Beibl (1620)/2 Thesaloniaid

1 Thesaloniaid Beibl (1620)
2 Thesaloniaid
2 Thesaloniaid
wedi'i gyfieithu gan William Morgan
1 Timotheus

Ail Epistol Paul yr Apostol at y

Thessaloniaid.

PENNOD 1

1:1 Paul, a Silfanus, a Thimotheus, at eglwys y Thesaloniaid, yn Nuw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist:

1:2 Gras i chwi, a thangnefedd, oddi with Dduw ein Tad ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.

1:3 Diolch a ddylem i Dduw yn wastadol drosoch, frodyr, fel y mae yn addas, oblegid bod eich ffydd chwi yn mawr gynyddu, a chariad pob un ohonoch oll tuag at eich gilydd yn ychwanegu;

1:4 Hyd onid ydym ni ein hunain yn gorfoleddu ynoch chwi yn eglwysi Duw, oherwydd eich amynedd chwi a'ch ffydd yn eich holl erlidiau a'r gorthrymderau yr ydych yn eu goddef:

1:5 Yr hyn sydd argoel golau o gyfiawn farn Duw, fel y'ch cyfrifer yn deilwng i deyrnas Dduw, er mwyn yr hon yr ydych hefyd yn goddef.

1:6 Canys cyfiawn yw gerbron Duw, dalu cystudd i'r rhai sydd yn eich cystuddio chwi,

1:7 Ac i chwithau, y rhai a gystuddir, esmwythdra gyda ni, yn ymddangosiad yr Arglwydd Iesu o'r nef, gyda'i angylion nerthol,

1:8 A thân fflamllyd, gan roddi dial i'r sawl nid adwaenant Dduw, ac nid ydynt yn ufuddhau i efengyl ein Harglwydd Iesu Grist:

1:9 Y rhai a ddioddefant yn gosbedigaeth, ddinistr tragwyddol oddi gerbron yr Arglwydd, ac oddi wrth ogoniant ei gadernid ef;

1:10 Pan ddêl efe i'w ogoneddu yn ei saint, ac i fod yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu, (oherwydd i'n tystiolaeth ni yn eich mysg chwi gael ei chredu,) yn y dydd hwnnw.

1:11 Am ba achos yr ydym hefyd yn gweddïo yn wastadol drosoch, ar fod i'n Duw ni eich cyfrif chwi'n deilwng o'r alwedigaeth hon, a chyflawni holl fodlonrwydd ei ddaioni, a gwaith ffydd, yn nerthol:

1:12 Fel y gogonedder enw ein Harglwydd Iesu Grist ynoch chwi, a chwithau ynddo yntau, yn ôl gras ein Duw ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.


PENNOD 2

2:1 Ac yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, er dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, a'n cydgynulliad ninnau ato ef,

2:2 Na'ch sigler yn fuan oddi wrth eich meddwl, ac na'ch cynhyrfer, na chan ysbryd, na chan air, na chan lythyr, megis oddi wrthym ni, fel pe bai dydd Crist yn gyfagos.

2:3 Na thwylled neb chwi mewn un modd: oblegid ni ddaw'r dydd hwnnw hyd oni ddêl ymadawiad yn gyntaf, a datguddio'r dyn pechod, mab y golledigaeth;

2:4 Yr hwn sydd yn gwrthwynebu, ac yn ymddyrchafu goruwch pob peth a elwir yn Dduw, neu a addolir; hyd onid yw efe, megis Duw, yn eistedd yn nheml Duw, ac yn ei ddangos ei hun mat Duw ydyw^

2:5 Onid cof gennych chwi, pan oeddwn i eto gyda chwi, ddywedyd ohooof y pethau hyn i chwi?

2:6 Ac yr awron chwi a wyddoch yr hyn sydd yn atal, fel y datguddier ef yn ei bryd ei hun.

2:7 Canys y mae dirgelwch yr anwiredd yn gweithio eisoes: yn unig yr hwn sydd yr awron yn atal, a etyl nes ei dynnu ymaith.

2:8 Ac yna y datguddir yr Anwir hwnnw, yr hwn a ddifetha'r Arglwydd ag ysbryd ei enau, ac a ddilea a disgleirdeb ei ddyfodiad :

2:9 Sef yr hwn y mae ei ddyfodiad yn ôl gweithrediad Satan, gyda phob nerth, ac arwyddion, a rhyfeddodau gau,

2:10 A phob dichell anghyfiawnder yn y rhai colledig; am na dderbyniasant gariad y gwirionedd, fel y byddent gadwedig.

2:11 Ac am hynny y denfyn Duw iddynt hwy amryfusedd cadarn, fel y credent gelwydd:

2:12 Fel y barner yr holl rai nid oeddynt yn credu i'r gwirionedd, ond yn ymfodloni mewn anghyfiawnder.

2:13 Eithr nyni a ddylem ddiolch yn wastad i Dduw drosoch chwi, frodyr caredig gan yr Arglwydd, oblegid i Dduw o'r dechreuad eich ethol chwi i iachawdwriaeth, trwy sancteiddiad yr Ysbryd, a ffydd i'r gwirionedd:

2:14 I'r hyn y galwodd efe chwi trwy ein hefengyl ni, i feddiannu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist.

2:15 Am hynny, frodyr, sefwch, si deliwch y traddodiadau a ddysgasoch, pa un bynnag ai trwy ymadrodd, ai trwy ein hepistol ni.

2:16 A'n Harglwydd Iesu Grist ei hun, a Duw a'n Tad, yr hwn a'n carodd ni, ac a roddes inni ddiddanwch tragwyddol, a gobaith da trwy ras,

2:17 A ddiddano eich calonnau chwi, ac a'ch sicrhao ym mhob gair a gweithred dda.


PENNOD 3

3:1 Bellach, frodyr, gweddïwch drosom ni, ar fod i air yr Arglwydd redeg, a chael gogonedd, megis gyda chwithau;

3:2 Ac ar ein gwared ni oddi wrth ddynion anhywaith a drygionus: canys nid oes ffydd gan bawb.

3:3 Eithr ffyddlon yw'r Arglwydd, yr hwn a'ch sicrha chwi, ac a'ch ceidw rhag drwg.

3:4 Ac y mae gennym hyder yn yr Arglwydd amdanoch, eich bod yn gwneuthur, ac y gwnewch, y pethau yr ydym yn eu gorchymyn i chwi.

3:5 A'r Arglwydd a gyfarwyddo eich calonnau chwi at gariad Duw, ac i ymaros am Grist.

3:6 Ac yr ydym yn gorchymyn i chwi, frodyr, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, dynnu ohonoch ymaith oddi with bob brawd a'r sydd yn rhodio yn afreolus, ac nid yn ôl y traddodiad a dderbyniodd efe gennym ni.

3:7 Canys chwi a wyddoch eich hunain pa fodd y dylech ein dilyn ni: oblegid ni buom afreolus yn eich plith chwi;

3:8 Ac ni fwytasom fara neb yn rhad; ond trwy weithio mewn llafur a lludded, nos a dydd, fel na phwysem ar neb ohonoch chwi;

3:9 Nid oherwydd nad oes gennym awdurdod, ond fel y'n rhoddem ein hunain yn siampl i chwi i'n dilyn.

3:10 Canys pan oeddem hefyd gyda chwi, hyn a orchmynasom i chwi, Os byddai neb ni fynnai weithio, ni chai fwyta chwaith.

3:11 Canys yr ydym yn clywed fod rhai yn rhodio yn eich plith chwi yn afreolus, heb weithio dim, ond bod yn rhodresgar.

3:12 Ond i'r cyfryw gorchymyn yr ydym, a'u hannog trwy ein Harglwydd Iesu Grist, ar iddynt weithio trwy lonyddwch, a bwyta eu bara eu hunain.

3:13 A chwithau, frodyr, na ddiffygiwch yn gwneuthur daioni.

3:14 Ond od oes neb heb ufuddhau i'n gair trwy y llythyr yma, hysbyswch hwnnw; ac na fydded i chwi gymdeithas ag ef, megis y cywilyddio efe.

3:15 Er hynny na chymerwch ef megis gelyn, eithr cynghorwch ef fel brawd.

3:16 Ac Arglwydd y tangnefedd ei hun a roddo i chwi dangnefedd yn wastadol ym mhob modd. Yr Arglwydd a fyddo gyda chwi oll.

3:17 Yr annerch â'm llaw i Paul fy hun; yr hyn sydd arwydd ym mhob epistol: fel hyn yr ydwyf yn ysgrifennu.

3:18 Gras ein Harglwydd Iesu Grist gyda chwi oll. Amen.

Yr ail at y Thesaloniaid a ysgrifennwyd o Athen.