Beirdd y Bala/Merch ieuanc
← Ardeb fy Mam | Beirdd y Bala gan John Jones (Ioan Tegid) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Cân i gariad → |
MERCH IEUANC YN Y DARFODEDIGAETH.
Pan welais hi ar ben yr allt,
Yn rhodio drwy y coed,
Coch oedd ei gwrid dan fodrwy gwallt,
Ac ysgafn oedd ei throed;
Oedd hardd o gorff, oedd deg o bryd,
Yn Efa 'n ngolwg bardd;
Oedd degwch bro, oedd degwch bryd,
Mor hynod oedd o hardd.
O graig i graig, o lwyn i lwyn,
Y rhodiai dros y bryn,
Gan daflu llawer golwg mwyn
Yn llon tuag at y Llyn;
A'r Llyn oedd ddisglair is ei throed
A thawel fel mewn hun,
Lle gwelai ddelw'n nghanol coed
A'r ddelw oedd ei llun.
Edrychai dro, ond meddwl prudd,
Rhyw feddwl am y bedd,
A daflai dristwch dros ei grudd,
Nes newid lliw ei gwedd;
Dywedai,—"A! y cysgod draw
A ddwg i'm henaid loes,
E dderfydd toc, mae tonn gerllaw,
Fel hyn terfyna oes.
"Ac megys tonn o flaen y gwynt
Yn claddu'r cysgod draw,
Daw angeu—daw, mae ar ei hynt,
Yn fuan hefyd ddaw."
Rhy wir ei gair—anwylyd wen,
A gwen mewn glendid moes,
Ei gyrfa buan ddaeth i ben,
Bu farw 'n mlodau 'i hoes.