Beirdd y Bala/Y Gwlaw Graslawn
← Cwymp Babilon | Beirdd y Bala gan William Jones.—1764-1822 golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Llafur Enaid → |
Y GWLAW GRASLAWN.
O fy Nuw, a'm tirion Arglwydd,
Rho'r cawodydd pur i lawr,
I ireiddio f'eiddil ysbryd,
Sydd yn sychlyd iawn yn awr;
Dyro'r dylanwadau nefol,
Ennyn bob rhyw ddwyfol ddawn,
Rho dy gariad a'th ymgeledd,
Difa'r llyrgedd sy' ynwy'n llawn.