Beibl (1620)/Y rhan arall o Lyfr Esther
Y RHAN ARALL O BENODAU LLYFR ESTHER HEB FOD YN YR HEBRAEG NAC YN Y CALDEEG
Rhan o'r ddegfed bennod yn ôl y Groeg.
10:4 Yna y dywedodd Mardocheus, Duw a wnaeth hyn;
10:5 Canys cof yw gennyf y breuddwyd a welais am y pethau hyn: oblegid ni phallodd dim o hynny.
10:6 Ffynnon fechan a aeth yn afon; ac yr oedd goleuni, a haul, a dwfr mawr. Esther yr hon a briododd y brenin, ac a wnaeth efe yn frenhines, yw'r afon;
10:7 A'r ddwy ddraig ydwyf finnau, ac Aman.
10:8 A'r cenhedloedd oedd y rhai a ddaethant i ddifetha enw'r Iddewon.
10:9 A'm cenedl i yw'r Israel yma, y rhai a floeddiasant ar yr Arglwydd, a hwy a achubwyd: ie, yr Arglwydd a achubodd ei bobl, a'r Arglwydd a'n gwaredodd ni o'r drygau hyn oll; a Duw a wnaeth arwyddion a gwyrthiau mawrion, y rhai ni wnaethpwyd ymysg y cenhedloedd.
10:10 Am hynny y gwnaeth efe ddau goelbren, un i bobl Dduw, a'r llall i'r cenhedloedd oll.
10:11 A'r ddau goelbren hyn a ddaethant gerbron Duw, dros yr holl genhedloedd, erbyn awr, ac amser, a dydd barn.
10:12 Felly Duw a feddyliodd am ei bobl, ac a gyfiawnhaodd ei etifeddiaeth.
10:13 Am hynny y dyddiau hynny fyddant iddynt hwy yn y mis Adar, ar y pedwerydd dydd ar ddeg a'r pymthegfed o'r mis, gydag ymgyfarfod, a llawenydd, a hyfrydwch gerbron Duw, ymysg ei bobl ef byth dros bob oes.
PENNOD 11 11:1 Yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad Ptolomeus a Chleopatra, y dug Dositheus, yr hwn a ddywedodd ei fod yn offeiriad ac yn Lefiad, a'i fab Ptolomeus, y llythyr hwn am y Purim, yr hwn y dywedasant mai hwnnw oedd, ac i Lysimachus fab Ptolomeus, yr hwn oedd yn Jerwsalem, ei gyfieithu.
11:2 Yr ail flwyddyn o deyrnasiad Artacsercses fawr, y dydd cyntaf o fis Nisan, y breuddwydiodd Mardocheus mab Jairus, fab Simei, fab Cisai, o lwyth Benjamin;
11:3 Yr hwn oedd Iddew, ac yn trigo yn ninas Susa, gŵr mawr, am ei fod yn weinidog yn llys y brenin.
11:4 Ac un oedd efe o'r gaethglud a gaethgludasai Nabuchodonosor brenin Babilon o Jerwsalem, gyda Jechoneias brenin Jwda. A dyma ei freuddwyd ef:
11:5 Wele sain twrf, taranau, a daeargryn, a chythrwfl ar y ddaear.
11:6 Ac wele, dwy ddraig fawr a ddaethant allan yn barod bob un ohonynt i ymladd; a'u llef oedd fawr.
11:7 Ac wrth eu llef hwynt yr ymbaratôdd yr holl genhedloedd i ryfel, fel yr ymladdent yn erbyn y genedl gyfiawn.
11:8 Ac wele ddiwrnod tywyll a niwlog, cystudd ac ing, drygfyd a thrallod mawr ar y ddaear.
11:9 Yna y trallodwyd yr holl genedl gyfiawn, gan ofni eu drygfyd, ac yn barod i'w difetha.
11:10 Yna hwy a waeddasant ar Dduw; ac wrth eu gwaedd hwynt y daeth megis o ffynnon fechan, afon fawr, a dwfr lawer.
11:11 Goleuni hefyd a haul a gyfododd, a'r rhai iselradd a ddyrchafwyd, ac a ddifasant y gogoneddus.
11:12 A phan gyfododd Mardocheus, yr hwn a welsai'r breuddwyd hwn, a'r hyn a fynnai Duw ei wneuthur; bu y breuddwyd hwn ganddo yn ei galon, a thrwy bob rheswm y chwenychai efe ei wybod ef, hyd onid oedd hi yn nos.
PENNOD 12
12:1 Ac yr oedd Mardocheus yn gorffwys yn y llys, gyda Gabatha a Tharra, dau o stafellyddion y brenin, y rhai oedd yn cadw y llys:
12:2 Efe a glybu hefyd eu hamcanion hwynt, ac a chwiliodd allan eu bwriad hwynt, ac a gafodd wybod eu bod hwy yn barod i roi llaw ar y brenin Artacsercses: ac efe a ddangosodd i'r brenin amdanynt.
12:3, A'r brenin a holodd ei ddau stafellydd; a hwy a gyffesasant, ac a grogwyd.
12:4 Yna yr ysgrifennodd y brenin y pethau hyn mewn coffadwriaeth: Mardocheus hefyd a sgrifennodd yr un pethau.
12:5 A'r brenin a orchmynnodd i Mardocheus wasanaethu yn y llys, ac a roddes iddo ef roddion am hyn.
12:6 Eithr Aman mab Amadatheus yr Agagiad, yr hwn oedd ogoneddus yng ngolwg y brenin, a geisiodd ddrygu Mardocheus a'i bobl o achos dau ystafellydd y brenin.
PENNOD 13 13:1 Dyma hefyd gopi y llythyr: Y brenin mawr Artacsercses sydd yn ysgrifennu hyn at y tywysogion, a'r rhaglawiaid, y rhai sy dano ef ar saith ar hugain a chant o daleithiau, o India hyd Ethiopia.
13:2 Gan fy mod i yn arglwydd ar genhedloedd lawer, ac yn llywodraethu'r holl fyd, mi a ewyllysiais, heb ymddyrchafu oherwydd cadernid awdurdod, eithr gan lywodraethu yn addfwyn ac yn llonydd bob amser, osod y deiliaid yn wastadol mewn bywyd llonydd, a gwneuthur y deyrnas yn heddychol ac yn hyffordd hyd yr eithafoedd, ac adnewyddu heddwch, yr hwn y mae pob dyn yn ei chwennych.
13:3 A phan ymgynghorais i â'm cynghorwyr pa fodd y dygid hyn i ben, Aman, yr hwn a aeth yn rhagorol mewn doethineb gyda nyni, ac sydd hysbys ei fod mewn dianwadal ewyllys da a sicr ffyddlondeb, yr hwn sydd yn cael yr ail anrhydedd yn y deyrnas,
13:4 A fynegodd i ni fod pobl atgas wedi ymgymysgu â holl lwythau'r byd, yn wrthwynebus eu cyfraith i bob cenedl, ac yn esgeuluso yn wastad orchmynion brenhinoedd, fel na all undeb ein teyrnasoedd ni, yr hon yr ydym ni yn anrhydeddus yn ei hamcanu, fyned rhagddi:
13:5 Pan gawsom ninnau wybod y modd y mae'r genedl hon yn unig wedi ymosod i wrthwynebu pob dyn yn wastad, gan newidio, ac ymrafaelio â'r pethau yr ydym ni yn eu gorchymyn, trwy ddwyn cyfreithiau dieithr, a chan gyflawni pob drygioni a fedront, fel na chaffo ein brenhiniaeth ni wastadfod:
13:6 Am hynny y gorchmynasom am y rhai a hysbysir i chwi mewn ysgrifen oddi wrth Aman, yr hwn sydd swyddog ar ein materion, ac yn ail i ni, eu llwyr ddifetha hwynt oll gyda'u gwragedd a'u plant, trwy gleddyfau eu gelynion, heb ddim trugaredd na thosturi, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o Adar, hwnnw yw'r deuddegfed mis o'r flwyddyn bresennol hon:
13:7 Fel y byddo o hyn allan i'r rhai oedd gynt, ac yn awr ydynt elynion, wedi iddynt mewn un dydd trwy nerth ddisgyn i uffern, adael pethau yn llonydd, ac yn gwbl ddidrallod i ni.
13:8 Yntau, gan feddwl am holl weithredoedd yr Arglwydd, a weddïodd ar yr Arglwydd,
13:9 Ac a ddywedodd, O Arglwydd, Arglwydd, hollalluog Frenin, oblegid bod pob peth yn dy feddiant di, ac nad oes a'th wrthwynebo di pan fynnech achub Israel:
13:10 Oblegid ti a wnaethost y nefoedd a'r ddaear, a phob dim rhyfedd, yn yr hyn sy dan y nefoedd.
13:11 Arglwydd pob dim ydwyt ti hefyd, ac nid oes a'th wrthwyneba di, yr hwn ydwyt Arglwydd.
13:12 Ti a adwaenost bob peth, ti a wyddost, O Arglwydd, nad o draha, nac o falchder, nac o chwant gogoniant, y gwneuthum i hyn, sef nad anrhydeddwn Aman falch:
13:13 Canys mi a fuaswn fodlon i gusanu ôl ei draed ef er iachawdwriaeth i Israel.
13:14 Ond mi a wneuthum hyn rhag gosod ohonof ogoniant dyn goruwch gogoniant Duw, a rhag addoli ohonof neb ond tydi: ac nid o falchder y gwnaf hyn.
13:15 Ac yn awr, O Arglwydd Dduw Frenin, arbed dy bobl: oherwydd y maent hwy yn edrych arnom ni i'n dinistrio, a hwy a chwenychasant ddifetha'r hon sydd o'r dechreuad yn etifeddiaeth i ti.
13:16 Na ddiystyra y rhan a waredaist i ti dy hun o dir yr Aifft.
13:17 Gwrando fy ngweddi, a bydd drugarog wrth dy ran; a thro ein tristwch yn hyfrydwch; fel y gallom ni fyw, a moliannu dy enw di, O Arglwydd: ac na ddifetha enau y rhai sydd yn dy glodfori di, O Arglwydd.
13:18 Felly Israel oll a lefasant yn gryfaf y gallent: oblegid eu marwolaeth oedd o flaen eu llygaid.
PENNOD 14 14:1 Esther hefyd y frenhines, wedi i loes angau ei dal hi, a ffodd at yr Arglwydd;
14:2 Ac wedi iddi ddiosg ei gogoneddus wisg, hi a wisgodd wisg cystudd a galar; a lludw hefyd a thom yn lle ennaint balch y llanwodd hi ei phen; a hi a ddarostyngodd ei chorff yn ddirfawr, a'i holl fannau hyfryd a lanwodd hi â'i gwallt wedi ei dynnu:
14:3 A hi a weddïodd ar Arglwydd Dduw Israel, ac a ddywedodd,
14:4 O fy Arglwydd, ein Brenin ni wyt ti yn unig; cynorthwya fi, yr hon ydwyf unig, ac heb gynorthwyydd gennyf ond tydi: oblegid y mae yn enbyd iawn arnaf.
14:5 Mi a glywais er pan y'm ganed, ymysg llwyth fy nghenedl, gymryd ohonot ti, O Arglwydd, Israel o'r holl genhedloedd, a'n tadau ni o'u holl hynafiaid hwynt, yn etifeddiaeth dragwyddol; a gwneuthur ohonot ti iddynt yr hyn a leferaist.
14:6 Ac yn awr, nyni a bechasom yn dy ŵydd di; a thi a'n rhoddaist yn nwylo ein gelynion,
14:7 Am i ni ogoneddu eu duwiau hwynt. Cyfiawn wyt ti, O Arglwydd.
14:8 Ac yr awron nid digon ganddynt chwerwed ein gwasanaeth ni, eithr hwy a drawsant ddwylo â'u heilunod,
14:9 Ar ddiddymu y peth a ddarfu i ti ei ordeinio â'th enau, a dileu dy etifeddiaeth di, a chau safn y rhai sy yn dy foliannu, a diffoddi gogoniant dy dŷ di a'th allor,
14:10 Ac agoryd genau'r cenhedloedd i gyhoeddi rhinweddau pethau ofer, ac i fawrygu brenin cnawdol byth.
14:11 Na ddod Arglwydd, dy deyrnwialen i'r rhai nid ydynt ddim; ac na ad iddynt chwerthin am ein cwymp ni: eithr tro eu cyngor yn eu herbyn eu hun, a difetha yr hwn a ddechreuodd arnom ni.
14:12 Cofia, Arglwydd; pâr dy adnabod yn amser ein cystudd ni: cysura fi, O Frenin y cenhedloedd, a llywydd pob tywysogaeth.
14:13 Dod yn fy ngenau ymadrodd cymwys gerbron y llew, a thro ei galon ef i gasáu yr hwn sydd yn ein gwrthwynebu ni, er dinistr iddo ef, ac i'r rhai sy'n debyg eu meddwl iddo yntau:
14:14 Ie, gwared ni â'th law, a chynorthwya fi, yr hon ydwyf unig, ac heb gynorthwyydd gennyf ond tydi.
14:15 O Arglwydd, ti a wyddost bob dim: ti a wyddost mai cas gennyf ogoniant y rhai anwir, a bod yn ffiaidd gennyf wely y rhai dienwaededig, a phob dieithr.
14:16 Ti a wyddost beth sydd raid i mi; a bod yn ffiaidd gennyf arwydd fy malchder, yr hwn sydd ar fy mhen, ar y dyddiau yr ymddangoswyf, a bod mor ffiaidd gennyf ef â chadach misglwyf; ac nad ydwyf yn ei wisgo ef ar y dyddiau yr wyf yn cael llonydd;
14:17 Ac na fwytaodd dy wasanaethyddes ar fwrdd Aman; ac nad anrhydeddais wledd y brenin, ac nad yfais winoffrwm;
14:18 Ac na lawenychodd dy lawforwyn o'r dydd y'm symudwyd hyd yr awr hon, ond ynot ti, O Arglwydd Dduw Abraham.
14:19 O Dduw cadarnach na neb, gwrando lefain y rhai diobaith, a gwared ni o law y drygionus, ie, gwared fi o'm hofn.
PENNOD 15 15:1 Ac ar y trydydd dydd, pan beidiodd hi â gweddïo, hi a ddiosgodd ei galarwisg, ac a wisgodd ei gwychder.
15:2 Ac wedi iddi fyned yn wych ei threfn, a galw ar Weledydd ac Achubydd pawb, hi a gymerodd ddwy lawforwyn;
15:3 A hi a bwysodd ar y naill, fel pe buasai hi fwythus:
15:4 A'r llall oedd yn dwyn ei phwrffil hi.
15:5 Gwridog hefyd oedd hi o berffeithrwydd ei thegwch, a'i hwyneb yn llawen, ac megis yn hawddgar: eithr ei chalon oedd gyfyng arni gan ofn.
15:6 Ac wedi iddi fyned i mewn trwy'r holl ddrysau, hi a safodd gerbron y brenin; ac yr oedd efe yn eistedd ar orseddfa ei frenhiniaeth, ac efe a wisgasai ei ddisgleirwisg oll; ac efe oll mewn aur a meini gwerthfawr oedd ofnadwy iawn:
15:7 A chan ddyrchafu ei wyneb yn disgleirio gan ogoniant, efe a edrychodd yn llym o ddig: yna y syrthiodd y frenhines, a hi a newidiodd ei lliw mewn llewyg, ac a ogwyddodd ar ben y llawforwyn oedd yn myned o'i blaen hi.
15:8 A Duw a drodd ysbryd y brenin yn addfwyn, fel y neidiodd efe ar frys oddi ar ei orseddfa, ac y cymerodd hi: ac efe a'i cysurodd hi â geiriau heddychlon, ac a ddywedodd wrthi,
15:9 Esther, beth yw'r mater? dy frawd di ydwyf fi: cymer gysur.
15:10 Ni roddir di i farwolaeth, oblegid cyffredin yw ein gorchymyn ni: tyred yma.
15:11 Ac efe a gododd y wialen aur, ac a'i gosododd ar ei gwddf hi:
15:12 Ac efe a'i cofieidiodd hi, ac a ddywedodd, Llefara wrthyf fi.
15:13 Hithau a ddywedodd wrtho ef, O arglwydd, mi a'th welwn fel angel Duw, a'm calon a gyffrôdd rhag ofn dy ogoniant:
15:14 Oblegid rhyfeddol ydwyt ti, O arglwydd; a'th wyneb sydd yn llawn gras.
15:15 A thra'r oedd hi yn llefaru, hi a syrthiodd yn ei llewyg.
15:16 Yna y trallodwyd y brenin; a'i weision oll a'i cysurasant hi.
PENNOD 16 16:1 Y brenin mawr Artacsercses at y penaethiaid a'r tywysogion ar gant a saith ar hugain o daleithiau, o India hyd Ethiopia, ac at ein deiliaid ffyddlon, yn anfon annerch:
16:2 Llawer wedi eu mynych anrhydeddu trwy fawr ddaioni gweithredwyr da, a aethant yn falchach,
16:3 Ac ydynt yn ceisio nid yn unig ddrygu ein deiliaid ni, eithr hefyd, am na fedrant fyw mewn digonedd, y maent yn ceisio dychymyg niwed yn erbyn y rhai a wna ddaioni iddynt:
16:4 Ac y maent nid yn unig yn tynnu diolchgarwch o blith dynion, eithr hefyd gan ymddyrchafu mewn balchder rhai heb wybod oddi wrth ddaioni, y maent yn amcanu dianc oddi wrth farn Duw, yr hwn sydd yn gweled pob peth, a'i farn yn gas ganddi ddrygioni.
16:5 Llawer gwaith hefyd y mae geiriau teg y rhai yr ymddiriedwyd iddynt am lywodraethu materion eu cyfeillion, yn gwneuthur llawer o'r rhai sy mewn awdurdod yn euog o waed gwirion, ac yn eu hamgylchu mewn blinderau diymadferth;
16:6 Trwy ffalster a thwyll eu dull drygionus, yn twyllo diniweidra a daioni penaethiaid.
16:7 A hyn a ellwch chwi ei weled, fel yr eglurhasom ni, nid yn gymaint o'r hen historiau, ag y gellwch, os chwiliwch pa bethau a wnaed yn ddrygionus yn hwyr, trwy ymddygiad echryslon y rhai a osodwyd mewn awdurdod yn annheilwng.
16:8 Ac y mae yn rhaid edrych am yr amser a fydd, fel y gwnelom y deyrnas yn ddidrallod ac yn heddychol i bob dyn;
16:9 Gan arfer cyfnewidiadau, ac ystyried y pethau sy'n dyfod mewn golwg, trwy achub blaen pethau bob amser yn llarieiddiach.
16:10 Oherwydd Aman, Macedoniad, mab Amadatha, yr hwn mewn gwirionedd oedd estron i waed y Persiaid, a phell oddi wrth ein daioni ni, ac wedi ei dderbyn gennym ni fel gŵr dieithr,
16:11 A gafodd yr addfwynder sy gennym ni i bob cenedl, yn gymaint ag y gelwid ef yn dad i ni, a'i addoli gan bawb megis yr ail i'r orseddfa frenhinol:
16:12 Am na fedrai efe ddwyn ei fawr barch, efe a geisiodd ein diddymu ni o'r llywodraeth, ac o'n heinioes hefyd:
16:13 Ac a geisiodd trwy lawer o ffyrdd twyllodrus ddifetha Mardocheus, yr hwn a'n hachubodd ni, ac ym mhob peth a wnaeth ddaioni, ac Esther ddifai, yr hon sy gyfrannog o'r deyrnas, ynghyd a'i holl genedl.
16:14 Oblegid fel hyn y meddyliodd efe ein cael ni yn unig, a dwyn llywodraeth y Persiaid i'r Macedoniaid.
16:15 Eithr yr ydym ni yn cael bod yr Iddewon, y rhai a roddasai'r dinistrydd hwnnw i'w difetha, yn ddiniwed drwg, ac yn arfer cyfreithiau o'r cyfiawnaf,
16:16 Ac yn blant i'r Duw byw goruchaf a mwyaf, yr hwn a gyfarwyddodd y deyrnas i ni, ac i'n rhieni, mewn trefn odiaeth.
16:17 Am hynny da y gwnewch, os chwi ni chyflawnwch y llythyrau a anfonodd Aman mab Amadatha atoch chwi.
16:18 Oherwydd efe, yr hwn a wnaeth hyn, a grogwyd, ynghyd â'i holl dylwyth, o flaen pyrth Susa, trwy fod Duw, llywydd pob peth, yn talu iddo yn fuan farn addas.
16:19 Eithr gan osod allan gopi o'r llythyr hwn ym mhob lle, gadewch i'r Iddewon arfer eu cyfraith mewn rhyddid.
16:20 A chynorthwywch hwynt, fel y gallont y trydydd ar ddeg o Adar, y deuddegfed mis, ar yr un dydd, ddial ar y rhai a osododd arnynt hwy yn amser eu cystudd.
16:21 Oblegid Duw, llywydd pob peth, yn lle dinistr y genedl etholedig, a wnaeth iddynt lawenydd.
16:22 Cedwch chwithau hwn gyda phob llawenydd yn ddydd uchel, ymysg eich uchel wyliau;
16:23 Fel y byddo iachawdwriaeth yn awr, ac wedi hyn, i ni, ac i'r Persiaid da eu hewyllys, a choffadwriaeth dinistr i'r rhai sy'n cynllwyn i'n herbyn.
16:24 A phob dinas a gwlad bynnag yr hon ni wnelo fel hyn, a lwyr ddifethir â gwaywffyn ac â thân, mewn llid; fel y gosoder hi byth nid yn unig yn ddi-sathr gan ddynion, eithr yn atgasaf gan fwystfilod ac adar, bob amser.