Beibl (1620)/Seffaneia

Habacuc Beibl (1620)
Seffaneia
Seffaneia
wedi'i gyfieithu gan William Morgan
Haggai

LLYFR SEPHANIAH.

PENNOD 1

1:1 Gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Seffaneia mab Cusi, fab Gedaleia, fab Amareia, fab Heseceia, yn amser Joseia mab Amon brenin Jwda.

1:2 Gan ddistrywio y distrywiaf bob dim oddi ar wyneb y ddaear, medd yr ARGLWYDD.

1:3 Distrywiaf ddyn ac anifail; distrywiaf adar yr awyr, a physgod y mor; a'r tramgwyddiadau ynghyd a'r annuwiolion; a thorraf ymaith ddyn oddi ar wyneb y ddaear, medd yr ARGLWYDD.

1:4 Estynnaf hefyd fy llaw ar Jwda, ac ar holl breswylwyr Jerwsalem; a thorraf ymaith o'r lle hwn weddill Baal, ac enw y Chemariaid â’r offeiriaid;

1:5 A'r neb a ymgrymant ar bennau y tai i lu y nefoedd; a'r addolwyr y rhai a dyngant i'r ARGLWYDD, a hefyd a dyngant i Malcham;

1:6 A'r rhai a giliant oddi ar ôl yr ARGLWYDD; a'r rhai ni cheisiasant yr ARGLWYDD, ac nid ymofynasant amdano.

1:7 Distawa gerbron yr ARGLWYDD DDUW; canys agos yw dydd yr ARGLWYDD: oherwydd arlwyodd yr ARGLWYDD aberth, gwahoddodd ei wahoddedigion.

1:8 A bydd, ar ddydd aberth yr ARGLWYDD, i mi ymweled â'r tywysogion, ac â phlant y brenin, ac â phawb a wisgant wisgoedd dieithr.

1:9 Ymwelaf hefyd â phawb a neidiant ar y rhiniog y dydd hwnnw, y sawl a lanwant dai eu meistr â thrais ac a thwyll.

1:10 A'r dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y bydd llais gwaedd o borth y pysgod, ac udfa o'r ail, a drylliad mawr o'r bryniau.

1:11 Udwch, breswylwyr Machtes: canys torrwyd ymaith yr holl bobl o farchnadyddion; a holl gludwyr arian a dorrwyd ymaith.

1:2 A'r amser hwnnw y chwiliaf Jerwsalem â llusernau, ac yr ymwelaf â'r dynion sydd yn ceulo ar eu sorod; y rhai a ddywedant yn eu calon, Ni wna yr ARGLWYDD dda, ac ni wna ddrwg.

1:13 Am hynny eu cyfoeth a â yn ysbail, a'u teiau yn anghyfannedd: adeiladant hefyd dai, ond ni phreswyliant ynddynt; a phlannant winllannoedd, ond nid yfant o'r gwin.

1:14 Agos yw mawr ddydd yr ARGLWYDD, agos a phrysur iawn, sef llais dydd yr ARGLWYDD: yno y bloeddia y dewr yn chwerw.

1:15 Diwrod llidiog yw y diwrnod hwnnw, diwrnod trallod a chyfyngdra, diwrnod dinistr ac anghyfanhedd-dra, diwrnod tywyll a du, diwrnod cymylau a thywyllni.

1:16 Diwrnod utgorn a larwm yn erbyn y dinasoedd caerog, ac yn erbyn y tyrau uchel.

1:17 A mi a gyfyngaf ar ddynion, a hwy a rodiant megis deillion, am bechu ohonynt yn erbyn yr ARGLWYDD; a'u gwaed a dywelltir fel llwch, a'u cnawd fel tom.

1:18 Nid eu harian na'u haur chwaith a ddichon eu hachub hwynt ar ddiwrnod llid yr ARGLWYDD; ond â than ei eiddigedd ef yr ysir yr holl dir: canys gwna yr Arglwydd ddiben prysur ar holl breswylwyr y ddaear.


PENNOD 2

2:1 Ymgesglwch, ie, deuwch ynghyd, genedl anhawddgar;

2:2 Cyn i'r ddeddf esgor, cyn i'r dydd fyned heibio fel peiswyn, cyn dyfod arnoch lid digofaint yr ARGLWYDD, cyn dyfod arnoch ddydd soriant yr ARGLWYDD.

2:3 Ceisiwch yr ARGLWYDD, holl rai llariaidd y ddaear, y rhai a wnaethant ei farn ef; ceisiwch gyfiawnder, ceisiwch larieidd-dra; fe allai y cuddir chwi yn nydd digofaint yr ARGLWYDD.

2:4 Canys bydd Gasa yn wrthodedig, ac Ascalon yn anghyfannedd: gyrrant allan Asdod hanner dydd, a diwreiddir Ecron.

2:5 Gwae breswylwyr glan y môr, cenedl y Cerethiaid! y mae gair yr ARGLWYDD i'ch erbyn: O Ganaan, gwlad y Philistiaid, mi a'th ddifethaf, fel na byddo cyfanheddwr.

2:6 A bydd glan y môr yn drigfâu ac yn fythod i fugeiliaid, ac yn gorlannau defaid.

2:7 A bydd y fro yn rhan i weddill tŷ Jwda; porant arnynt: yn nheiau Ascalon y gorweddant yn yr hwyr: canys yr ARGLWYDD eu DUW a ymwêl â hwynt, ac a ddychwel eu caethiwed.

2:8 Clywais waradwyddiad Moab, a chabledd meibion Ammon, â'r hwn y gwaradwyddasant fy mhobl, ac yr ymfawrygasant yn erbyn eu terfynau hwynt.

2:9 Am hynny fel mai byw fi, medd ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel, Fel Sodom y bydd Moab, a meibion Ammon fel Gomorra: danhadldir, a phyllau halen, ac anghyfanheddle tragwyddol: gweddill fy mhobl a'u difroda, a gweddill fy nghenedl a'u meddianna hwynt.

2:10 Hyn a ddaw iddynt am eu balchder, am iddynt waradwyddo ac ymfawrygu yn erbyn pobl ARGLWYDD y lluoedd.

2:11 Ofnadwy a fydd yr ARGLWYDD iddynt: canys efe a newyna holl dduwiau y ddaear; ac addolant ef bob un o'i fan, sef holl ynysoedd y cenhedloedd.

2:12 Chwithau hefyd, yr Ethiopiaid, a leddir a'm cleddyf.

2:13 Ac efe a estyn ei law yn erbyn y gogledd, ac a ddifetha Asyria, ac a wna Ninefe yn anghyfannedd, ac yn sych fel diffeithwch.

2:14 A diadellau a orweddant yn ei chanol hi, holl anifeiliaid y cenhedloedd: y pelican a'r dylluan hefyd a letyant ar gap y drws; eu llais a gân yn y ffenestri; anghyfanhedd-dra a fydd yn y gorsingau: canys efe a ddinoetha y cedrwaith.

2:15 Hon yw y ddinas hoyw oedd yn trigo yn ddiofal, yn dywedyd yn ei chalon, Myfi sydd, ac nid oes ond myfi: pa fodd yr aeth yn anghyfannedd, yn orweddfa anifeiliaid! pawb a'r a êl heibio iddi, a'i hwtia, ac a ysgwyd ei law arni.


PENNOD 3

3:1 Gwae y fudr a'r halogedig, y ddinas orthrymus!

3:2 Ni wrandawodd ar y llef, ni dderbyniodd gerydd; nid ymddiriedodd yn yr ARGLWYDD, ni nesaodd at ei DUW.

3:3 Ei thywysogion o'i mewn sydd yn llewod rhuadwy; ei barnwyr yn fleiddiau yr hwyr, ni adawant asgwrn erbyn y bore.

3:4 Ei phroffwydi sydd ysgafn, yn wŷ r anffyddlon: ei hoffeiriaid a halogasant y cysegr, treisiasant y gyfraith.

3:5 Yr ARGLWYDD cyfiawn sydd yn ei chanol, ni wna efe anwiredd: yn fore y dwg ei farn i oleuni, ni phalla; ond yr anwir ni fedr gywilyddio.

3:6 Torrais ymaith y cenhedloedd: eu tyrau sydd anghyfannedd, diffeithiais eu heolydd, fel nad elo neb heibio; eu dinasoedd a ddifwynwyd, heb w^r, a heb drigiannol.

3:7 Dywedais, Yn ddiau ti a'm hofni; derbynni gerydd: felly ei thrigfa ni thorrid ymaith, pa fodd bynnag yr ymwelais â hi: eto boregodasant, a llygrasant eu holl weithredoedd.

3:8 Am hynny disgwyliwch arnaf fi, medd yr ARGLWYDD, hyd y dydd y cyfodwyf i'r ysglyfaeth: canys fy marn sydd ar gynnull y cenhedloedd, ar gasglu y teyrnasoedd, i dywallt arnynt fy llid, holl angerdd fy nigofaint: canys â thân fy eiddigedd yr ysir yr holl ddaear.

3:9 Oherwydd yna yr adferaf i'r bobl wefus bur, fel y galwo pob un ohonynt ar enw yr ARGLWYDD, i'w wasanaethu ef ag un ysgwydd.

3:10 O'r tu hwnt i afonydd Ethiopia y dwg fy ngweddïwyr, sef merch fy ngwasgaredig, fy offrwrn.

3:11 Y dydd hwnnw ni'th waradwyddir am dy holl weithredoedd, yn y rhai y pechaist i'm herbyn: canys yna y symudaf o'th blith y neb sydd yn hyfryd ganddynt dy falchder, fel nad ymddyrchafech mwyach yn fy mynydd sanctaidd.

3:12 Gadawaf ynot hefyd bobl druain dlodion, ac yn enw yr ARGLWYDD y gobeithiant hwy.

3:13 Gweddill Israel ni wna anwiredd, ac ni ddywedant gelwydd; ac ni cheir yn eu geneuau dafod twyllodrus: canys hwy a borant ac a orweddant, ac ni bydd a'u tarfo.

3:14 Merch Seion, cân; Israel, crechwena; merch Jerwsalem, ymlawenycha a gorfoledda â’th holl galon.

3:15 Tynnodd yr ARGLWYDD ymaith dy farnau, bwriodd allan dy elynion: yr ARGLWYDD brenin Israel sydd yn dy ganol, nid ofni ddrwg mwyach.

3:16 Y dydd hwnnw y dywedir wrth Jerwsalem, Nac ofna; wrth Seion, Na laesed dy ddwylo.

3:17 Yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy ganol di sydd gadarn: efe a achub, efe a lawenycha o'th blegid gan lawenydd; efe a lonydda yn ei gariad, efe a ymddigrifa ynot dan ganu.

3:18 Casglaf y rhai sydd brudd am y gymanfa, y rhai sydd ohonot, i'r rhai yr oedd ei gwaradwydd yn faich.

3:19 Wele, mi a ddifethaf yr amser hwnnw bawb a'th flinant: ac a achubaf y gloff, a chasglaf y wasgaredig; ac a'u gosodaf yn glodfawr ac yn enwog yn holl dir eu gwarth.

3:20 Yr amser hwnnw y dygaf chwi drachefn, yr amser y’ch casglaf: canys gwnaf chwi yn enwog ac yn glodfawr ymysg holl bobl y ddaear, pan ddychwelwyf eich caethiwed o flaen eich llygaid, medd yr ARGLWYDD.