Beirdd y Bala/Hiraeth
← Bedd John Evans | Beirdd y Bala gan Charles Saunderson (Siarl Wyn o Benllyn) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Doli → |
HIRAETH
Bum dan amryw boenau o ddolur meddyliau,
A llidiog drallodau a nwydau llawn aeth;
Ni chefais er hynny un och i'm gwanychu,
Na dim im' amharu fal hiraeth.
Mae hwnnw yn glynu wrth f' esgyrn a'm gwasgu
Mae yn fy nirdynu a'm llethu i'r llawr;
Dy gwmni, ŵr gwiwlon, rydd adwedd i'r galon,
Ped fae fy ffrind tirion ond teirawr.