Awelon Ne Beirdd y Bala

gan William Edwards (1773—1853)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Gobaith Seion


IESU.

Does neb ond Ef, fy Iesu hardd,
A ddichon lanw 'mryd;
Fy holl gysuron byth a dardd
O'i ddirfawr angeu drud.

Does dim yn gwir ddifyrru f'oes
Helbulus yn y byd,
Ond golwg mynych ar y Groes,
Lle talwyd lawn mewn pryd.

Mi welaf le mewn marwol glwy
I'r euog guddio 'i ben,
Ac yma llechaf nes mynd trwy
Bob aflwydd is y nen.


Nodiadau golygu