Bererin llesg gan rym y stormydd
- gan Ann Griffiths
- Bererin llesg gan rym y stormydd,
- Cwyd dy olwg, gwêl yn awr
- Yr Oen yn gweini'r swydd gyfryngol
- Mewn gwisgoedd llaesion hyd y llawr;
- Gwregys euraidd o ffyddlondeb,
- Wrth ei odrau clychau'n llawn
- O sŵn maddeuant i bechadur
- Ar gyfri' yr anfeidrol Iawn.
- Cofiwch hyn mewn stad o wendid,
- Yn y dyfroedd at eich fferau sy,
- Mai dirifedi yw'r cufyddau
- A fesurir i chwi fry;
- Er bod yn blant yr atgyfodiad
- I nofio yn y dyfroedd hyn,
- Ni welir gwaelod byth nac ymyl
- I sylwedd mawr Bethesda lyn.
- O! ddyfnderoedd iechydwriaeth,
- Dirgelwch mawr duwioldeb yw,
- Duw y duwiau wedi ymddangos
- Yng nghnawd a natur dynol-ryw;
- Dyma'r Person a ddioddefodd
- Yn ein lle ddigofaint llawn,
- Nes i Gyfiawnder weiddi, "Gollwng
- Ef yn rhydd: mi gefais Iawn!"
- O! ddedwydd awr tragwyddol orffwys
- Oddi wrth fy llafur yn fy rhan,
- Ynghanol môr o ryfeddodau
- Heb weled terfyn byth, na glan;
- Mynediad helaeth byth i bara
- I fewn trigfannau Tri yn Un;
- Dŵr i'w nofio heb fynd trwyddo,
- Dyn yn Dduw, a Duw yn ddyn.