Beirdd y Bala/Heddwch fel yr Afon

Dinistr Cartref Beirdd y Bala

gan John Phillips (Tegidon)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Ioan Dyfrdwy


HEDDWCH FEL YR AFON.

Ar fin Iorddonen ddofn a gwyllt
Eisteddaf mewn gofidiau,
Ar godiad haul mae ing fel byllt
Gan angau i'r pellterau.
Rhaeadrau ar raeadrau'n chwyrn
A gwynt i wynt yn ateb;
A swn fel pe bai mil o gyrn
Yn hafnau tragwyddoldeb;
Fe godai'r dwr, eis innau'n wan
Gan ofn yn llethu 'nghalon;
Ond clywais lais o'r arall lan,—
Mae heddwch fel yr afon.

Ymgodais i groesawu'r sain,
'Roedd swn telynaidd iddo,
A gwelwn wr mewn gwisgoedd cain,
Ac aethum tuag ato;
Gofynnais iddo,—Glywsoch chwi
Ryw swn yn nhorr yr awel?

O do, rhyw air a gipiodd hi
O donau'r deml dawel;
Mae corau fil a miloedd myrdd
Ar lethrau Mynydd Seion,
Yn bloeddio drwy y coedydd gwyrdd,—
"Mae heddwch fel yr afon."

A ga 'nychymyg groesi'r dŵr
I hyfryd fro y nefoedd,
I weld y Bugail, uchel wr,
Yn ddwyn ei ddiadelloedd
At y ffynhonnau bywiol, llawn,
Ar fryniau tragwyddoldeb
Heb boen na lludded fore a nawn,
Na deigryn ar eu hwyneb?
Caf weld, 'rwy'n siwr, ar fryn neu bant,
Ymysg y disglair luon,
Fy mhriod hoff, a'm hanwyl blant,
A'u heddwch fel yr afon.

Wyf wan, wyf isel, ac wyf brudd,
Wyf unig mewn trallodion,
Unigrwydd sydd yn gwlychu ngrudd,
Unigrwydd dyrr fy nghalon;
O na chawn eto godi 'mhen
O'r trallod blin i fyny,
O cha chawn weled eddi wen
Wrth odreu'r cwmwl pygddu;
I leddfu 'mhoen, a'm gwneud yn iach,
Ac i lonyddu 'nghalon,
O na chawn ddafnau bychain bach
O'r heddwch fel yr afon.

Nodiadau

golygu