Beibl (1620)/Doethineb Salomon

DOETHINEB SALOMON


ºPENNOD I º1 Cerwch gyfiawnder, y rhai ydych yn barnu'r ddaear: ystyriwch yr Arglwydd mewn daioni, a cheisiwch ef mewn puredd calon.

º2 Oblegid efe a geir gan y rhai ni themtiant ef; ac a ymddengys i'r rhai ni anghredant iddo.

º3 Canys meddyliau trofaus a ddidol-ant oddi wrth Dduw; eithr rhinwedd brofedig a gerydda'r ynfydion.

º4 Oherwydd nid a doethineb i enaid drygionus; ac ni chyfanhedda hi mewn corff caeth i bechod.

º5 Oblegid sanctaidd ysbryd addysg a ffy oddi wrth dwyll, ac a ymedy a meddyiiau angall, ac a gystuddir lle y delo anwiredd.

º6 Canys ysbryd yn caru dyn yw doethineb, ac ni weryd hi yr hwn a gablo a'i wefusau: oblegid Duw sydd dyst o'i arennau ef, ac yn wir olygydd ei galon ef, ac yn gwrando ei ymadrodd-ion ef.

º7 Oblegid Ysbryd yr Arglwydd a lan-wodd y byd: a'r hwn sydd yn cynnal pob peth biau adnabod lleferydd;

º8 Am hynny ni chaiff yr hwn a ddy-wedo bethau anghyfiawn lechu; ac nid a'r farn a gosbo heibio iddo ef.

º9 Oblegid fe fydd ymofyn yng nghyng-horion yr annuwiol; a'r Arglwydd a gaiff glywed ei eiriau ef, i gosbi ei an-wireddau ef.

º10 Canys clust eiddigus sydd yn clyw-ed y cwbl; ac ni bydd swn grwgnach yn guddiedig.

º11 Ymgedwch gan hynny rhag grwg- nach di-fudd; ac arbedwch enllibio a'ch tafod: oherwydd nid a ymadrodd dirgel yn ofer; a'r genau a ddywedo gelwydd sydd yn lladd yr enaid.

º12 Na cheisiwch farwolaeth yn amry-fusedd eich einioes; ac na thynnwch arnoch ddinistr a gweithredoedd eich dwylo:

º13 Oblegid ni wnaeth Duw farwolaeth; ac nid digrif ganddo ddinistr y byw;

º14 Canys efe a wnaeth bob peth i fod; a chenedlaethau'r byd yn iachol, heb fod meddyginiaeth ddinistriol ynddynt, na brenhiniaeth uffern ar y ddaear.

º15 Anfarwol hefyd yw cyfiawnder.

º16 Eithr rhai annuwiol a'i cyrchasant hi a'u dwylo, ac a'u hymadrodd: gaa dybied ei bod hi yn garedig y dihoenasant hwy, a hwy a wnaethant gyfamod a hi, am eu bod yn haeddu bod yn gyfranogion ohoni.

ºPENNOD 2 º1 OBLEGID yr annuwiol a ddywedant ynddynt eu nun, gan feddwl, ond nid yn uniawn, Ber a blin yw ein hoes ni: yn niwedd dyn nid oes meddyginiaeth, ac ni adnabuwyd neb a ddy-chwelodd o uffern.

º2 Canys si ddamwain y ganwyd ni, ac wedi hyn ni byddwn ni rawy na phe na buasem: oblegid mwg yw'r fifun yn ein ffroenau ni, a gwreichionen yw'r ymadrodd yn dyfod o symudiad y galon;

º3 Pan ddiffodder honno, yr a'r corff yn lludw, a'n hanadl a wasgerir fel awyr denau;


º4 A'n henw nj a anghofir mewn amser, fel na chofio neb ein gweithredoedd; a'n heinioes ni a a fel 61 niwl, ac a wasgerir fel cwmwl, yr hwn a ymlidio pelydr yr haul, a'r hwn y byddo ei wres ef drwm wrtho.

º5 Canys ein hamser ni sydd fel myn-ediad cysgod; ac nid oes dychweliad ar ein diwedd: canys efe a seliwyd, ac nid oes neb yn dychwelyd.

º6 Deuwch gan hynny, mwynhawn y da sydd, ac arferwn yn brysur yr hyn a feddwn, megis mewn ieuenctid.

º7 Ymlanwn a gwin gwerthfawr, ac ag ennaint: ac na adawn i flodau'r amser fyned heibio i ni.

º8 Gwisgwn goron o flodau rhos, cyn eu gwywo.

º9 Na fydded neb ohonom ni heb ei ran o ddifyrrwch; gadawn ym mhob man arwyddion o'n llawenydd: oblegid hyn yw ein rhan ni, a dyma ein dogn ni.

º10 Gorthrymwn y tlawd cyfiawn, nac arbedwn y weddw, ac na pharchwn hir-hoedlog benllwydni yr hynafgwr.

º11 Bydded ein cryfder ni yn lle cyfraith gyfiawn: canys gwendid a geryddir fel peth di-fudd.

º12 Cynllwynwn gan hynny i'r cyfiawn, am ei fod ef yn anfuddiol i ni: y mae efe hefyd yn erbyn ein gwaith ni, ac yn edliw y pechodau sydd yn erbyn y gyfraith, ac yn cyhoeddi er gogan i ni y pechodau sydd yn erbyn ein haddysg ni.

º13 Y mae efe yn yrnhonni fod ganddo wybodaeth o Dduw, ac yn ei alw ei him yn blentyn i'r Arglwydd.

º14 Efe a wnaed i argyhoeddi ein meddyliau ni.

º15 Tnvrn gennym ei weled ef; am fod ei fuchedd ef yn annhebyg i'r eiddo eraill, a bod ei ffyrdd ef ar ddull arall.

º16 Y mae efe yn ein cyfrif ni yn blant o ordderch, ac yn ymgadw rhag ein ffordd ni, megis rhag peth aflan; y mae efe yn cyfrif diwedd y rhai cyfiawn yn ddedwydd, ac yn ymhonni fod Duw yn dad iddo.

º17 Edrychwn ai gwir ei eiriau ef, a mynnwn wybod yn sicr beth a fydd ei ddiwedd ef.

º18 Oblegid os mab Duw yw'r cyfiawn, efe a'i derbyn ef, ac a'i gwared ef o ddwylo ei wrthwynebwyr.

º19 Holwn ef yn amharchus ac yn gystuddiol, fel y caffom wybod ei add-fwynder ef, a phrofi ei ddioddefgarwch ef.

º20 Barnwn ef i farwolaeth warad-wyddus: oblegid fe a synnir arno, medd efe.

º21 Hyn a feddyliasant hwy, a hwy a gamgymerasant: oblegid eu drygioni a'u dallodd hwynt.

º22 Ac ni wybuant hwy ddirgeled-igaethau Duw, ac ni obeithiasant am wobr cyfiawnder, ac nid ystyriasant wobr yr eneidiau difeius.

º23 Oblegid Duw a greodd ddyn i fod yn anllygredig, ac a'i gwnaeth ef yn ddelw ei lun ei hun.

º24 A thrwy genfigen y cythraul y daeth marwolaeth i'r byd: a'r rhai sydd ar ei du ef a'i profant ef.

ºPENNOD 3 º1 EITHR y mae eneidiau y rhai cyfiawn yn Haw Dduw; ac ni chyff-wrdd cystudd a hwynt.

º2 Y rhai angall oedd yn tybied eu bod hwy yn meirw; a drwg y cyfrifid eu diwedd hwynt,

º3 A'u mynediad oddi wrthym ni yn ddinistr: eithr y maent hwy mewn heddwch.

º4 Oblegid er eu cystuddio hwy yng ngolwg dynion, y mae eu gobaith hwy yn llawn tragwyddoldeb.

º5 A lle y ceryddwyd hwy ychydig, hwy a g&nt lawer o fudd: oblegid Duw a'u profodd hwynt, ac a'u cafodd yn addas iddo ei hun.

º6 Efe a'u profodd hwynt fel aur yn y ffwrn, ac a'u derbyniodd fel aberth llosg.

º7 Ac yn amser eu gofwy hwy a ddis-gleiriant, ac a redant i mewn ac allan, fel gwreichion mewn sofl.

º8 Hwy a farnant genhedloedd, ac a lywodraethant bobloedd; a'u Harglwydd hwy a deyrnasa byth.

º9 Y rhai a ymddiriedant ynddo ef a ddeallant y gwirionedd; a'r rhai ffydd-lon mewn cariad a arhosant gydag ef: oblegid gras a thrugaredd sydd i'w saint ef, ac efe a ofala dros ei etholed-igion.

º10 Eithr yr annuwiol, fel y meddyl-iasant, a gtat gosbedigaeth, y rhai a ddiystyrasant y cyfiawn, ac a wrthod-asant yr Arglwydd.

º11 Canys annedwydd yw yr hwn a ddiystyro ddoethineb ac addysg, ac ofer yw eu gobaith: eu llafur hefyd a fydd diffrwyth, a'u gwaith yn ddi-fudd.

º12 Eu gwragedd sydd yn angall, a'u pknt yn ddrygionus.

º13 Melltigedig yw eu hepil hwynt: canys dedwydd yw'r amhlantadwy ddihalogedig, yr hon nid adnabu wely mewn pechod: hi a gaiff ffrwyth pan ymweler a°r eneidiau:

º14 A dedwydd yw y disbaidd, yr hwn ni wnaeth anwiredd a'i ddwylo, ac ni feddyliodd ddrygioni yn erbyn yr Arglwydd: canys iddo ef y rhoddir dewisol rad ffydd, a'r rhan gymerad-wyaf gan ei feddwl, yn nheml yr Arglwydd.

º15 Canys gogoneddus yw ffrwyth poen dda; a gwreiddyn doethineb ni ddiflan-na byth.

º16 Eithr plant y godinebus a fyddant amherffaith; a'r had o wely anwir a ddiflanna;

º17 Oblegid os hir-hoedlog fyddant, ni wneir dim cyfrif ohonynt: a'u henaint fydd amharchus yn y diwedd.

º18 Eithr os yn fuan y diweddir hwynt, ni chant obaith na chysur yn nydd ymweliad:

º19 Oblegid ofnadwy yw diwedd y genhedlaeth anghyfiawn.

ºPENNOD 4 º1 WELL yw bod heb blant, a bod - gennym rinwedd: oblegid anfarwol yw y coffa amdani, a hysbys i Dduw a dynion yw hi.

º2 Hwy a'i dilynant hi pan fyddo presennol, ac a'i dymunant hi pan elo ymaith; y mae hi yn gorfoleddu, wedi ei choroni byth; wedi ennill y mae wrth ymdrechu am ddihalogedig wobrau.

º3 Eithr tylwythog dyrfa'r annuwiol ni bydd fuddiol; ni ddwfn wreiddia chwaith yr hon sydd yn dyfod o blan-higion bastardaidd, ac ni esyd sylfaen sicr;

º4 Oblegid er iddynt dyfu dros amser yn wrysg; gwynt a'u symud hwynt, gan eu bod yn tyfu yn weiniaid, a'u diwreiddio gan nerth y gwyntoedd.

º5 Yr amherffaith ganghennau a dorrir ymaith, a'u ffrwyth hwynt a fydd di-fudd, heb fod yn aeddfed i'w fwyta, nac yn gymwys i ddim.

º6 Oherwydd y plant a genhedler yn y gwely annheilwng sy dystion o anwiredd yn erbyn eu rbieni, pan holer hwynt.

º7 Eithr os diweddir y cyfiawn yn gyn-nar, efe a fydd mewn esmwythdra er hynny.

º8 Oherwydd nid yr hir-hoedlog yw'r henaint parchedig, na'r hon a fesurir wrth rifedi blynyddoedd:

º9 Eithr doethineb sy benllwydni i ddynion; a henaint oedrannus yw buch-edd ddihalog.

º10 Efe a ryngodd fodd i Dduw, ac a hoffwyd ganddo: ac efe, yn byw ym-ysg pechaduriaid, a fudwyd ymaith.

º11 Efe a gipiwyd ymaith rhag i ddrygioni newidio ei feddwl ef, neu i dwyll dwyllo ei enaid ef.

º12 Oblegid hudoliaeth oferedd a dy-wylla bethau da; ac anwadalwch chwant a symud feddwl difalais.

º13 Efe, wedi ei ddiweddu yn fuan, a gyflawnodd hir amser;

º14 Canys cu oedd ei enaid ef gan yr Arglwydd: am hynny yr aeth efe ar frys o fysg drygioni.

º15 Y mae'r bobl ya gweled hyn, ac heb ddeall nac ystyried fod gras a thrugaredd i'w saint ef, ac ymgeledd i'w etholedigion.


º16 Pan fyddo'r cyfiawn marw, y mae

efe yn rhoddi barn yn erbyn y rhai annuwiol byw; felly y niae yr ieuenc-tid a ddiweddir yn fuan, yn erbyn hir-hoedlog henaint yr anghyfiawn:

º17 Oblegid hwy a gam weled diwedd y doeth, ac ni feddyliant beth a am-canasant iddo, ac i ba beth y cadwodd yr Arglwydd ef yn ddiogel.

º18 Hwy a'i gwelant ef, ac a'i diystyr-ant: eithr yr Arglwydd a'u gwatwar hwynt, a hwy a fyddant yn gelain am-harchedig, ac yn waradwyddus ym-ysg y meirw byth.

º19 Canys efe a'u ddryllia hwynt i lawr yn ddi-drwst, ac a'u sigl hwynt o'r sylfaen, a hwy a anrheithir hyd yr eithaf, ac a fyddant mewn gofid; a'u coffadwriaeth hwynt a dderfydd.

º20 Hwy a ddeuant yn ofnus trwy feddwl am eu pechodau; a'u hanwir-eddau a'u ceryddant hwy o flaen eu hwynebau.

ºPENNOD 5 º1 YNA y saif y cyfiawn mewn hyder mawr o flaen ei orthrymwyr, a'r rhai a ddiystyrasant ei lafur ef.

º2 Pan welantj hwy a gythryblir ag ofn aruthr; a syn fydd ganddynt ei iachawdwriaeth ryfedd ef.

º3 A hwy a ddywedant ynddynt eu hun yn edifeiriol; a chan gyfyngder meddwl yr ocheneidiant, ac y dywedant, Dyma'r hwn yr oeddem ni gynt yn ei watwar, ac yn ei ddyfalu yn waradwyddus.

º4 Nyni ffyliaid a feddyliasom fod ei fuchedd ef ya ynfydrwydd, a'i ddiwedd yn amharchus.

º5 Pa fodd y cyfrifwyd ef ymhlith meibion Duw, ac y mae ei ran ef ym-ysg y saint!

º6 Nyni gan hynny a gyfeiliornasom allan o ffordd y gwiricnedd, ac ni thy-wynnodd llewyrch cyfiawnder i ni, ac ni chododd haul cyfiawnder arnom.

º7 Nyni a lanwyd o ffyrdd anwiredd a distryw, ac a rodiasom trwy anialwch anhyffordd; eithr nid adnabuom ni ffordd yr Arglwydd.

º8 Pa fudd sydd i ni o falchder? a pha les a wnaeth golud a ffrost i ni?

º9 Y pethau hynny oil a aethant ym. aith fel cysgodj ac fel cennad yn rhedeg;

º10 Fel llong yn myned trwy'r dwfr tonnog, yr hon ni ellir caffael ei hoi, wedi iddi fyned heibio, na'r llwybr yr aeth hi trwy'r tonnau;

º11 Neu megis na cheir arwydd myned-iad yr aderyn a ehedo trwy'r awyr, eithr dyrnod yr esgyll ar y gwynt tenau, yr hwn a gurir ac a rennir trwy nerth egniol, gan guro'r adenydd, a a trwodd, ac yno nid oes dim arwydd pa le yr aeth efe;

º12 Neu fel pan saether saeth at nod, yr awyr wedi ei rhannu a ddychwel yn y fan i'w lle, fel na wydder pa ffordd yr aeth hi:

º13 Felly ninnau, pan y'n ganwyd, a ddechreuasom bwyso at ein diwedd; ac ni allasom ddangos dim arwydd rhin-wedd dda, eithr yn ein drygioni y dar-fuom ni.

º14 Oblegid fel llwch, yr hwn a ar-wain y gwynt, ac fel ewyn tenau, yr hwn a yrr y dymestl, ac fel y mwg a wasgerir gan wynt, neu fel cof am ym-deithydd dros un diwrnod, yr a gobaith yr annuwiol ymaith.

º15 Eithr y mae y cyfiawn yn byw byth; a chyda'r Arglwydd y mae eu gwobr hwyntj a chan y Goruchaf y mae gofal amdanynt hwy.

º16 Am hynny y cant hwy ar law yr Arglwydd deyrnas hardd, a choron deg; oblegid efe a'u gorchuddia hwynt a'i ddeheulaw, ac a'u hamddiffyn a'i fraich.

º17 Efe a gymer ei eiddigedd yn lle pob arfogaeth, ac a arfoga'r creaduriaid i ddial ar y gelynion.

º18 Efe a wisg gyfiawnder yn ddwy-fronneg, ac a wisg farnedigaeth ddirag-rith yn lle helm.

º19 Efe a gymer sancteiddrwydd yn darian, yr hwn ni ellir ei orchfygu.

º20 Efe a hoga ei ddicter tost yn gledd-yf; a'r byd a ryfela gydag ef yn erbyn ffyliaid.


º21 Byllt y mellt a ant yn union, ac a gyrchant at y nod, megis o anelog fwa'r cymylau.

º22 A chan ei ddigofaint ef, yr hwn sydd yn arfer o daflu meini, y bwrir cenllysg yn llawn llid; dwfr y mor a lidia wrthynt hwy, a'r afonydd a lifant yn dost:

º23 Gwynt nerthol a saif yn eu herbyn, ac a'u nithia hwynt ymaith fel trowynt: ie, anwiredd a ddifwyna'r holl dir, a drygioni a ddinistria eisteddfeydd y cedyrn.

ºPENNOD 6 º1 GWRANDEWCH gan hynny, O v3" frenhinoedd, a deellwch; O farn-wyr eithafoedd y ddaear, cymerwch ddysg.

º2 Rhoddwch glust, lywodraethwyr y dyrfa; a'r rhai ydych feilchion o liaws cenhedloedd.

º3 Oblegid y cryfder a gawsoch chwi gan yr Arglwydd, a'r gallu gan y Goruchaf, yr hwn a ymofyn am eich gweith-redoedd chwi, ac a chwilia allan eich cynghorion.

º4 Am i chwi yn weinidogion o'i fren-hiniaeth ef, na farnasoch yn uniawn, ac na chadwasoch y gyfraith, ac na rod-iasoch yn 61 ewyllys Duw,

º5 Yn aruthr ac yn ebrwydd y daw efe atoch chwi: oherwydd barn dost fydd i'r Uywodraethwyr.

º6 Y lleiaf a ddichon gael maddeuant ya drugarog; a'r cedyrn a gystuddir yn gadarn.

º7 Oblegid yr hwn sydd Arglwydd ar bawb, nid ystyr wyneb, ac ni ofna fawredd: canys efe a wnaeth y mawr a'r bychan, ac a ofala yr un modd am bawb:

º8 Ond ar y cedyrn y daw hawl gadarn.

º9 Wrthych chwi am hynny, frenhinoedd, y mae fy ngeiriau i, fel y dysgoch ddoethineb heb ballu. to Oblegid y rhai a gadwant y pethau sanctaidd yn sanctaidd, a sancteiddir; a'r rhai a'u dysgasant hwy a gant beth i'w ateb drostynt eu hunain.

º11 Chwenychwch gan hynny fy ngeiriau i; dymunwch hwynt, a chwi a fyddwch ddysgedig.

º12 Doethineb sy ddisglair, ac ni dderfydd: hawdd y canfyddir hi gan y rhai a'i hoffant, a hawdd y ceir hi gan y rhai a'i ceisiant.

º13 Y mae hi yn myned i gyfarfbd y rhai a'i chwenychant, fel yr adwaener hi yn gyntaf.

º14 Nid rhaid poen i'r hwn a gyfodo'n fore amdani hi: oblegid efe a'i caiff hi yn eistedd wrth ei ddrysau.

º15 Canys perfceithrwydd synnwyr yw meddwl amdani hi, a'r hwn a wylio amdani hi, a fydd ddiofal yn ebrwydd.

º16 Oblegid y raae hi yn myned o am-gylch, dan geisio y rhai sy deilwng o-honi; y mae hi yn ymddangos yn llawen iddynt hwy ar y llwybrau, ac yn cyfar-fod a hwynt ar bob meddwl.

º17 Ei dechreuad hi yw gwir chwant i addysg; a gofal addysg yw cariad;

º18 A chariad yw ceidwad ei chyfreith-iau hi: a sicrwydd o anllygredigaeth yw gwrando ar y gyfraith.

º19 Anllygredigaeth hefyd sydd yn peri bod yn agos i Dduw:

º20 Oblegid hynny, chwant doethineb sydd yn dwyn i'r deyrnas.

º21 Am hynny, O frenhinoedd y bobl, os melys gennych orseddfeinciau a theyrnwiail, anrhydeddwch ddoethineb, fel y teyrnasoch byth.

º22 Eithr beth yw doethineb, a pha fodd y gwnaed hi, mi a fynegaf i chwi, ac ni chuddiaf ddirgeledigaethau rhag-och: eithr o ddechreuad ei genedigaeth yr olrheiniaf hi, ac y gosodaf ei gwy-bodaeth hi yn amlwg, ac nid af fi dros y gwirionedd.

º23 Ac ni chydymdeithiaf fi a chen-figen ddihoenedig, oblegid ni bydd y cyfryw un yn gyfrannog o ddoethineb.

º24 Iachawdwriaeth y byd yw llawer o ddoethion; ac ateg y bobl yw bren-in call.

º25 Am hynny cymerwch addysg trwy fy ngeiriau i, a chwi a gewch fudd.


ºPENNOD 7 º1 DYN marwol ydwyf finnau, un fodd a phawb eraUl, ac yn dyfod o hil-iogaeth yr hwn a luniwyd gyntaf o'r ddaear;

º2 Ac yng nghroth fy mam y'm lluniwyd yn gnawdj o fewn amser deng mis, gan geulo o had gwr mewn gwaed, ac o drythyllwch yn dyfod ynghyd a chwsg.

º3 A phan y'm ganwyd, mi a dynnais ataf yr awyr cyffredin i ni, ac a syrth-iais ar y ddaear, yr hon sydd o'r un naturiaeth; yn wylofain y rhoddais i y llais cyntaf, fel pawb eraill.

º4 Mewn cawiau, a thrwy ofal, y'm magwyd.

º5 Ni chafodd un brenin amgen dech-reuad i'w enedigaeth.

º6 Un fath ddyfodiad i lywyd sydd i bawb, ac un fath fynediad aUan.

º7 Am hynny mi a weddiais, ac fe a roddwyd i mi ddeall; mi a waeddais, ac fe ddaeth ysbryd doethineb ataf.

º8 Mi a'i cyfrifais hi yn well na theyrn-wiail ac na gorseddfeydd: ac ni chyf-rifais olud yn ddim wrth gyffelyb-iaeth iddi,

º9 Ni chyffelybais i faen gwerthfawr iddi hi: canys greyenyn bychan yw pob aur yn ei golwg hi, ac fel clai y cyfrifir arian o'i blaen hi.

º10 Mi a'i hoffais hi yn fwy nag iech-yd, ac na thegwch; ac mi a arfaethais ei chael hi yn lle goleuni: oblegid ni fachluda'r llewyrch a ddaw ohoni hi.

º11 Pob daioni a ddaeth i mi gyda hi, a golud annifeiriol yn ei dwylo hi.

º12 Ac mi a lawenychais am bob un, am fod doethineb yn eu blaenori hwynt: ond ni wyddwn i mai hi oedd eu mam hwynt.

º13 Yn ddidwyll y dysgais, ac yn ddi-genfigen yr ydwyf yn cyfrannu, heb gelu ei golud hi.

º14 Diball drysor yw hi i ddynion: pwy bynnag a'i harfero, y maent hwy yn ymgyfeillach a Duw, gan fod yn ganmoladwy trwy'r doniau a gaer trwy addysg.

º15 Duw a roddes i mi ddywedyd yn

º61 fy meddwl, a meddwl yn addas am y pethau a roddwyd: oblegid efe yw pob un o'r ddau, awdur doethineb) a chyf-arwyddwr y doethion.

º16 Yr ydym ni a'n geiriau yn ei law ef: felly y mae pob deall, a gwybodaeth gwaith.

º17 Canys efe a roddes i mi wybodaeth ddigelwydd am y pethau sydd, i wybod cyfansoddiad y byd, a grym yr elf en-nau;

º18 Dechrau, diwedd, a chanol amser-au; newid moddion yr haul, a chyf-newid tymhorau;

º19 Amgylchiad y flwyddyn, a gosod-iad y sSr;

º20 Naturiaethau anifeiiiaid, llid bwyst-filod, nerth gwyntoedd, ac ymresymau dynion, rhagoriaeth planhigioo, a rhin-weddau gwraidd;

º21 Beth bynnag sydd, nac yn ddirgel, nac yn amlwg, mi a'i gwn.

º22 Oblegid doethineb, yr hon a wnaeth y cwbl, a'm dysgodd i: oherwydd y mae ynddi hi ysbryd deallgar, sanct-aidd, unig, amryw, tenau, cyflym, disglair, dihalog, eglurj annioddefadwy, yn horn daioni, yn llym, heb aim ei atal, yn barod i wneuthur daioni,

º23 Yn cam dyn, yn ddianwadal, yn sicr, yn ddiofal, yn hollalluog, yn ed-rych am bob peth, ac yn myned trwy bob ysbryd deallgar, pur, ac o'r teneuaf.

º24 Bywiocach yw doethineb na dim bywiog; hi a a ac a dreiddia trwy bob peth, oherwydd ei phured.

º25 Canys angerdd gallu Duw yw hi, a ffrwd bur oddi wrth ogoniant yr Hollalluog: am hynny ni syrth dim halog-edig iddi hi.

º26 Canys disgleirdeb y goleuni trag-wyddol yw hi, difrycheulyd ddrych gweithrediad Duw, a delw ei ddaioni ef.

º27 Er nad yw hi ond un, hi a ddichon bob dim; ac yn aros ynddi ei hun y mae hi yn adnewyddu pob dim; a thrwy'r oesoedd yn disgyn i'r eneidiau sanctaidd, y mae hi yn eu gwneuthur yn garedigion ac yn broffwydi i Dc^uw;


º28 Oblegid nid hoff gan Dduw neb, ond yr hwn a gyfanheddo gyda doethineb:

º29 Oblegid y mae hi yn decach na'r haul, ac yn uwch na gosodiad y sir; os cystedlir hi a'r goleuni, gorau y ceir hi;

º30 Canys y nos a ddaw ar ei 61 ef, ond ni orchfyga drygioni mo ddoethineb.

ºPENNOD 8 º1 Y mae hi'n cyrhaeddyd o gwr bwy-gilydd yn rymusol; ac yn cyfleu pob peth yn fuddiol.

º2 Hon a gerais i, ac a geisiais o'm hieuenctid, ac a geisiais ei phriodi yn ddyweddi i mi: canys cu oedd gennyf ei thegwch hi.

º3 Y mae hi yn gwneuthur ei bonedd yn ogoneddus trwy gytal gyda Duw: ac Arglwydd pob peth a'i hoffodd hi.

º4 Canys athro yw hi ar athrawiaeth Dduw, ac un yn dewis ei weithred-oedd ef.

º5 Os meddiant dymunol yn y bywyd hwn yw cyfoeth, beth gyfoethocach na doethineb, yr hon sydd yn gwneuthur pob peth?

º6 Ac os doethineb a weithreda, pa un o'r pethau sydd a wna yn well na hi?

º7 Os cyfiawnder a hoffa neb, rhin-weddau da yw ei llafur hi: canys y rnae hi yn dysgu sobreiddrwydd a synnwyr, cyfiawnder a gwroldeb; na pha rai nid oes dim mwy ei fudd i ddynion yn eu bywyd.

º8 O chwennych neb gael sicrwydd gwybodaeth lawer, hi a wyr y pethau gynt, ac a ddychymyg yn uniawn y pethau a fyddant: y mae hi yn gwybod dichell-ion geiriau, ac yn medru dirnad cwest-iynau caled, ac yn gwybod yr arwydd-ion a'r rhyfeddodau, a'r hyn a ddam-wain mewn tymor ac amser, cyn eu dyfod.

º9 Am hynny yr arfaethais ddwyn hon i gytal a mi, gan wybod y cynghorai hi i mi bethau da, ac y'm diddanai mewn gofal a thristwch.

º10 Er ei mwyn hi y caf fi barch yn y dyrfa, ac anrhydedd gan henuriaid, er fy mod i yn ieuanc.

º11 Myfi a geir yn barod fy synnwyr mewn barn, ac a fyddaf ryfedd yng ngolwg gwyr mawr.

º12 Hwy a arhosant arnaf tra y tawyf, ac a wrandawant tra llefarwyf, ac a osodant eu dwylo ar eu geneuau, os myfi a draethaf lawer.

º13 Trwyddi hi y caf fi dragwydd-oldeb, ac y gadawaf goffadwriaeth trag-wyddol i'r rhai a fyddant ar fy 61;

º14 Y llywodraethaf fi y bobl, ac y darostyngir y cenhedloedd i mi.

º15 Gorthrymwyr aruthrol a'm hofn-ant i, pan glywont son amdanaf fi; ymysg y gwerin y'm gwelir i yn dda, ac yn y rhyfel yn gryf.

º16 Pan elwyf i'm ty, mi a gydor-ffwysaf gyda hi: oblegid nid oes chwerw-der wrth gytal a hi, na blinder wrth fyw gyda hi, ond llawenydd a gorfol-edd.

º17 Wrth feddwl hyn ynof fy hun, ac wrth gofio yn fy nghalon mai yng nghar-ennydd doethineb y mae tragwyddoldeb,

º18 A bod hyfrydwch daionus yn ei chyfeillach hi, a golud diball yn ilafur ei dwylo, a bod synnwyr o ymarfer ag ym-ddiddan a hi, a bod parch wrth fod yn gyfrannog o'i hyraadroddion, mi a geisiais o amgylch pa fodd y cawn hi ataf,

º19 Yr oeddwn i yn fachgen o athryl-ith dda, ac a gawswn ysbrydoliaeth dda;

º20 le, yn hytrach, a myfi yn dda, myfi a ddeuthum i gorff dihalog.

º21 Ond pan wybum na chawn hi, oni roddai Duw hi, ac mai synnwyr oedd gwybod rhodd pwy oedd hi, mi a ddeuthum at Dduw, ac a ymbiliais, ac a ddywedais o'm holl galon,

ºPENNOD 9 º1 O DDUW y tadau, ac Arglwydd y dragaredd, yr hwn a wnaethost bob peth a'th air,

º2 A thrwy dy ddoethineb a osodaist ddyn i lywodraethu ar y creaduriaid a wnaethost,

º3 Ac i lywodraethu'r byd yn uniawn ac yn gyfiawn, ac i roddi barn a meddwl uniawn;

º4 Dod di i mi ddoethineb, yr hon sydd yn eistedd wrth dy orseddfainc di, ac na wrthod fi o blith dy blant.

º5 Canys myfi dy was, a mab dy law-forwyn, ydwyf ddyn llesg, ac o amser byr, ac yn llai mewn deall barnedigaeth a chyfraith.

º6 Oblegid yr hwn sy berffeithiaf ym-ysg meibion dynion, a gyfrifir yn ddi-ddim, os ymaith y bydd y doethineb sydd oddi wrthyt ti.

º7 Ti a'm dewisaist i yn frenin ar y bobl, ac yn farnwr ar dy feibion a'th fetched.

º8 Ti a ddywedaist am adeiladu teml ar dy fynydd sanctaidd, ac allor yn ninas dy breswylfod, sef portreiad y tabernacl sanctaidd, yr hwn a ddarper-aist ti o'r dechreuad.

º9 A chyda thi yr oedd doethineb, yr hon a adwaenai dy weithredoedd di, ac oedd bresennol pan wnaethost ti y byd, ac a wyr beth sydd yn rhyngu bodd yn dy olwg, a pheth sydd uniawn wrth dy orchmynion di.

º10 Anfon hi o'th nefoedd sanctaidd, a gyr hi o orseddfainc dy ogoniant, fel y cymero hi boen yn bresennol gyda mi, ac y gwypwyf fi beth sy fodlon gennyt.


º11 Canys y mae hi yn gwybod ac yn deall pob peth: a hi a'm harwain i yn fy ngweithredoedd yn sobr, ac a'm ceidw i yn ei gogoniant.

º12 Felly y bydd fy ngweithredoedd i yn gymeradwy, ac y barnaf fi dy bobl yn gyfiawn, ac y byddaf addas i orseddfainc fy nhad.

º13 Canys pa ddyn a wyr gyfrinach Duw? a phwy a feddwl beth a ewyll-ysia Duw?

º14 Oblegid ofnus yw meddyliau dynion marwol, ac ansicr yw ein hamcan-ion ni.

º15 Canys y corff Uygredig sydd yn drwm i'r enaid, a'r breswylfod ddaear-ol sydd yn faich i'r meddwl, yr hwn sydd yn gofalu am lawer o bethau.

º16 A phrin y medrwn ni iawn ddeall y pethau sy ar y ddaear, a thrwy boen yr ydym ni yn cael y pethau sydd yn ein dwylo: eithr pwy a olrhain allan y pethau sydd yn y nefoedd?

º17 le, pwy a wyr dy gyfrinach di, oddieithr i ti roddi doethineb, ac anfon dy Ysbryd sanctaidd o'r uchelder?

º18 Felly yr uniawnwyd ffyrdd y rhai sydd ar y ddaear, ac y dysgwyd i ddyn-ion y pethau a'th fodlonant di; a thrwy ddoethineb y cadwyd hwynt.

ºPENNOD 10 º1 HON a gadwodd y cyntaf a luniwyd, tad y byd, yr hwn a grewyd yn unig, ac a'i gwaredodd ef o'i fai,

º2 Ac a roddes iddo ef nerth i lyw-odraethu pob peth.

º3 A phan ymadawodd yr anghyfiawn a hi yn ei ddicter, efe a fethodd trwy lid i ladd ei frawd:

º4 Er mwyn yr hwn y boddwyd y ddaear: eithr doethineb drachefn a'i cadwodd hi, gan lywio'r cyfiawn ag ychydig bren.

º5 Hi hefyd, yng nghytundeb y cenhed-loedd cymysgadwy mewn drygioni, a adnabu'r cyfiawn, ac a'i cadwodd ef yn ddifai i Dduw, ie, yn ei fawr gar-iad i'w fab, hi a'i cadwodd ef yn gryf.

º6 Hi a waredodd y cyfiawn oddi wrth yr annuwiol colledig, pan ffodd efe rhag y tan a ddisgynnodd ar y pum dinas;

º7 Am yr hwn ddrygioni y mae y diffeithdir myglyd, a'r planwydd yn ffrwytho heb aeddfedu byth, yn dyst-iolaeth: felly y mae y golofn halen yn sefyll yn goffadwriaeth am yr enaid anghredadun.

º8 Oblegid y rhai a ddiystyrasant ddoethineb, ni chawsant yn unig y niwed hyn, sef bod heb wybod pethau da, eithr hwy a adawsant goffadwriaeth i'r byd o'u ffolineb; ac ni allent lechu yn y pethau a wnaethant ar fai.

º9 Eithr y rhai a'i parchent hi, a waredodd doethineb o boenau.

º10 Mewn llwybrau uniawn yr arwein-iodd hi y cyfiawn, yr hwn oedd yn ffbi rhag digofaint ei frawd; hi a ddangos-odd iddo ef deyrnas Dduw, ac a roddes iddo ef wybodaeth am bethau sanctaidd; hi a'i cyfoethogodd ef yn ei lafur, ac a gynyddodd ffrwyth ei boen ef.

º11 Wrth gybydd-dod y rhai oedd drech nag ef, yr oedd hi gerllaw, ac a'i cyfoethogodd ef.

º12 Hi a'i cadwodd ef rhag ei elynion, ac a'i diofalodd ef oddi wrth ei gyn-Ewynwyr; ac mewn ymdrech cryf hi a roddes y maes iddo ef, fel y gallai efe wybod fod duwioldeb yn gryfach na dim.

º13 Ni adawodd hi y cyfiawn, yr hwn a werthwyd, eithr hi a'i hachubodd ef rhag pechod, ac a aeth i waered gydag ef i'r carchar.

º14 Ie, ni adawodd hi ef yn ei rwymau, hyd oni ddygodd hi iddo ef deyrnwialen y frenhiniaeth, a llywodraeth ar ei or-thrymwyr: hi a ddangosodd fod y rhai oedd yn beio arno ef, yn gelwyddog, ac a roddes iddo ef ogoniant tragwyddol.

º15 Hon a waredodd y bobl sanctaidd a'r had difai oddi wrth y genedl a'u gorthrymai hwynt.

º16 Hi a aeth i mewn i enaid gwas yr Arglwydd, ac a safodd yn erbyn brenhinoedd ofnadwy, gan wneuthur rhyfeddodau a gwyrthiau.

º17 Hi a roddes i'r rhai cyfiawn wobr sancteiddrwydd eu llafur; hi a'u har-weiniodd hwynt mewn ffordd ryfedd, ac oedd yn orchudd iddynt y dydd, ac yn fflam o ser y nos.

º18 Hi a'u dug hwy trwy'r mor coch, ac a'u harweiniodd hwy trwy ddwfr mawr:

º19 A hi a foddodd eu gelynion hwynt, ac a'u dug hwynt i fyny o waelod y dyfnder.

º20 Am hynny y rhai cyfiawn a ys-beiliasant y rhai annuwiol, ac a ddat-ganasant dy enw sanctaidd di, O Arglwydd, ac a glodforasant o unfryd dy law orchfygus di.

º21 Oblegid doethineb a agorodd enau y rhai mudion, ac a osododd dafodau plant by chain yn ymadroddus.

ºPENNOD 11 º1 TJI a gyfarwyddodd eu gweithredoedd •*• •*- hwynt yn llaw y proffwyd sanctaidd.

º2 Hwy a ymdeithiasant trwy'r di-ffeithwch anghyfanheddol, ac a osodas-ant eu pebyll mewn lleoedd anhy-ffordd.

º3 Hwy a safasant yn erbyn y rhai a ryfelent i'w herbyn, ac a ddialasant ar eu gelynion.

º4 Daeth syched arnynt, a hwy a al-wasant arnat ti, ac fe a roddwyd iddynt ddwfr o'r graig serth, a meddyginiaeth rhag syched o'r maen caled.

º5 Canys trwy'r pethau y cystuddiwyd eu gelynion hwynt, trwy'r un pethau y cawsant hwy les, pan oedd eisiau arnynt.

º6 Yn lle ffynnon o afon redegog, wedi ei chythryblu a gwaed Uychlyd,

º7 Yn gerydd am y gorchymyn i ladd y plant, y rhoddaist ti iddynt hwy aml-der o ddwfr trwy fodd heb ei o-beithio;

º8 Gan ddangos trwy'r syched oedd yr amser hwnnw, pa fodd y cystuddiesit ti y gwrthwynebwyr.

º9 Oblegid pan demtiwyd hwy, er eu ceryddu yn drugarog, hwy a wybuant pa fodd y dialeddwyd ar y rhai annuwiol, y rhai a farnwyd mewn digofaint.

º10 Canys y rhai hyn a brofaist ti fel tad, gan eu rhybuddio; a'r lleill a hol-aist ti fel brenin tost, gan eu condemn-io:

º11 Y rhai, pa un bynnag ai yn absen-nol, ai yn bresennol, a gystuddiwyd yr un modd.

º12 Oblegid tristwch a gofid dauddyb-lyg a ddaeth arnynt hwy, wrth gofio pethau a aethai heibio.

º13 Canys pan glywsant hwy wrth eu cystudd eu hun, gael ohonynt fudd, hwy a feddyliasant am yr Arglwydd.

º14 Oblegid yr hwn a wrthodasent hwy yn watwarus, wedi ei fwrw allan gynt wrth daflu allan y plant newydd-eni, hwnnw a fu ryfedd ganddynt hwy yn niwedd y pethau a ddigwyddasant, gan fod arnynt syched amgen nag ar y rhai cyfiawn.

º15 Am anneallgar ddychmygion eu hanghyfiawnder hwynt, trwy y rhai

º97wedi eu twyllo yr addolasant ymlusg-iaid anrhesymol a bwystfllod gwael, yr anfonaist lawer o anifeiliaid heb reswrn i ddial arnynt hwy;

º16 Pel y gallent hwy vvybod mai trwy'r pethau y pecha neb, trwy'r un pethau hefyd y cosbir ef.

º17 Oblegid ni rwystrwyd dy law di, yr hon sydd hollalluog, ac a wnaeth y byd o afluniaidd ddefnydd, fel na allasai anfon arnynt hwy lawer o eirth a llew-od hy,

º18 Neu anifeiliaid dieithr llawn o ddig, wedi eu newydd greu, yn anadlu tarth tanllyd, neu dwrf mwg, yr hwn a dry y gwynt neu wreichion aruthrol o'u llygaid fel mellt;

º19 Y thai ni allai eu niwed hwynt yn unig eu dinistrio hwy, eithr eu golwg erchyll hwynt hefyd eu difetha hwy ar unwaith.

º20 Heb y rhai hyn hefyd trwy un awel y gallasent hwy syrthio, wrth gael eu hymlid gan ddialedd, a'u gwasgaru trwy ysbryd dy nerth di: eithr tydi a drefnaist bob peth wrth fesur, a rhif, a phwys.

º21 Canys bob amser yr ydwyt ti yn gallu llawer; a phwy a wrthwyneba nerth dy fraich di?

º22 Oblegid megis tipyn allan o glor-iannau yw'r holl fyd yn dy olwg di, ac megis defnyn o wh'th y bore, yr hwn a ddisgyn ar y ddaear.

º23 Ond yr ydwyt ti yn trugarhau wrth bob peth: oblegid ti a elli bob dim; ac yr ydwyt heb gymryd arnat weled pechodau dynion, fel yr edifar-haent hwy.

º24 Y mae yn hoff gennyt ti bob peth a'r y sydd, ac nid ffiaidd gennyt ddim a'r a wnaethost: ie, ni wnaethit ti ddim pe buasai gas gennyt ef.

º25 A pha fodd y parhasai dim, oni buasai dy ewyllys di? neu y cadwesid, heb ei alw gennyt ti?

º26 Ond yr ydwyt ti yn arbed pob peth: oblegid yr eiddot ti ydynt hwy, O Arglwydd, yr hwn sydd yn caru eneidiau.


ºPENNOD 12 º1 CANYS y mae dy Ysbryd anllygredig di ym mhob peth.

º2 Am hynny yr wyt ti yn ceryddu bob ychydig ac ychydig, y rhai a dros-eddant, ac yn eu rhybuddio trwy alw i'w cof hwynt y pethau y pechasant ynddynt, fel yr ymadawent a'u dryg-ioni, ac y credent ynot ti, O Arglwydd.

º3 Canys dy ewyllys di oedd trwy ddwylo ein tadau ni ddifetha hen breswylwyr y tir sanctaidd,

º4 Y rhai oedd gas gennyt ti, oher-wydd atgasaf weithredoedd swynion, ac aberthau annuwiol,

º5 Ac anhrugarog leiddiaid y plant hynny hefyd, a bwytawyr perfedd cnawd dynion, a'u gwleddau gwaedlyd,

º6 Gyda'u hoffeiriaid o ganol eu gwe-hilion eilunaddolaidd, a'r tadau y rhai a laddodd a'u dwylo eu hun eneidiau digarad;

º7 Fel y gallai'r wlad sy guaf gennyt ti gael plant Duw i'w chyfanheddu yn addas.

º8 Eithr ti a arbedaist y rhai hyn megis dynion, ac a anfonaist gacwn o flaen dy lu, i'w goresgyn hwy bob ychydig ac ychydig.

º9 Nid oherwydd na allasit ti ddaros-twng yr annuwiol i'r rhai cyfiawn trwy ryfel, neu eu difetha hwy ar unwaith trwy fwystfilod creulon, neu air caled;

º10 Eithr gan farnu o fesur ychydig ac ychydig, ti a roddaist le i edifeirwch, pan nad oedd anhysbys i ti fod eu cen-hedlaeth hwynt yn ddrygionus, a'u drygioni yn anianol, ac na newidiai eu meddwl hwynt byth:

º11 Canys hiliogaeth felltigedig oedd-ynt hwy o'r dechreuad: ond ni roddaist ti ddiogelwch iddynt am y pethau y pechent hwy ynddynt, er ofn neb.

º12 Oblegid pwy a ddywed, Beth a wnaethost ti? neu pwy a wrthwyneba dy farn di? pwy a gwyna rhagot ti am y cenhedloedd a ddifethwyd, y rhai a wnaethost ti? neu pwy a ddaw i sefyll i'th erbyn, i ddial dros ddynion ang-hyfiawn?

º13 Nid oes Duw ond tydi yn gofalu am bob peth, i ddangos nad wyt yn bamu yn anghyfiawn.

º14 Nid oes na brenin na theyrn a ddichon osod ei wyneb yn dy erbyn di, am y rhai a gosbaist ti.

º15 Am dy fod yn gyfiawn, yr ydwyt ti yn trefnu pob peth yn gyfiawn, gan gyfrif yn beth arnherthynol i'th allu di roddi barn yn erbyn yr hwn ni ddylai ei gosbi.

º16 Oblegid dechreuad cyfiawnder yw dy nerth di; a'th fod di yn Arglwydd ar bob peth, sydd yn peri i ti arbed pob peth.

º17 Pan ni chredir dy fod di o ber-ffaith allu, yr wyt ti yn dangos dy nerth; ac ymhlith y rhai a'i hedwyn yr wyt yn amlygu eu hyder hwynt.

º18 Yn gyfiawn yr wyt ti yn barnu, gan feistroli dy allu; a thrwy lawer o arbed yr wyt ti yn ein llywodraethu ni: oblegid y mae gennyt ti allu pan fyn-nech.

º19 A thi a ddysgaist dy bobl wrth y cyfryw weithredoedd, fod yn rhaid i'r cyfiawn fod yn gu ganddo ddyn: a thi a wnaethost dy blant yn dda eu gobaith, oherwydd i ti roddi edifeirwch am bechodau.

º20 Canys os mor ystyriol y cystudd-iaist ti elynion dy blant, y rhai a ddyl-ent farwolaeth, gan roddi amser a modd i newidio oddi wrth ddrygioni,

º21 A pha ofal y bernaist ti dy blant dy hun, i rieni pa rai y rhoddaist ti Iwon ac amodau o addewidion da?

º22 Am hynny lle yr wyt ti yn ein ceryddu ni, yr ydwyt yn ffrewyllu ein gelynion ni yn ddengmil mwy; fel pan farnom ni> y gallom feddwl am dy dda-ioni di; a phan y'n barner, ddisgwyl am drugaredd.

º23 Am yr hwn beth y rhoddaist ti ddialedd ar y rhai a fuant fyw'n anghyfiawn mewn buchedd angall, trwy eu ffiaidd weithredoedd eu hun.

º24 Canys hwy a gyfeiliornasant yn ffordd cyfeiliorni ymhell, gan gymryd y rhai oedd amharchus ymysg anifeiliaid eu gelynion yn lle duw-iau, wedi eu twyllo fel plant angall.

º25 Am hynny yr anfonaist ti iddynt hwy, megis i blant direswm, dy farned-igaeth i'w gwatwar.

º26 Y rhai ni chymerant rybudd trwy'r gwatwarus gerydd hyn, a gant brofi addas farnedigaeth Duw.

º27 Canys wele, oblegid y rhai yr oedd-ynt hwy yn grwgnach wrth ddioddef drostynt, sef dros y rhai a dybiasent hwy eu bod yn dduwiau, pan welsant eu cosbi yn y rhai hynny, hwy a gyd-nabuant mai gwir Dduw oedd yr hwn a wadasent hwy o'r blaen eu bod yn ei adnabod: ac am hynny y daeth dygn ddamnedigaeth arnynt.

ºPENNOD 13 º1 OFER yn ddiau o naturiaeth yw'r dynion oil sydd heb adnabod Duw, heb fedru adnabod yr hwn sydd, wrth y pethau da a welir, ac ni adnabuant y gweithydd wrth ystyried y gwaith:

º2 Eithr hwy a dybiasant mai'r tan neu'r gwynt, neu'r awyr buan, neu gylch y ser, neu ddwfr chwyrn, neu oleuadau'r nefoedd, oeddynt dduwiau yn llywodraethu'r byd.

º3 Os am fod yn hyfryd ganddynt degwch y rhai hyn, y cymerasant hwynt yn dduwiau; gwybyddant pa faint gwell yw eu Harglwydd hwynt: oblegid yr hwn sydd o naturiaeth yn Awdur tegwch, a'u creodd hwynt.

º4 Os eu gallu a'u gweithrediad sydd ryfedd ganddynt, ystyriant pa faint mwy yw gallu yr hwn a'u gwnaeth hwynt.

º5 Wrth faint a thegwch y pethau a grewyd, wrth eu cyffelybu, y gwelir yr hwn a'u gwnaeth hwynt.

º6 Er hynny yn hyn y mae bai y rhai hyn yn llai: canys y maent hwy mewn amryfus ond odid yn ceisio Duw, ac yn ewyllysio ei gael ef;

º7 Oblegid y maent hwy, trwy drin ei waith ef, yn chwilio yn ddyfal, ac yn coelio eu golwg; o achos bod y pethau a welir yn deg.

º8 Ac eto nid ydynt hwy esgusodol:

º9 Oblegid os gallent wybod cymaint a medru amcanu at y byd, paham na chawsant hwy yn gynt Arglwydd y pethau hyn?

º10 Eithr annedwydd ydynt hwy, a'u gobaith sy mewn pethau meirw, y rhai a alwasant waith dwylo dynion yn dduwiau, sef aur ac arian, pethau wedi eu dychymyg trwy gelfyddyd, a llun-iau anifeiliaid, neu garreg ddi-fudd o waith hen law.

º11 Ac yn awr saer pren, wedi iddo lifio pren i'r gwaith, a thynnu o am-gylch ei holl risgl ef yn gelfydd, a'i weithio yn gyfarwydd, a gwneuthur llestr buddiol i wasanaethu i fywyd dyn;

º12 Ac ymlenwi, wedi iddo dreulio ysglodion ei waith yn arlwyo ei fwyd;

º13 Ac yn cymryd yr hyn a fwrid ymaith ohonynt yn bren ystwyrgam di-fudd i ddim, eithr yn llawn cnapiau, a'i cerfiodd yn ofalus pan gaffai ennyd, ac a'i lluniodd with gyfarwyddyd ei ddeaU, ac a'i gwnaeth ar lun dyn,

º14 Neu a'i gwnaeth yn debyg i an-ifail gwael, gan ei amliwio & choch, a'i beintio a lliw, a pheintio pob gwrthuni ynddoj

º15 Wedi iddo wneuthur iddo le addas, a'i gosododd wrth bared, ac a'i sicrha-odd a haearn;

º16 Efe a ofalodd ymlaen Haw rhag iddo syrthio; gan wybod na allai efe help iddo ei hun: oblegid delw yw efe, ac yn rhaid iddo wrth help:

º17 Yna efe a weddia am ei dda, am ddyweddi iddo ei hun, ac am blant, heb arno gywilydd lefaru wrth y marw.

º18 Y mae efe yn galw ar y gwan am iechyd; yn gofyn hoedl gan y marw; yn ymbil am help gan yr hwn ni wyr ddim; ac am ei daith yn gweddio ar yr hwn ni all gerdded cam;

º19 Ac am elw, a gwaith, a dedwydd-wch Haw, yn gofyn llwyddiant gan yr hwn sy ddirymaf i wneuthur dim.

ºPENNOD 14 º1 •yRACHEFN, pan fyddo un yn ym-•*• baratoi i fordwyo, ac ar fyned tr donnau geirwon, efe a waedda ar br pydrach na'r llong a fyddo yn ei ddv ef:

º2 Oblegid chwant i elw a ddych-mygasai honno, a thrwy ei gelfyddyd gwnaeth y gweithiwr hi.

º3 Eithr dy ragluniaeth di, O Dad, sydd yn ei llywodraethu: oblegid ti a roddaist ffordd yn y mor, a llwybr di-ogel yn y tonnau;

º4 Gan ddangos y gelli di achub rhag pob peth, ie, ped elai dyn i'r mor heb gelfyddyd.

º5 Eto ti a fynni na byddo gweith-redoedd dy ddoethineb yn segur: am hynny yr ymddiried dynion i dipyn o bren am eu heinioes, a chan dreiddio trwy'r garw for mewn llestr gwan, ydynt gadwedig.

º6 Ac yn y dechreuad pan ddifethwyd y cewri beilchion, gobaith y byd, trwy ffoi i long, a adawodd i'r byd had gened-igaeth, wedi ei llywodraethu a'th law di.

º7 Canys bendigedig yw'r pren trwy yr hwn y daw cyfiawnder:

º8 Eithr melltigedig yw'r hyn a wnaed 4 llaw, a'r hwn a'i gwnaeth: hwn am iddo ei weithio ef; a hwnnw, am ei alw ef yn dduw, ac yntau yn Uygredig.

º9 Yr annuwiol a'i annuwioldeb ydynt mor gas gan Dduw bob un a'i gilydd:

º10 Oherwydd yr hyn a wnaed, yng-hyd a'r hwn a'i gwnaeth, a gosbir.

º11 Am hynny y bydd ymweliad ar eilunod y Cenhedloedd; am eu gwneuthur hwy ymysg creaduriaid Duw yn meidd-dra, ac yn dramgwydd i eneidiau dynion, ac yn fagl i draed y rhai angall.

º12 Canys dechreuad godineb ysbrydol oedd ddychmygu eilunod, a'u caff-aeliad hwy oedd lygredigaeth buchedd.

º13 Oblegid o'r dechreuad nid oedd-ynt hwy, ac ni byddant yn dragywydd chwaith.

º14 Trwy ofer ffrost dynion y daethant i'r byd; ac am hynny y bydd eu di-wedd ar fyrder.

º15 Y tad yn gystuddiol trwy anam-serol alar am ei fab, yr hwn a ddygwyd ymaith yn gynnar, gwedi gwneuthur iddo ef ddelw, yn awr a'i haddolodd megis yn dduw, yr hwn oedd y pryd hwnnw yn ddyn marw, ac a roddes i'r rhai oedd dano seremoniau ac aberth-au.

º16 Yna y cadwyd, yn lle cyfraith, yr annuwiol ddefod, yr hon a gryfhasai mewn amser; ac wrth orchymyn teyrn-iaid yr addolwyd delwau cerfiedig:

º17 Y rhai ni allai dynion eu hanrhyd-eddu yn eu gwydd, am eu bod yn trigo ymhell, hwy a gymerasant lun eu gwedd hwynt o bell, ac a wnaethant hynod ddelw brenin, yr hwn a anrhyd-eddent, er mwyn trwy eu dyfalwch hwn wenieithio iddo ef oedd absennol, fel pe bai bresennol.

º18 A chwant y crefftwr i gael anrhyd-edd, a anogodd yr annysgedig i addoli fwyfwy.

º19 Oblegid efe ond odid yn ewyllysio rhyglyddu bodd llywydd, a ymegniiodd trwy ei gelfyddyd i osod y llun i'r gorau.

º20 A'r gwerin, wedi eu denu trwy degwch y gwaith, a gyfrifent yna yn dduw, yr hwn ychydig o'r blaen a berchid fel dyn.

º21 A hyn a fu yn achlysur i dwyllo'r byd: oherwydd dynion yn gwasan-aethu mewn drygfyd a than drahauster, a roddasant i gerrig a phrennau yr Enw anghyfrannog.

º22 Wedi hynny nid oedd ddigon cyf-eiliorni ynghylch adnabod Duw, eithr lle yr oeddynt yn byw ym mawr ryfel anwybodaeth, y mawr ddrygau hynny a alwent hwy yn heddwch.

º23 Oblegid tra oeddynt hwy yn lladd eu plant mewn aberthau, ac yn arfer dirgeledigaethau cuddiedig, neu yn gwneuthur ynfyd gyfeddach o seremoniau dieithr,

º24 Ni chadwent hwy na'u buchedd na'u priodas yn Ian: y naill a laddai'r Hall mewn cynllwyn, neu ai gofidiai trwy odineb.

º25 Pob peth oedd yn gymysglyd, gwaed a chelanedd, lladrad a thwyll, llygredigaeth, anffyddlondeb, terfysg, anudon,

º26 Aflonyddwch i'r rhai da, angof am gymwynas, halogedigaeth eneidiau, cyfhewid genedigaethau, anllyw-odraeth mewn priodasau, godineb, ac anlladrwydd.

º27 Oblegid addoliad eilunod, y rhai ni ddylid eu henwi, yw dechrau, ac achos, a diwedd, pob drygioni.

º28 Canys tra fyddont hwy yn llawenj y maent hwy naill ai yn ynfydu, ai yn proffwydo celwydd, ai yn byw yn ang-hyfiawn, ai yn tyngu anudon yn hawdd.

º29 Oblegid tra ydynt hwy yn coelio i eilunod meirw, er iddynt dyngu yn ddrwg, nid ydynt yn disgwyl dialedd.

º30 Eithr fe ddaw iddynt hwy yr hyn sy gyfiawn am y ddau, sef am feddwl am Dduw ar fai, gan lynu wrth eilunod; a thyngu yn anghyfiawn ac yn dwyll-odrus, gan ddirmygu sancteiddrwydd.

º31 Oblegid nid gallu y rhai y tyngir iddynt, eithr iawn gosb pechaduriaid, a ddaw byth ar drosedd y rhai anghyfiawn.


ºPENNOD 15 º1 "CITHR tydi, ein Duw, ydwyt dda-•»-< ionus a geirwir; yn hirymarhous, ac mewn trugaredd yn llywodraethu pob peth.

º2 Oblegid os pechwn ni, eiddot ti yd-ym ni, y rhai a wyddom dy gryfder: ond ni phechwn ni, a ninnau yn gwybod ein cyfrif yn eiddot ti.

º3 Canys cyfiawnder cyflawn yw dy adnabod di, a gwreiddyn tragwyddol-deb yw gwybod dy nerth.

º4 Canys ni thwyllodd drwg-gelfyddus ddychymyg dyn mohonom ni, na chysgod portreiadau poen ddiffrwyth, llun wedi ei fritho ag amryw liwiau;

º5 Golwg y rhai sydd yn peri chwant i'r rhai angall: ac felly y maent yn chwennych llun delw farw ddianadl.



º6 Rhai yn hoffi pethau drygionus, ac yn haeddu'r fath bethau i goelio idd-ynt, yw y rhai a'u gwnant, y rhai a'u chwenychant, y rhai a'u gwasanaeth-ant.

º7 Canys y crochenydd hefyd a dylina bridd meddal, ac a lunia yn boenus bob llestr i'n gwasanaeth ni; o'r un clai y llunia efe rai llestri i wasanaethu mewn gwaith glan, a rhai yr un modd i'r gwrthwyneb: i ba beth y gwasanaetha pob un o'r ddau fath hyn, y crochenydd ei nun sy farnwr.

º8 Ac o'r un clai, trwy ddrygionus been, y llunia efe dduw ofer, yr hwn a wnaethid ei hun o'r ddaear ychydig o'r blaen, ac ychydig wedi a a i'r hon y cymerwyd ef ohoni, pan ofynner yr einioes a fenthyciwyd iddo.

º9 Nid am ei fod ef yn cymryd poen, nac am fod ei hoedl ef yn fer, y mae ei ofal ef, eithr y mae efe yn ymryson a gofaint aur ac arian, ac yn dynwared y gofaint pres; ac y mae efe yn cyfrif yn anrhydedd iddo fod yn llunio pethau gau.

º10 Lludw yw ei galon ef, ei obaith hefyd sydd waelach na'r ddaear, a'i fywyd yn fwy amharchus na'r clai;

º11 Am nad adwaenai efe yr hwn a'i gwnaeth, a'r hwn a roddes enaid grym-iol iddo ef, ac a anadlodd ysbryd byw-iol ynddo.

º12 Eithr cyfrif y maent hwy mai chwarae yw ein heinioes ni, ac mai marsiand'iaeth i elwa yw ein bywyd; oblegid rhaid, meddant, yw elwa o ba le bynnag, hyd yn oed o ddrygioni.

º13 Canys hwn yn anad neb a wyr ei fod yn pechu, yr hwn sydd yn gwneuth-ur breuon lestri a delwau o ddefnydd daearol.

º14 A holl elynion dy bob! di y rhai a arglwyddiaethant arnynt, ydynt o'r fath ffolaf, ac yn anhapusach na phlant bychain;

º15 Oherwydd iddynt dybied bod holl eilunod y cenhedloedd yn dduwiau; i'r rhai nid oes na llygaid yn gwasanaethu i weled, na ffroenau i dynnu'r

awyr atynt na chlustiau i glywed, na bysedd dwylo i deimlo, a'u traed hwy sy ddiog i gerdded.

º16 Oblegid dyn a'u gwnaeth hwynt, a'r hwn nid oes ganddo ond benthyg ysbryd a'u lluniodd hwynt; eithr ni ddichon un dyn wneuthur duw tebyg iddo ei hun:

º17 Canys efe yn farwol a weithia beth marw a dwylo anwir: gwell yw efe ei hun na'r pethau y mae efe yn eu hadd-oli; oblegid efe a fu fyw unwaith, a hwythau ni buant erioed.

º18 Y maent hwy yn addoli'r anifeil-iaid casaf: oblegid wrth eu cydgyffel-ybu, y mae rhai yn waeth nag eraill.

º19 Nid ydynt mor deg ag anifeiliaid eraill i'w dymuno: canys methodd ganddynt gael na chlod gan Dduw, na'i fendith ef.

ºPENNOD 16 º1 AM hynny y cosbwyd hwynt ft'r •**• cyffelyb, fel yr haeddent, ac y dial-eddwyd hwynt a lliaws o anifeiliaid.

º2 Yn lle yr hwn ddialedd y gwnaeth-ost ti ddaioni i'th bobl dy hun, i ba rai, i godi eu chwant hwynt, paratoaist soflieir yn ymborth o flas dieithr:

º3 Fel y byddai iddynt hwy, yn chwen-nych ymborth, ddigaru'r peth oedd anghenraid ei chwennych, oherwydd golwg anhawddgar yr anifeiliaid a an-fonesid i'w mysg; ac y gwneid y rhai hyn, wedi eu bod dros ychydig ennyd mewn eisiau, yn gyfranogion o ar-chwaeth newydd.

º4 Oblegid yr oedd yn rhaid i angen, yr hwn ni ellid ei ochel, ddyfod ar y rhai hynny a arferasant drahauster: eithr i'r rhai hyn, digon oedd yn unig ddangos pa fodd y rhoed dialedd ar eu gelynion.

º5 Canys pan ddaeth creulon lid bwyst-filod ar y rhai hyn, a'u difetha hwynt & brathiadau seirff dolennog,

º6 Nid hyd y diwedd yr arhodd dy ddigofaint di: eithr i'w rhybuddio y blinwyd hwynt ychydig o ennyd, gan gael arwydd iachawdwriaeth, i beri

iddynt feddwl am orchymyn dy gyf-raith di;

º7 Obkgid yr hwn a drodd at yr arwydd hwnnw a iachawyd, nid gan yr hwn a welid, eithr gennyt ti, lachawd-wr pob peth.

º8 A thrwy hyn y gwnaethost ti i'n gelynion gredu mai tydi yw'r hwn sydd yn achub o bob drwg;

º9 Y rhai a laddodd brath locustiaid a chacwn; ac ni chaed meddyginiaeth iddynt: oblegid hwy a haeddent eu cosbi a'r cyfryw.

º10 Ond ni wnai dannedd dreigiau gwenwynig niwed i'th blant di: oblegid dy drugaredd di a ddeuai yn erbyn hynny, ac a'u hiachai hwynt.

º11 Canys i feddwl am dy ymadrodd-ion di y brathwyd hwynt; a hwy yn ebrwydd a iachawyd, fel, heb syrthio mewn dwfn angof, y cofient yn wastad dy ddaioni di.

º12 Oblegid nid llysieuyn nac eli a'u hiachaodd hwynt, eithr dy air di, O Ar-glwydd, yr hwn sydd yn iachau pob dim.

º13 Oherwydd y mae i ti feddiant ar einioes ac angau; ac yr ydwyt ti yn dwyn i waered hyd byrth uffern, ac yn dwyn i fyny drachefn.

º14 A dyn yn ei ddrygioni a ladd: a phan elo'r ysbryd allan, ni ddychwel efe; ac ni ddaw yn ei 61 yr enaid a gymerer i fyny.

º15 Eithr amhosibl yw dianc rhag dy law di.

º16 Oblegid annuwiolion, y rhai sydd yn gwadu eu bod yn dy adnabod di, a ffrewyllwyd o nerth dy fraich di, gan gael eu herlid a rhyfeddol law a chen-llysg, ac a chafodau heb allu eu gochel-yd; a hwy a ddifethwyd a than.

º17 A'r hyn sy ryfeddaf, y tan oedd yn gweithio fwyfwy yn y dwfr, yr hwn sydd yn diffoddi pob peth: canys y mae'r byd yn ymladd dros y rhai cyf-iawn.

º18 Canys weithiau fe fyddai lai y fflam, fel na losgai hi'r anifeiliaid a anfonesid yn erbyn y rhai annuwiol; eithr trwy weled, hwy a allent wybod eu hunain mai trwy farn Duw yr erlidid hwynt.

º19 Ac weithiau efe a losgai yrnysg y dwfr, yn fwy nag y gallai tan, i ddifetha ffrwyth tir anghyfiawn.

º20 Yn lle hynny a bwyd angylion y porthaist ti dy bobl dy hun; a thi a ddanfonaist iddynt hwy fara parod o'r nefoedd yn ddi-boen, yr hwn a wasan-aethai i bob hyfrydwch ac i bob ar-chwaeth yn gymwys.

º21 Canys dy ymborth di oedd yn dangos dy felystra i'th blant, ac yn gwasanaethu chwant y bwytawr, ac yn ymdymheru wrth fodd pob un.

º22 Yr eira hefyd a'r ia oedd yn di-oddef y tan, ac heb doddi: fel y gallent hwy wybod mai'r tan, yr hwn oedd yn ffaglu yn y cenllysg, ac yn llewyrchu yn y glaw, oedd yn difetha ffrwyth y gelynion.

º23 Hwn hefyd, fel y cai y rhai cyf-iawn eu cynnal, a ollyngodd ei allu dros gof.

º24 Oblegid y creadur, yr hwn sydd yn dy wasanaethu di, yr hwn a wnaeth-ost bob peth, a anelir i beri cosbed-igaeth ar yr anghyfiawn, ac a ddadan-elir i wneuthur daioni i'r rhai a ym-ddiriedant ynot ti.

º25 Am hynny efe yna yn ymrithio i bob peth, a wasanaethai dy ras di, yr hwn sydd yn maethu pob peth wrth ewyllys y rhai anghenus:

º26 Fel y dysgo dy blant y rhai sydd hoff gennyt ti, O Arglwydd, nad cyn-nyrch ffrwyth sydd yn porthi dyn, eithr mai dy air di sydd yn cadw y rhai a gredant ynot.

º27 Oblegid y peth ni ddifethodd y tan, wedi ei dwymo ychydig gan bel-ydr yr haul, a feiriolodd yn ebrwydd;

º28 Fel y byddai hysbys y dylid achub blaen yr haul i roddi diolch i ti, a gweddiio arnat ti ar doriad y dydd.

29 Oblegid gobaith yr anniolchgar a dawdd ymaith fel llwydrew'r gaeaf, ac a red ymaith fel dwfr di-fudd.


ºPENNOD 17 º1 DY farnedigaethau di sydd fawr, ac ni ellir eu traethu: am hynny yr aeth y rhai annysgedig ar gyfeiliorn.

º2 Oblegid y rhai anwir yn arncanu gorthrymu'r genedl sanctaidd, wedi eu gwarchae yn eu tai yn garcharorion tywyllwch, a'u llyffetheirio a rhwymau hirnos, a orweddasant yno, yn ffoadur-iaid oddi wrth y rhagluniaeth drag-wyddol.


º3 Canys pan dybiasant hwy lechu mewn cuddiedig bechodau, dan dywyll orchudd angof, hwy a wasgarwyd, wedi eu dychrynu yn aruthrol, a'u trallodi gan weledigaethau dieithr.

º4 Canys ni allai'r gilfach a'u daliai hwynt eu cadw yn ddi-ofn: eithr yr oedd twrf yn swnio o'u hamgylch, yr hwn oedd yn eu blino hwynt, a gweled-igaethau pruddaidd ag wyneb sarrug yn ymddangos iddynt.

º5 Nid oed dim gallu gan y tan i lewyr-chu: ac ni allai ddisglair lewyrch y ser oleuo'r nos erchyll honno.

º6 Eithr tan yn unig yn cynnau ohono ei hun, yn ofnadwy iawn, a ymddangos-odd iddynt; wedi eu dychrynu hwynt &'i weledigaeth honno ni welid, hwy a dybiasant fod y pethau a welid yn waeth.

º7 Felly y bwriwyd i lawr oferedd celfyddyd hudoliaeth, a'r gwaradwyddus gerydd a gafodd y rhai a wnaent ffrost o'u doethineb.

º8 Oblegid y rhai a addawsant yrru ymaith ofn a blinder oddi wrth enaid llesg, a aethant yn llesg eu hun rhag ofn yr hwn y gellid chwerthin am ei ben.

º9 Oherwydd er nad oedd dim erchyll yn eu hofni hwynt; er hynny wedi eu dychrynu wrth fynediad bwystfilod heibio, a chwibaniad seirff,

º10 Buant feirw o ofn, gan omedd edrych ar yr awyr, yr hwn nid oedd le i'w ochelyd.

º11 Canys peth ofnus yw drygioni, wedi rhoddi barn i'w erbyn wrth ei dystiolaeth ei hun; a'r gydwybod yn gwasgu arno sydd yn darogan pethau blin yn wastadol.

º12 Canys nid yw ofn ddim, ond bradychu yr help a gaffer gan reswm.

º13 A'r disgwyliad oddi fewn yn llai, a gyfrif yr anwybodaeth yn fwy na'r achos yr hwn sydd yn peri blinder.

º14 Eithr hwynt yn cysgu yr un hun y noson honno, yr hon ni ellid yn ddiau ei dioddef, ac a ddaethai arnynt o wael-odion uffern anocheladwy,

º15 Weithiau a flinid a gweledigaethau rhyfedd, ac weithiau a lewygent gan ball calon: canys ofn disymwth, ac heb edrych amdano, a ddaeth arnynt.

º16 Felly pwy bynnag a syrthiai yno, efe a gedwid, ac a gaeid mewn carchar heb haearn.

º17 Canys pa un bynnag ai llafurwr fyddai un, neu fugail, neu un yn gwneuthur y gwaith sydd yn y diffeith-wch, pan ddelid ef, efe a ddioddefai yr angen nis gellid ei ochelyd: oblegid ag un gadwyn tywyllwch y rhwymid hwynt oil.

º18 Pa un bynnag ai gwynt chwiban, ai hyfrydaidd sain adar ymysg y cang-hennau tewion, ai cysain dwfr yn cerdded yn chwyrn,

º19 Ai swn erchyll creigiau a fwrid i lawr, ai rhedfa anifeiliaid yn moelys-tota heb eu gweled, ai llais creulon bwystifilod rhuadwy, ai carreg lefain yn datseinio o ogofeydd y mynyddoedd; y pethau hyn a'u dychrynai hwy, fel y llewygent.

º20 Canys yr holl fyd a oleuid yn olau ddisglair, ac ni rwystrid neb yn eu gwaith:

º21 Yn unig arnynt hwy y daethai nos drom, cyffelybrwydd i'r tywyllwch a ddeuai arnynt; eithr yr oeddynt iddynt eu hunain yn flinach na'r tywyllwch.

ºPENNOD 18 º1 EITHR i'th saint di yr oedd goleuni o'r mwyaf: llais y rhai yr oeddynt hwy yn eu clywed, ond nid oeddynt yn gweled eu gwedd hwynt; a hwy a'u cyfrifasant hwynt yn ddedwydd, am na ddioddefasent hwythau yr un pethau.

º2 Rhoddasant hefyd iddynt ddiolch am na wnaethent niwed, wedi cael cam o'r blaen; a dymunasant faddeuant am fod yn elynion iddynt.

º3 Yn lle hynny y rhoddaist iddynt hwy golofn o dan poeth, i flaenori yn y daith anhysbys, ac i fod yn haul di-niwed i'r ymdaith barchedig.

º4 Yr oeddynt hwy yn ddiau yn haedd-u bod heb oleuni, a'u carcharu mewn tywyllwch, y rhai a gadwasant dy blant di yng ngharchar5 trwy y rhai yr oedd anllygredig oleuni'r gyfraith i'w roddi i'r byd.

º5 Pan amcanasent hwy ladd rhai bychain y saint, yna trwy un plentyn, yr hwn a fwriesid allan, ac a gadwesid i'w ceryddu hwynt, y cymeraist ymaith lawer o'u plant hwy, ac a'u difethaist hwynt ar unwaith yn y dwfr cryf.

º6 Bin tadau ni a gawsant wybodaeth am y nos honno o'r blaen; fel y bydd-ent lawen, am eu bod yn gwybod yn ddiogel i ba Iwon y credasent:

º7 Felly y derbyniodd dy bobl di iach-awdwriaeth y rhai cyfiawn, a dinistr y gelynion.

º8 Canys megis y cosbaist ti ein gwrth-wynebwyr, trwy'r un peth y rhoddaist anrhydedd i ni, y rhai a alwesit ti.

º9 Canys sanctaidd blant y rhai da-ionus a aberthasant yn ddirgel, ac a osodasant gyfraith dduwiol yn gytun; ar fod y rhai sanctaidd yr un modd yn gyfranogion o dda a drwg, a'u tadau yn awr yn canu o'r blaen ganiadau mawl.

º10 Eithr anghyson waedd y gelynion a ddatseiniodd o'r tu arall; a gresynol nad oedd yn cerdded am blant y galerid amdanynt.

º11 A'r un fath ddialedd y cosbid y gwas a'r meistr; yr un pethau yr oedd y gwreng a'r brenin yn eu dioddef.

º12 Rhai aneirif oedd ganddynt hwy oil, wedi meirw ar unwaith o'r un far-wolaeth, fel nad oedd digon o rai byw i'w claddu hwynt: canys mewn un foment y difethwyd eu hiliogaeth an-rhydeddusaf hwy.

º13 Canys lle na chredent ddim oher-wydd y swynion; pan ddifethwyd y cyntaf-anedig, y cyffesasant mai plant Duw oedd y bobl hyn.

º14 Oherwydd pan oedd pob peth mewn distawrwydd tawel, a'r nos yng nghanol ei gyrfa fuan,

º15 Dy hollalluog air di a neidiodd o'r nef o'th orseddfa frenhinol, i ganol y wlad ddinistriol, fel rhyfelwr ffrom,

º16 Gan arwain dy orchymyn diragrith di yn lle cleddyf llym, yr hwn a safodd, ac a lanwodd bob peth a marwolaeth, ac oedd yn cyffwrdd a'r nefoedd, er ei ddisgyn i'r ddaear.

º17 Yna gweledigaethau breuddwydion aruthrol a'u blinasant hwy yn ddisym-wth, a'r ofn nid oeddynt yn ei ddis-gwyl a ddaeth arnynt.

º18 Ac wedi bwrw un i lawr yma, ac arall acw, yn banner marw, hwy a fynegasant am ba achos yr oeddynt yn marw.

º19 Oblegid y breuddwydion, y rhai oedd yn eu blino hwynt, a raghysbys-asent hyn, fel na ddifethid hwynt heb wybod paham yr oeddynt yn dioddef niwed.

º20 Cyffyrddodd profedigaeth angau weithiau a'r rhai cyfiawn hefyd, a bu dinistr ar y dyrfa yn y diffeithwch: ond ni hir barhaodd y dieter;

º21 Oblegid y gwr difai a'u diffynnodd hwynt ar frys, gan arwain arfau ei swydd ei hun, sef gweddi, a iawn o arogl-darth, ac a safodd yn erbyn y Hid, ac a ddi-bennodd y cystudd, gan ddangos mai dy was di oedd efe.

º22 Ac efe a orchfygodd y dinistrydd, nid o gryfder corff, na thrwy waith arfau; eithr a gair y darostyngodd efe yr hwn oedd yn cystuddio, gan goffau llw a chyfamod y tadau.

º23 Canys pan oedd y meirw yn syrth-io ar ei gilydd yn dyrrau, efe a safodd yn y canol, ac a dorrodd y dieter, ac a rannodd y ffordd oedd yn myned at y byw.

º24 Oblegid yn y wisg laes yr oedd yr harddwch oil, a gogoniant y tadau yng ngherfiad y pedair rhes o feini, a'th fawredd dithau yn y goron am ei ben ef.

º25 I'r thai hy y rhoddes y dinistr-ydd le, ac a'u hofnodd hwynt: canys digon oedd yn unig brofi ohonynt y dieter.

ºPENNOD 19 º1 EITHR dieter didrugaredd a barha-odd hyd y diwedd i'r annuwiolion: oblegid efe a wyddai o'r blaen yr hyn a wnaent hwy;

º2 Sef wedi iddynt roddi cennad idd-ynt i fyned ymaith, a'u gyrru hwy ar frys, y byddai edifar ganddynt, ac yr erlidient hwynt;

º3 Canys pan oeddynt yn galaru ac yn wylofain with feddau'r meirw, hwy a ddychmygasant feddwl ynfyd arall; a'r rhai a yrasent allan dan ymbil a hwynt a erlidiasant hwy megis rhai yn ffoi.

º4 Oblegid y dynged a haeddent a'u harweiniodd hwynt i'r diwedd hwn, ac a wnaeth iddynt anghofio y pethau a ddigwyddasent eisoes, fel y cyflawnent hwy y gosbedigaeth oedd yn 61 i'w dialedd hwy:

º5 Ac fel y cai dy bobl di fyned trwy ffordd ryfedd, ac y caent hwythau far-wolaeth ddieithr:

º6 Oblegid pob creadur yn ei ryw ei hun a luniwyd drachefn o newydd, i wasanaethu'r gorchmynion priodol a roddwyd iddynt, fel y cedwid by Want di ya ddiniwed.

º7 Y cwmwl a gysgododd dros y gwer-syll; a lle y buasai dwfr o'r blaen, y gwelid tir sych, ie, yn y mor coch yr oedd ffordd ddi-rwystr, a maes yn dwyn gwelltglas yn y ffrwd chwyrn;

º8 Trwy yr hon yr aeth yr holl genedl a amddiffynnodd dy law di, gan weled gwyrthiau rhyfedd.

º9 Fel meirch y porthasid hwynt, ac fel ŵyn y llament hwy, gan dy fol-iannu di, O Arglwydd, eu Gwaredydd.

º10 Oblegid hwy a gofient eto y pethau a ddigwyddasai tra'r oeddynt yn ymdaith yn y wlad ddieithr; y modd yn lle epiliaeth anifeiliaid y dygasai'r ddaear allan wybed, ac y dygasai yr afon allan lawer o lyffaint yn lle pysg-od.

º11 Eithr wedi hynny hwy a welsant epiledd newydd o adar, pan ddygwyd hwynt trwy flys i ddymuno bwyd dant-eithiol:

º12 Oblegid soflieir a ddaeth i fyny o'r mor, yn ddiddanwch iddynt hwy.

º13 Ac ar y pechaduriaid y daeth dialedd, nid heb wyrthiau o'r blaen, trwy egni taranau: oherwydd yr oeddynt hwy yn haeddu dioddef am eu hanwir-edd; oblegid yr oeddynt yn dwyn dygn-gas i ddieithriaid.

º14 Canys y Sodomiaid ni dderbynient y rhai nid adwaenent, pan ddaethant: eithr y rhai hyn a gaethiwasant y di-eithriaid a wnaethai iddynt ddaioni.

º15 Ac nid hynny yn unig, eithr ysgat-fydd fe a edrychir peth ar y rhai hynny, am iddynt drin dieithriaid yn anghy-weithas.

º16 Eithr y rhai hyn wedi eu derbyn hwynt yn llawen, a gystuddiasant a phoenau aruthrol, y rhai oedd yn awr gyfranogion o'r un gyfraith.

º17 A'r rhai hyn a drawyd a dallineb, fel y trawsid y rhai hynny wrth ddrws y cyfiawn, pan geisiodd pob un y ffordd i'w ddrws ei hun, wedi eu hamgylchu a thywyllwch anferthol.

º18 Oblegid yr elfennau a newidiwyd ohonynt eu hunain yn gyson, fel y newidia sain cynghanedd mewn saltr-ing, enw y don, er bod y swn yn aros bob amser, megis y gellir ystyried wrth edrych yn graff ar y pethau a wnaed.

º19 Canys y pethau daearol a droed yn bethau o'r dwfr, a phethau nofiadwy a gerddasant ar y ddaear.

º20 Y tan oedd nerthol yn y dwfr, wedi gollwng dros gof ei rinwedd ei hun; a'r dwfr a anghofiasai ei natur-iaeth i ddiffoddi.

º21 Yn y gwrthwyneb, ni wnaeth y fflam nac i gnawd yr anifeiliaid llygradwy, y rhai a rodient ynddo, nac i'r anrhydeddaist ym mhob dim, O Ar- ymborth nefol, ddarfod, er ei fod fel ift glwydd: ac ni ddiystyraist hwynt; ond tawddadwy o rywogaeth i doddi. bod gyda hwynt bob amser, ac ym

º22 Canys dy bobl a fawrygaist ac a mhob lle.