Beryl/Pennod IV
← Pennod III | Beryl gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
Pennod V → |
IV.
Hwy rodiant i'r dyfodol
Dan aur a saffir nen,
Ac adar Mai yn swynol
Delori uwch eu pen.
—CAERWYN.
AETH yr Arholiadau heibio. Daeth Beryl allan ar ben y rhestr yn ei fform hi ac Eric yn ail yn ei fform yntau. Dim ond un arholiad oedd gan Beryl i'w basio eto, yna byddai'n barod i fynd i'r Coleg. Os âi pethau ymlaen fel y dylent, byddai Eric yn barod ymhen blwyddyn ar ôl Beryl.
Blwyddyn hapus a fu honno ym Modowen. Blwyddyn o baratoi at bethau mawr ydoedd. Taflai'r Coleg ei lewych ar bopeth a wnâi Beryl. Pan na byddai ganddi lawer o archwaeth at fwyd, dywedai ei mam, "Rhaid iti dreio bwyta er mwyn iti fod yn gryf i fynd i'r Coleg." Pan gâi ffroc newydd, dywedai Beryl ei hun, "Yr wyf yn mynd i gadw hon erbyn mynd i'r Coleg." Yn yr ysgol câi astudio rhai pethau fel y byddai ganddi lai o waith ar ôl mynd i'r Coleg. Yr oedd popeth a wnâi yn rhywbeth "erbyn mynd i'r Coleg."
Weithiau, ar draws y rhagolwg hudol hwn, deuai meddwl arall o rywle yn sydyn a dirybudd. Fe'i câi Beryl ei hun yng nghegin y Gelli, yn unig wrth y tân ar ddiwedd dydd, popeth yn lân a chryno yn yr ystafell, a thri phlentyn bach hapus yn cysgu'n felys yn eu gwelyau clyd ar y llofft. Synnai Beryl ati ei hun. "Dyna lodes ryfedd wyf fi !" oedd ei meddwl mynych. Pa faint a fyddai syndod pobl eraill pe gwyddent!
Yr haf hwnnw, aeth y teulu'n gyfan,—y rhieni a'r plant a Let y forwyn,—i lan y môr am fis. I un o'r pentrefi bach tlws sydd ar lan Bae Ceredigion yr aethant. Cawsant fwthyn gwyngalchog, to gwellt, i fyw ynddo am y mis. Nid oedd ynddo ddim ond digon o ddodrefn at eu gwasanaeth hwy, a da oedd hynny, neu ni buasai yno le iddynt i gyd. O, dyna amser braf a gawsant yn y bwthyn hwnnw! Dwy ystafell
Dwy ystafell oedd iddo ar y llawr, a thaflod, wedi ei rhannu'n ddwy ystafell uwchben, a dwy ffenestr yn y to. Yr oedd holl ffenestri'r bwthyn bach yn agored ddydd a nos, a llenwid y lle gan aroglau a murmur y môr. Allan ar y traeth, neu ar y creigiau, neu yn y dŵr y treuliai'r plant eu holl amser. Yr oedd llawer o ymwelwyr yn y pentref bach, a deuai llawer yno bob dydd mewn cerbydau, a dychwelyd yn yr hwyr. Yr oedd yno ddigon o swynion ac o ddifyrrwch i lanw'r dydd. Amser i ymryddhau oddi wrth bob gofal a phob gwaith oedd y mis hwnnw. Anghofiodd Eric ei gynlluniau; daeth y chwarae oedd yn natur Beryl i yrru ymaith ei breuddwydion; tynnai Nest fwy o sylw nag erioed â'i thlysni. Nid oedd neb a hoffai lan y môr yn fwy na Geraint ac Enid. Dillad bachgen oedd am Geraint erbyn hyn. Cyn iddo gael y dillad hynny, yr oedd yn anodd dywedyd ar unwaith pa un oedd Geraint a pha un oedd Enid. Dyna ddau fach annwyl oeddynt ! Yr oedd wyth mlynedd o wahaniaeth rhyngddynt â Nest,—yr ieuangaf o'r plant eraill. Nid rhyfedd, felly, fod y tri eraill, a'r fam a'r tad hefyd, yn hanner addoli'r ddau.
Pan aethant adref ar derfyn y mis, yr oedd y môr a'r haul a'r gwynt wedi gadael eu hôl ar eu hwynebau. Teimlent bob un yn gryf ac iach i wynebu ar y gaeaf a'i waith.
Y gaeaf yw'r amser i weithio, pan yw'r nos yn hir a thŷ a thân yn felys. Bu gweithio caled ym Modowen y gaeaf hwnnw. Yr oedd un ystafell yn y tŷ at wasanaeth Beryl, Eric a Nest, fel y caffent lonyddwch at eu gwersi. Nid oedd gan Nest gymaint o waith â'r ddau arall, ond ni oddefai eu rhieni i neb o'r plant weithio'n ddidor hyd amser gwely. Bob nos, o chwech i saith, Nest oedd biau'r awr. Yr oedd wedi dechrau cael gwersi gan athro o Lanilin ar ganu'r piano. Câi Beryl ac Eric wrando neu fynd allan tra fyddai hi'n ymarfer ei gwersi ar yr hen harmonium oedd yno.
Yr oedd dydd pen blwydd Nest ar yr ugeinfed o Hydref. Cafodd ryw rodd fechan yn y bore gan bob un o'r teulu ond ei thad a'i mam. Dywedasant hwy wrthi y câi eu rhodd hwy y prynhawn hwnnw wedi dyfod o'r ysgol. Brysiodd Nest adref. Yr oedd tair o'i ffrindiau yn dyfod gyda hi i gael te. Brysiodd Beryl ac Eric hefyd. Yr oeddynt hwythau mor awyddus â Nest i weld beth oedd y rhodd. Beth a welsant ond piano hardd! Dyna falch oeddynt i gyd! Dyna hapus oedd Nest! "O, nhad a mam annwyl," ebe hi, "mi fynnaf ddod yn gantores dda, yna caf dalu'n ôl i chwi."
Blwyddyn o baratoi at bethau mawr, yn wir, oedd y flwyddyn honno.