Beibl (1620)/Effesiaid

Galatiaid Beibl (1620)
Effesiaid
Effesiaid
wedi'i gyfieithu gan William Morgan
Philipiaid

EPISTOL PAUL YR APOSTOL AT YR
EPHESIAID.

PENNOD 1

1:1 Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, at y saint sydd yn Effesus, a'r ffyddloniaid yng Nghrist Iesu:

1:2 Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist.

1:3 Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a'n bendithiodd ni â phob bendith ysbrydol yn y nefolion leoedd yng Nghrist:

1:4 Megis yr etholodd efe ni ynddo ef cyn seiliad y byd, fel y byddem yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron ef mewn cariad:

1:5 Wedi iddo ein rhagluniaethu ni i fabwysiad trwy Iesu Grist iddo ei hun, yn ôl bodlonrwydd ei ewyllys ef,

1:6 Er mawl gogoniant ei ras ef, trwy yr hwn y gwnaeth ni yn gymeradwy yn yr Anwylyd:

1:7 Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau, yn ôl cyfoeth ei ras ef;

1:8 Trwy yr hwn y bu efe helaeth i ni ym mhob doethineb a deall,

1:9 Gwedi iddo hysbysu i ni ddirgelwch ei ewyllys, yn ôl ei fodlonrwydd ei hun, yr hon a arfaethasai efe ynddo ei hun:

1:10 Fel yng ngoruchwyliaeth cyflawnder yr amseroedd, y gallai grynhoi ynghyd yng Nghrist yr holl bethau sydd yn y nefoedd, ac ar y ddaear, ynddo ef:

1:11 Yn yr hwn y'n dewiswyd hefyd, wedi ein rhagluniaethu yn ôl arfaeth yr hwn sydd yn gweithio pob peth wrth gyngor ei ewyllys ei hun:

1:12 Fel y byddem ni er mawl i'w ogoniant ef, y rhai o'r blaen a obeithiasom yng Nghrist.

1:13 Yn yr hwn y gobeithiasoch chwithau hefyd, wedi i chwi glywed gair y gwirionedd, efengyl eich iachawdwriaeth: yn yr hwn hefyd, wedi i chwi gredu, y'ch seliwyd trwy Laân Ysbryd yr addewid;

1:14 Yr hwn yw ernes ein hetifeddiaeth ni, hyd bryniad y pwrcas, i fawl ei ogoniant ef.

1:15 Oherwydd hyn minnau hefyd, wedi clywed eich ffydd yn yr Arglwydd Iesu, a'ch cariad tuag ar yr holl saint,

1:16 Nid wyf yn peidio â diolch drosoch, gan wneuthur coffa amdanoch yn fy ngweddïau;

1:17 Ar i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y gogoniant, roddi i chwi Ysbryd doethineb a datguddiad, trwy ei adnabod ef:

1:18 Wedi goleuo llygaid eich meddyliau; fel y gwypoch beth yw gobaith ei alwedigaeth ef, a pheth yw golud gogoniant ei etifeddiaeth ef yn y saint,

1:19 A pheth yw rhagorol fawredd ei nerth ef tuag atom ni y rhai ŷm yn credu, yn ôl gweithrediad nerth ei gadernid ef,

1:20 Yr hon a weithredodd efe yng Nghrist, pan ei cyfododd ef o feirw, ac a'i gosododd i eistedd ar ei ddeheulaw ei hun yn y nefolion leoedd,

1:21 Goruwch pob tywysogaeth, ac awdurdod, a gallu, ac arglwyddiaeth, a phob enw a enwir, nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn yr hwn a ddaw:

1:22 Ac a ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef, ac a'i rhoddes ef yn ben uwchlaw pob peth i'r eglwys,

1:23 Yr hon yw ei gorff ef, ei gyflawnder ef, yr hwn sydd yn cyflawni oll yn oll.


PENNOD 2

2:1 A chwithau a fywhaodd efe, pan oeddech feirw mewn camweddau a phechodau;

2:2 Yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ôl helynt y byd hwn, yn ôl tywysog llywodraeth yr awyr, yr ysbryd sydd yr awron yn gweithio ym mhlant anufudd-dod,

2:3 Ymysg y rhai hefyd y bu ein hymarweddiad ni oll gynt, yn chwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau y cnawd a'r meddyliau; ac yr oeddem ni wrth naturiaeth yn blant digofaint, megis eraill.

2:4 Eithr Duw, yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, oherwydd ei fawr gariad trwy yr hwn y carodd efe ni,

2:5 Ie, pan oeddem feirw mewn camweddau, a'n cydfywhaodd ni gyda Christ, (trwy ras yr ydych yn gadwedig;)

6 Ac a'n cydgyfododd, ac a'n gosododd i gydeistedd yn y nefolion leoedd yng Nghrist Iesu:

2:7 Fel y gallai ddangos yn yr oesoedd a ddeuai, ragorol olud ei ras ef, trwy ei gymwynasgarwch i ni yng Nghrist Iesu.

2:8 Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd; a hynny nid ohonoch eich iunain: rhodd Duw ydyw:

2:9 Nid o weithredoedd, fel nad ymffrostiai neb.

2:10 Canys ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a ragddarparodd Duw, fel y rhodiem ni ynddynt.

2:11 Am hynny cofiwch, a chwi gynt yn Genhedloedd yn y cnawd, y rhai a elwid yn ddienwaediad, gan yr hyn a elwir enwaediad o waith llaw yn y cnawd;

2:12 Eich bod chwi y pryd hwnnw heb Grist, wedi eich dieithrio oddi wrth wladwriaeth Israel, ac yn estroniaid oddi wrth amodau'r addewid, heb obaith gennych, ac heb Dduw yn y byd:

2:13 Eithr yr awron yng Nghrist Iesu, chwychwi, y rhai oeddech gynt ymhell, a wnaethpwyd yn agos trwy waed Crist.

2:14 Canys efe yw ein tangnefedd ni, yr hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a ddatododd ganolfur y gwahaniaeth rhyngom ni:

2:15 Ac a ddirymodd trwy ei gnawd ei hun y gelyniaeth, sef deddf y gorchmynion mewn ordeiniadau, fel y creai'r ddau ynddo'i hun yn un dyn newydd, gan wneuthur heddwch;

2:16 Ac fel y cymodai'r ddau â Duw yn un corff trwy'r groes, wedi lladd y gelyniaeth trwyddi hi.

2:17 Ac efe a ddaeth, ac a bregethodd dangnefedd i chwi'r rhai pell, ac i'r rhai agos.

2:18 Oblegid trwyddo ef y mae i ni ein dau ddyfodfa mewn un Ysbryd at y Tad.

2:19 Weithian gan hynny nid ydych chwi mwyach yn ddieithriaid a dyfodiaid, ond yn gyd-ddinasyddion â'r saint, ac yn deulu Duw;

2:20 Wedi eich goruwchadeiladu ar sail yr apostolion a'r proffwydi, ac Iesu Grist ei hun yn benconglfaen;

2:21 Yn yr hwn y mae'r holl adeilad wedi ei chymwys gydgysylitu, yn cynyddu'n deml sanctaidd yn yr Arglwydd:

2:22 Yn yr hwn y'ch cydadeiladwyd chwithau yn breswylfod i Dduw trwy'r Ysbryd.


PENNOD 3

3:1 Er mwyn hyn, myfi Paul, carcharor Iesu Grist trosoch chwi'r Cenhedloedd;

3:2 Os clywsoch am oruchwyliaeth gras Duw, yr hon a roddwyd i mi tuag atoch chwi:

3:3 Mai trwy ddatguddiad yr hysbysodd efe i mi y dirgelwch, (megis yr ysgrifennais o'r blaen ar ychydig eiriau,

3:4 Wrth yr hyn y gellwch, pan ddarllenoch, wybod fy neall i yn nirgelwch Crist,)

3:5 Yr hwn yn oesoedd eraill nid eglurwyd i feibion dynion, fel y mae yr awron wedi ei ddatguddio i'w sanctaidd apostolion a'i broffwydi trwy'r Ysbryd;

3:6 Y byddai'r Cenhedloedd yn gyd-etifeddion, ac yn gyd-gorff, ac yn gyd-gyfranogion o'i addewid ef yng Nghrist, trwy'r efengyl:

3:7 I'r hon y'm gwnaed i yn weinidog, yn ôl rhodd gras Duw yr hwn a roddwyd i mi, yn ôl grymus weithrediad ei allu ef.

3:8 I mi, y llai na'r lleiaf o'r holl saint, y rhoddwyd y gras hwn, i efengylu ymysg y Cenhedloedd anchwiliadwy olud Crist;

3:9 Ac i egluro i bawb beth yw cymdeithas y dirgelwch, yr hwn oedd guddiedig o ddechreuad y byd yn Nuw, yr hwn a greodd bob peth trwy Iesu Grist:

3:10 Fel y byddai yr awron yn hysbys i'r tywysogaethau ac i'r awdurdodau yn y nefolion leoedd, trwy'r eglwys, fawr amryw ddoethineb Duw,

3:11 Yn ôl yr arfaeth dragwyddol yr hon a wnaeth efe yng Nghrist Iesu ein Harglwydd ni:

3:12 Yn yr hwn y mae i ni hyfdra, a dyfodfa mewn hyder, trwy ei ffydd ef.

3:13 Oherwydd paham yr wyf yn dymuno na lwfrhaoch oblegid fy mlinderau i drosoch, yr hyn yw eich gogoniant chwi.

3:14 Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau at Dad ein Harglwydd Iesu Grist,

3:15 O'r hwn yr enwir yr holl deulu yn y nefoedd ac ar y ddaear,

3:16 Ar roddi ohono ef i chwi, yn ôl cyfoeth ei ogoniant, fod wedi ymgadarnhau mewn nerth, trwy ei Ysbryd ef, yn y dyn oddi mewn;

3:17 Ar fod Crist yn trigo trwy ffydd yn eich calonnau chwi,

3:18 Fel y galloch, wedi eich gwreiddio a'ch seilio mewn cariad, amgyffred gyda'r holl saint, beth yw'r lled, a'r hyd, a'r dyfnder, a'r uchder;

3:19 A gwybod cariad Crist, yr hwn sydd uwchlaw gwybodaeth, fel y'ch cyflawner a holl gyflawnder Duw.

3:20 Ond i'r hwn a ddichon wneuthur yn dra rhagorol, y tu hwnt i bob peth yr ydym ni yn eu dymuno, neu yn eu meddwl, yn ôl y nerth sydd yn gweithredu ynom ni,

3:21 Iddo ef y byddo'r gogoniant yn yr eglwys trwy Grist Iesu, dros yr holl genedlaethau, hyd yn oes oesoedd. Amen.


PENNOD 4

4:1 Deisyf gan hynny arnoch yr wyf fi, y carcharor yn yr Arglwydd, ar rodio ohonoch yn addas i'r alwedigaeth y'ch galwyd iddi,

4:2 Gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, ynghyd a hirymaros, gan oddef eich gilydd mewn cariad;

4:3 Gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Ysbryd yng nghwlwm tangnefedd.

4:4 Un corff sydd, ac un Ysbryd, megis ag y'ch galwyd yn un gobaith eich galwedigaeth;

4:5 Un Arglwydd, un ffydd, un bedydd,

4:6 Un Duw a Thad oll, yr hwn sydd goruwch oll, a thrwy oll, ac ynoch oll.

4:7 Eithr i bob un ohonom y rhoed gras, yn ôl mesur dawn Crist.

4:8 Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd. Pan ddyrchafodd i'r uchelder, efe a gaethiwodd gaethiwed, ac a roddes roddion i ddynion.

4:9 (Eithr efe a ddyrchafodd, beth yw ond darfod iddo hefyd ddisgyn yn gyntaf i barthau isaf y ddaear?

4:10 Yr hwn a ddisgynnodd, yw'r hwn hefyd a esgynnodd goruwch yr holl nefoedd, fel y cyflawnai bob peth.)

4:11 Ac efe a roddes rai yn apostolion, a rhai yn broffwydi, a rhai yn efengylwyr, a rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon;

4:12 I berffeithio'r saint, i waith y weinidogaeth, i adeilad corff Crist:

4:13 Hyd onid ymgyfarfyddom oll yn undeb ffydd, a gwybodaeth Mab Duw, yn ŵr perffaith, at fesur oedran cyflawnder Crist:

4:14 Fel na byddom mwyach yn blantos, yn bwhwman, ac yn ein cylcharwain â phob awel dysgeidiaeth, trwy hoced dynion, trwy gyfrwystra i gynllwyn i dwyllo:

4:15 Eithr, gan fod yn gywir mewn cariad, cynyddu ohonom iddo ef ym mhob peth, yr hwn yw'r pen, sef Crist:

4:16 O'r hwn y mae'r holl gorff wedi ei gydymgynnull a'i gydgysylltu, trwy bob cymal cynhaliaeth, yn ôl y nerthol weithrediad ym mesur pob rhan, yn gwneuthur cynnydd y corn, i'w adeiladu ei hun mewn cariad.

4:17 Hyn gan hynny yr wyf yn ei ddywedyd, ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwyach fel y mae'r Cenhedloedd eraill yn rhodio, yn oferedd eu meddwl,

4:18 Wedi tywyllu eu deall, wedi ymddieithrio oddi wrth fuchedd Dduw, trwy'r anwybodaeth sydd ynddynt, trwy ddallineb eu calon:

4:19 Y rhai wedi diddarbodi, a ymroesant i drythyllwch, i wneuthur pob aflendid yn unchwant.

4:20 Eithr chwychwi, nid felly y dysgasoch Grist,

4:21 Os bu i chwi ei glywed ef, ac os dysgwyd chwi ynddo, megis y mae'r gwirionedd yn yr Iesu:

4:22 Dodi ohonoch heibio, o ran yr ymarweddiad cyntaf, yr hen ddyn, yr hwn sydd lygredig yn ôl y chwantau twyllodrus;

4:23 Ac ymadnewyddu yn ysbryd eich meddwl;

4:24 A gwisgo'r dyn newydd, yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd.

4:25 Oherwydd paham, gan fwrw ymaith gelwydd, dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog: oblegid aelodau ydym i'n gilydd.

4:26 Digiwch, ac na phechwch: na fachluded yr haul ar eich digofaint chwi:

4:27 Ac na roddwch le i ddiafol.

4:28 Yr hwn a ladrataodd, na ladrated mwyach: eithr yn hytrach cymered boen, gan weithio â'i ddwylo yr hyn sydd dda; fel y byddo ganddo beth i'w gyfrannu i'r hwn y mae angen arno.

4:29 Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o'ch genau chwi, ond y cyfryw un ag a fyddo da i adeiladu yn fuddiol, fel y paro ras i'r gwrandawyr.

4:30 Ac na thristewch Lân Ysbryd Duw, trwy'r hwn y'ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth.

4:31 Tynner ymaith oddi wrthych bob chwerwedd, a llid, a dig, a llefain, a chabledd, gyda phob drygioni:

4:32 A byddwch gymwynasgar i'ch gilydd, yn dosturiol, yn maddau i'ch gilydd, megis y maddeuodd Duw er mwyn Crist i chwithau.


PENNOD 5

5:1 Byddwch gan hynny ddilynwyr Duw, fel plant annwyl;

5:2 A rhodiwch mewn cariad, megis y carodd Crist ninnau, ac a'i rhoddodd ei hun drosom ni, yn offrwrn ac yn aberth i Dduw o arogl peraidd.

5:3 Eithr godineb, a phob aflendid, neu gybydd-dra, nac enwer chwaith yn eich plith, megis y gweddai i saint;

5:4 Na serthedd, nac ymadrodd ffôl, na choeg ddigrifwch, pethau nid ydynt weddus: eithr yn hytrach rhoddi diolch.

5:5 Canys yr ydych chwi yn gwybod hyn, am bob puteiniwr, neu aflan, neu gybydd, yr hwn sydd ddelw-addolwr, nad oes iddynt etifeddiaeth yn nheyrnas Crist a Duw.

5:6 Na thwylled neb chwi â geiriau ofer: canys oblegid y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd-dod.

5:7 Na fyddwch gan hynny gyfranogion a hwynt.

5:8 Canys yr oeddech chwi gynt yn dywyllwch, ond yr awron goleuni ydych yn yr Arglwydd: rhodiwch fel plant y goleuni;

5:9 (Canys ffrwyth yr Ysbryd sydd ym mhob daioni, a chyfiawnder, a gwirionedd;)

5:10 Gan brofi beth sydd gymeradwy gan yr Arglwydd.

5:11 Ac na fydded i chwi gydgyfeillach a gweithredoedd anffrwythlon y tywyllwch, eithr yn hytrach argyhoeddwch hwynt.

5:12 Canys brwnt yw adrodd y pethau a wneir ganddynt hwy yn ddirgel.

5:13 Eithr pob peth, wedi yr argyhoedder, a eglurir gan y goleuni: canys beth bynnag sydd yn egluro, goleuni yw.

5:14 Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd, Deffro di yr hwn wyt yn cysgu, a chyfod oddi wrth y meirw; a Christ a oleua i ti.

5:15 Gwelwch gan hynny pa fodd y rhodioch yn ddiesgeulus, nid fel annoethion, ond fel doethion;

5:16 Gan brynu'r amser, oblegid y dyddiau sydd ddrwg.

5:17 Am hynny na fyddwch annoethion, eithr yn deall beth yw ewyllys yr Arglwydd.

5:18 Ac na feddwer chwi gan win, yn yr hyn y mae gormodedd; eithr llanwer chwi â'r Ysbryd;

5:19 Gan lefaru wrth eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odiau ysbrydol; gan ganu a phyncio yn eich calon i'r Arglwydd;

5:20 Gan ddiolch yn wastad i Dduw a'r Tad am bob peth, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist;

5:21 Gan ymddarostwng i'ch gilydd yn ofn Duw.

5:22 Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr priod, megis i'r Arglwydd.

5:23 Oblegid y gŵr yw pen y wraig, megis ag y mae Crist yn ben i'r eglwys; ac efe yw Iachawdwr y corff.

5:24 Ond fel y mae'r eglwys yn ddarostyngedig i Grist, felly hefyd bydded y gwragedd i'w gwŷr priod ym mhob peth.

5:25 Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, megis ag y carodd Crist yr eglwys, ac a'i rhoddes ei hun drosti;

5:26 Fel y sancteiddiai efe hi, a'i glanhau a'r olchfa ddwfr trwy y gair;

5:27 Fel y gosodai efe hi yn ogoneddus iddo ei hun, yn eglwys heb arni na brycheuyn na chrychni, na dim o'r cyfryw; ond fel y byddai yn sanctaidd ac yn ddifeius.

5:28 Felly y dylai'r gwyâr garu eu gwragedd, megis eu cyrff eu hunain. Yr hwn a garo ei wraig, sydd yn ei garu ei hun.

5:29 Canys ni chasaodd neb erioed ei gnawd ei hun, eithr ei fagu a'i feithrin y mae, megis ag y mae'r Arglwydd am yr eglwys:

5:30 Oblegid aelodau ydym o'i gorff ef, o'i gnawd ef, ac o'i esgyrn ef.

5:31 Am hynny y gad dyn ei dad a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig, a hwy a fyddant ill dau yn un cnawd.

5:32 Y dirgelwch hwn sydd fawr: eithr am Grist ac am yr eglwys yr wyf fi yn dywedyd.

5:33 Ond chwithau hefyd cymain un, felly cared pob un ohonoch ei wraig, fel ef ei hunan; a'r wraig edryched ar iddi berchi ei gŵr.


PENNOD 6

6:1 Y plant, ufuddhewch i'ch rhieni yn yr Arglwydd: canys hyn sydd gyfiawn.

6:2 Anrhydedda dy dad a'th fam, (yr hwn yw'r gorchymyn cyntaf mewn addewid,)

6:3 Fel y byddo yn dda i ti, ac fel y byddech hir-hoedlog ar y ddaear.

6:4 A chwithau dadau, na yrrwch eich plant i ddigio; ond maethwch hwynt yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd.

6:5 Y gweision, ufuddhewch i'r rhai sydd arglwyddi i chwi yn ôl y cnawd, gydag ofn a dychryn, yn symlrwydd eich calon, megis i Grist;

6:6 Nid a golwg-wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, ond fel gweision Crist, yn gwneuthur ewyllys Duw o'r galon;

6:7 Trwy ewyllys da yn gwneuthur gwasanaeth, megis i'r Arglwydd, ac nid i ddynion:

6:8 Gan wybod mai pa ddaioni bynnag a wnelo pob un, hynny a dderbyn efe gan yr Arglwydd, pa un bynnag ai caeth ai rhydd fyddo.

6:9 A chwithau feistriaid, gwnewch yr un pethau tuag atynt hwy, gan roddi bygwth heibio: gan wybod fod eich Arglwydd chwi a hwythau yn y nefoedd; ac nid oes derbyn wyneb gydag ef.

6:10 Heblaw hyn, fy mrodyr, ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac yng nghadernid ei allu ef.

6:11 Gwisgwch holl arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol.

6:12 Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd.

6:13 Am hynny cymerwch atoch holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg; ac wedi gorffen pob peth, sefyll.

6:14 Sefwch gan hynny, wedi amgylchwregysu eich lwynau â gwirionedd, a gwisgo dwyfronneg cyfiawnder;

6:15 A gwisgo am eich traed esgidiau paratoad efengyl tangnefedd:

6:16 Uwchlaw pob dim, wedi cymryd tarian y ffydd, a'r hon y gellwch ddiffoddi holl bicellau tanllyd y fall.

6:17 Cymerwch hefyd helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw gair Duw:

6:18 Gan weddio bob amser a phob rhyw weddi â deisyfiad yn yr Ysbryd, a bod yn wyliadwrus at hyn yma, trwy hob dyfalbara, a deisyfiad dros yr holl saint,

6:19 A throsof finnau, fel y rhodder i mi ymadrodd, trwy agoryd fy ngenau yn hy, i hysbysu dirgelwch yr efengyl;

6:20 Dros yr hon yr wyf yn gennad mewn cadwyn: fel y traethwyf yn hy amdani, fel y perthyn imi draethu.

6:21 Ond fel y gwypoch chwithau hefyd fy helynt, beth yr wyf yn ei wneuthur, Tychicus, y brawd annwyl a'r gweinidog ffyddlon yn yr Arglwydd, a hysbysa i chwi bob peth:

6:22 Yr hwn a anfonais atoch er mwyn hyn yma; fel y caech wybod ein helynt ni, ac fel y diddanai efe eich calonnau chwi.

6:23 Tangnefedd i'r brodyr, a chariad gyda ffydd, oddi wrth Dduw Dad, a'r Arglwydd Iesu Grist.

6:24 Gras fyddo gyda phawb sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn purdeb. Amen.

At yr Effesiaid yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda Thychicus.