Joel Beibl (1620)
Amos
Amos
wedi'i gyfieithu gan William Morgan
Obadeia

LLYFR AMOS.


PENNOD 1

1:1 Geiriau Amos, (yr hwn oedd ymysg bugeiliaid Tecoa,) y rhai a welodd efe am Israel, yn nyddiau Usseia brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam mab Joas brenin Israel, ddwy flynedd o flaen y ddaeargryn.

1:2 Ac efe a ddywedodd, Yr ARGLWYDD a rua o Seion, ac a rydd ei lef o Jerwsalem; a chyfanheddau y bugeiliaid a alarant, a phen Carmel a wywa.

1:3 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oherwydd tair o anwireddau Damascus, ac oherwydd pedair, ni throaf ymaith ei chosb hi: am iddynt ddyrnu Gilead ag offer dyrnu o heyrn.

1:4 Ond anfonaf dân i dŷ Hasael, ac efe a ddifa balasau Benhadad.

1:5 Drylliaf drosol Damascus, a thorraf ymaith y preswylwyr o ddyffryn Afen, a’r hwn sydd yn dal teyrnwialen o dŷ Eden; a phobl Syria a ânt yn gaeth i Cir, medd yr ARGLWYDD.

1:6 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD;. Am dair o anwireddau Gasa, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt gaethgludo y gaethiwed gyflawn, i’w rhoddi i fyny i Edom.

1:7 Eithr anfonaf dân ar fur Gasa, ac efe a ddifa ei phalasau hi.

1:8 A mi a dorraf y preswylwyr o Asdod, a’r hwn a ddeil deyrnwialen o Ascalon; a throaf fy llaw yn erbyn Ecron, a derfydd am weddill y Philistiaid, medd yr ARGLWYDD DDUW.

1:9 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Tyrus, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; oherwydd iddynt hwy roddi i fyny gwbl o’r gaethiwed i Edom, ac na chofiasant y cyfamod brawdol.

1:10 Eithr anfonaf dân i fur Tyrus, ac efe a ddifa ei phalasau hi.

1:11 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Edom, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddo erlid ei frawd â’r cleddyf, a llygru ei drugaredd, a bod ei ddig yn rhwygo yn wastadol, a’i fod yn cadw ei lid yn dragwyddol.

1:12 Eithr anfonaf dan i Teman, yr hwn a ddifa balasau Bosra.

1:13 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau meibion Ammon, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt hwy rwygo gwragedd beichiogion Gilead, er mwyn helaethu eu terfynau.

1:14 Eithr cyneuaf dân ym mur Rabba, ae efe a ddifa ei phalasau, gyda gwaedd ar ddydd y rhyfel, gyda thymestl ar ddydd corwynt.

1:15 A’u brenin a â yn gaeth, efe a’i benaethiaid ynghyd, medd yr ARGLWYDD.


PENNOD 2

2:1 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Moab, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddo losgi esgyrn brenin Edom yn galch.

2:2 Eithr anfonaf dân i Moab, yr hwn a ddifa balasau Cerioth: a Moab fydd marw mewn terfysg, gweiddi, a llais utgorn.

2:3 A mi a dorraf ymaith y barnwr o’i chanol hi, a’i holl bendefigion a laddaf gydag ef, medd yr ARGLWYDD.

2:4 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Jwda, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt ddirmygu cyfraith yr ARGLWYDD, ac na chadwasant ei ddeddfau ef; a’u celwyddau a’u cyfeiliornodd hwynt, y rhai yr aeth eu tadau ar eu hôl.

2:5 Eithr anfonaf dân i Jwda, ac efe a ddifa balasoedd Jerwsalem.

2:6 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Israel, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt werthu y cyfiawn am arian, a’r tlawd er pâr o esgidiau:

2:7 Y rhai a ddyheant ar ôl llwch y ddaear ar ben y tlodion, ac a wyrant ffordd y gostyngedig: a gŵr a’i dad a â at yr un llances, i halogi fy enw sanctaidd.

2:8 Ac ar ddillad wedi eu rhoi yng ngwystl y gorweddant wrth bob allor; a gwin y dirwyol a yfant yn nhŷ eu duw.

2:9 Eto myfi a ddinistriais yr Amoriad o’u blaen hwynt, yr hwn yr oedd ei uchder fel uchder y cedrwydd, ac efe oedd gryf fel derw; eto mi a ddinistriais ei ffrwythau oddi arnodd, a’i wraidd oddi tanodd.

2:10 Myfi hefyd a’ch dygais chwi i fyny o wlad yr Aifft, ac a’ch arweiniais chwi ddeugain mlynedd trwy yr anialwch, i feddiannu gwlad yr Amoriad.

2:11 A mi a gyfodais o’ch meibion chwi rai yn broffwydi, ac o’ch gwŷr ieuainc rai yn Nasareaid. Oni bu hyn, O meibion Israel? medd yr ARGLWYDD

2:12 Ond chwi a roesoch i’r Nasareaid win i’w yfed, ac a orchmynasoch i’ch proffwydi, gan ddywedyd, Na phroffwydwch.

2:13 Wele fi wedi fy llethu tanoch fel y llethir y fen lawn o ysgubau.

2:14 A metha gan y buan ddianc, a’r cryf ni chadarnha ei rym, a’r cadarn ni wared ei enaid ei hun:

2:15 Ni saif a ddalio y bwa, ni ddianc y buan o draed, nid achub marchog march ei einioes ei hun.

2:16 A’r cryfaf ei galon o’r cedyrn a ffy y dwthwn hwnnw yn noeth lymun medd yr ARGLWYDD.


PENNOD 3

3:1 Gwrandewch y gair a lefarodd yr ARGLWYDD i’ch erbyn chwi, plant Israel, yn erbyn yr holl deulu a ddygais i fyny o wlad yr Aifft, gan ddywedyd,

3:2 Chwi yn unig a adnabûm o holl deuluoedd y ddaear: am hynny ymwelaf â chwi am eich holl anwireddau.

3:3 A rodia dau ynghyd, heb fod yn gytûn?

3:4 A rua y llew yn y goedwig, heb ganddo ysglyfaeth? a leisia cenau llew o’i ffau, heb ddal dim?

3:5 A syrth yr aderyn yn y fagl ar y ddaear, heb fod croglath iddo? a gyfyd un y fagl oddi ar y ddaear, heb ddal dim?

3:6 A genir utgorn yn y ddinas, heb ddychrynu o’r bobi? a fydd niwed yn y ddinas, heb i’r ARGLWYDD ei wneuthur?

3:7 Canys ni wna yr ARGLWYDD ddim, a’r nas dangoso ei gyfrinach i’w weision y proffwydi.

3:8 Rhuodd y llew, pwy nid ofna? yr Arglwydd IÔR a lefarodd, pwy ni phroffwyda?

3:9 Cyhoeddwch o fewn y palasau yn Asdod, ac yn y palasau yng ngwlad yr Aifft, a dywedwch, Deuwch ynghyd ar fynyddoedd Samaria, a gwelwch derfysgoedd lawer o’i mewn, a’r gorthrymedigion yn ei chanol hi.

3:10 Canys ni fedrant wneuthur uniondeb, medd yr ARGLWYDD: pentyrru y maent drais ac ysbail yn eu palasau.

3:11 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Gelyn fydd o amgylch y tir; ac efe a dynn i lawr dy nerth oddi wrthyt, a’th balasoedd a ysbeilir.

3:12 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Fel yr achub y bugail o safn y llew y ddwygoes, neu ddarn o glust, felly yr achubir meibion Israel y rhai sydd yn trigo yn Samaria mewn cwr gwely, ac yn Damascus mewn gorweddle.

3:13 Gwrandewch, a thystiolaethwch yn nhŷ Jacob, medd yr ARGLWYDD DUW, DUW y lluoedd,

3:14 Mai y dydd yr ymwelaf ag anwiredd Israel arno ef, y gofwyaf hefyd allorau Bethel: a chyrn yr allor a dorrir, ac a syrthiant i’r llawr.

3:15 A mi a drawaf y gaeafdy a’r hafdy; a derfydd am y tai ifori, a bydd diben ar y teiau mawrion, medd yr ARGLWYDD.


PENNOD 4

4:1 Gwrandewch y gair hwn, gwartheg Basan, y rhai ydych ym mynydd Samaria, y rhai ydych yn gorthrymu y tlawd, yn ysigo yr anghenog, yn dywedyd wrth eu meistriaid, Dygwch, ac yfwn.

4:2 Tyngodd yr Arglwydd DDUW i’w sancteiddrwydd, y daw, wele, y dyddiau arnoch, y dwg efe chwi ymaith â drain, a’ch hiliogaeth â bachau pysgota.

4:3 A chwi a ewch allan i’r adwyau, bob un ar ei chyfer, a chwi a’u teflwch hwynt i’r palas, medd yr ARGLWYDD.

4:4 Deuwch i Bethel, a throseddwch, i Gilgal, a throseddwch fwyfwy: dygwch bob bore eich aberthau, a’ch degymau wedi tair blynedd o ddyddiau;

4:5 Ac offrymwch o surdoes aberth diolch, cyhoeddwch a hysbyswch aberthau gwirfodd: canys hyn a hoffwch, meibion Israel, medd yr ARGLWYDD DDUW.

4:6 A rhoddais i chwi lendid dannedd yn eich holl ddinasoedd, ac eisiau bara yn eich holl leoedd: eto ni ddychwelasoch ataf fi, medd yr ARGLWYDD.

4:7 Myfi hefyd a ateliais y glaw rhagoch, pan oedd eto dri mis hyd y cynhaeaf: glawiais hefyd ar un ddinas, ac ni lawiais ar ddinas arall: un rhan a gafodd law, a’r rhan ni chafodd law a wywodd.

4:8 Gwibiodd dwy ddinas neu dair i un ddinas, i yfed dwfr, ond nis diwallwyd: eto ni ddychwelasoch ataf fi, medd yr ARGLWYDD.

4:9 Trewais chwi â diflaniad, ac a mallter: pan amlhaodd eich gerddi, a’ch gwinllannoedd, a’ch ffigyswydd, a’ch olewydd, y lindys a’u hysodd: eto ni throesoch ataf fi, medd yr ARGLWYDD.

4:10 Anfonais yr haint yn eich mysg, megis yn ffordd yr Aifft: eich gwŷr ieuainc a leddais â’r cleddyf, gyda chaethgludo eich meirch; a chodais ddrewi eich gwersylloedd i’ch ffroenau: eto ni throesoch ataf fi, medd yr ARGLWYDD.

4:11 Mi a ddymchwelais rai ohonoch, fel yr ymchwelodd DUW Sodom a Gomorra, ; ac yr oeddech fel pentewyn wedi ei achub o’r gynnau dân: eto ni throesoch ataf fi, medd yr ARGLWYDD.

4:12 Oherwydd hynny yn y modd yma y gwnaf i ti, Israel: ac oherwydd mai hyn a wnaf i ti, bydd barod, Israel, i gyfarfod â’th DDUW.

4:13 Canys wele, Lluniwr y mynyddoedd, a Chreawdwr y gwynt, yr hwn a fynega i ddyn beth yw ei feddwl, ac a wna y bore yn dywyllwch, ac a gerdd ar uchelderau y ddaear, yr ARGLWYDD, DUW y lluoedd, yw ei enw.


PENNOD 5

5:1 Gwrandewch y gair hwn a godaf i’ch erbyn, sef galarnad, O dŷ Israel;

5:2 Y wyry Israel a syrthiodd; ni chyfyd mwy: gadawyd hi ar ei thir; nid oes a’i cyfyd.

5:3 Canys y modd hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Y ddinas a aeth allan â mil, a weddill gant; a’r hon a aeth allan ar ei chanfed, a weddill ddeg i dŷ Israel.

5:4 Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth dy Israel, Ceisiwch fi, a byw fyddwch.

5:5 Ond nac ymgeisiwch â Bethel, ac nac ewch i Gilgal, ac na thramwywch i Beerseba: oherwydd gan gaethgludo y caethgludir Gilgal, a Bethel a fydd yn ddiddim.

5:6 Ceisiwch yr ARGLWYDD, a byw fyddwch, rhag iddo dorri allan yn nhŷ Joseff fel tân, a’i ddifa, ac na byddo a’i diffoddo yn Bethel.

5:7 Y rhai a drowch farn yn wermod, ac a adewch gyfiawnder ar y llawr,

5:8 Ceisiwch yr hwn a wnaeth y saith seren, ac Orion, ac a dry gysgod angau yn foreddydd, ac a dywylla y dydd yn nos, yr hwn a eilw ddyfroedd y mor, ac a’u tywallt ar wyneb y ddaear: Yr ARGLWYDD yw ei enw:

5:9 Yr hwn sydd yn nerthu yr anrheithiedig yn erbyn y cryf, fel y delo yr anrheithiedig yn erbyn yr amddiffynfa.

5:10 Cas ganddynt a geryddo yn y porth, a ffiaidd ganddynt a lefaro yn berffaith.

5:11 Oherwydd hynny am i chwi sathru y tlawd, a dwyn y beichiau gwenith oddi arno; chwi a adeiladasoch dai o gerrig nadd, ond ni thrigwch ynddynt, planasoch winllannoedd hyfryd, ac nid yfwch eu gwin hwynt.

5:12 Canys mi a adwaen eich anwireddau lawer, a’ch pechodau cryfion: y maent yn blino y cyfiawn, yn cymryd iawn, ac yn troi heibio y tlawd yn y porth.

5:13 Am hynny y neb a fyddo gall a ostega yr amser hwnnw: canys amser drwg yw.

5:14 Ceisiwch ddaioni, ac nid drygioni; fel y byddoch fyw: ac felly yr ARGLWYDD, DUW y lluoedd, fydd gyda chwi, fel y dywedasoch.

5:15 Casewch ddrygioni, a hoffwch ddaioni, a gosodwch farn yn y porth: fe allai y bydd ARGLWYDD DDUW y lluoedd yn raslon i weddill Joseff.

5:16 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW y lluoedd, yr Arglwydd; Ym mhob heol y bydd cwynfan, ac ym mhob priffordd y dywedant, O! O! a galwant yr arddwr i alaru; a’r neb a fedro alaru, i gwynfan.

5:17 Ac ym mhob gwinllan y bydd cwynfan: canys tramwyaf trwy dy ganol di, medd yr ARGLWYDD.

5:18 Gwae y neb sydd yn dymuno dydd yr ARGLWYDD! beth yw hwnnw i chwi? tywyllwch, ac nid goleuni yw dydd yr ARGLWYDD.

5:19 Megis pe ffoai gŵr rhag llew, ac arth yn cyfarfod ag ef; a myned i’r tŷ, a phwyso ei law ar y pared, a’i frathu o sarff.

5:20 Oni bydd dydd yr ARGLWYDD yn dywyllwch, ac nid yn oleuni? yn dywyll iawn, ac heb lewyrch ynddo?

5:21 Caseais a ffieiddiais eich gwyliau ac nid aroglaf yn eich cymanfaoedd.

5:22 Canys er i chwi offrymu i mi boeth-offrymau, a’ch offrymau bwyd, ni fyddaf fodlon iddynt; ac nid edrychaf ar hedd-offrwm eich pasgedigion.

5:23 Symud oddi wrthyf drwst dy ganiadau: canys ni wrandawaf beroriaeth dy nablau.

5:24 Ond rheded barn fel dyfroedd, a chyfiawnder fel ffrwd gref.

5:25 A offrymasoch chwi i mi aberthau a bwyd-offrymau yn y diffeithwch ddeugain mlynedd, tŷ Israel?

5:26 Ond dygasoch babell eich Moloch a Chiwn, eich delwau, seren eich duw, a wnaethoch i chwi eich hunain.

5:27 Am hynny y caethgludaf chwi i’r tu hwnt i Damascus, medd yr ARGLWYDD; DUW y lluoedd yw ei enw.


PENNOD 6

6:1 Gwae y rhai esmwyth arnynt yn Seion, ac sydd yn ymddiried ym mynydd Samaria, y rhai a enwir yn bennaf o’r cenhedloedd, y rhai y daeth t^ Israel atynt!

6:2 Tramwywch i Calne, ac edrychwch, ac ewch oddi yno i Hamath fwyaf; yna disgynnwch i Gath y Philistiaid: ai gwell ydynt na’r teyrnasoedd hyn? ai helaethach eu terfyn hwy na’ch terfyn chwi?

6:3 Y rhai ydych yn pellhau y dydd drwg, ac yn nesáu eisteddle trais;

6:4 Gorwedd y maent ar welyau ifori, ac ymestyn ar eu glythau, a bwyta yr ŵyn o’r praidd, a’r lloi o ganol y cut;

6:5 Y rhai a ddatganant gyda llais y nabl, dychmygasant iddynt eu hun offer cerdd, megis Dafydd;

6:6 Y rhai a yfant win mewn ffiolau, ac a ymirant â’r ennaint pennaf; ond nid ymofidiant am ddryllio Joseff.

6:7 Am hynny yr awr hon hwy a ddygir yn gaeth gyda’r cyntaf a ddygir yn gaetlh; a gwledd y rhai a ymestynnant, a symudir.

6:8 Tyngodd yr ARGLWYDD DDUW iddo ei hun, Ffiaidd gennyf odidowgrwyidd Jacob, a chaseais ei balasau: am hynny y rhoddaf i fyny y ddinas ac sydd ynddi, medd ARGLWYDD DDUW y lluoedd.

6:9 A bydd, os gweddillir mewn un tŷ ddeg o ddynion, y byddant feirw.

6:10 Ei ewythr a’i cyfyd i fyny, a’r hwn a’i llysg, i ddwyn yr esgyrn allan o’r tŷ, ac a ddywed wrth yr hwn a fyddo with ystlysau y tŷ, A oes eto neb gyda thi ? ac efe a ddywed, Nac oes: yna y dywed yntau. Taw, am na wasanaetha cofio enw yr ARGLWYDD.

6:11 Oherwydd wele yr ARGLWYDD yn gorchymyn, ac efe a dery y tŷ mawr agennau, a’r tŷ bychan â holltau.

6:12 A red meirch ar y graig? a ardd neb hi ag ychen? canys troesoch farn yn fustl, a ffrwyth cyfiawnder yn wermod.

6:13 O chwi y rhai sydd yn llawenychu mewn peth diddim, yn dywedyd, Onid o’n nerth ein hun y cymerasom i ni gryfder?

6:14 Ond wele, mi a gyfodaf i’ch erbyn chwi, tŷ Israel, medd ARGLWYDD DDUW y lluoedd, genedl, a hwy a’ch cystuddiant chwi, o’r ffordd yr ewch i Hamath, hyd afon y diffeithwch.


PENNOD 7

7:1 Fel hyn y dangosodd yr ARGLWYDD i mi, ac wele ef yn ffurfio ceiliogod rhedyn pan ddechreuodd yr adladd godi; ac wele, adladd wedi lladd gwair y brenin oedd.

7:2 A phan ddarfu iddynt fwyta glaswellt y tir, yna y dywedais, Arbed, ARGLWYDD, atolwg; pwy a gyfyd Jacob? canys bychan yw.

7:3 Edifarhaodd yr ARGLWYDD am hyn: Ni bydd hyn, eb yr ARGLWYDD.

7:4 Fel hyn y dangosodd yr ARGLWYDD DDUW i mi: ac wele yr ARGLWYDD DDUW yn galw i farn trwy dân, a difaodd y tân y dyfnder mawr, ac a ysodd beth.

7:5 Yna y dywedais, ARGLWYDD DDUW, paid, atolwg: pwy a gyfyd Jacob? canys bychan yw.

7:6 Edifarhaodd yr ARGLWYDD am hyn: Ni bydd hyn chwaith, eb yr ARGLWYDD DDUW.

7:7 Fel hyn y dangosodd efe i mi; ac wele yr ARGLWYDD yn sefyll ar gaer a wnaethpwyd with linyn, ac yn ei law linyn.

7:8 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di, Amos? a mi a ddywedais, Llinyn. A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Wele, gosodaf linyn yng nghanol fy mhobl Israel, ac ni chwanegaf fyned heibio iddynt mwyach.

7:9 Uchelfeydd Isaac hefyd a wneir yn anghyfannedd, a chysegrau Israel a ddifethir; a mi a gyfodaf yn erbyn tŷ Jeroboam â’r cleddyf.

7:10 Yna Amaseia offeiriad Bethel a anfonodd at Jeroboam brenin Israel, gan ddywedyd, Cydfwriadodd Amos i’th erbyn yng nghanol tŷ Israel: ni ddichon y tir ddwyn ei holl eiriau ef.

7:11 Canys fel hyn y dywed Amos, Jeroboam a fydd farw trwy y cleddyf, ac Israel a gaethgludir yn llwyr allan o’i wlad.

7:12 Dywedodd Amaseia hefyd wrth Amos, Ti weledydd, dos, ffo ymaith i wlad Jwda, a bwyta fara yno, a phroffwyda yno:

7:13 Na chwanega broffwydo yn Bethel mwy: canys capel y brenin a llys y brenin yw.

7:14 Yna Amos a atebodd ac a ddywedodd wrth Amaseia, Nid profiwyd oeddwn i, ac nid mab i broffwyd oeddwn i: namyn bugail oeddwn i, a chasglydd ffigys gwylltion:

7:15 A’r ARGLWYDD a’m cymerodd oddi ar ôl y praidd, a’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Dos, a phroffwyda i’m pobl Israel.

7:16 Yr awr hon gan hynny gwrando air yr ARGLWYDD; Ti a ddywedi, Na phroffwyda yn erbyn Israel, ac nac yngan yn erbyn tŷ Isaac,

7:17 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dy wraig a buteinia yn y ddinas, dy feibion a’th ferched a syrthiant gan y cleddyf, a’th dir a rennir wrth linyn, a thithau a fyddi farw mewn tir halogedig, a chan gaethgludo y caethgludir Israel allan o’i wlad.


PENNOD 8

8:1 Fel hyn y dangosodd yr ARGLWYDD i mi; ac wele gawellaid o ffrwythydd haf.

8:2 Ac efe a ddywedodd, Beth a weli di, Amos? A mi a ddywedais, Cawellaid o ffrwythydd haf. Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Daeth y diwedd ar fy mhobl Israel; nid af heibio iddynt mwyach.

8:3 Caniadau y deml hefyd a droir yn udo ar y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD DDUW: llawer o gelaneddau a fydd ym mhob lle; bwrir hwynt allan yn ddistaw.

8:4 Gwrandewch hyn, y sawl ydych yn llyncu yr anghenog, i ddifa tlodion y tir,

8:5 Gan ddywedyd. Pa bryd yr â y mis heibio, fel y gwerthom ŷd? a’r Saboth, fel y dygom allan y gwenith, gan brinhau yr effa, a helaethu y sicl, ac anghyfiawnu y cloriannau trwy dwyll?

8:6 I brynu y tlawd er arian, a’r anghenus er pâr o esgidiau, ac i werthu gwehilion y gwenith?

8:7 Tyngodd yr ARGLWYDD i ragorfraint Jacob, Diau nid anghofiodd byth yr un o’u gweithredoedd hwynt.

8:8 Oni chryn y ddaear am hyn? ac oni alara ei holl breswylwyr? cyfyd hefyd i gyd fel llif; a bwrir hi ymaith, a hi a foddir, megis gan afon yr Aifft.

8:9 A’r dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD DDUW, y gwnaf i’r haul fachludo hanner dydd, a thywyllaf y ddaear liw dydd golau.

8:10 Troaf hefyd eich gwyliau yn alar, a’ch holl ganiadau yn oernad: dygaf sachliain ar yr holl lwynau, a moelni ar bob, pen: a mi a’i’gwnaf fel galar am unmab, a’i ddiwedd fel dydd chwerw.

8:11 Wele, y mae y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD DDUW, yr anfonaf newyn i’r tir; nid newyn am fara, ac nid syched am ddwfr, ond am wrando geiriau yr ARGLWYDD.

8:12 A hwy a grwydrant o fôr i fôr, ac a wibiant o’r gogledd hyd y dwyrain, i geisio gair yr ARGLWYDD, ac nis cant.

8:13 Y diwmod hwnnw y gwyryfon glân a’r meibion ieuainc a ddiffoddant o syched.

8:14 Y rhai a dyngant i bechod Samaria, ac a ddywedant, Byw yw dy dduw di, O Dan; a, Byw yw ffordd Beerseba; hwy a syrthiant, ac ni chodant mwy.


PENNOD 9

9:1 Gwelais yr ARGLWYDD yn sefyll ar yr allor: ac efe a ddywedodd, Taro gapan y drws, fel y siglo y gorsingau; a thor hwynt oll yn y pen; minnau a laddaf y rhai olaf ohonynt â’r cleddyf: ni ffy ymaith ohonynt a ffo, ac ni ddianc ohonynt a ddihango.

9:2 Pe cloddient hyd uffern, fy llaw a’u tynnai hwynt oddi yno; a phe dringent i’r nefoedd, mi a’u disgynnwn hwynt oddi yno:

9:3 A phe llechent ar ben Carmel, chwiliwn, a chymerwn hwynt oddi yno; a phe ymguddient o’m golwg yng ngwaelod y mor, oddi yno y gorchmynnaf i’r sarff eu brathu hwynt:

9:4 Ac os ânt i gaethiwed o flaen eu gelynion, oddi yno y gorchmynnaf i’r cleddyf, ac efe a’u lladd hwynt: a gosodaf fy ngolwg yn eu herbyn er drwg, ac nid er da iddynt.

9:5 Ac ARGLWYDD DDUW y lluoedd a gyffwrdd â’r ddaear, a hi a dawdd; a galara pawb a’r a drig ynddi, a hi a gylyd oll fel llifeiriant, ac a foddir megis gan afon yr Aifft.

9:6 Yr hwn a adeilada ei esgynfeydd yn y nefoedd, ac a sylfaenodd ei fintai ar y ddaear, yr hwn a eilw ddyfroedd y mo^r, ac a’u tywallt ar wyneb y ddaear: Yr ARGLWYDD yw ei enw.

9:7 Onid ydych chwi, meibion Israel, i mi fel meibion yr Ethiopiaid? medd yr ARGLWYDD: oni ddygais i fyny feibion Israel allan o dir yr Aifft, a’r Philisitiaid o Cafftor, a’r Syriaid o Cir?

9:8 Wele lygaid yr ARGLWYDD ar y deyrnas bechadurus, a mi a’i difethaf oddi ar wyneb y ddaear: ond ni lwyr ddifethaf dŷ Jacob, medd yr ARGLWYDD.

9:9 Canys wele, myfi a orchmynnaf,. ac a ogrynaf dŷ Israel ymysg yr holl genhedloedd, fel y gogrynir ŷd mewn gogr; ac ni syrth y gronyn lleiaf i’r llawr.

9:10 Holl bechaduriaid fy mhobl a fyddant feirw gan y cleddyf, y rhai a ddywedant, Ni oddiwedd drwg ni, ac ni achub ein blaen.

9:11 Y dydd hwnnw y codaf babell i Dafydd, yr hon a syrthiodd, ac a gaeaf ei bylchau, ac a godaf ei hadwyau, ac a’i hadeiladaf fel yn y dyddiau gynt:

9:12 Fel y meddianno y rhai y gelwir fy enw arnynt, weddill Edom, a’r holl genhedloedd, medd yr ARGLWYDD, yr hwn a wna hyn.

9:13 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, y goddiwedd yr arddwr y medelwr, a sathrydd y grawnwin yr heuwr had; a’r mynyddoedd a ddefnynnant felyswin, a’r holl fryniau a doddant!

9:14 A dychwelaf gaethiwed fy mhobl Israel; a hwy a adeiladant y dinasoedd anghyfannedd, ac a’u preswyliant; a hwy a blannant winllannoedd, ac a yfant o’u gwin; gwnânt hefyd erddi, a bwytânt eu ffrwyth hwynt.

9:15 Ac mi a’u plannaf hwynt yn eu tir, ac nis diwreiddir hwynt mwyach o’u tir a roddais i iddynt, medd yr ARGLWYDD DDUW.