Beirdd y Bala/Ymladd Cressi
← Yr Iaith Gymraeg | Beirdd y Bala gan John Jones (Ioan Tegid) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Amser → |
YMLADD CRESSI, A.D. 1346.
Cyflwynedig i WENYNEN GWENT.
I like the Leeke above all hearbes and flowers;
When first we wore the same, the field was ours;
The Leeke is white and greene, whereby is ment,
That Britaines are both stout and eminent;
Next to the Lion, and the Unicorne,
The Leeke's the fairest emblem that is worn.
HARLEIAN MSS.
Yn ymladd Cressi gwnaed gorchestion
Gan y Cymry, medd hanesion;
O'u blaen gan boethed yr ymladdfa
Y cwympodd Brenin gwlad Bohemia;
Ar ei helm y caed tair pluen
Mewn euraidd grib, â'r gair Ich Dien.
Cadwgan Foel, â chalon lawen,
Ac yn ei law grib tair pluen,
A gerddai at Dywysog Cymru,
Ar ol y frwydr, i'w anrhegu
Gan roddi iddo'r grib tair pluen,
A'i godidawg air Ich Dien.
Cadwgan Foel, rhaid cofio hynny,
Oedd yn gadben ar y Cymry;
A thrwy y Cymry, nid y Saeson,
O dan Cadwgan ddewrwych galon,
Gwenynen Gwent! ond i chwi holi,
Yr enillwyd ymladd Cressi.
Pan ar ei fyddin bu i'r gelyn
Wneuthur ymgyrch waedlyd gyndyn,
Y Saeson oedd o bell yn gweled
Yr ymladdfa waedlyd galed;
Gwenynen Gwent! heb le i helpu
Yn y frwydr fechgyn Cymru.
Y maes oedd lawn o genin gwylltion.
Myrddiynau ar fyrddiynau'n dewion;
Er mwyn gwybod gwedi'r ymdrin
Pa sawl Sais oedd yn ei fyddin,
Gwenynen Gwent! bu i Gadwgan
Roi gorchymyn fal hwn allan,—
Boed i'r Cymry yn fy myddin
Yn eu helmau wisgo cenin,
Yn eu helmau uwch eu talcen;
Ond na wisged Sais geninen."
Gwenynen Gwent! ni chafwyd dano,
Ond naw ar hugain heb ei gwisgo.
Dyma'r pryd dechreuwyd gwisgo
Y geninen gan y Cymro;
Yn Agincourt fe'i gwisgwyd gwedi
Gan filwyr Cymru ar gais Harri,
Gwenynen Gwent! er ymladd Cressi
Gwisgasom genin ar ŵyl Dewi.
Maes pais arfau Owen Tudur
Oedd wyrdd a gwyn yn rhesi eglur;
Ac ar ei darian lydan helaeth,
Arwyddent wlad ei enedigaeth.
Gwenynen Gwent! O! cofied Cymro,
"Cas ni charo'r wlad a'i maco."
Gwisged Sais rosynau cochion
Yn blethedig a'r rhai gwynion; —
Gwisged Gwyddel ei feillionen,
A'r Ysgotiaid eu hysgallen;
Gwenynen Gwent! y Cymro'n llawen
Ar wyl Dewi wisg geninen.
Gwyn a gwyrddlas yw'r genhinen,
Bonyn gwyn, a gwerddlas ddeilen;
Y bonyn gwyn sydd arwydd purdeb,
A'r ddeilen werdd o anfarwoldeb;
Y Cymry, o byddant bur i'w gilydd,
A flodeuant yn dragywydd.
Cas gan elyn weled purdeb,
Cas gan elyn weled undeb;
Purdeb fyddo'n nghalon Cymro,
A chyda phurdeb undeb cryno,
Gwenynen Gwent! tra'r undeb fyddo
Ni all gelyn drechu Cymro.
I bob Cymro mae'r genhinen
Yn ei law yn llyfyr darllen;
Er haf a gaeaf, gwynt ac oerni,
Ei gwyn fydd wyn, a'i glas yn lesni;
Gwenynen Gwent! ac felly'r Cymry,
Er bob tywydd fyddant Gymry.