Beibl (1620)/Sechareia

Haggai Beibl (1620)
Sechareia
Sechareia
wedi'i gyfieithu gan William Morgan
Malachi

LLYFR ZECHARIAH.

PENNOD 1

1:1 Yn yr wythfed mis o'r ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia, mab Baracheia, mab Ido y proffwyd, gan ddywedyd,

1:2 Llwyr ddigiodd yr ARGLWYDD wrth eich tadau.

1:3 Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Dychwelwch ataf fi, medd ARGLWYDD y lluoedd, a mi a ddychwelaf atoch chwithau, medd ARGLWYDD y lluoedd.

1:4 Na fyddwch fel eich tadau, y rhai y galwodd y proffwydi o'r blaen arnynt, an ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Dychwelwch yn awr oddi wrth eich ffyrdd drwg, ac oddi wrth eich gweithredoedd drygionus: ond ni chlywent, ac ni wrandawent arnaf, medd yr ARGLWYDD.

1:5 Eich tadau, pa le y maent hwy? a'r proffwydi, ydynt hwy yn fyw byth?

1:6 Oni ddarfu er hynny i'm geiriau a'm deddfau, y rhai a orchmynnais wrth fy ngweision y proffwydi, oddiwes eich tadau? a hwy a ddychwelasant, ac a dywedasant, Megis y meddyliodd ARGLWYDD y lluoedd wneuthur i ni, yn ôl ein ffyrdd, ac yn ôl ein gweithredoedd ein hun, felly y gwnaeth efe â ni.

1:7 Ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r unfed mis ar ddeg, hwnnw yw mis Sebat, o'r ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia, mab Baracheia, mab Ido y proffwyd, gan ddywedyd,

1:8 Gwelais noswaith; ac wele w^r yn marchogaeth ar farch coch, ac yr oedd efe yn sefyll rhwng y myrtwydd y rhai oedd yn y pant; ac o'i ôl ef feirch cochion, brithion, a gwynion.

1:9 Yna y dywedais, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd? A dywedodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi wrthyf, Mi a ddangosaf i ti beth yw y rhai hyn.

1:10 A'r gw^r, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, a atebodd ac a ddywedodd, Dyma y rhai a hebryngodd yr ARGLWYDD i ymrodio trwy y ddaear.

1:11 A hwythau a atebasant angel yr ARGLWYDD, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y coed myrt, ac a ddywedasant, Rhodiasom trwy y ddaear; ac wele yr holl ddaear yn eistedd, ac yn llonydd.

1:12 Ac angel yr ARGLWYDD a atebodd ac a ddywedodd, O ARGLWYDD y lluoedd, pa hyd na thrugarhei wrth Jerwsalem, a dinasoedd Jwda, wrth y rhai y digiaist y deng mlynedd a thrigain hyn?

1:13 A'r ARGLWYDD a atebodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi, â geiriau daionus, a geiriau comfforddus.

1:14 A'r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi a ddywedodd wrthyf, Gwaedda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Deliais eiddigedd mawr dros Jerwsalem a thros Seion:

1:15 A digiais yn ddirfawr wrth y cenhedloedd difraw; y rhai pan ddigiais ychydig, hwythau a gynorthwyasant y niwed.

1:16 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Dychwelais at Jerwsalem â thrugareddau: fy nhy^ a adeiledir ynddi, medd ARGLWYDD y lluoedd, a llinyn a estynnir ar Jerwsalem.

1:17 Gwaedda eto, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Fy ninasoedd a ymehangant gan ddaioni, a'r ARGLWYDD a rydd gysur i Seion eto, ac a ddewis Jerwsalem eto.

1:18 A chodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele, bedwar corn.

1:19 A dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, Beth yw y rhai hyn? Dywedodd yntau wrthyf, Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Jwda, Israel, a Jerwsalem.

1:20 A'r ARGLWYDD a ddangosodd i mi bedwar saer hefyd.

1:21 Yna y dywedais, I wneuthur pa beth y daw y rhai hyn? Ac efe a lefarodd, gan ddywedyd, Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Jwda, fel na chodai un ei ben: ond y rhai hyn a ddaethant i'w tarfu hwynt, i daflu allan gyrn y Cenhedloedd, y rhai a godasant eu cyrn ar wlad Jwda i'w gwasgaru hi.


PENNOD 2

2:1 Dyrchefais fy llygaid drachefn, ac edrychais; ac wele w^r, ac yn ei law linyn mesur.

2:2 A dywedais, I ba le yr ei di? Ac efe a ddywedodd wrthyf, I fesuro Jerwsalem, i weled beth yw ei lled hi, a pheth yw ei hyd hi.

2:3 Ac wele yr angel a oedd yn ymddiddan â mi yn myned allan, ac angel arall yn myned allan i'w gyfarfod ef.

2:4 Ac efe a ddywedodd wrtho, Rhed, llefara wrth y llanc hwn, gan ddywedyd Jerwsalem a gyfanheddir fel maestrefi rhag amled dyn ac anifail o'i mewn.

2:5 Canys byddaf iddi yn fur o dân o amgylch, medd yr ARGLWYDD, a byddaf yn ogoniant yn ei chanol.

2:6 Ho, ho, deuwch allan, a ffowch o wlad y gogledd, medd yr ARGLWYDD: canys taenais chwi fel pedwar gwynt y nefoedd, medd yr ARGLWYDD.

2:7 O Seion, ymachub, yr hon wyt yn preswylio gyda merch Babilon.

2:8 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ar ôl y gogoniant y'm hanfonodd at y cenhedloedd y rhai a'ch ysbeiliasant chwi: canys a gyffyrddo â chwi, sydd yn cyffwrdd â channwyll ei lygad ef.

2:9 Canys wele fi yn ysgwyd fy llaw arnynt, a byddant yn ysglyfaeth i'w gweision: a chânt wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a'm hanfonodd.

2:10 Cân a llawenycha, merch Seion: canys wele fi yn dyfod; a mi a drigaf yn dy ganol di, medd yr ARGLWYDD.

2:11 A'r dydd hwnnw cenhedloedd lawer a ymlynant wrth yr ARGLWYDD, ac a fyddant bobl i mi: a mi a drigaf yn dy ganol di; a chei wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a'm hanfonodd atat.

2:12 A'r ARGLWYDD a etifedda Jwda, ei ran yn y tir sanctaidd, ac a ddewis Jerwsalem drachefn.

2:13 Pob cnawd, taw yng ngw^ydd yf ARGLWYDD: canys cyfododd o drigfa ei sancteiddrwydd.


PENNOD 3

3:1 Ac efe a ddangosodd i mi Josua yr archoffeiriad yn sefyll gerbron angel yr yr ARGLWYDD, a Satan yn sefyll ar ei ddeheulaw ef i'w wrthwynebu ef.

3:2 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, Cerydded yr ARGLWYDD dydi, Satan; sef yr ARGLWYDD yr hwn a ddewisodd Jerwsalem, a'th geryddo: onid pentewyn yw hwn wedi ei achub o'r tân?

3:3 A Josua ydoedd wedi ei wisgo â dillad budron, ac yn sefyll yng ngw^ydd yr angel.

3:4 Ac efe a atebodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll ger ei fron, gan ddywedyd, Cymerwch ymaith y dillad budron oddi amdano ef. Wrtho yntau y dywedodd, Wele, symudais dy anwiredd i iddi wrthyt, a gwisgaf di hefyd â newid dillad.

3:5 A dywedais hefyd, Rhoddant feitr teg ar ei ben ef: a rhoddasant feitr teg ar ei ben ef, ac a'i gwisgasant aâ dillad; ac angel yr ARGLWYDD oedd yn sefyll gerllaw.

3:6 Ac angel yr ARGLWYDD a dystiolaethodd wrth Josua, gan ddywedyd,

3:7 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Os rhodi di yn fy ffyrdd, ac os cedwi fy nghadwraeth, tithau hefyd a ferni fy nhy^, ac a gedwi fy nghynteddoedd; rhoddaf i ti hefyd leoedd i rodio ymysg y rhai hyn sydd yn sefyll yma.

3:8 Gwrando, atolwg, Josua yr archoffeiriad, ti a'th gyfeillion sydd yn eistedd ger dy fron: canys gwy^r rhyfedd yw y rhai hyn: oherwydd wele, dygaf allan fy ngwas Y BLAGURYN.

3:9 Canys wele, y garreg a roddais gerbron Josua; ar un garreg y bydd saith o lygaid: wele fi yn naddu ei naddiad hi, medd ARGLWYDD y lluoedd, a mi a symudaf ymaith anwiredd y tir hwnnw mewn un diwrnod.

3:10 Y dwthwn hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd, y gelwch bob un ei gymydog dan y winwydden, a than y ffigysbren.


PENNOD 4

4:1 A’r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi, a ddychwelodd, ac a'm deffrôdd, fel y deffroir un o'i gwsg,

4:2 Ac a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di? A mi a ddywedais, Edrychais, ac wele ganhwyllbren i gyd o aur, a'i badell ar ei ben, a'i saith lusern arno, a saith o bibellau i'r saith lusern oedd ar ei ben ef;

4:3 A dwy olewydden wrtho, y naill o'r tu deau i'r badell, a'r llall o'r tu aswy iddi.

4:4 A mi a atebais, ac a ddywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, gan ddywedyd, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd?

4:5 A'r angel oedd yn ymddiddan â mi, a atebodd, ac a ddywedodd wrthyf. Oni wyddost beth yw y rhai yma? Yna y dywedais, Na wn, fy arglwydd.

4:6 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthyf, gan ddywedyd, Hyn yw gair yr ARGLWYDD at Sorobabel, gan ddywedyd, Nid trwy lu, ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd, medd ARGLWYDD y lluoedd.

4:7 Pwy wyt ti, y mynydd mawr? gerbron Sorobabel y byddi yn wastadedd, ac efe a ddwg allan y maen pennaf, gan weiddi, Rhad, rhad iddo.

4:8 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf drachefn, gan ddywedyd,

4:9 Dwylo Sorobabel a sylfaenasant y ty^ hwn, a'i ddwylo ef a'i gorffen: a chei wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a'm hebryngodd atoch.

4:10 Canys pwy a ddiystyrodd ddydd y pethau bychain? canys llawenychant, a gwelant y garreg alcam yn llaw Sorobabel gyda'r saith hynny: llygaid yr ARGLWYDD ydynt, y rhai sydd yn cyniwair trwy yr holl ddaear.

4:11 A mi a atebais ac a ddywedais wrtho, Beth yw y ddwy olewydden hyn, ar y tu deau i'r canhwyllbren, ac ar ei aswy?

4:12 A mi a atebais drachefn, ac a ddywedais wrtho, Beth yw y ddau bincyn olewydden, y rhai trwy y ddwy bibell aur sydd yn tywallt allan ohonynt eu hunain yr olew euraid?

4:13 Ac efe a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Oni wyddost ti beth yw y rhai hyn? A dywedais, Na wn, fy arglwydd.

4:14 Ac efe a ddywedodd, Dyma y ddwy gainc olewydden sydd yn sefyll gerbron ARGLWYDD yr holl ddaear.


PENNOD 5

5:1 Yna y troais, a chodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele blyg llyfr yn ehedeg.

5:2 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di? A dywedais. Mi a welaf blyg llyfr yn ehedeg, a'i hyd yn ugain cufydd, a'i led yn ddeg cufydd.

5:3 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y felltith sydd yn myned allan ar wyneb yr holl ddaear: canys pob un a ladrato, a dorrir ymaith fel o'r tu yma, yn ei hôl hi; a phob un a dyngo, a dorrir ymaith fel o'r tu acw, yn ei hôl hi.

5:4 Dygaf hi allan, medd ARGLWYDD y lluoedd, a hi a ddaw i dy^ y lleidr, ac i dy^ y neb a dyngo i'm henw i ar gam: a hi a erys yng nghanol ei dy^ ef, ac a'i difa ef, a'i goed, a'i gerrig.

5:5 Yna yr angel oedd yn ymddiddan â mi, a aeth allan, ac a ddywedodd wrthyf, Cyfod yn awr dy lygaid, ac edrych beth yw hyn sydd yn myned allan.

5:6 A mi a ddywedais, Beth ydyw? Ac efe a ddywedodd, Effa ydyw, sydd yn myned allan. Ac efe a ddywedodd, Dyma eu gwelediad yn yr holl ddaear.

5:7 Ac wele dalent o blwm wedi ei godi i fyny: a dyma wraig yn eistedd yng nghanol yr effa.

5:8 Ac efe a ddywedodd, Anwiredd yw hon. Ac efe a'i taflodd hi i ganol yr effa, a bwriodd y pwys plwm ar ei enau ef.

5:9 A chyfodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele ddwy wraig yn dyfod allan, a gwynt yn eu hesgyll; canys esgyll oedd ganddynt fel esgyll y ciconia: a chyfodasant yr effa rhwng y ddaear a'r nefoedd.

5:10 Yna y dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, I ba le y mae y rhai hyn yn myned a'r effa?

5:11 Dywedodd yntau wrthyf, I adeiladu iddi dy^yng ngwlad Sinar: a hi a sicrheir, ac a osodir yno ar ei hystôl ei hun.


PENNOD 6

6:1 Hefyd mi a droais, ac a ddyrchefais fy llygaid, ac a edrychais, ac wele bedwar o gerbydau yn dyfod allan oddi rhwng dau fynydd: a'r mynyddoedd oedd fynyddoedd o bres.

6:2 Yn y cerbyd cyntaf yr oedd meirch cochion, ac yn yr ail gerbyd meirch duon,

6:3 Ac yn y trydydd cerbyd meirch gwynion, ac yn y pedwerydd cerbyd meirch brithion a gwineuon.

6:4 Yna yr atebais, ac y dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd?

6:5 A'r angel a atebodd ac a ddywedodd, Dyma bedwar ysbryd y nefoedd, y rhai sydd yn myned allan o sefyll gerbron ARGLWYDD yr holl ddaear.

6:6 Y meirch duon sydd ynddo a ânt allan i dir y gogledd; a'r gwynion a ânt allan ar eu hôl hwythau; a'r brithion a ânt allan i'r deheudir.

6:7 A'r gwineuon a aethant allan, ac a geisiasant fyned i gyniwair trwy y ddaear: ac efe a ddywedodd, Ewch, cyniweirwch trwy y ddaear. Felly hwy a gyniweirasant trwy y ddaear.

6:8 Yna efe a waeddodd amaf, ac a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Edrych, y rhai a aethant i dir y gogledd a lonyddasant fy ysbryd yn nhir y gogledd.

6:9 A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

6:10 Cymer gan y gaethglud, gan Heldai, gan Tobeia, a chan Jedaia, y rhai a ddaethant o Babilon, a thyred y dydd hwnnw a dos i dy^ Joseia mab Seffaneia:

6:11 Yna cymer arian ac aur, a gwna goronau, a gosod ar ben Josua mab Josedec yr archoffeiriad;

6:12 A llefara wrtho, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd, Wele y gw^r a'i enw BLAGURYN: o'i le hefyd y blagura, ac adeilada deml yr ARGLWYDD ;

6:13 Ie, teml yr ARGLWYDD a adeilada efe; ac efe a ddwg y gogoniant, ac a eistedd, ac a lywodraetha ar ei frenhinfainc; bydd yn offeiriad hefyd ar ei frenhinfainc: a chyngor hedd a fhydd rhyngddynt ill dau.

6:14 A'r coronau fydd i Helem, ac i Tobeia, ac i Jedaia, ac i Hen mab Seffaneia, er coffadwriaeth yn nheml yr ARGLWYDD.

6:15 A'r pellenigion a ddeuant, ac a adeiladant yn nheml yr ARGLWYDD, a chewch wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a'm hanfonodd atoch. A hyn a fydd, os gan wrando y gwrandewch ar lais yr ARGLWYDD DDUW.


PENNOD 7

7:1 Ac yn y bedwaredd flwyddyn i'r brenin Dareius y daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia, ar y pedwerydd dydd o'r nawfed mis, sef Cisleu;

7:2 Pan anfonasent Sereser, a Regem-melech, a'u gwy^r, i dy^ DDUW, i weddïo gerbron yr ARGLWYDD,

7:3 Ac i ddywedyd wrth yr offeiriaid oedd yn nhy^ ARGLWYDD y lluoedd, ac wrth y proffwydi, gan ddywedyd, A wylaf fi y pumed mis, gan ymneilltuo, fel y gwneuthum weithian gymaint o flynyddoedd?

7:4 Yna gair ARGLWYDD y lluoedd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

7:5 Dywed wrth holl bobl y tir, ac wrth yr offeiriaid, gan lefaru. Pan oeddech yn ymprydio ac yn galaru y pumed a'r seithfed mis, y deng mlynedd a thrigain hynny, ai i mi yr ymprydiasoch chwi ympryd, i mi?

7:6 A phan fwytasoch, a phan yfasoch, onid oeddech yn bwyta i chwi eich hunain, ac yn yfed i chwi eich hunain?

7:7 Oni ddylech wrando y geiriau a gyhoeddodd yr ARGLWYDD trwy law y proffwydi gynt, pan oedd Jerwsalem yn gyfannedd, ac yn llwyddiannus, a'i dinasoedd o'i hamgylch, a phobl yn cyfanheddu y deheudir a'r dyffryndir?

7:8 A daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia, gan ddywedyd,

7:9 Fel hyn y llefara ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd, Bernwch farn gywir, gwnewch drugaredd a thosturi bob un i'w frawd:

7:10 Ac na orthrymwch y weddw a'r amddifad, y dieithr a'r anghenog, ac na feddyliwch ddrwg bob un i'w gilydd yn eich calonnau.

7:11 Er hyn gwrthodasant wrando, a rhoddasant ysgwydd anhydyn, a thrymhasant eu clustiau rhag clywed.

7:12 Gwnaethant hefyd eu calonnau yn adamant, rhag clywed y gyfraith a'r geiriau a anfonodd ARGLWYDD y lluoedd trwy ei ysbryd, yn llaw y proffwydi gynt: am hynny y daeth digofaint mawr oddi wrth ARGLWYDD y lluoedd.

7:13 A bu, megis y galwodd efe, ac na wrandawent hwy; fellyy galwasant hwy, ac nis gwrandawn innau, medd ARGLWYDD y lluoedd.

7:14 Ond gwasgerais hwynt â chorwynt i blith yr holl genhedloedd y rhai nid adwaenent; a'r tir a anghyfanheddwyd ar eu hôl hwynt, fel nad oedd a'i tramwyai nac a ddychwelai: felly y gosodasant y wlad ddymunol yn ddiffeithwch.


PENNOD 8

8:1 Drachefn y daeth gair ARGLWYDD y lluoedd ataf, gan ddywedyd,

8:2 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Eiddigeddais eiddigedd mawr dros Seion ac â llid mawr yr eiddigeddais drosti.

8:3 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Dychwelais at Seion, a thrigaf yng nghanol Jerwsalem; a Jerwsalem a elwir Dinas y gwirionedd; a mynydd ARGLWYDD y lluoedd, Y mynydd sanctaidd.

8:4 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Hen wy^r a hen wragedd a drigant eto yn heolydd Jerwsalem, a phob gw^r â'i ffon yn ei law oherwydd amlder dyddiau.

8:5 A heolydd y ddinas a lenwir o fechgyn a genethod yn chwarae yn ei heolydd hi.

8:6 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Os anodd yw hyn yn y dyddiau hyn yng ngolwg gweddill y bobl hyn, ai anodd fyddai hefyd yn fy ngolwg i? medd ARGLWYDD y lluoedd.

8:7 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Wele fi yn gwaredu fy mhobl o dir y dwyrain, ac o dir machludiad haul.

8:8 A mi a'u dygaf hwynt, fel y preswyliont yng nghanol Jerwsalem: a hwy a fyddant yn bobl i mi, a byddaf finnau iddynt hwythau yn DDUW mewn gwirionedd ac mewn cyfiawnder.

8:9 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Cryfhaer eich dwylo chwi, y rhai ydych yn clywed yn y dyddiau hyn y geiriau hyn o enau y proffwydi, y rhai oedd yn y dydd y sylfaenwyd ty^ ARGLWYDD y lluoedd, fel yr adeiledid y deml.

8:10 Canys cyn y dyddiau hyn nid oedd na chyflog i ddyn, na llog am anifail; na heddwch i'r un a elai allan, nac a ddelai i mewn, gan y gorthrymder: oblegid gyrrais yr holl ddynion bob un ym mhen ei gymydog.

8:11 Ond yn awr ni byddaf fi i weddill y bobl hyn megis yn y dyddiau gynt, medd ARGLWYDD y lluoedd.

8:12 Canys bydd yr had yn ffynadwy; y winwydden a rydd ei ffrwyth, a'r ddaear a rydd ei chynnyrch, a'r nefoedd a roddant eu gwlith: a pharaf i weddill y bobl hyn feddiannu yr holl bethau hyn.

8:13 A bydd, mai megis y buoch chwi, ty^ Jwda a thy^ Israel, yn felltith ymysg y cenhedloedd; felly y'ch gwaredaf chwi, a byddwch yn fendith: nac ofnwch, ond cryfhaer eich dwylo.

8:14 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Fel y meddyliais eich drygu chwi, pan y'm digiodd eich tadau, medd ARGLWYDD y lluoedd, ac nid edifarheais;

8:15 Felly drachefn y meddyliais yn y dyddiau hyn wneuthur lles i Jerwsalem, ac i dy^ Jwda: nac ofnwch.

8:16 Dyma y pethau a wnewch chwi; Dywedwch y gwir bawb wrth ei gymydog; bernwch farn gwirionedd a thangnefedd yn eich pyrth;

8:17 Ac na fwriedwch ddrwg neb i'w gilydd yn eich calonnau; ac na hoffwch lw celwyddog: canys yr holl bethau hyn a gaseais, medd yr ARGLWYDD.

8:18 A gair ARGLWYDD y lluoedd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

8:19 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ympryd y pedwerydd mis, ac ympryd y pumed, ac ympryd y seithfed, ac ympryd y degfed, a fydd i dy^ Jwda yn llawenydd a hyfrydwch, ac yn uchel wyliau daionus: gan hynny cerwch wirionedd a heddwch.

8:20 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Bydd eto, y daw pobloedd a phreswylwyr dinasoedd lawer;

8:21 Ac yr â preswylwyr y naill ddinas i’r llall, gan ddywedyd,. Awn gan fyned i weddïo gerbron yr ARGLWYDD, ac i geisio ARGLWYDD y lluoedd: minnau a af hefyd.

8:22 Ie, pobloedd lawer a chenhedloedd cryfion a ddeuant i geisio ARGLWYDD y lluoedd yn Jerwsalem, ac i weddïo gerbron yr ARGLWYDD.

8:23 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Yn y dyddiau hynny y bydd i ddeg o ddynion, o bob tafodiaith y cenhedloedd, ymaflyd, ymaflyd, meddaf, yng ngodre gw^r o Iddew, gan ddywedyd, Awn gyda chwi: canys clywsom DUW gyda chwi.


PENNOD 9

9:1 Baich gair yr ARGLWYDD yn nhir Hadrach, a Damascus fydd ei orffwysfa ef: pan fyddo llygaid dyn ar yr ARGLWYDD, fel yr eiddo holl lwythau Israel.

9:2 A Hamath hefyd a derfyna wrthi; Tyrus a Sidon hefyd, er ei bod yn ddoeth iawn.

9:3 A Thyrus a adeiladodd iddi ei hun amddiffynfa, ac a bentyrrodd arian fel llwch, ac aur coeth fel tom yr heolydd.

9:4 Wele, yr ARGLWYDD a'i bwrw hi allan, ac a dery ei nerth hi yn y môr; a hi a ysir â thân.

9:5 Ascalon a'i gwêl, ac a ofna; a Gasa, ac a ymofidia yn ddirfawr; Ecron hefyd, am ei chywilyddio o'i gobaith; difethir hefyd y brenin allan o Gasa, ac Ascalon ni chyfanheddir.

9:6 Estron hefyd a drig yn Asdod, a thorraf ymaith falchder y Philistiaid.

9:7 A mi a gymeraf ymaith ei waed o’i enau, a'i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd: ac efe a weddillir i'n DUW ni, fel y byddo megis pennaeth yn Jwda, ac Ecron megis Jebusiad.

9:8 A gwersyllaf o amgylch fy nhy^ rhag y llu, rhag a êl heibio, a rhag a ddychwelo; fel nad elo gorthrymwr trwyddynt mwyach: canys yn awr gwelais â'm llygaid.

9:9 Bydd lawen iawn, ti ferch Seion; a chrechwena, ha ferch Jerwsalem: wele dy frenin yn dyfod atat: cyfiawn ac achubydd yw efe; y mae efe yn llariaidd, ac yn marchogaeth ar asyn, ac ar ebol llwdn asen.

9:10 Torraf hefyd y cerbyd oddi wrth Effraim, a'r march oddi wrth Jerwsalem, a'r bwa rhyfel a dorrir; ac efe a lefara heddwch i'r cenhedloedd: a'i lywodraeth fydd o fôr hyd fôr, ac o'r afon hyd eithafoedd y ddaear.

9:11 A thithau, trwy waed dy amod y gollyngais dy garcharorion o'r pydew heb ddwfr ynddo.

9:12 Trowch i'r amddiffynfa, chwi garcharorion gobeithiol; heddiw yr ydwyf yn dangos y talaf i ti yn ddauddyblyg:

9:13 Pan anelwyf Jwda i mi, ac y llanwyf y bwa ag Effraim, ac y cyfodwyf dy feibion di, Seion, yn erbyn dy feibion di, Groeg, ac y'th wnelwyf fel cleddyf gw^r grymus:

9:14 A'r ARGLWYDD a welir trostynt, a'i saeth ef a â allan fel mellten: a'r ARGLWYDD DDUW a gân ag utgom, ac a gerdd â chorwyntoedd y deau.

9:15 ARGLWYDD y lluoedd a'u hamddiffyn hwynt: a hwy a ysant, ac a ddarostyngant gerrig y dafl; yfant, a therfysgant megis mewn gwin, a llenwir hwynt fel meiliau, ac fel conglau yr allor.

9:16 A'r ARGLWYDD eu DUW a'u gwared hwynt y dydd hwnnw fel praidd ei bobl: canys fel meini coron y byddant, wedi eu dyrchafu yn fanerau ar ei dir ef.

9:17 Canys pa faint yw ei ddaioni ef, a pha faint ei degwch ef! y^d a lawenycha y gwy^r ieuainc, a gwin y gwyryfon.


PENNOD 10

10:1 Erchwch gan yr ARGLWYDD law mewn pryd diweddar law; a'r ARGLWYDD a bair ddisglair gymylau, ac a ddyd iddynt gawod o law, i bob un laswellt yn y maes.

10:2 Canys y delwau a ddywedasant wagedd, a'r dewiniaid a welsant gelwydd, a fi a ddywedasant freuddwydion ofer; rhoddasant ofer gysur: am hynny yr aethant fel defaid, cystuddiwyd hwynt, am nad oedd bugail.

10:3 Wrth y bugeiliaid yr enynnodd fy llid, a mi a gosbais y bychod: canys ARGLWYDD y lluoedd a ymwelodd a'i braidd ty^ Jwda, ac a'u gwnaeth fel ei harddfarch yn y rhyfel.

10:4 Y gongl a ddaeth allan ohono, yr hoel ohono, y bwa rhyfel ohono, a phob gorthrymwr ynghyd a ddaeth ohono.

10:5 A byddant fel cewri yn sathru eu gelynion yn nhom yr heolydd yn y rhyfel: a hwy a ymladdant, am fod yr ARGLWYDD gyda hwynt; a chywilyddir marchogion meirch.

10:6 A nerthaf dy Jwda, a gwaredaf dy Joseff, a pharaf iddynt ddychwelyd i'w cyfle; canys trugarheais wrthynt; a byddant fel pe nas gwrthodaswn hwynt; oherwydd myfi yw yr ARGLWYDD eu DUW hwynt, ac a'u gwrandawaf hwynt.

10:7 Bydd Effraim hefyd fel cawr, a'u calonnau a lawenychant fel trwy win; a'u meibion a gânt weled, ac a lawenychant; bydd eu calon yn hyfryd yn yr ARGLWYDD.

10:8 Chwibanaf arnynt, a chasglaf hwynt; canys gwaredais hwynt: ac amlhant fel yr amlhasant.

10:9 A heuaf hwynt ymysg y bobloedd: ac mewn gwledydd pell y'm cofiant, a byddant fyw gyda'u plant, a dychwelant.

10:10 A dychwelaf hwynt o dir yr Aifft, a chasglaf hwynt o Asyria; ac arweiniaf hwynt i dir Gilead a Libanus, ac ni cheir lle iddynt.

10:11 Ac efe a dramwya trwy y môr mewn blinder, ac a dery y tonnau yn y môr; a holl ddyfnderoedd yr afon a fyddant ddihysbydd: a disgynnir balchder Asyria, a theyrnwialen yr Aifft a gilia ymaith.

10:12 Nerthaf hwynt hefyd yn yr ARGLWYDD, ac yn ei enw ef yr ymrodiant, medd yr ARGLWYDD.


PENNOD 11

11:1 Libanus, agor dy ddorau, fel yr yso y tân dy gedrwydd.

11:2 Y ffynidwydd, udwch; canys cwympodd y cedrwydd, difwynwyd y rhai ardderchog: udwch, dderw Basan; canys syrthiodd coedwig y gwin-gynhaeaf.

11:3 Y mae llef udfa y bugeiliaid! am ddifwyno eu hardderchowgrwydd: llef rhuad y llewod ieuainc! am ddifwyno balchder yr Iorddonen.

11:4 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD fy NUW; Portha ddefaid y lladdfa;

11:5 Y rhai y mae eu perchenogion yn eu lladd, heb dybied eu bod yn euog; a’u gwerthwyr a ddywedant, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, am fy nghyfoethogi; a'u bugeiliaid nid arbedant hwynt.

11:6 Canys nid arbedaf mwyach drigolion y wlad, medd yr ARGLWYDD; ond wele fi yn rhoddi y dynion bob un i law ei gymydog, ac i law ei frenin; a hwy a drawant y tir, ac nid achubaf hwynt o'u llaw hwy.

11:7 A mi a borthaf ddefaid y lladdfa, sef chwi, drueiniaid y praidd. A chymerais i mi ddwy ffon; un a elwais Hyfrydwch, a'r llall a elwais Rhwymau; a mi a borthais y praidd.

11:8 A thorrais ymaith dri bugail mewn un mis; a'm henaid a alarodd arnynt hwy, a'u henaid hwythau a'm ffieiddiodd innau,

11:9 Dywedais hefyd, Ni phorthaf chwi: a fyddo farw, bydded farw; ac y sydd i'w dorri ymaith, torrer ef ymaith, a'r gweddill, ysant bob un gnawd ei gilydd.

11:10 A chymerais fy ffon Hyfrydwch, a thorrais hi, i dorri fy nghyfamod yr hwn a amodaswn a'r holl bobl.

11:11 A'r dydd hwnnw y torrwyd hi: ac felly y gwybu trueiniaid y praidd, y rhai oedd yn disgwyl wrthyf fi, mai gair yr ARGLWYDD oedd hyn.

11:12 A dywedais wrthynt, Os gwelwch yn dda, dygwch fy ngwerth; ac onid e, peidiwch: a'm gwerth a bwysasant yn ddeg ar hugain o arian.

11:13 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Bwrw ef i'r crochenydd: pris teg â'r hwn y'm prisiwyd ganddynt. A chymerais y deg ar hugain arian, a bwriais hwynt i dy^ yr ARGLWYDD, i'r crochenydd.

11:14 Yna mi a dorrais fy ail ffon, sef Rhwymau, i dorri y brawdoliaeth rhwng Jwda ac Israel.

11:15 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Cymer eto i ti offer bugail ffôl.

11:16 Canys wele fi yn codi bugail yn y tir, yr hwn ni ofwya y cuddiedig, ni chais yr ieuanc, ni feddyginiaetha y briwedig, a fyddo yn sefyll ni phortha; ond bwyty gig y bras, ac a ddryllia eu hewinedd hwynt.

11:17 Gwae yr eilun bugail, yn gadael y praidd: y cleddyffydd ar ei fraich, ac ar ei lygad deau: ei fraich gan wywo a wywa, a'i lygad deau gan dywyllu a dywylla.


PENNOD 12

12:1 Baich gair yr ARGLWYDD i Israel, medd yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn estyn allan y nefoedd, ac yn sylfaenu y ddaear, ac yn llunio ysbryd dyn ynddo.

12:2 Wele fi yn gwneuthur Jerwsalem yn ffiol gwsg i'r bobloedd oll o amgylch, pan fyddont yn y gwarchae yn erbyn Jwda, ac yn erbyn Jerwsalem.

12:3 A bydd y dwthwn hwnnw i mi wneuthur Jerwsalem yn faen trwm i'r holl bobloedd: pawb a ymlwytho ag ef yn ddiau a rwygir, er ymgasglu o holl genhedloedd y ddaear yn ei erbyn ef.

12:4 Y diwrnod hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y trawaf bob march â syndra, a'i farchog ag ynfydrwydd; ac agoraf fy llygaid ar dy Jwda, a thrawaf holl feirch y bobl â dallineb.

12:5 A thywysogion Jwda a ddywedant yn eu calon, Nerth i mi fydd preswylwyr Jerwsalem yn ARGLWYDD y lluoedd eu DUW hwynt.

12:6 Y dydd hwnnw y gwnaf dywysogion Jwda fel aelwyd o dân yn y coed, ac fel ffagl dân mewn ysgub o wellt; ac ysant ar y llaw ddeau ac ar yr aswy, yr holl bobloedd o amgylch: a Jerwsalem a gyfanheddir drachefn yn ei lle ei hun, yn Jerwsalem.

12:7 Yr ARGLWYDD a geidw bebyll Jwda yn gyntaf, megis nad ymfawrygo gogoniant ty^ Dafydd, a gogoniant preswylwyr Jerwsalem, yn erbyn Jwda.

12:8 Y dydd hwnnw yr amddiffyn yr ARGLWYDD breswylwyr Jerwsalem: a bydd y llesgaf ohonynt y dydd hwnnw fel Dafydd; a thy^ Dafydd fydd fel Duw, fel angel yr ARGLWYDD o'u blaen hwynt.

12:9 Y dydd hwnnw y bydd i mi geisio difetha yr holl genhedloedd y sydd yn dyfod yn erbyn Jerwsalem.

12:10 A thywalltaf ar dy^ Dafydd, ac ar breswylwyr Jerwsalem, ysbryd gras a gweddïau; a hwy a edrychant arnaf fi yr hwn a wanasant; galarant hefyd amdano fel un yn galaru am ei unig-anedig, ac ymofidiant amdano ef megis un yn gofidio am ei gyntaf-anedig.

12:11 Y dwthwn hwnnw y bydd galar mawr yn Jerwsalem, megis galar Hadadrimmon yn nyffryn Megidon.

12:12 A'r wlad a alara, pob teulu wrtho ei hun; teulu ty Dafydd wrtho ei hun, a'u gwragedd wrthynt eu hunain; teulu ty^ Nathan wrtho ei hunan, a'u gwragedd wrthynt eu hunain;

12:13 Teulu ty^ Lefi wrtho ei hunan, a'u gwragedd wrthynt eu hunain; teulu ty^ Simei wrtho ei hunan, a'u gwragedd wrthynt eu hunain;

12:14 Yr holl deuluoedd eraill, pob teulu wrtho ei hun, a'u gwragedd wrthynt eu hunain.


PENNOD 13

13:1 Y dydd hwnnw y bydd ffynnon wedi ei hagoryd i dy^ Dafydd, ac i breswylwyr Jerwsalem, i bechod ac aflendid.

13:2 A bydd y dwthwn hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd, i mi dorri enwau yr eilunod allan o'r tir, ac nis cofir hwynt mwyach; a gyrraf hefyd y proffwydi ac ysbryd aflendid o'r wlad.

13:3 A bydd pan broffwydo un mwyach, y dywed ei dad a'i fam a'i cenedlasant ef wrtho, Ni chei fyw; canys dywedaist gelwydd yn enw yr ARGLWYDD: a'i dad a'i fam a'i cenedlasant ef a'i gwanant ef pan fyddo yn proffwydo.

13:4 A bydd y dydd hwnnw, i'r proffwydi gywilyddio bob un am ei weledigaeth, wedi iddo broffwydo; ac ni wisgant grys o rawn i dwyllo:

13:5 Ond efe a ddywed, Nid proffwyd ydwyf fi; llafurwr y ddaear ydwyf fi; canys dyn a'm dysgodd i gadw anifeiliaid o'm hieuenctid.

13:6 A dywed un wrtho, Beth a wna y gwelïau hyn yn dy ddwylo? Yna efe a ddywed, Dyma y rhai y'm clwyfwyd â hwynt yn nhy^ fy ngharedigion.

13:7 Deffro, gleddyf, yn erbyn fy mugail, ac yn erbyn y gw^r sydd gyfaill i mi, medd ARGLWYDD y lluoedd: taro y bugail, a'r praidd a wasgerir; a dychwelaf fy llaw ar y rhai bychain.

13:8 A bydd yn yr holl dir, medd yr ARGLWYDD, y torrir ymaith ac y bydd marw dwy ran ynddo; a'r drydedd a adewir ynddo.

13:9 A dygaf drydedd ran trwy y tân, a phuraf hwynt fel puro arian, a choethaf hwynt fel coethi aur: hwy a alwant ar fy enw, a minnau a'u gwrandawaf: dywedaf, Fy mhobl yw efe; ac yntau a ddywed, Yr ARGLWYDD yw fy NUW.


PENNOD 14

14:1 Wele ddydd yr ARGLWYDD yn dyfod, a rhennir dy ysbail yn dy ganol di.

14:2 Canys mi a gasglaf yr holl genhedloedd i ryfel yn erbyn Jerwsalem: a'r ddinas a oresgynnir, y tai a anrheithir, a'r gwragedd a dreisir; a hanner y ddinas a a allan i gaethiwed, a'r rhan arall o'r bobl nis torrir ymaith o'r ddinas.

14:3 A'r ARGLWYDD a â allan, ac a ryfela yn erbyn y cenhedloedd hynny, megis y dydd y rhyfelodd efe yn nydd y gad.

14:4 A'i draed a safant y dydd hwnnw ar fynydd yr Olewydd, yr hwn sydd ar gyfer Jerwsalem, o du y dwyrain; a mynydd yr Olewydd a hyllt ar draws ei hanner tua'r dwyrain a thua'r gorllewin, a bydd dyffryn mawr iawn: a hanner y mynydd a symud tua'r gogledd, a'i hanner tua'r deau.

14:5 A chwi a ffowch i ddyffryn y mynyddoedd; canys dyffryn y mynyddoedd a gyrraedd hyd Asal: a ffowch fel y ffoesoch rhag y ddaeargryn yn nyddiau Usseia brenin Jwda: a daw yr ARGLWYDD fy NUW, a'r holl saint gyda thi.

14:6 A'r dydd hwnnw y daw i ben, na byddo goleuni disglair, na thywyll:

14:7 Ond bydd un diwrnod, hwnnw a adwaenir gan yr ARGLWYDD, nid dydd, ac nid nos; ond bydd goleuni yn yr hwyr.

14:8 A bydd y dwthwn hwnnw, y daw allan o Jerwsalem ddyfroedd bywiol; eu hanner hwynt tua môr y dwyrain, a'u hanner tua'r môr eithaf: haf a gaeaf y bydd hyn.

14:9 A'r ARGLWYDD a fydd yn Frenin ar yr holl ddaear: y dydd hwnnw y bydd un ARGLWYDD, a'i enw yn un.

14:10 Troir yr holl dir megis yn wastad o Geba hyd Rimmon, o'r tu deau i Jerwsalem: hi a ddyrchefir, ac a gyfanheddir yn ei lle, o borth Benjamin hyd le y porth cyntaf, hyd borth y gongl, ac o dwr Hananeel hyd winwryfau y brenin.

14:11 Yno y trigant ynddi, ac ni bydd yn ddifrod mwyach; ond Jerwsalem a gyfanheddir yn ddienbyd.

14:12 A hyn fydd y pla a'r hwn y tery yr ARGLWYDD yr holl bobloedd a ryfelant yn erbyn Jerwsalem; Eu cnawd a dderfydd, er eu bod yn sefyll ar eu traed, a'u llygaid a ddarfyddant yn eu tyllau, a'u tafod a dderfydd yn eu safn.

14:13 Y dydd hwnnw y bydd mawr derfysg oddi wrth yr ARGLWYDD yn eu plith hwynt; a phob un a ymafael yn llaw ei gymydog, a'i law a gyfyd yn erbyn llaw ei gymydog.

14:14 A Jwda hefyd a ryfela yn Jerwsalem: a chesglir golud yr holl genhedloedd o amgylch, aur ac arian, a gwisgoedd lawer iawn.

14:15 Ac felly y bydd pla y march, y mul, y camel, yr asyn, a phob anifail a fyddo yn y gwersylloedd hyn, fel y pla hwn.

14:16 A bydd i bob un a adawer o’r holl genhedloedd a ddaethant yn erbyn Jerwsalem, fyned i fyny o flwyddyn i flwyddyn, i addoli y Brenin, ARGLWYWDD y lluoedd, ac i gadw gw^yl y pebyll.

14:17 A phwy bynnag nid êl i fyny o deuluoedd y ddaear i Jerwsalem, i addoli y Brenin, ARGLWYDD y lluoedd, ni bydd glaw arnynt.

14:18 Ac os teulu yr Aifft nid â i fyny, ac ni ddaw, y rhai nid oes glaw arnynt; yno y bydd y pla â'r hwn y tery yr ARGLWYDD y cenhedloedd y rhai nid esgynnant i gadw gw^yl y pebyll.

14:19 Hyn a fydd cosb yr Aifft, a chosb yr holl genhedloedd nid elont i fyny i gadw gw^yl y pebyll.

14:20 Y dydd hwnnw y bydd ar ffrwynau y meirch, SANCTEIDDRWYDD I'R ARGLWYDD; a bydd y crochanau yn nhy^ yr ARGLWYDD fel meiliau gerbron yr allor.

14:21 Bydd pob crochan yn Jerwsalem ac yn Jwda yn Sancteiddrwydd i ARGLWYDD y lluoedd: a daw pob aberthwr, ac a gymerant ohonynt, ac a ferwant ynddynt; ac ni bydd Canaanead mwyach yn nhy^ARGLWYDD y lluoedd y dydd hwnnw.