Beirdd y Bala/Ateb i Daniel Ddu

D. Silvan Evans Beirdd y Bala

gan John Jones (Ioan Tegid)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Yr Iaith Gymraeg


ATEB TEGID.[1]

"I mi bu cyfeillion lawer, rhywiog a chywir, yn deall cyfreithiau
caredigrwydd, ac yn eu cadw yn fanwl;ond UN arbenig
o blith y nifer, gan ragori arnynt oll mewn cyfeillach
ataf,a ymegniai eu blaenu belled ag y blaenynt hwy y sawl
ag oeddynt o gyffredin serch tuag ataf." —ST. CHRYSOSTOM.


Daniel Daniel! paid a'th gyngor,
Nid oes achos d'wedyd rhagor;
Byth ni wel yr India helaeth
Fi o wlad fy ngenedigaeth.

Wrth im' ddarllen dy benhillion,
Gair gwladgarwch rwygai'm dwyfron,
Fel nad allwn er dyrchafiaeth,
Adael gwlad fy ngenedigaeth.

Dy resymau ynt mor gryfion,
Maent i mi mal dur-forthwylion:
Peraist im er pob ystyriaeth,
Fyw yn ngwlad fy ngenedigaeth.

Oni basai i'th fwyn benhillion
Dreiddio draw trwy giliau'r galon,
Buaswn i, wrth bob argoeliaeth,
Yn mhell o wlad fy ngenedigaeth.

Pan ofynwyd i mi gynta,
A awn o'm gwlad i fyw i'r India,

D'wedais awn; ond eto hiraeth
Oedd am wlad fy ngenedigaeth.

Barnu 'r oeddwn i pryd hwnnw,
Mai o Feirion gwell im' farw,
Na gweld plant yr hen waedoliaeth,
Yn gwerthu gwlad eu genedigaeth.

Gofid enbyd oedd i'm calon
Weled Cymry 'n troi yn Saeson,
Gan anghofio iaith dda odiaeth,
Iaith hen wlad eu genedigaeth:

Onid trwm fod Cymro'n gallu
Gwadu iaith ei fam anwylgu,
Gwadu'n hyf, er ei Gymreigiaeth,
Ow! hen wlad ei enedigaeth.

Awn i blith yr Indiaid gwylltaf,
Awn i bellder gwledydd poethaf,
Cyn y gwadwn fy nghym'dogaeth,
Neu iaith gwlad fy ngenedigaeth.

Cymro Cymro ! gwaeddaf allan,
Iaith dy fam pan oeddit faban
Honno cara mewn maboliaeth
Gyda gwlad dy enedigaeth.

Tra fo môr, a thra fo mynydd,
Tra fo'n llifo yr afonydd,
Na foed Cymro mewn gelyniaeth
A hen wlad ei enedigaeth.

Merched Cymru, mwyn galonnau,
Glân o bryd a gwedd a geiriau;
Cerwch iaith eich mam yn helaeth,
Hefyd gwlad eich genedigaeth.


Nid oes mwynach peth na chlywed
Iaith Gymraeg o enau merched;
Y Gymraes, a fyddo famaeth,
Cofied wlad ei genedigaeth.

Pan feddyliwyf fi am Feirion,
Bala bach a'r hen gymdeithion,
Glynu'r wyf, mal oenyn llywaeth,
Wrth hen wlad fy ngenedigaeth.

O mae f'enaid yn ymlynu
Wrth anwylyd lân yn Nghymru;
Gwn na fyn, mwyn yw ei haraeth,
Wadu gwlad ei genedigaeth.

Gyda hon mae ffyddlawn galon,
Gyda hon mae geiriau mwynion,
Pwy rydd imi bob cysuriaeth?
Hon a gwlad fy ngenedigaeth.

Gallwn fyw ar ben y mynydd,
A byd gwael o ddydd bwy gilydd,
Gyda hon, a'r awenyddiaeth,
Yn hen wlad fy ngenedigaeth.

Parchu'r ydwyf ferched Saeson,
Ni chant gennyf eiriau duon;
Ond pwy bia y rhagoriaeth?
Merched gwlad fy ngenedigaeth.

Bellach, bellach, rhaid im dewi,
 Mae fy ngalon oll yn llonni;
Ymaith, ymaith, bob hudoliaeth
A'm dwg o wlad fy ngenedigaeth

Daniel Daniel y mae f'awen
Wrth ei bodd yn fywiog lawen,

Am ei bod yn cael magwraeth
Eto 'ngwlad ei genedigaeth.

Aed i'r India 'r sawl a fynno,
A phob llwyddiant a'i canlyno;
Ceisiaf finnau gael bywiolaeth
Yn hen wlad fy ngenedigaeth.

Gwlad efengyl, gwlad yr awen,
Goreu gwlad o tan yr haulwen,
Gwlad yn profi gwên rhagluniaeth,
Hon yw gwlad fy ngenedigaeth.


Nodiadau

golygu
  1. I Ddaniel Ddu o Geredigion, yr hwn yn 1819 a ysgrifennodd benhillion i ofyn i Degid beidio mynd i'r India Ddwyreiniol