Beibl (1620)/Lefiticus

Exodus Beibl (1620)
Lefiticus
Lefiticus

wedi'i gyfieithu gan William Morgan
Numeri

Trydydd llyfr Moses yr hwn a elwir
Lefiticus.

Pennod I.

1 Trefn y poeth-offrymmau, 3 o eidionau, 10 o ddefaid, neu eifr, 14 ac o adar.

A’r Argllwydd a alwodd ar Moses, ac a lefarodd wrtho o babell y cyfarfod, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddygo dyn o honoch offrwm i’r Arglwydd, o anifail, sef o’r eidionau, neu o’r praidd, yr offrym­mwch eich offrwm.

3 Os poeth-offrwm o eidion fydd ei offrwm ef, offrymmed ef yn wrryw perffeith-gwbl; a dyged ef o’i ewyllys ei hun i ddrws pabell y cyfarfod, ger bron yr Arglwydd.

4 A gosoded ei law ar ben y poeth-offrwm, ac fe a’i cymmerir ef yn gymmer­adwy ganddo, i wneuthur cymmod drosto.

5 Lladded hefyd yr eidion ger bron yr Arglwydd; a dyged meibion Aaron, yr offeir­iaid, y gwaed, a thaenell­ant y gwaed o amgylch ar yr allor, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.

6 A blinged y poeth-offrwm, a thorred ef yn ei ddarnau.

7 A rhodded meibion Aaron yr offeiriad dân ar yr allor, a gosodant goed mewn trefn ar y tân.

8 A gosoded meibion Aaron, yr offeir­iaid, y darnau, y pen, a’r brasder, mewn trefn ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor.

9 Ond ei berfedd a’i draed a ylch efe mewn dwfr: a’r offeiriad a lysg y cwbl ar yr allor, yn boeth-offrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.

10 ¶ Ac os o’r praidd, sef o’r defaid, neu o’r geifr, yr offrymma efe boeth-offrwm; offrymmed ef yn wrryw perffeith-gwbl.

11 A lladded ef ger bron yr Arglwydd, o du y gogledd i’r allor; a thaenell­ed meibion Aaron, yr offeir­iaid, ei waed ef ar yr allor o amgylch.

12 A thorred ef yn ei ddarnau, gyd â’i ben a’i frasder; a gosoded yr offeiriad hwynt ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor.

13 Ond golched y perfedd a’r traed mewn dwfr: a dyged yr offeiriad y cwbl, a llosged ar yr allor. Hwn sydd boeth-offrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.

14 ¶ Ac os poeth-offrwm o aderyn fydd ei offrwm ef i’r Arglwydd; yna dyged ei offrwm o durturau, neu o gywion colomennod.

15 A dyged yr offeiriad ef at yr allor, a thorred ei ben ef, a llosged ef ar yr allor; a gwasger ei waed ef ar ystlys yr allor.

16 A thynned ymaith ei grombil ef ynghyd â’i blu, a bwried hwynt gerllaw yr allor, o du y dwyrain, i’r lle y byddo y lludw.

17 Hollted ef, a’i esgyll hefyd; etto na wahaned ef: a llosged yr offeiriad ef ar yr coed a fyddant ar y tân. Dyma boethoffrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.


Pennod II.

1 Y bwyd-offrwm tanllyd gyd âg olew ac arogldarth; 4 naill ai wedi ei bobi mewn ffwrn, 5 ai ar radell, 7 ai mewn padell ffrïo: 12 neu o’r blaen-ffrwyth yn y dywysen. 13 Halen y bwyd-offrwm.

Pan offrymo dyn fwyd-offrwm i’r Arglwydd, bydded ei offrwm ef o beilliaid; a thywallted olew arno, a rhodded thus arno.

2 A dyged ef at feibion Aaron, yr offeiriaid: a chymmered efe oddi yno lonaid ei law o’i beilliaid, ac o’i olew, ynghyd â’i holl thus; a llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ar yr allor, yn offrwm tanllyd o arogl peraidd i’r Arglwydd.

3 A bydded gweddill y bwyd-offrwm i Aaron ac i’w feibion: sancteiddbeth o danllyd offrymmau yr Arglwydd ydyw.

4 ¶ Hefyd pan offrymmech fwyd-offrwm, wedi ei bobi mewn ffwrn, teisen beilliaid groyw, wedi ei chymmysgu trwy olew, neu afrllad croyw wedi eu heneinio âg olew, a fydd.

5 ¶ Ond os bwyd-offrwm ar radell fydd dy offrwm di, bydded o beilliaid wedi ei gymmysgu yn groyw trwy olew.

6 Tor ef yn ddarnau, a thywallt arno olew; bwyd-offrwm yw.

7 ¶ Ac os bwyd-offrwm padell fydd dy offrwm, gwneler o beilliaid trwy olew.

8 A dwg i’r Arglwydd y bwyd-offrwm, yr hwn a wneir o’r rhai hyn: ac wedi y dyger at yr offeiriad, dyged yntau ef at yr allor.

9 A choded yr offeiriad ei goffadwriaeth o’r bwyd-offrwm, a llosged ef ar yr allor; yn offrwm tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.

10 A bydded i Aaron ac i’w feibion weddill y bwyd-offrwm: sancteiddbeth o danllyd offrymmau yr Arglwydd ydyw.

11 Na wneler yn lefeinllyd ddim bwyd-offrwm a offrymoch i’r Arglwydd; canys dim surdoes, na mêl, ni losgwch yn offrwm tanllyd i’r Arglwydd.

12 ¶ Offrymwch i’r Arglwydd offrwm y blaen-ffrwyth; ond na losger hwynt ar yr allor yn arogl peraidd.

13 Dy holl fwyd-offrwm hefyd a hellti di â halen; ac na phalled halen cyfammod dy Dduw o fod ar dy fwyd-offrwm: offryma halen ar bob offrwm i ti.

14 Ac os offrymmi i’r Arglwydd fwyd-offrwm y ffrwythau cyntaf; tywysennau irion wedi eu crasu wrth y tân, sef ŷd a gurir allan o’r dywysen lawn, a offrymmi di yn fwyd-offrwm dy ffrwythau cyntaf.

15 A dod olew arno, a gosod thus arno: bwyd-offrwm yw.

16 A llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ef o’i ŷd wedi ei guro allan, ac o’i olew, ynghyd â’i holl thus: offrwm tanllyd i’r Arglwydd yw.


Pennod III.

1 Yr aberth hedd o eidion, 6 o’r praidd: 7 naill ai oen, 12 ai gafr.

Ac os aberth hedd fydd ei offrwm ef, pan offrymmo efe eidion, offrymmed ef gerbron yr Arglwydd yn berffeith-gwbl; pa un bynnag ai yn wrryw ai yn fenyw.

2 A rhodded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef wrth ddrws pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed ar yr allor o amgylch.

3 Ac offrymmed o’r aberth hedd aberth tanllyd i’r Arglwydd; sef y weren fol, a’r holl wer a fydd ar y perfedd.

4 A’r ddwy aren, a’r gwer a fyddo arnynt hyd y tenewyn, a’r rhwyden hefyd a fydd oddi ar yr afu, a dỳn efe ymaith, ynghyd â’r arennau.

5 A llosged meibion Aaron hynny ar yr allor, ynghyd â’r offrwm poeth sydd ar y coed a fyddant ar y tân, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.

6 ¶ Ac os o’r praidd y bydd yr hyn a offrymmo efe yn hedd-aberth i’r Arglwydd, offrymmed ef yn wrryw neu yn fenyw perffaith-gwbl.

7 Os oen a offrymma efe yn ei offrwm; yna dyged ger bron yr Arglwydd.

8 A gosododd ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei waed ef ar yr allor oddi amgylch.

9 Ac offrymmed o’r aberth hedd yn aberth tanllyd i’r Arglwydd; ei weren, a’r gloren i gyd: torred hi ymaith wrth asgwrn y cefn, ynghyd â’r weren fol, a’r holl wer a fyddo ar y perfedd;

10 A’r ddwy aren, a’r gwer a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dỳn efe ymaith.

11 A llosged yr offeiriad hyn ar yr allor: bwyd-aberth tanllyd i’r Arglwydd ydyw.

12 ¶ Ac os gafr fydd ei offrwm ef; dyged hi ger bron yr Arglwydd.

13 A gosoded ei law ar ei phen, a lladded hi o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei gwaed hi ar yr allor o amgylch.

14 Ac offrymmed o hynny ei offrwm o aberth tanllyd i’r Arglwydd; sef y weren fol, a’r holl wer a fyddo ar y perfedd;

15 A’r ddwy aren, a’r gwer a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dỳn efe ymaith.

16 A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor: bwyd-aberth tanllyd o arogl peraidd ydyw. Yr holl wer sydd eiddo yr Arglwydd.

17 Deddf dragywyddol trwy eich cenhedlaethau yn eich holl anneddau, yw: na fwyttaoch ddim gwer, na dim gwaed.


Pennod IV.

1 Aberthau dros bechod, 3 a wnelai yr offeiriad, 13 neu yr holl gynnulleidfa, 22 neu y pennaeth, 27 neu y bobl, mewn anwybod.

Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan becho dyn mewn anwybod yn erbyn yr un o orchymynion yr Arglwydd, a gwneuthur yn erbyn un o honynt y pethau ni ddylid eu gwneuthur:

3 Os offeiriad enneiniog a becha yn ol pechod y bobl; offrymmed, dros ei bechod a wnaeth, fustach ieuangc perffeith-gwbl, yn aberth dros bechod i’r Arglwydd.

4 A dyged y bustach i ddrws pabell y cyfarfod, ger bron yr Arglwydd, a gosoded ei law ar ben y bustach, a lladded y bustach ger bron yr Arglwydd.

5 A chymmered yr offeiriad enneiniog o waed y bustach, a dyged ef i babell y cyfarfod.

6 A throched yr offeiriad ei fys yn y gwaed, a thaenelled o’r gwaed ger bron yr Arglwydd seithwaith, o flaen gwahanlen y cyssegr.

7 A gosoded yr offeiriad beth o’r gwaed ger bron yr Arglwydd ar gyrn allor yr arogl-darth peraidd, yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thywallted holl waed arall y bustach wrth droed allor y poethoffrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.

8 A thynned holl wer bustach yr aberth dros bechod oddi wrtho; y weren fol, a’r holl wer fyddo ar y perfedd;

9 A’r ddwy aren, a’r gwer a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, a dỳn efe ymaith, ynghyd â’r arennau;

10 Megis y tynnodd o fustach yr aberth hedd: a llosged yr offeiriad hwynt ar allor y poethoffrwm.

11 Ond croen y bustach, a’i holl gig, ynghyd â’i ben, a’i draed, a’i berfedd, a’i fiswail,

12 A’r holl fustach hefyd, a ddwg efe allan i’r tu allan i’r gwersyll, i le glân, wrth dywalltfa y lludw; ac a’i llysg ar goed yn tân; wrth dywalltfa y lludw y llosgir ef.

13 ¶ Ac os holl gynnulleidfa Israel a becha mewn anwybod, a’r peth yn guddiedig o olwg y gynnulleidfa, a gwneuthur o honynt yn erbyn yr un o orchymynion yr Arglwydd, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur, a myned yn euog:

14 Pan wypir y pechod y pechasant ynddo; yna offrymmed y gynnulleidfa fustach ieuangc dros y pechod, a dygant ef o flaen pabell y cyfarfod.

15 A gosoded henuriaid y gynnulleidfa eu dwylaw ar ben y bustach ger bron yr Arglwydd, a lladdant y bustach ger bron yr Arglwydd.

16 A dyged yr offeiriad enneiniog o waed y bustach i babell y cyfarfod.

17 A throched yr offeiriad ei fys yn y gwaed, a thaenelled ger bron yr Arglwydd seithwaith, o flaen y wahanlen.

18 A gosoded o’r gwaed ar gyrn yr allor sydd ger bron yr Arglwydd, sef yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thy­wallted yr holl waed arall wrth waelod allor y poeth-offrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.

19 A thynned ei holl wer allan o hono, a llosged ar yr allor.

20 A gwnaed i’r bustach hwn megis y gwnaeth i fustach y pech-aberth; felly gwnaed iddo: a’r offeiriad a wna gymmod drostynt; ac fe a faddeuir iddynt.

21 A dyged y bustach allan i’r tu allan i’r gwersyll, a llosged ef fel y llosgodd y bustach cyntaf. Dyma aberth dros bechod y gynnu­lleidfa.

22 ¶ Os pecha pennaeth, a gwneuthur mewn anwybod yn erbyn yr un o orchy­mynion yr Arglwydd ei Dduw, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog;

23 Neu os daw i wybod ei fai yr hwn a wnaeth: dyged ei offrwm o lwdn gafr gwryw perffeith-gwbl.

24 A gosoded ei law ar ben y llwdn, a lladded ef yn y lle y lleddir y poeth-offrwm, ger bron yr Arglwydd. Dyma aberth dros bechod.

25 A chymmered yr offeiriad o waed yr aberth dros bechod â’i fys, a gosoded ar gyrn allor y poeth-offrwm, a thy­wallted ei waed ef wrth waelod allor y poeth-offrwm.

26 A llosged ei holl wer ar yr allor, fel gwer yr aberth hedd: a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto am ei bechod; a maddeuir iddo.

27 Ac os pecha neb o bobi y wlad mewn anwybod, gan wneuthur yn erbyn yr un o orchy­mynion yr Arglwydd, ddim o’r pethau ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog;

28 Neu os ei bechod yr hwn a bechodd a ddaw i’w wybodaeth ef: yna dyged ei offrwm o lwdn gafr fenyw berffeith-gwbl dros ei bechod a bechodd efe.

29 A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod, a lladded yr aberth dros bechod yn y lle y lleddir y poeth-offrwm.

30 A chymmered yr offeiriad o’i gwaed hi â’i fys, a rhodded ar gyrn allor y poeth-offrwrm, a thy­wallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor.

31 A thynned ei holl wer hi, fel y tynnir y gwer oddi ar yr aberth hedd; a llosged yr offeiriad ef ar yr allor, yn arogl peraidd i’r Arglwydd: a gwnaed yr offeiriad, gymmod drosto; a maddeuir iddo.

32 Ac os dwg efe ei offrwm dros bechod o oen, dyged hi yn fenyw berffeith-gwbl.

33 A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod, a lladded hi dros bechod yn y lle y lleddir y poeth-offrwm.

34 A chymmered yr offeiriad â’i fys o waed yr aberth dros bechod, a gosoded ar gyrn allor y poeth-offrwm, a thy­wallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor.

35 A thynned ei holl wer hi, fel y tynnir gwer oen yr aberth hedd; a llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor, fel aberth tanllyd i’r Arglwydd: a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.


Pennod V.

1 Y neb a bechodd trwy gelu yr hyn a wypo, 2 trwy gyffwrdd â dim aflan: 4 neu trwy lw. 6 Ei offrwm dros ei gamwedd, o’r praidd, 7 o’r adar, 11 o beilliaid. 14 Yr offrwm dros gamwedd mewn cyssegr-ladrad, 17 ac mewn pechodau o anwybod.

Os pecha dyn, a chlywed llais llw, ac yntau yn dyst, naill ai yn gweled ai yn gwybod; oni fynega, yna efe a ddwg ei anwiredd.

2 Os dyn a gyffwrdd â dim aflan, pa un bynnag ai burgyn bwystfil aflan, ai burgyn anifail aflan, ai burgyn ymlusgiad aflan; er bod y peth yn guddiedig oddi wrtho ef, aflan ac euog yw efe.

3 Neu pan gyffyrddo âg aflendid dyn, pa aflendid bynnag iddo, yr hwn y bydd efe aflan o’i blegid, a’r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo wybod, yna euog yw.

4 Neu os dyn a dwng, gan draethu â’r gwefusau ar wneuthur drwg, neu wneuthur da; beth bynnag a draetho dyn trwy lw, a’r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo efe wybod, euog yw o un o hyn.

5 A phan fyddo efe euog o un o hyn; yna cyffesed yr hyn y pechodd ynddo;

6 A dyged i’r Arglwydd ei offrwm dros gamwedd am ei bechod yr hwn a bechodd; sef benyw o’r praidd, oen neu fỳn gafr, yn aberth dros bechod; a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto am ei bechod.

7 Ond os ei law ni chyrhaedd werth oen, dyged i’r Arglwydd, am ei gamwedd yr hwn a bechodd, ddwy durtur, neu ddau gyw colommen; y naill yn aberth dros bechod, a’r llall yn boeth-offrwm.

8 A dyged hwynt at yr offeiriad; ac offrymmed efe yr hwn sydd dros bechod yn gyntaf, a thorred ei ben wrth ei wegil; ond na thorred ef ymaith.

9 A thaenelled o waed yr aberth dros bechod ar ystlys yr allor; a gwasger y rhan arall o’r gwaed wrth waelod yr allor. Dyma aberth dros bechod.

10 A’r ail a wna efe yn offrwm poeth, yn ol y ddefod: a’r offeiriad a wna gymmod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.

11 ¶ Ac os ei law ni chyrhaedd ddwy durtur, neu ddau gyw colommen; yna dyged yr hwn a bechodd ei offrwm o ddegfed ran ephah o beilliaid yn aberth dros bechod: na osoded olew ynddo, ac na rodded thus arno; canys aberth dros bechod yw.

12 A dyged hynny at yr offeiriad: a chymmered yr offeiriad o hono lonaid ei law yn goffad­wriaeth, a llosged ar yr allor, fel ebyrth tanllyd i’r Arglwydd. Dyma aberth dros bechod.

13 A gwnaed yr offeiriad gymmod drosto ef am ei bechod a bechodd efe yn un o’r rhai hyn, a maddeuir iddo: a bydded i’r offeiriad y gweddill, megis o’r bwyd-offrwm.

14 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

15 Os gwna dyn gamwedd, a phechu trwy amry­fusedd, yn y pethau a gysseg­rwyd i’r Arglwydd; yna dyged i’r Arglwydd dros ei gamwedd, hwrdd perffeith-gwbl o’r praidd, gyd â’th bris di o siclau arian, yn ol sicl y cyssegr, yn aberth dros gamwedd.

16 A thaled am y niwed a wnaeth yn y peth cysseg­redig, a rhodded ei bummed ran yn ychwaneg atto, a rhodded ef at yr offeiriad: a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto â hwrdd yr offrwm dros gamwedd; a maddeuir iddo.

17 ¶ Ac os pecha enaid, a gwneuthur yn erbyn gorchy­mynion yr Arglwydd, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur; er na wyddai, etto euog fydd, a’i anwiredd a ddwg.

18 A dyged hwrdd perffeith-gwbl o’r praidd, gyd â’th bris di, at yr offeiriad, yn offrwm dros gamwedd: a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto am ei amry­fusedd a gam­gymmerodd efe, ac yntau heb wybod; a maddeuir iddo.

19 Aberth dros gamwedd yw hyn: camwedd a wnaeth yn ddïau yn erbyn yr Arglwydd.


Pennod VI.

1 Yr offrwm dros gamwedd mewn pechodau a wneler trwy wybod. 8 Cyfraith y poeth-offrwm, 14 a’r bwyd-offrwm. 19 Yr offrwm wrth gyssegru offeiriad. 24 Cyfraith y pech-offrwm.

A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Os pecha dyn, a gwneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd, a dywedyd celwydd wrth ei gymmydog am yr hyn a rodded atto i’w gadw, neu am yr hyn y rhoddes efe ei law, neu yn yr hyn trwy drawsder a ddygodd efe, neu yn yr hyn y twyllodd ei gymmydog;

3 Neu os cafodd beth gwedi ei golli, a dywedyd celwydd am dano, neu dyngu yn anudon; am ddim o’r holl bethau a wnelo dyn, gan bechu ynddynt:

4 Yna, am iddo bechu, a bod yn euog, bydded iddo roddi yn ei ol y trais a dreisiodd efe, neu y peth a gafodd trwy dwyll, neu y peth a adawyd i gadw gyd âg ef, neu y peth wedi ei golli a gafodd efe,

5 Neu beth bynnag y tyngodd efe anudon am dano; taled hynny erbyn ei ben, a chwaneged ei bummed ran atto: ar y dydd yr offrymmo dros gamwedd, rhodded ef i’r neb a’i pïau.

6 A dyged i’r Arglwydd ei offrwm dros gamwedd, hwrdd perffeith-gwbl o’r praidd, gyd â’th bris di, yn offrwm dros gamwedd, at yr offeiriad.

7 A gwnaed yr offeiriad gymmod drosto ger bron yr Arglwydd: a maddeuir iddo, am ba beth bynnag a wnaeth, i fod yn euog o hono.

8 ¶ Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

9 Gorchymyn i Aaron, ac i’w feibion gan ddywedyd, Dyma gyfraith y poeth-offrwm: (poeth-offrwm yw, o herwydd y llosgi ar yr allor ar hyd y nos hyd y bore, a thân yr allor a gynneuir arni.)

10 Gwisged yr offeiriad hefyd ei lïein-wisg am dano, a gwisged lodrau llïan am ei gnawd, a choded y lludw lle yr ysodd y tân y poeth-aberth ar yr allor, a gosoded cf gerllaw yr allor.

11 A dïosged ei wisgoedd, a gwisged ddillad eraill, a dyged allan y lludw i’r tu allan i’r gwersyll, i le glân.

12 A chynneuer y tân sydd ar yr allor arni; na ddi­ffodded: ond llosged yr offeiriad goed arni bob bore; a threfned y poeth-offrwm arni, a llosged wêr yr aberth hedd arni.

13 Cynneuer y tân bob amser ar yr allor; na ddi­ffodded.

14 ¶ Dyma hefyd gyfraith y bwyd-offrwm. Dyged meibion Aaron ef ger bron yr Arglwydd, o flaen yr allor:

15 A choded o hono yn ei law o beilliaid y bwyd-offrwm, ac o’i olew, a’r holl thus yr hwn fydd ar y bwyd-offrwm; a llosged ei goffad­wriaeth ef ar yr allor, yn arogl peraidd i’r Arglwydd.

16 A’r gweddill o hono a fwytty Aaron a’i feibion: yn groyw y bwyttêir ef: yn y lle sanctaidd o fewn cynteddfa pabell y cyfarfod y bwyttânt ef.

17 Na phober ef trwy lefain. Rhoddais ef yn rhan iddynt o’m haberthau tanllyd: peth sanctei­ddiolaf yw hyn, megis yr aberth dros bechod, a’r aberth dros gamwedd.

18 Pob gwrryw o blant Aaron a fwyttânt hyn: deddf dragy­wyddol fydd yn eich cenhed­laethau am aberthau tanllyd yr Arglwydd; pob un a gyffyrddo â hwynt, fydd sanctaidd.

19 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

20 Dyma offrwm Aaron a’i feibion, yr hwn a offrym­mant i’r Arglwydd, ar y dydd enneinier ef. Degfed ran ephah o beilliaid yn fwyd-offrwm gwastadol, ei hanner y bore, a’i hanner brydnawn.

21 Gwneler ef trwy olew mewn padell: yna y dygi ef i mewn wedi ei grasu; ac offrymma ddarnau y bwyd-offrwm wedi ei grasu, yn arogl peraidd i’r Arglwydd.

22 A’r offeiriad o’i feibion ef, yr hwn a enneinir yn ei le ef, gwnaed hyn, trwy ddeddf dragy­wyddol: llosger y cwbl i’r Arglwydd.

23 A phob bwyd-offrwm dros yr offeiriad a fydd wedi ei losgi oll: na fwyttâer ef.

24 ¶ Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

25 Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, Dyma gyfraith yr aberth dros bechod. Yn y lle y lleddir y poeth-offrwm, y lleddir yr aberth dros bechod ger bron yr Arglwydd: sanctei­ddiolaf yw efe.

26 Yr offeiriad a’i hoffrymmo dros bechod, a’i bwytty: yn y lle sanctaidd y bwyttêir ef, y’nghyn­teddfa pabell y cyfarfod.

27 Beth bynnag a gyffyrddo â’i gig ef, a fydd sanctaidd: a phan daeneller o’i waed ef ar ddilledyn, golch yn y lle sanctaidd yr hyn y tae­nellodd y gwaed arno.

28 A thorrer y llestr pridd y berwer ef ynddo: ond os mewn llestr pres y berwir ef, ysgwrier a golcher ef mewn dwfr.

29 Bwyttâed pob gwrryw ym mysg yr offeir­iaid ef: sanctei­ddiolaf yw efe.

30 Ac na fwyttâer un offrwm dros bechod, yr hwn y dyger o’i waed i babell y cyfarfod, i wneuthur cymmod yn y lle sanctaidd; ond llosger mewn tân.


Pennod VII.

1 Cyfraith yr offrwm dros gamwedd, 11 a’r aberthau hedd: 12 pa un bynnag fo ai aberth dïolch, 16 ai adduned, ai rhodd o wirfodd. 22 Gwahardd y brasder, 26 a’r gwaed. 28 Rhan yr offeiriad o’r aberthau hedd.

Dyma hefyd gyfraith yr offrwm dros gamwedd: sanctei­ddiolaf yw.

2 Yn y man lle y lladdant y poeth-offrwm, y lladdant yr aberth dros gamwedd; a’i waed a daenella efe ar yr allor o amgylch.

3 A’i holl wêr a offrymma efe o hono; y gloren hefyd, a’r weren fol.

4 A’r ddwy aren, a’r gwêr fyddo arnynt hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dỳn efe ymaith.

5 A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd: aberth dros gamwedd yw.

6 Pob gwrryw ym mysg yr offeir­iaid a’i bwytty: yn y lle sanctaidd y bwyttêir ef: sanctei­ddiolaf yw.

7 Fel y mae yr aberth dros bechod, felly y bydd yr aberth dros gamwedd; un gyfraith sydd iddynt: yr offeiriad, yr hwn a wna gymmod âg ef, a’i pïau.

8 A’r offeiriad a offrymmo boeth-offrwm neb, yr offeiriad a gaiff iddo ei hun groen y poeth-offrwm a offrym­modd efe.

9 A phob bwyd-offrwm a graser mewn ffwrn, a’r hyn oll a wneler mewn padell, neu ar radell, fydd eiddo’r offeiriad a’i hoffrymmo.

10 A phob bwyd-offrwm wedi ei gymmysgu trwy olew, neu yn sych, a fydd i holl feibion Aaron, bob un fel ei gilydd.

11 Dyma hefyd gyfraith yr ebyrth hedd a offrymma efe i’r Arglwydd.

12 Os yn lle dïolch yr offrymma efe hyn; offrymmed gyd â’r aberth dïolch deisennau croyw, wedi eu cymmysgu trwy olew; ac afrllad croyw, wedi eu hiro âg olew; a pheill­iaid wedi ei grasu yn deisennau, wedi eu cymmysgu âg olew.

13 Heb law y teisennau, offrymmed fara lefeinllyd, yn ei offrwm, gyd â’i hedd-aberth o ddïolch.

14 Ac offrymmed o hyn un dorth o’r holl offrwm, yn offrwm dyr­chafael i’r Arglwydd; a bydded hwnnw eiddo’r offeiriad a daenello waed yr ebyrth hedd.

15 A chig ei hedd-aberth o ddïolch a fwyttêir y dydd yr offrymmir ef: na adawer dim o hono hyd y bore.

16 Ond os adduned, neu offrwm gwirfodd, fydd aberth ei offrwm ef, y dydd yr offrymmo efe ei aberth, bwyttâer ef: a thran­noeth bwyttâer yr hyn fyddo yn weddill o hono.

17 Ond yr hyn a fyddo o gig yr aberth yn weddill y trydydd dydd, llosger yn tân.

18 Ac os bwyttêir dim o gig offrwm ei ebyrth hedd ef o fewn y trydydd dydd, ni byddir boddlawn i’r hwn a’i hoffrymmo ef, ac nis cyfrifir iddo, ffieidd­beth fydd: a’r dyn a fwytty o hono, a ddwg ei anwiredd.

19 A’r cig a gyffyrddo â dim aflan, ni fwyttêir, mewn tân y llosgir ef: a’r cig arall, pob glân a fwytty o hono.

20 A’r dyn a fwyttao gig yr hedd-aberth, yr hwn a berthyn i’r Arglwydd, a’i aflendid arno; torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.

21 Ac os dyn a gyffwrdd â dim aflan, sef âg aflendid dyn, neu âg anifail aflan, neu âg un ffieidd­beth aflan, a bwytta o gig yr hedd-aberth, yr hwn a berthyn i’r Arglwydd; yna y torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.

22 ¶ Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

23 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Na fwyttêwch ddim gwer eidion, neu ddafad, neu afr.

24 Etto gwer burgyn, neu wer ysglyfaeth, a ellir ei weithio mewn pob gwaith, ond gan fwytta na fwyttêwch ef.

25 O herwydd pwy bynnag a fwyttao wer yr anifail, o’r hwn yr offrymmir aberth tanllyd i’r Arglwydd; torrir ymaith yr enaid a’i bwyttao o fysg ei bobl.

26 Na fwyttêwch chwaith ddim gwaed o fewn eich cyfan­neddau, o’r eiddo aderyn, nac o’r eiddo anifail.

27 Pob enaid a fwyttao ddim gwaed, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl.

28 ¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

29 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Y neb a offrymmo ei aberth hedd i’r Arglwydd, dyged ei rodd o’i aberth hedd i’r Arglwydd.

30 Ei ddwylo a ddygant ebyrth tanllyd yr Arglwydd; y gwer ynghyd â’r barwyden a ddwg efe; y barwyden fydd i’w chyhwfanu, yn offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd.

31 A llosged yr offeiriad y gwer ar yr allor: a bydded y barwyden i Aaron ac i’w feibion.

32 Rhoddwch hefyd y balfais ddehau yn offrwm dyrchafael i’r offeiriad, o’ch ebyrth hedd.

33 Yr hwn o feibion Aaron a offrymmo waed yr ebyrth hedd, a’r gwer; bydded iddo ef yr ysgwyddog ddehau yn rhan.

34 O herwydd parwyden y cyhwfan, ac ysgwyddog y dyr­chafael, a gymmerais i gan feibion Israel o’u hebyrth hedd, ac a’u rhoddais hwynt i Aaron yr offeiriad, ac i’w feibion, trwy ddeddf dragy­wyddol oddi wrth feibion Israel.

35 ¶ Hyn yw rhan enneiniad Aaron ac enneiniad ei feibion, o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, yn y dydd y nesaodd efe hwynt i offeir­iadu i’r Arglwydd;

36 Yr hwn a orchymynnodd yr Arglwydd ei roddi iddynt, y dydd yr ennein­iodd efe hwynt allan o feibion Israel, trwy ddeddf dragy­wyddol, trwy eu cenhed­laethau.

37 Dyma gyfraith y poeth-offrwm, y bwyd-offrwm, a’r aberth dros bechod, a’r aberth dros gamwedd, a’r cysseg­riadau, a’r aberth hedd;

38 Yr hon a orchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses ym mynydd Sinai, yn y dydd y gorchy­mynnodd efe i feibion Israel offrymmu eu hoff­rymmau i’r Arglwydd, yn anialwch Sinai.


PENNOD VIII.

1 Moses yn cyssegru Aaron a’i feibion. 14 Eu haberth dros bechod. 18 Eu poeth-offrwm. 22 Hwrdd y cysseg­riadau. 31 Y lle a’r amser y cyssegrid hwynt.

A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Cymmer Aaron a’i feibion gyd âg ef, a’r gwisgoedd, ac olew yr enneiniad, a bustach yr aberth dros bechod, a dau hwrdd, a chawell y bara croyw:

3 A chasgl yr holl gynnu­lleidfa ynghyd i ddrws pabell y cyfarfod.

4 A gwnaeth Moses fel y gorchy­mynnodd yr Arglwydd iddo: a chasglwyd y gynnu­lleidfa i ddrws pabell y cyfarfod.

5 A dywedodd Moses wrth y gynnu­lleidfa, Dyma y peth a orchy­mynnodd yr Arglwydd ei wneuthur.

6 A Moses a ddug Aaron a’i feibion, ac a’u golchodd hwynt â dwfr.

7 Ac efe a roddes am dano ef y bais, ac a’i gwre­gysodd ef â’r gwregys, ac a wisgodd y fantell am dano, ac a roddes yr ephod am dano, ac a’i gwre­gysodd â gwregys cywraint yr ephod, ac a’i cauodd am dano ef.

8 Ac efe a osododd y ddwy­fronneg arno, ac a roddes yr Urim a’r Thummim yn y ddwy­fronneg.

9 Ac efe a osododd y meitr ar ei ben ef; ac a osododd ar y meitr ar ei dalcen ef, y dalaith aur, y goron sanctaidd; fel y gorchy­mynasai yr Arglwydd i Moses.

10 A Moses a gymmerodd olew yr enneiniad, ac a ennein­iodd y tabernacl, a’r hyn oll oedd ynddo; ac a’u cysseg­rodd hwynt.

11 Ac a daenellodd o hono ar yr allor saith waith, ac a ennein­iodd yr allor a’i holl lestri, a’r noe hefyd a’i throed, i’w cyssegru.

12 Ac efe a dywalltodd o olew yr enneiniad ar ben Aaron, ac a’i hennein­iodd ef, i’w gyssegru.

13 A Moses a ddug feibion Aaron, ac a wisgodd beisiau am danynt, a gwre­gysodd hwynt â gwregysau, ac a osododd gapiau am eu pennau; fel y gorchy­mynasai’r Arglwydd wrth Moses.

14 Ac efe a ddug fustach yr aberth dros bechod: ac Aaron a’i feibion a roddasant eu dwylaw ar ben bustach yr aberth dros bechod;

15 Ac efe a’i lladdodd: a Moses a gymmerth y gwaed, ac a’i rhoddes ar gyrn yr allor o amgylch â’i fys, ac a burodd yr allor; ac a dywall­todd y gwaed wrth waelod yr allor, ac a’i cysseg­rodd hi, i wneuthur cymmod arni.

16 Efe a gymmerodd hefyd yr holl wer oedd ar y perfedd, a’r rhwyden oddi ar yr afu, a’r ddwy aren a’u gwer; a Moses a’i llosgodd ar yr allor.

17 A’r bustach, a’i groen, a’i gig, a’i fiswail, a losgodd efe mewn tân o’r tu allan i’r gwersyll: fel y gorchy­mynasai yr Arglwydd wrth Moses.

18 ¶ Ac efe a ddug hwrdd y poeth-offrwm: ac Aaron a’i feibion a osodasant eu dwylaw ar ben yr hwrdd:

19 Ac efe a’i lladdodd; a Moses a dae­nellodd y gwaed ar yr allor o amgylch.

20 Ac efe a dorrodd yr hwrdd yn ei ddarnau; a llosgodd Moses y pen, y darnau, a’r gwer.

21 Ond y perfedd a’r traed a olchodd efe mewn dwfr; a llosgodd Moses, yr hwrdd oll ar yr allor. Poeth-offrwm yw hwn, i fod yn arogl peraidd ac yn aberth tanllyd i’r Arglwydd; fel y gorchy­mynnodd yr Arglwydd i Moses.

22 ¶ Ac efe a ddug yr ail hwrdd, sef hwrdd y cys­segriad: ac Aaron a’i feibion a osodasant eu dwylaw ar ben yr hwrdd.

23 Ac efe a’i lladdodd; a Moses a gymmerodd o’i waed, ac a’i rhoddes ar gwrr isaf clust ddehau Aaron, ac ar fawd ei law ddehau, ac ar fawd ei droed dehau.

24 Ac efe a ddug feibion Aaron: a Moses a roes o’r gwaed ar gwrr isaf eu clust ddehau, ac ar fawd eu llaw ddehau, ac ar fawd eu troed dehau; a thae­nellodd Moses y gwaed ar yr allor oddi amgylch.

25 Ac efe a gymmerodd hefyd y gwer, a’r gloren, a’r holl wer oedd ar y perfedd, a’r rhwyden oddi ar yr afu, a’r ddwy aren a’u brasder, a’r ysgwyddog ddehau.

26 A chymmerodd o gawell y bara croyw, yr hwn oedd ger bron yr Arglwydd, un deisen groyw, ac un deisen o fara olewedig, ac un afrlladen; ac a’u gosododd ar y gwer, ac ar yr ysgwyddog ddehau:

27 Ac a roddes y cwbl ar ddwylaw Aaron, ac ar ddwylaw ei feibion, ac a’u cyhw­fanodd hwynt yn offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd.

28 A Moses a’u cymmerth oddi ar eu dwylaw hwynt, ac a’u llosgodd ar yr allor, ar yr offrwm poeth. Dyma gysseg­riadau o arogl peraidd: dyma aberth tanllyd i’r Arglwydd.

29 Cymmerodd Moses y barwyden hefyd, ac a’i cyhw­fanodd yn offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd: rhan Moses o hwrdd y cysseg­riad oedd hi; fel y gorchy­mynasai yr Arglwydd with Moses.

30 A chymmerodd Moses o olew yr enneiniad, ac o’r gwaed oedd ar yr allor, ac a’i tae­nellodd ar Aaron, ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion ynghyd âg ef: ac efe a gysseg­rodd Aaron, a’i wisgoedd, a’i feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion ynghyd âg ef.

31 ¶ A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth ei feibion, Berwch y cig wrth ddrws pabell y cyfarfod: ac yno bwyttêwch ef, a’r bara hefyd sydd y’nghawell y cysseg­riadau; megis y gorchy­mynais, gan ddywedyd, Aaron a’i feibion a’i bwytty ef.

32 A’r gweddill o’r cig, ac o’r bara, a losgwch yn tân.

33 Ac nac ewch dros saith niwrnod allan o ddrws pabell y cyfarfod, hyd y dydd y cyflawner dyddiau eich cysseg­riadau: oherwydd saith niwrnod y bydd efe yn eich cyssegru chwi.

34 Megis y gwnaeth efe heddyw, y gorchy­mynodd yr Arglwydd wneuthur, i wneuthur cymmod drosoch.

35 Ac arhoswch wrth ddrws pabell y cyfarfod saith niwrnod, ddydd a nos, a chedwch wyliad­wriaeth yr Arglwydd, fel na byddoch feirw: canys fel hyn y’m gorchy­mynwyd.

36 A gwnaeth Aaron a’i feibion yr holl bethau a orchy­mynodd yr Arglwydd trwy law Moses.


Pennod IX.

1 Yr offrymmau cyntaf a offrym­modd Aaron drosto ei hun a’r bobl. 8 Y pech-offrwm, 12 a’r poeth-offrwm drosto ei hun. 15 Yr offrymmau dros y bobl. 23 Moses ac Aaron yn bendithio y bobl. 23 Moses ac Aaron yn bendithio y bobl. 24 Tân yn dyfod oddi wrth yr Arglwydd ar yr allor.

YNA y bu, ar yr wythfed dydd, i Moses alw Aaron a’i feibion, a henuriaid Israel;

2 Ac efe a ddywedodd wrth Aaron, Cymmer i ti lo ieuangc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boeth-offrwm, o rai perffeith-gwbl, a dwg hwy ger bron yr Arglwydd.

3 Llefarodd hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Cymmerwch fyn gafr, yn aberth dros bechod; a llo, ac oen, biwydd­iaid, perffeith-gwbl, yn boeth-offrwm;

4 Ac eidion, a hwrdd, yn aberth hedd, i aberthu ger bron yr Arglwydd; a bwyd-offrwm wedi ei gymysgu trwy olew: oherwydd heddyw yr ymddengys yr Arglwydd i chwi.

5 ¶ A dygasant yr hyn a orchy­mynodd Moses ger bron pabell y cyfarfod: a’r holl gynu­lleidfa a ddaethant yn agos, ac a safasant ger bron yr Arglwydd.

6 A dywedodd Moses, Dyma y peth a orchy­mynodd yr Arglwydd i chwi ei wneuthur; ac ymddengys gogoniant yr Arglwydd i chwi.

7 Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Dos at yr allor, ac abertha dy aberth dros bechod a’th boeth-offrwm, a gwna gymmod drosot dy hun, a thros y bobl; ac abertha offrwm y bobl, a gwna gymmod drostynt; fel y gorchy­mynodd yr Arglwydd.

8 ¶ Yna y nesaodd Aaron at yr allor, ac a laddodd lo yr aberth dros bechod, yr hwn oedd drosto ef ei hun.

9 A meibion Aaron a ddygasant y gwaed atto: ac efe a wlychodd ei fys yn y gwaed, ac a’i gosododd ar gyrn yr allor, ac a dywall­todd y gwaed arall wrth waelod yr allor.

10 Ond efe a losgodd ar yr allor o’r aberth dros bechod y gwer a’r arennau, a’r rhwyden oddi ar yr afu; fel y gorchy­mynasai yr Arglwydd wrth Moses.

11 A’r cig a’r croen a losgodd efe yn tân, o’r tu allan i’r gwersyll.

12 Ac efe a laddodd y poeth-offrwm: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed atto; ac efe a’i tae­nellodd ar yr allor o amgylch.

13 A dygasant y poeth-offrwm atto, gyda’i ddarnau, a’i ben hefyd; ac efe a’u llosgodd hwynt ar yr allor.

14 Ac efe a olchodd y perfedd a’r traed, ac a’u llosgodd hwynt ynghyd â’r offrwm poeth ar yr allor.

15 ¶ Hefyd efe a ddug offrwm y bobl; ac a gymmerodd fwch yr aberth dros bechod y bobl, ac a’i lladdodd, ac a’i hoffrym­modd dros bechod, fel y cyntaf.

16 Ac efe a ddug y poeth-offrwm, ac a’i hoff­rymmodd yn ol y ddefod.

17 Ac efe a ddug y bwyd-offrwm: ac a lanwodd ei law ohono, ac a’i llosgodd ar yr allor, heb law poeth-offrwm y bore.

18 Ac efe a laddodd y bustach a’r hwrdd, yn aberth hedd, yr hwn oedd dros y bobl: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed atto; ac efe a’i tae­nellodd ar yr allor o amgylch.

19 Dygasant hefyd wer y bustach a’r hwrdd, y gloren, a’r weren fol, a’r arennau, a’r rhwyden oddi ar yr afu.

20 A gosodasant y gwer ar y parwydennau, ac efe a losgodd y gwer ar yr allor.

21 Y parwydennau hefyd, a’r ysgwyddog ddehau a gyhw­fanodd Aaron yn offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd; fel y gorchy­mynodd Moses.

22 A chododd Aaron ei law tu ag at y bobl, ac a’u ben­dithiodd; ac a ddaeth i waered o wneuthur yr aberth dros bechod, a’r poeth-offrwm, a’r ebyrth hedd.

23 A Moses ac Aaron a aethant i babell y cyfarfod; a daethant allan, ac a fen­dithiasant y bobl: a gogoniant yr Arglwydd a ym­ddangos­odd i’r holl bobl.

24 A daeth tân allan oddi ger bron yr Arglwydd, ac a ysodd y poeth-offrwm, a’r gwer, ar yr allor: a gwelodd yr holl bobl; a gwae­ddasant, a chwym­pasant ar eu hwynebau.


Pennod X.

1 Nadab ac Abihu, am offrymmu tân dïeithr, a losgir gan dân. 6 Gwarafun i Aaron ac i’w feibion alaru am danynt. 8 Gwahardd gwin i’r offeir­iaid pan fônt ar fyned i’r babell. 12 Y gyfraith ynghylch bwytta pethau sanctaidd. 19 Esgus Aaron am ei throseddu.

Yna Nadab ac Abihu, meibion Aaron, a gymme­rasant bob un ei thusser, ac a roddasant dân ynddynt, ac a osodasant arogl-darth ar hynny; ac a offrym­masant ger bron yr Arglwydd dân dïeithr yr hwn ni orchy­mynasai efe iddynt.

2 A daeth tân allan oddi ger bron yr Arglwydd, ac a’u difaodd hwynt; a buant feirw ger bron yr Arglwydd.

3 A dywedodd Moses wrth Aaron, Dyma yr hyn a lefarodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Mi a sanc­teiddir yn y rhai a nesânt attaf, a cher bron yr holl bobl y’m gogo­neddir. A thewi a wnaeth Aaron.

4 A galwodd Moses Misael ac Elsaphan, meibion Uzziel, ewythr Aaron, a dywedodd wrthynt, Deuwch yn nês; dygwch eich brodyr oddi ger bron y cyssegr, allan o’r gwersyll.

5 A nesâu a wnaethant, a’u dwyn hwynt yn eu peisiau allan o’r gwersyll; fel y llefa­rasai Moses.

6 A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth Eleazar ac wrth Ithamar ei feibion, Na ddïosgwch oddi am eich pennau, ac na rwygwch eich gwisgoedd: rhag i chwi farw, a dyfod digofaint ar yr holl gynnu­lleidfa: ond wyled eich brodyr chwi, holl dŷ Israel, am y llosgiad a losgodd yr Arglwydd.

7 Ac nac ewch allan o ddrws pabell y cyfarfod; rhag i chwi farw: o herwydd bod olew enneiniad yr Arglwydd arnoch chwi. A gwnaeth­ant fel y llefarodd Moses.

8 ¶ Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Aaron, gan ddywedyd,

9 Gwin a dïod gadarn nac ŷf di, na’th feibion gyd â thi, pan ddeloch i babell y cyfarfod; fel na byddoch feirw. Deddf dra­gwyddol trwy eich cenhed­laethau fydd hyn:

10 A hynny er gwahanu rhwng cys­segredig a digys­segredig, a rhwng aflan a glân;

11 Ac i ddysgu i feibion Israel yr holl ddeddfau a lefarodd yr Arglwydd wrthynt trwy law Moses.

12 ¶ A llefarodd Moses wrth Aaron, ac wrth Eleazar ac wrth Ithamar, y rhai a adawsid o’i feibion ef, Cymmerwch y bwyd-offrwm sydd y’ngweddill o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a bwyttêwch yn groyw ger llaw yr allor: o herwydd sanc­teiddiolaf yw.

13 A bwyttêwch ef yn y lle sanctaidd: o herwydd dy ran di, a rhan dy feibion di, o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, yw hyn: canys fel hyn y’m gorchy­mynwyd.

14 Y barwyden gyhwfan hefyd, a’r ysgwyddog ddyr­chafael, a fwyttêwch mewn lle glân; tydi, a’th feibion, a’th ferched, ynghyd â thi: o herwydd hwynt a roddwyd yn rhan i ti, ac yn rhan i’th feibion di, o ebyrth hedd meibion Israel.

15 Yr ysgwyddog ddyrchafael, a’r barwyden gyhwfan, a ddygant ynghyd âg ebyrth tanllyd o’r gwer, i gyhwfanu offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd: a bydded i ti, ac i’th feibion gyd â thi, yn rhan dragy­wyddol; fel y gorchy­mynnodd yr Arglwydd.

16 ¶ A Moses a geisiodd yn ddyfal fwch yr aberth dros bechod; ac wele ef wedi ei losgi: ac efe a ddigiodd wrth Eleazar ac Ithamar, y rhai a adawsid o feibion Aaron, gan ddywedyd,

17 Paham na fwyt­tasoch yr aberth dros bechod yn y lle sanctaidd; oherwydd sanctei­ddiolaf yw, a Duw a’i rhoddodd i chwi, i ddwyn anwiredd y gynulleid­fa, gan wneuthur cymod drostynt, ger bron yr Arglwydd?

18 Wele, ni ddygwyd ei waed ef i fewn y cysegr: ei fwytta a ddylasech yn y cysegr; fel y gorchy­mynnais.

19 A dywedodd Aaron wrth Moses, Wele, heddyw yr offrym­masant eu haberth dros bechod, a’u poeth­offrwm, ger bron yr Arglwydd; ac fel hyn y digwydd­odd i mi; am hynny os bwyttawn aberth dros bechod heddiw, a fyddai hynny dda yng ngolwg yr Arglwydd?

20 A phan glybu Moses hynny, efe a fu fodlon.

Pennod XI.

1 Pa anifeil­iaid a ellir, 4 a pha rai ni ellir eu bwytta. 9 Pa bysgod hefyd, 13 a pha adar. 29 Pa ymlusg­iaid sydd aflan.

A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd wrthynt,

2 Llefarwch wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Dyma yr anifeil­iaid a fwyttêwch, o’r holl anifeil­iaid sydd ar y ddaear.

3 Beth bynnag a hollto yr ewin, ac a fforchogo hollt yr ewinedd, ac a gno ei gil, o’r anifeil­iaid; hwnnw a fwyttêwch.

4 Ond y rhai hyn ni fwyttêwch; o’r rhai a gnoant eu cil, ac o’r rhai a holltant yr ewin: y camel, er ei fod yn cnoi ei gil, am nad yw yn hollti yr ewin; aflan fydd i chwi.

5 A’r gwningen, am ei bod yn cnoi ei chil, ac heb fforchogi yr ewin; aflan yw i chwi.

6 A’r ysgyfarnog, am ei bod yn cnoi ei chil, ac heb fforchogi yr ewin; aflan yw i chwi.

7 A’r llwdn hwch, am ei fod yn hollti yr ewin, ac yn fforchogi fforchog­edd yr ewin, a heb gnoi ei gil; aflan yw i chwi.

8 Na fwyttêwch o’u cig hwynt, ac na chyffyrdd­wch â’u burgyn hwynt: aflan ydynt i chwi.

9 ¶ Hyn a fwyttêwch o bob dim a’r sydd yn y dyfroedd: pob peth y mae iddo esgyll a chèn, yn y dyfroedd, yn y moroedd, ac yn yr afonydd; y rhai hynny a fwyttêwch.

10 A phob dim nid oes iddo esgyll a chèn, yn y moroedd, ac yn yr afonydd, o bob dim a ymsymmudo yn y dyfroedd, ac o bob peth byw, y rhai fyddant yn y dyfroedd; byddant ffiaidd gennych.

11 Byddant ffiaidd gennych: na fwyttêwch o’u cig hwynt, a ffieidd­iwch eu burgyn hwy.

12 Yr hyn oll yn y dyfroedd ni byddo esgyll a chèn iddo, ffieidd­beth fydd i chwi.

13 ¶ A’r rhai hyn a ffieiddiwch chwi o’r adar; na fwyttêwch hwynt, ffieidd-dra ydynt: sef yr eryr, a’r ŵyddwalch, a’r fôr-wennol;

14 A’r fwltur, a’r barcud yn ei ryw;

15 Pob cigfran yn ei rhyw;

16 A chyw yr estrys, a’r fran nos, a’r gog, a’r gwalch yn ei ryw;

17 Ac aderyn y cyrph, a’r fulfran, a’r dylluan,

18 A’r gogfran, a’r pelican, a’r bïogen,

19 A’r ciconia, a’r crŷr yn ei ryw, a’r gorn­chwigl, a’r ystlum.

20 Pob ehediad a ymlusgo ac a gerddo ar bedwar troed, ffieidd-dra yw i chwi.

21 Ond hyn a fwyttêwch, o bob ehediad a ymlusgo, ac a gerddo ar bedwar troed, yr hwn y byddo coesau iddo oddi ar ei draed, i neidio wrthynt ar hyd y ddaear;

22 O’r rhai hynny y rhai hyn a fwyttêwch: y locust yn ei ryw, a’r selam yn ei ryw, a’r hargol yn ei ryw, a’r hagab yn ei ryw.

23 A phob ehediad arall a ymlusgo, yr hwn y mae pedwar troed iddo, ffieidd-dra fydd i chwi.

24 Ac am y rhai hyn y byddwch aflan: pwy bynnag a gyffyrddo â’u burgyn hwynt, a fydd aflan hyd yr hwyr.

25 A phwy bynnag a ddygo ddim o’u burgyn hwynt, golched ei ddillad; ac aflan fydd hyd yr hwyr.

26 Am bob anifail fydd yn hollti’r ewin, ac heb ei fforchogi, ac heb gnoi ei gil aflan yw y rhai hynny i chwi; aflan fydd pob un a gyffyrddo â hwynt.

27 Pob un hefyd a gerddo ar ei balfau, o bob anifail a gerddo ar bedwar troed, aflan ydynt i chwi: pob un a gyffyrddo â’u burgyn, a fydd aflan hyd yr hwyr.

28 A’r hwn a ddygo eu burgyn hwynt, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr: aflan ydynt i chwi.

29 ¶ A’r rhai hyn sydd aflan i chwi o’r ymlusgiaid a ymlusgo ar y ddaear: y wengci, a’r llygoden, a’r llyffant yn ei ryw;

30 A’r draenog, a’r lysard, a’r ystelio, a’r falwoden, a’r wadd.

31 Y rhai hyn ydynt aflan i chwi o bob ymlusgiaid: pob dim a gyffyrddo â hwynt pan fyddant feirw, a fydd aflan hyd yr hwyr.

32 A phob dim y cwympo un o honynt arno, wedi marw, a fydd aflan; pob llestr pren, neu wisg, neu groen, neu sach, pob llestr y gwnelir dim gwaith ynddo, rhodder mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr: felly y bydd glân.

33 A phob llestr pridd yr hwn y syrthio un o’r rhai hyn i’w fewn, aflan fydd yr hyn oll fydd o’i fewn; a thorrwch yntau.

34 Aflan fydd pob bwyd a fwyttêir, o’r hwn y dêl dwfr aflan arno; ac aflan fydd pob dïod a yfir mewn llestr aflan.

35 Ac aflan fydd pob dim y cwympo dim o’u burgyn arno; y ffwrn a’r badell a dorrir: aflan ydynt, ac aflan fyddant i chwi.

36 Etto glân fydd y ffynnon a’r pydew, lle mae dyfroedd lawer: ond yr hyn a gyffyrddo â’u burgyn, a fydd aflan.

37 Ac os syrth dim o’u burgyn hwynt ar ddim had hauedig, yr hwn a heuir; glân yw efe.

38 Ond os rhoddir dwfr ar yr had, a syrthio dim o’u burgyn hwynt arno ef aflan fydd efe i chwi.

39 Ac os bydd marw un anifail a’r sydd i chwi yn fwyd; yr hwn a gyffyrddo â’i furgyn ef, a fydd aflan hyd yr hwyr.

40 A’r hwn a fwytty o’i furgyn ef, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr; a’r hwn a ddygo ei furgyn ef, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr.

41 A phob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, fydd ffieidd-dra: na fwyttâer ef.

42 Pob peth a gerddo ar ei dorr, a phob peth a gerddo ar bedwar troed, a phob peth aml ei draed, o bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, na fwyttêwch hwynt: canys ffieidd-dra ydynt.

43 Na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd oblegid un ymlusgiad a ymlusgo, ac na fyddwch aflan o’u plegid, fel y byddech aflan o’u herwydd.

44 Oherwydd myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi: ymsancteiddiwch a byddwch sanctaidd; oherwydd sanctaidd ydwyf fi: ac nac aflanhewch eich eneidiau wrth un ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear.

45 Canys myfi yw yr Arglwydd, yr hwn a’ch dug chwi o dir yr Aifft, i fod yn DDUW i chwi: byddwch chwithau sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi.

46 Dyma gyfraith yr anifeiliaid, a’r ehediaid, a phob peth byw a’r sydd yn ymsymud yn y dyfroedd, ac am bob peth byw a’r sydd yn ymlusgo ar y ddaear,

47 I wneuthur gwahan rhwng yr aflan a’r glân, a rhwng yr anifail a fwyttêir a’r hwn nis bwyttêir.


Pennod XII.

1 Paredigaeth gwraig ar ol esgor. 6 Ei hoffrymmau am ei phuredigaeth.

A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Os gwraig a feichioga, ac a esgor ar wrryw; yna bydded aflan saith niwrnod: fel dyddiau gwahaniaeth ei mis-glwyf y bydd hi aflan.

3 A’r wythfed dydd yr enwaedir ar gnawd ei ddïenwaediad ef.

4 A thri diwrnod ar ddeg ar hugain yr erys y’ngwaed ei phuredigaeth: na chyffyrdded â dim sanctaidd, ac na ddeued i’r cyssegr, nes cyflawni dyddiau ei phuredigaeth.

5 Ond os ar fenyw yr esgor hi, yna y bydd hi aflan bythefnos, megis yn ei gwahaniaeth: a chwe diwrnod a thri ugain yr erys yng ngwaed ei phuredigaeth.

6 A phan gyflawner dyddiau ei phuredigaeth ar fab neu ferch; dyged oen blwydd yn offrwm poeth, a chyw colommen, neu durtur, yn aberth dros bechod, at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod:

7 Ac offrymmed efe hynny ger bron yr Arglwydd, a gwnaed gymmod drosti: a hi a lanhêir oddi wrth gerddediad ei gwaed. Dyma gyfraith yr hon a esgor ar wrryw neu ar fenyw.

8 Ac os ei llaw ni chyrhaedd werth oen, yna cymmered ddwy durtur, neu ddau gyw colommen; y naill yn offrwm poeth, a’r llall yn aberth dros bechod: a gwnaed yr offeiriad gymmod drosti; a glân fydd.


Pennod XIII.

A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,

2 Dyn (pan fyddo y’nghroen ei gnawd chŵydd, neu grammen, neu ddisgleirder, a bod y’nghroen ei gnawd ef megis pla y clwyf gwahanol,) a ddygir at Aaron yr offeiriad, neu at un o’i feibion ef yr offeiriaid.

3 A’r offeiriad a edrych ar y pla y’nghroen y cnawd: os y blewyn yn y pla fydd wedi troi yn wỳn, a gwelediad y pla yn ddyfnach na chroen ei gnawd ef; pla gwahan-glwyf yw hwnnw: a’r offeiriad a’i hedrych, ac a’i barn yn aflan.

4 Ond os y disgleirdeb fydd gwỳn y’nghroen ei gnawd ef, ac heb fod yn is ei welediad na’r croen, a’i flewyn heb droi yn wỳn; yna caued yr offeiriad ar y clwyfus saith niwrnod.

5 A’r seithfed dydd edryched yr offeiriad ef: ac wele, os sefyll y bydd y pla yn ei olwg ef, heb ledu o’r pla yn y croen; yna caued yr offeiriad arno saith niwrnod eilwaith.

6 Ac edryched yr offeiriad ef yr ail seithfed dydd: ac wele, os bydd y pla yn odywyll, heb ledu o’r pla yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn lân: crammen yw honno: yna golched ei wisgoedd a glân fydd.

7 Ac os y grammen gan ledu a leda yn y croen, wedi i’r offeiriad ei weled, i’w farnu yn lân; dangoser ef eilwaith i’r offeiriad.

8 Ac os gwel yr offeiriad, ac wele, ledu o’r grammen yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: gwahan-glwyf yw.

9 ¶ Pan fyddo ar ddyn bla gwahan-glwyf, dyger ef at yr offeiriad;

10 Ac edryched yr offeiriad: yna, os chŵydd gwỳn a fydd yn y croen, a hwnnw wedi troi’r blewyn yn wỳn, a dim cig noeth byw yn y chŵydd;

11 Hen wahan-glwyf yw hwnnw y’nghroen ei gnawd ef; a barned yr offeiriad ef yn aflan: na chaued arno; o herwydd y mae efe yn aflan.

12 Ond os y gwahan-glwyf gan darddu a dardda yn y croen, a gorchuddio o’r gwahan-glwyf holl groen y clwyfus, o’i ben hyd ei draed, pa le bynnag yr edrycho’r offeiriad;

13 Yna edryched yr offeiriad: ac wele, os y gwahan-glwyf fydd yn cuddio ei holl gnawd ef; yna barned yr offeiriad y clwyfus yn lân: trodd yn wỳn i gyd: glân yw.

14 A’r dydd y gwelir ynddo gig byw, aflan fydd.

15 Yna edryched yr offeiriad ar y cig byw, a barned ef yn aflan: aflan yw y cig byw hwnnw; gwahan-glwyf yw.

16 Neu os dychwel y cig byw, a throi yn wỳn; yna deued at yr offeiriad:

17 Ac edryched yr offeiriad arno: ac wele, os trodd y pla yn wỳn; yna barned yr offeiriad y clwyfus yn lân: glân yw efe.

18 ¶ Y cnawd hefyd y bu ynddo gornwyd yn ei groen, a’i iachâu;

19 A bod yn lle y cornwyd chwydd gwyn, neu ddisgleirder gwyngoch, a’i ddangos i’r offeiriad:

20 Os, pan edrycho yr offeiriad arno, y gwelir ef yn is na’r croen, a’i flewyn wedi troi yn wỳn; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: gwahan-glwyf yw efe wedi tarddu o’r cornwyd.

21 Ond os yr offeiriad a’i hedrych; ac wele, ni bydd ynddo flewyn gwỳn, ac ni bydd is na’r croen, ond ei fod yn odywyll; yna caued yr offeiriad arno saith niwrnod.

22 Ac os gan ledu y lleda yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: pla yw efe.

23 Ond os y disgleirder a saif yn ei le, heb ymledu, craith cornwyd yw efe; a barned yr offeiriad ef yn lân.

24 ¶ Os cnawd fydd a llosgiad yn y croen, a bod i’r cig byw sydd yn llosgi, ddisgleirder gwyngoch, neu wỳn;

25 Yna edryched yr offeiriad ef: ac wele, os blewyn yn y disgleirdeb fydd wedi troi yn wỳn, ac yn îs i’w weled na’r croen; gwahan-glwyf yw hwnnw yn tarddu o’r llosgiad; a barned yr offeiriad ef yn aflan: pla gwahan-glwyf yw hwnnw.

26 Ond os yr offeiriad a’i hedrych; ac wele, ni bydd blewyn gwỳn yn y disgleirder, ac ni bydd îs na’r croen, ond ei fod yn odywyll; yna caued yr offeiriad arno saith niwrnod.

27 Ac edryched yr offeiriad ef y seithfed dydd: os gan ledu y lledodd yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: pla gwahan-glwyf yw hwnnw.

28 Ac os y disgleirdeb a saif yn ei le, heb ledu yn y croen, ond ei fod yn odywyll; chŵydd y llosgiad yw efe; barned yr offeiriad ef yn lân: canys craith y llosgiad yw hwnnw.

29 ¶ Os bydd gwr neu wraig a phla arno mewn pen neu farf;

30 Yna edryched yr offeiriad y pla: ac wele, os îs y gwelir na’r croen, a blewyn melyn main ynddo; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: y ddufrech yw hwnnw; gwahan-glwyf pen neu farf yw.

31 Ac os yr offeiriad a edrych ar bla y ddufrech; ac wele, ni bydd yn îs ei weled na’r croen, ac heb flewyn du ynddo; yna caued yr offeiriad ar yr hwn y bo arno y ddufrech, saith niwrnod.

32 Ac edryched yr offeiriad ar y pla y seithfed dydd: ac wele, os y ddufrech ni bydd wedi lledu, ac ni bydd blewyn melyn ynddi, a heb fod yn îs gweled y ddufrech na’r croen;

33 Yna eillier ef, ac nac eillied y fan y byddo y ddufrech; a chaued yr offeiriad ar berchen y ddufrech saith niwrnod eilwaith.

34 A’r seithfed dydd edryched yr offeiriad ar y ddufrech: ac wele, os y ddufrech ni ledodd yn y croen, ac ni bydd îs ei gweled na’r croen; yna barned yr offeiriad ef yn lân, a golched ei ddillad, a glân fydd.

35 Ond os y ddufrech gan ledu a leda yn y croen, wedi ei lanhâu ef;

36 Yna edryched yr offeiriad ef: ac wele, os lledodd y ddufrech yn y croen, na chwilied yr offeiriad am y blewyn melyn: y mae efe yn aflan.

37 Ond os sefyll y bydd y ddufrech yn ei olwg ef, a blewyn du wedi tyfu ynddi; aeth y ddufrech yn iach, glân yw hwnnw; a barned yr offeiriad ef yn lân.

38 ¶ Os bydd y’nghroen cnawd gwr neu wraig lawer o ddisglair fannau gwỳnion;

39 Yna edryched yr offeiriad: ac wele, os bydd y’nghroen eu cnawd hwynt ddisgleir­iadau gwỳnion wedi gordduo; brychni yw hynny yn tarddu yn y croen: glân yw efe.

40 A gwr pan syrthio gwallt ei ben, moel yw; etto glân fydd.

41 Ac os o du ei wyneb y syrth gwallt ei ben, efe a fydd tal-foel; etto glân fydd efe.

42 Ond pan fyddo anafod gwỳn-goch yn y pen-foeledd neu yn y tal-foeledd; gwahan-glwyf yw efe yn tarddu yn ei ben-foeledd, neu yn ei dal-foeledd ef.

43 Ac edryched yr offeiriad arno: ac wele, os bydd chŵydd yr anafod yn wỳn-goch, yn ei ben-foeledd, neu yn ei dal-foeledd ef, fel gwelediad gwahan-glwyf y’nghroen y cnawd;

44 Gwr gwahan-glwyfus yw hwnnw, aflan yw; a’r offeiriad a’i barna ef yn llwyr-aflan: yn ei ben y mae ei bla.

45 A’r gwahan-glwyfus yr hwn y byddo pla arno, bydded ei wisgoedd ef wedi rhwygo, a’i ben yn noeth, a rhodded gaead ar ei wefus uchaf, a llefed, Aflan, aflan.

46 Yr holl ddyddiau y byddo y pla arno, bernir ef yn aflan: aflan yw efe: triged ei hunan; bydded ei drigfa allan o’r gwersyll.

47 ¶ Ac os dilledyn fydd a phla gwahan-glwyf ynddo, o ddilledyn gwlan, neu o ddilledyn llin,

48 Pa un bynnag ai yn yr ystof, ai yn yr anwe, o lin, neu o wlan, neu mewn croen, neu mewn dim a wnaed o groen;

49 Os gwyrddlas neu goch fydd yr anafod yn y dilledyn, neu yn y croen, neu yn yr ystof, neu yn yr anwe, neu mewn dim o groen: pla y gwahan-glwyf yw efe; a dangoser ef i’r offeiriad.

50 Ac edryched yr offeiriad ar y pla; a chaued ar y peth y bo y pla arno, saith niwrnod.

51 A’r seithfed dydd edryched ar y pla: os y pla a ledodd yn y dilledyn, pa un bynnag ai mewn ystof, ai mewn anwe, ai mewn croen, neu beth bynnag a wnaed o groen; gwahan-glwyf ysol yw y pla; aflan yw.

52 Am hynny llosged y dilledyn hwnnw, pa un bynnag ai ystof, ai anwe, o wlan, neu o lin, neu ddim o groen, yr hwn y byddo pla ynddo: canys gwahan-glwyf ysol yw efe; llosger yn tân.

53 Ac os edrych yr offeiriad; ac wele, ni ledodd y pla mewn dilledyn, mewn ystof, neu mewn anwe, neu ddim o groen;

54 Yna gorchymyned yr offeiriad iddynt olchi yr hyn y byddo y pla ynddo, a chaued arno saith niwrnod eilwaith.

55 Ac edryched yr offeiriad ar y pla wedi ei olchi: ac wele, os y pla ni throdd ei liw, ac ni ledodd y pla; efe a fydd aflan, llosg ef yn tân; ysiad yw, pa un bynnag y bo yn llwm ai o’r tu mewn ai o’r tu allan.

56 Ac os edrych yr offeiriad; ac wele y pla yn odywyll, ar ol ei olchi; yna torred ef allan o’r dilledyn, neu o’r croen, neu o’r ystof, neu o’r anwe.

57 Ond os gwelir ef etto yn y dilledyn, yn yr ystof, neu yn yr anwe, neu mewn dim o groen; tarddu y mae efe: llosg yr hwn y mae y pla ynddo yn tân.

58 A’r dilledyn, neu yr ystof, neu yr anwe, neu pa beth bynnag o groen, y rhai a olcher, os ymadawodd y pla â hwynt, a olchir eilwaith; a glân fydd.

59 Dyma gyfraith pla gwahan-glwyf, mewn dilledyn gwlan, neu lin, mewn ystof, neu anwe, neu pa beth bynnag o groen, i’w farnu yn lân, neu i’w farnu yn aflan.


Pennod XIV.

1 Y seremonïau a’r aberthau wrth lanhâu y gwahan-glwyfus. 3 Arwyddion y gwahan-glwyf mewn tŷ. 48 Y modd y glanhêir y tŷ hwnnw.

Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Dyma gyfraith y gwahan-glwyfus, y dydd y glanhêir ef. Dyger ef at y offeiriad:

3 A’r offeiriad a ddaw allan o’r gwersyll; ac edryched yr offeiriad: ac wele, os pla’r gwahan-glwyf a iachaodd ar y gwahan-glwyfus;

4 Yna gorchymyned yr offeiriad i’r hwn a lanhêir, gymmeryd dau aderyn y tô, byw a glân, a choed cedr, ac ysgarlad, ac isop.

5 A gorchymyned yr offeiriad ladd y naill aderyn y to mewn llestr pridd, oddi at ddwfr rhedegog.

6 A chymmered efe yr aderyn byw, a’r coed cedr, a’r ysgarlad, a’r isop, a throched hwynt a’r aderyn byw hefyd y’ngwaed yr aderyn a laddwyd oddi ar y dwfr rhedegog.

7 A thaenelled seithwaith ar yr hwn a lanhêir oddi wrth y gwahan-glwyf, a barned ef yn lân; yna gollynged yr aderyn byw yn rhydd ar wyneb y maes.

8 A golched yr hwn a lanhêir ei ddillad, ac eillied ei holl flew, ac ymolched mewn dwfr; a glân fydd: a deued wedi hynny i’r gwersyll, a thriged o’r tu allan i’w babell saith niwrnod.

9 A’r seithfed dydd bydded iddo eillio ei holl flew, sef ei ben, a’i farf, ac aeliau ei lygaid; ïe, eillied ei holl flew; a golched ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr; a glân fydd.

10 A’r wythfed dydd cymmered ddau oen perffeith-gwbl, ac un hespin flwydd berffeith-gwbl, a thair degfed ran o beilliaid, yn fwyd-offrwm, wedi ei gymmysgu trwy olew, ac un log o blew.

11 A gosoded yr offeiriad a lanhao, y gwr a lanhêir, a hwynt hefyd, ger bron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod.

12 A chymmered yr offeiriad un hespwrn, ac offrymmed ef yn aberth dros gamwedd, a’r log o olew, a chyhwfaned hwynt yn offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd.

13 A lladded ef yr oen yn y lle y lladder y pech-aberth, a’r poeth-offrwm; sef yn y lle sanctaidd: o herwydd yr aberth dros gamwedd sydd eiddo yr offeiriad, yn gystal a’r pech-aberth: sancteiddiolaf yw.

14 A chymmered yr offeiriad o waed yr aberth dros gamwedd, a rhodded yr offeiriad ef ar gwrr isaf clust ddehau yr hwn a lanhêir, ac ar fawd ei law ddehau, ac ar fawd ei droed dehau ef.

15 A chymmered yr offeiriad o’r log olew, a thywallted ar gledr ei law aswy ei hun:

16 A gwlyched yr offeiriad ei fys dehau yn yr olew fyddo ar ei law aswy, a thaenelled o’r olew â’i fys seithwaith ger bron yr Arglwydd.

17 Ac o weddill yr olew fyddo ar ei law, y dŷd yr offeiriad ar gwrr isaf clust ddehau yr hwn a lanhêir, ac ar fawd ei law ddehau, ac ar fawd ei droed dehau, ar waed yr offrwm dros gamwedd.

18 A’r rhan arall o’r olew fyddo ar law yr offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanhêir; a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto ger bron yr Arglwydd.

19 Ië, offrymmed yr offeiriad aberth dros bechod, a gwnaed gymod dros yr hwn a lanhêir oddi wrth ei aflendid; ac wedi hynny lladded y poeth-offrwm.

20 Ac aberthed yr offeiriad y poeth-offrwm, a’r bwyd-offrwm, ar yr allor; a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto; a glân fydd.

21 Ond os tlawd fydd, a’i law heb gyrhaeddyd hyn; yna cymmered un oen, yn aberth dros gamwedd, i’w gyhwfanu, i wneuthur cymmod drosto, ac un ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew yn fwyd-offrwm, a log o olew;

22 A dwy durtur, neu ddau gyw colommen, y rhai a gyrhaeddo ei law: a bydded un yn bech-aberth, a’r llall yn boeth-offrwm.

23 A dyged hwynt yr wythfed dydd i’w lanhâu ef at yr offeiriad, wrth ddrws pabell y cyfarfod, ger bron yr Arglwydd.

24 A chymmered yr offeiriad oen yr offrwm dros gamwedd, a’r log olew, a chyhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd.

25 A lladded oen yr offrwm dros gamwedd; a chymmered yr offeiriad o waed yr offrwm dros gamwedd, a rhodded ar gwrr isaf clust ddehau yr hwn a lanhêir, ac ar fawd ei law ddehau, ac ar fawd ei droed dehau.

26 A thywallted yr offeiriad o’r olew ar gledr ei law aswy ei hun:

27 Ac â’i fys dehau taenelled yr offeiriad o’r olew fyddo ar gledr ei law aswy, seithwaith ger bron yr Arglwydd.

28 A rhodded yr offeiriad o’r olew a fyddo ar gledr ei law, ar gwrr isaf clust ddehau yr hwn a lanhêir, ac ar fawd ei law ddehau, ac ar fawd ei droed dehau, ar y man y byddo gwaed yr offrwm dros gamwedd.

29 A’r rhan arall o’r olew fyddo ar gledr llaw yr offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanhêir, i wneuthur cymmod drosto ger bron yr Arglwydd.

30 Yna offrymmed un o’r turturau, neu o’r cywion colommennod, sef o’r rhai a gyrhaeddo ei law ef;

31 Y rhai, meddaf, a gyrhaeddo ei law ef, un yn bech-aberth, ac un yn boeth-offrwm, ynghyd â’r bwyd-offrwm: a gwnaed yr offeiriad gymmod dros yr hwn a lanhêir ger bron yr Arglwydd.

32 Dyma gyfraith yr un y byddo pla y gwahan-glwyf arno, yr hwn ni chyrraedd ei law yr hyn a berthyn i’w lanhâd.

33 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,

34 Pan ddeloch i dir Canaan, yr hwn yr ydwyf yn ei roddi i chwi yn feddiant, os rhoddaf bla gwahan-glwyf ar dŷ o fewn tir eich meddiant;

35 A dyfod o’r hwn bïau y tŷ, a dangos i’r offeiriad, gan ddywedyd, Gwelaf megis pla yn y tŷ:

36 Yna gorchymyned yr offeiriad iddynt arloesi’r tŷ, cyn dyfod yr offeiriad i weled y pla, fel na haloger yr hyn oll a fyddo yn tŷ: ac wedi hynny deued yr offeiriad i edrych y tŷ,

37 Ac edryched ar y pla: ac wele, os y pla fydd ym mharwydydd y tŷ, yn agennau gwyrddleision neu gochion, a’r olwg arnynt yn îs na’r pared,

38 Yna aed yr offeiriad allan o’r tŷ, i ddrws y tŷ, a chaued y tŷ saith niwrnod.

39 A’r seithfed dydd deued yr offeiriad drachefn, ac edryched: ac os lledodd y pla ym mharwydydd y tŷ,

40 Yna gorchymyned yr offeiriad iddynt dynnu’r cerrig y byddo y pla arnynt, a bwriant hwynt allan o’r ddinas i le aflan.

41 A phared grafu y tŷ o’i fewn o amgylch, a thywalltant y llwch a grafont, o’r tu allan i’r ddinas i le aflan.

42 A chymmerant gerrig eraill, a gosodant yn lle y cerrig hynny; a chymmered bridd arall, a phridded y tŷ.

43 Ond os daw y pla drachefn, a tharddu yn y tŷ, wedi tynnu y cerrig, ac wedi crafu y tŷ, ac wedi priddo;

44 Yna doed yr offeiriad, ac edryched: ac wele, os lledodd y pla yn y tŷ, gwahan-glwyf ysol yw hwnnw yn y tŷ: aflan yw efe.

45 Yna tynned y tŷ i lawr, ei gerrig, a’i goed, a holl bridd y tŷ; a bwried i’r tu allan i’r ddinas i le aflan.

46 A’r hwn a ddêl i’r tŷ yr holl ddyddiau y parodd efe ei gau, efe a fydd aflan hyd yr hwyr.

47 A’r hwn a gysgo yn y tŷ, golched ei ddillad: felly yr hwn a fwyttao yn y tŷ, golched ei ddillad.

48 Ac os yr offeiriad gan ddyfod a ddaw, ac a edrych; ac wele, ni ledodd y pla yn y tŷ, wedi priddo y tŷ: yna barned yr offeiriad y tŷ yn lân, o herwydd iachâu y pla.

49 A chymmered i lanhâu y tŷ ddau aderyn y tô, a choed cedr, ac ysgarlad, ac isop.

50 A lladded y naill aderyn mewn llestr pridd, oddi ar ddwfr rhedegog.

51 A chymmered y coed cedr, a’r isop, a’r ysgarlad, a’r aderyn byw, a throched hwynt y’ngwaed yr aderyn a laddwyd, ac yn y dwfr rhedegog, a thaenelled ar y tŷ seithwaith.

52 A glanhâed y tŷ â gwaed yr aderyn, ac â’r dwfr rhedegog, ac â’r aderyn byw, ac â’r coed cedr, ac â’r isop, ac â’r ysgarlad.

53 A gollynged yr aderyn byw allan o’r ddinas ar wyneb y maes, a gwnaed gymmod dros y tŷ; a glân fydd.

54 Dyma gyfraith am bob pla y clwyf gwahanol, ac am y ddufrech,

55 Ac am wahan-glwyf gwisg, a thŷ,

56 Ac am chwydd, a chramen, a disgleirdeb;

57 I ddysgu pa bryd y bydd aflan, a pha bryd yn lân. Dyma gyfraith y gwahan-glwyf.


Pennod XV.

1 Aflendid gwŷr yn eu diferlif. 13 Eu puredigaeth. 19 Aflendid gwragedd yn eu diferlif; 28 a’u puredigaeth.

A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,

2 Llefarwch wrth feibion Israel, a dywedwch wrthynt, Pob un pan fyddo diferlif yn rhedeg o’i gnawd, a fydd aflan oblegid ei ddiferlif.

3 A hyn fydd ei aflendid yn ei ddiferlif: os ei gnawd ef a ddifera ei ddiferlif, neu ymattal o’i gnawd ef oddi wrth ei ddiferlif; ei aflendid ef yw hyn.

4 Pob gwely y gorweddo ynddo un diferllyd, a fydd aflan; ac aflan fydd pob peth yr eisteddo efe arno.

5 A’r neb a gyffyrddo â’i wely ef, golched ei ddillad, ac ymdroched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

6 A’r hwn a eisteddo ar ddim yr eisteddodd y diferllyd arno, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

7 A’r hwn a gyffyrddo â chnawd y diferllyd, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

8 A phan boero y diferllyd ar un glân, golched hwnnw ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

9 Ac aflan fydd pob cyfrwy y marchogo y diferllyd ynddo.

10 A phwy bynnag a gyffyrddo â dim a fu dano, bydd aflan hyd yr hwyr: a’r hwn a’u dycco hwynt, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

11 A phwy bynnag y cyffyrddo y diferllyd âg ef, heb olchi ei ddwylaw mewn dwfr, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

12 A’r llestr pridd y cyffyrddo’r diferllyd âg ef, a ddryllir: a phob llestr pren a olchir mewn dwfr.

13 A phan lanhêir y diferllyd oddi wrth ei ddiferlif; yna cyfrifed iddo saith niwrnod i’w lanhâu, a golched ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr rhedegog, a glân fydd.

14 A’r wythfed dydd cymmered iddo ddwy durtur, neu ddau gyw colommen, a deued ger bron yr Arglwydd, i ddrws pabell y cyfarfod, a rhodded hwynt i’r offeiriad.

15 Ac offrymmed yr offeiriad hwynt, un yn bech-aberth, a’r llall yn boeth-offrwm: a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto ef am ei ddiferlif, ger bron yr Arglwydd.

16 Ac os gwr a ddaw oddi wrtho ddisgyniad had; yna golched ei holl gnawd mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

17 A phob dilledyn, a phob croen, y byddo disgyniad had arno, a olchir mewn dwfr, ac a fydd aflan hyd yr hwyr.

18 A’r wraig y cysgo gwr mewn disgyniad had gyd â hi; ymolchant mewn dwfr, a byddant aflan hyd yr hwyr ill dau.

19 ¶ A phan fyddo gwraig a diferlif arni, a bod ei diferlif yn ei chnawd yn waed; bydded saith niwrnod yn ei gwahaniaeth: a phwy bynnag a gyffyrddo â hi, bydd aflan hyd yr hwyr.

20 A’r hyn oll y gorweddo hi arno yn ei gwahaniaeth, fydd aflan; a’r hyn oll yr eisteddo hi arno, a fydd aflan.

21 A phwy bynnag a gyffyrddo â’i gwely hi, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

22 A phwy bynnag a gyffyrddo â dim yr eisteddodd hi arno, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

23 Ac os ar y gwely y bydd efe, neu ar ddim y byddo hi yn eistedd arno, wrth gyffwrdd âg ef; hyd yr hwyr y bydd efe aflan.

24 Ond os gwr gan gysgu a gwsg gyd â hi, fel y byddo o’i mis-glwyf hi arno ef; aflan fydd efe saith niwrnod, ac aflan fydd yr holl wely y gorwedd efe arno.

25 A phan fyddo diferlif ei gwaed yn rhedeg ar wraig lawer o ddyddiau, allan o amser ei hanhwyl, neu pan redo diferlif arni ar ôl ei hanhwyl; bydded holl ddyddiau diferlif ei haflendid hi megis dyddiau ei gwahaniaeth: aflan fydd hi.

26 Pob gwely y gorweddo hi arno holl ddyddiau ei diferlif, fydd iddi fel gwely ei mis-glwyf; a phob dodrefnyn yr eisteddo hi arno fydd aflan, megis aflendid ei mis-glwyf hi.

27 A phwy bynnag a gyffyrddo â hwynt, aflan fydd, a golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

28 Ac os glanhêir hi o’i diferlif; yna cyfrifed iddi saith niwrnod: ac wedi hynny glân fydd.

29 A’r wythfed dydd cymmered iddi ddwy durtur, neu ddau gyw colommen, a dyged hwynt at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod.

30 Ac offrymmed yr offeiriad un yn bech-aberth, a’r llall yn boeth-offrwm; a gwnaed yr offeiriad gymmod drosti ger bron yr Arglwydd, am ddiferlif ei haflendid.

31 Felly y neillduwch blant Israel oddi wrth eu haflendid, fel na byddant feirw yn eu haflendid, pan halogant fy mhabell yr hon sydd yn eu mysg.

32 Dyma gyfraith yr hwn y byddo’r diferlif arno, a’r hwn y daw oddi wrtho ddisgyniad had, fel y byddo aflan o’u herwydd;

33 A’r glaf o’i mis-glwyf, a’r neb y byddo y diferlif arno, o wrryw, ac o fenyw, ac i’r gwr a orweddo ynghyd â’r hon a fyddo aflan.


Pennod XVI.

1 Y modd y mae i’r arch-offeiriad fyned i mewn i’r cyssegr. 11 Y pech-aberth dros y bobl. 20 Yr afr ddïangol. 29 Gwyl y cymmod bob blwyddyn.

Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, wedi marwolaeth dau fab Aaron, pan offrymmasant ger bron yr Arglwydd, ac y buant feirw,

2 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Llefara wrth Aaron dy frawd, na ddelo bob amser i’r cysegr o fewn y wahanlen, ger bron y drugareddfa sydd ar yr arch; fel na byddo efe farw: o herwydd mi a ymddangosaf ar y drugareddfa yn y cwmmwl.

3 A hyn y daw Aaron i’r cysegr: â bustach ieuangc yn bech-aberth, ac â hwrdd yn boeth-offrwm.

4 Gwisged bais lïan sanctaidd, a bydded llodrau llïan am ei gnawd, a gwregyser ef â gwregys llïan, a gwisged feitr llïan: gwisgoedd sanctaidd yw y rhai hyn; golched yntau ei gnawd mewn dwfr, pan wisgo hwynt.

5 A chymmered gan gynulleidfa meibion Israel ddau lwdn gafr yn bech-aberth, ac un hwrdd yn boeth-offrwm.

6 Ac offrymmed Aaron fustach y pech-aberth a fyddo drosto ei hun, a gwnaed gymmod drosto ei hun, a thros ei dŷ.

7 A chymmered y ddau fwch, a gosoded hwynt ger bron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod.

8 A rhodded Aaron goelbrennau ar y ddau fwch; un coelbren dros yr Arglwydd, a’r coelbren arall dros y bwch dihangol.

9 A dyged Aaron y bwch y syrthiodd coelbren yr Arglwydd arno, ac offrymmed ef yn bech-aberth.

10 A’r bwch y syrthiodd arno y coelbren i fod yn fwch dïangol, a roddir i sefyll yn fyw ger bron yr Arglwydd, i wneuthur cymmod ag ef, ac i’w ollwng i’r anialwch yn fwch dïangol.

11 A dyged Aaron fustach y pech-aberth a fyddo drosto ei hun, a gwnaed gymmod drosto ei hun, a thros ei dŷ; a lladded fustach y pech-aberth a fyddo drosto ei hun:

12 A chymmered lonaid thusser o farwor tanllyd oddi ar yr allor, oddi ger bron yr Arglwydd, a llonaid ei ddwylaw o arogl-darth peraidd mân, a dyged o fewn y wahanlen:

13 A rhodded yr arogl-darth ar y tân, ger bron yr Arglwydd; fel y cuddio mwg yr arogl-darth y drugareddfa, yr hon sydd ar y dystiolaeth, ac na byddo efe farw:

14 A chymmered o waed y bustach, a thaenelled â’i fys ar y drugareddfa tu a’r dwyrain: a saith waith y taenella efe o’r gwaed â’i fys o flaen y drugareddfa.

15 ¶ Yna lladded fwch y pech-aberth fydd dros y bobl, a dyged ei waed ef o fewn y wahanlen; a gwnaed â’i waed megis ag y gwnaeth â gwaed y bustach, a thaenelled ef ar y drugareddfa, ac o flaen y drugareddfa:

16 A glanhâed y cyssegr oddi wrth aflendid meibion Israel, ac oddi wrth eu hanwireddau, yn eu holl bechodau: a gwnaed yr un modd i babell y cyfarfod, yr hon sydd yn aros gyd â hwynt, ymysg eu haflendid hwynt.

17 Ac na fydded un dyn ym mhabell y cyfarfod, pan ddelo efe i mewn i wneuthur cymmod yn y cyssegr, hyd oni ddelo efe allan, a gwneuthur o hono ef gymmod drosto ei hun, a thros ei dŷ, a thros holl gynnulleidfa Israel.

18 Ac aed efe allan at yr allor sydd ger bron yr Arglwydd, a gwnaed gymmod arni; a chymmered o waed y bustach, ac o waed y bwch, a rhodded ar gyrn yr allor oddi amgylch.

19 A thaenelled arni o’r gwaed seithwaith â’i fys, a glanhâed hi, a sancteiddied hi oddi wrth aflendid meibion Israel.

20 ¶ A phan ddarffo iddo lanhâu y cyssegr, a phabell y cyfarfod, a’r allor, dyged y bwch byw:

21 A gosoded Aaron ei ddwylaw ar ben y bwch byw, a chyffesed arno holl anwiredd meibion Israel, a’u holl gamweddau hwynt yn eu holl bechodau; a rhodded hwynt ar ben y bwch, ac anfoned ef ymaith yn llaw gŵr cymwys i’r anialwch.

22 A’r bwch a ddwg eu holl anwiredd hwynt arno, i dir neillduaeth: am hynny hebrynged efe y bwch i’r anialwch.

23 Yna deued Aaron i babell y cyfarfod, a dïosged y gwisgoedd llïan a wisgodd efe wrth ddyfod i’r cyssegr, a gadawed hwynt yno.

24 A golched ei gnawd mewn dwfr yn y lle sanctaidd, a gwisged ei ddillad, ac aed allan, ac offrymmed ei boeth-offrwm ei hun, a phoeth-offrwm y bobl, a gwnaed gymmod drosto ei hun, a thros y bobl.

25 A llosged wer y pech-aberth ar yr allor.

26 A golched yr hwn a anfonodd y bwch i fod yn fwch dïangol, ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr; ac yna deued i’r gwersyll.

27 A bustach y pech-aberth, a bwch y pech-aberth, y rhai y dygwyd eu gwaed i wneuthur cymmod yn y cyssegr, a ddwg un i’r tu allan i’r gwersyll; a hwy a losgant eu crwyn hwynt, a’u cnawd, a’u biswail, yn tân.

28 A golched yr hwn a’u llosgo hwynt ei ddillad, golched hefyd ei gnawd mewn dwfr; wedi hynny deued i’r gwersyll.

29 ¶ A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi: y seithfed mis, ar y degfed dydd o’r mis, y cystuddiwch eich eneidiau, a dim gwaith nis gwnewch, y prïodor a’r dïeithr a fyddo yn ymdaith yn eich plith.

30 O herwydd y dydd hwnnw y gwna yr offeiriad gymmod drosoch, i’ch glanhâu o’ch holl bechodau, fel y byddoch lân gerbron yr Arglwydd.

31 Sabbath gorphwystra yw hwn i chwi; yna cystuddiwch eich eneidiau, trwy ddeddf dragwyddol.

32 A’r offeiriad, yr hwn a enneinio efe, a’r hwn a gyssegro efe, i offeiriadu yn lle ei dad, a wna y cymmod, ac a wisg y gwisgoedd llïan, sef y gwisgoedd sanctaidd:

33 Ac a lanhâ y cyssegr sanctaidd, ac a lanhâ babell y cyfarfod, a’r allor; ac a wna gymmod dros yr offeiriaid, a thros holl bobl y gynnulleidfa.

34 A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi, i wneuthur cymmod dros feibion Israel, am eu pechodau oll, un waith yn y flwyddyn. Ac efe a wnaeth megis y gorchymynodd yr Arglwydd wrth Moses.


Pennod XVII.

1 Rhaid yw offrwm i’r Arglwydd wrth ddrws y babell waed yr holl anifeiliaid a leddir. 7 Ni wasanaetha iddynt aberthu i gythreuliaid. 10 Gwahardd bwytta gawed, 15 a phob peth a fo marw ei hun, neu a ynglyfaethwyd.

A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel, a dywed wrthynt, Dyma y peth a orchymynodd yr Arglwydd, gan ddywedyd,

3 Pob un o dŷ Israel a laddo ŷch, neu oen, neu afr, o fewn y gwersyll, neu a laddo allan o’r gwersyll,

4 Ac heb ei ddwyn i ddrws pabell y cyfarfod, i offrymmu offrwm i’r Arglwydd, o flaen tabernacl yr Arglwydd; gwaed a fwrir yn erbyn y gwr hwnnw; gwaed a dywalltodd efe: a thorrir y gwr hwnnw ymaith o blith ei bobl.

5 O herwydd yr hwn beth, dyged meibion Israel eu haberthau y rhai y maent yn eu haberthu ar wyneb y maes; ïe, dygant hwynt i’r Arglwydd, i ddrws pabell y cyfarfod, at yr offeiriad, ac aberthant hwynt yn aberthau hedd i’r Arglwydd.

6 A thaenelled yr offeiriad y gwaed ar allor yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod, a llosged y gwer yn arogl peraidd i’r Arglwydd.

7 Ac nac aberthant eu haberthau mwy i gythreuliaid, y rhai y buant yn putteinio ar eu hol. Deddf dragwyddol fydd hyn iddynt, trwy eu cenedlaethau.

8 ¶ Dywed gan hynny wrthynt, Pwy bynnag o dŷ Israel, ac o’r dïeithriaid a ymdeithio yn eich mysg, a offrymmo boeth-offrwm, neu aberth,

9 Ac nis dwg ef i ddrws pabell y cyfarfod, i’w offrymmu i’r Arglwydd; torrir ymaith y gwr hwnnw o blith ei bobl.

10 ¶ A phwy bynnag o dŷ Israel, ac o’r dïeithriaid a ymdeithio yn eich mysg, a fwyttao ddim gwaed; myfi a osodaf fy wyneb yn erbyn yr enaid a fwyttao waed, a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl.

11 O herwydd einioes y cnawd sydd yn y gwaed, a mi a’i rhoddais i chwi ar yr allor, i wneuthur cymmod dros eich eneidiau; o herwydd y gwaed hwn a wna gyfaod dros yr enaid.

12 Am hynny y dywedais wrth feibion Israel, Na fwyttaed un enaid o honoch waed; a’r dieithr a ymdeithio yn eich mysg, na fwyttaed waed.

13 A phwy bynnag o feibion Israel, neu o’r dieithriaid a ymdeithio yn eu mysg, a helio helfa o fwystfil, neu o aderyn a fwyttaer; tywallted ymaith ei waed ef, a chuddied ef â llwch.

14 O herwydd einioes pob cnawd yw ei waed; yn lle ei einioes ef y mae: am hynny y dywedais wrth feibion Israel, Na fwyttêwch waed un cnawd; o herwydd einioes pob cnawd yw ei waed: pwy bynnag a’i bwyttao, a dorrir ymaith.

15 A phob dyn a’r a fwyttao y peth a fu farw o hono ei hun, neu ysglyfaeth, pa un bynnag ai prïodor, ai dïeithrddyn; golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr: yna glân fydd.

16 Ond os efe nis gylch hwynt, ac ni ylch ei gnawd; yna y dwg efe ei anwiredd.

Pennod XVIII.

1 Prïodasau anghyfreithlawn. 19 Chwantau anghyfreithlawn.

A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Myfi yw yr Arglwydd eich Duw.

3 Na wnewch yn ol gweithredoedd gwlad yr Aipht, yr hon y trigasoch ynddi; ac na wnewch yn ol gweithredoedd gwlad Canaan, yr hon yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddi; ac na rodiwch yn eu deddfau hwynt.

4 Fy marnedigaethau i a wnewch, a’m deddfau a gedwch, i rodio ynddynt: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.

5 Ië, cedwch fy neddfau a’m barnedigaethau: a’r dyn a’u cadwo, a fydd byw ynddynt: myfi yw yr Arglwydd.

6 ¶ Na nesâed neb at gyfnesaf ei gnawd, i ddinoethi eu noethni: myfi yw yr Arglwydd.

7 Noethni dy dad, neu noethni dy fam, na ddinoetha: dy fam yw hi, na ddinoetha ei noethni.

8 Na ddinoetha noethni gwraig dy dad: noethni dy dad yw.

9 Noethni dy chwaer, merch dy dad, neu ferch dy fam, yr hon a anwyd gartref, neu a anwyd allan; na ddinoetha eu noethni hwynt.

10 Noethni merch dy fab, neu ferch dy ferch; na ddinoetha eu noethni hwynt: canys dy noethni di ydyw.

11 Noethni merch gwraig dy dad, plentyn dy dad, dy chwaer dithau yw hi; na ddinoetha ei noethni hi.

12 Na ddinoetha noethni chwaer dy dad: cyfnesaf dy dad yw hi.

13 Na ddinoetha noethni chwaer dy fam: canys cyfnesaf dy fam yw hi.

14 Na noetha noethni brawd dy dad; sef na nesâ at ei wraig ef: dy fodryb yw hi.

15 Na noetha noethni dy waudd: gwraig dy fab yw hi; na noetha ei noethni hi.

16 Na ddinoetha noethni gwraig dy frawd: noethni dy frawd yw.

17 Na noetha noethni gwraig a’i merch; na chymmer ferch ei mab hi, neu ferch ei merch hi, i noethi ei noethni hi: ei chyfnesaf hi yw y rhai hyn: ysgelerder yw hyn.

18 Hefyd na chymmer wraig ynghyd â’i chwaer, i’w chystuddio hi, gan noethi noethni honno gyd â’r llall, yn ei byw hi.

19 Ac na nesâ at wraig yn neillduaeth ei haflendid, i noethi ei noethni hi.

20 Ac na chyd-orwedd gyd â gwraig dy gymmydog, i fod yn aflan o’i phlegid.

21 Ac na ddod o’th had i fyned trwy dân i Moloch: ac na haloga enw dy Dduw: myfi yw yr Arglwydd.

22 Ac na orwedd gyd â gwrryw, fel gorwedd gyd â benyw: ffieidd-dra yw hynny.

23 Ac na chyd-orwedd gyd âg un anifail, i fod yn aflan gyd âg ef; ac na safed gwraig o flaen un anifail i orwedd dano: cymmysgedd yw hynny.

24 Nac ymhalogwch yn yr un o’r pethau hyn: canys yn y rhai hyn oll yr halogwyd y cenhedloedd yr ydwyf yn eu gyrru allan o’ch blaen chwi:

25 A’r wlad a halogwyd: am hynny yr ydwyf yn ymweled â’i hanwiredd yn ei herbyn, fel y chwydo y wlad ei thrigolion.

26 Ond cedwch chwi fy neddfau a’m barnedigaethau i, ac na wnewch ddim o’r holl ffiaidd bethau hyn; na’r prïodor, na’r dïeithrddyn sydd yn ymdaith yn eich mysg:

27 (O herwydd yr holl ffiaidd bethau hyn a wnaeth gwŷr y wlad, y rhai a fu o’ch blaen, a’r wlad a halogwyd;)

28 Fel na chwydo y wlad chwithau, pan halogoch hi, megis y chwydodd hi y genedl oedd o’ch blaen.

29 Canys pwy bynnag a wnel ddim o’r holl ffiaidd bethau hyn; torrir ymaith yr eneidiau a’u gwnelo o blith eu pobl.

30 Am hynny cedwch fy neddf i, heb wneuthur yr un o’r deddfau ffiaidd a wnaed o’ch blaen chwi, ac nac ymhalogwch ynddynt: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.


Pennod XIX.

Ail-adrodd amryw gyfreithiau.

A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth holl gynulleidfa meibion Israel, a dywed wrthynt, Byddwch sanctaidd: canys sanctaidd ydwyf fi, yr Arglwydd eich Duw chwi.

3 ¶ Ofnwch bob un ei fam, a’i dad; a chedwch fy Sabbathau: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.

4 Na throwch at eilunod, ac na wnewch i chwi dduwiau tawdd: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.

5 ¶ A phan aberthoch hedd-aberth i’r Arglwydd, yn ol eich ewyllys eich hun yr aberthwch hynny.

6 Ar y dydd yr offrymmoch, a thrannoeth, y bwyttêir ef: a llosger yn tân yr hyn a weddillir hyd y trydydd dydd.

7 Ond os gan fwytta y bwyttêir ef o fewn y trydydd dydd, ffiaidd fydd efe, ni bydd gymmeradwy.

8 A’r hwn a’i bwyttao a ddwg ei anwiredd, am iddo halogi cyssegredig beth yr Arglwydd; a’r enaid hwnnw a dorrir ymaith o blith ei bobl.

9 ¶ A phan gynhauafoch gynhauaf eich tir, na feda yn llwyr gonglau dy faes, ac na chynnull loffion dy gynhauaf.

10 Na loffa hefyd dy winllan, ac na chynnull rawn gweddill dy winllan; gâd hwynt i’r tlawd ac i’r dïeithr: yr Arglwydd eich Duw chwi ydwyf fi.

11 ¶ Na ladrattêwch, ac na ddywedwch gelwydd, ac na thwyllwch bob un ei gymmydog.

12 ¶ Ac na thyngwch i’m henw i yn anudon, ac na haloga enw dy Dduw; yr Arglwydd ydwyf fi.

13 ¶ Na cham-atal oddi wrth dy gymmydog, ac nac yspeilia ef: na thriged cyflog y gweithiwr gyd â thi hyd y bore.

14 ¶ Na felldiga’r byddar, ac na ddod dramgwydd o flaen y dall; ond ofna dy Dduw: yr Arglwydd ydwyf fi.

15 ¶ Na wnewch gam mewn barn; na dderbyn wyneb y tlawd, ac na pharcha wyneb y cadarn: barna dy gymmydog mewn cyfiawnder.

16 ¶ Ac na rodia yn athrodwr ym mysg dy bobl; na saf yn erbyn gwaed dy gymmydog; yr Arglwydd ydwyf fi.

17 ¶ Na chasâ dy frawd yn dy galon: gan geryddu cerydda dy gymmydog, ac na ddïoddef bechod ynddo.

18 ¶ Na ddïala, ac na chadw lid i feibion dy bobl; ond câr dy gymmydog megis ti dy hun: yr Arglwydd ydwyf fi.

19 ¶ Cedwch fy neddfau: na âd i’th anifeiliaid gydio o amryw rywogaeth, ac na haua dy faes âg amryw had; ac nac aed amdanat ddilledyn cymysg o lin a gwlan.

20 ¶ A phan fyddo i wr a wnelo â benyw, a hithau yn forwyn gaeth wedi ei dyweddïo i wr, ac heb ei rhyddhâu ddim, neu heb roddi rhyddid iddi; bydded iddynt gurfa; ac na ladder hwynt, am nad oedd hi rydd.

21 A dyged efe yn aberth dros ei gamwedd i’r Arglwydd, i ddrws pabell y cyfarfod, hwrdd dros gamwedd.

22 A gwnaed yr offeiriad gymmod drosto â’r hwrdd dros gamwedd, ger bron yr Arglwydd, am ei bechod a bechodd efe: a maddeuir iddo am ei bechod a wnaeth efe.

23 ¶ A phan ddeloch i’r tir, a phlannu o honoch bob pren ymborth; cyfrifwch yn ddïenwaededig ei ffrwyth ef; tair blynedd y bydd efe megis dïenwaededig i chwi: na fwyttâer o hono.

24 A’r bedwaredd flwyddyn y bydd ei holl ffrwyth yn sanctaidd i foliannu yr Arglwydd âg ef.

25 A’r bummed flwyddyn y bwyttêwch ei ffrwyth, fel y chwanego efe ei gnwd i chwi: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.

26 ¶ Na fwyttêwch ddim ynghyd â’i waed: nac arferwch na swynion, na choel ar frudiau.

27 Na thalgrynnwch odre eich pen, ac na thor gyrrau dy farf.

28 Ac na wnewch dorriadau yn eich cnawd am un marw, ac na roddwch brint nôd arnoch: yr Arglwydd ydwyf fi.

29 ¶ Na haloga dy ferch, gan beri iddi butteinio: rhag putteinio y tir, a llenwi y wlad o ysgelerder.

30 ¶ Cedwch fy Sabbathau, a pherchwch fy nghyssegr: yr Arglwydd ydwyf fi.

31 ¶ Nac ewch ar ol dewiniaid, a nac ymofynnwch â’r brudwyr, i ymhalogi o’u plegid: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.

32 ¶ Cyfod ger bron penwynni, a pharcha wyneb henuriad; ac ofna dy Dduw: yr Arglwydd ydwyf fi.

33 ¶ A phan ymdeithio dïeithrddyn ynghyd â thi yn eich gwlad, na flinwch ef.

34 Bydded y dïeithr i chwi, yr hwn a ymdeithio yn eich plith, fel yr un a hanffo o honoch, a châr ef fel ti dy hun; o herwydd dïeithriaid fuoch y’ngwlad yr Aifft: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.

35 ¶ Na wnewch gam ar farn, ar lathen, ar bwys, nac ar fesur.

36 Bydded i chwi gloriannau cyfiawn, gerrig cyfiawn, ephah gyfiawn, a hin gyfiawn: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi, yr hwn a’ch dygais allan o dir yr Aipht.

37 Cedwch chwithau fy holl ddeddfau, a’m holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt: yr Arglwydd ydwyf fi.


Pennod XX.

1 Am yr hwn a roddo ei had i Moloch. 4 Am yr hwn a arbedo y cyfryw. 6 Am fyned at frudwyr. 7 Am ymsancteiddio. 9 Am yr hwn a felldithio ei rïeni. 10 Am odineb. 11, 14, 17, 19 Am ymlosgach. 13 Am orwedd gyd â gwrryw, 15 neu gyd âg anifail. 18 Am oflendid. 22 Gorchymyn ufudd-dod gyd â sancteiddrwydd. 27 Rhaid yw rhoddi brudwyr i farwolaeth.

A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Dywed hefyd wrth feibion Israel, Pob un o feibion Israel, neu o’r dïeithr a ymdeithio yn Israel, yr hwn a roddo o’i had i Moloch, a leddir yn farw; pobl y tir a’i llabyddiant ef â cherrig.

3 A mi a osodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac a’i torraf o fysg ei bobl; am iddo roddi o’i had i Moloch, i aflanhâu fy nghyssegr, ac i halogi fy enw sanctaidd.

4 Ac os pobl y wlad gan guddio a guddiant eu llygaid oddi wrth y dyn hwnnw, (pan roddo efe ei had i Moloch,) ac nis lladdant ef:

5 Yna y gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac yn erbyn ei dylwyth, a thorraf ymaith ef, a phawb a ddilynant ei butteindra ef, gan butteinio yn ôl Moloch, o fysg eu pobl.

6 ¶ A’r dyn a dro ar ôl dewiniaid, a brudwyr, i butteinio ar eu hol hwynt, gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, hefyd, a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl.

7 ¶ Ymsancteiddiwch gan hynny, a byddwch sanctaidd: canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

8 Cedwch hefyd fy neddfau, a gwnewch hwynt: myfi yw yr Arglwydd eich sancteiddydd.

9 ¶ Os bydd neb a felldigo ei dad neu ei fam, lladder ef yn farw: ei dad neu ei fam a felldigodd efe; ei waed fydd arno ei hun.

10 ¶ A’r gwr a odinebo gyd â gwraig gwr arall, sef yr hwn a odinebo gyd â gwraig ei gymmydog, lladder yn farw y godinebwr a’r odinebwraig.

11 A’r gwr a orweddo gyd â gwraig ei dad, a noethodd noethni ei dad: lladder yn feirw hwynt ill dau; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

12 Am y gwr a orweddo ynghyd â’i waudd, lladder yn feirw hwynt ill dau: cymmysgedd a wnaethant; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

13 A’r gwr a orweddo gyd â gwr, fel gorwedd gyd â gwraig, ffieidd-dra a wnaethant ill dau: lladder hwynt yn feirw; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

14 Y gwr a gymmero wraig a’i mam, ysgelerder yw hynny: llosgant ef a hwythau yn tân; ac na fydded ysgelerder yn eich mysg.

15 A lladder yn farw y gwr a ymgydio ag anifail; lladdant hefyd yr anifail.

16 A’r wraig a êl at un anifail, i orwedd dano, lladd di y wraig a’r anifail hefyd: lladder hwynt yn feirw; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

17 A’r gwr a gymmero ei chwaer, merch ei dad, neu ferch ei fam, ac a welo ei noethni hi, ac y gwelo hithau ei noethni yntau: gwaradwydd yw hynny; torrer hwythau ymaith y’ngolwg meibion eu pobl: noethni ei chwaer a noethodd efe; efe a ddwg ei anwiredd.

18 A’r gwr a orweddo gyd â gwraig glaf o’i mis-glwyf, ac a noetho ei noethni hi; ei diferlif hi a ddatguddiodd efe, a hithau a ddatguddiodd ddiferlif ei gwaed ei hun: am hynny torrer hwynt ill dau o fysg eu pobl.

19 Ac na noetha noethni chwaer dy fam, neu chwaer dy dad; o herwydd ei gyfnesaf ei hun y mae yn ei noethi: dygant eu hanwiredd.

20 A’r gwr a orweddo gyd â gwraig ei ewythr frawd ei dad, a noetha noethni ei ewythr: eu pechod a ddygant; byddant feirw yn ddiblant.

21 A’r gwr a gymmero wraig ei frawd, (peth aflan yw hynny,) efe a noethodd noethni ei frawd: di-blant fyddant.

22 ¶ Am hynny cedwch fy holl ddeddfau, a’m holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt; fel na chwydo y wlad chwi, yr hon yr ydwyf yn eich dwyn iddi i breswylio ynddi.

23 Ac na rodiwch yn neddfau y genedl yr ydwyf yn eu bwrw allan o’ch blaen chwi: o herwydd yr holl bethau hyn a wnaethant; am hynny y ffieiddiais hwynt.

24 Ac wrthych y dywedais, Chwi a etifeddwch eu tir hwynt; mi a’i rhoddaf i chwi i’w feddiannu; gwlad yn llifeirio o laeth a mêl: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi, yr hwn a’ch neillduais chwi oddi wrth bobloedd eraill.

25 Rhoddwch chwithau wahaniaeth rhwng yr anifail glân a’r aflan, a rhwng yr aderyn aflan a’r glân; ac na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd o herwydd anifail, neu o herwydd aderyn, neu o herwydd dim oll a ymlusgo ar y ddaear, yr hwn a neillduais i chwi i’w gyfrif yn aflan.

26 Byddwch chwithau sanctaidd i mi: o herwydd myfi yr Arglwydd ydwyf sanctaidd, ac a’ch neillduais chwi oddi wrth bobloedd eraill, i fod yn eiddof fi.

27 ¶ Gwr neu wraig a fo ganddynt yspryd dewiniaeth, neu frud, hwy a leddir yn farw: â cherrig y llabyddiant hwynt; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.


Pennod XXI.

1 Am alar yr offeiriaid. 6 Am eu sancteiddrwydd. 9 Am eu cymmeriad. 7, 13 Am eu prïodasau. 16 Ni chaiff yr offeiriaid a fo arnynt anaf weini yn y cyssegr

A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Llefara wrth yr offeiriaid, meibion Aaron, a dywed wrthynt, Nac ymhaloged neb am y marw ym mysg ei bobl.

2 Ond am ei gyfnesaf agos iddo; am ei fam, am ei dad, ac am ei fab, ac am ei ferch, ac am ei frawd,

3 Ac am ei chwaer o forwyn, yr hon sydd agos iddo, yr hon ni fu eiddo gwr: am honno y gall ymhalogi.

4 Nac ymhaloged pennaeth ym mysg ei bobl, i’w aflanhâu ei hun.

5 Na wnant foelni ar eu pennau, ac nac eilliant gyrrau eu barfau, ac na thorrant dorriadau ar eu cnawd.

6 Sanctaidd fyddant i’w Duw, ac na halogant enw eu Duw: o herwydd offrymmu y maent ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a bara eu Duw; am hynny byddant sanctaidd.

7 Na chymmerant butteinwraig, neu un halogedig, yn wraig: ac na chymmerant wraig wedi ysgar oddi wrth ei gwr; oherwydd sanctaidd yw efe i’w Dduw.

8 A chyfrif di ef yn sanctaidd; oherwydd bara dy Dduw di y mae efe yn ei offrymmu: bydded sanctaidd i ti; oherwydd sanctaidd ydwyf fi yr Arglwydd eich sancteiddydd.

9 ¶ Ac os dechreu merch un offeiriad buteinio, halogi ei thad y mae: llosger hi yn tân.

10 A’r offeiriad pennaf o’i frodyr, yr hwn y tywalltwyd olew yr enneiniad ar ei ben, ac a gyssegrwyd i wisgo y gwisgoedd, na ddïosged oddi am ei ben, ac na rwyged ei ddillad:

11 Ac na ddeued at gorph un marw, nac ymhaloged am ei dad, nac am ei fam:

12 Ac nac aed allan o’r cyssegr, ac na haloged gyssegr ei Dduw; am fod coron olew enneiniad ei Dduw arno ef; myfi yw yr Arglwydd.

13 A chymmered efe wraig yn ei morwyndod.

14 Gwraig weddw, na gwraig wedi ysgar, nac un halogedig, na phutain; y rhai hyn na chymmered: ond cymmered forwyn o’i bobl ei hun yn wraig.

15 Ac na haloged ei had ymysg ei bobl: canys myfi yw yr Arglwydd ei sancteiddydd ef.

16 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

17 Llefara wrth Aaron, gan ddywedyd, Na nesâed un o’th had di trwy eu cenhedlaethau, yr hwn y byddo anaf arno, i offrymmu bara ei Dduw:

18 Canys ni chaiff un gwr y byddo anaf arno nesâu; y gwr dall, neu y cloff, neu y trwyndwn, neu y neb y byddo dim gormod ynddo;

19 Neu y gwr y byddo iddo droed tẁn, neu law dòn;

20 Neu a fyddo yn gefngrwm, neu yn gorr, neu â magl neu bysen ar ei lygad, neu yn grachlyd, neu yn glafrllyd, neu wedi ysigo ei eirin.

21 Na nesâed un gwr o had Aaron yr offeiriad, yr hwn y byddo anaf arno, i offrymmu ebyrth tanllyd yr Arglwydd; anaf sydd arno; na nesâed i offrymmu bara ei Dduw.

22 Bara ei Dduw, o’r pethau sanctaidd cyssegredig, ac o’r pethau cyssegredig, a gaiff efe ei fwytta.

23 Etto nac aed i mewn at y wahanlen, ac na nesâed at yr allor, am fod anaf arno; ac na haloged fy nghyssegroedd: canys myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd hwynt.

24 A llefarodd Moses hynny wrth Aaron ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel.


Pennod XXII.

1 Rhaid i’r offeiriaid yn eu haflendid ymgadw oddi wrth y pethau cyssegredig. 6 Y modd y mae eu puro hwynt. 10 Pwy yn nhŷ yr offeiriaid a all fwytta o’r pethau cyssegredig. 17 Rhaid i’r aberthau fod yn ddïanaf. 26 Oedran yr aberth. 29 Y gyfraith am fwytta yr aberth dïolch.

A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, am iddynt ymneillduo oddi wrth bethau cyssegredig meibion Israel, ac na halogant fy enw sanctaidd, yn y pethau y maent yn eu cyssegru i mi: myfi yw yr Arglwydd.

3 Dywed wrthynt, Pwy bynnag o’ch holl hiliogaeth, trwy eich cenhedlaethau a nesao at y pethau cyssegredig a gyssegro meibion Israel i’r Arglwydd, a’i aflendid arno; torrir ymaith yr enaid hwnnw oddi ger fy mron: myfi yw yr Arglwydd.

4 Na fwyttâed neb o hiliogaeth Aaron o’r pethau cyssegredig, ac yntau yn wahan-glwyfus, neu yn ddiferllyd, hyd oni lanhâer ef: na’r hwn a gyffyrddo â dim wedi ei halogi wrth y marw, na’r hwn yr êl oddi wrtho ddisgyniad had;

5 Na’r un a gyffyrddo âg un ymlusgiad, trwy yr hwn y gallo fod yn aflan, neu â dyn y byddai aflan o’i blegid, pa aflendid bynnag fyddo arno:

6 A’r dyn a gyffyrddo âg ef, a fydd aflan hyd yr hwyr; ac na fwyttâed o’r pethau cyssegredig, oddi eithr iddo olchi ei gnawd mewn dwfr.

7 A phan fachludo’r haul, glân fydd; ac wedi hynny bwyttâed o’r pethau cyssegredig: canys ei fwyd ef yw hwn.

8 Ac na fwyttâed o ddim wedi marw ei hun, neu wedi ei ysglyfaethu, i fod yn aflan o’i blegid: myfi yw yr Arglwydd.

9 Ond cadwant fy neddf i, ac na ddygant bechod bob un arnynt eu hunain, i farw o’i blegid, pan halogant hi: myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd hwynt.

10 Ac na fwyttâed un alltud o’r peth cyssegredig: dïeithrddyn yr offeiriad, a’r gwas cyflog, ni chaiff fwytta y peth cyssegredig.

11 Ond pan bryno yr offeiriad ddyn am ei arian, hwnnw a gaiff fwytta o hono, a’r hwn a aner yn ei dŷ ef: y rhai hyn a gânt fwytta o’i fara ef.

12 A merch yr offeiriad, pan; fyddo hi eiddo gwr dieithr, ni chaiff hi fwytta o offrwm y pethau cyssegredig.

13 Ond merch yr offeiriad, os gweddw fydd hi, neu wedi ysgar, a heb blant iddi, ac wedi dychwelyd i dŷ ei thad, a gaiff fwytta o fara ei thad, megis yn ei hieuengctid; ac ni chaiff neb dïeithr fwytta o hono.

14 ¶ A phan fwyttao un beth cyssegredig mewn anwybod; yna chwaneged ei bummed ran atto, a rhodded gyd â’r peth cyssegredig i’r offeiriad.

15 Ac na halogant gyssegredig bethau meibion Israel, y rhai a offrymmant i’r Arglwydd.

16 Ac na wnant iddynt ddwyn cosp camwedd, pan fwyttaont eu cyssegredig bethau hwynt: o herwydd myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd.

17 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

18 Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel, a dywed wrthynt, Pwy bynnag o dŷ Israel, a ac o ddïeithr yn Israel, a offrymmo ei offwrn yn ol ei holl addunedau, ac yn ol ei holl roddion gwirfodd, y rhai a offrymmant i’r Arglwydd yn boeth-offrwm;

19 Offrymmwch wrth eich ewyllys eich hun, un gwrryw perffeith-gwbl, o’r eidionau, o’r defaid, neu o’r geifr.

20 Nac offrymmwch ddim y byddo anaf arno; o herwydd ni bydd efe gymmeradwy drosoch.

21 A phan offrymmo gwr aberth hedd i’r Arglwydd, gan neillduo ei adduned, neu rodd ewyllysgar o’r eidionau, neu o’r praidd, bydded berffeith-gwbl, fel y byddo gymmeradwy: na fydded un anaf arno.

22 Y dall, neu’r ysig, neu’r anafus, neu’r dafadenog, neu y crachlyd, neu y clafrllyd, nac offrymmwch hwy i’r Arglwydd, ac na roddwch aberth tanllyd o honynt ar allor yr Arglwydd.

23 A’r eidion, neu yr oen a fyddo gormod neu ry fychain ei aelodau, gellwch ei offrymmu yn offrwrn gwirfodd; ond dros adduned ni bydd cymmeradwy.

24 Nac offrymmwch i’r Arglwydd ddim wedi llethu, neu ysigo, neu ddryllio, neu dorri; ac na wnewch yn eich tir y fath beth.

25 Ac nac offrymmwch o law un dïeithr fwyd eich Duw o’r holl bethau hyn; canys y mae eu llygredigaeth ynddynt; anaf sydd arnynt: ni byddant gymmeradwy drosoch.

26 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

27 Pan aner eidion, neu ddafad, neu afr, bydded saith niwrnod dan ei fam; o’r wythfed dydd ac o hynny allan y bydd cymmeradwy yn offrwm o aberth tanllyd i’r Arglwydd.

28 Ac am fuwch neu ddafad, na leddwch hi a’i llwdn yn yr un dydd.

29 A phan aberthoch aberth dïolch i’r Arglwydd, offrymmwch wrth eich ewyllys eich hunain.

30 Y dydd hwnnw y bwyttêir ef; na weddillwch o hono hyd y bore: myfi yw yr Arglwydd.

31 Cedwch chwithau fy ngorchymynion, a gwnewch hwynt: myfi yw yr Arglwydd.

32 Ac na halogwch fy enw sanctaidd, ond sancteiddier fi ym mysg meibion Israel: myfi yw yr Arglwydd eich sancteiddydd,

33 Yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aipht, i fod yn Dduw i chwi: myfi yw yr Arglwydd.


Pennod XXIII.

1 Gwyliau yr Arglwydd. 3 Y Sabbath. 4 Y Pasc. 9 Yr ysgub flaen-ffrwyth. 15 Gwyl y Sulgwyn. 22 Rhaid yw gadael peth i’r tlodio i’w loffa. 23 Gwyl yr udgyrn. 26 Y dydd cymmod. 33 Gwyl y pebyll.

Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Gwyliau yr Arglwydd, y rhai a gyhoeddwch yn gymmanfeydd sanctaidd, ydyw fy ngwyliau hyn.

3 Chwe diwrnod y gwneir gwaith; a’r seithfed dydd y bydd Sabbath gorphwystra, sef cymmanfa sanctaidd; dim gwaith nis gwnewch: Sabbath yw efe i’r Arglwydd yn eich holl drigfannau.

4 ¶ Dyma wyliau yr Arglwydd, y cymmanfeydd sanctaidd, y rhai a gyhoeddwch yn eu tymmor.

5 O fewn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, yn y cyfnos, y bydd Pasg yr Arglwydd.

6 A’r pymthegfed dydd o’r mis hwnnw y bydd gwyl y bara croyw i’r Arglwydd: saith niwrnod y bwyttêwch fara croyw.

7 Ar y dydd cyntaf y bydd i chwi gymmanfa sanctaidd: dim caethwaith ni chewch ei wneuthur.

8 Ond offrymmwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd saith niwrnod; ar y seithfed dydd bydded cymmanfa sanctaidd; na wnewch ddim caethwaith.

9 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt,

10 Pan ddeloch i’r tir a roddaf i chwi, a medi o honoch ei gynhauaf; yna dygwch ysgub blaen-ffrwyth eich cynhauaf at yr offeiriad.

11 Cyhwfaned yntau yr ysgub ger bron yr Arglwydd, i’ch gwneuthur yn gymmeradwy: trannoeth wedi y Sabbath y cyhwfana yr offeiriad hi.

12 Ac offrymmwch ar y dydd y cyhwfaner yr ysgub, oen blwydd, perffeith-gwbl, yn boeth-offrwm i’r Arglwydd.

13 A’i fwyd-offrwm o ddwy ddegfed o beilliaid wedi ei gymmysgu âg olew, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd, yn arogl peraidd; a’i ddïod-offrwm fydd o win, pedwaredd ran hin.

14 Bara hefyd, nac ŷd wedi ei grasu, na thywysennau îr, ni chewch eu bwytta hyd gorph y dydd hwnnw, nes dwyn o honoch offrwm eich Duw. Deddf dragywyddol trwy eich cenhedlaethau, yn eich holl drigfannau, fydd hyn.

15 ¶ A chyfrifwch i chwi o drannoeth wedi y Sabbath, o’r dydd y dygoch ysgub y cyhwfan; saith Sabbath cyflawn fyddant:

16 Hyd drannoeth wedi y seithfed Sabbath, y cyfrifwch ddeng niwrnod a deugain; ac offrymmwch fwyd-offrwm newydd i’r Arglwydd.

17 A dygwch o’ch trigfannau ddwy dorth gyhwfan, dwy ddegfed ran o beilliaid fyddant: yn lefeinllyd y pobir hwynt, yn flaen-ffrwyth i'r Arglwydd.

18 Ac offrymmwch gyd â’r bara saith oen blwyddiaid, perffeith-gwbl, ac un bustach ieuangc, a dau hwrdd: poeth-offrwm i’r Arglwydd fyddant hwy, ynghyd â’u bwyd-offrwm a’u dïod-offrwm; sef aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.

19 Yna aberthwch un bwch geifr yn bech-aberth, a dau oen blwyddiaid yn aberth hedd.

20 A chyhwfaned yr offeiriad hwynt, ynghyd â bara y blaen-ffrwyth, yn offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd, ynghyd â'r ddau oen: cyssegredig i’r Arglwydd ac eiddo’r offeiriad fyddant.

21 A chyhoeddwch, o fewn corph y dydd hwnnw, y bydd cymmanfa sanctaidd i chwi; dim caethwaith nis gwnewch. Deddf dragywyddol, yn eich holl drigfannau, trwy eich cenhedlaethau, fydd hyn.

22 ¶ A phan fedoch gynhauaf eich tir, na lwyr-feda gyrrau dy faes, ac na loffa loffion dy gynhauaf; gâd hwynt i’r tlawd a’r dïeithr: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

23 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

24 Llefara wrth feibion Israel gan ddywedyd, Ar y seithfed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y bydd i chwi Sabbath, yn goffadwriaeth caniad udgyrn, a chymmanfa sanctaidd.

25 Dim caethwaith nis gwnewch; ond offrymmwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd.

26 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

27 Y degfed dydd o’r seithfed mis hwn, y bydd dydd cymmod; cymmanfa sanctaidd fydd i chwi: yna cystuddiwch eich eneidiau, ac offrymmwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd.

28 Ac na wnewch ddim gwaith o fewn corph y dydd hwnnw: oherwydd dydd cymmod yw, i wneuthur cymmod drosoch ger bron yr Arglwydd eich Duw.

29 Canys pob enaid a’r ni chystuddier o fewn corph y dydd hwn, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.

30 A phob enaid a wnelo ddim gwaith o fewn corph y dydd hwnnw, difethaf yr enaid hwnnw hefyd o fysg ei bobl.

31 Na wnewch ddim gwaith. Deddf dragywyddol, trwy eich cenhedlaethau, yn eich holl drigfannau, yw hyn.

32 Sabbath gorphwystra yw efe i chwi; cystuddiwch chwithau eich eneidiau ar y nawfed dydd o’r mis, yn yr hwyr: o hwyr i hwyr y cedwch eich Sabbath.

33 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd.

34 Llefara wrth feibion Israel, gan i ddywedyd, Ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis hwn y bydd gwyl y pebyll saith niwrnod i’r Arglwydd.

35 Ar y dydd cyntaf y bydd cymmanfa sanctaidd: dim caethwaith nis gwnewch.

36 Saith niwrnod yr offrymwch aberth tanllyd i’r Arglwydd: ar yr wythfed dydd y bydd cymmanfa sanctaidd i chwi; a chwi a offrymwch aberth tanllyd i’r Arglwydd : uchel ŵyl yw hi, na wnewch a ddim caethwaith.

37 Dyma wyliau yr Arglwydd, y rhai a gyhoeddwch yn gymmanfeydd sanctaidd, i offrymmu i’r Arglwydd aberth tanllyd, offrwm poeth, bwyd-offrwm, aberth, a dïod-offrwm; pob peth yn ei ddydd:

38 Heb law Sabbathau yr Arglwydd, ac heb law eich rhoddion chwi, ac heb law eich holl addunedau, ac heb law eich holl offrymmau gwirfodd, a roddoch i’r Arglwydd.

39 Ac ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis, pan gynhulloch ffrwyth eich tir, cedwch wyl i’r Arglwydd saith niwrnod: bydded gorphwystra ar y dydd cyntaf, a gorphwystra ar yr wythfed dydd.

40 A’r dydd cyntaf cymmerwch i chwi ffrwyth pren prydferth, canghennau palmwydd, a brig pren caeadfrig, a helyg afon; ac ymlawenhêwch ger bron yr Arglwydd eich Duw saith niwrnod.

41 A chedwch hon yn wyl i’r Arglwydd saith niwrnod yn y flwyddyn: deddf dragywyddol yn eich cenhedlaethau yw; ar y seithfed mis y cedwch hi yn wyl.

42 Mewn bythod yr arhoswch saith niwrnod; pob prïodor yn Israel a drigant mewn bythod:

43 Fel y gwypo eich cenhedlaethau chwi mai mewn bythod y perais i feibion Israel drigo, pan ddygais hwynt allan o dir yr Aipht: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.

44 A thraethodd Moses wyliau yr Arglwydd wrth feibion Israel.


Pennod XXIV.

1 Olew y llusernau. 5 Y bara gosod. 10 Mab Selomith yn cablu. 13 Cyfraith cabledd, 17 a llofruddiaeth. 18 Am golled. 23 Llabyddio y cablwr.

A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Gorchymyn i feibion Israel ddwyn attat olew olew-wydden pur, coethedig, i’r goleuni, i beri i’r lampau gynneu bob amser.

3 O’r tu allan i wahanlen y dystiolaeth, ym mhabell y cyfarfod, y trefna Aaron ef o hwyr hyd fore, ger bron yr Arglwydd, bob amser. Deddf dragywyddol trwy eich cenhedlaethau fydd hyn.

4 Ar y canhwyllbren pur y trefna efe y lampau ger bron yr Arglwydd bob amser.

5 ¶ A chymmer beilliaid, a phoba ef yn ddeuddeg teisen: dwy ddegfed ran fydd pob teisen.

6 A gosod hwynt yn ddwy res, chwech yn y rhes, ar y bwrdd pur, ger bron yr Arglwydd.

7 A dod thus pur ar bob rhes, fel y byddo ar y bara, yn goffadwriaeth, ac yn aberth tanllyd i’r Arglwydd.

8 Ar bob dydd Sabbath y trefna efe hyn ger bron yr Arglwydd bob amser, yn gyfammod tragywyddol oddi wrth feibion Israel.

9 A bydd eiddo Aaron a’i feibion; a hwy a’i bwyty yn y lle sanctaidd: canys sancteiddiolaf yw iddo ef o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, trwy ddeddf dragywyddol.

10 ¶ A mab gwraig o Israel, a hwn yn fab gwr o’r Aipht, a aeth allan ym mysg meibion Israel; a mab yr Israelees a gwr o Israel a ymgynhennasant yn y gwersyll.

11 A mab y wraig o Israel a gablodd enw yr Arglwydd, ac a felldigodd: yna y dygasant ef at Moses: ac enw ei fam oedd Selomith, merch Dibri, o lwyth Dan.

12 A gosodasant ef y’ngharchar, fel yr hysbysid iddynt o enau yr Arglwydd beth a wnaent.

13 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

14 Dwg y cablydd i’r tu allan i’r gwersyll: a rhodded pawb a’i clywsant ef eu dwylaw ar ei ben ef, a llabyddied yr holl gynnulleidfa ef.

15 A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gablo ei Dduw, a ddwg ei bechod.

16 A lladder yn farw yr hwn a felldithio enw yr Arglwydd; yr holl gynnulleidfa gan labyddio a’i llabyddiant ef: lladder yn gystal y dïeithr a’r prïodor, pan gablo efe enw yr Arglwydd.

17 ¶ A’r neb a laddo ddyn, lladder yntau yn farw.

18 A’r hwn a laddo anifail, taled am dano; anifail am anifail.

19 A phan wnelo un anaf ar ei gymmydog; fel y gwnaeth, gwneler iddo:

20 Torriad am dorriad, llygad am lygad, dant am ddant: megis y gwnaeth anaf ar ddyn, felly gwneler iddo yntau.

21 A’r hwn a laddo anifail, a dâl am dano: a laddo ddyn, a leddir.

22 Bydded un farn i chwi; bydded i’r dïeithr, fel i’r prïodor: myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw.

23 ¶ A mynegodd Moses hyn i feibion Israel: a hwynt a ddygasant y cablydd i’r tu allan i’r gwersyll, ac a’i llabyddiasant ef â cherrig. Felly meibion Israel a wnaethant megis y gorchymynodd yr Arglwydd wrth Moses.


Pennod XXV.

1 Sabbath y seithfed flwyddyn. 8 Y Jubili yn y ddegfed flwyddyn a deugain. 14 Am orthrymmu. 18 Bendith am ufudd-dod. 23 Gollyngiad tiroedd, 29 a thai. 35 Tosturio wrth y tlawd. 39 Esmwyth drin caethion. 47 Adbrynu gweision.

Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, ym mynydd Sinai, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch i’r tir yr hwn a roddaf i chwi; yna gorphwysed y tir Sabbath i’r Arglwydd.

3 Chwe blynedd yr heui dy faes, a chwe blynedd y torri dy winllan, ac y cesgli ei chnwd.

4 Ac ar y seithfed flwyddyn y bydd Sabbath gorphwysdra i’r tir, sef Sabbath i’r Arglwydd: na haua dy faes, ac na thorr dy winllan.

5 Na chynhauafa yr hyn a dyfo o hono ei hun, ac na chasgl rawnwin dy winwydden ni theclaist; bydd yn flwyddyn orphwysdra i’r tir.

6 Ond bydded ffrwyth Sabbath y tir yn ymborth i chwi; sef i ti, ac i’th wasanaethwr, ac i’th wasanaethferch; ac i’th weinidog cyflog, ac i’th alltud yr hwn a ymdeithio gyd â thi.

7 I’th anifail hefyd, ac i’r bwystfil fydd yn dy dir, y bydd ei holl gnwd yn ymborth.

8 ¶ Cyfrif hefyd i ti saith Sabbath o flynyddoedd, sef saith mlynedd seithwaith; dyddiau y saith Sabbath o flynyddoedd fyddant i ti yn naw mlynedd a deugain.

9 Yna pâr ganu i ti udgorn y jubili ar y seithfed mis, ar y degfed dydd o’r mis; ar ddydd y cymmod cenwch yr udgorn trwy eich holl wlad.

10 A sancteiddiwch y ddegfed flwyddyn a deugain, a chyhoeddwch ryddid yn y wlad i’w holl drigolion: jubili fydd hi i chwi; a dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth, ïe, dychwelwch bob un at ei deulu.

11 Y ddegfed flwyddyn a deugain honno fydd jubili i chwi: na heuwch, ac na fedwch ei chnwd a dyfo o hono ei hun; ac na chynhullwch ei gwinwydden ni thaclwyd.

12 Am ei bod yn jubili, bydded sanctaidd i chwi: o’r maes y bwyttêwch ei ffrwyth hi.

13 O fewn y flwyddyn jubili hon y dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth.

14 Pan werthech ddim i’th gymmydog, neu brynu ar law dy gymmydog, na orthrymmwch bawb eich gilydd.

15 Pryn gan dy gymmydog yn ol rhifedi’r blynyddoedd ar ol y jubili; a gwerthed efe i tithau yn ol rhifedi blynyddoedd y cnydau.

16 Yn ol amldra y blynyddoedd y chwanegi ei bris, ac yn ol anamldra y blynyddoedd y lleihêi di ei bris; o herwydd rhifedi y cnydau y mae efe yn ei werthu i ti.

17 Ac na orthrymmwch bob un ei gymmydog; ond ofna dy Dduw: canys myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw chwi.

18 ¶ Gwnewch chwithau fy neddfau, a chedwch fy marnedigaethau, a gwnewch hwynt; a chewch drigo yn y tir yn ddïogel.

19 Y tir hefyd a rydd ei ffrwyth; a chewch fwytta digon, a thrigo ynddo yn ddïogel.

20 Ac hefyd os dywedwch, Beth a fwyttâwn y seithfed flwyddyn? wele, ni chawn hau, ac ni chawn gynnull ein cnwd:

21 Yna mi a archaf fy mendith arnoch y chweched flwyddyn; a hi a ddwg ei ffrwyth i wasanaethu dros dair blynedd.

22 A’r wythfed flwyddyn yr heuwch; ond bwyttêwch o’r hen gnwd hyd y nawfed flwyddyn: nes dyfod ei chnwd hi, bwyttêwch o’r hen.

23 ¶ A’r tir ni cheir ei werthu yn llwyr: canys eiddof fi yw y tir; o herwydd dieithriaid ac alltudion ydych gyd â mi.

24 Ac yn holl dir eich etifeddiaeth rhoddwch ollyngdod i’r tir.

25 ¶ Os tloda dy frawd, a gwerthu dim o’i etifeddiaeth, a dyfod ei gyfnesaf i’w ollwng, yna efe a gaiff ollwng yr hyn a werthodd ei frawd.

26 Ond os y gwr ni bydd ganddo neb a’i gollyngo, a chyrhaeddyd o’i law ef ei hun gael digon i’w ollwng:

27 Yna cyfrifed flynyddoedd ei werthiad, a rhodded drachefn yr hyn fyddo dros ben i’r gwr yr hwn y gwerthodd ef iddo; felly aed eilwaith i’w etifeddiaeth.

28 Ac os ei law ni chaiff ddigon i dalu iddo; yna bydded yr hyn a werthodd efe yn llaw yr hwn a’i prynodd hyd flwyddyn y jubili; ac yn y jubili yr â yn rhydd, ac efe a ddychwel i’w etifeddiaeth.

29 A phan wertho gwr dŷ annedd o fewn dinas gaerog, yna bydded ei ollyngdod hyd ben blwyddyn gyflawn wedi ei werthu: dros flwyddyn y bydd rhydd ei ollwng ef.

30 Ac oni ollyngir cyn cyflawni iddo flwyddyn gyfan; yna sicrhâer y tŷ, yr hwn fydd yn y ddinas gaerog, yn llwyr i’r neb a’i prynodd, ac i’w hiliogaeth: nid â yn rhydd yn y jubili.

31 Ond tai y trefi nid oes caerau o amgylch iddynt, a gyfrifir fel meusydd: bid gollyngdod iddynt, ac yn y jubili yr ânt yn rhydd.

32 Ond dinasoedd y Lefiaid, a thai dinasoedd eu hetifeddiaeth hwynt, bid i’r Lefiaid eu gollwng bob amser.

33 Ac os pryn un gan y Lefiaid; yna aed y tŷ a werthwyd, a dinas ei etifeddiaeth ef, allan yn y jubili: canys tai dinasoedd y Lefiaid ydyw eu hetifeddiaeth hwynt ym mysg meibion Israel.

34 Ac ni cheir gwerthu maes pentrefol eu dinasoedd hwynt: canys etifeddiaeth dragwyddol yw efe iddynt.

35 ¶ A phan dlodo dy frawd gyd â thi, a llesgâu o’i law; cynnorthwya ef, fel y byddo byw gyd â thi; er ei fod yn ddïeithrddyn, neu yn alltud.

36 Na chymmer ganddo occraeth na llog; ond ofna dy Dduw: a gâd i’th frawd fyw gyd â thi.

37 Na ddod dy arian iddo ar usuriaeth, ac na ddod dy fwyd iddo ar log.

38 Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi, yr hwn a’ch dygais allan o dir yr Aipht, i roddi i chwi dir Canaan, ac i fod yn Dduw i chwi.

39 ¶ A phan dlodo dy frawd gyd â thi, a’i werthu ef i ti; na wna iddo wasanaethu yn gaethwas.

40 Bydded gyd â thi fel gweinidog cyflog, fel ymdeithydd; hyd flwyddyn y jubili y caiff wasanaethu gyd â thi.

41 Yna aed oddi wrthyt ti, efe a’i blant gyd âg ef, a dychweled at ei dylwyth, ac aed drachefn i etifeddiaeth ei dadau.

42 Canys fy ngweision i ydynt, y rhai a ddygais allan o dir yr Aipht: na werther hwynt fel caethweision.

43 Na feistrola arno ef yn galed; ond ofna dy Dduw.

44 A chymmer dy wasanaethwr, a’th wasanaethferch, y rhai fyddant i ti, o fysg y cenhedloedd y rhai ydynt o’ch amgylch: o honynt y prynwch wasanaethwr a gwasanaethferch.

45 A hefyd o blant yr alltudion y rhai a ymdeithiant gyd â chwi, prynwch o’r rhai hyn, ac o’u tylwyth y rhai ŷnt gyd â chwi, y rhai a genhedlasant hwy yn eich tir chwi: byddant hwy i chwi yn feddiant.

46 Ac etifeddwch hwynt i’ch plant ar eich ol, i’w meddiannu hwynt yn etifeddiaeth; gwnewch iddynt eich gwasanaethu byth: ond eich brodyr, meibion Israel, na feistrolwch yn galed y naill ar y llall.

47 ¶ A phan gyrhaeddo llaw dyn dïeithr neu ymdeithydd gyfoeth gyd â thi, ac i’th frawd dlodi yn ei ymyl ef, a’i werthu ei hun i’r dïeithr yr hwn fydd yn trigo gyd â thi, neu i un o hiliogaeth tylwyth y dïeithrddyn:

48 Wedi ei werthu, ceir ei ollwng yn rhydd; un o’i frodyr a gaiff ei ollwng yn rhydd;

49 Naill ai ei ewythr, ai mab ei ewythr, a’i gollwng ef yn rhydd; neu un o’i gyfnesaf ef, o’i dylwyth ei hun, a’i gollwng yn rhydd, neu, os ei law a gyrhaedd, gollynged efe ef ei hun.

50 A chyfrifed â’i brynwr, o’r flwyddyn y gwerthwyd ef, hyd flwyddyn y jubili a bydded arian ei werthiad ef fel rhifedi y blynyddoedd, megis dyddiau gweinidog cyflog y bydd gyd âg ef.

51 Os llawer fydd o flynyddoedd yn ol; taled ei ollyngdod o arian ei brynedigaeth yn ol hynny.

52 Ac os ychydig flynyddoedd fydd yn ol hyd flwyddyn y jubili, pan gyfrifo âg ef; taled ei ollyngdod yn ol ei flynyddoedd.

53 Megis gwas cyflog o flwyddyn i flwyddyn y bydd efe gyd âg ef: ac na feistroled arno yn galed yn dy olwg di.

54 Ac os efe ni ollyngir o fewn y blynyddoedd hyn; yna aed allan flwyddyn y jubili, efe a’i blant gyd âg ef.

55 Canys gweision i mi yw meibion Israel; fy ngweision ydynt, y rhai a ddygais o dir yr Aipht: myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw chwi.


Pennod XXVI.

1 Am ddelw-addoliaeth. 2 Am grefydd. 3. Bendith i’r rhai a gadwant y gorchymynion; 14 a melldith i’r rhai a’u torrant. 40 Duw yn addaw cofio y rhai edifarhânt.

Na wnewch eilunod i chwi, ac na chodwch i chwi ddelw gerfiedig, na cholofn, ac na roddwch ddelw faen yn eich tir i ymgrymu iddi: canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

2 Fy Sabbathau i a gedwch, a’m cyssegr i a berchwch: myfi ydwyf yr Arglwydd.

3 ¶ Os yn fy neddfau i y rhodiwch, a’m gorchymynion a gedwch, a’u gwneuthur hwynt;

4 Yna mi a roddaf eich gwlaw yn ei amser, a rhydd y ddaear ei chynnyrch, a choed y maes a rydd eu ffrwyth.

5 A’ch dyrnu a gyrhaedd hyd gynhauaf y grawnwin, a chynhauaf y grawnwin a gyrraedd hyd amser hau; a’ch bara a fwyttêwch yn ddigonol, ac yn eich tir y trigwch yn ddïogel.

6 Rhoddaf heddwch hefyd yn y tir, a gorweddwch hefyd heb ddychrynydd: a gwnaf i’r bwystfil niweidiol ddarfod o’r tir; ac nid â cleddyf trwy eich tir.

7 Eich gelynion hefyd a erlidiwch, a syrthiant o’ch blaen ar y cleddyf.

8 A phump o honoch a erlidia gant, a chant o honoch a erlidia ddengmil; a’ch gelynion a syrth o’ch blaen ar y cleddyf.

9 A mi a edrychaf am danoch, ac a’ch gwnaf yn ffrwythlon, ac a’ch amlhâf, ac a gadarnhâf fy nghyfammod â chwi.

10 A’r hen ystôr a fwyttêwch, ïe, yr hen a fwriwch chwi allan o achos y newydd.

11 Rhoddaf hefyd fy nhabernacl yn eich mysg; ac ni ffieiddia fy enaid chwi.

12 A mi a rodiaf yn eich plith; a byddaf yn Dduw i chwi, a chwithau a fyddwch yn bobl i mi.

13 Myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aipht, rhag eich bod yn gaeth-weision iddynt; a thorrais rwymau eich iau, a gwneuthum i chwi rodio yn sythion.

14 ¶ Ond os chwi ni wrandêwch arnaf, ac ni wnewch yr holl orchymynion hyn;

15 Os fy neddfau hefyd a ddirmygwch, ac os eich enaid a ffieiddia fy marnedigaethau, heb wneuthur fy holl orchymynion, ond torri fy nghyfammod;

16 Minnau hefyd a wnaf hyn i chwi: i gosodaf yn oruchaf arnoch ddychryn, darfodedigaeth, a’r cryd poeth, y rhai a wna i’r llygaid ballu, ac a ofidiant eich eneidiau: a heuwch eich had yn ofer, canys eich gelynion a’i bwytty:

17 Ac a osodaf fy wyneb i’ch erbyn, a chwi a syrthiwch o flaen eich gelynion; a’ch caseion a feistrola arnoch; ffowch hefyd pan na byddo neb yn eich erlid.

18 Ac os er hyn ni wrandêwch arnaf, yna y chwanegaf eich cospi chwi saith mwy am eich pechodau.

19 A mi a dorraf falchder eich nerth chwi; a gwnaf eich nefoedd chwi fel haiarn, a’ch tir chwi fel pres:

20 A’ch cryfder a dreulir yn ofer: canys eich tir ni rydd ei gynnyrch, a choed y tir ni roddant eu ffrwyth.

21 ¶ Ac os rhodiwch y’ngwrthwyneb i mi, ac ni fynnwch wrando arnaf fi; mi a chwanegaf bla saith mwy arnoch yn ol eich pechodau.

22 Ac anfonaf fwystfil y maes yn eich erbyn, ac efe a’ch gwna chwi yn ddiblant, ac a ddifetha eich anifeiliaid, ac a’ch lleihâ chwi; a’ch ffyrdd a wneir yn anialwch.

23 Ac os wrth hyn ni chymmerwch ddysg gennyf, ond rhodio yn y gwrthwyneb i mi;

24 Yna y rhodiaf finnau yn y gwrthwyneb i chwithau, a mi a’ch cospaf chwi hefyd eto yn saith mwy am eich pechodau.

25 A dygaf arnoch gleddyf, yr hwn a ddïal fy nghyfammod: a phan ymgasgloch i’ch dinasoedd, yna yr anfonaf haint i’ch mysg; a chwi a roddir yn llaw y gelyn.

26 A phan dorrwyf ffon eich bara, yna deg o wragedd a bobant eich bara mewn un ffwrn, ac a ddygant eich bara adref dan bwys: a chwi a fwyttêwch, ac nis digonir chwi.

27 Ac os er hyn ni wrandêwch arnaf, ond rhodio y’ngwrthwyneb i mi;

28 Minnau a rodiaf y’ngwrthwyneb i chwithau mewn llid; a myfi, ïe myfi, a’ch cospaf chwi etto saith mwy am eich pechodau.

29 A chwi a fwyttêwch gnawd eich meibion, a chnawd eich merched a fwyttêwch.

30 Eich uchelfeydd hefyd a ddinystriaf, ac a dorraf eich delwau, ac a roddaf eich celaneddau chwi ar gelaneddau eich eilunod, a’m henaid a’ch ffieiddia chwi.

31 A gwnaf eich dinasoedd yn anghyfannedd, ac a ddinystriaf eich cyssegroedd, ac ni aroglaf eich aroglau peraidd.

32 A mi a ddinystriaf y tir; fel y byddo aruthr gan eich gelynion, y rhai a drigant ynddo, o’i herwydd.

33 Chwithau a wasgaraf ym mysg y cenhedloedd, a gwnaf dynnu cleddyf ar eich ol; a’ch tir fydd ddiffaethwch, a’ch dinasoedd yn anghyfannedd.

34 Yna y mwynhâ y tir ei Sabbathau yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffaethwch, a chwithau a fyddwch yn nhir eich gelynion; yna y gorphwys y tir, ac y mwynhâ ei Sabbathau.

35 Yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffaethwch y gorphwys; o herwydd na orphwysodd ar eich Sabbathau chwi, pan oeddech yn trigo ynddo.

36 A’r hyn a weddillir o honoch, dygaf lesgedd ar eu calonnau yn nhir eu gelynion; a thrwst deilen yn ysgwyd a’u herlid hwynt; a ffoant fel ffoi rhag cleddyf; a syrthiant hefyd heb neb yn eu herlid.

37 A syrthiant bawb ar ei gilydd, megis o flaen cleddyf, heb neb yn eu herlid: ac ni ellwch sefyll o flaen eich gelynion.

38 Difethir chwi hefyd ym mysg y cenhedloedd, a thir eich gelynion a’ch bwytty.

39 A’r rhai a weddillir o honoch, a doddant yn eu hanwireddau yn nhir eich gelynion; ac yn anwireddau eu tadau gyd â hwynt y toddant.

40 Os cyffesant eu hanwiredd, ac anwiredd eu tadau, ynghyd â’u camwedd yr hwn a wnaethant i’m herbyn, a hefyd rhodio o honynt yn y gwrthwyneb i mi,

41 A rhodio o honof finnau yn eu gwrthwyneb hwythau, a’u dwyn hwynt i dir eu gelynion, os yno yr ymostwng eu calon ddïenwaededig, a’u bod yn foddlawn am eu cospedigaeth:

42 Minnau a gofiaf fy nghyfammod â Jacob, a’m cyfammod hefyd âg Isaac, a’m cyfammod hefyd âg Abraham a gofiaf, ac a gofiaf y tir hefyd.

43 A’r tir a adewir ganddynt, ac a fwynhâ ei Sabbathau, tra fyddo yn ddiffaethwch hebddynt: a hwythau a foddlonir am eu cospedigaeth; o achos ac o herwydd dirmygu o honynt fy marnedigaethau, a ffieiddio o’u henaid fy neddfau.

44 Ac er hyn hefyd, pan fyddont yn nhir eu gelynion, nis gwrthodaf ac ni ffieiddiaf hwynt i’w difetha, gan dorri fy nghyfammod â hwynt: o herwydd myfi ydyw yr Arglwydd eu Duw hwynt.

45 Ond cofiaf er eu mwyn gyfammod y rhai gynt, y rhai a ddygais allan o dir yr Aipht y’ngolwg y cenhedloedd, i fod iddynt yn Dduw: myfi ydwyf yr Arglwydd.

46 Dyma y deddfau, a’r barnedigaethau, a’r cyfreithiau, y rhai a roddodd yr Arglwydd rhyngddo ei hun a meibion Israel, ym mynydd Sinai, trwy law Moses.


Pennod XXVII.

1 Yr hwn a wnelo adduned hysbysol, eiddo yr Arglwydd fydd. 3 Pris y cyfryw adduned. 9 Am anifail a rodder trwy adduned. 14 Am dŷ. 16 Am faes, a’i ollyngiad. 28 Ni rhyddihêir un dïofryd-beth. 32 Nid rhydd newid y degwm.

A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan addunedo neb adduned neillduol, y dynion fydd eiddo yr Arglwydd, yn dy bris di.

3 A bydd dy bris, am wrryw o fab ugain mlwydd hyd fab tri ugain mlwydd, ïe, bydd dy bris ddeg sicl a deugain o arian, yn ol sicl y cyssegr.

4 Ac os benyw fydd, bydded dy bris ddeg sicl ar hugain.

5 Ac o fab pùm mlwydd hyd fab ugain mlwydd, bydded dy bris am wrryw ugain sicl, ac am fenyw ddeg sicl.

6 A bydded hefyd dy bris am wrryw o fab misyriad hyd fab pùm mlwydd, bùm sicl o arian; ac am fenyw dy bris fydd tri sicl o arian.

7 Ac o fab tri ugeinmlwydd ac uchod, os gwrryw fydd, bydded dy bris bymtheg sicl, ac am fenyw ddeg sicl.

8 Ond os tlottach fydd efe na’th bris di, yna safed ger bron yr offeiriad, a phrisied yr offeiriad ef: yn ol yr hyn a gyrhaeddo llaw yr addunedydd, felly y prisia yr offeiriad ef.

9 ¶ Ond os anifail, yr hwn yr offrymmir o hono offrwm i’r Arglwydd, fydd ei adduned; yr hyn oll a roddir o’r cyfryw i’r Arglwydd, sanctaidd fydd.

10 Na rodded un arall am dano, ac na newidied ef, y da am y drwg, neu y drwg am y da: ac os gan newidio y newidia i anifail am anifail; bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid hefyd yn sanctaidd,

11 Ac os adduneda efe un anifail aflan, yr hwn ni ddylent offrymmu o hono offrwm i’r Arglwydd; yna rhodded yr anifail i sefyll ger bron yr offeiriad:

12 A phrisied yr offeiriad ef, os da os drwg fydd: fel y prisiech di yr offeiriad ef, felly y bydd.

13 Ac os efe gan brynu a’i pryn; yna rhodded at dy bris di ei bummed ran yn ychwaneg.

14 ¶ A phan sancteiddio gwr ei dŷ yn sanctaidd i’r Arglwydd; yna yr offeiriad a’i prisia, os da os drwg fydd: megis y prisio’r offeiriad ef, felly y saif.

15 Ac os yr hwn a’i sancteiddiodd ollwng ei dŷ yn rhydd; yna rhodded bummed ran arian dy bris yn ychwaneg atto, a bydded eiddo ef.

16 ¶ Ac os o faes ei etifeddiaeth y sancteiddia gwr i’r Arglwydd; yna bydded dy bris yn ol ei hauad: hauad homer o haidd fydd er deg sicl a deugain o arian.

17 Os o flwyddyn y jubili y sancteiddia efe ei faes, yn ol dy bris di y saif.

18 Ond os wedi’r jubili y sancteiddia efe ei faes; yna dogned yr offeiriad yr arian iddo, yn ol y blynyddoedd fyddant yn ol, hyd flwyddyn y jubili, a lleihâer dy bris di.

19 Ac os yr hwn a’i sancteiddiodd gan brynu a bryn y maes; yna rhodded bumed ran arian dy bris di yn ychwaneg ato, a bydded iddo ef.

20 Ac onis gollwng y maes, neu os gwerthodd y maes i wr arall, ni cheir ei ollwng mwy.

21 A’r maes fydd, pan elo efe allan yn y jubili, yn gyssegredig i’r Arglwydd, fel maes dïofryd: a bydded yn feddiant i’r offeiriad.

22 Ac os ei dir pryn, yr hwn ni bydd o dir ei etifeddiaeth, a sancteiddia efe i’r Arglwydd,

23 Yna cyfrifed yr offeiriad iddo ddogn dy bris di hyd flwyddyn y jubili, a rhodded yntau dy bris di yn gyssegredig i’r Arglwydd, y dydd hwnnw.

24 Y maes a â yn ei ol, flwyddyn y jubili, i’r hwn y prynasid ef ganddo, sef yr hwn oedd eiddo etifeddiaeth y tir.

25 A phob pris i ti fydd wrth sicl y cyssegr: ugain gerah fydd y sicl.

26 ¶ Ond y cyntaf-anedig o anifail, yr hwn sydd flaen-ffrwyth i’r arglwydd, na chyssegred neb ef, pa un bynnag ai eidion ai dafad fyddo: eiddo yr Arglwydd yw efe.

27 Ond os ei adduned ef fydd o anifail aflan; yna rhyddhâed ef yn dy bris di, a rhodded ei bummed ran yn ychwaneg atto: ac onis rhyddhâ, yna gwerther ef yn dy bris di.

28 ¶ Ond pob dïofryd-beth a ddïofrydo un i’r Arglwydd, o’r hyn oll a fyddo eiddo ef, o ddyn neu o anifail, neu o faes ei etifeddiaeth, ni werthir, ac ni ryddhêir: pob dïofryd-beth sydd sancteiddiolaf i’r Arglwydd.

29 Ni cheir gollwng yn rhydd un anifail dïofrydog, yr hwn a ddïofryder gan ddyn: lladder yn farw.

30 ¶ A holl ddegwm y tir, o had y tir, ac o ffrwyth y coed, yr Arglwydd a’u pïau: cyssegredig i’r Arglwydd yw.

31 Ac os gwr gan brynu a bryn ddim o’i ddegwm, rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato.

32 A phob degwm eidion, neu ddafad, yr hyn oll a elo dan y wialen; y degfed fydd cyssegredig i’r Arglwydd.

33 Nac edryched pa un ai da ai drwg fydd efe, ac na newidied ef: ond os gan newidio y newidia efe hwnnw, bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid ef hefyd yn gyssegredig, ni ellir ei ollwng yn rhydd.

34 Dyma’r gorchymynion a orchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses, i feibion Israel, ym mynydd Sinai.