhai oedd wedi eu gosod ar y llu, ac a ddywedodd wrthynt, Dygwch hi o’r tu allan i’r rhesau; a’r hwn a ddelo ar ei hôl hi, Lladder ef â’r cleddyf  : canys dywedasai yr offeiriad, Na ladder hi yn nhŷ yr ARGLWYDD.

º16 A hwy a osodasant ddwylo arni hi, a hi a aeth ar hyd y ffordd feirch i dŷ y brenin, ac yno y lladdwyd hi.

º17 A Jehoiada a wnaeth gyfamod rhwng yr ARGLWYDD a’r brenin a’r bobl, i fod ohonynt yn bobl i’r ARGLWYDD,, a rhwng y brenin a’r bobl.

º18 A holl bobl y wlad a aethant i d Baal, ac a’i dinistriasant ef a’i allorau, ei ddelwau hefyd a ddrylliasant hwy yn chwilfriw, lladdasant hefyd Mattan offeir¬iad Baal o flaen yr allorau. A’r offeiriad a osododd oruchwylwyr ar dŷ yr AR¬GLWYDD.

º19 Efe a gymerth hefyd dywysogion y cannoedd, a’r capteiniaid, a’r swydd¬ogion, a holl bobl y wlad, a hwy a ddygasant i waered y brenin o d yr ARGLWYDD , ac a ddaethant ar hyd ffordd porth y swyddogion, i dŷ y brenin: ac efe a eisteddodd ar orseddfa y brenhinoedd.

º20 A holl bobl y wlad a lawenychasant, a’r ddinas a lonyddodd: a hwy a laddasant Athaleia â’r cleddyf wrth dy y brenin.

º21 Mab saith mlwydd oedd Joas pan aeth efe yn frenin.

PENNOD 12 º1 YN y seithfed flwyddyn i Jehu y dechreuodd Joas deyrnasu, a deugaia mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Sibia o Beerseba.

º2 A Joas a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei holl ddyddiau, yn y rhai y dysgodd Jehoiada yr offeiriad ef. ‘

º3 Er hynny ni thynasid ymaith yr uchelfeydd: y bobl oedd eto yn offrymu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd.

º4 A Joas a ddywedodd wrth yr offeiriaid, Holl arian y pethau cysegredig a ddyger i mewn i dŷ yr ARGLWYDD, arian y gŵr a gyniweirio, arian gwerth eneidiau pob un, a’r holl arian a glywo neb ar ei galon eu dwyn i mewn i dŷ yr ARGLWYDD-S

º5 Cymered yr offeiriaid hynny iddynfe, pawb gan ei gydnabod, a chyweiriant adwyau y tŷ, pa le bynnag y caffer adwy ynddo.

º6 Ond yn y drydedd flwyddyn ar hugain i’r brenin Joas, nid adgyweiriasai yr offeiriaid agennau y tŷ.

º7 Yna y brenin Joas a alwodd am Jehoiada yr offeiriad, a’r offeiriaid erailt, ac a ddywedodd wrthynt, Paham nad ydych chwi yn cyweirio agennau y ty? yn awr gan hynny, na dderbyniwch ariaa gan eich cydnabod, ond rhoddwch hwy at gyweirio adwyau y tŷ.

º8 A’r offeiriaid a gydsyniasant na dderbynient arian gan y bobl, ac na chyweirient agennau y tŷ.

º9 Eithr Jehoiada yr offeiriad a gymerth gist, ac a dyllodd dwil yn ei chaead, ac a’i gosododd hi o’r tu deau i’r allor, ffordd y delai un i mewn i dŷ yr ARGLWYDD: a’r offeiriaid, y rhai oedd yn cadw y drws, a roddent yno yr holl arian a ddygid i mewn i d yr ARGLWYDD.

º10 A phan welent fod llawer o arian yn y gist, y deuai ysgrifennydd y brenin, a’r archoffeiriad, i fyny, ac a roent mewn codau, ac a gyfrifent yr arian a gawsid yn nh yr ARGLWYDD.

º11 A hwy a roddasant yr arian wedi en cyfrif, yn nwylo gweithwyr y gwaith, ‘ goruchwylwyr tŷ yr ARGLWYDD: a hwy a’i talasant i’r seiri pren, ac i’r adeiladwyr oedd yn gweithio tŷ yr ARGLWYDD.

º12 Ac i’r seiri meini, ac i’r naddwyr cerrig, ac i brynu coed a cherrig nadd, i gyweirio adwyau tŷ yr ARGLWYDD, ac am yr hyn oll a aethai allan i adgyweirio y tŷ.

º13 Eto ni wnaed yn nhŷ yr ARGLWYDD gwpanau arian, saltringau, cawgiau, utgyrn, na llestri aur, na llestri arian, o’r arian a ddygasid i mewn i dŷ yr AR¬GLWYDD.

º14 Eithr hwy a’i rhoddasant i’ weithwyr y gwaith; ac a gyweiriasant a, hwynt dŷ yr ARGLWYDD.

º15 Ac ni cheisiasant gyfrif gan y dynion y rhoddasant hwy yr arian yn eu dwylo i’w rhoddi i weithwyr y gwaith: canys yr oeddynt hwy yn gwneuthur yn ffyddlon.

º16 Yr arian dros gamwedd a’r arian dros bechodau, ni dducpwyd i mewn i dŷ yr ARGLWYDD: eiddo yr offeiriaid oeddynt hwy.

º17 Yna Hasael brenin Syria a aeth i fyny, ac a ymladdodd yn erbyn Gath, ac a’i henillodd hi: a Hasael a osododd ei wyneb i fyned i fyny yn erbyn Jerw¬salem.

º18 A Joas brenin Jwda a gymerth yr holl bethau cysegredig a gysegrasai Jehosa-ffat, a Jehoram, ac Ahaseia, ei dadau ef, brenhinoedd Jwda, a’i gysegredig bethau ef ei hun, a’r holl aur a gafwyd yn nhrysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin, ac a’u hanfonodd at Hasael brenin Syria, ac efe a ymadawodd oddi wrth Jerwsalem.

º19 A’r rhan arall o hanes Joas, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Jwda?

º20 A’i weision ef a gyfodasant, ac a gydfwriadasant fradwriaeth; ac a laddasant Joas yn nhŷ Milo, wrth ddyfod i waered i Sila.

21 A Josachar mab Simeath, a Josabad mab Somer, ei weision ef, a’i trawsant ef, ac efe a fu farw; a hwy a’i claddasant ef gyda’i dadau yn ninas Dafydd: ac Amaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PENNOD 13 º1 YN y drydedd flwyddyn ar hugain i Joas mab Ahaseia brenin Jwda, y teyrnasodd Joahas mab Jehu ar Israel yn Samaria, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe.

º2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd ar ôl pechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu; ni throdd oddi wrthynt hwy.

º3 A digofaint yr ARGLWYDD a lidiodd yn erbyn Israel; ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw Hasael brenin Syria, ac yn llaw Benhadad mab Hasael, eu holl ddyddiau hwynt.

º4 A Joahas a erfyniodd ar yr ARGLWYDD, a gwrandawodd yr ARGLWYDD arno ef; oherwydd iddo ganfod gorthrymder Israel, canys brenin Syria a’u gorthrynaai hwynt.

º5 (A’r ARGLWYDD a roddodd achubwr i Israel, fel yr aethant oddi tan law y Syriaid: a meibion Israel a drigasant yn eu pebyll fel cynt.

º6 Eto ni throesant hwy oddi wrth bechodau tŷ Jeroboam, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, eithr rhodiasant ynddyn): hwy: a’r llwyn hefyd a safai yn Samaria.)

º7 Ac ni adawodd efe i Joahas o’r bobl;, ond deg a deugain o wŷr meirch, a deg cerbyd, a deng mil o wŷr traed: oherwydd brenin Syria a’u dinistriasai hwynt, ac a’u gwnaethai hwynt fel llwch wrth ddyrnu.

º8 A’r rhan arall o hanes Joahas, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i gadernid, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Israel?

º9 A Joahas a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef yn Samaria, a Joas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

º10 Yn y ddwyfed flwyddyn ar bym¬theg ar hugain i Joas brenin Jwda, y teyrnasodd Joas mab Joahas ar Israel yn Samaria: un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe.

º11 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: ni throdd efe oddi wrth holl bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu; eithr efe a rodiodd ynddynt.

º12 A’r rhan arall o hanes Joas, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i gadernid, trwy yr hwn yr ymladdodd efe ag Amaseia brenin Jwda, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Israel?

º13 A Joas a hunodd gyda’i dadau, a Jeroboam a eisteddodd ar ei deyrngadair ef: a Joas a gladdwyd yn Samaria gyda brenhinoedd Israel.

º14 Ac yr oedd Eliseus yn glaf o’r clefyd y bu efe farw ohono: a Joas brenin Israel a ddaeth i waered ato ef, ac a wylodd ar ei wyneb ef, ac a ddywedodd, O fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel, a’i farchogion.

º15 Ac Eliseus a ddywedodd wrtho ef, Cymer fwa a saethau. Ac efe a gymerth fwa a saethau.

º16 Ac efe a ddywedodd wrth frenin Israel, Dod dy law ar y bwa. Ac efe a roddodd ei law: ac Eliseus a osododd ei ddwylo ar ddwylo’r brenin.

º17 Ac efe a ddywedodd, Agor y ffenestr tua’r dwyrain. Yntau a’i hagorodd. Yna y dywedodd Eliseus, Saetha. Ac efe a saethodd. Dywedodd yntau, Saeth ymr wared yr ARGLWYDD, a saeth ymwared rhag Syria; a thi a drewi y Syriaid yn Affec, nes eu difa hwynt.

º18 Hefyd efe a ddywedodd, Cymer y saethau. Ac efe a’u cymerodd. Ac efe a ddywedodd wrth frenin Israel, Taro y ddaear. Ac efe a drawodd dair gwaiti , ac a beidiodd.

º19 A gŵr Duw a ddigiodd wrtho ef, ac a ddywedodd, Dylesit daro bump neu chwech o weithiau, yna y trawsit Syria nes ei difa: ac yn awr tair gwaith y trewi Syria.

º20 Ac Eliseus a fu farw, a hwy a’i claddasant ef. A minteioedd y Moabiaid a ddaethant i’r wlad y flwyddyn honno.

º21 A phan oeddynt hwy yn claddu gŵr, wele, hwy a ganfuant dorf, ac a fwriasant y gŵr i feddrod Eliseus. A phan aeth y gŵr i lawr a chyftwrdd ag esgyrn Eliseus, efe a ddadebrodd, ac a gyfododd ar ei draed.

º22 A Hasael brenin Syria a orthrymodd Israel holl ddyddiau Joahas.

º23 A’r ARGLWYDD a drugarhaodd wrth¬ynt hwy, ac a dosturiodd wrthynt hwy, ac a drodd atynt hwy, er mwyn ei gyfamod ag Abraham, Isaac, a Jacob, ac ni fynnai eu dinistrio hwynt, ac ni fwriodd efe hwynt allan o’i olwg hyd yn hyn.

º24 Felly Hasael brenin Syria a fu farw; a Benhadad ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

º25 A Joas mab Joahas a enillodd yn eu hôl o law Benhadad mab Hasael, y dinasoedd a ddygasai efe o law Joahas ei dad ef mewn rhyfel: Joas a’i trawodd ef dair gwaith, ac a ddug adref ddinasoedd Israel.

PENNOD 14 º1 YN yr ail flwyddyn i Joas mab Joahas brenin Israel y teyrnasodd Amaseia mab Joas brenin Jwda.

º2 Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan aeth yn frenin, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac cnw ei fam efoedd Joadan o Jerwsalem.

º3 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, eto nid fel Dafydd ei dad; ond cfc a wnaeth yn ôl yr hyn oll a wnaethai Joas ei dad ef.

º4 Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd: y bobl oedd cto xxxxx yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd.

º5 A phan sicrhawyd ei deyrnas yn ei law ef, efe a laddodd ei weision y rhai a laddasent y brenin ei dad ef.

º6 Ond ni laddodd efe feibion y lleiddiaid; fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, yn yr hon y gorchmynasai yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Na ladder y tadau dros y meibion, ac na ladder y meibion dros y tadau; ond lladder pob un am ei bechod ei hun.

º7 Efe a drawodd o’r Edomiaid, yn nyffryn yr halen, ddeng mil, ac a enillodd y graig mewn rhyfel, ac a alwodd ei henw Joctheel, hyd y dydd hwn.

º8 Yna Amaseia a anfonodd genhadau at Joas mab Joahas, mab Jehu, brenin Israel, gan ddywedyd. Tyred, gwelwn wyneb ein gilydd.

º9 A Joas brenin Israel a anfonodd at Amaseia brenin Jwda, gan ddywedyd, Yr ysgellyn yn Libanus a anfonodd at y gedrwyddcn yn Libanus, gan ddywedyd, Dyro dy ferch i’m mab i yn wraig. A bwystfil y maes yr hwn oedd yn Libanus a dramwyodd ac a sathrodd yr ysgellyn.

º10 Gan daro y trewaist yr Edomiaid, am hynny dy galon a’th falchiodd: ymffrostia, ac eistedd yn dy dŷ: canys i ba beth yr ymyrri i’th ddrwg dy hun, fel y syrthit ti, a Jwda gyda thi?

º11 Ond ni wrandawai Amaseia. Am hynny Joas brenin Israel a aeth i fyny, a hwy a welsant wynebau ei gilydd, efe ac Amaseia brenin Jwda, yn Bethsemes, yr hon sydd yn Jwda.

º12 A Jwda a drawyd o flaen Israel; a hwy a ffoesant bawb i’w pebyll.

º13 A Joas brenin Israel a ddaliodd Amaseia brenin Jwda, mab Joas, mab Ahaseia, yn Bethsemes, ac a ddaeth i Jerwsalem, ac a dorrodd i lawr fur Jerw¬salem, o borth Effraim hyd borth y gongi, bedwar can cufydd.

º14 Ac efe a gymerth yr holl aur a’r arian, a’r holl lestri a’r a gafwyd yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac yn nhrysorau tŷ y brenin, a gwystlon, ac a ddychwelodd i Samaria.

º15 A’r rhan arall o hanes Joas, yr hyn a wnaeth efe, a’i gadernid, ac fel yr ymladdodd efe ag Amaseia brenin Jwda, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Israel?

16 A Joas a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn Samaria gyda brenhinoedd Israel, a Jeroboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

º17 Ac Amaseia mab Joas brenin Jwda a fu fyw ar ôl marwolaeth Joas mab Joahas brenin Israel bymtheng mlynedd.

º18 A’r rhan arall o hanes Amaseia, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Jwda?

º19 Ond hwy a fradfwriadasant yn ai erbyn ef yn Jerwsalem; ac efe a ffodd i Lachis: eto hwy a anfonasant ar ei ôl ef i Lachis, ac a’i lladdasant ef yno.

º20 A hwy a’i dygasant ef ar feirch, ac efe a gladdwyd yn Jerwsalem gyda’i dadau, yn ninas Dafydd.

º21 A holl bobl Jwda a gymerasant Asareia, ac yntau yn fab un flwydd ar bymtheg, ac a’i hurddasant ef yn frenin yn lle Amaseia ei dad.

º22 Efe a adeiladodd Elath, ac a’i rhoddodd hi drachefn i Jwda, ar ôl huno o’r brenin gyda’i dadau.

º23 Yn y bymthegfed flwyddyn i Amaseia mab Joas brenin Jwda y teyrnasodd Jeroboam mab Joas brenin Israel yn Samaria; un flynedd a deugain y teyrnasodd efe.

º24 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: ni chiliodd efe oddi wrth holl bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

º25 Efe a ddug adref derfyn Israel o’r lle yr eir i mewn i Hamath hyd fôr y rhos, yn ôl gair ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Jona mab Amittai y proffwyd, yr hwn oedd o GathHeffer.

º26 Canys yr ARGLWYDD a welodd gystudd Israel yn flin iawn: canys nid oedd neb gwarchaeëdig, na neb wedi ei adael, na chynorthwyydd i Israel.

º27 Ac ni lefarasai yr ARGLWYDD y dileai efe enw Israel oddi tan y nefoedd: ond efe a’u gwaredodd hwynt trwy law Jeroboam mab Joas.

º28 A’r rhan arall o hanes Jeroboam, a’r hyn oll a’r a wnaeth efe, a’i gadernid ef, y modd y rhyfelodd efe, a’r modd y dug efe adref Damascus, a Hamath, i Jwda yn Israel, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici hrenhinoedd Israel?

º29 A Jeroboam a hunodd gyda’i dadau, sef gyda brenhinoedd Israel; a Sachareia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PENNOD 15 º1 "YN y seithfed flwyddyn ar hugain i * Jeroboam brenin Israel y teyrnasodd Asareia mab Amaseia brenin Jwda.

º2 Mab un flwydd ar bymtheg ydoedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, a deuddeng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam oedd Jecholeia o Jerwsalem.

º3 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Amaseia ei dad ef:

º4 Ond na thynnwyd ymaith yr uchelfeydd: y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd.

º5 A’r ARGLWYDD a drawodd y brenin, fel y bu efe wahanglwyfus hyd ddydd ei farwolaeth, ac y trigodd mewn tŷ o’r neilitu: a Jotham mab y brenin oedd ar y tŷ yn barnu pobl y wlad.

º6 A’r rhan arall o hanes Asareia, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Jwda?

º7 Ac Asareia a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef gyda’i dadau yn ninas Dafydd; a Jotham ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

º8 Yn y drydedd flwyddyn ar bym¬theg ar hugain i Asareia brenin Jwda, y teyrnasodd Sachareia mab Jeroboam ar Israel yn Samaria chwe mis.

º9 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, megis y gwnaethai ei dadau: ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

º10 A Salum mab Jabes a fradfwriadodd yn ei erbyn ef, ac a’i trawodd ef gerbron y bobl, ac a’i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn eiIe ef.

º11 A’r rhan arall o hanes Sachareia, wele, y mae yn ysgrifenedig yn llyfc cronici brenhinoedd Israel.

º12 Dyma air yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe wrth Jehu, gan ddywedyd, Meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar orseddfa Israel. Ac felly y bu.

º13. Salum mab Jabes a ddechreuodd deyrnasu yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Usseia, brenin Jwda, a mis cyfan y teyrnasodd efe yn Samaria.

º14 Canys Menahem mab Gadi a aeth i fyny o Tirsa, ac a ddaeth i Samaria, ac a drawodd Salum mab Jabes yn Samaria, ac a’i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn ei le ef,

º15 A’r rhan arall o hanes Salum, a’i fradwriaeth ef yr hon a fradfwriadodd efe, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyft cronici brenhinoedd Israel.

º16 Yna Menahem a drawodd Tiffsa a’r rhai oll oedd ynddi, a’i therfynau, o Tirsa: oherwydd nad agorasant iddo ef, am hynny y trawodd efe hi; a’i holi wragedd beichiogion a rwygodd efe.

º17 Yn y bedwaredd flwyddyn ar bym¬theg ar hugain i Asareia brenin Jwda y teyrnasodd Menahem mab Gadi ar Israel, a deng mlynedd y teyrnasodd efe yn Samaria.

º18 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: ni throdd efe yn ei holl ddyddiau oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

º19 A Phul brenin Asyria a ddaeth yn erbyn y wlad; a Menahem a roddodd i Pul fil o dalentau arian, fel y byddai ei law gydag ef, i sicrhau y frenhiniaeth yn ei law ef.

º20 A Menahem a gododd yr arian ar Israel, scf ar yr holl rai cedyra o allu, ar bob un ddeg sici a deugain o arian, i’w rhoddi i frenin Asyria; felly brenin Asyria a ddychwelodd, ac nid arhosodd yno yn y wlad.

º21 ! A’r rhan arall o hanes Mcnahem a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici bren¬hinoedd Israel?

º22 A Menahem a hunodd gyda’i dadau, xxx a Phecaheia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

º23?I Yn y ddegfed flwyddyn a deugain i Asareia brenin Jwda y teyrnasodd Pecaheia mab Menahem ar Israel yn Samaria, a dwy flynedd y teyrnasodd efe.

º24 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

º25 A Pheca mab Remaleia ei dywysog ‘ ef a fradfwriadodd yn ei erbyn ef, ac a’i trawodd ef yn Samaria, yn llys y brenin, gydag Argob, ac Arie, a chydag ef ddeng ŵr a deugain o feibion y Gileadiaid: ac efe a’i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn ei leef.

º26 A’r rhan arall o hanes Pecaheia, a’r hyn oll a wnaeth efe, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Israel.

º27 Yn y ddeuddegfed flwyddyn a deugain i Asareia brenin Jwda y teyrnas¬odd Peca mab Remaleia ar Israel yn Samaria, ac ugain mlynedd y teyrnasodd efe.

º28 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

º29 Yn nyddiau Peca brenin Israel y daeth Tiglathpileser brenin Asyria, ac a enillodd Ijon, ac Abel-bethmaacha, a Janoa, Cedes hefyd, a Hasor, a Gilead, a Galilea, holl wlad Nafftali, ac a tt caethgludodd hwynt i Asyria.

º30 A Hosea mab Ela a fradfwriadodd fradwriaeth yn erbyn Peca mab Remaleia;, ac a’i trawodd ef, ac a’i lladdodd, ac a deyrnasodd yn ei le ef, yn yr ugeinfed fiwyddyn i Jotham mab Usseia.

º31 A’r rhan arall o hanes Peca, a’r hyn oll a wnaeth efe, wele hwynt yn ysgrifen¬edig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel.

º32 Yn yr ail flwyddyn i Peca mab Remaleia brenin Israel y dechreuodd Jotham mab Usseia brenin Jwda deyrnasu.

º33 Mab pum mlwydd ar hugain oedd

efe pan ddechreuodd deyrnasu, ac un flwydd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jerwsa, merch Sadoc.

º34 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD; yn ôl yr hyn oll a’r a wnaethai Usseia ei dad y gwnaeth efe.

º35 Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd. Efe a adeiladodd y porth uchaf i dŷ yr AR¬GLWYDD.

º36 y A’r rhan arall o hanes Jotham, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

º37 Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr ARGLWYDD anfon yn erbyn Jwda, Resin brenin Syria, a Pheca mab Remaleia.

º38 A Jotham a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ei dad, ac Ahas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PENNOD 16 º1 YN y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg i Peca mab Remaleia y dechreuodd Ahas mab Jotham brenin Jwda deyrnasu.

º2 Mab ugain mlwydd oedd Ahas pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, ac ni wnaeth efe yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei DDUW, fel Dafydd ei dad:

º3 Eithr rhodiodd yn ffordd brenhin¬oedd Israel, ac a dynnodd ei fab trwy’r tân, yn ôl ffieidd-dra’r cenhedloedd a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel.

º4 Ac efe a aberthodd ac a arogldarthodd yn yr uchelfeydd, ac ar y brymau, a than bob pren gwyrddlas.

º5 Yna y daeth Resin brenin Syria, a Pheca mab Remaleia brenin Israel, i fyny i Jerwsalem i ryfel; a hwy a warchaeasant ar Ahas; ond ni allasant hwy ei orchfygu ef.

º6 Yn yr amser hwnnw Resin brenin Syria a ddug drachefn Elath at Syria, ac a yrrodd yr Iddewon o Elath: a’r Syriaid a ddaethant i Elath, ac a breswyliasant yno hyd y dydd hwn.

º7 Yna Ahas a anfonodd genhadau at Tiglathpileser brenin Asyria, gan ddywedyd, Dy was di a’th fab di ydwyf fi: tyred i fyny, a gwared fi o law brenin Syria, ac o law brenin Israel, y rhai sydd yn cyfodi yn fy erbyn i.

º8 Ac Ahas a gymerth yr arian a’r aur a gafwyd yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac yn nhrysorau tŷ y brenin, ac a’u hanfonodd yn anrheg i frenin Asyria.

º9 A brenin Asyria a wrandawodd arno ef; a brenin Asyria a ddaeth i fyny i Damascus, ac a’i henillodd hi, ac a gaethgludodd ei thrigolion i Cir, ac a laddodd Resin.

º10 A’r brenin Ahas a aeth i Damascus i gyfarfod Tiglathpileser brenin Asyria, ac a welodd allor oedd yn Damascus: a’r brenin Ahas a anfonodd at Ureia yr offeiriad agwedd yr allor a’i phortreiad, yn ôl ei holl wneuthuriad.

º11 Ac Ureia yr offeiriad a adeiladodd allor yn ôl yr hyn oll a anfonasai y brenin Ahas o Damascus: felly y gwnaeth Ureia yr offeiriad, erbyn dyfod y brenin Ahas o Damascus.

º12 A phan ddaeth y brenin o Damascus, y brenin a ganfu yr allor: a’r brenin a nesaodd at yr allor, ac a offrymodd arni hi.

º13 Ac efe a losgodd ei boethoffrwm, a’i fwyd-offrwm, ac a dywalltodd ei ddiod-offrwm, ac a daenellodd waed ei offrymau hedd ar yr allor.

º14 A’r allor bres, yr hon oedd gerbron yr ARGLWYDD, a dynnodd efe ymaith o daloen y tŷ, oddi rhwng yr allor a thŷ yr ARGLWYDD, ac a’i rhoddes hi o du gogledd yr allor.

º15 A’r brenin Ahas a orchmynnodd i Ureia yr offeiriad gan ddywedyd, Llosg ar yr allor fawr y poethoffrwm boreol, a’r bwyd-offrwm prynhawnol, poethoffrwm y brenin hefyd, a’i fwyd-offrwm ef, a phoethoffrwm holl bobl y wlad, a’u bwyd-offrwm hwynt, a’u diodydd-offrwm hwynt; a holl waed y poethoffrwm, a holl waed yr aberth, a’ daenelli di arni hi; a bydded yr allor bres i mi i ymofyn.

º16 Ac Ureia yr offeiriad a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai y brenin Ahas.

I7 A’r brenin Ahas a dorrodd ddaliadau yr ystolion, ac a dynnodd ymaith y noe oddi arnynt hwy, ac a ddisgynnodd y môr oddi ar yr ychen pres oedd tano, ac a’i rhoddodd ar balmant cerrig.

º18 A gorchudd y Saboth yr hwn a adeiladasant hwy yn tŷ, a dyfodfa’r brenin oddi allan, a drodd efe oddi wrth dŷ yr ARGLWYDD, o achos brenin Asyria.

º19 A’r rhan arall o hanes Abas, yr hyn a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

º20 Ac Ahas a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd; a Heseceia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PENNOD 17 º1 YN y ddeuddegfed flwyddyn i Ahas brenin Jwda, y teyrnasodd Hosea mab Ela yn Samaria ar Israel; naw mlynedd y teyrnasodd efe.

º2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, eto nid fel brenhinoedd Israel y rhai a fuasai o’i flaen ef.

º3 A Salmaneser brenin Asyria a ddaeth i fyny yn ei erbyn ef, a Hosea a aeth yn was iddo ef, ac a ddug iddo anrhegion.

º4 A brenin Asyria a gafodd fradwriaeth yn Hosea: canys efe a ddanfonasai genhadau at So brenin yr Aifft, ac ni ddanfonasai anrheg i frenin Asyria, fel y byddai efe arferol bob blwyddyn: am hynny brenin Asyria a gaeodd arno ef, ac a’i rhwymodd ef mewn carchardy.

º5 Yna brenin Asyria a aeth i fyny trwy’r holl wlad, ac a aeth i fyny i Samaria, ac a warchaeodd arni hi dair blynedd.

º6 Yn y nawfed flwyddyn i Hosea, yr enillodd brenin Asyria Samaria, ac y caethgludodd efe Israel i Asyria, ac a’u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor, wrth afon Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid.

º7 Felly y bu, am i feibion Israel bechu yn erbyn yr ARGLWYDD eu Duw, yr hwn a’u dygasai hwynt i fyny o wlad yr Aifft, oddi tan law Pharo brenin yr Aifft, ac am iddynt ofni duwiau dieithr,

º8 A rhodio yn neddfau y cenhedloedd, y rhai a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel, ac yn y deddfau a wnaethai brenhinoedd Israel.

º9 A meibion Israel a wnaethant yn ddirgcl bethau nid oedd uniawn yn erbyn yr ARGLWYDD eu Duw, ac a adeil¬adasant iddynt uchelfeydd yn eu holl ddinasoedd, o dwr y gwylwyr hyd y ddinas gaerog.

º10 Gosodasant hefyd iddynt ddelwau a llwyni ar bob bryn uchel, a than bob pren irias:

º11 Ac a arogldarthasant yno yn yr holl uchelfeydd, fel y cenhedloedd y rhai a gaethgludasai yr ARGLWYDD o’u blaen hwynt; a gwnaethant bethau drygionus i ddigio’r ARGLWYDD.

º12 A hwy a wasanaethasant eilunod, am y rhai y dywedasai yr ARGLWYDD wrthynt, Na wnewch y peth hyn.

º13 Er i’r ARGLWYDD dystiolaethu yn erbyn Israel, ac yn erbyn Jwda, trwy law yr holl broffwydi, a phob gweledydd, gan ddywedyd, Dychwelwch o’ch ffyrdd drygionus, a chedwch fy ngorchmynion, a’m deddfau, yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnais i’ch tadau, a’r hon a anfonais atoch trwy law fy ngweision y proffwydi.

º14 Eto ni wrandawsant, eithr caledasant eu gwarrau fel gwarrau eu tadau, y rhai ni chredasant yn yr ARGLWYDD eu Duw.

º15 A hwy a ddirmygasant ei ddeddfau ef, a’i gyfamod yr hwn a wnaethai efe a’u tadau hwynt, a’i dystiolaethau ef y rhai a dystiolaethodd efe i’w herbyn; a rhodiasant ar ôl oferedd, ac a aethant yn ofer: aethant hefyd ar ôl y cenhedloedd y rhai oedd o’u hamgylch, am y rhai y gorchmynasai yr ARGLWYDD iddynt, na wnelent fel hwynt.

º16 A hwy a adawsant holl orchmynion yr ARGLWYDD eu Duw, ac a wnaethant iddynt ddelwau tawdd, nid amgen dau

to: gwnaethant hefyd lwyn ac ymgrymasant i holl lu y nefoedd, a gwasanaethasant Baal.

º17 A hwy a dynasant eu meibion a’u merched trwy’r tân, ac a arferasant ddewiniaeth, a swynion, ac a ymwerth asant i wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i’w ddigio ef.

º18 Am hynny yr ARGLWYDD a ddigiodd yn ddirfawr wrth Israel, ac a’u bwriodd hwynt allan o’i olwg: ni adawyd ond llwyth Jwda yn unig.

º19 Ni chadwodd Jwda chwaith orchmynion yr ARGLWYDD eu Duw, eithr rhodiasant yn neddfau Israel y rhai a wnaethent hwy.

º20 A’r ARGLWYDD a ddiystyrodd holl had Israel, ac a’u cystuddiodd hwynt, ac a’u rhoddodd hwynt yn llaw anrheithwyr, nes iddo eu bwrw allan o’i olwg.

º21 Canys efe a rwygodd Israel oddi with dŷ Dafydd; a hwy a wnaethant Jeroboam mab Nebat yn frenin: a Jero¬boam a yrrodd Israel oddi ar ôl yr AR-6LWYDD, ac a wnaeth iddynt bechu pechod mawr.

º22 Canys meibion Israel a rodiasant yn hell bechodau Jeroboam, y rhai a wnaeth efe, heb gilio oddi wrthynt: ‘ 23 Nes i’r ARGLWYDD fwrw Israel allan ti’i olwg, fel y llefarasai trwy law ei holl weision y proffwydi: ac Israel a gaethgludwyd allan o’i wlad ei hun i Asyria, hyd y dydd hwn.

º24 II A brenin Asyria a ddug bobl o Babilon, ac o Cutha, ac o Afa, o Hamath hefyd, ac o Seffarfaim, ac a’u cyfleodd hwynt yn ninasoedd Samaria, yn lle meibion Israel. A hwy a feddianasant Samaria, ac a drigasant yn ei dinasoedd hi.

º25 Ac yn nechrau eu trigias hwy yno, nid ofnasant hwy yr ARGLWYDD; am hynny yr ARGLWYDD a anfonodd lewod yn eu plith hwynt, y rhai a taddasant rai ehonynt.

º26 Am hynny y mynegasant i frenin Asyria, gan ddywedyd, Y cenhedloedd y rhai a fiidaist ti, ac a gyfleaist yn flmasoedd Saaiaria, nid adwaenant dde- fod Duw y wlad: am hynny efe a anfon¬odd lewod yn eu mysg hwynt, ac wele, Haddasant hwynt, am na wyddent-ddefod Duw y wlad.

º27 Yna brenin Asyria a orchmynnodd, gan ddywedyd, Dygwch yno un o’r 6fieiriaid a ddygasoch oddi yno, i fyned ac i drigo yno, ac i ddysgu iddynt ddefod Duw y wlad.

º28 Felly un o’r offeiriaid a ddygasent ‘hwy o Samaria a ddaeth ac a drigodd yn Bethel, ac a ddysgodd iddynt pa fodd yr ofnent yr ARGLWYDD.

º29 Eto pob cenedl oedd yn gwneuthur eu duwiau eu hun, ac yn eu gosod yn nhai yr uchelfeydd a wnaethai y Samariaid, pob cenedl yn eu dinasoedd yr oeddynt yn preswylio ynddynt.

º30 A gwŷr Babilon a wnaethant SuccothBenoth, a gwŷr Cuth a wnaethant Nergar, a gwŷr Hamath a wnaethant Asima,

º31 A’r Afiaid a wnaethant Nibhas a Thartac, a’r Seffarfiaid a losgasant eu meibion yn tan i Adrammelech ac i Anammelech, duwiau Seffarfaim.

º32 Felly hwy a ofnasant yr ARGLWYDD, ac a wnaethant iddynt rai o’u gwehilion yn offeiriaid yr uchelfeydd, y rhai a wnaethant aberthau iddynt yn nhai yr uchelfeydd.

º33 Yr ARGLWYDD yr oeddynt hwy yn e omi, a gwasanaethu yr oeddynt eu duwiau, yn ôl defod y cenhedloedd y rhai a ddygasent oddi yno. ‘ º34 Hyd y dydd hwn y maent hwy yn gwneuthur yn ôl eu hen arferion: nid ‘ydynt yn ofni yr ARGLWYDD, ac nid ydynt yn gwneuthur yn ôl eu deddfau hwynt, nac yn ôl eu harfer, nac yn ôl y gyfraith na’r gorchymyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD i feibion Jacob, yr hwn y gosododd efe ei enw, Israel.

º35 A’r ARGLWYDD a wnaethai gyfamod â hwynt, ac a orchmynasai iddynt, gan ddywedyd, Nac ofnwch dduwiau dieithr, ac nac ymgrymwch iddynt, ac na wasan’aethwch hwynt, ac nac aberthwch iddynt:

º36 Ond yr ARGLWYDD yr hwn a’ch dug chwi i fyny o wlad yr Aifft a nerth mawr, ac a braich estynedig, ef a ofnwch efawi, ac iddo ef yr ymgryawch, ac iddo ef yr aberthwch.

º37 Y deddfau ‘hefyda a’r barnedigaethau, a’r gyfraith, a’r gorchymyn, a ysgrifennodd efe i chwi, a gedwch chwi i’w gwneuthur byth; ac liac ofnwch dduwiau dieithr.;

º38 Ac nac anghofiwch y cyfamod a, amodais a chwi, ac nac ofnwch dduwiau dieithr:

º39 Eithr ofnwch yr ARGLWYDD eicfa Duw; ac efe a’ch gwared chwi o law eich holl elynion.

º40 Ond ni wrandawsant hwy, eithr yfi ôl eu hen arfer y gwnaethant hwy.

º41 Felly y cenhedloedd hyn oedd yo ofni’r ARGLWYDD, ac yn gwasanaethu w delwau cerfiedig; eu plant a’u hwyrioa; fcl y gwnaeth eu tadau, y maent hwy yn gwneuthur hyd y dydd hwn.

PENNOD 18 º1 AC yn y drydedd flwyddyn i Hosea mab AA- Ela brenin Israel, y teyrnasodd Heseceia mab Ahas brenin Jwda.

º2 Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan aeth yn frenin, a naw mlynedd at hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Abi, merch Sach-areia.

º3 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hya oll a wnaethai Dafydd ei dad ef.

º4 Efe a dynnodd ymaith yr uchel¬feydd, ac a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni, ac a faluriodd y sarff bres a wnaethai Moses; canys hyd y dyddiau hynny yr oedd meibion Israel yn arogldarthu iddi hi: ac efe a’i galwodd hi Nehustan.

º5 Yn ARGLWYDD DDUW Israel yr ymdiriedodd cfc, ac ar ei ôl ef ni bu ei fath ef ymhlith holl frenhinoedd Jwda, nac ymysg y rhai a fuasai o’i flaen ef.

º6 Canys efe a lynodd wrth yr AR¬GLWYDD, ni throdd etc oddi ar ei ôl ef, eithr efe a gadwodd ei orchmymon ef, y rhai a orchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses,

º7 A’r ARGLWYDD fa gydag ef; i ba te bynnag yr aeth, efe a lwyddodd: ae-efe wrthryfelodd yn erbyn brenin Asyria, ac nis gwasanaethodd ef.

º8 Efe a drawodd y Philistiaid hyd Gasa a’i therfynau, o dwr y gwylwyr hyd y ddinas gaerog.

º9 Ac yn y bedwaredd flwyddyn i’r brenin Heseceia, honno oedd y seithfed flwyddyn i Hosea mab Ela brenin Israel, y daeth Salmaneser brenin Asyria i fyny yn erbyn Samaria, ac a warchaeodd arni hi.

º10 Ac ymhen y tair blynedd yr enillwyd hi; yn y chweched flwyddyn i Heseceia, honno oedd y nawfed flwyddyn i Hosea brenin Israel, yr enillwyd Samaria.

º11 A brenin Asyria a gaethgludodd Israel i Asyria, ac a’u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor, wrth afon Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid:

º12 Am na wrandawsent ar lais yr AR-©LWYDD eu Duw, eithr troseddu ei gyfamod ef, a’r hyn oll a orchmynasai Moses gwas yr ARGLWYDD, ac na wrandawent arnynt, ac nas gwnaent hwynt.

º13 Ac yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg i’r brenin Heseceia, y daeth Senacherib brenin Asyria i fyny yn erbyn holl ddinasoedd caerog Jwda, ac a’u henitlodd hwynt.

º14 A Heseceia brenin Jwda a anfonodd at frenin Asyria i Lachis, gan ddywedyd, Pechais, dychwel oddi wrthyf: dygaf yr hyn a roddych arnaf. A brenin Asyria a osododd ar Heseceia brenin Jwda, dri chant o dalentau arian, a deg ar hugain o dalentau aur.

º15 A Heseceia a roddodd iddo yr lolt arian a gafwyd yn nhŷ yr ARGLWYDP, ac yn nhrysorau tŷ y brenin.

º16 Yn yr amser hwnnw y torrodd Heseceia yr aur oddi ar ddrysau teml yr ARGLWYDD, ac oddi ar y colomau a orchuddiasai Heseceia brenin Jwda, ac a’u rhoddes hwynt i frenin Asyria.

º17 A brenin Asyria a anfonodd Tartan, a Rabsaris, a Rabsace, o Lachis, at y brenin Heseceia, a llu dh-fawr yn erbyn Jerwsalem. A hwy a aethant i fyny, ac a ddaethant i Jerwsalem. Ac wedi eu dyfod i fyny, hwy a ddaethant ac a safasant wrth bistyll y llyn uchaf, yr hwn sydd ym mhriffordd maes y pannwr.

º18 Ac wedi iddynt alw ar y brenin, daeth allan atynt hwy Eliacim mab Hiloeia, yr hwn oedd ben-teulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur.

º19 A Rabsace a ddywedodd wrthynt hwy, Dywedwch yn awr wrth Heseceia, Fel hyn y dywedodd y brenin mawr, brenin Asyria, Pa hyder yw hwn yr wyt yn ymddiried ynddo?

º20 Dywedyd yr ydwyt, (ond nid ydynt ond geiriau ofer,) Y mae gennyf gyngor a nerth i ryfel. Ar bwy y mae dy hyder, pan wrthryfelaist i’m herbyn i?

º21 Wele yn awr, y mae dy hyder ar y ffon gorsen ddrylliedig hon, ar yr Aifrt * yr hon pwy bynnag a bwyso arni, hi a â i gledr ei law ef, ac a dylla trwyddi hi: felly y mae Pharo brenin yr Aifft i bawb a hyderant arno ef.

º23 Ac os dywedwch wrthyf, Yn yr ARGLWYDD ein Duw yr ydym ni ytt ymddiried; onid efe yw yr hwn y tynnodd Heseceia ymaith ei uchelfeydd, a’r allorau, ac y dywedodd wrth Jwda ac wrth Jerwsalem, O flaen yr allor hon yr ymgrymwch chwi yn Jerwsalem?

º23 Yn awr gan hynny dod wystlon, atolwg, i’m harglwydd, brenin Asyria, a rhoddaf i ti ddwy fil o feirch, os gelli di roddi rhai a farchogo arnynt hwy.

º24 A pha fodd y troi di ymaith wyneb un capten o’r gweision lleiaf i’m har¬glwydd, ac yr ymddiriedi yn yr Aifft am gerbydau a gwŷr meirch?

º25 Ai heb yr ARGLWYDD y deuthum i fyny yn erbyn y lle hwn, i’w ddinistrio ef? Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, DOS i fyny yn erbyn y wlad hon, a dinistria hi.

º26 Yna y dywedodd Eliacim mab Hiloeia, a Sebna, a Joa, wrth Rabsace, Llefara, atolwg, wrth dy weision yn Syriaeg, canys yr ydym ni yn ei deall hi; ac nac ymddiddan â ni yn iaith yr Iddewon, lle y clywo y bobl sydd ar y mur.

º27 Ond Rabsace a ddywedodd wrthynt, Ai at dy feistr di, ac atat tithau, yr anfonodd fy meistr fi, i lefaru y geiriau hyn? onid at y dynion sydd yn eistedd ar y mur, fel y bwytaont eu torn eu hun, ac yr yfont eu trwnc eu hun gyda chwi, yr anfonodd fi?

º28 Felly Rabsace a safodd, ac a waeddodd a llef uchel yn iaith yr Iddewon, llefarodd hefyd, a dywedodd, Gwrandewch air y brenin mawr, brenin Asyria.

º29 Fel hyn y dywedodd y brenin, Na thwylled Heseceia chwi: canys ni ddichon efe eich gwaredu chwi o’m llaw i.

º30 Ac na phared Heseceia i chwi ymddiried yn yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD gan waredu a’n gwared ni, ac ni roddir y ddinas hon yn llaw brenin Asyria.

º31 Na wrandewch ar Heseceia: canys fel hyn y dywed brenin Asyria, Gwnewch fwynder a mi, a deuwch allan ataf fi, ac yna bwytewch bob un o’i winwydden ei hun, a phob un o’i ffigysbren, ac yfed pawb ddwfr ei ffynnon ei hun:

º32 Nes i mi ddyfod a’ch dwyn chwi i wlad megis eich gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd, gwlad olew olewydd a mêl, fel y bydd-och fyw, ac na byddoch feirw: ac na wrandewch ar Heseceia, pan hudo efe chwi, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a’n gwared ni.

º33 A lwyr waredodd yr un o dduwiau y cenhedloedd ei wlad o law brenin Asyria?

º34 Mae duwiau Hamath ac Arpad? mae duwiau Seffarfaim, Hena, ac Ifa? a achubasant hwy Samaria o’m llaw’i?

º35 Pwy sydd ymhlith holl dduwiau y gwledydd a waredasant eu gwlad o’m llaw i, fel y gwaredai yr ARGLWYDD Jerwsalem o’m llaw i?

º36 Eithr y bobl a dawsant, ac nid atebasant air iddo: canys gorchymyn y brenin oedd hyn, gan ddywedyd, Nac atebwch ef.

º37 Yna y daeth Eliacim mab Hiloeia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrif¬ennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur, at Heseceia, a’u dillad yn rhwygedig, ac a fynegasant iddo eiriau Rabsace.

PENNOD 19 º1 A phan glybu y brenin Heseceia hynny, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ymwisgodd a sachliain, ac a aeth i mewn i dŷ yr ARGLWYDD.

º2 Ac efe a anfonodd Eliacim, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a henuriaid yr offeinaid, wedi ymwisgo mewn sachliain, at Eseia y proffwyd mab Amos.

º3 A hwy a ddywedasant wrtho ef. Fel hyn y dywed Heseceia, Diwrnod cyfyng-dra, a cherydd, a chabledd yw y dydd hwn: canys y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth, ond nid oes grym i esgor.

º4 Fe allai y gwrendy yr ARGLWYDD dy DDUW holl eiriau Rabsace, yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr ef i gablu y Duw byw, ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr ARGLWYDD dy DDUW: am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i’w gael.

º5 Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia.

º6 Ac Eseia a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Nac ofna y geiriau a glywaist, trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi.

º7 Wele fi yn rhoddi arno ef wynt, ac efe a glyw swn, ac a ddychwel i’w wlad: gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun.

º8 Yna y dychwelodd Rabsace, ac a gafodd frenin Asyria yn ymladd yn erbyn Libna: canys efe a glywsai fyned ohono ef ymaith o Lachis.

º9 A phan glybu efe am Tirhaca brenin Ethiopia, gan ddywedyd, Wele, efe a ddaeth allan i ryfela a thi; efe a anfonodd genhadau drachefn at Heseceia, gan ddy¬wedyd,

º10 Fel hyn y lleferwch wrth Heseceia brenin Jwda, gan ddywedyd, Na thwylled dy DDUW di, yr hwn yr wyt yn ymddiried ynddo, gan ddywedyd, Ni roddir Jerw¬salem yn llaw brenin A;, yna.

º11 Wele, ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria 1’r holl wiedyddy gan eu difrodi hwynt: ac a waredir di?

º12 A waredodd duwiau y cenhedloedd hwynt, y rhai a ddarfu i’m tadau i eu dinistrio; sef Gosan, a Haran, a Rcseff, a meibion Eden y rhai oedd o fewn Thelasar?

º13 Mae brenin Hamath, a brenin Arpad, a brenin dinas Seffarfaim, Hena, ac Ifa?

º14 y A Heseceia a gymerodd y llythyrau o law y cenhadau, ac a’u darilenodd hwy: a Heseceia a aeth i fyny i dŷ yr ARGLWYDD, ac a’u lledodd hwynt gerbron yr ARGLWYDD.

º15 A Heseceia a weddïodd gerbron yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn wyt yn trigo rhwng y ceriwbiaid, tydi sydd DDUW, tydi yn unig, i holl deyrnasoedd y ddaear; ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear.

º16 Gogwydda, ARGLWYDD, dy glust, a gwrando: agor dy lygaid, ARGLWYDD, ac edrych; a gwrando eiriau Senacherib, yr hwn a anfonodd i ddifenwi y Duw byw.

º17 Gwir yw, O ARGLWYDD, i frenhinoedd Asyria ddifa’r holl genhedloedd a’u tir,

º18 A rhoddi eu duwiau hwynt yn tân: canys nid oeddynt hwy dduwiau, eithr gwaith dwylo dyn, o goed a maen: am hynny y dinistriasant hwynt.

º19 Yn awr gan hynny, O ARGLWYDO ein Duw ni, achub ni, atolwg, o’i law ef, fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai tydi yw yr ARGLWYDD DDUW, tydi yn unig.

º20 Yna Eseia mab Amos a anfonodd at Heseceia, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Gwrandewais ar yr hyn a weddïaist arnaf fi yn erbyn Senacherib brenin Assyria.

º21 Dyma y gair a lefarodd yr AR¬GLWYDD yn ei erbyn ef, Y forwyn merch Seion a’th ddirmygodd di, ac a’th wat-warodd; merch Jerwsalem a ysgydwodd ben ar dy ôl di.

º22 Pwy a ddifenwaist ti, ac a geblaist? ac yn erbyn pwy y dyrchefaist ti dy lef, ac y codaist yn uchel dy lygaid? yn erhya Sanct Israel.

º23 Trwy law dy genhadau y ceblaist ti yr ARGLWYDD, ac y dywedaist, A lliaws fy ngherbydau y dringais i uchelder y mynyddoedd, i ystlysau Libanus; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd ef, a’i ddewis ffynidwydd ef, af hefyd i’w lety eithaf, ac i goedwig ei ddoldir ef.

º24 Myfi a gloddiais; ac a yfais ddyfroedd dieithr, ac a gwadnau fy nhraed y dihysbyddais holl afonydd y gwarchae- edig.

º25 Oni chlywaist ti ddarparu ohonof fi hyn er ys talm, ac i mi lunio hynny er y dyddiau gynt? yn awr y dygais hynny i Ben, fel y byddit i ddinistrio dinasoedd caerog yn gameddau dinistriol.

º26 Am hynny eu trigolion yn gwtoglaw a ddychrynwyd, ac a gywilyddiwyd: oeddynt megis gwellt y maes, fel gwyrddlysiau, neu laswelltyn ar bennau tai, neu ŷd wedi deifio cyn aeddfedu.

º27 Dy eisteddiad hefyd, a’th fynediad allan; a’th ddyfodiad i mewn, a adnabum i, a’th gynddeiriogrwydd i’m herbyn.

º28 Am i ti ymgynddeiriogi i’m herbyn, ac i’th ddadwrdd ddyfod i fyny i’m clustiau i; am hynny y gosodaf fy mach yn dy ffroen, a’m ffrwyn yn dy weflau, ac a’th ddychwelaf di ar hyd yr un ffordd ag y daethost.

º29 A hyn fydd yn argoel i ti, O Heseceia: Y flwyddyn hon y bwytei a dyfo ohono ei hun, ac yn yr ail flwyddyn yr atwf; ac yn y drydedd flwyddyn heuwch, a medwch, plennwch winllannoedd hefyd, a bwyt-ewch eu ffrwyth hwynt.

º30 A’r gweddill o dŷ Jwda yr hwn a adewir, a wreiddia eilwaith i waered, ac a ddwg ffrwyth i fyny.

º31 Canys gweddill a â allan o Jerwsalem, a’r rhai dihangol o fynydd Seionr sel ARGLWYDD y lluoedd a wna hyn.

º32 Am hynny fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD am frenin Asyria, Ni ddaw efe i’r ddinas hon, ac nid ergydia saeth yno, hefyd ni ddaw efe o’i blaen hi a tharian, ac ni fwrw glawdd i’w herbyn hi.

º33 Ar hyd yr un ffordd ag y daeth, y dychwel efe, ac ni ddaw i mewn i’r ddinas hon, medd yr ARGLWYDD.

º34 Canys mi a ddiffynnafy ddinas hon, i’w chadw hi er fy mwyn fy bun, ac ??? fflwyn Dafydd fy ngwas.

º35 A’r noson honno yr aeth angel yr ARGLWYDD, ac a drawodd yng ngwersyll yr Asyriaid bump a phedwar ugain a chant o filoedd: a phan gyfodasant yn fore drannoeth, wele hwynt oll yn gelaneddau meirwon.

º36 Felly Senacherib brenin Asyria a ysiadawodd, ac a aeth ymaith, ac a ddychwelodd, ac a drigodd yn Ninefe.

º37 A bu, fel yr oedd efe yn addoli yn nhŷ Nisroch ei dduw, i Adrammelech a Sareser ei feibion ei ladd ef â’r cleddyf  ; ai hwy a ddianghasant i wlad Armenia: at Hsarhadon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PENNOD 20 º1 Yn y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw: ac Eseia y proffwyd mab Amos a ddaeth ato, ac a ddywedodd wrtho. Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Trefna dy dŷ, canys marw fyddi, ac ni byddi byw.

º2 Yna efe a drodd ei wyneb at y pared, ac a weddïodd at yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,

º3 Atolwg, ARGLWYDD, cofia yr awr hon i mi rodio ger dy fron di mewn gwirionedd, ac a chalon berffaith, a gwneuthur ohonof yr hyn oedd dda yn dy olwg di. A Heseceia a wylodd ag wylofain mawr.

º4 A chyn myned o Eseia allan i’r cyn-tedd canol, daeth air yr ARGLWYDD ato, gan ddywedyd,

º5 Dychwel, a dywed with Heseceia blaenor fy mhobl i. Fel hyn y dywed AR¬GLWYDD DDUW Dafydd dy dad, Clywais dy weddi di, gwelais dy ddagrau; wele fi yn dy iacháu di, y trydydd dydd yr ei di i fyny i df yr ARGLWYDD.

º6 A mi a chwanegaf at dy ddyddiau di bymtheng rolynedd, ac a’th waredaf di a’r ddinas hon o law brenin Asyria: diffynnaf hefyd y ddinas hon er fy mwyn fy bun, ac er mwyn Dafydd fy ngwas.

º7 A dywedodd Eseia, Cymerwch swp’ o ffigys. a hwy a gymerasant, ac a’i gosodasant ar y cornwyd, ac efe a aeth yn iach.

º8 A Heseceia a ddywedodd with Eseia, Pa arwydd fydd yr iacha yr ARGLWYDD fi, ac yr af fi i fyny i dŷ yr ARGLWYDD y trydydd dydd?

º9 Ac Eseia a ddywedodd, Hyn fydd i ti yn argoel oddi wrth yr ARGLWYDD, y gwna yr ARGLWYDD y gair a lefarodd efe: a â y cysgod ddeg o raddau ymlaen, neu a ddychwel efe ddeg o raddau yn ôl?

º10 A Heseceia a ddywedodd, Hawdd yw i’r cysgod ogwyddo ddeg o raddau: nid felly, ond dychweled y cysgod yn ei ôl ddeg o raddau.

º11 Ac Eseia y proffwyd a lefodd ar yr ARGLWYDD: ac efe a drodd y cysgod ar hyd y graddau, ar hyd y rhai y disgynasai efe yn neial Ahas, ddeg o raddau yn ei ôl.

º12 Yn yr amser hwnnw yr anfonodd Berodach-Baladan, mab Baladan brenhi Babilon, lythyrau ac anrheg at Heseceia: canys efe a glywsai fod Heseceia yn glaf.

º13 A Heseceia a wrandawodd arnynt, ac a ddangosodd iddynt holl dy ei drysor, yr arian, a’r aur, a’r peraroglau, a’r olew gorau, a holl dy ei arfau, a’r hyn oll a gafwyd yn ei drysorau ef: nid oedd dim yn ei dy ef, nac yn ei holl gyfoeth ef, a’r nas dangosodd Heseceia iddynt.

º14 Yna Eseia y proffwyd a ddaeth at y brenin Heseceia, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd y gwŷr hyn? ac o ba le y daethant atat ti? A dywedodd Heseceia, O wlad bell y daethant hwy, sef o Babilon.

º15 Yntau a ddywedodd, Beth a welsant hwy yn dy dŷ di? A dywedodd Heseceia, Yr hyn oll oedd yn fy nhŷ i a welsant hwy: nid oes dim yn fy nhrysorau i nas dangosais iddynt hwy.

º16 Ac Eseia a ddywedodd wrth Hesec¬eia, Gwrando air yr ARGLWYDD.

º17 Wele y dyddiau yn dyfod, pan ddyger i Babilon yr hyn oll sydd yn dy dŷ di, a’r hyn a gynilodd dy dadau hyd y dydd hwn: ni adewir dim, medd yr ARGLWYDD.

º18 Cymerant hefyd o’th feibion di, y rhai a ddaw allan ohonot, y rhai a gen-hedii di, a hwy a fyddant yn ystafellyddion yn llys brenin Babilon.

º19 Yna Heseceia a ddywedodd wrth Eseia, Da yw gair yr ARGLWYDD, yr hwn a leferaist. Dywedodd hefyd, Onid da os bydd heddwch a gwirionedd yn fy nyddiau i?

º20 A’r rhan arall o hanes Heseceia, all holl rym ef, ac fel y gwnaeth efe y ilyn, a’r pistyll, ac y dug efe y dyfroedd i’r ddinas, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

º21 A Heseceia a hunodd gyda’i dadau: a Manasse ei fab a deyrnasodd yn-ei te ef.

PENNOD 21 º1 MAB -deuddeng mlwydd oedd Man¬asse pan ddechreuodd efe deyraasu, a phymtheng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Heffsiba. a Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl ffieidd-tfea’r cenhedloedd a fwriodd yr AR¬GLWYDD allan o flaen meibion Israel.

º3 Canys efe a adeiladodd drachefn yr uchelfeydd a ddinistriasai Heseceia ei dad ef; ac a gyfododd allorau i Baal, ac a wnaeth lwyn, fel y gwnaethai Ahab brenin Israel, ac a addolodd holl lu’r nefoedd, ac a’u gwasanaethodd hwynt.

º4 Adeiladodd hefyd allorau yn nhŷ yr ARGLWYDD, am yr hwn y dywedasai yr ARGLWYDD, Yn Jerwsalem y gosodaf fy enw.

º5 Ac efe a adeiladodd allorau i holl la’r nefoedd yn nau gyntedd tŷ yr ARGLWYDD.

º6 Ac efe a dynnodd ei fab trwy dan, ac a arferodd hudoliaeth, a brudiau, ac a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i’w ddigio ef.

º7 Ac efe a osododd ddelw gerfiedig y llwyn a wnaethai efe, yn y tŷ am yr hwn y dywedasai yr ARGLWYBD wrth Dafydd, ac wrth Solomon ei fab, Yn y tŷ hwn, ac yn Jerwsalem, yr hon a ddewisais i o holl lwythau Israel, y gosodaf fi fy eaw yn dragywydd: ‘l MliAiwm

º8 Ac ni symudaf mwyach droed Israel o’r wlad a roddais i’w tadau hwynt: yn unig os gwyliant ar wneuthur yr hyn oll a orchmynnais iddynt, ac yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd fy ngwas Moses iddynt.

º9 Ond ni wrandawsant hwy: a Manasse a’u cyfeiliornodd hwynt i wneuthur yn waeth na’r cenhedloedd a ddifethasai yr ARGLWYDD o flaen meibion Israel.

º10 A llefarodd yr ARGLWYDD trwy law ei weision y proffwydi, gan ddywedyd,

º11 Oherwydd i Manasseh brenhin Jwda wneuthur y ffieidd-dra hyn, a gwneuthur yn waeth na’r hyn oll a wnaethai yr Amoriaid a fu o’i flaen ef, a pheri i Jwda bechu trwy ei eilunod:

º12 Oblegid hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Wele fi yn dwyn drwg ar Jerwsalem a Jwda, fel y merwino dwy glust y sawl a’i clywant.

º13 A mi a estynnaf linyn mesur Sami aria ar Jerwsalem, a phwys tŷ Ahab: golchaf hefyd Jerwsalem fel y gylch un gwpan, yr hwn pan olcho, efe a’i try ar ei wyneb.

º14 A mi a wrthodaf weddill fy etifeddiaeth, ac a’u rhoddaf hwynt yn llaw eu gelynion, a hwy a fyddant yn anrhaith ac yn ysbail i’w holl elynion:

º15 Am iddynt wneuthur yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg i, a’u bod yn fy nigio i, er y dydd y daeth eu tadau hwynt allan o’r Aifft, hyd y dydd hwn.

º16 Manasse hefyd a dywalltodd lawer iawn o waed gwirion, hyd oni lanwodd efe Jerwsalem o ben bwygilydd; heblaw ei bechod trwy yr hwn y gwnaeth efe i Jwda bechu, gan wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

º17 A’r rhan arall o hanes Manasse, a’r hyn a wnaeth efe, a’i bechod a bechodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrif-enedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

º18 A Manasse a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yng ngardd ei dy ei hun, sef yng ngardd Ussa; ac Amon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

º19 Mab dwy flwydd ar hugain oedd Amon pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd y teyrnasodd efe yn Jerw¬salem: ac enw ei fam ef oedd Mesul-emeth, merch Harus o Jotba.

º20 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel y gwnaethai Manasse ei dad.

º21 Ac efe a rodiodd yn yr holl ffyrdd y rhodiasai ei dad ynddynt, ac a wasanaethodd yr eilunod a wasanaethasai ei dad, ac ‘ a ymgrymodd iddynt:

º22 Ac efe a wrthododd ARGLWYDD DDUW ei dadau, ac ni rodiodd yn ffordd yr ARGLWYDD.

º23 A gweision Amon a fradfwriadasant yn ei erbyn ef, ac a laddasant y brenin yn ei dy ei hun.

º24 A phobl y wlad a laddodd yr holl rai a fradfwriadasent yn erbyn y brenin Amon: a phobl y wlad a osodasant Joseia ei fab ef yn frenin yn ei le ef.

º25 A’r rhan arall o hanes Amon, yr hyn a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrif-enedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

º26 A chladdwyd ef yn ei feddrod yng ngardd Ussa; a Joseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PENNOD 22 º1 MAB wyth mlwydd oedd Joseia pan aeth efe yn frenin, ac un flynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jedida, merch Adaia o Boscath.

º2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd’ yn holl ffyrdd Dafydd ei dad, ac ni throdd ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy.

º3 Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i frenin Joseia, y brenin a anfonodd Saffan, mab Asaleia, mab Mesulam, yr ysgrifennydd, i dŷ yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,

º4 DOS i fyny at Hiloeia yr archoffeiriad, fel y cyfrifo efe yr arian a dducpwyd i dŷ yr ARGLWYDD, y rhai a gasglodd ceid-waid y drws gan y bobl:

º5 A rhoddant hwy yn llaw gweithwyr y gwaith, y rhai sydd olygwyr ar.dy yr ARGLWYDD; a rhoddant hwy i’r rhai sydd yn gwneuthur y gwaith sydd yn nhŷ yr ARGLWYDD, i gyweirio agennau y tŷ, i

º6 I’r seiri coed, ac i’r adeiladwyr, ac i’r ‘. seiri maen, ac i brynu coed a cherrig nadd, i adgyweirio’r tŷ.

º7 Eto ni chyfrifwyd a hwynt am yr arian a roddwyd yn eu llaw hwynt, am eu bod hwy yn gwneuthur yn ffyddlon.

º8 A Hiloeia yr archoffeiriad a ddywedodd wrth Saffan yr ysgrifennydd, Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ yr AR¬GLWYDD: a Hiloeia a roddodd y llyfr at Saffan, ac efe a’i darllenodd ef.

º9 A Saffan yr ysgrifennydd a ddaeth at y brenin, ac a adroddodd y peth i’r brenhin, ac a ddywedodd, Dy weision di a gasglasant yr arian a gafwyd yn tŷ, ac a’i rhoddasant yn llaw gweithwyr y gwaith, y rhai sydd olygwyr ar dŷ yr ARGLWYDD.

º10 A Saffan yr ysgrifennydd a fynegodd’ i’r brenin, gan ddywedyd, Hiloeia yr offeiriad a roddodd i mi lyfr: a Saffan a’i darllenodd ef gerbron y brenin.

º11 A phan glybu y brenin eiriau llyfr y gyfraith, efe a rwygodd ei ddillad.

º12 A’r brenin a orchmynnodd i Hiloeia yr offeiriad, ac i Ahicam mab Saffan, ac i Achbor mab Michaia, ac i Saffan yr ysgrifennydd, ac i Asaheia gwas y brenin, gan ddywedyd,

º13 Ewch, ymofynnwch a’r ARGLWYDD drosof fi, a thros y bobl, a thros holl Jwda, am eiriau y llyfr hwn a gafwyd: canys mawr yw llid yr ARGLWYDD yr hwn a enynnodd i’n herbyn ni, oherwydd na wrandawodd ein tadau ni ar eiriau y llyfr hwn, i wneuthur yn ôl yr hyn oll a ysgrifennwyd o’n plegid ni.

º14 Felly Hiloeia yr offeiriad, ac Ahicam, ac Achbor, a Saffan, ac Asaheia, a aethant at Hulda y broffwydcs, gwraig Salum mab Ticfa, mab Harhas, ceidwad y gwisgoedd: a hi oedd yn trigo yn Jerwsalem yn yr ysgoldy; a hwy a ymddiddanasant â hi.

º15 A hi a ddywedodd wrthynt. Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD DDUW Israel, Dywedwch i’r gŵr a’ch anfonodd chwiataffi;

º16 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn dwyn drwg ar y lle hwn, ac ar ei drigolion, sef holl eiriau y llyfr a ddar-llenodd brenin Jwda:

º17 Am iddynt fy ngwrthod i, ac arogldarthu i dduwiau dieithr, i’m digio i a holl waith eu dwylo: am hynny yr ennyn fy llid yn erbyn y lle hwn, ac nis diffoddir ef.

º18 Ond wrth frenin Jwda, yr hwn a’ch anfonodd chwi i ymgynghori a’r ARGLWYDD, fel hyn y dywedwch wrtho ef, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Am y geiriau a glywaist ti;

º19 Oblegid i’th galon feddalhau, ac i tithau ymostwng o flaen yr ARGLWYDD, pan glywaist yr hyn a leferais yn erbyn y lle hwn, ac yn erbyn ei drigolion, y byddent yn anghyfannedd ac yn felltith, ac am rwygo ohonot dy ddillad, ac wylo ger fy mron i; minnau hefyd a wrandewais, medd yr ARGLWYDD.

º20 Oherwydd hynny, wele, mi a’th gymeraf di ymaith at dy dadau, a thi a ddygir i’th fedd mewn heddwch, fel na welo dy lygaid yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn ei ddwyn ar y fan hon. A hwy a ddygasant air i’r brenin drachefn.

PENNOD 23 º1 A’R brenin a anfonodd, a holl henuriaid i - Jwda a Jerwsalem a ymgynullasant ato ef.

º2 A’r brenin a aeth i fyny i dŷ yr AR¬GLWYDD, a holl wŷr Jwda, a holl drigolion Jerwsalem gydag ef, yr offeiriaid hefyd, a’r proffwydi, a’r holl bobl o fychan hyd fawr: ac efe a ddarllenodd, lle y clywsant hwy, holl eiriau llyfr y cyfamod, yr hwn a gawsid yn nhŷ yr ARGLWYDD.

º3 Sl A’r brenin a safodd wrth y golofn, ac a wnaeth gyfamod gerbron yr AR¬GLWYDD, ar fyned ar ôl yr ARGLWYDD, ac ar gadw ei orchmynion ef, a’i dystiolaethau, a’i ddeddfau, a’i holl galon, ac a’i holl enaid, i gyflawni geiriau y cyfamod hwn, y rhai oedd ysgrifenedig yn y llyfr hwn. A’r holl bobl a safodd wrth y cyfamod.

º4 A’r brenin a orchmynnodd i Hiloeia yr archoffeiriad, ‘ae i’r offeiriaid o’r ail radd, ac i geidwaid y drws, ddwyn allatt o deml yr ARGLWYDD yr holl lestri a wnaethid i Baal, ac i’r llwyn, ac i holl ru’r nefoedd: ac efe a’u llosgodd hwynt o’r tu allan i Jerwsalem, ym meysydd Cidron; ac a ddug eu lludw hwynt i Bethel.

º5 Ac efe a ddiswyddodd yr offeiriaid a osodasai brenhinoedd Jwda i arogldartha yn yr uchelfeydd, yn ninasoedd Jwda, ac yn amgylchoedd Jerwsalem: a’r rhai oedd yn arogldarthu i Baal, i’r haul, ac i’r lleuad, ac i’r planedau, ac i holl lu y nefoedd.

º6 Efe a ddug allan hefyd y llwyn o dŷ yr ARGLWYDD, i’r tu allan i Jerwsalem, hyd afon Cidron, ac a’i llosgodd ef wrthf afon Cidron, ac a’i malodd yn llwch, ac a daflodd ei lwch ar feddau meibion y bobl.

º7 Ac efe a fwriodd i lawr dai y sodomiaida y rhai oedd wrth dŷ yr ARGLWYDD, lle yr oedd y gwragedd yn gwau cortynnau i’r llwyn.

º8 Ac efe a ddug yr holl offeiriaid allan o ddinasoedd Jwda, ac a halogodd yr uchelfeydd yr oedd yr offeiriaid yn arogldarthu arnynt, o Geba hyd Beer-seba, ac a ddistrywiodd uchelfeydd y pyrth, y rhai oedd wrth ddrws porth Josua tywysog y ddinas, y rhai oedd ar y llaw aswy i bawb a ddelai i borth y ddinas.

º9 Eto offeiriaid yr uchelfeydd ni ddaethant i fyny at allor yr ARGLWYDD i Jerwsalem, ond hwy a fwytasant fara croyw ymysg eu brodyr.

º10 Ac efe a halogodd Toffeth, yr hon sydd yn nyffryn meibion Hinnom, fel na thynnai neb ei fab na’i ferch trwy dan i Moloch.

º11 Ac efe a ddifethodd y meirch a roddasai brenhinoedd Jwda i’r haul, wrth. ddyfodfa tŷ yr ARGLWYDD, wrth ystafell Nathanmelech yr ystafellydd, yr hwnoedd yn y pentref, ac a losgodd gerbydau yr haul yn tân.

º12 Yr allorau hefyd, y rhai oedd ar nen ystafell Ahas, y rhai a wnaethai bren¬hinoedd Jwda, a’r allorau a wnaethai Manasse yn nau gynteda tŷ yr ARGLWYDD, a ddistrywiodd y brenin, ac a’u hwripdd hwynt i lawr oddi yno, ac a daflodd en llwch hwynt i afon Cidron.

º13 Y brenin hefyd a ddifwynodd-, yp uchelfeydd oedd ar gyfer Jerwsalem, y; rhai oedd o’r tu deau i fynydd y llyg-redigaeth, y rhai a adeiladasai Solomon, brenin Israel i Astoreth ffieidd-dra’ri Sidoniaid, ac i Cemos nieidd-dra’r Moabiaid, ac i Milcom ffieidd-dra meibion Ammon.

º14 Ac efe a ddrylliodd y delwau, ac a-dorrodd y llwyni, ac a lanwodd eu lle hwynt ag esgyrn dynion.

º15 Yr allor hefyd, yr hon oedd yn Bethel, a’r uchelfa a wnaethai Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, ie, yr allor honno a’r uchelfa a ddistrywiodd efe., ac a losgodd yr uchelfa ac a’i malodd yn llwch, ac a losgodd y llwyn.

º16 A Joseia a edrychodd, ac a ganfit feddau, y rhai oedd yno yn y mynydd, ac a anfonodd, ac a gymerth yr esgyrn o’r beddau, ac a’u llosgodd ar yr allor, ac a’i halogodd hi, yn ôl gair yr ARGLWYDD-yr hwn a gyhoeddasai gŵr Duw, yr hwn a bregethasai y geiriau hyn.

º17 Yna efe a ddywedodd. Pa deiti yw. hwn yr ydwyf fi yn ei weled? A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrtho, Bedd gŵr: Duw, yr hwn a ddaeth o Jwda, ac a gyhoeddodd y pethau hyn a wnaethost ti i allor Bethel, ydyw. ,

º18 Ac efe a ddywedodd, Gadewch ef yn flonydd: nac ymyrred neb a’i esgyrn ef.. Felly yr achubasant ei esgyrn ef, gydag esgyrn y proffwyd a ddaethai o Samaria,

º19 Joseia hefyd a dynnodd ymaith hol’l dai yr uchelfeydd, y rhai oedd yn ninas¬oedd Samaria, y rhai a wnaethai bren¬hinoedd Israel i ddigio yr ARGLWYDD, ac a wnaeth iddynt yn ôl yr holl weithredoedd a wnaethai efe yn Bethel.

º20 Ac efe a laddodd holl offeiriaid yr uchelfeydd oedd yno, ar yr allorau, ac a losgodd esgyrn dynion amynt, ac a ddychwelodd i Jerwsalem. i.

º21 A’r brenin a orchmynaodd Pi holl bobl, gan ddywedyd, Gwnewch Basg i’r ARGLWYDD eich Duw, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y cyfamod hwn.

º22 Yn ddiau ni wnaed y fath Basg â hwn, er dyddiau y barnwyr a farnasant Israel, nac yn holl ddyddiau brenhinoedd Israel, na brenhinoedd Jwda.

º23 Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i frenin Joseia y cynhaliwyd y Pasg hwn i’r ARGLWYDD yn Jerwsalem.

º24 Y swynyddion hefyd, a’r dewiniaid, a’r delwau, a’r eilunod, a’r holl ffieidd-dra, y rhai a welwyd yng ngwlad Jwda, ac yn Jerwsalem, a dynnodd Joseia ymaith: fel y cyflawnai efe eiriau y gyfraith; y rhai oedd ysgrifenedig yn y llyfr a gafodd Hiloeia yr offeiriad yn nhŷ yr ARGLWYDD.

º25 Ac ni bu o’i flaen frenin o’i fath ef, yr hwn a drodd at yr ARGLWYDD a’i holl galon, ac a’i holl enaid, ac a’i holl egni, yn ôl cwbl o gyfraith Moses; ac ar ei ôl ef ni chyfododd ei fath ef.

º26 Er hynny ni throdd yr ARGLWYDD oddi wrth lid ei ddigofaint mawr, trwy yr hwn y llidiodd ei ddicllonedd ef yn erbyn Jwda, oherwydd yr holl ddictef trwy yr hwn y digiasai Manasse ef.

º27 A dywedodd yr ARGLWYDD, Jwda hefyd a fwriaf ymaith o’m golwg, fel y bwriais ymaith Israel, ac a wrthodaf y ddinas hon Jerwsalem, yr hon a ddetholais a’r tŷ am yr hwn y dywedais, Fy enw a fydd yno.

º28 A’r rhan arall o hanes Joseia, a’r hya oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrif¬enedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

º29 Sl Yn ei ddyddiau ef y daeth Pharo-Necho brenin yr Aifft i fyny yn erbyrf brenin Asyria, hyd afon Ewffrates: a’r brenin Joseia a aeth i’w gyfarfod ef, a Pharo a’i lladdodd ef ym Megido, pan ei gwelodd ef.

º30 A’i weision a’i dygasant ef mewa cerbyd yn farw o Megido, ac a’i dygasant ef i Jerwsalem, ac a’i claddasant ef yn ei feddrod ei hun. A phobl y wlad a gymerasant Joahas mab Joseia, ac a’i henem" iasant ef, ac a’i hurddasant yn frenin ŷd lle ei dad.

º31 Mab- tair’blwydd ar hugain oedd Joahas pan aeth efe yn frenin, a thri mis y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam efoedd Hamutal, merch Jeremeia o Libnah.

º32 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dadau ef.

º33 A Pharo-Necho a’i rhwymodd ef yn Ribia yng ngwlad Hamath, fel na theyrnasai efe yn Jerwsalem: ac a osododd dreth ar y wlad o gan talent o arian, a thalent o aur.

º34 A Pharo-Necho a osododd Eliacim mab Joseia yn frenin yn lle Joseia ei dad, ac a drodd ei enw ef Joacim: ac efe a ddug ymaith Joahas, ac efe a ddaeth Pr Aifft, ac yno y bu efe farw. ‘

º35 A Joacim a roddodd i Pharo yr arian, a’r aur; ond efe a drethodd y wlad i roddi yr arian wrth orchymyn Pharo: efe a gododd yr arian a’r aur ar bobl y wlad, ar bob un yn ôl ei dreth, i’w rhoddi i Pharo-Necho.

º36 Mab pum mlwydd ar hugain oedd Joacim pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Sebuda, merch Pedaia o Ruma.

º37 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dadau.

PENNOD 24 º1 .YN ei ddyddiau ef y daeth Nebucho-donosor brenin Babilon i fyriy, ‘a Joacim a fu was iddo ef dair blynedd: yna efe a drodd, ac a wrthryfelodd yn ei erbyn ef.

º2 A’r ARGLWYDD a anfonodd yn ei erbyn ef dorfoedd o’r Caldeaid, a thor-foedd o’r Syriaid, a thorfoedd o’r Moab¬iaid, a thorfoedd o feibion Ammon, ac a’u hanfonodd hwynt yn erbyn Jwda i’w dinistrio hi, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei weision y proffwydi.

º3 Yn ddiau trwy orchymyn yr ARGLWYDD y bu hyn yn erbyn Jwda, i’w bwrw allan o’i olwg ef, o achos pechodad Manasse, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe;

º4 A hefyd oherwydd y gwaed gwirion a ollyngodd efe: canys efe a lanwodd Jerwsalem o waed gwirion; a hynny ni fynnai yr ARGLWYDD ei faddau.

º5 A’r rhan arall o hanes Joacim, a’r hyn oll a’r a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr croniel brenhinoedd Jwda?

º6 A Joacim a hunodd gyda’i dadau; a Joachin ei fab a deymasodd yn ei le ef.

º7 Ac ni ddaeth brenin yr Aifft mwyach o’i wlad: canys brenin Babilon a ddygasai yr hyn oll a oedd eiddo brenin yr Aifft, o afon yr Aifft hyd afon Ewffrates.

º8 Mab deunaw mlwydd oedd Joachin pan aeth efe yn frenin; a thri mis y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Nehusta, merch Einathan q Jerwsalem.

º9 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dad.

º10 Yn yr amser hwnnw y daeth gweision Nabuchodonosor brenhin Babilon i fyny yn erbyn Jerwsalem, a gwarchaewyd ar y ddinas.

º11 A Nebuchodonosor brenin Babilon a ddaeth yn erbyn y ddinas, a’i weision ef a warchaeasant arni hi.

º12 A Joachin brenin Jwda a aeth allan at frenin Babilon, efe, a’i fam, a’i weision, a’i dywysogion, a’i ystafellyddion: a brenin Babilon a’i daliodd ef yn yr wythfed flwyddyn o’i deyrnasiad.

º13 Ac efe a ddug oddi yno holl drysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thrysorau tŷ y brenin, ac a dorrodd yr holl lestri aur a wnaethai Solomon brenin Israel yn nhemi yr AR¬GLWYDD, fel y llefarasai yr ARGLWYDD.

º14 Ac efe a ddug ymaith holl Jerwsalem, yr holl dywysogion hefyd, a’r holl gedyrn nerthol, sef deng mil o gaethion, a phob saer, a gof: ni adawyd ond pobl diodion y wlad yno.

º15 Efe hefyd a ddug ymaith Joachin i Babilon, a mam y brenin, a gwragedd y brenin, a’i ystafellyddion, a chedyrn y wlad a ddug efe i gaethiwed o Jerwsalem i Babilon.

º16 A’r holl wŷr nerthol, sef saith mil; ac o seiri a gofaint, mil, y rhai oll oedd gryfion a rhyfelwyr: hwynt-hwy a ddug brenin Babilon yn gaeth i Babilon.

º17 A brenin Babilon a osododd Mata-neia brawd ei dad ef yn frenin yn ei le ef, ac a drodd ei enw ef yn Sedeceia.

º18 Mab un flwydd ar hugain oedd Sedeceia pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Hamutal, merch Jeremeia o Libna.

º19 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Joachin.

º20 Canys trwy ddigofaint yr AR¬GLWYDD y bu hyn yn Jerwsalem ac yn Jwda, nes iddo eu taflu hwynt allan o’i olwg, fod i Sedeceia wrthryfela yn erbyn brenin Babilon.

PENNOD 25 º1 A3 yn y nawfed flwyddyn o’i deyrnasiad ef, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o’r mis, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon, efe a’i holl lu, yn erbyn Jerwsalem, ac a wersyllodd yn ei herbyn hi, a hwy a adeiladasant yn ei herbyn hi wrthglawdd o’i hamgylch hi.

º2 A bu y ddinas yng ngwarchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i’r brenin Sedeceia.

º3 Ac ar y nawfed dydd o’r pedwerydd mis y trymhaodd y newyn yn y ddinas, ac nid oedd bara i bobl y wlad.

º4 A’r ddinas a dorrwyd, a’r holl ryfelwyr a ffoesant liw nos ar hyd ffordd y porth, rhwng y ddau fur, y rhai sydd wrth ardd y brenin, (a’r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch;) a’r brenin a aeth y ffordd tua’r rhos.

º5 A llu’r Caldeaid a erlidiasant ar ôl y brenin, ac a’i daliasant ef yn rhosydd Jericho: a’i holl lu ef a wasgarasid oddi wrtho.

º6 Felly hwy a ddaliasant y brenin, ac a’i dygasant ef i fyny at frenin Babilon i Ribia; ac a roddasant farn yn ei erbyn ef.

º7 Lladdasant feibion Sedeceia hefyd o flaen ei lygaid, ac a dynasant lygaid Sedeceia, ac a’i rhwymasant ef mewn gefynnau pres, ac a’i dygasant ef i Babilon.

º8 Ac yn y pumed mis, ar y seithfed dydd o’r mis, honno oedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i’r brenin Nebucho¬donosor brenin Babilon, y daeth Nebu-saradan y distain, gwas brenin Babilon, i Jerwsalem.

º9 Ac efe a losgodd dŷ yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin, a holl dai Jerwsalem, a phbb tŷ mawr a losgodd efe â thân.

º10 A holl lu’r Caldeaid, y rhai oedd gyda’r distain, a dorasant i lawr furiau Jerwsalen oddi amgylch.

º11 A Nebusaradan y distain a ddug ymaith y rhan arall o’r bobl a adawsid yn y ddinas, a’r ffoaduriaid a giliasant at frenin Babilon, gyda gweddill y dyrfa.

º12 Ac o diodion y wlad y gadawodd y distain rai, yn winllanwyr, ac yn arddwyr.

º13 Y colofnau pres hefyd, y rhai oedd yn nhŷ yr ARGLWYDD, a’r ystolion, a’r môr pres, yr hwn oedd yn nhŷ yr ARGLWYDD, a ddrylliodd y Caldeaid, a hwy a ddygasant eu pres hwynt i Babilon.

º14 Y crochanau hefyd, a’r rhawiau, a’r saltringau, y llwyau, a’r holl lestri pres, y rhai yr oeddid yn gwasanaethu a hwynt, a ddygasant hwy ymaith.

º15 Y pedyll tan hefyd, a’r cawgiau, y rhai oedd o aur yn aur, a’r rhai oedd o arian yn arian, a ddug y distain ymaith.

º16 Y ddwy golofn, yr un mor, a’r ystolion a wnaethai Solomon i dŷ yr ARGLWYDD; nid oedd bwys ar bres yr holl lestri hyn.

º17 Tri chufydd ar bymtheg oedd uchder y naill golofn, a chnap pres oedd ami; ac uchder y cnap oedd dri chufydd; plethwaith hefyd a phomgranadau oedd ar y cnap o amgylch, yn bres i gyd: ac felly yr oedd yr ail golofn, a phlethwaith.

º18 A’r distain a gymerth Seraia yr offeiriad pennaf, a Seffancia, yr ail offeiriad, a’r tri oedd yn cadw y drws.

º19 Ac o’r ddinas efe a gymerth ystaf-ellydd, yr hwn oedd ar y rhyfelwyr, a. phumwr o’r rhai oedd yn gweled wyneb y brenin, y rhai a gafwyd yn y ddinas, ac ysgrifennydd tywysog y llu, yr hwn oedd yn byddino pobl y wlad; a thrigeinwr o bobl y wlad, y rhai a gafwyd yn y ddinas.

º20 A Nebusaradan y distain a gymerth y rhai hyn, ac a’u dug at frenin Babilon, i Ribla.

º21 A brenin Babilon a’u trawodd hwynt, ac a’u lladdodd hwynt, yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Felly y caethgludwyd Jwda o’i wlad ei hun.

º23 Ac am y bobl a adawsid yng ngwlad Jwda, y rhai adawsai Nebuchodonosor brenin Babilon, efe a wnaeth yn swyddog arnynt hwy, Gedaleia mab Ahicam, mab Saffan.

º23 A phan glybu holl dywysogion y lluoedd, hwynt-hwy a’u gwyr, wneuthur o frenin Babilon Gedaleia yn swyddog, hwy a ddaethant at Gedaleia i Mispa/ sef Ismael mab Nethaneia, a Johanan mab Carea, a Seraia mab Tanhumeth y Netoffathiad, a Jaasaneia mab Maach-athiad, hwynt a’u gwŷr.

º24 A Gedaleia a dyngodd wrthynt hwy, ac wrth eu gwyr, ac a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch fod yn weision i’r Caldeaid: trigwch yn y tir, a gwasanaethwch frenin Babilon, a bydd da i chwi.

º25 Ac yn y seithfed mis y daeth Ismael mab Nethaneia, mab Elisama, o’r had brenhinol, a dengwr gydag ef, a hwy a drawsant Gedaleia, fcl y bu efe farw: trawsant hefyd yr Iddewon a’r Caldeaid oedd gydag ef ym Mispa.

º26 A’r holl bobl o fychan hyd fawr, a thywysogion y lluoedd, a gyfodasant ac a ddaethant i’r Aifft: canys yr oeddynt yn ofni’r Caldeaid.

º27 Ac yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o gaethiwed Joachin brenin Jwda, yn y deuddegfed mis, ar y seithfed dydd ar hugain o’r mis, Efil-merodach brenin Babilon, yn y flwyddyn yr aeth efe yn frenin, a ddyrchafodd ben Joachin brenin Jwda o’r carchardy.