Beryl (testun cyfansawdd)

Beryl (testun cyfansawdd)

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Beryl

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Elizabeth Mary Jones (Moelona)
ar Wicipedia



BERYL

Stori i Ferched

GAN

MOELONA




WREXHAM

HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR

1931

Rhybydd Hawlfraint

Mae'r darluniau yn y llyfr hwn gan Wilfred Mitford Davies 1895-1966. Bydd gwaith Mr Davies dan hawlfraint hyd 1 Ionawr 2037. Mae'r llyfr yn cynnwys nifer o ddyfyniadau gan feirdd megis Cynan, bu farw 1970; Wil Ifan, bu farw 1968, ac eraill sydd a'u gwaith o hyd dan hawlfraint. Gan fod caniatâd i ddefnyddio'r darluniau a'r dyfyniadau wedi ei rhoi ar gyfer cyhoeddiad y testun hwn, defnydd teg, yw eu defnydd yma. Nid oes hawl eu defnyddio, heb ganiatad ychwanegol, mewn unrhyw gyd-destun arall!


ARGRAFFWYD YNG NGHYMRU


I

E. R.

GYDA SERCH AC EDMYGEDD


BODOWEN

BERYL

I.

Onid yw'r meddwl ambell dro,
Yn mynd o flaen ei awr?
Gan ddal ar ryw yfory sydd
Heb eto ddod i wawr?
—ELFED.

LLE hyfryd i fyw ynddo oedd Bodowen. Safai ar lethr, tua lled cae o'r ffordd fawr sydd rhwng Tregwerin a Llanilin. Y mae gwlad hardd iawn yn y rhan hon o Gymru. Dolydd teg a bryniau coediog a welir ar bob llaw; a'r Afon, sydd yma bron ar ddechrau ei gyrfa, yn siriol redeg trwy'r gwastadedd obry.

Yr oedd y tŷ ei hun a phopeth o'i gylch yn hardd iawn hefyd. Yr oedd lawnt eang o'i flaen, a blodau, a choed byth-wyrdd, a llwybrau glân, a meinciau. Muriau o gerrig glas oedd iddo, a'i ffenestri yn rhai bwâog mawr. Pan welai pobl ddieithr ef o'r ffordd fawr, gofynnent, "Plas pwy yw hwn'na?" Edrychai yn union fel plas bychan. Y Parch. Owen Arthur, gweinidog Brynilin a'r Wern, a'i deulu, oedd yn byw ynddo.

Yr oedd mis Mai yn bythefnos oed, ond er hynny, chwythai awel oer o'r dwyrain nes gwneud tân yn felys fin hwyr. Felly y teimlai Beryl, wrth syllu arno'n freuddwydiol, ac anghofio ei llyfr ysgol, a oedd yn agored ar ei harffed. Gan fod Arholiad Uchaf yr Ysgol Sir yn agos, cawsai hi ganiatâd i aros gartref i astudio. Aethai Mr. a Mrs. Arthur, Eric a Nest, a Let y forwyn, i'r cyfarfod gweddi. Yr oedd yr efeilliaid,—Geraint ac Enid,— yn y gwely. Dim ond tair blwydd oed oeddynt hwy. Caent fynd i'r gwely bob nos am chwech o'r gloch.

Er iddi gael cyfle mor braf i astudio, cyffesai Beryl wrthi ei hun gyda chywilydd ei bod wedi gwastraffu rhan fawr o'r amser i syllu i'r tân a breuddwydio. Nid yn aml yr oedd Beryl yn ddiog, ond yr oedd bob amser yn rhy hoff o freuddwydio.

Gwenai wrth feddwl am ei breuddwyd. Flynyddoedd yn ôl, pan nad oedd Beryl ond deg oed,—yr oedd yn awr yn un ar bymtheg,— bu gŵr a gwraig o ardal y Wern farw yr un wythnos, a gadael tri o blant bychain ar eu hôl. Buwyd yn methu â deall pa beth i wneud â'r tri phlentyn. Nid oedd yr hynaf ond chwech oed, ac nid oedd ganddynt berthnasau agos. Wedi llawer o feddwl a threfnu gan gymdogion a chyfeillion, cymer- wyd y tri bach gan dri o deuluoedd i'w magu. Bu'n rhaid eu gwahanu felly. Digwyddai Beryl fod gyda'i thad yng nghartref y plant pan ddaethpwyd i gyrchu Idwal, y baban dwyflwydd oed. Tra fyddai byw, nid anghofiai mo'r gwahanu hwnnw. Yr oedd y tad a'r fam newydd yn bobl dyner a charedig, ac nid Idwal a wylai. Ei frawd bychan a'i chwaer oedd ar dorri eu calonnau.

Un dyner-galon iawn oedd Beryl. Methai â gollwng y tri bychan o'i meddwl. Enbyd oedd gweld eu gwasgaru. Pam na allesid cael rhywun i'w magu gyda'i gilydd? Dechreuodd ddychmygu amdani ei hun yn gwneud rhan mam â hwynt, yn byw gyda hwynt yn eu cartref yn y Gelli. Dyna ddiwyd a hapus y byddai! Dyna hoff ohoni y byddai'r tri phlentyn! Dyna lân y byddai'r tŷ! Fe'i gwelai ei hun yn cario Idwal i'w wely, ei freichiau tewion yn dynn am ei gwddf. Fe'i gwelai ei hun ar brynhawnau yn mynd ag ef yn ei gerbyd bach, a Lil yn cerdded wrth ei hochr, i gwrdd â Gwilym yn dyfod o'r ysgol. Fe'i gwelai ei hun yn dysgu a hyfforddi'r tri bach, a hwythau bob amser yn ufudd iddi ac yn barchus ohoni. O ba le y deuai'r arian? Ni ddaethai hynny na dim anhyfryd arall i gymylu'r breuddwyd.

Arhosodd y breuddwyd gyda Beryl am ddyddiau, wythnosau, a misoedd. Pan fyddai wrth ei gwersi yn yr ysgol, llithrai ei meddwl i'r Gelli, ac fe'i câi ei hun yn golchi'r llestri neu yn glanhau'r pentanau. Ni wnaethai Beryl erioed lawer o waith felly. Yr oedd morwyn fawr ym Modowen at waith y tŷ.

Aethai chwe blynedd heibio oddi ar hynny. Yn ystod y gwanwyn hwn, ac Arholiad yr Ysgol Sir wrth y drws, daethai'r breuddwyd yn ôl drachefn mor ffres ag erioed. Beth pe deuai ei thad a'i mam i wybod! Dywedent hwy wrthi'n aml ei bod yn rhy hoff o adael i'w meddwl grwydro. Tybient, yn ddiau, mai meddwl am fywyd yn y coleg neu am rywbeth mwy disglair fyth a wnâi. A hithau mewn dychymyg yn gweithio'n galed mewn tŷ bach, ac yn ymboeni gyda thri o blant ! Beth pe deuai Eric a Nest i wybod! Dyna ddifyrrwch a gaent!

Clywodd sŵn agor a chau yr iet fach. Cododd ei llyfr yn frysiog. Ymddangosai yn ddiwyd iawn pan ruthrodd Eric a Nest i mewn fel ebolion. Penliniasant, un bob ochr iddi, ar y mat. Cydiodd Eric yn ei llyfr. Darllenodd baragraff ohono â llais uchel, drwy ei drwyn, yn union fel y gwnâi un o athrawon yr ysgol. Protestiai Beryl a chwarddai Nest yn ddilywodraeth. Aeth y lle oedd gynnau mor dawel yn llawn terfysg.

"Nid plant fel hyn a fyddai fy mhlant i," meddyliai Beryl. "Eric," ebe hi yn ddistaw, ond yn awdurdodol, heb lwyr ddyfod allan o'i breuddwyd, "dewch â'r llyfr yna'n ôl ar unwaith, ac ewch o'm golwg nes dysgu bod yn gallach."

Yn hytrach nag ufuddhau ar unwaith, dywedodd Eric yr un geiriau ar ei hôl, a dynwared ei llais a'i gwedd. Gwnaeth hynny lawer gwaith nes clywed sŵn ei dad a'i fam yn dyfod at y tŷ. Yna gadawodd ei ffolineb yn sydyn, rhoes y llyfr ar y ford, ac edrych ar Beryl gyda gwên agored, ddiwenwyn. A maddeuodd Beryl iddo fel y gwnâi bob amser.

II.

Tyrd yn ôl am dro, hen ffrind,
I'r llwybrau gynt gerddasom.
ELFED.

"WEL, dyma newydd hyfryd!" ebe Mr. Arthur wrth ei wraig bore trannoeth pan ddarllenai ei lythyrau. "A ydych yn cofio Goronwy Pantgwyn?

"Ifan Goronwy? Ydwyf, yn wir, yn ei gofio'n iawn," ebe Mrs. Arthur. "Beth amdano? Ai yn America y mae o hyd?"

"Y mae yn y wlad hon oddi ar ddechrau'r flwyddyn. Yn Llundain y mae wedi bod, wrth gwrs. Gwyddoch fod ganddo fusnes fawr yn New York. Wel, y mae ar ddychwelyd."

"Ac y mae'n dod yma?" ebe Mrs. Arthur yn gyffrous.

"Ydyw. Y mae ganddo neges i Lanilin heddiw, a daw yma rywbryd yn y prynhawn. Darllenwch y llythyr."

"Wel, yn wir, bydd yn dda gennyf weld Ifan eto wedi'r holl flynyddoedd. Pa faint o amser sydd er pan welsom ef?"

"Trannoeth i ddydd ein priodas ni yr aeth i America, onid e?" ebe Mr. Arthur.

"Druan ag Ifan!" ebe Mrs. Arthur, a darllen y llythyr,—" Byddaf yn hwylio bore Iau. Gan fod yn rhaid imi ddyfod i Lanilin, hoffwn eich gweld, os yw hynny'n bosibl. Dof heibio beth bynnag, rywbryd yn y prynhawn." "Gan mai bore Iau yr hwylia, efallai y gallai aros yma heno," ebe Mr. Arthur.

"O ie, bid siwr, rhaid inni beri iddo aros. Bydd gennym ein tri lawer iawn i adrodd wrth ein gilydd. Wn i sut mae'r blynyddoedd wedi ymddwyn tuag ato! Druan ag Ifan!"

"Y mae'n gyfoethog, beth bynnag. Y mae ei fodur a'i yrrwr gydag ef yn y wlad hon. Efallai ei fod yn filiynydd. Pwy a ŵyr? Rhaid ichwi beidio â dweud 'Druan ag Ifan! o hyd."

Meddwl amdano fel yr oedd ugain mlynedd yn ôl wyf fi. Y mae'n anodd meddwl amdano'n ddyn pwysig a chyfoethog."

Meddwl amdanom ninnau fel yr oeddem y pryd hwnnw y mae yntau, yn ddiau. Yr wyf yn edrych ymlaen gyda phleser am ei weld a chael ymddiddan ag ef."

****

Pan ddaeth Nest adref o'r Ysgol Elfennol, ac Eric a Beryl o'r Ysgol Sir, mawr oedd eu syndod o weld modur mor ardderchog ei olwg wrth y tŷ, a deall fod ei berchen,—y dyn o America,—yn yfed te gyda'u tad a'u mam. Y dyn â'r gôt wen a'r cap gwyn a welsent ar yr heol cyn dyfod at y tŷ oedd y gyrrwr. Dywedodd Let wrthynt ei fod ef wedi cael ei de ac wedi mynd am dro. Wedi iddynt hwythau gael eu bwyd a'u gwneud eu hunain yn drwsiadus, cawsant fynd i weld y gŵr dieithr.

Deallasant ar unwaith mai dyn rhagorol oedd, oherwydd un o'r pethau cyntaf a ddywedodd wrthynt wedi ysgwyd dwylo oedd: "Nawr, pwy garai ddod am dro yn y modur?"

Gan mai'r prynhawn hwnnw oedd unig gyfle'r tri a oedd yn yr ysgol, trefnwyd eu bod hwy a'u mam a Mr. Goronwy i fynd. Câi Mr. Arthur gyfle trannoeth. Nid oedd Geraint ac Enid yn ddigon hen i gael mwynhad mewn modur.

Y mae'r dydd yn hir ym mis Mai, a Natur yn ei gogoniant. Cawsant amser braf. Cafodd Eric eistedd tu flaen gyda'r gyrrwr. Er ei bod yn chwech o'r gloch arnynt yn cychwyn, aethant hyd Aberilin,—pellter o ugain milltir. Cawsant awr o amser i aros yno ar lan y môr, ac yr oeddynt yn ôl drachefn am hanner awr wedi wyth.

Penderfynodd Eric y byddai yntau, ryw ddydd, yn berchen modur hardd fel hwnnw.

Cafodd y tri aros ar lawr y noson honno hyd ddeg o'r gloch, a chawsant hefyd adael eu gwersi, er y gwyddent hwy a'u rhieni y byddai'n rhaid talu am hynny rywbryd. Ond efallai na châi neb ohonynt fod yng nghwmni Mr. Goronwy eto. Byddai Môr Iwerydd rhyngddynt ymhen ychydig ddyddiau, ac nid oedd gan Mr. a Mrs. Arthur ddim gwerthfawrocach na'u plant i'w ddangos i'w hen ffrind.

Yr oedd Eric, erbyn hyn, yn hollol rydd yng nghwmni'r gŵr dieithr. Holai a chroesholai ef am America, am New York, ac am ei waith. Dywedai, fel pe na bai amheuaeth o gwbl ynghylch y peth, y byddai yntau yn ddyn cyfoethog ryw ddydd. Doctor oedd ef yn mynd i fod, ond nid doctor cyffredin, wrth gwrs. Byddai'n sicr o ddyfeisio rhywbeth pwysig, a deuai arian mawr iddo drwy hynny.

Nid oedd meddyliau am na gwaith na bri na dim arall yn y dyfodol yn blino dim ar Nest. Yr oedd y presennol yn ddigon iddi hi. Yr oedd pawb yn ei charu. Edrychai ei llygaid glas, siriol, yn ffyddiog ar bawb. Yr oedd yn ferch fach hardd iawn. Diau y gwyddai hynny. Yr oedd pawb a'i gwelai yn rhy barod i ddywedyd hynny wrthi, ond nid oedd y wybodaeth, hyd yn hyn, wedi tynnu dim oddi wrth ei naturioldeb a'i swyn.

Un ddistaw mewn cwmni oedd Beryl. Edrychai o'i blaen fel petai ei meddwl rywle ymhell. Efallai fod mwy o dlysni yn wyneb Nest, ond yr oedd rhywbeth yn wyneb Beryl a barai i un edrych arni'n hir heb flino. Tywyll oedd ei llygaid, a thywyll a llyfn oedd ei gwallt. Dywedai ei chlustiau bychain a'i gwefusau hanner crynedig ei bod yn fyw i deimladau eraill tuag ati. Hanner ofnus oedd ei threm hi ar y byd. Nid oedd yn siwr fod neb yn ei charu hi fel y carent Nest, ac fel y carai hithau hi. Ond yr oedd rhyw urddas tawel, a rhyw olau yn ei gwedd, fel a welir mewn darluniau o'r Forwyn Fair.

Wedi iddynt hwy eu tri ddywedyd "Nos Da" wrth y gŵr dieithr o America, bu Mr. a Mrs. Arthur a'u hen ffrind yn siarad am yr amser gynt ac am lawer o bethau eraill hyd oriau mân y bore.

III.

Ni welant lun
Na rhith yr un
O'r dirgel Ddigwyddiadau
Sy'n cau cynlluniau dyn.
—ALAFON.

I DAD a mam, nid oes dim yn felysach na bod pobl eraill yn edmygu eu plant.

"Gwyn y gwêl y frân ei chyw," medd yr hen ddihareb, ac y mae rhieni, fynychaf, yn meddwl nad oes blant fel eu plant hwy. Nid bob amser y gwelir plant yn deilwng o'r cariad hwn. Tyf rhai i fyny yn ddi-ddiolch, yn anfoesgar ac yn anufudd, nes peri ing calon i'w rhieni a'u gwneud eu hunain yn gas gan bobl eraill. Hyd yn hyn, beth bynnag, yr oedd gan Mr. a Mrs. Arthur hawl i ymfalchio yn eu plant hwy. Rhai annwyl oeddynt i gyd.

Dyna gyfoethog ydych eich dau !" ebe Mr. Goronwy, wedi i'r plant adael yr ystafell. "Ni'n gyfoethog? 'Does gennym ni ddim modur hardd, na busnes fawr, na digon o arian at ein gwasanaeth," ebe Mr. Arthur.

"Na, ond y mae gennych bump o blant annwyl. Mi rown i gymaint ag a feddaf am blant fel eich plant chwi,—am un ferch fel eich merch hynaf chwi."

"Beryl !" ebe Mr. Arthur, mewn syndod pleserus. "Ar Nest y mae pobl, fel rheol, yn sylwi."

"Y mae rhywbeth yn nodedig yn wyneb Beryl," ebe Mr. Goronwy. "Mi hoffwn wylio'i gyrfa hi. Y mae'n sicr o wneud rhywbeth mawr o'i bywyd."

"O, Ifan! Yr wyt yn canmol gormod arnynt i gyd," ebe Mrs. Arthur.

"Nac ydwyf, yn wir, Len, ac nid dweud hyn er mwyn eich boddio chwi eich dau wyf."

Gwridodd Mrs. Arthur pan glywodd yr hen enw nas clywsai bellach ers ugain mlynedd. "Elen" oedd ei henw, ond "Len y galwai Mr. Goronwy hi,— a dim ond ef,—yn y dyddiau pell hynny pan oeddynt yn byw yn yr un ardal ac yn mynd gyda'i gilydd i'r un ysgol ac i'r un capel.

Wel, yr ydym wedi ceisio bod yn ofalus i'w dysgu a rhoi esiampl dda iddynt," ebe Mr. Arthur.

"Y mae hynny'n amlwg," ebe Mr. Goronwy,

"Yr oeddwn i'n gwenu wrth glywed Eric yn sôn wrthych amdano'i hun fel doctor enwog," ebe Mrs. Arthur. "Nid oes terfyn ar uchelgais y crwt."

"Peth da yw uchelgais mewn plentyn," ebe Mr. Goronwy. "Doctor yw ef i fod, ynteu?"

Dyna yw ein bwriad," ebe Mr. Arthur. A beth am y merched?

"Yr ydym am roi'r un chwarae teg i'r merched ag i'r bechgyn," ebe Mr. Arthur.

"Da iawn," ebe Mr. Goronwy.

"Ie, nid felly 'roedd hi yn fy amser i," ebe Mrs. Arthur.

"Y mae mwy o dalent yn Beryl nag sydd yn Eric," ychwanegai Mr. Arthur, "ac y mae llawn cymaint o uchelgais ynddi. Hoffwn iddi gael ei chyfle. Ymhen blwyddyn eto bydd yn barod i fynd i'r Coleg. Efallai y gwelwn hi ryw ddiwrnod yn M.A. neu yn D.Sc."

"Synnwn i ddim na ddaw Nest i ennill ei bywoliaeth trwy ganu. Y mae ganddi lais bach rhagorol," ebe Mrs. Arthur. "Dyna hyfryd a fyddai ei gweld yn gantores enwog."

"Bobo! annwyl! Bydd yn rhaid ichwi wario arian ofnadwy cyn rhoi'r tri ar eu traed," ebe Mr. Goronwy.

"Yr ydym wedi paratoi ar gyfer hynny," ebe Mr. Arthur. Clywsoch yn ddiau am gwmni'r X. L.?"

"Yr wyf wedi clywed yr enw," ebe Mr. Goronwy.

"Wel, rhoes Elen a minnau ein holl ffortun yn hwnnw, bum mlynedd yn ôl. Saith gant o bunnoedd oedd gennym. Y maent yn talu chwech y cant, felly mae ein stoc fach yn agos i fil o bunnoedd heddiw." "Yr ydych yn sicr fod y cwmni'n berffaith ddiogel?"

"O, nid oes amheuaeth am hynny," ebe Mr. Arthur. Buom yn chwilio a holi digon cyn rhoi ein holl eiddo ynddo. Y mae ugeiniau o bregethwyr wedi gwneud fel ninnau. Y mae popeth yn cael ei gario ymlaen yn rheolaidd iawn. O, ydyw, y mae'n hollol ddiogel."

"O'r annwyl! Gobeithio ei fod, neu beth ddaw o addysg y plant?" ebe Mrs. Arthur. "O, ydyw, Elen fach, y mae'n hollol ddiogel," ebe Mr. Arthur, dipyn yn ddiamynedd, ac ychwanegodd, gan droi at Mr. Goronwy, "Yr wyf yn benderfynol o roi addysg dda i'r plant i gyd."

"Da iawn. Dyna'r ffortun orau y gallech byth eu rhoi iddynt,—cymeriad i ddechrau, ac yna addysg. Gellwch wedyn fentro'u gadael i weithio'u ffordd trwy'r byd."

"Pan ddaw'r ddau fach,—Geraint ac Enid, —yn barod at ysgol a choleg, bydd Beryl ac Eric yn ennill, ac yn ddigon parod i helpu tuag at eu haddysg hwy," ebe Mrs. Arthur.

"Yn wir, yr wyf yn gweld dyddiau braf o'ch blaen. Pan fyddwch yn hen, bydd eich plant yn anrhydedd ac yn gysur ichwi."

Felly y bu'r tad a'r fam yn dywedyd eu bwriadau a'u cynlluniau wrth eu hen ffrind. A oeddynt yn cynllunio gormod? Gwyddent fod y dyfodol yn ansicr, ond credent, os gwnaent hwy eu gorau, y byddai pethau yn sicr o droi allan yn iawn. Yn fynych, er hynny, er i bethau ddyfod yn iawn yn y diwedd, nid yn ein ffordd ni y deuant.

Cyn ymadael am y nos, daeth rhyw deimlad sydyn tros Mr. Goronwy a wnaeth iddo ddywedyd fel hyn wrth y ddau :

"Yn awr, gwrandewch, eich dau. Oni ddaw pethau yn ôl eich dymuniad, os bydd eisiau ffrind arnoch rywbryd, a wnewch chwi gofio amdanaf fi? Bydd yn bleser i mi gael bod o help i chwi neu i'ch plant."

Diolchodd Mr. a Mrs. Arthur yn gynnes iddo.

Wrth gwrs, ni ddywedodd Mr. Goronwy ddim am hyn wrth y plant, ond pan ffarweliai â hwy bore trannoeth, rhoes bunt yn llaw pob un o'r pump.

IV.

Hwy rodiant i'r dyfodol
Dan aur a saffir nen,
Ac adar Mai yn swynol
Delori uwch eu pen.
—CAERWYN.

AETH yr Arholiadau heibio. Daeth Beryl allan ar ben y rhestr yn ei fform hi ac Eric yn ail yn ei fform yntau. Dim ond un arholiad oedd gan Beryl i'w basio eto, yna byddai'n barod i fynd i'r Coleg. Os âi pethau ymlaen fel y dylent, byddai Eric yn barod ymhen blwyddyn ar ôl Beryl.

Blwyddyn hapus a fu honno ym Modowen. Blwyddyn o baratoi at bethau mawr ydoedd. Taflai'r Coleg ei lewych ar bopeth a wnâi Beryl. Pan na byddai ganddi lawer o archwaeth at fwyd, dywedai ei mam, "Rhaid iti dreio bwyta er mwyn iti fod yn gryf i fynd i'r Coleg." Pan gâi ffroc newydd, dywedai Beryl ei hun, "Yr wyf yn mynd i gadw hon erbyn mynd i'r Coleg." Yn yr ysgol câi astudio rhai pethau fel y byddai ganddi lai o waith ar ôl mynd i'r Coleg. Yr oedd popeth a wnâi yn rhywbeth "erbyn mynd i'r Coleg."

Weithiau, ar draws y rhagolwg hudol hwn, deuai meddwl arall o rywle yn sydyn a dirybudd. Fe'i câi Beryl ei hun yng nghegin y Gelli, yn unig wrth y tân ar ddiwedd dydd, popeth yn lân a chryno yn yr ystafell, a thri phlentyn bach hapus yn cysgu'n felys yn eu gwelyau clyd ar y llofft. Synnai Beryl ati ei hun. "Dyna lodes ryfedd wyf fi !" oedd ei meddwl mynych. Pa faint a fyddai syndod pobl eraill pe gwyddent!

Yr haf hwnnw, aeth y teulu'n gyfan,—y rhieni a'r plant a Let y forwyn,—i lan y môr am fis. I un o'r pentrefi bach tlws sydd ar lan Bae Ceredigion yr aethant. Cawsant fwthyn gwyngalchog, to gwellt, i fyw ynddo am y mis. Nid oedd ynddo ddim ond digon o ddodrefn at eu gwasanaeth hwy, a da oedd hynny, neu ni buasai yno le iddynt i gyd. O, dyna amser braf a gawsant yn y bwthyn hwnnw! Dwy ystafell

Dwy ystafell oedd iddo ar y llawr, a thaflod, wedi ei rhannu'n ddwy ystafell uwchben, a dwy ffenestr yn y to. Yr oedd holl ffenestri'r bwthyn bach yn agored ddydd a nos, a llenwid y lle gan aroglau a murmur y môr. Allan ar y traeth, neu ar y creigiau, neu yn y dŵr y treuliai'r plant eu holl amser. Yr oedd llawer o ymwelwyr yn y pentref bach, a deuai llawer yno bob dydd mewn cerbydau, a dychwelyd yn yr hwyr. Yr oedd yno ddigon o swynion ac o ddifyrrwch i lanw'r dydd. Amser i ymryddhau oddi wrth bob gofal a phob gwaith oedd y mis hwnnw. Anghofiodd Eric ei gynlluniau; daeth y chwarae oedd yn natur Beryl i yrru ymaith ei breuddwydion; tynnai Nest fwy o sylw nag erioed â'i thlysni. Nid oedd neb a hoffai lan y môr yn fwy na Geraint ac Enid. Dillad bachgen oedd am Geraint erbyn hyn. Cyn iddo gael y dillad hynny, yr oedd yn anodd dywedyd ar unwaith pa un oedd Geraint a pha un oedd Enid. Dyna ddau fach annwyl oeddynt ! Yr oedd wyth mlynedd o wahaniaeth rhyngddynt â Nest,—yr ieuangaf o'r plant eraill. Nid rhyfedd, felly, fod y tri eraill, a'r fam a'r tad hefyd, yn hanner addoli'r ddau.

Pan aethant adref ar derfyn y mis, yr oedd y môr a'r haul a'r gwynt wedi gadael eu hôl ar eu hwynebau. Teimlent bob un yn gryf ac iach i wynebu ar y gaeaf a'i waith.

Y gaeaf yw'r amser i weithio, pan yw'r nos yn hir a thŷ a thân yn felys. Bu gweithio caled ym Modowen y gaeaf hwnnw. Yr oedd un ystafell yn y tŷ at wasanaeth Beryl, Eric a Nest, fel y caffent lonyddwch at eu gwersi. Nid oedd gan Nest gymaint o waith â'r ddau arall, ond ni oddefai eu rhieni i neb o'r plant weithio'n ddidor hyd amser gwely. Bob nos, o chwech i saith, Nest oedd biau'r awr. Yr oedd wedi dechrau cael gwersi gan athro o Lanilin ar ganu'r piano. Câi Beryl ac Eric wrando neu fynd allan tra fyddai hi'n ymarfer ei gwersi ar yr hen harmonium oedd yno.

Yr oedd dydd pen blwydd Nest ar yr ugeinfed o Hydref. Cafodd ryw rodd fechan yn y bore gan bob un o'r teulu ond ei thad a'i mam. Dywedasant hwy wrthi y câi eu rhodd hwy y prynhawn hwnnw wedi dyfod o'r ysgol. Brysiodd Nest adref. Yr oedd tair o'i ffrindiau yn dyfod gyda hi i gael te. Brysiodd Beryl ac Eric hefyd. Yr oeddynt hwythau mor awyddus â Nest i weld beth oedd y rhodd. Beth a welsant ond piano hardd! Dyna falch oeddynt i gyd! Dyna hapus oedd Nest! "O, nhad a mam annwyl," ebe hi, "mi fynnaf ddod yn gantores dda, yna caf dalu'n ôl i chwi."

Blwyddyn o baratoi at bethau mawr, yn wir, oedd y flwyddyn honno.

V.

Ni cheisiwn, Iôr, Dy nodded
Rhag lladron daear lawr,
Ond cadw ni rhag colli'r swyn
Sydd inni yn y wawr;
Rhag myned heb ryfeddu
Heibio i'r rhos a'i sawr ;
Rhag clywed dim yng nghân y llwyn
Na chân y cefnfor mawr.
—CYNAN.

A HWY'N gweithio felly, aeth y gaeaf heibio'n fuan. Blodeuodd y lili wen fach, y crocus, a chennin Pedr yn y pâm blodau oedd ar ganol y lawnt, ac yr oedd y llwyn o "gyrens bant" yn ei ogoniant ar glawdd yr ardd. Pan fyddai Mr. Arthur yn trin ei ardd yn y gwanwyn, gwnâi ef y gwaith hwnnw i gyd ei hunan,—ni welid ef byth heb sbrigyn bach o "gyrens bant" yn nhwll botwm ei gôt. Yr oedd y llwyn hwnnw wedi bod rywbryd yn tyfu yng ngardd ei hen gartref, a dygai ei aroglau atgofion melys a phrudd iddo. Yr oedd yr un aroglau ryw ddiwrnod i ddwyn atgofion eraill i'w blant.

Un hwyr ym mis Mai, pan oedd y tri phlentyn hynaf a'u rhieni ar swper yn y gegin orau, dywedodd Beryl yn sydyn, "Blwyddyn i heno yr oedd Mr. Goronwy yma."

"Wel, ie'n wir," ebe'r tad. "Beth wnaeth iti gofio hynny mor sydyn?

"Y llwyn rhosynnau gwynion a'r syringa yna a ddaeth â'r peth yn ôl imi," ebe Beryl. Y maent ar flodeuo, ac y mae'r awel heno'n rhoi rhyw olwg hiraethus arnynt.

"Fel yna'n union yr oeddynt flwyddyn i heno."

"Yr oeddwn i'n meddwl y byddai Ifan a ninnau'n para i ysgrifennu'n gyson at ein gilydd," ebe Mrs. Arthur, "ond dim ond un llythyr a ysgrifennodd ef a ninnau."

"Y mae gormod o frys ar bobl yr oes hon i ysgrifennu llythyrau,' ebe Mr. Arthur, ond petai galw am hynny, gallai ef a ninnau ysgrifennu bryd y mynnem."

"Gallai ef farw, a ninnau heb wybod dim am hynny, a gallai'r un peth ddigwydd i ninnau, ac yntau heb wybod dim," ebe Mrs. Arthur.

"Wedi i mi basio'n ddoctor, byddaf yn mynd i America," ebe Eric.

"Gallaf fynd i weld Mr. Goronwy wedyn.'

Byddaf fi'n debyg o fynd o'th flaen di," ebe Nest. "Byddaf fi'n siwr o ddod yn gantores cyn y deui di'n ddoctor, a byddaf yn mynd i America i ganu gyda chôr."

"Pa bryd yr ei di, Beryl?" ebe Eric.

"Nid i America y byddaf fi'n mynd, ond i'r Cyfandir,—i Ffrainc," ebe Beryl. "Wedi imi gael lle mewn ysgol, byddaf yn treulio pob gwyliau yn Ffrainc. Bydd yn rhaid imi siarad Ffrangeg yno. Dyna'r ffordd orau i ddod i siarad yr iaith yn berffaith."

"Ie, tebyg mai gadael eich mam a tad a'ch wnewch i gyd ryw ddiwrnod," ebe Mrs. Arthur yn brudd.

"Dyna yw rhan rhieni plant fel rhieni adar," ebe'r tad, "porthi eu rhai bach, eu dysgu i hedfan, yna eu gwylio'n mynd dros y nyth a cholli golwg arnynt.'

Edrychodd y tri phlentyn yn syn ar eu rhieni am funud. Yna dywedodd Beryl:

"Ond nid yw'r adar bach yn dod yn ôl i'r nyth ar ôl mynd oddi yno unwaith. Byddwn ni'n dod yn ôl, a dyna hyfryd fydd cael dod,— un o'r lle hwn a'r llall o'r lle arall."

"Bydd Dr. Eric Arthur yn dod yma o Lundain ac yn mynd â chwi allan am reid," ebe Eric."

"Newydd ddweud wyt ti mai yn America y byddi di," ebe Nest.

"Mynd i America am wyliau y byddaf. Yn Harley Street, Llundain, y byddaf yn byw. Yno y mae'r doctoriaid mawr yn byw," ebe Eric.

"Bydd Geraint ac Enid gyda chwi ar ôl i ni eich gadael," ebe Beryl.

Symudodd Nest yn nes at ei mam, cydiodd yn ei braich, a rhoi ei phen euraid i bwyso arni.

"Diolch nad oes eisiau meddwl am flynyddoedd eto am iddynt hwy, eu dau fach, ein gadael," ebe'r fam.

"Ie," ebe Mr. Arthur, "peidiwch chwithau eich tri â rhoi gormod o'ch meddwl ar ddod yn fawr, yn bwysig, ac yn gyfoethog. Y mae mwy o eisiau meddwl am fod yn dda, yn ddefnyddiol, yn siriol ac yn garedig, pa le bynnag y byddoch. Y peth pwysig yw medru byw i fod o les yn y byd, a gwneud ein dyletswydd tuag at bawb. Y mae pobl dlawd a dinod yn aml yn bobl dda ac yn bobl hapus hefyd."

"Ond os byddwn ni'n glefer ac yn gyfoethog, bydd gennym fwy o gyfle i wneud daioni yn y byd," ebe Eric wedi meddwl tipyn.

"Efallai hynny," ebe'r tad.

"Ac ni hoffech chwi ddim inni aros gartref nac aros yn yr ardal hon o hyd," ebe Beryl.

Na," ebe'r tad. "Credaf y dylai pob plentyn gael ei gyfle i ymladd ei ffordd trwy'r byd ei hunan, heb ddibynnu ar ofal a chysgod ei rieni. Dyna pam y mae eich mam a minnau yn rhoi addysg i chwi. Bydd yn rhaid i chwi ddewis eich llwybr wedyn a'’i gerdded eich hunain, er y byddwn ni yma, OS cawn fyw, yn meddwl amdanoch, yn gweddïo drosoch, ac yn disgwyl eich gweld yn dod yn ôl."

Ie, blant bach, gobeithio y cawn ni ein dau fyw i'ch gweld wedi tyfu'n blant da ac yn dod ymlaen gyda'ch gwaith," ebe Mrs. Arthur.

Wedi tipyn o siarad pellach cyn codi oddi wrth y ford, aeth y tri phlentyn i'w gwelyau'n ddistawach nag arfer. Yna dywedodd Mrs. Arthur wrth ei phriod :

"Yr amser hapusaf i dad a mam", ebe Owen, yw yr amser pan yw'r plant yn fach, cyn i gysgod yr ymadael ddod rhyngom."

"Nid wyf yn siwr o hynny," Mr. Arthur. "Onid yr amser hapusaf i ni a fydd hwnnw pan welwn hwy'n llwyddiannus mewn bywyd,—yn dwyn ffrwyth ar ôl ein gofal a'n llafur ni trostynt?"

"Efallai mai chwi sydd yn iawn," ebe Mrs. Arthur.

VI.

Ar y ffordd rosynnog honno
A gerddasom hanner oes,
Ryw brynhawn ymhlith y blodau
Gwelwn drom a garw groes.
—EIFION WYN.

EISTEDDAI Beryl ymhlith eraill yn ysgol Tregwerin yn ysgrifennu ei phapur olaf yn arholiad y Matriculation. Ysgrifennai'n gyflym, fel petai hi mewn brys i orffen. Weithiau codai ei phen a syllu o'i blaen yn fyfyriol, a gwên ar ei hwyneb. Gwyddai ei phwnc yn dda, a gallai fforddio ambell funud felly, ac yr oedd ganddi lawer o bethau hyfryd i feddwl amdanynt.

Ymhen rhyw hanner awr arall byddai ei thymor yn yr Ysgol Sir ar ben. Dyna un cyfnod mewn bywyd wedi ei fyw! Yr oedd wythnosau hir o wyliau o'i blaen, ac yna'r Coleg. Nid oedd amheuaeth yn ei meddwl na byddai'n llwyddiannus yn yr arholiad. Yr oedd wedi bod trwy lawer arholiad erbyn hyn heb fethu unwaith, ac yr oedd y cwestiynau eleni'n hawdd iddi hi. Dyna felys a fyddai tymor hir o seibiant ar ôl astudio caled!

Yr oedd sŵn prysurdeb mawr yn yr ystafell, —sŵn ysgrifennu dyfal, pinnau ysgrifennu'n taro'n erbyn y llestri inc, prennau mesur yn disgyn ar y desgiau, ambell besychiad gwan ac ambell ochenaid. Daeth athrawes ieuanc i mewn trwy'r drws, aeth yn ddistaw at yr athro a eisteddai wrth ei ddesg a sibrwd rhywbeth wrtho. Yna edrychodd y ddau i gyfeiriad Beryl. Plygodd Beryl at ei gwaith drachefn. Cyn hir, daeth yr athro ati, edrychodd dros ei hysgwydd ar ei gwaith. Yna sibrydodd, a gwên dyner iawn ar ei wyneb,—

"Bron â gorffen?"

Dangosodd Beryl iddo ei bod wrth y cwestiwn olaf.

"Dewch â'ch papurau i mi wedi ichwi orffen," ebr ef. Edrychodd ar ei oriawr, ac aeth yn ôl at ei ddesg.

Yr oedd Beryl yn un o ysgolheigion gorau'r ysgol. Nid rhyfedd bod yr athro'n cymryd diddordeb yn ei gwaith. Yr oedd wedi blino hefyd, ac ôl hynny, efallai, ar ei gwedd. Diau bod yr athro caredig am roi cyfle iddi fynd adref yn gynnar.

Dyna'r gair olaf o'r diwedd. Edrychodd Beryl yn ofalus dros waith y prynhawn i gyd. Rhoes ei phapurau mewn trefn. Edrychodd ar y cloc. Yr oedd eto ddeng munud cyn pedwar o'r gloch,—amser gorffen. Aeth ymlaen yn ddistaw at ddesg yr athro.

'Da iawn!" ebe'r athro. "Dyna'r gwaith ar ben. Y mae rhywun tu allan am eich gweld, ond yr oeddwn am ichwi orffen eich gwaith cyn mynd. Y mae hwn yn arholiad pwysig. Drwg gennyf na allaf adael yr ystafell a dyfod allan gyda chwi. Ffarwel!"

Ysgydwodd law â hi'n gynnes ac edrych yn ddwys arni fel o'r blaen. Beth oedd yn bod? Ni allai Beryl aros i holi. Ni chaniateid siarad yn ystafell yr arholiad, ac yr oedd yr athro fel pe'n ei gyrru allan. Crynodd ei chalon.

Yr oedd Miss Prys, yr athrawes, yn disgwyl amdani tu allan i'r drws. "Beryl fach!" ebe hi. "Y mae un o'ch cymdogion â'i gerbyd allan ar yr heol yna wedi dyfod i'ch hôl."

"I'm hôl i? Beth sydd yn bod?" ebe Beryl yn gyffrous.

O, yr oedd yn digwydd mynd heibio ac arhosodd ichwi. Y mae,—peidiwch â chael braw, Beryl fach,—eich tad sydd yn sâl."

"Nhad! O, yr wyf yn siwr fod rhywbeth wedi digwydd."

"Na, nid oes niwed, ———"

Ond yr oedd Beryl wedi rhedeg yn wyllt at y cerbyd.

"O, Mr. Morgan," ebe hi, "dywedwch beth sydd yn bod! A yw nhad wedi marw?'

"Yr oedd yn fyw pan gychwynais i,——ond Dewch i fyny i'r cerbyd, fy merch annwyl i."

Ar y daith ryfedd honno tuag adref y cafodd Beryl yr hanes trist.

Yr oedd rhyw newydd yn y papur y bore hwnnw wedi peri cyffro mawr i Mr. Arthur. Daethai, a'r papur yn ei law, a'i wyneb yn welw, i'r tŷ at Mrs. Arthur, a heb ddywedyd gair ond cyfeirio â'i fys at ryw baragraff, syrthiodd i'r llawr fel un marw. Yr oedd doctor wedi bod yno, a chymdogion wedi dyfod ynghyd a'i gario i'w wely. Yr oedd wedi dihuno unwaith, wedi adnabod pob un, ac wedi gofyn yn floesg am Beryl. Efallai ei fod yn well erbyn hyn. Byddent yno yn awr yn fuan.

Pan ruthrodd Beryl i mewn i'r gegin, yr oedd Let yno a'i llygaid yn goch gan wylo, yn ceisio difyrru Geraint ac Enid a'u cadw rhag gwneud dim sŵn. Daeth y ddau fach at Beryl yn llawen i ddisgwyl eu cusan arferol. Rhoes ei breichiau am y ddau.

"O, Let," ebe hi, sut mae nhad?"

"O, Beryl fach," ebe Let, a thorri allan i wylo drachefn.

Pan aeth Beryl i'r ystafell wely ar y llofft, wylodd pawb yno hefyd ond yr un a orweddai'n welw a mud ar y gwely. Cyn i'r wawr dorri bore trannoeth, yr oedd y tad, feddyliai gymaint o'i deulu bach, wedi mynd yn sydyn o'u golwg ac o'u cyrraedd.

VII.

Mae y byd Sydd o fy mlaen yn newydd im i gyd,
Heb ar ei amgylchiadau un goleuni.
—ISLWYN.

TRO sydyn ar lwybr bywyd a fu'r diwrnod hwnnw ym Modowen. Ni bu'r cartref yr un byth wedyn.

Tra fu'r corff yn y tŷ, daeth yno bobl ddieithr o bell ac agos i gydymdeimlo â'r weddw a'r plant. Dim ond perthnasau pell oedd gan Mr. a Mrs. Arthur, ond yr oedd ganddynt lu o gyfeillion. Yr oedd y tŷ'n llawn o ddieithriaid caredig bob dydd.

Fel mewn breuddwyd y treuliodd Beryl ac Eric a Nest y dyddiau hynny. Dim ond Geraint ac Enid oedd yn ddibryder. Deuai'r meddyg yno bob bore a phob nos, oherwydd yr oedd Mrs. Arthur yn wael iawn ar ei gwely.

Ar ôl yr angladd, wedi i'r dieithriaid bob un fynd i'w ffordd, y daeth y plant wyneb yn wyneb â'u gofid. Dyna wag oedd y cartref! Yr oedd popeth yno fel pe'n disgwyl eu tad yn ôl, ei lyfrau, ei gadair, ei ddesg, ei bibell. Dychmygai'r plant ei weld yn yr ardd neu ei glywed yn dyfod at y tŷ, ac yna sylweddolent na chaent ei weld na'i glywed byth mwy.

Meddyliai Nest y deuai pethau bron fel cynt eto wedi i'w mam wella. Meddyliai Eric y gweithiai ef yn galed iawn yn yr ysgol ac yn y coleg er mwyn dyfod i ennill digon o arian yn lle ei dad.

Er bod Mrs. Arthur lawer yn well, yr oedd yn wan iawn o hyd. Un waith, pan aeth y plant i'w gweld, wylodd mor enbyd nes ei gwneud ei hun lawer yn waeth. Pan aeth Beryl ei hun i'w gweld ar ôl hynny, edrychodd yn syn arni a dywedodd :

Beryl fach, beth wnawn ni?"

Treiwch eich gorau i wella, mam fach, ac fe ddaw pethau'n well eto," meddai Beryl. Ond, Beryl fach, sut byddwn ni byw?" Yr oedd y mil punnoedd a roesai Mr. a Mrs. Arthur heibio ar gyfer addysg eu plant wedi eu colli. Yr oedd trysorydd y cwmni wedi dianc o'r wlad a'r holl arian yn ei feddiant. Dyna'r newydd a welsai Mr. Arthur yn y papur, a bu'r peth yn ormod iddo i'w ddal. Yr oedd y ddyrnod ddwbl wedi disgyn ar Mrs. Arthur. Yr oedd ei heinioes hithau mewn perygl. Carai ei phlant bach yn angerddol, gofidiai wrth feddwl eu gadael, ond yr oedd arni ofn byw.

Aeth y dyddiau blin hynny heibio o un i un. Yr oedd Nest yn yr ysgol bob dydd, yn harddach nag erioed yn ei dillad duon a'i gwallt fel gwawl ar ei phen. Dim ond ar brydiau yr oedd Eric yn brudd. Rhoesai Let a Beryl ofal yr ardd iddo. Pan fyddai eisiau tatws neu bys neu ffa neu rywbeth arall, at Eric yr aent i ofyn amdanynt. Ei waith ef hefyd oedd ysgubo'r llwybrau a chadw'r lle'n drefnus. Yr oedd Geraint ac Enid mor hapus ag erioed. Ni wyddent hwy eto ddim am ofid byd. Ar Beryl y daeth y pwys. Rhedai pethau rhyfedd trwy ei meddwl. Ai'r un oedd hi a'r ferch honno a oedd mor hapus ddydd yr arholiad a phopeth yn olau o'i blaen? Tywyll iawn oedd pethau erbyn hyn. Nid oedd drefn ar ddim yn y dyfodol.

Un bore, yr oedd Let yn paratoi at wneud bara. Aeth Beryl ati i'r gegin fach.

Let," ebe hi, gedwch i fi wlychu'r toes heddiw, a dysgwch chwi fi, os gwelwch yn dda."

"O'r gorau, Beryl fach," ebe Let yn syn. "Cewch ei grasu hefyd, os mynnwch."

Felly y cafodd Beryl ei gwers gyntaf mewn gwneud bara. Dro arall, mynnai olchi'r llawr, glanhau'r lle tân, tannu'r gwelyau a gwneud bwyd yn lle Let.

"Chewch chwi ddim gwneud y gwaith brwnt, cewch helpu gyda'r bwyd," meddai Let.

Yr wyf am ddysgu gwneud holl waith y tŷ," ebe Beryl,—" y gwaith brwnt a'r gwaith glân."

"Wel, yn wir, petai meistres yn gwybod, ni byddai'n hanner bodlon," meddai Let.

Gweithiodd Beryl yr wythnosau hynny yn galetach nag y gwnaethai erioed o'r blaen. Aeth ei dwylo gwynion yn goch a garw. Felly'r aeth mis Awst heibio,—mis y gwyliau.

Un prynhawn Gwener ym mis Medi, ymddangosai Mrs. Arthur lawer yn well nag arfer. Pan ddaeth Nest adref o'r ysgol, dywedodd Let wrthi:

Mae'ch mam lawer yn well, Nest fach. Ewch i'w gweld. Y mae Beryl gyda hi."

"O, mam fach annwyl," ebe Nest, "dyna falch wyf eich bod yn well!"

Cydiodd y fam yn nwylo'r ddwy ferch, a dywedodd :

"Ferched bach, os caf fi wella, byddwn yn hapus eto ryw ddiwrnod. Y mae Maesycoed gyda ni. Awn yno i fyw. Fe ddaw Eric i ennill, a thithau, Beryl fach."

A finnau, mam fach," ebe Nest.

Dim ond i chwi wella, mam annwyl, fe ddaw popeth yn iawn," ebe Beryl.

Daeth Eric i'r ystafell.

"Eric bach," ebe'r fam, ti yw dyn y teulu yn awr. 'Rwy'n siwr y byddi di 'n ddyn da."

"Byddaf, mam," ebe Eric.

Cafodd Geraint ac Enid ddyfod i roi cusan i'w mam y noson honno. Ni welsai eu mam hwy ers wythnosau. Cusanodd y ddau fach lawer gwaith.

Ond bore trannoeth tua saith o'r gloch, gorfu i Eric redeg i hôl y doctor. Am dri o'r gloch y prynhawn hwnnw yr oedd y pum plentyn ym Modowen heb na thad na mam.

VIII.

Gwelwn hiraeth fel goleuni euraid
Yn nhawel eigion ei duon lygaid,
Yn cynnau—rhoddi cannaid ddisgleirdeb
Ar wedd ei hwyneb yr oedd ei henaid.
—T. GWYNN JONES.

"NI chaiff neb ein gwahanu. Yr wyf fi'n mynd i gadw cartref inni."

Geiriau Beryl oeddynt. Yr oedd gŵr a gwraig o'r ardal a chyfreithiwr o Lanilin ym Modowen. Daethent yno i geisio trefnu rhywbeth ar gyfer dyfodol y pum plentyn amddifad. Yr oedd ewyllys Mr. Arthur gan y cyfreithiwr, ond yr oedd y rhan fwyaf o'r arian a nodid ynddi wedi mynd. Yr holl eiddo oedd ar ôl oedd dodrefn y tŷ, pedwar ugain punt yn y banc, a Maesycoed, —tŷ bach a gardd yn ardal Bryngwyn, tua thair milltir tuhwnt i Lanilin.

Aethai Eric a Nest y bore hwnnw ar neges i'r dref; felly, dim ond Beryl oedd yno i siarad â'r ddau ddyn dieithr. Deuai lleisiau llon Geraint ac Enid o'r gegin. Yr oedd Let yno gyda hwy.

"Fel y gwelwch, merch i," meddai'r cyfreithiwr, "nid yw'r cwbl sydd ar ôl eich tad a'ch mam yn llawer ichwi eich pump fyw arno. Ond peidiwch â gofidio. Y mae gennyf fi gynnig da i'w roi i chwi, neu efallai y rhydd Mr. Lewis y cynnig o'ch blaen.'

Na, rhowch chwi ef, os gwelwch yn dda," ebe Mr. Lewis.

Wel, yr ydych yn adnabod Mr. a Mrs. Lewis, Miss Arthur, a gwyddoch fod ganddynt ddigon o arian. Y maent yn awyddus iawn i gael y bachgen bach Geraint i'w fagu'n fab iddynt hwy. Nid oes eisiau imi eich sicrhau y bydd Geraint yn lwcus. Wel, y mae brawd Mrs. Lewis,—Mr. Bowen a'i wraig o Aberilin, y mae siop fawr ganddynt yno,—yn barod i gymryd yr eneth fach. Bydd hithau, yr wyf yn siwr, yn lwcus iawn. Deuwch chwi eich tri,—Eric a Nest a chwithau,—i ennill yn fuan iawn. Cawn drefnu eto beth fydd orau i'w wneud ynglŷn â chwi. Yr oeddwn am setlo mater y ddau fach hyn i gychwyn."

Tra bu'r cyfreithiwr yn siarad, ac ar ôl iddo dewi, edrychai Beryl i ryw bellter o'i blaen a'i hwyneb fel wyneb y Forwyn Fair. Yr ydych yn falch, mi wn," ebe'r cyfreithiwr eto, er, wrth gwrs, ni all na fydd hiraeth arnoch."

"Bydd croeso i'r tri arall ddod i weld Geraint ac Enid bryd y mynnont," ebe Mrs. Lewis.

YR OEDD Y PUMP AMDDIFAD YNO GYDA'I GILYDD.






Yna troes Beryl ei llygaid dwys ar y ddau ddyn a'r wraig, a dywedodd yn dawel:

"Ni chaiff neb ein gwahanu. Yr wyf fi'n mynd i gadw cartref inni."

Cyn i neb o'r tri fedru dywedyd gair, gan syndod, dywedodd Beryl eto:

"O, maddeuwch imi am siarad mor fyr ac am ymddangos mor anniolchgar. Yr wyf yn diolch yn fawr ichwi i gyd. Ond Ond y mae un peth yn glir imi. Fi sydd i ofalu am y ddau fach a chadw cartref inni i gyd. Hyn a fuasai dymuniad nhad a mam."

"Miss Arthur annwyl!" meddai'r cyfreithiwr, "yr ydych wedi pasio mor uchel, buasai'n drueni ichwi beidio â mynd i'r coleg mwy."

"A sut gellwch chwi gadw cartref a chwithau heb fod yn gyfarwydd â gwaith tŷ?" ebe Mrs. Lewis.

"Ac o ba le y daw'r arian at hynny?" ebe Mr. Lewis.

Methodd Beryl â chadw'r dagrau'n ôl. Wylodd yn ddistaw am dipyn, yna sychodd ei llygaid a dywedodd yn llawn mor benderfynol ag o'r blaen:

"Af fi ddim i'r coleg. Yr wyf yn eithaf siwr beth yw fy nyletswydd. Y mae Maesycoed yn rhydd. Yno'r oedd mam wedi meddwl mynd petai wedi cael byw. Hwnnw fydd ein cartref ni. O, peidiwch a gofyn pam, ond gwn fy mod yn gwneud yn iawn."

Edrychodd y tri arni mewn pen bleth. Gwelsant nad oedd yn bosibl ei throi. Ni allent ei gorfodi. Gwelsant hi'n cymryd pwysau trwm ar ysgwyddau ieuainc iawn. Nid ystyfnigrwydd oedd ar ei gwedd, ond rhyw urddas tawel. Peidiasant â'i gwrthwynebu.

Ceisiwyd gweld pa beth arall y gellid ei wneud. Nid oedd y tri'n mynd i adael Beryl, er iddi wrthod eu cynnig. Trefnwyd ynghylch y peth hwn a'r peth arall.

Daeth Eric a Nest i'r ystafell wedi curo'n ysgafn ar y drws, a daeth Geraint ac Enid ar eu hôl o'r gegin. Yr oedd y pump amddifad yno gyda'i gilydd. Daeth dagrau i lygaid y lleill wrth edrych arnynt. Wylodd Mrs. Lewis yn hidl.

Cofiodd Beryl ei breuddwyd ar hyd y blynyddoedd. Yr oedd hwnnw'n mynd ddyfod i ben mewn ffordd ryfedd iawn. Yr oedd yn sicr pa beth oedd gwaith ei bywyd i fod. Paratoad at hynny oedd popeth a ddaethai iddi hyd yn hyn. Ac yn gymysg â galar mawr a phryder, yr oedd rhywbeth arall yng nghalon Beryl,—rhywbeth tebyg i dangnefedd.

IX.

Duw'n Iôr wna, drwy lwydni'r nos,
I wedd engyl ymddangos.
—ELFED.

Y NOS Iau cyntaf ym mis Tachwedd, eisteddai Beryl a'i theulu bach wrth y tân ym Maesycoed, eu cartref newydd. Yr oeddynt wrthynt eu hunain am y tro cyntaf. Bu llawer o bobl garedig yn eu helpu i symud, a bu Let yno gyda hwy am wythnos. Yn awr yr oedd hithau wedi mynd. Cawsai le fel morwyn mewn fferm yn ardal y Wern. Wedi dau neu dri diwrnod yn ei chartref, byddai'n dechrau ar ei gwaith yno.

Tŷ bach oedd Maesycoed. Dim ond pedair ystafell oedd iddo,—dwy ar y llawr a dwy ar y llofft. Yr oeddynt yn llawer llai o faint nag ystafelloedd Bodowen. To o lechau oedd iddo, a ffenestri culion. Nid oedd lawnt o'i flaen, dim ond cwrt bychan, a iet fach haearn wedi ei phaentio'n wyrdd yn arwain iddo. Yr oedd gardd fawr tu ôl i'r tŷ, a llwyni cyrens ac eirin Mair a dau bren afalau yn tyfu ynddi. Yr oedd llwyn eirin ar ben un o'r cloddiau a choeden fawr gnau ceffylau yn y cornel uchaf. Daethai Eric â thipyn o'r llwyn syringa, ac o'r llwyn rhosynnau, a'r llwyn "cyrens bant" yn gyflawn gydag ef o Fodowen. Yn y cwrt o flaen y tŷ y plannwyd y tri hynny.

Bu'n rhaid gwerthu llawer o ddodrefn Bodowen a llawer o'r llyfrau. Ni allai tŷ bach Maesycoed eu cynnwys i gyd. Prynwyd hwy gan hwn ac arall yn yr ardal. Gwerthwyd gwerth yn agos i ganpunt, ac yr oedd digon ar ôl ar gyfer Maesycoed.

Yn yr ystafell orau ar y llawr yr oedd piano Nest ac un o'r cypyrddau llyfrau oedd ym Modowen. Llyfrau gorau Beryl, Eric, a Nest oedd ynddo, a rhai o lyfrau eu tad. Yr oedd yno soffa hefyd a chadeiriau, drych mawr uwchben y tân a darluniau ar y wal. Yr oedd darluniau o Mr. a Mrs. Arthur mewn fframiau ar y silff uwchben y tân. Yr oedd un o garpedau Bodowen ar y llawr. Carped llwyd a glas ydoedd. Yr oedd yr un glas yn lliw y papur oedd ar y wal.

Yr oedd Beryl a Nest yn falch iawn ar eu hystafell fach hardd a chysurus. "Drawing-room" oedd eu henw hwy arni. Yr oedd Eric yn ei hoffi hefyd, ond nid yw dynion yn meddwl cymaint â merched am ystafelloedd heirdd.

Yn y gegin yr oedd seld a chwpwrdd cornel a bord a chadeiriau, a phethau eraill sydd â'u

MAESYCOED.






heisiau mewn cegin. Yr oedd dwy ystafell y llofft hefyd yn syml, ond yn gysurus iawn. Er mai ychydig o ddodrefn oedd ynddynt, yr oedd y cwbl yn dda. Pethau da oedd pethau Bodowen. Cysgai Eric a Geraint gyda'i gilydd, a'r tair merch yn yr ystafell arall. Yr oedd gwely bach iddi ei hun gan Enid.

Nid oedd neb ohonynt yn gwneud dim y noson honno. Yr oedd y tri hynaf wedi gweithio'n galed yn ystod y dydd gyda Let i orffen glanhau'r tŷ a rhoi'r pethau yn eu lle, ac yr oeddynt wedi blino. Felly, edrych i'r tân a meddwl a wnaent.

"Efallai bod nhad a mam yn ein gweld yn awr," ebe Nest yn sydyn.

"Efallai eu bod, Nest fach," ebe Beryl.

"Ble mae Dadi a Mami ?" ebe Enid. "Geraint ac Enid a Beryl a Nest a Eric dim gweld Dadi a Mami mwy," ebe Geraint. Tynnodd Beryl y ddau fach un bob ochr iddi, a rhoi ei breichiau amdanynt. Beth a ddywedai wrthynt?

"Dadi a Mami wedi mynd ymhell," ebe hi, ac wedi gadael Beryl i ofalu am Geraint ac Enid. Mae Dadi a Mami yn ein gweld ni, ond wedi mynd yn rhy bell i ni eu gweld hwy."

"O, mae'n dda gen i dy fod ti, Beryl, wedi mynnu cadw cartref inni. Anghofiaf fi ddim o hyn am byth byth," ebe Nest.

Na finnau," ebe Eric. "Beth pe baem i gyd ar wahân yn awr?"

"Yr wyf yn gobeithio y cawn ei gadw am amser hir," ebe Beryl.

"Y mae gennym bron ddau can punt yn y banc," ebe Nest.

"Yn fuan iawn byddaf fi'n ennill digon i'n cadw ni i gyd," ebe Eric. Mi fynnaf ddod ymlaen."

"Trueni na chaet ti fynd yn ddoctor," ebe Beryl.

"Mae dynion sydd mewn busnes yn dod i ennill arian yn gynt, ac yn dod i ennill mwy," ebe Eric.

"Ni bydd dim yr un fath mwy," ebe Nest. 'Ni byddi di, Eric, yn ddoctor, ac ni byddi dithau, Beryl, yn M.A. O, dîr! a fyddaf fi'n rhywbeth byth?"

Yr oedd Geraint ac Enid yn dechrau pwyso'n drymach un bob ochr i Beryl. Edrychodd arnynt, a gwelodd fod llygaid y ddau ynghau.

"Blant bach," ebe hi, " y mae'n wyth o'r gloch. Gwely am saith fydd y rheol ar ôl heno."

Cafodd y ddau ychydig laeth i'w yfed, ac yna aeth Beryl â hwy i'w gwelyau. Tra fu Beryl ar y llofft, bu Nest yn paratoi bara llaeth at eu swper hwythau. A dyna ddechrau eu bywyd gyda'i gilydd ym Maesycoed.

X.

Nid y llyfrau ar ei ysgwydd,
Nid y trymaidd, niwlog hin,
Nid y llwybr igam ogam
Sydd yn gwneud ei ffordd mor flin;
Beth mor drwm â hiraeth plentyn
Wrth ffarwelio â'i gartref iach?
Dyna'r baich, a'r Nef a'i helpo,
Sydd yn llethu'r teithiwr bach.
—WIL IFAN.

ER eu bod mewn ardal ddieithr, ni allai'r plant feddwl am dreulio dydd Sul heb fynd i'r cwrdd. Aethant gyda'i gilydd erbyn deg o'r gloch i gapel Bryngwyn. Yr oedd ganddynt waith ugain munud o gerdded, oherwydd ni allai Geraint ac Enid gerdded yn gyflym iawn.

Wynebau dieithr a welent yn y capel. Os na wyddent hwy pwy oedd nemor neb, gwyddai pawb pwy oeddynt hwy. Yr oedd llawer o syllu arnynt. Hwy oedd testun siarad pob teulu ar ginio y dydd hwnnw.

"A welsoch chwi blant Mr. a Mrs. Arthur? Dyna blant bach wedi bod trwy dristwch mawr yn gynnar!" meddai un.

"Y mae rhywbeth yn hardd iawn yn wyneb y ferch hynaf yna. Y mae'n edrych fel mam i'r plant eraill, er ei bod mor ieuanc," meddai un arall.

"Y mae wedi gwrthod mynd i'r coleg er mwyn cadw cartref i'r lleill."

"Y mae wedi cymryd baich mawr arni ei hun. Sut byddant byw, druain bach?"

"Y mae plant amddifaid fynychaf yn dyfod ymlaen yn dda. Y mae rhyw ofal neilltuol drostynt. 'Gad dy amddifaid arnaf fi. Myfi a'u cadwaf hwynt yn fyw.' Y mae'r addewid yna'n dal o hyd."

Felly y siaradai pobl y dydd Sul hwnnw.

Dydd Llun, yr oedd Eric yn dechrau ar ei waith fel prentis yn un o siopau dillad Llanilin, a Nest yn mynd am y tro cyntaf i ysgol elfennol Aelybryn. Trwy help Mr. Morus, y cyfreithiwr, y cawsai Eric y lle. Nid oedd o un diben meddwl am fynd i'r coleg a bod yn ddoctor mwy. Yr oedd eisiau arian mawr at hynny, ac yr oedd yr arian wedi mynd. Faint bynnag oedd siom Eric, ni soniodd air am hynny. Gofynnodd i Mr. Morus un dydd ym Modowen, pan nad oedd neb arall yn clywed:

"Hoffwn wneud rhywbeth, syr, i ennill arian. A welwch chwi'n dda fy helpu i gael lle?"

"Pa waith a garech ei gael?" gofynnai Mr. Morus.

"Ni wn i ddim yn iawn, syr. Rhywbeth fel y gallwn ddechrau ennill ar unwaith heb orfod talu dim."

Meddyliodd Mr. Morus am dipyn.

"A hoffech ddysgu bod yn siopwr,—mewn siop ddillad?"

"Buaswn i yn eithaf bodlon gwneud hynny," ebe Eric, heb frwdfrydedd.

Cofiwch y bydd yn rhaid ichwi ddechrau ar y gwaelod, ar ffon isaf yr ysgol,—ond y mae digon o le oddi yno i'r ffon uchaf."

Gwenodd Eric yn wannaidd.

Bydd yn rhaid ichwi fod yn was bach i bawb am dipyn. Cofiwch hynny."

"Mi dreiaf fy ngorau, syr, i wneud fy ngwaith yn iawn ac i ddioddef pethau pan na fyddaf yn eu hoffi, ac efallai na fydd yn rhaid imi fod yn was bach yn hir."

"Da, machgen i! Os oes gennych ddigon o benderfyniad a thipyn o allu, fe ddewch ymlaen. Mi dreiaf am le ichwi yn Siop Hywel. Y mae Mr. Hywel a minnau'n ffrindiau."

Diolch yn fawr, syr."

"Bydd yn well ichwi gael lle yn Llanilin i ddechrau, er mwyn ichwi fedru mynd adref bob nos, i fod yn gwmni i'r lleill."

"Ie. Yr oedd mam yn dweud y diwrnod cyn iddi farw mai fi yw'r unig ddyn yn y teulu yn awr," ebe Eric, a dagrau lond ei lygaid.

Felly, cyn pen llawer o ddyddiau, cafodd Eric addewid am le fel prentis yn Siop Hywel,—y siop fwyaf yn Llanilin. Yr oedd i dderbyn cyflog o bum swllt yr wythnos, a'i ginio a'i dê bob dydd.

Bore Llun digon diflas oedd hwnnw. Yr oedd calon Nest yn brudd iawn wrth droi allan o'r tŷ a mynd i ysgol ddieithr i fysg plant ac athrawon dieithr. Ond prudd neu beidio, mynd oedd raid. Yr oedd yr ysgol elfennol yn rhad. Efallai na ellid fforddio ysgol arall iddi byth. Gwell oedd cymryd gafael ar addysg tra fyddai honno o fewn cyrraedd.

Digon prudd ei galon oedd Eric hefyd. Buasai'n hapusach o lawer petai'n mynd i'r Ysgol Sir fel o'r blaen. Lle dieithr iawn iddo oedd siop. Gwaith dieithr oedd yn ei aros. Ni wyddai beth oedd gan y dydd yn ystôr iddo.

Yr oedd calon Beryl yn bruddach fyth. Safodd ar garreg y drws i weld Nest yn mynd i un cyfeiriad ac Eric i gyfeiriad arall. Dechreuent eu byd o ddifrif y bore hwnnw. Yr oedd pethau'n drist o'u hôl ac yn ansicr o'u blaen. Troes Eric a Nest yn ôl yn nhro'r ffordd, ac ysgydwodd y tri ddwylo ar ei gilydd. Yna aeth Beryl i'r tŷ at ei gwaith.

"Beryl!" ebe llais bach o'r llofft.

"Beryl!" ebe llais bach arall, meinach. "A gawn ni godi 'nawr?"

Helpodd y ddau fach i wisgo ac ymolchi. Agorodd bob ffenestr yn llydan, a thynnodd ymaith ddillad y gwelyau. Pan oedd y ddau'n cael eu brecwast, eisteddodd gyda hwynt wrth y ford er mwyn eu dysgu sut i ymddwyn. Yr oedd eisiau dywedyd wrth Geraint am beidio â gwneud sŵn â'i wefusau wrth fwyta, ac wrth Enid am ddal y llwy'n iawn wrth fwyta uwd, a'r cwpan yn iawn wrth yfed tê. Nid oes dim yn fwy anfonheddig nag eistedd wrth y ford yn anniben a llarpio'r bwyd rywsut. Mynnai Beryl ddysgu Geraint ac Enid fel y dysgwyd Eric a Nest a hithau.

Ar ôl brecwast, yr oedd digon o waith i'w wneud,―golchi'r llestri, glanhau'r gegin, tannu'r gwelyau, a pharatoi cinio. Rhoes ginio Nest mewn dysgl yn barod, fel na byddai eisiau ond ei dwymo. Felly y gwelsai ei mam a Let yn gwneud. Yr oedd Let wedi golchi popeth cyn ymadael, fel na byddai eisiau i Beryl olchi am yr wythnos gyntaf.

Yn y prynhawn, wedi newid eu dillad, aeth Beryl â'r ddau fach i gwrdd â Nest yn dyfod o'r ysgol. Yn sydyn, ar y ffordd, daeth y breuddwyd am y Gelli i gof Beryl. Dyna ryfedd y deuai pethau i ben! Pan ddaeth Nest i'r golwg, rhedasant at ei gilydd. Teimlent fel pe baent heb weld ei gilydd ers blwyddyn. Pan ddaeth Eric adref, yr oedd wedi saith o'r gloch, a Geraint ac Enid yn eu gwelyau. Adrodd hanes y dydd i'w gilydd y bu'r tri wrth y tân y noson honno.

XI.

Daeth ton o ryw ddiflastod sydyn i minnau hefyd :
Rhywbeth na wybûm erioed o'r blaen,
Rhywbeth heb iddo enw yn fy iaith.
—WIL IFAN.

DYDD Sul oedd y dydd hapusaf ym Maesycoed. Dyna'r unig ddydd yn yr wythnos y câi'r teulu bach fod gyda'i gilydd. Er hynny, am rai Suliau wedi eu dyfod i Faesycoed, teimlent yn bruddach nag arfer, am mai dyn dieithr, ac nid eu tad, oedd yn y pulpud. Ond yr oedd Brynilin a Bodowen a chwmni eu tad a'u mam ymhell o'u hôl erbyn hyn. Yr oeddynt wedi dechrau ar gyfnod newydd. Yr oedd yn rhaid byw eto. Gan mai plant bach dewr oeddynt, aethant yn drech na'u gofid a'u galar.

Bob Sul yn ystod y gaeaf cyneuai Beryl dân yn y parlwr. Yno'r oedd y llyfrau a'r piano. Plant oedd yn hoff o ddarllen a chanu a hoff o gwmni ei gilydd oeddynt hwy. Yr oeddynt fel pe'n mynd yn ôl i'w bywyd ym Modowen bob dydd Sul. Anghofiai Beryl ac Eric nad byd llyfrau oedd bellach eu byd hwy. Medrai pob un ohonynt ganu. Weithiau, arhosai pobl ar yr heol o flaen y tŷ i wrando arnynt yn canu emyn gyda'i gilydd,—Nest yn canu Soprano ac yn canu'r piano'r un pryd, Beryl yn canu Alto, ac Eric yn canu Tenor, a Geraint ac Enid yn gwneud eu gorau i helpu Nest.

Un nos Sul, yn union wedi iddynt orffen canu emyn felly, clywsant guro sydyn ar y drws. Aeth Eric i'w agor.

"O, Mr. Morgan! Dewch i mewn, os gwelwch yn dda," ebe Eric.

Mr. Ieuan Morgan o Lanilin oedd. Adwaenai Eric ef, er mai newydd ddyfod i fyw i Lanilin oedd, a dywedodd ei enw wrth Beryl a Nest. Ysgydwodd Mr. Morgan law yn serchog â hwy i gyd ac eisteddodd yn gartrefol yn eu canol.

"Dyma'r ail nos Sul imi ddigwydd mynd heibio a chlywed eich canu swynol," ebr ef, "ac ni allwn beidio â dod at y drws. Yr ydych yn canu'n rhagorol. Pa un ohonoch yw'r Soprano?"

Gwenodd Nest arno mewn atebiad.

Merch annwyl i! A wyddoch chwi fod trysor o lais gennych? Rhaid ichwi beidio â'i guddio. Teimlaf yn siwr, os dysgwch ei drin yn iawn, y deuwch yn enwog fel cantores ryw ddydd."

Gwridodd Nest о dan edrychiad syn Mr. Morgan. Edrychai'n harddach nag arfer yno yn ei dillad duon a'i gwallt euraid yn cyrlio o gylch ei thalcen ac ar ei gwddf gwyn, a rhyw belydr yn ei llygaid ar ôl canu.

Edrychai Beryl hefyd yn syn ar ei chwaer. Daeth lleithder i'w llygaid ac ing sydyn i'w chalon. Cafodd un drem i'r dyfodol,—Nest yn harddach, harddach; yn esgyn, yn esgyn; yn troi mewn cwmni da; yn gyfoethog; yn enwog; yn eilun y torfeydd. Hithau â'r drysau aur ynghau o'i blaen.

Dim ond fflach ydoedd. Nid oedd dim lle i genfigen yng nghalon Beryl. Ei chwaer fach fwyn oedd Nest. Gorau oll po wynnaf y byddai ei byd. Yr oedd ganddi hithau ei gwaith. Yr oedd rhai annwyl yn dibynnu arni.

"Ai chwi oedd yn canu Alto?" ebe Mr. Morgan wrthi.

"Ie, ond nid yw fy llais i fel un Nest, ond yr ydym bob un yn hoff o ganu," ebe Beryl.

Gofynnodd Mr. Morgan iddynt ganu emyn gyda'i gilydd drachefn. Wedi eu canmol eto, dywedodd ei fod wedi dechrau ffurfio Côr Plant ar gyfer cystadlu yn Eisteddfod Aberilin. Byddai'n dda ganddo os ymunent â'i gôr. Rhai o dan un ar bymtheg oed oedd aelodau'r côr i fod. "Efallai bod Miss Arthur dros yr oed. Beth amdanoch chwi, Eric?"

"Ym mis Hydref y byddaf fi'n un bymtheg," ebe Eric.

"Da iawn. Bydd yn dda gennyf os deuwch chwi eich dau."

"Beth yw dy farn di?" gofynnai Eric i Beryl.

"Bydd yn rhy unig ar Beryl yma wrthi ei hun," ebe Nest.

"Dim ond dwy noswaith yr wythnos, a gellwch fod yn ôl gartref erbyn naw o'r gloch," ebe Mr. Morgan.

"Byddaf fi'n iawn. Y mae digon o gwmni gennyf fi," ebe Beryl, a rhoi ei breichiau am Geraint ac Enid a safai un ar bob ochr iddi.

"Dyma ddau fach a ddaw i ganu mewn Côr Plant fuan iawn," ebe Mr. Morgan. "Beth yw eu henwau?

"Dywedwch eich enwau," ebe Beryl.

"Geraint," ebe un. "Enid," ebe'r llall, ac ychwanegodd Enid:

"Beryl yw ein mam ni 'nawr."

"Ie, ie, a mam dda yw hi hefyd, 'rwy'n siwr," ebe Mr. Morgan. "Bydd bod yn aelod o'r côr yn help i wneud y gantores fach yma'n adnabyddus, Miss Arthur," ychwanegai, ac edrych ar Nest.

"Bydd yn dda gen i i Eric a Nest gael dod, os ydych yn meddwl y bydd yn lles iddynt ac y byddant hwythau'n help i chwi," ebe Beryl.

Felly y bu. Bob nos Fawrth a nos Iau am rai misoedd âi Eric a Nest i Lanilin i'r Ysgol Gân, ac arhosai Beryl gartref gyda Geraint ac Enid.

XII.

A cheisio'r goleuni o fore hyd hwyr
A wnaf i, tra fyddwyf, nes blino yn llwyr;
A Duw, o'i drugaredd, a ddengys i mi
Lesni ffurfafen sêr eirian di-ri;
A dyna'r glas yn fy mywyd i.
—IORWERTH CYFEILIOG PEATE.

Daw rhyw les inni yn fynych iawn o bethau a deimlwn sydd fwyaf yn ein herbyn. Nid yw'r nos dywyllaf heb ei sêr.

Digon prudd y teimlai Beryl ar y troeon cyntaf pan âi Eric a Nest i'r Ysgol Gân. Yr oedd ganddi galon fawr garedig, neu buasai'n cenfigennu wrthynt. Caent lawer o bleser yn yr Ysgol Gân, a llawer o addysg hefyd. Caent gyfle i wneud llawer o ffrindiau newyddion. Cychwynnai Nest o'r tŷ am chwech o'r gloch. Yr oedd mab a merch Penlan, y tŷ nesaf at Faesycoed, yn gwmni ganddi i fynd, a byddai Eric gyda hwy yn gwmni i ddychwelyd. Anaml y byddent yn y tŷ cyn chwarter wedi naw.

Yr oedd gan Beryl, felly, dros dair awr o amser ar nosweithiau tywyll gaeaf i fod heb gwmni yn y tŷ ond Geraint ac Enid. Am yr awr gyntaf ni byddai'n bosibl iddi deimlo'n unig. Gwnïo a wnâi fynychaf am yr awr honno, ac ar yr un pryd dysgu'r ddau fach i ddarllen neu ysgrifennu neu ganu; neu dysgai ryw chwarae newydd iddynt. Am saith o'r gloch, caent hwy fynd i'w gwelyau.

Yna deuai Beryl yn ôl i'r gegin,—cegin wag a distaw. Byddai'r drws wedi ei gloi ers awr. Ni chyffesai fod ofn arni, ond fe'i câi ei hun yn gwrando ar bob sŵn. Gwnâi'r gwynt, weithiau, sŵn rhyfedd yn y ffenestri, yn nhwll y clo, ac yn y llwyni o flaen y tŷ. Weithiau clywai gerdded yr heol, dychmygai glywed rhywun yn dyfod at y drws. Y noson gyntaf honno, methodd â theimlo'n ddigon tawel i wnïo, a methodd a chadw ei meddwl ar ddim a ddarllenai.

Pe buasai Beryl yn ferch wan ei hewyllys, buasai wedi digalonni ar ôl y tro cyntaf hwnnw. Buasai wedi addef wrth Eric a Nest fod arni ormod o ofn aros gartref ei hun gyda'r plant. Buasent hwythau wedi treio'u gorau i guddio'u siom a dywedyd nad aent mwy i'r Ysgol Gân,— neu, o leiaf, y câi Eric fynd, ac yr arhosai Nest gartref.

Ond nid felly y gwnaeth Beryl.

Tua chwarter wedi naw, dyna lais melodaidd Nest a llais dyfnach Eric yn siarad â'i gilydd wrth agor yr iet fach. O, dyna falch eu clywed oedd Beryl!

"Helo!" ebe hi, cyn mentro datgloi'r drws.

"Helo!" ebe'r ddau tu allan, a dyna'r drws yn agor.

"Dywed y gwir 'nawr, Beryl, a oedd ofn arnat?" ebe Nest. Yr oeddwn yn meddwl amdanat yr holl amser."

"Ofn, wir! Ofn beth? Fe aeth yr amser yn gyflym iawn. Gorffennais wnïo ffroc Enid, edrych arni."

(Yr oedd Beryl wedi gorffen y ffroc yn y prynhawn, hyd at wnïo'r botymau, ond yn ffodus, nid oedd wedi ei dangos i Nest.)

"O, y mae'n bert!" ebe Nest.

"Dim ond rhai sydd yn gallu canu'n dda sydd yn cael bod yn y côr," ebe Eric, pan ddaeth i mewn wedi cloi'r drws a hongian ei gôt a'i gap.

"Yr wyf yn falch iawn fy mod i'n un o'r rheini. A wyt yn siwr nad oes dim ofn arnat?"

"Peidiwch â sôn rhagor am ofn, blant bach. Dewch i gael swper, a dewch â'r hanes i gyd imi," ebe Beryl.

"Yr oedd yno rai wedi dod i wrando ar y canu," ebe Nest ymhen tipyn wrth fynd ymlaen â'r hanes. "Dyna drueni na allet tithau ddod! Oni bai am Geraint ac Enid, gallet ddod."

"Ond gan fod Geraint ac Enid yma, ni allaf ddod," ebe Beryl.

"'Rwy'n siwr yr arhosai Mrs. Lewis, Penlan, yma gyda hwy ambell waith yn dy le," ebe Nest eto.

"O'r ddau fach!" ebe Beryl. "Na, fy ngwaith i yw gofalu amdanynt."

Pan ddaeth nos Iau, yr oedd Beryl wedi trefnu sut i ymladd â'i hofn.

Pan fyddo eisiau tynnu'r meddwl oddi wrth rywbeth, nid oes dim yn well na rhoi gwaith pendant i'r meddwl hwnnw. Gwelodd Beryl yn yr oriau unig yma gyfle braf i ail-ddechrau astudio. Nid oedd eisiau iddi orffen dysgu, er wedi gadael yr ysgol. Ei hoff bynciau yn yr ysgol oedd Cymraeg, Ffrangeg, a Saesneg. Gallai fynd ymlaen â'r pynciau hyn heb gymorth athro. Daeth â'i llyfrau allan. Gwnaeth raglen o waith ar gyfer pob nos. cariai honno allan, byddai wedi cynyddu llawer mewn dysg a gwybodaeth cyn diwedd y gaeaf. Pan ddaeth Eric a Nest adref, gwelsant ar y ford "Sesame and Lilies, "Cartrefi Cymru," "Le Voyage de M. Perrichon," Geiriadur Ffrangeg a Saesneg, llyfr ysgrifennu a phensil. Aethai'r amser mor gyflym fel nad oedd Beryl wedi dychmygu ei bod yn bryd paratoi swper.

"Wel! Wel! A wyt ti wedi dechrau astudio eto?" ebe Eric.

"O, gallwn feddwl mai newydd fynd ydych," ebe Beryl. "Aeth yr amser fel y gwynt."

"'Rwy'n siwr bod hiraeth arnat o hyd am fynd i'r coleg, er nad wyt yn dweud dim," ebe Nest, a sŵn tosturi yn ei llais.

Daeth dagrau sydyn i lygaid Beryl. Er mwyn eu gyrru'n ôl, cyn edrych ar neb na dywedyd gair, troes i gasglu'r llyfrau at ei gilydd.

"Trueni ofnadwy dy fod ti wedi rhoi heibio'r meddwl am fynd i'r coleg," ebe Eric eto, â'r un llais trist. "Er ein mwyn ni y gwnest ti hynny."

"Er fy mwyn fy hun hefyd, blant bach," ebe Beryl. "Gwrandewch ar y ddwy linell yma a ddarllenais yn rhywle, rywbryd:

Though Duty's face is stern, her path is best,
They sweetly sleep who die upon her breast.

Mi wn i fy nyletswydd, ac ni buaswn i byth yn hapus heb ei gwneud. Nid yw neb yn hapus yn hir heb wneud ei ddyletswydd."

"Pam wyt ti am ddysgu eto, ynteu?" ebe Nest.

"O, Nest fach, yr wyf yn golygu para i ddysgu tra fwyf byw. Nid oes eisiau imi anghofio'r hyn wyf wedi ei ddysgu, a thyfu'n anwybodus, er mai gartref yr wyf. I ba beth y cefais i ysgol, oni wnaf ryw ddefnydd o'm haddysg ? Efallai y bydd yn fwy defnyddiol imi eto yn y dyfodol. Pwy a ŵyr?"

"O dîr! Dyna ferch ryfedd wyt ti, Beryl," ebe Nest.

XIII.

Os na chawn weled blodau Mai
O gylch ein tai, Nadolig;
Mae'n well na blodau ar bob llwyn
Gael cyfaill mwyn, caredig.
—ELFED.

TEBYG iawn i'w gilydd yr âi un dydd ar ôl y llall heibio ym Maesycoed nes dyfod gwyliau'r Nadolig. Yna bu Nest gartref bob dydd am bythefnos. Yr oedd Beryl a Geraint ac Enid yn falch o'i chwmni. Er nad oedd Nest yn hoff o waith tŷ, gwnâi lawer o bethau i helpu Beryl. Hi fyddai'n golchi'r llestri ar ôl pob pryd, a hi fyddai'n helpu Geraint ac Enid i wisgo. Hwy eu tri fyddai'n mynd i Benlan bob bore i hôl llaeth. Yr oedd Nest yn dda am wnïo hefyd. Gwnïodd ddau frat newydd i Enid yn ystod y gwyliau hynny, a chyweiriodd lawer o hosanau.

Ym marn Geraint ac Enid, nid oedd neb tebyg i Nest am chwarae. Gadai iddynt weiddi a chwerthin faint a fynnent, a rhedeg ar hyd y tŷ. Cartref â digon o sŵn ynddo oedd Maesycoed y dyddiau hynny, ond yr oedd pawb o'i fewn yn hapus.

Yr oedd Beryl, fel pob un sydd â gofal cartref arni, yn brysur iawn cyn y Nadolig.

Erbyn hyn, nid oedd ei gwell yn y wlad am wneud bara. Er y deuai cerbyd bara heibio Maesycoed bob dydd, anaml iawn y prynai Beryl dorth. Gwyddai fod bara cartref yn iachach ac yn rhatach. Yr oedd yn dda ganddi, erbyn hyn, ei bod wedi gofyn i Let i'w dysgu i wneud bara cyn i'r cyfnewid mawr ddyfod ar eu byd.

Ond ni wnaethai deisen Nadolig na phwdin erioed. Gan eu bod wedi arfer cael pethau felly ym Modowen, ni byddai Nadolig yn Nadolig hebddynt. Ni fynnai Beryl ofyn i neb o wragedd yr ardal ei dysgu. Cymerai amser hir iddi hi ddyfod i deimlo'n eofn tuag at neb, ac nid oedd neb yn eofn tuag ati hithau. Yr oedd pobl yn barotach i fod yn eofn ar Nest.

Ryw nos Wener tua dechrau Rhagfyr, pan eisteddent bob un wrth y tân, daeth curo ar y drws, a phwy oedd yno ond Let! O, dyna falch oeddynt i weld eu hen forwyn ffyddlon! Cyn pen munud, yr oedd Geraint ac Enid yn eistedd ar ei chôl, a hithau â'i breichiau amdanynt yn eu cusanu bob yn ail a dywedyd, "O'r ddau hen gariad bach!" Ni chafodd neb fwy o groeso calon yn unman nag a gafodd Let ym Maesycoed y noson honno.

Yr oedd yn dda gan Beryl gael cyfle i'w holi ynghylch y ffordd i wneud y peth hwn neu'r peth arall. Addawodd Let ddyfod yno yn gynnar y nos Wener ddilynol i helpu Beryl i wneud y deisen a'r pwdin. Ysgrifennodd restr o bethau i'w prynu'n barod at y gwaith.

Daeth Let yn ôl ei haddewid, a chafwyd noson brysur iawn ym Maesycoed. Ni bu pwysicach gwaith yn unman erioed. Gwnaed y pwdin yn gyntaf. Yr oedd Beryl wedi glanhau'r ffrwythau'n barod. Cafodd pob un o'r pump roi help i'w gymysgu. Deuai hynny â lwc iddynt bob un, meddai Let, a'r sawl a gâi ar ei blât dydd Nadolig y darn tair ceiniog a roesai hi ynddo, a fyddai'r mwyaf lwcus o'r teulu.

Yna dodwyd y cwbl mewn llestr â lliain wedi ei glymu dros ei wyneb, yn barod i'w ferwi am saith neu wyth awr drannoeth.

Wedi gorffen â'r pwdin, gwnaed y deisen. Beryl a wnâi'r cwbl o dan gyfarwyddyd Let. Teisen a burym i'w chodi oedd ganddynt. Un felly oedd teisen Bodowen.

Wedi gwlychu'r toes, rhoddwyd ef yn y badell ar y pentan i fod yno drwy'r nos i godi. Cafodd Beryl orchmynion manwl sut i'w grasu.

"Rhaid i chwi, Let, ddod yma dydd Nadolig i gael rhan o'r pwdin a'r deisen," ebe Eric.

"O, a ddewch chwi, Let?" ebe Beryl a Nest gyda'i gilydd.

"Let dod," ebe Enid, a chau ei llygaid drachefn i gysgu. Nid oedd Geraint wedi clywed gair ers amser. Yr oedd ymhell wedi amser gwely, ac yr oedd cwsg wedi mynd yn drech na'r ddau. Eisteddent ar yr un gadair freichiau, a phwyso ar ei gilydd a'u llygaid ynghau.

"O'r rhai bach annwyl !" ebe Let.

"Y maent yn y gwely bob nos am saith," ebe Beryl. "Cânt fynd yn awr ymhen pum munud."

"Gedwch i fi eu rhoi yn y gwely heno," ebe Let.

"Cewch, yn wir," ebe Beryl. "Daw Nest â channwyll gyda chwi."

Tra buont hwy ar y llofft, cliriodd Beryl y ford, a gwnaeth swper bach blasus i Let a hwythau eu tri. Addawodd Let ddyfod atynt i dreulio dydd Nadolig. Caiff morynion ffermydd fynd adref fynychaf ar y dydd hwnnw. Dywedodd Let y deuai hi atynt hwy yn lle mynd i'w chartref ei hunan.

Mynnai Beryl i'r Nadolig cyntaf hwnnw ym Maesycoed fod mor debyg ag oedd bosibl i Nadolig ym Modowen. Pan ddaeth Let yno ychydig cyn amser cinio, Beryl ei hun oedd yn y tŷ. Aethai Eric a Nest a Geraint ac Enid i'r Gymanfa Bwnc yng nghapel Bryngwyn. Yr oedd tân siriol yn y drawing-room a'r piano'n agored. Ar y silff ben tân ac ar ben rhai o'r darluniau ar y wal yr oedd brigau o gelyn coch, ac ar y ford fach yn y cornel yr oedd dysgl hardd yn llawn o afalau ac orennau. Yn y gegin yr oedd y ford wedi ei hulio'n barod at ginio,—mor ofalus â phe disgwylid y cwmni mwyaf urddasol yno.

"Beth gaf fi ei wneud i'ch helpu, Beryl fach?" ebe Let.

"Ymwelydd ydych chwi heddiw," ebe Beryl. "Chwi sydd wedi bod yn gweini arnom ni am amser hir, ni sydd i weini arnoch chwi heddiw."

Ni chafodd Let amser i ddadlau, oherwydd daeth y plant adref o'r capel. Gorfu i Let fynd gyda hwy'n ufudd at y tân, hyd oni byddai Beryl yn barod i'w galw i gyd at ginio.

Yr oedd tri o blant yn y fferm lle y gwasanaethai Let, a phlant bach digon afreolus oeddynt. Ar brydiau bwyd, nid oedd ôl na dysg na threfn arnynt. Byddai eu mam, fynychaf, yn rhoi eu bwyd iddynt hwy o flaen pawb eraill, er mwyn cael tawelwch. Ymosodent arno ar unwaith. Eisteddent a bwytaent rywsut.

Codent ac aent allan weithiau cyn i neb arall orffen.

Gwahanol iawn oedd teulu Beryl. Yr oedd pryd bwyd ym Maesycoed yn fath o sacrament brydferth. Synnodd Let at y gweddeidd-dra a ddysgasai Beryl hyd yn oed i Geraint ac Enid. Synnodd fwy fyth at y ginio ragorol a baratoesai. Gellid meddwl ei bod wedi hen arfer â'r gwaith o baratoi bwyd.

Nid oedd yn bosibl na ddeuai atgofion atynt ar ddydd fel hwnnw.

"A ydych yn cofio blwyddyn i heddiw?" ebe Nest yn sydyn.

Nid atebodd neb ar unwaith, ond dywedodd Let mewn hanner ochenaid:

"Mhlant bach i!"

"Mae Dadi a Mami yn ein gweld ni, ond wedi mynd yn rhy bell i ni eu gweld hwy," ebe Geraint.

Yr oedd Geraint wedi cofio'r geiriau a ddywedasai Beryl wrtho ers llawer dydd.

Daethant yn siriol eto wrth dorri'r pwdin. Edrychodd Beryl yn ofalus trwy gyfran Geraint ac Enid, rhag bod y darn tair ynddo ac iddynt hwythau ei lyncu. Ond Eric a'i cafodd.

"Hwre!" ebr ef, a dal y darn arian rhwng ei fys a'i fawd.

"Hwre!" ebe Geraint ac Enid.

"Eric sydd yn mynd i gael y lwc," ebe Nest. "Mae e'n haeddu lwc," ebe Let.

"Hwre!" ebe Eric eto, a dim ond hynny. Ni wyddai neb beth oedd yn ei feddwl.

"Beryl fach," ebe Let, pan oeddynt hwy eu dwy yn y gegin ar ôl te, "mae'n dda gen i'ch gweld mor gysurus. Y mae gofalu am y plant yma, eu dysgu, a chadw cartref yn well ac yn uwch gwaith na dim a allech ei wneud mewn coleg. Yr ydych fel mam iddynt, ac y maent i gyd mor ufudd ichwi ac mor barchus ohonoch."

"Hynny sydd yn ei gwneud yn bosibl imi fod yma," ebe Beryl, a'i llygaid yn llawn. "Pe na bai gennyf ddylanwad arnynt, torrwn fy nghalon."

"Os yw'ch tad a'ch mam yn eich gweld, maent yn dweud, 'Da iawn, Beryl fach,' bob dydd."

Wylodd Beryl yn hidl, ac wylodd Let gyda hi. Ond dagrau melys oeddynt, ac y mae'n dda, weithiau, cael cwmni i wylo.

XIV.

Ti gei
Yn ôl yr hyn a wnei :
Os bydd
Dy daith i'r dydd, y dydd a gei.
—ELFED.

Bов prynhawn Sadwrn, pan fyddai'r tywydd yn braf, byddai Beryl a Nest a Geraint ac Enid yn mynd allan am dro hyd bentref Bryngwyn. Yno prynai Beryl fwyd ar gyfer yr wythnos ddilynol. Yr oedd milltir o ffordd o Faesycoed i'r siop. Yr oedd hi ar ben pellaf y pentref. Aent heibio'r ysgol a'r capel i fynd tuag yno.

Un prynhawn ym mis Ebrill, yn lle mynd i Fryngwyn, cerddodd y pedwar i'r dref. Yr oedd eisiau esgidiau ar Geraint ac Enid, am fod y rhai a oedd ganddynt wedi mynd yn rhy fach iddynt. Tyfai'r ddau'n gyflym.

Hwnnw oedd y tro cyntaf i'r ddau fach fod yn Llanilin. Gwelsant lawer o ryfeddodau yno. Mynnent aros i edrych ar bob siop.

Yr oedd yno un siop esgidiau fawr. Nid siop gymysg o ddillad, esgidiau, bwyd, a phob math o beth arall ydoedd. Dim ond esgidiau a werthid ynddi. Yr oedd yno ddigon o gadeiriau fel y gallai'r prynwyr eistedd tra fyddent yn treio'r esgidiau. Yr oedd pedair o ferched ieuainc mewn dillad duon yno i helpu pobl i ddewis eu hesgidiau, a hyd yn oed eu helpu i'w gwisgo.

Tynnodd Geraint ac Enid sylw pawb yn y siop. Yr oeddynt wedi eu gwisgo mor bert y prynhawn hwnnw, ac yr oeddynt mor iach eu golwg ac mor lân. Oni bai am eu dillad gwahanol, ni ellid adnabod un oddi wrth y llall. Yr oedd pennau cyrliog y ddau, a'u hwynebau, yr un fath yn union.

"O, dyma ddau fach annwyl!" meddai'r ferch a weiniai arnynt.

Edrychai pob un o'r merched eraill yn garuaidd arnynt wrth fynd yn ôl ac ymlaen yn brysur gyda'u gwaith. Adwaenai rhai ohonynt Beryl a Nest, a gwyddent eu hanes. Cyn iddynt fynd, daeth perchen y siop ei hun atynt i siarad â'r pedwar ac i holi eu hynt. Dywedodd yr adwaenai eu tad a'u mam yn dda. Rhoes swllt bob un i Geraint ac Enid, a dywedodd wrthynt am brynu rhywbeth cyn mynd adref.

"Dyna ddyn neis!" ebe Nest wedi mynd allan.

"Ie'n wir, dyn neis iawn," ebe Beryl.

"Wyddost ti beth sydd wedi dod i'm meddwl?" ebe Nest eto. "Mi hoffwn gael lle yn y siop yna ar ôl gadael yr ysgol."

"Mewn siop esgidiau! Dylit gael mynd i'r Ysgol Sir, Nest fach," ebe Beryl.

"Na, rhaid imi ddechrau ennill," ebe Nest. Ni chawsant amser i siarad ymhellach ar y pwnc ar y pryd hwnnw. Yr oedd eisiau prynu rhai pethau eraill, ac eisiau edrych ar ôl y ddau fach, rhag iddynt fynd o dan draed y ceffylau, oherwydd dydd prysur yn Llanilin oedd dydd Sadwrn. Cawsant eu cario adref yng nghart Penlan. Yr oeddynt yn falch ar y cyfle, gan fod Geraint ac Enid wedi blino'n enbyd.

Yr oedd golwg lon iawn ar Eric pan ddaeth adref y noson honno. Cyn cymryd amser i dynnu ei gôt a'i gap, daeth i'r gegin a rhoes ddeg swllt ar y ford, a dywedodd:

"Yr wyf wedi cael codiad. Caf ddeg swllt mwy bob wythnos."

"O, Eric!" gwaeddai Beryl a Nest gyda'i gilydd.

"Dywedodd Mr. Hywel os awn ymlaen fel yr wyf wedi dechrau, y cawn godiad arall ymhen hanner blwyddyn."

"Da, machgen i, Eric," ebe Beryl.

"Rhaid dy fod wedi gweithio'n lled dda'n wir cyn cael codiad mor fuan," ebe Nest.

"Byddaf cyn bo hir yn ennill digon fel na bydd eisiau gwario dim o'r arian sydd yn y banc," ebe Eric. "Faint sydd wedi mynd erbyn hyn, Beryl?"

"Yr ydym wedi cael punt allan bob wythnos. Y maent erbyn hyn yn ddwy neu dair punt ar hugain. Ond nid ydynt wedi eu gwario i gyd. Y mae gennyf dair punt yn y tŷ. Yr wyf yn cadw cymaint ag a allaf erbyn bydd eisiau dillad newydd arnom."

"Wn i ddim sut yr wyt yn gallu cael digon o fwyd inni i gyd ar hynny," ebe Eric.

"Y mae'n dda ein bod wedi ein dysgu bob un i fyw'n gynnil, ac y mae pobl wedi bod yn garedig iawn yn dod â llaeth ac ymenyn inni."

"Byddaf finnau'n ennill rhywfaint cyn diwedd y flwyddyn," ebe Nest.

"Ti'n ennill! Rhaid iti fynd i'r Ysgol Sir," ebe Eric.

"Na, nid yw'n deg i ti weithio i'm cadw i yn yr ysgol," ebe Nest.

"Fi yw dyn y teulu. A beth a all merch fel ti ei ennill?" ebe Eric.

"Y mae Nest wedi cymryd ffansi mewn siop esgidiau," ebe Beryl.

"Yr wyf yn siwr yr hoffwn y gwaith," ebe Nest. "Gweld digon o bobl, gwaith ysgafn, a bod yn y dre bob dydd."

"Y mae llawer o bethau mewn busnes na fuaset ti ddim yn eu hoffi," ebe Eric. "Meddwl amdanat ti mewn siop esgidiau!"

"Pam fi mwy na'r merched eraill?" ebe Nest.

"A beth ddaw o'th ganu?" ebe Eric eto.. "Gallwn gael gwersi eto wedyn ar ôl ennill tipyn o arian," ebe Nest.

"Wel, mae tri mis cyn byddi wedi gorffen â'r ysgol. Cawn ddigon o amser i feddwl am y peth," ebe Beryl.

"Byddaf yn siwr o freuddwydio heno fy mod mewn siop esgidiau ac yn ennill dwybunt yr wythnos," ebe Nest.

"Dwy bunt! Byddi'n hen iawn cyn ennill cymaint â hynny mewn siop esgidiau," ebe Eric.

"Aros di dipyn bach," ebe Nest.

"Peidiwch â meddwl gormod am ennill arian, blant," ebe Beryl, "y mae pethau pwysicach yn bod."

XV.

Gorau arf, arf dysg.

—HEN DDIHAREB.

DAETH yn bryd i Geraint ac Enid fynd i'r ysgol. Yr oedd yn anodd gan Beryl feddwl eu gadael o'i golwg, ond yr oedd am iddynt ddechrau mynd i'r ysgol tra fyddai Nest yno. Felly, wedi llawer o baratoi, cafodd y ddau fach fynd un bore Llun ym mis Mai.

Aeth Beryl i hebrwng y tri hyd dro'r ffordd, yna safodd nes iddynt gyrraedd y tro arall a throi'n ôl i ysgwyd dwylo arni cyn mynd o'r golwg. Yna aeth yn ôl ei hun i'r tŷ.

Cafodd ddigon o amser i feddwl yn ystod y dydd hwnnw. Dyna'r dydd hwyaf a dreuliodd erioed. Cofiai dôn a geiriau ei mam y noson honno ym Modowen pan siaradent hwy eu tri,—Eric a Nest a hithau,—yn eu hafiaith am yr hyn y bwriadent ei wneud yn y byd, a'r teithio gogoneddus oedd o'u blaen. Ie, tebyg mai gadael eich tad a minnau a wnewch i gyd ryw ddiwrnod," oedd geiriau lleddf y fam. Yr oedd yr un profiad i ddyfod iddi hithau. Yr oedd eisoes wedi dechrau dyfod. Mynd ymhellach oddi wrthi bob dydd mwy a wnâi ei phlant bach. Tyfent, crwydrent, aent o gyrraedd ei dylanwad. Efallai na byddai ei heisiau hi arnynt. Dechreuodd Beryl wybod am yr ing sydd yng nghlwm wrth gariad.

"O dir!" ebe hi wrthi ei hun, yr wyf yn edrych yn rhy bell i'r dyfodol ac yn mynd o flaen gofid. Ni chaf fy ngadael am flynyddoedd eto.

Y pwnc imi yn awr yw fy ngwneud fy hun yn barod erbyn y daw hynny i ben. Y mae gennyf amser. Oni wnaf ddefnydd da ohono, arnaf fi y bydd y bai."

Felly, ar brynhawnau hyfryd yr haf hwnnw, cariai Beryl ei llyfrau a'i chadair i gornel uchaf yr ardd, o dan y pren cnau ceffylau, a darllenai ac astudiai. Darllen ei hoff lyfrau a wnâi yn y Gymraeg a'r Saesneg,—Gweithiau Ceiriog, Caniadau Cymru, Cerrig y Rhyd, Sioned, Gwilym a Benni Bach, Kenilworth, Ivanhoe, ac eraill. Yn y Ffrangeg, ail astudiodd yn ofalus bob un o'i llyfrau ysgol. Carai ddyfod i fedru siarad Ffrangeg yn gywir, a'i darllen yn ddidrafferth.

Daliodd Eric hi ar ganol ei hastudio un prynhawn wedi dyfod adref yn gynt nag y disgwyliai hi ef. Yr oedd Eric wedi tyfu llawer yn ddiweddar. Ymffrostiai ei fod yn dalach na Beryl. Yr oedd ei lais hefyd yn troi o fod yn llais plentyn i fod yn llais dyn.

Pa flas wyt ti'n ei gael i astudio wrthyt dy hunan?" oedd un o'i gwestiynau cyntaf.

Yr wyf wrth fy modd," ebe Beryl, "ac yn dysgu cymaint arall â phe bawn mewn dosbarth. Ond mi hoffwn fod mewn dosbarth i ddysgu Ffrangeg, neu gael athro, o leiaf, rhag ofn nad wyf yn dweud y geiriau'n iawn." "Rhaid iti fynd i'r Foreign Language School."

Beth yw honno?"

Ysgol lle dysgir ieithoedd trwy eu siarad. Y mae un newydd ei hagor yn Llanilin."

"Y mae'n ddrud iawn, mae'n debyg, Pwy sydd yn mynd iddi?"

"Y mae Glyn Owen yn mynd. Bu'n gofyn i mi ddod. Y mae ei chwaer yn mynd hefyd."

"Merch Dr. Owen? Beth yw ei henw?"

"Alys."

"Sut daethost ti i'w hadnabod hwy?"

"Y mae Glyn yn ein côr ni."

"A yw Alys hefyd?"

"Na, ond yr wyf wedi ei gweld gyda Glyn unwaith neu ddwy yn y siop."

Edrychai Eric trwy un o lyfrau Ffrangeg Beryl wrth ddweud hyn. Tybiai hi weld gwrid ysgafn ar ei rudd.

"A fuost ti'n siarad ag Alys erioed?"

"O, nid wyf yn cofio'n iawn. Do, efallai, unwaith neu ddwy. Gefeilliaid yw Glyn a hithau, fel Geraint ag Enid. Dyna beth od!

"Gefeilliaid! A ydynt yn debyg iawn i'w gilydd?"

"O na, mae digon o wahaniaeth rhyngddynt."

Bu Beryl yn ddistaw am dipyn. Aeth ei meddwl ymhell i'r dyfodol. Gwelodd yno ddarluniau na feddyliasai amdanynt o'r blaen.

"Byddai Ffrangeg yn ddefnyddiol iawn i tithau," ebe hi. "Beth ped ymunem ein dau â'r dosbarth?"

"Nid oes mwy na chwech i fod mewn un dosbarth. Efallai fod dosbarth Glyn wedi ei lanw," ebe Eric.

"Ac efallai nad yw. Ond gallem ymuno â rhyw ddosbarth arall. Myn wybod beth yw'r tâl."

Cyn pen wythnos arall, yr oedd y trefniadau wedi eu gwneud. Am saith o'r gloch nos Fercher y cynhelid y dosbarth. Gan fod y nosweithiau'n olau, yr oedd Nest yn fodlon aros ei hun gartref gyda Geraint ac Enid. Y chwe disgybl oedd Eric, a Beryl, Glyn ac Alys, a Mr. a Mrs. Brown, ysgolfeistr newydd Llanilin a'i wraig.

Ni allai Beryl ac Eric fforddio mwy nag un cwrs o dri mis, ond bu'r cwrs byr hwnnw yn lles i Ffrangeg y ddau, a'r newid o fod yn y cartref o hyd yn lles i gorff a meddwl Beryl.

XVI.

A'i gwallt fel banadl melyn,
A rhosyn oedd ei gwên.
—WIL IFAN.

NID i'r siop esgidiau yr aeth Nest wedi'r cwbl, ond i'r Ysgol Sir i Lanilin. Pan welwyd fod enw Nest Arthur ymhlith y rhai a enillasai Ysgoloriaeth o ysgol Aelybryn, bu dadlau brwd ar aelwyd Maesycoed. Eric oedd dyn y teulu, ac ef, gan hynny, meddai ef, a wyddai beth oedd orau er lles Nest.

"Ond, Eric bach, y mae eisiau imi ennill arian, ac y mae'n well gennyf fynd i siop esgidiau na mynd i'r ysgol," ebe Nest.

"Chei di ddim mynd i siop esgidiau nac i un siop arall," ebe Eric. "Ni fyddi di ddim yn neb byth os dechreui di mewn siop, a thithau heb gael dim addysg. Y dyddiau hyn, ar lawr y mae pawb sydd heb addysg."

"Yr wyt ti'n siarad fel dyn profiadol," ebe Nest.

"Fi yw dyn y teulu," ebe Eric.

"Eric sydd yn iawn, Nest fach," ebe Beryl. "Cofia am y pwys a roddai 'nhad ar addysg."

"Beth amdanoch chwi eich dau, ynteu? ebe Nest.

"Y mae Beryl a minnau wedi cael addysg Ysgol Sir," ebe Eric, ac yr ydym yn parhau i ddysgu o hyd. Rhaid i tithau gael yr un chwarae teg â ninnau o leiaf, a chawn weld beth a ddaw wedyn."

"Ond o ble daw'r arian, blant bach? Cofiwch am Geraint ac Enid. Bydd eisiau rhywbeth ar eu cyfer hwy," ebe Nest.

"Ymhell cyn deui di allan o'r Ysgol Sir, byddaf fi'n ennill digon fel na bydd eisiau pryderu," ebe Eric.

"Byddi dithau'n ennill arian mawr wedi cael ysgol a choleg, a chei dithau helpu wedyn," ebe Beryl.

"O dîr! Chwi eich dau yw'r meistr a'r feistres, mae'n debyg, a rhaid imi ufuddhau," ebe Nest, a gwenu'n fwyn ar ei brawd a'i chwaer.

Rhoes Beryl ei breichiau amdani a'i gwasgu at ei chalon. "Nid rhyfedd," meddai wrthi ei hun, "fod pawb mor hoff o Nest. Y mae mor annwyl ac mor bert."

Felly, yn ystod y flwyddyn ddilynol, aeth Eric i Lanilin fel arfer, Nest i Dregwerin, a Geraint ac Enid i Aelybryn. Tua'r un pellter oedd Tregwerin o Faesycoed ag o Fodowen. A dilyn llwybr troed trwy'r caeau am ran o'r ffordd, nid oedd yn fwy na milltir a hanner.

Aethai'r Eisteddfod heibio—heb wobr i gôr Mr. Morgan. Bwriadai fod yn fuddugol yn yr un nesaf, wedi i'w gantorion ieuainc gael blwyddyn arall o'i addysg ef. Erbyn hyn yr oedd Eric dros yr oed i ymuno â'r côr, ac yr oedd Nest yn rhy brysur gyda'i gwersi i feddwl gwneud hynny. Un nos Sul ym mis Mai, daeth Mr. Morgan i Faesycoed i erfyn ar Nest gystadlu ar y Solo i ferched o dan un ar bymtheg oed. "Eos Lais" oedd yr alaw. Byddai'n taro llais Nest i'r dim. Gwnâi ef ei orau glas i'w dysgu'n dda. Yr oedd eisiau i Nest ddechrau canu'n gyhoeddus, ac yr oedd eisiau i bobl yr ardal a'r cylch wybod pa fath gantores oedd yn eu plith. Yr oedd gini o wobr. Peth arall, os enillai yn Llanilin, diau y teimlai'n ddigon cryf i ganu mewn Eisteddfodau eraill ar hyd a lled y wlad. Yr. oedd modd ennill llawer o arian felly.

Gwelodd Nest yn hyn gyfle i helpu Beryl ac Eric, ac addawodd gystadlu.

Daeth y dydd pwysig o'r diwedd,—y pwysicaf o holl ddyddiau'r flwyddyn yn ardal Llanilin. Yr oedd heolydd y dref yn llawn o bobl a cherbydau yn gynnar yn y bore.

Dechreuai cyfarfod cyntaf yr Eisteddfod am ddeg. Ni orffennid tan chwech yn y prynhawn. Byddai "Cyngerdd Mawreddog" drachefn yn yr hwyr.

Aeth Eric a Beryl a Nest yno erbyn deg. Yr oedd Eric wedi sicrhau lleoedd yn barod erbyn cyfarfod y prynhawn. Am un ar ddeg yr oedd rhagbraw ar y Solo yn un o gapeli'r dref. Hyd hynny caent aros ar y cae a gweld y tyrfaoedd yn dylifo i'r babell.

Câi Beryl a Nest bleser mawr wrth sylwi ar wisgoedd y merched. Gwisgai pob un ei dillad gorau ar y dydd hwnnw. Yr oedd dillad newydd ganddynt hwythau eu dwy. Ffroc fach syml o sidan gwyn oedd gan Nest. Un o ddefnydd ysgafn lliw blodau'r grug oedd gan Beryl. Meddyliai Eric nad oedd harddach dwy chwaer gan neb; ond ni ddywedodd air am hynny.

Yr oedd Geraint ac Enid wedi mynd i Benylan am y dydd. Gofynasai Mrs. Lewis am gael gofalu amdanynt. Byddai'n dda ganddi gael eu cwmni, gan mai hi'n unig o'r teulu a fyddai gartref ar y dydd hwnnw.

Daethant o'r rhag braw yn llawen. Yr oedd Nest i fod yn un o dair i ganu ar y llwyfan. Wedi cael bwyd, aethant i'w lleoedd yn y babell, ond yr oeddynt eu tri'n rhy gyffrous i sylwi llawer ar ddim a âi ymlaen.

"O dîr!" ebe Nest, "buaswn i 'n hapus pe bawn wedi canu—gwobr neu beidio. A beth os methaf eto, ar ôl yr holl ffwdan!" Gwna dy orau. Ni all neb ddisgwyl iti wneud mwy," ebe Beryl.

Yr wyt yn siwr o ennill," ebe Eric yn bendant.

"Ti yw dyn y teulu, felly dylet wybod," ebe Nest.

Unig ofn Mr. Morgan oedd y câi Nest ofn y dyrfa fawr. Un peth yw canu mewn capel i ddyrnaid o bobl, peth arall yw sefyll o flaen torf fawr mewn pabell eang am y tro cyntaf.

O'r diwedd, bloeddiodd yr arweinydd:

"Bydded y merched dan un ar bymtheg oed sydd yn cystadlu ar Eos Lais' yn barod i ganu ar ôl yr unawd ar y crwth. Y tair sydd i ddyfod i'r llwyfan yw 'Eos Unig,' Ceridwen,' a 'Nest.'"

Nest oedd yr olaf i ganu. Edrychai'n hardd iawn ar y llwyfan yn ei gwisg wen, ei hwyneb yn fwynder i gyd, a'i gwallt fel gwawl ar ei phen.

"Eric," ebe Beryl mewn sibrwd, "mae Nest fel angel."

"ERIC," EBE BERYL,"MAE NEST FEL ANGEL".






Canodd y piano'r llinell agoriadol, a dyna lais clir, mwyn, hiraethus, Nest yn swyno'r dorf:

Pa hyfryd-lais pêr ei fri

Nid oedd arwydd o ofn yn y llais hwnnw. Yr oedd Nest, yn ddiau, wedi anghofio presenoldeb pawb. Canai fel eos. Rhoes rywbeth yn y gân fach syml nas gwelsai neb ynddi o'r blaen,—hiraeth a dwyster, llonder a chwarae. Disgleiriai llygaid Eric. Treiglai'r naill ddeigryn ar ôl y llall ar hyd gruddiau Beryl. Yr oedd arni gywilydd eu sychu, a thrwy hynny ddangos eu bod yno. Nid hi oedd yr unig un â llygaid llaith yn y lle. Dyna Nest wedi gorffen, a dyna daranau o gymeradwyaeth.

Wrth ddyfarnu'r wobr iddi, dywedodd y beirniad fod dyfodol gwych o flaen y gantores fach honno. Os câi ei llais y driniaeth a haeddai, ac yr oedd yn rhaid i rywun ofalu am hynny, fel na chollid peth mor werthfawr,— teimlai ef yn siwr y deuai Cymru gyfan i wybod amdani, ie, a'r byd hefyd!

Gwenu'n wylaidd a wnâi Nest wrth dderbyn y wobr yn sŵn y curo dwylo, a meddwl mor amhosibl oedd i eiriau'r beirniad byth ddyfod i ben.

XVII

Gwnaed hiraeth im ei waetha,
A'i bod Hi yn dwyn byd da !
—DIENW.

TUA milltir tu allan i Lanilin, ar yr ochr bellaf oddi wrth Faesycoed, yr oedd Plas Gwynnant. Gwelid ei simneiau ac ychydig o'i do o ben uchaf gardd Maesycoed. Adwaenai'r plant fodur y Plas. Yr oedd yn fwy ac yn ogoneddusach ei olwg nag unrhyw fodur arall a âi ar hyd y ffordd honno.

Tua phump o'r gloch brynhawn y Sul ar ôl yr Eisteddfod, yr oedd Beryl a Nest yn y gegin yn golchi'r llestri tê. Yr oedd Eric a Geraint ac Enid yng nghornel uchaf yr ardd. Yr oedd yno fainc gysurus i eistedd arni erbyn hyn, wedi ei gwneud o brennau heb eu naddu.

Beryl," ebe Nest mewn cyffro, "y mae modur Plas Gwynnant wedi aros o flaen y tŷ, a Syr Tomos a Lady Rhydderch ynddo, yr wyf yn siwr."

Gyda hynny, yr oedd y gyrrwr wrth y drws. Dywedodd ei neges:

"Hoffai Lady Rhydderch a'i ffrind, Mrs. Mackenzie, siarad â Miss Nest Arthur a'i chwaer, os gwelwch yn dda, Miss."

Aeth Beryl allan ar unwaith at y cerbyd i wahodd y ddwy i'r tŷ. Yr oedd yn dda ganddi fod Nest a hithau yn eu dillad dydd Sul. Cymraes oedd Mrs. Mackenzie, ond Saesnes oedd Lady Rhydderch; felly, yr oedd yn rhaid siarad yn Saesneg. Edrychai'r ddwy yn syn ar Beryl. Synnent at ei thawelwch hunan-feddiannol. Fynychaf, pan siaradent hwy â phobl yr ardal, gwelent wylltu a gwrido. Arweiniodd Beryl hwy i'w thŷ, a gwahoddodd hwy yn dawel a moesgar i eistedd, fel petai'n hollol gyfarwydd â throi ymhlith pobl o'u safle hwy. Yr oedd ei Saesneg hefyd cystal â'u Saesneg hwythau. Edmygai'r ddwy hi. Yna daeth Nest i mewn.

"Ah! This is the young lady who charmed us all with her singing," ebe Lady Rhydderch, ac ysgydwodd y ddwy ddwylo â hi.

Yna dywedodd Lady Rhydderch:

"This is my dearest friend, Mrs. Mackenzie, of London. She wished me to bring her here to see you. Now she can speak for herself."

Yna dywedodd Mrs. Mackenzie ei neges. Yr oedd Syr Tomos a Lady Rhydderch a hithau yn yr Eisteddfod, a swynwyd hwy gan ganu Nest. Teimlent fel y beirniad, y dylai llais mor ardderchog gael ei drin a'i ddatblygu. Byddai'n golled i Gymru ac i'r byd oni wneid hynny. Gwyddai hi rywbeth am gerddoriaeth. Yr oedd ei phriod, y diweddar Dr. Mackenzie,—efallai y gwyddent am ei enw, —yn gerddor o fri, ac yr oedd ei gyfeillion ef o hyd yn gyfeillion iddi hi. Yr oedd wedi holi eu hanes hwy ar ôl yr Eisteddfod, a gwyddai mai amddifaid oeddynt, a'u bod wedi eu dwyn i fyny'n ofalus, a'u bod yn nodedig o ddewr, a phobl yr ardal i gyd yn edrych i fyny atynt. Ac yn awr yr oedd am ofyn ffafr ganddynt. A gâi hi'r fraint o ofalu am addysg Miss Nest? Yr oedd wedi trefnu'r cwbl yn ei meddwl. Gwyddai am athro llais heb ei ail yn Llundain. Diau y byddai eisiau dysgu pethau eraill arni. Gwyddai am rai i wneud hynny hefyd. Ei dymuniad oedd rhoi'r addysg orau i Miss Nest i'w pharatoi at fod yn gantores fyd-enwog. Beth a ddywedent eu dwy am hyn?

Edrychodd Beryl yn syn o'i blaen am funud, ac yna ar ben euraid Nest yn ei hymyl. Crynai ei gwefusau er ei gwaethaf, ac yr oedd ei llygaid yn llaith pan atebodd:

Yr ydych yn garedig iawn, ac yr ydym yn diolch o galon i chwi. Gallwn ddweud hynny, beth bynnag. Y mae brawd gennym. Gwell iddo yntau glywed eich cynnig caredig. Galw ar y tri, Nest fach."

Troes y ddwy foneddiges i weld bachgen tal, golygus, yn dyfod i mewn trwy'r drws, ac ar ei ôl gyda Nest ddau fach yn union yr un fath â'i gilydd, ond bod dillad bachgen am un a dillad merch am y llall. Yr oedd y ddau wyneb yr un fath, a'r ddeubar llygaid, a'r ddau ben du, cyrliog.

"Oh, the darlings!" ebe Lady Rhydderch.

Dyma'n brodyr a'n chwaer," ebe Beryl. "Eric, dyma Lady Rhydderch a Mrs. Mackenzie."

Ysgydwasant ddwylo â'r tri, a bu'r ddwy am beth amser yn ceisio cael gan Geraint ac Enid siarad â hwy. Ni wnâi'r ddau ond gwenu arnynt.

Yr wyf yn ofni na allant eich ateb yn Saesneg. Cymraeg yw eu hunig iaith hyd yn hyn," ebe Beryl.

"Da iawn," ebe Mrs. Mackenzie, "a dyna fel y dylai fod hefyd. Cânt ddigon o amser eto i ddysgu Saesneg."

Yna rhoes ei chynnig ynglŷn â Nest o flaen Eric.

"Y mae'n anodd inni ateb yn bendant heno," ebe Eric, wedi diolch iddi. "A gawn ni ychydig amser i feddwl am y peth ac i siarad â'n gilydd?"

"O cewch, bid siwr," ebe Mrs. Mackenzie. Byddaf fi ym Mhlas Gwynnant hyd fore Iau."

Trefnwyd eu bod i anfon eu penderfyniad trwy lythyr i Mrs. Mackenzie erbyn bore Mawrth. Wedi iddynt fynd, dywedodd Beryl:

"Y mae'n hen bryd mynd i'r cwrdd. Cawn siarad am hyn heno."

Eisiau amser i feddwl oedd ar Beryl.

XVIII

Dedwydd fôm, er ein didol.
—EBEN FARDD.

"O DÎR!" ebe Nest, pan oedd y tri wrth y tân gyda'i gilydd ar ôl swper, "dyna ffwdan sydd ynglŷn â mi! Newydd fy setlo yn yr Ysgol Sir ydych, ac yn awr dyma'r ysgwyd hwn eto."

"Y mae'n gyfle rhagorol iti. Yr wyt am ei dderbyn, wrth gwrs?" ebe Eric.

"Ei dderbyn? Mynd a'ch gadael chwi i gyd, a byw fy hunan yng nghanol dieithriaid? Na wnaf, yn wir," ebe Nest.

"Paid â phenderfynu heb feddwl digon, Nest fach," ebe Eric.

'Dyna ddistaw wyt ti, Beryl! A wyt ti am imi fynd, ynteu?" ebe Nest.

"O, nid fel yna, Nest, Yr wyf am dreio bodloni i'th weld yn mynd, os barnwn mai hynny a fydd orau er dy les," ebe Beryl.

"Y mae Llundain mor bell. Y mae'n neis iawn arnom gyda'n gilydd. Ti, Beryl, oedd fwyaf am inni aros gyda'n gilydd pan fu mam farw. Sefaist yn erbyn ein gwasgaru bryd hwnnw. Pam wyt ti wedi newid ?"

"Nid yr un peth yw hyn, Nest fach," ebe Beryl, a'r dagrau yn ei llygaid. "Y mae cartref gennym yn awr. Byddwn yn un teulu mwy, a bydd aelwyd ein hunain gennym i ddyfod yn ôl iddi o bobman."

"Y mae rhywbeth yn dyfod i wasgaru pob teulu, hwyr neu hwyrach," ebe Eric.

"Pe bawn i wedi mynd i siop esgidiau yn Llanilin, gallem fyw yma gyda'n gilydd am amser hir a thalu'n ffordd yn iawn," ebe Nest. A cholli dy gyfle," ebe Eric. "Ni buaset yn well na rhyw ferch arall o'r ardal yma. Buaset yn waeth,—wedi cael talent ac wedi ei chuddio."

"O Eric!" ebe Nest.

"Gwell inni adael y peth heno," ebe Beryl. "Dewch i siarad am rywbeth arall. Efallai y gwelwn bethau'n gliriach yn y bore."

"Efallai y daw golau yn y nos," ebe Nest, a chwerthin â'i llais melodaidd.

"Efallai y byddaf fi yn Llundain yn y gwanwyn," ebe Eric.

"Ti yn Llundain !" ebe'r ddwy.

"Ie, ar fy ffordd i Baris."

"Da di, bydd ddistaw, Eric," ebe Nest. "Y mae'n eithaf gwir. Dywedodd Mr. Hywel ddoe o flaen Stan Powel, wedi imi ddarllen a chyfieithu llythyr Ffrangeg iddo, a Stan wedi methu, Dyma'r bachgen sydd i ddod gyda mi i Baris yn y gwanwyn."

"Pam na fuaset ti'n dweud hyn wrthym ni neithiwr?" ebe Beryl.

"Ni chofiais ddim am y peth."

"Naddo, mae'n debyg! A wyt ti'n golygu inni gredu hyn'na?" ebe Nest.

"Wel, yr oeddwn am fod yn siwr cyn dweud dim."

"Beth ddywedodd Stanley?" ebe Beryl.

"Dim, ond aeth mor wyn â'r calch, a pheidiodd ag edrych arnaf trwy'r prynhawn." "Mi gwelais i ef yn y capel bore heddiw yn edrych yn gas iawn arnat," ebe Nest.

Wel, ei fusnes ef yw ei wneud ei hun yn addas i'w waith. Gallasai fod wedi mynd i'r dosbarth Ffrangeg fel ninnau."

"Faint yw ef yn hŷn na thi?" ebe Beryl. "Dim ond blwyddyn."

"O, 'rwy'n gobeithio mai ti gaiff fynd," ebe Nest.

"Good old Nest," ebe Eric.

"Paid â gwneud gelyn ohono, os gelli," ebe Beryl. "Y mae Mr. Harris, ei ewythr, yn ddyn mawr yn y siop."

"O, nid wyf fi'n hidio dim am Stan," ebe Eric.

Yn y tywyllwch, wedi mynd i'r gwely, y bu'r ddwy chwaer yn siarad drachefn am y pwnc mawr.

"Pe gwyddet yn siwr y deuet yn gantores fawr, a fuaset ti'n fodlon mynd?" ebe Beryl. "Pe bawn i'n siwr o hynny, mi awn. Gallwn eich helpu chwi wedyn, a dyfod yn ôl yma i fyw ar ôl gorffen dysgu," ebe Nest. "O, Nest annwyl !" ebe Beryl, ond ni ddywedodd ychwaneg o'r hyn oedd ar ei meddwl. "Cofia, bydd hiraeth ofnadwy arnaf," ebe Nest.

"Bydd hiraeth ofnadwy arnom ninnau, ond rhaid inni dreio concro hwnnw," ebe Beryl. Yn sydyn, felly, wedi'r cwbl, y gwnaed y penderfyniad pwysig. Nid ail-agorwyd y pwnc drachefn. Daeth yn ddealledig fod Nest i fynd. Pan ddaeth Eric adref nos Lun, yr oedd Beryl yn brysur yn smwddio rhai o ddillad Nest a olchasai y diwrnod hwnnw, a Nest ei hun yn gwnïo rhywbeth wrth y ffenestr. Yr oedd y paratoadau wedi eu dechrau, a'r llythyr i Mrs. Mackenzie wedi mynd i'r post.

Daeth bore Iau. Yr oedd y modur i ddyfod am naw. Arhosodd Eric, gyda chaniatâd parod ei feistr, i weld Nest yn cychwyn. Byr iawn fu'r ffarwel, a dyna Nest wedi mynd. Yna aeth Eric yn benisel drwy'r iet fach ac i lawr drwy'r heol. Aeth Beryl yn ôl i'r tŷ ac wylodd yn chwerw, a Geraint ac Enid yn edrych yn syn arni.

XIX

Cofio, cofio mae fy meddwl
Am y cilwg cas,
A achosodd y fath gwmwl
Yn fy wybren las.
—GWILYM WILLIAMS.

DYDDIAU rhyfedd i Beryl a fu'r rhai cyntaf hynny ar ôl ymadawiad Nest. Byrdwn ei gofid oedd fod Nest fach ymhell o'i chartref, yn byw gyda dieithriaid, a hithau heb wybod sut oedd arni, ac yn rhy bell i'w chysuro.

Bore dydd Sadwrn, daeth cerdyn oddi wrth Nest yn dywedyd ei bod wedi cyrraedd yn ddiogel ac yn addo llythyr ddechrau'r wythnos. Daeth hwnnw, ac ynddo hanes manwl a sŵn hiraeth. Yr oedd hi'n lletya mewn tŷ hardd iawn. Yr oedd yno dair o ferched eraill. Yr oeddynt hwythau i gyd yn dysgu canu. Yr oedd ganddi hi ystafell wely fach, fach, iddi ei hun. Mrs. Fraser oedd enw gwraig y tŷ. Yr oedd rywbeth yn debyg i Mrs. Mackenzie. Caent eu bwyd gyda'i gilydd i gyd, Mrs. Fraser hefyd, a'r forwyn yn gweini. Mary oedd enw'r forwyn. Caent eu gwersi mewn ystafell fawr ar y llofft. Yr oeddynt yn mynd i ddysgu pethau eraill heblaw canu. Caent wybod mwy yn y llythyr nesaf. Yr oedd am lythyr yn ôl gyda'r troad, a phob newyddion ynddo. Yr oedd hi'n eithaf hapus. Byddai'n dyfod adref dros y Nadolig.

Am beth amser ar ôl hyn, cael llythyr oddi wrth Nest oedd prif ddigwyddiad y dyddiau ym Maesycoed. Ond ymhell cyn y Nadolig, daeth rhywbeth arall a yrrodd hyd yn oed Nest a'i hamgylchiadau i'r cysgod.

Un hwyr, sylwodd Beryl fod golwg ofidus ar Eric pan ddaeth i'r tŷ. Tynnodd ei gôt a'i gap fel arfer, a daeth at y tân heb wneud fawr sylw o Geraint ac Enid. Yn lle hynny, cymerodd lyfr a mwmian canu wrth edrych arno. Ar yr un pryd yr oedd fflam yn ei lygaid. Gwyddai Beryl, heb holi, fod rhyw- beth yn ei flino. Ni thwyllid hi gan y canu. Dyna ffordd rhai pobl o geisio cuddio'u blinderau oddi wrth eraill ac oddi wrthynt eu hunain.

Wedi i Geraint ac Enid fynd i'w gwelyau, gofynnodd Beryl :

"A oes rhywbeth wedi digwydd, Eric?"

Pam 'rwyt ti'n gofyn?"

"Gwn er pan ddaethost i'r tŷ fod rhywbeth yn dy flino. Beth sydd?"

O, wel, dim o bwys. Nid yw'n werth sôn amdano."

"Bach neu fawr, dywed ef wrthyf fi, Eric bach. Byddaf yn esmwythach fy meddwl, a byddi dithau hefyd yn well."

"Wel, hyn. Yn aml iawn yn ddiweddar y mae arian wedi bod yn eisiau o'r til yn y siop. Dim llawer, cofia. Chwech ambell waith, swllt bryd arall. Heddiw yr oedd yn dri a chwech, ond cofiwyd bod Mr. Hywel wedi rhoi hanner coron i rywun oedd yn casglu at rywbeth. Nid oes neb wedi gallu cyfrif am y swllt arall eto. Buwyd yn ein holi i gyd, wrth gwrs. Yr oedd yn chwith gennyf fod neb yn fy amau i."

"'Doedd neb yn dy amau di, Eric?"

"Wel, y mae rhywun wedi dwyn yr arian. Pwy ond un ohonom ni? Beth bynnag, fi a wridodd. Aeth fy wyneb fel y tân. 'Rwy'n credu bod y bechgyn eraill yn meddwl mai praw fy mod yn euog oedd y gwrido."

"'Rwy'n siwr nad yw Mr. Hywel ddim yn meddwl hynny amdanat."

"Pe gwyddwn ei fod, ni buaswn yn hapus i weithio iddo eto."

"O, Eric bach, paid â gofidio. Fe ddaw pethau i'r golau eto. Y mae'n ddigon hawdd i swllt fynd ar goll lle y derbynnir cymaint o arian."

"Y mae'r arian sydd yn y til i fod i ateb yn gywir i'r symiau sydd ar y llyfrau. Nid oes dim wedi bod allan o le hyd yn ddi— weddar. Y mae rhywun yn anonest, ac efallai mai rhywun arall a gaiff ddioddef."

"Pam 'rwyt ti'n meddwl y daw dim i ti?" "Am imi wrido heddiw. Nid wyt ti wedi gofyn a wyf yn euog."

"Pe dywedai pawb dy fod yn euog, ni chredwn i ddim o hynny. A pheth arall, ni chredaf y daw niwed i neb a wna'i waith yn ffyddlon ac yn onest."

Aeth pythefnos heibio heb i ddim annymunol ddigwydd yn y siop. Yna un nos Lun, ar ôl diwrnod prysur, yr oedd dwy bunt yn eisiau yn y til.

"Rhaid mynd i waelod hyn y tro hwn," ebe Mr. Hywel, a'i wedd yn dangos cyffro anghyffredin. "Harris, galwch y bechgyn yma."

Safasant yn syn yn ymyl desg eu meistr,— Mr. Harris, Stanley, Eric, a Bil, y llanc a âi â'r parseli allan.

"Nawr, a ŵyr un ohonoch rywbeth am y ddwybunt yma?"

Ymsythodd Eric a gwrido er ei waethaf. "Yn awr y deuthum i'n ôl, syr," ebe Stanley. Yr oedd ei gôt law amdano a'i gap yn ei law. Talai rhai o gwsmeriaid Siop Hywel am eu nwyddau mewn symiau bychain bob wythnos nes talu'r pris yn llawn. Gwaith Stanley ac Eric, bob yn ail ddydd Llun, oedd casglu'r symiau hyn. Yr oedd arian Stanley eisoes wedi eu rhoi i mewn a'i gyfrif yn gywir.

"Felly, ni buost ti'n agos i'r til heddiw," ebe Mr. Hywel. "Beth amdanat ti, Bil?" "Nid wyf fi wedi bod yn y siop o gwbl wedi'r bore pan oeddwn yn glanhau, a phob man yng nghlo, syr."

"Wel, nawr, chwi eich dau," ebe Mr. Hywel, ac edrych ar Eric a Mr. Harris. "Yn wir, y mae'n gas gennyf ofyn peth fel hyn ichwi, ond y mae'n rhaid ei wneud. A wyddoch chwi, Eric, rywbeth am y ddwybunt yma?"

Yr oedd Eric bron yn rhy gyffrous i ddyfod â gair allan. Aeth ei wyneb yn goch ac yn welw drachefn. Atebodd mewn tôn a swniai'n gwta:

"Na wn, ddim, Mr. Hywel."

Daethai Eric â'i gôt law a'i gap gydag ef, gan ei fod ar fynd adref pan ddaethai'r alwad i fynd at Mr. Hywel. cadeiriau oedd yno. sydyn i'r llawr yn awr.

Rhoesai hwy ar un o'r Llithrodd ei gap yn Cododd Mr. Harris ef gan ei fod yn ei ymyl. Edrychodd ar y cap yn syn wrth ei ddal, a rhwbio'r defnydd rhwng ei fys a'i fawd. Yr oedd rhyw bapur yno. Edrychodd ar du mewn y cap, a phawb yn ei wylio erbyn hyn. Yr oedd tac neu ddau wedi datod yn y leinin. Gwthiodd Mr. Harris y papur oni ddaeth i'r golwg. Tynnodd allan o flaen y cwmni syn ddau bapur punt!

Eric!" ebe Mr. Hywel, a chodi o'i gadair mewn cyffro. Methodd ar y funud â dywedyd gair ymhellach. Edrychai Eric mor syn ag yntau, a dywedodd:

Ni wn i ddim amdanynt, syr. Rhywun heblaw fi sydd wedi eu rhoi yna.

"Pwy yn y byd ond ti a'u rhoes yna?" ebe Mr. Hywel, mewn llais ofnadwy. Dyma dy ddiolch i mi am wneud cymaint trosot!

"Mr. Hywel," ebe Eric, a'i wyneb yn welw iawn, "a a ydych yn credu fy mod i wedi eu dwyn? A ydych yn credu imi ddwyn unrhyw arian erioed?"

"Beth wnaf fi ond credu? Dyma ti wedi dy ddal! Ac yn edrych ac yn siarad fel angel! Mae arnaf ddigon o awydd galw'r plisman yma."

"Hynny a fyddai orau, syr."

TYNNODD ALLAN O FLAEN Y CWMNI SYN DDAU BAPUR PUNT.






"O! Yr wyt yn meddwl y gelli ei dwyllo yntau, a gwneud sôn a helynt, a llusgo enw'r siop a'n henwau ninnau drwy'r llaid !"

Dywedodd Mr. Hywel lawer o bethau eraill yn ei dymer. Ni wyddai beth i'w wneud. Petai'r arian heb eu cael, gellid chwilio a holi. Ond dyna'r peth wedi ei ddatguddio mewn ffordd mor rhyfedd. Y pwnc oedd beth i'w wneud â'r troseddwr. Mab yr hen weinidog o bawb !

"Mr. Hywel, ni wn i ddim am y peth," ebe Eric eto.

"Ewch chwi eich tri adref," ebe Mr. Hywel wrth y lleill, heb sylwi ar eiriau Eric, "a gofelwch na ddywedoch air am y peth wrth neb. Cofiwch, 'nawr, Stanley a Bil! Os clywaf fi sôn am hyn gan neb o'r tu allan, gwyliwch ! "

Aeth y tri'n ddistaw.

Nawr, Eric, dyma gyfle iti gyffesu'r cwbl wrthyf fi pan nad oes neb yn clywed. A wyt ti wedi bod yn brin o arian neu beth?" ebe Mr. Hywel. Yr oedd y gwylltineb ofnadwy eisoes wedi cilio o'i lais.

Ond yr oedd y ffaith fod Mr. Hywel yn credu ei fod ef wedi dwyn arian fel pe wedi parlysu meddwl Eric. Yr oedd ei hen syniad parchus am ei feistr wedi ei ddryllio. Os oedd Mr. Hywel yn dewis credu ei fod ef yn lleidr, creded hynny.

"Nid oes gennyf ddim ychwaneg i'w ddweud, syr," ebe Eric. "Bydd yn well gennyf beidio â dyfod i'r siop yma eto."

Cydiodd yn ei gap a mynd allan cyn i Mr. Hywel gael amser i'w ateb.

Felly y daeth cwmwl du, du, i hofran uwchben aelwyd fach, glyd, Maesycoed.

XX

Er y curo a'r corwynt,—er y nos,
Er niwl ar f'emrynt,
Hyderaf y caf, fel cynt,
Weld yr haul wedi'r helynt.
—ELFYN.

"BETH wnawn ni mwy?" ebe Beryl yn drist, wedi cael yr hanes gan Eric.

"Af fi ddim yn ôl i'r siop eto. Rhaid imi gael lle arall, a gwae'r sawl a wnaeth hyn â mi pan ddof i wybod pethau'n iawn. Mi fynnaf dalu'n ôl iddo."

"Paid â sôn am ddial, Eric. Os oes rhywun wedi gwneud drwg iti o'i fodd, fe ddaw'n ôl iddo heb i ti wneud dim. Gwell goddef cam na'i wneuthur."

"Nid yw Mr. Hywel wedi bod yn deg, chwaith. Cymer yn ganiataol fy mod yn euog."

"Efallai dy fod tithau wedi bod dipyn yn wyllt. Gwell iti fynd i'r siop eto yfory. Fe â hyn heibio eto."

"Dim byth!" ebe Eric. "Gweithio gyda phobl sydd yn credu fy mod yn lleidr! A allet ti wneud hynny? Amhosibl ! Deued a ddelo, af fi ddim yn ôl."

Gwelodd Beryl nad oedd troi arno. Nid oedd yn siwr ei bod hithau am iddo fynd yn ôl, ond beth a ddeuai ohonynt? Yn y tŷ y bu Eric ddydd Mawrth a dydd Mercher, yn ei ystafell wely fel petai'n sâl. Ni ddaeth neb i holi amdano. Gellid meddwl nad oedd neb wedi gweld ei eisiau.

Bore dydd Iau, aeth Beryl, heb yn wybod i Eric, i Lanilin i weld Mr. Hywel. Yr oedd yn rhaid i rywun wneud rhywbeth. Y mae dynion,—hen ac ieuainc,—yn aml yn debyg iawn i blant. Rhaid i'r fenyw,—y fam neu'r wraig, neu'r chwaer, fel y digwydd, feddwl trostynt a'u harwain.

Ychydig a a ddywedasai Beryl, ond ni theimlasai Mr. Hywel mor anghysurus wrth siarad â neb erioed. Dywedodd wrtho, ac edrych arno â'i llygaid clir, fod Eric, a hithau hefyd, wedi eu clwyfo'n enbyd gan ei eiriau gwyllt ef wrth Eric, a'i amheuaeth o'i onestrwydd. Ni allai Eric feddwl am ddyfod yn ôl, ac nid oedd hi'n ei feio am hynny. Gobeithiai y byddai Mr. Hywel mor garedig â'i helpu i gael lle arall trwy roi gair da iddo pan ofynnid am hynny.

Ni thaerodd Beryl fod ei brawd yn ddieuog. Ni ofynnodd i Mr. Hywel am chwilio a mynnu gwybod y gwir. Ni cheisiodd feio neb o'r lleill. Ni chollodd ei thymer ac wylo am y gofid a ddygesid arni. Anwybyddodd y cyhuddiad. Cymerodd yn ganiataol y gallai'r meistr roi gair da i Eric. Teimlai Mr. Hywel mai ef oedd y troseddwr. Dywedodd :

"Yr wyf wedi holi pob un o'r lleill. ŵyr neb ohonynt ddim am y peth. Cafwyd y ddau bapur punt yng nghap Eric. Beth sydd i'w gredu? Dywedwch wrtho am ddyfod yn ôl, Miss Arthur. Yr wyf yn fodlon i'w gymryd yn ôl er mwyn eich tad. Ni bydd rhagor o sôn am y digwyddiad anffortunus yma."

"Diolch ichwi, Mr. Hywel," ebe Beryl. "Dan yr amgylchiadau, y mae dyfod yn ôl allan o'r cwestiwn."

"Plant od, uchel, ond y mae rhywbeth yn nobl iawn ynddynt," meddai Mr. Hywel ynddo'i hun. Ysgydwodd law â Beryl, a dywedyd y byddai'n dda ganddo wneud unrhyw beth a allai drostynt, ac os newidient eu meddwl, y byddai'n dda ganddo roi cynnig arall i Eric.

Bob dydd o'r wythnos ddilynol, bu Beryl ac Eric yn edrych drwy'r hysbysiadau yn y papurau. Yr oedd yno ddigon o leoedd ar gyfer bechgyn mewn siop. Ymgeisiodd Eric am dri'r un pryd. "Yr wyf yn mynd i gymryd y cyntaf a ddaw," meddai. "Hwnnw fydd ar fy nghyfer."

Ar y pumed dydd, daeth ateb o'r lle pellaf o'r tri,—tref fawr yn Lloegr. Derbyniodd Eric y cynnig. Cyn pen tair wythnos ar ôl gadael siop Hywel, yr oedd wedi dechrau ar ei waith,—yn un o gant a hanner yn Siop Fuller, yng Nghaergrawnt (Cambridge).

Y pwnc nesaf oedd cael tŷ, fel y gallai Beryl a Geraint ac Enid ei ddilyn yno. Yr oedd Eric a Beryl wedi trefnu mai hynny oedd i fod. Teimlent mai cam pwysig iawn ydoedd,— mynd allan o'u gwlad i fyw ymysg pobl o genedl arall, yn ddieithr mewn tref fawr. Ond teimlai Beryl fod rhywbeth yn ei gyrru yno. Nid oedd am fyw yn hwy yn ardal Bryngwyn a Llanilin. Nid oedd yn siwr, bellach, mai ffrindiau oedd o'i chylch yno. Gwnaethai ymadawiad sydyn Eric i bobl siarad a holi. Ni wyddai hi pa ystorïau oedd ar led. Tybiai fod pawb yn barnu Eric yn lleidr, ac yr oedd y meddwl yn annioddefol iddi. Felly, er ei chynghori gan lawer i gymryd pwyll, i aros ac ystyried, trefnodd Beryl i fynd. Ysgrifennodd at Eric i erfyn. arno frysio i gael tŷ yn barod iddynt.

Yr oedd cael tŷ mewn tref yn fwy anodd na chael lle mewn siop. Bu'n rhaid bodloni ar fflat yn y diwedd. Pedair ystafell oedd yn hon,—dwy ystafell wely, un arall i fyw ynddi, a chegin fach, fach, i wneud y bwyd a golchi'r llestri ynddi. Yr oedd grisiau cerrig mawr yn arwain i'r fflat. Byddai dau deulu arall yn byw odanynt, a hwythau ar y drydedd lofft. Rhestr o fflatiau cyffelyb oedd y stryd honno.

Bu Beryl yn ffodus i gael tenant i Faesycoed ar unwaith. Byddai'r rhent a gaent am hwnnw yn help tuag at dalu rhent y fflat. Yr oedd Eric, erbyn hyn, yn ennill digon i'w cadw i gyd mewn bwyd,—yn ôl ei gyfrif ef. Yr oedd cant a deuddeg o bunnoedd o hyd yn y banc. Bu'n rhaid tynnu'r deuddeg allan i helpu at dreuliau'r symud. Yr oedd Maesycoed ganddynt wedyn rhyngddynt â'r gwaethaf. Gellid gwerthu hwnnw os byddai rhaid.

Y dyddiau hynny, gallai Beryl ddywedyd gydag Alun Mabon :

Ar ysgwydd y gwan y daeth pwys.

Arni hi y disgynnodd trefnu popeth ynglŷn â'r symud. Bu cymdogion yn ei helpu, wrth gwrs, ac ar yr un pryd yn ceisio'i digalonni trwy sôn am y gost o fyw mewn tref, ac am yr unigrwydd a'r peryglon yng nghanol pobl ddieithr. Ond pan glywodd un ohonynt yn sibrwd wrth un arall, heb wybod ei bod hi'n clywed, "Pwy fuasai'n meddwl hyn'na am Eric?" teimlai mai hyfryd iawn a fyddai bod yn ddigon pell o'r ardal a pheidio â gweld neb o'r ardalwyr byth mwy.

Nid oedd ganddi neb i rannu ei gofid â hwy. Yr oedd Geraint ac Enid yn rhy fach, ac Eric a Nest yn rhy bell. Beth na roesai am gwmni siriol Nest! Ofer disgwyl ei gweld mwy ym Maesycoed. Yr oeddynt i symud yn ystod wythnos y Nadolig, a barnwyd y byddai'n well i Nest aros yn Llundain hyd oni allent ei chroesawu i gartref arall.

XXI

Mynd gan adael ar ein holau
Feddau mam a beddau tad.
CEIRIOG

Yr oedd llythyrau Eric at Beryl wedi eu postio bob un o Lundain. Gyrrai ef hwy mewn amlen arall i Nest. Câi hi ddarllen pob un fel y deuai, ac yna ei selio a'i yrru i Beryl. Ysgrifen Eric oedd ar yr amlen, a marc post Llundain. I Lundain hefyd y danfonwyd y dodrefn. Gadawodd Eric gyfarwyddiadau yn yr orsaf honno ynglŷn â'u danfon i Gaergrawnt. Tybiai pobl Bryn Gwyn a Llanilin, felly, mai yn Llundain yr oedd cartref newydd y teulu bach. Gwyddid cyfeiriad Nest,— gwelsid ef ar lythyrau Beryl ati, ond ni wyddai neb gyfeiriad y lleill. Yr oeddynt wedi penderfynu torri pob cysylltiad â'r hen ardal.

Er hynny, yr oedd calon Beryl ar dorri ar fore'r ymadael. Ni freuddwydiasai erioed am dro fel hwn ar lwybr eu bywyd. Dyna'r cartref clyd wedi ei chwalu! Beth oedd o'u blaen? "O Nest, Nest!" llefai Beryl. "Ni buom yn hapus wedi dy golli di."

Wedi mynd i'r trên, yr oedd Geraint ac Enid wrth eu bodd. Hon oedd eu taith gyntaf mewn trên. Cafodd Beryl ddigon o lonydd i feddwl.

Yr oedd Eric yn eu disgwyl ar orsaf Paddington, a phwy oedd gydag ef ond Nest! Ond nid lle i gofleidio a siarad a mwynhau cwmni ei gilydd oedd yr orsaf honno. Gosodai dieithrwch y lle ryw bellter rhyfedd rhyngddynt. Nid oedd llawer o amser ganddynt ychwaith. Yr oedd Mrs. Fraser yno gyda Nest, ac arni eisiau mynd yn ôl cyn gynted ag oedd modd. Yr oedd arnynt hwythau eisiau mynd ymlaen ar eu taith. Teimlai Beryl y buasai cystal ganddi fod heb weld Nest o gwbl na'i gweld felly.

Ar y cyntaf, yr oedd byw mewn fflat yn ofnadwy i Geraint ac Enid. Yr oedd y lle'n rhy gyfyng. Hiraethent am ryddid Maes— ycoed. Ni chaent fynd allan o gwbl ond yn eu dillad dydd Sul yng nghwmni Eric neu Beryl, a hwythau'n barod i redeg i mewn ac allan ar bob awr o'r dydd. Nid oedd dim i'w wneud ond edrych allan drwy'r ffenestr ar y stryd. Nid oedd llawer i'w weld yn honno,— dim ond pobl yn cerdded yn frysiog, ac ambell gart llaeth neu gart bara, a'r postman lawer gwaith yn y dydd.

Wedi mynd i'r ysgol, daethant i deimlo'n well, ond buont yn hir cyn dyfod i ddeall y plant eraill yn siarad, na chael eu deall gan neb. I blant yr ysgol honno, creaduriaid bach rhyfedd iawn oedd y "Welsh Twins." Ond dechreuodd y ddau ymaflyd mewn addysg." Yr oedd ysgolion da yn y dref honno, a theimlai Eric a Beryl y byddai Geraint ac Enid o leiaf ar eu hennill o fod wedi dyfod yno i fyw.

Yr oedd Eric hefyd ar ei ennill. Os oedd gallu mewn un, yr oedd lle iddo ddyfod i'r amlwg yn Siop Fuller. Dechreuwyd gweld gwerth Eric. Cafodd yn fuan iawn fwy o gyfrifoldeb a mwy o gyflog. Yr oedd ysgolion nos yng Nghaergrawnt, a lle i ddysgu llawer o bethau heb dalu ond ychydig am hynny. Gwnaeth Eric yn fawr o'r cyfle. Yr oedd yn fwy penderfynol nag erioed i ddyfod ymlaen.

A beth am Beryl? Yr oedd ei waith yn galw Eric allan i ymgymysgu â phobl, a'r ysgol yn rhoi cwmni plant o'u hoed i Geraint ac Enid. Yn y tŷ yr oedd gwaith Beryl, a hwnnw'n dŷ cyfyng ar lofft uchaf adeilad. Nid oedd yn bosibl iddi fynd allan ohono heb adael ei gwaith a gwisgo'n drwsiadus. Ai allan fynychaf yn y bore i brynu bwyd, ond nid oedd neb yn y dyrfa brysur ar y stryd a wyddai nac a hidiai ddim amdani hi a'i hamgylchiadau. Ni wyddai pwy oedd ei chymdogion. Ni bu dim pellach na "Good Morning rhyngddi â neb ohonynt erioed. Weithiau, treuliai ddyddiau cyfain heb weled neb hyd nes i Eric a'r plant ddyfod adref. Ni bu mor unig yn ei bywyd. Profodd beth mor ofnadwy yw bod yn unig yng nghanol tyrfa.

Ni ddaeth i feddwl Eric nad oedd Beryl mor hapus ag yntau. Nid oedd byth yn grwgnach, yr oedd mor ofalus ag erioed am ei theulu, ac yr oedd y cartref newydd yn glyd iawn, os oedd yn fychan.

Dim ond ar nos Suliau yr aent i'r capel. Ni wnâi neb lawer o sylw ohonynt yno. Nid oedd gan Beryl gystal dillad ag oedd gan y rhan fwyaf o ferched eraill y gynulleidfa. Ni allai fforddio rhai newydd ychwaith am dipyn. Ymdrech barhaus oedd dyfod â'r ddeupen ynghyd eisoes. Gwyddai hi yn ei chalon yr edrychid i lawr arnynt gan bobl barchus y capel hwnnw, ond ni ddywedodd air am hyn wrth Eric.

Ni fynnai i'r plant fynd i'r Ysgol Sul. Caent ddigon o Saesneg yn yr ysgol bob dydd. Yr oedd sŵn Saesneg Lloegr ar eu hiaith eisoes. Siaradent Saesneg yn y tŷ, pe gedid iddynt. Ofnai Beryl iddynt anghofio'u hiaith eu hunain. Felly caent ddarllen eu Beiblau Cymraeg ar y Sul, a dysgai hi hwynt ohono, a dywedyd ei ystorïau wrthynt.

Daeth yr haf. Lle hyfryd iawn oedd Caergrawnt ar y tymor hwnnw. Yr oedd y rhodfeydd hyfryd ar lan yr afon neu yn y parciau yn llawn o bobl mewn gwisgoedd heirdd. Ond pobl ddieithr oeddynt. Anaml y gwelent hwy neb i ddywedyd cymaint â "Nos Da" wrthynt.

Weithiau, aent allan gyda'i gilydd ymhell i'r wlad. Gwlad wastad, ffrwythlon, goediog, ydoedd, yn ymestyn am filltiroedd i bob cyfeiriad rhyngddynt â'r gorwelion. Mor wych ydoedd! Mor gyfoethog! Ond buasai dau ohonynt o leiaf yn fodlon rhoi'r prydferthwch i gyd am olwg ar un o fryniau moelion Cymru.

Daeth Nest atynt dros y Sulgwyn. Yr oedd yn dlysach ac yn fwynach nag erioed. Yr oedd dillad heirdd iawn amdani hefyd. Ymddangosai'r fflat yn llai o faint nag erioed, ac yn fwy tlodaidd ei olwg pan ddaeth Nest i mewn. Hyfryd oedd cyfarfod â'i gilydd eto.

Yr oedd Nest yn llawn cyffro. Yr oedd yn mynd i'r Eidal yn yr hydref, efallai am ddwy neu dair blynedd. Yr oedd Mrs. Mackenzie yn dda iawn iddi. Nid oedd wedi dechrau canu'n gyhoeddus eto, rhag camarfer ei llais. Dywedai ei hathro y deuai'n gantores fawr.

Ni allai Beryl sôn llawer am ei helbulon ei hunan wrth Nest yn yr amser byr hwnnw,— dim ond deuddydd y bu yno. Gwell oedd peidio â rhoi gofid i Nest. Yr oedd Mrs. Mackenzie am iddi fynd yn ôl nos Lun er mwyn mynd gyda hi i rywle arall ddydd Mawrth. Felly, gadawyd llawer o gwestiynau heb eu holi a llawer o bethau heb eu dywedyd.

Wedi i Nest eu gadael, wylodd Beryl yn chwerw. Yr oedd Mrs. Mackenzie yn ddi- ddadl yn garedig iawn, ac yn gwneud ei gorau i Nest, ond yr oedd wedi dwyn oddi arnynt hwy eu chwaer anwylaf.

XXII

"And I promised my early God to have courage
Amid the tempests of the changing years."
—MAX EHRMAN.

AMSER llawn o bryder a fu'r ddwy flynedd nesaf i Beryl. Yr oedd treuliau byw yn uchel iawn yng Nghaergrawnt, yn enwedig yn y gaeaf, pan fyddai'n rhaid cael tân mawr a golau trydan am oriau hir. Gwarient fwy ar fwyd hefyd nag ar y cychwyn, er mai bwyd syml a gaent, ac er bod Beryl mor ddarbodus ag erioed. Gwelent eisiau gardd Maesycoed. Yr oedd yn rhaid prynu popeth yng Nghaergrawnt.

Tyfai Geraint ac Enid yn gyflym. Ai eu dillad yn rhy fach iddynt o hyd. Yr oedd eisiau rhywbeth newydd arnynt yn barhaus. Yr oedd yn rhaid i Eric hefyd wisgo'n drwsiadus i fynd at ei waith. Os oedd rhywun i fyw heb ddillad, Beryl oedd honno. Daeth yr amser pan deimlai hi'n rhy dlodaidd ei gwisg i ymgymysgu â phobl yn y capel, yn y dref, neu ar lan yr afon. Gwelai ferched o'i hoed yn mynd allan yn gwmnioedd llon yn eu dillad heirdd, a hithau'n gaeth ac unig yn yr ystafell fach ar y llofft. Gofynnai iddi ei hun yn aml a wnaethent yn iawn i adael Cymru a'r ardal lle'r adweinid hwy gan bawb, a dwyn arnynt eu hunain gymaint o ofid a phryder. Ond ar yr un funud, gwyddai fod y caledi mwyaf yn haws ei ddioddef na sarhad a dirmyg eu cymdogion.

Ar ddiwedd y ddwy flynedd, nid oedd ganddynt ond ugain punt ar ôl yn y banc. Dechreuasant feddwl o ddifrif am werthu Maesycoed. Yna daeth tro arall ar eu llwybr.

Yr oedd cangen o Siop Fuller newydd ei hagor yn Buenos Aires. Cafodd Eric gynnig i fynd yno—am flwyddyn i ddechrau. Os gwnâi ei waith yn foddhaol, ceid gwneud cytundeb newydd ag ef ar ben y flwyddyn. Caffai ddewis pa un a arhosai yno ynteu dychwelyd i Gaergrawnt.

Yr oedd ymdrechion Eric i ddiwyllio 'i hun yn dwyn ffrwyth. Heblaw bod yn un da mewn busnes, yr oedd yn well ieithydd na neb yn y siop. Medrai, erbyn hyn, Ffrangeg, Almaeneg, ac Ysbaeneg, heblaw Saesneg a Chymraeg. Ar gyfrif hynny y cynigiwyd iddo'r swydd newydd bwysig. Os âi i Buenos Aires, byddai ei gyflog yn bedwar cymaint, a'i ragolygon yn ddisglair iawn. Byddai'r antur a'r profiad yn bethau godidog.

"O, ERIC ANNWYL! A OES RHAID IMI DY GOLLI DITHAU ETO?"






Yr oedd Eric yn llawn cyffro pan ddaeth â'r newydd i Beryl. Rhedodd i fyny'r grisiau a gweiddi braidd cyn cael amser i agor drws y tŷ:

"Beryl! Beryl! Mae'r rhod wedi troi! Mae'r rhod wedi troi! "

"Beth sy'n bod, Eric?" ebe Beryl yn syn. Yna dywedodd Eric, â'i lygaid yn disgleirio, y newydd pwysig wrthi.

"O, Eric annwyl! A oes rhaid imi dy golli dithau eto?" ebe Beryl, a throi oddi wrtho ac wylo. Yr oedd pryder a gofid y misoedd diwethaf wedi ei gwneud yn rhy wan i ddal ychwaneg.

Gadodd Eric iddi wylo am funud. Yna dywedodd yn dyner iawn:

"Beryl, nid oes un bachgen yn y byd yn hoffach o'i chwaer nag wyf fi ohonot ti. Dim ond fi a ŵyr dy werth. Yr ydym wedi byw gyda'n gilydd trwy amser caled. Arnat ti y daeth y pwysau mwyaf. Ni bu neb erioed yn ddewrach na thi. Yr wyt yn siwr o gael dy dalu. 'Rwy'n siwr bod amser da o'th flaen. Byddi'n hapusach am iti fod mor dda i ni ac mor ddewr trwy'r cwbl. A chredaf fod yr amser da ar ddechrau'n awr. Bydd yn well i ti, yn well inni i gyd, fy mod i'n mynd."

"Eric bach! Sut y gallaf fi fyw yma fy hunan gyda'r plant? O ba le y daw bwyd inni?"

"Byddaf fi'n cael cymaint bedair gwaith o gyflog ag a gaf yn awr. Yr wyf yn mynd i drefnu bod tri chwarter o'm harian i'w talu i ti o'r Siop yma bob wythnos. Bydd gennyt, felly, gymaint dair gwaith ag sydd gennym yn awr at fyw, a bydd un yn llai yma i fwyta."

"O, Eric, bydd tri chwarter yn ormod. Ar beth y byddi di byw?"

"Bydd chwarter yn ddigon imi. Ni bydd dim arnaf i dalu am y fordaith. Byddaf yn cael fy mwyd a'm llety yn Buenos Aires. Dim ond dillad ac arian poced fydd eisiau arnaf. Yr wyf am i ti fod uwchlaw pryder o hyn allan."

"Buasai'n well inni fod wedi aros yng Nghymru, Eric, er gwaethaf popeth, a byw gyda'n gilydd i gyd yn ein cartref bach ym Maesycoed. Dyna a ddywedai Nest o hyd. Ac yn awr, dyma Nest wedi mynd, a thithau'n mynd eto."

"Beryl fach, oni bai inni ddod yma, ni byddai'r cyfle hwn wedi dod i mi. Pe buaswn wedi aros yn Llanilin, ni buaswn ar y gorau ond rhywun fel Mr. Harris neu Mr. Hywel—yn troi yn yr un hen gylch bach o hyd heb syniad am y byd mawr. Yr wyf erbyn hyn yn gallu diolch i'r sawl a ddywedodd gelwydd amdanaf. Ac edrych ar y byd da sydd ar Nest, a'r pethau mawr sydd yn ei haros!"

"Y mae Nest wedi mynd mor bell oddi wrthym," ebe Beryl.

"Ydyw yn awr am dipyn. Ond yr un yw Nest o hyd. Un ohonom ni ydyw. Deuwn yn nes at ein gilydd eto."

"Dyna unig y byddaf wedi i tithau fynd."

"Rhaid iti fynd allan fwy o hyn ymlaen, a rhaid iti gael stoc o ddillad newydd yfory nesaf. Nid wyt wedi cael dim newydd ers amser hir. Mae'r rhod wedi troi! Yr wyf yn mynd i godi deg punt o'r banc bore yfory, a rhaid iti eu gwario i gyd arnat dy hunan."

"Paid â siarad dwli, Eric."

"Gwna hynny'r tro i ddechrau.

"Yr wyf yn siwr bod lwc o'n blaen i gyd. Mae'r rhod wedi troi, Beryl, mae'r rhod wedi troi!"

XXIII

Fe welodd lawer, lawer
O droeon chwerwon chwith,
Ond hwy na'r fellten lem a'r llif
Y cofia'r glaw a'r gwlith.
—T. GWYNN JONES.

Yм mis Rhagfyr yr aeth Eric i Buenos Aires. Bu'r tri arall yn hir cyn dyfod yn gyfarwydd â byw hebddo. Yr oedd Geraint ac Enid, erbyn hyn, yn mynd ar eu deg oed ac yn fwy o gwmni i Beryl bob dydd. Ceisiodd Beryl ymgartrefu'n well yng Nghaergrawnt. Wedi cael dillad newydd, aeth yn amlach i blith pobl,—i'r capel ac i'r dref. Ceisiai feddwl bod geiriau Eric yn wir, a bod amser gwell o'u blaen i gyd, ond pell iawn yr ymddangosai'r amser hwnnw.

Un hanner dydd ym mis Mai, daeth Enid adref o'r ysgol â chur enbyd yn ei phen. Yr oedd ei hwyneb yn goch, a theimlai'n oer drosti.

"Twyma'n dda wrth y tân yna, Enid fach, ac yf y cawl twym yma. Oni byddi'n well, cei beidio â mynd i'r ysgol yn y prynhawn," ebe Beryl.

Yr oeddynt fel teulu wedi cael iechyd da ar hyd y blynyddoedd. Ni bu dim gwaeth nag annwyd ar neb ohonynt er pan gollasent eu rhieni. Gwelodd Beryl yn fuan nad annwyd cyffredin oedd ar Enid y tro hwn. Rhoes hi yn y gwely, gyda photel o ddŵr poeth wrth ei thraed. Aeth Geraint i'r ysgol wrtho'i hun.

Nid oedd ddim gwell pan ddaeth Geraint adref ychydig wedi pedwar o'r gloch. Yr oedd yn rhaid cael doctor. Nid adwaenai Beryl neb o ddoctoriaid Caergrawnt, ond gwyddai ym mha le'r oedd rhai ohonynt yn byw. Gwelsai eu tai mawr a'r plât pres ar y mur yn un o ystrydoedd y dref. Yr oedd enwau Cymraeg ar rai o'r platiau hyn. Sylwasai ar "Jones a Parry." Nid oedd am alw ar un o'r ddau hynny i mewn. Nid oedd am gyfarfod â Chymry yng Nghaergrawnt. Pe deuai Cymro i'r tŷ, byddai'n sicr o ddeall mai Cymry oeddynt hwy, a dyna lle byddai holi. O ba le y daethent? Pwy oeddynt ? Pam y daethent i Gaergrawnt? A byddai'n rhaid eu hateb. Byddai'n bosibl i Gymro, pwy bynnag a fyddai, fod yn adnabod rhywun yn Llanilin, a dyna ddiwedd ar eu cyfrinach. Diau y credai'r doctor gyda'r lleill fod Eric wedi dwyn arian, ac mai gadael Cymru mewn gwarth a wnaethent.

"Yf dy dê ar unwaith, Geraint bach. Rhaid iti fynd i hôl doctor. Mae Enid yn sâl iawn," ebe hi.

"Yn sâl o hyd? At ba ddoctor yr af fi?"

Dyna'r cwestiwn. Nid wyf fi'n adnabod neb ohonynt. Paid â galw doctor sydd ag enw Cymraeg arno, beth bynnag."

Pam?"

"O, wel, paid â hidio pam. Nid wyf am i Gymro ddod yma. Beth yw enw'r doctoriaid sydd yn Clare Street?"

"Jones, McNeil, Fletcher, Parry a Mortimer. Mae Dr. Smith yn Hill Street. Yr ydym yn mynd heibio ei dŷ ar ein ffordd i'r ysgol."

"Smith? Sais yw hwnnw, 'rwy'n siwr. Mae'n agos hefyd. Cer at Dr. Smith ynteu, a gofyn a wêl ef yn dda ddod yma ar unwaith."

Daeth y doctor yn ôl gyda Geraint. Ymddangosai'n ieuanc iawn. Ni allai Beryl ganfod oddi wrth ei wedd a'i iaith pa un ai Sais, Gwyddel, Ysgotyn, neu Gymro ydoedd. Y mae pobl ieuainc y pedair gwlad sydd wedi bod mewn ysgolion a cholegau, erbyn hyn, yn debyg iawn i'w gilydd. Daeth hynny'n beth dibwys yn ei golwg yn fuan iawn. Y pwnc yn awr oedd ei fod yn ddoctor medrus. Yr oedd y pneumonia wedi gafael yn Enid.

Edrychodd y doctor ieuanc yn graff iawn ar Beryl. Carasai holi llawer o gwestiynau, ond nid holi yw gwaith doctor, felly dywedodd:

"Bydd eisiau llawer o ofal a medr i edrych. ar ôl y ferch fach yma. A gaf fi anfon nyrs brofiadol yma ?

"Gwell gennyf fi ofalu amdani, os gwelwch yn dda, doctor. Mi wnaf bopeth a ddywedwch wrthyf"

"A oes gennych rywun i'ch helpu Mrs.————"

'Miss Arthur," ebe Beryl, a gwrido.

"Dim ond fi a'm brawd a'm chwaer fach sydd yma'n awr. Mae fy mrawd hynaf newydd fynd i ffwrdd. Nid oes gennyf waith arall ond gofalu amdanom ein tri. Mi ofalaf am Enid."

"Credaf y gwnewch, yn well na'r un nyrs," ebe'r doctor, ac edrych arni'n graff fel o'r blaen. "Gwnawn ein gorau, ynteu,—chwi a minnau."

Dyddiau â'u llond o bryder a fu'r tri dydd dilynol. Deuai'r doctor lawer gwaith yn y dydd. Plygai Beryl ac yntau gyda'i gilydd uwchben gwely Enid. Crwydrai meddwl yr un fach. Siaradai'n ddibaid, a Chymraeg a siaradai bob amser. Os sylwodd y doctor mai iaith ddieithr a siaradai, ni ddywedodd ddim am hynny. Gwylio curiad ei chalon a wnâi ef a rhoi cyfarwyddiadau eglur a phendant i Beryl i'w cario allan hyd oni ddeuai ef drachefn. Ni ofynnodd unwaith i Beryl a oedd yn blino, ond ar yr ail noswaith, daeth yno tua deg o'r gloch a dywedodd:

"Rhaid ichwi fynd i orffwys am ychydig." "O, yr wyf fi'n teimlo'n iawn, doctor. Gwell gennyf beidio â gadael Enid."

"Byddaf fi yma am awr neu ddwy. Galwaf chwi cyn mynd oddi yma. A fentrwch chwi adael Enid yn fy ngofal i?"

"Mentraf," ebe Beryl, yn ddibetrus, a gwenodd y doctor arni.

Pan ddihunodd Beryl, yr oedd yn bedwar o'r gloch. Yr oedd yn ofidus am ei bod wedi cysgu cyhyd, a dechreuodd ddywedyd hynny.

"Da gennyf eich bod wedi cael cysgu," ebe'r doctor, a mynd cyn iddi gael amser i ddiolch iddo.

Daeth tua'r un amser y nos ddilynol. Yr oedd honno i fod yn nos bryderus ynglŷn ag Enid, ond ni ddywedodd y doctor hynny wrth Beryl. Gwnaeth iddi hi fynd i'w gwely drachefn, ac ef ei hun a wyliodd ar hyd y nos. Bore drannoeth, pan gyfododd Beryl, yr oedd claf yn cysgu'n fwy naturiol nag y gwnaethai ers tro, ond yr oedd golwg welw iawn ar y doctor. Amneidiodd ar Beryl i ddyfod o'r ystafell, a dywedodd:

"Dyna! Hi ddaw mwy, ond rhaid bod yn ofalus. Peidiwch â'i deffro. Dof eto tua naw o'r gloch."

"O! Yr ydych wedi bod yn garedig, Dr. Smith, ac y mae eisiau gorffwys arnoch chwithau, ac eisiau bwyd. Mi wnaf gwpanaid o goffi ichwi mewn pum munud."

"Diolch. Bydd yn dda gennyf gael cwpanaid o goffi cyn mynd allan.

Aeth yn ei ôl i ystafell Enid tra fu Beryl yn paratoi'r coffi. Yna daeth allan a chau'r drws. Mae hwn yn hyfryd," meddai, wrth fwyta un darn tenau ar ôl y llall o fara 'menyn.

"Sut gallaf ddiolch ichwi, Dr. Smith, am eich gofal am Enid?" ebe Beryl.

"Nid oes eisiau diolch. Gallaswn fod wedi anfon rhywun arall yma, ond yr oedd yn well gennyf ddyfod fy hun. A chyda llaw, nid Dr. Smith wyf fi. Dr. Wyn yw fy enw,— Dr. Goronwy Wyn. Newydd ddyfod i'r dref yma wyf i gyd-weithio â Dr. Smith."

Methai Dr. Wyn â deall yr olwg sydyn o fraw a ddaeth i lygaid Beryl wrth glywed hyn, a phenderfynodd fynnu gwybod, pan fyddai Enid wedi gwella digon i roi cyfle am ymgom.

XXIV

Nid yw'r nos—arwaf nos,
Yn difwyno glas y nefoedd.
—Elfed.

WEDI iddo fynd, bu Beryl am beth amser yn rhy syn i symud. Dr. Goronwy Wyn! Cymro ydoedd yn ddiddadl. A hithau wedi meddwl ei bod mor ddiogel gyda "Dr. Smith." Gan mai Cymro ydoedd, gwyddai mai Cymry oeddynt hwythau. Yr oedd Enid, wrth siarad cymaint yn ei chystudd, wedi gwneud cuddio hynny'n amhosibl. Newydd ddyfod i Gaergrawnt ydoedd. O ba le y daethai? Pwy oedd ei bobl ? Pa faint a wyddai o'u hanes hwy? Ar ddiwedd ei myfyrdod, gorfu i Beryl gyffesu wrthi ei hun fod yn dda ganddi, wedi'r cwbl, mai Cymro ydoedd! Daeth Caergrawnt yn fwy o gartref! Cafodd esboniad yn awr ar y teimlad angerddol a ddaethai drosti hyd yn oed pan welsai ef gyntaf,—rhyw deimlad fel yr un a lanwai fynwes "hwyad ryfedd Hans Andersen pan welodd yr elyrch ar y llyn.

Aeth wythnos heibio. Yr oedd Enid yn gwella'n gyflym. Deuai Dr. Wyn o hyd i'w gweld unwaith bob dydd. Siaradai Beryl ac yntau am bopeth ond am eu hunain a'u hanes. Ni ddangosodd Dr. Wyn y gwyddai mai Cymry oedd Beryl a'i theulu, ac ni chyfeiriodd Beryl at ei enw Cymraeg yntau,— dim ond ei alw'n "Dr. Wyn" yn lle "Dr. Smith."

Un bore cafodd Beryl lythyr oddi wrth Nest o'r Eidal â newydd cyffrous ynddo. Cawsai Mrs. Mackenzie lythyr o Lanilin yn dywedyd am beth rhyfedd a ddigwyddasai yno. Yr oedd Stanley, o Siop Hywel, wedi bod yn wael iawn yn ystod y gaeaf, ac nid oedd ganddo obaith am wella. Ambell waith yn ystod ei gystudd galwai ddydd a nos am Eric. Un hwyr cyffesodd wrth ei weinidog ei fod wedi gwneud cam ag Eric flynyddoedd yn ôl, a bod yn achos i hwnnw ymadael â Siop Hywel ac â'r ardal. Dywedodd mai ef a ddygasai'r ddau bapur punt o'r til a'u rhoi yng nghap Eric. Cawsai gyfle at hynny wedi dyfod yn ôl oddi wrth ei waith a phawb yn brysur yn y siop. Dywedodd hefyd mai ef a ddygasai bob swllt a aethai ar goll o'r til drwy'r amser hwnnw. Ei amcan oedd cael gwared ar Eric, am ei fod yn mynd o'i flaen ef yng ngolwg Mr. Hywel. Llwyddasai yn ei amcan, ond yr oedd y peth wedi pwyso'n drwm ar ei feddwl, ac ni bu'n hapus byth ar ôl hynny. Yr oedd am i Eric gael gwybod fel y câi ef ei faddeuant cyn marw.

Ysgrifennodd y gweinidog ar unwaith at Mrs. Mackenzie i Lundain. Aeth y llythyr ar ei hôl i'r Eidal lle'r oedd yn awr gyda Nest. Gyrrodd Nest lythyr y gweinidog i Eric i Buenos Aires a'r llythyr hwn a'r hanes i Beryl.

Eisteddai Beryl â'r llythyr ar ei harffed, a'r dagrau'n llifo dros ei gruddiau. Y Stanley hwn a ddygasai'r fath ofid arnynt,—sarnu eu cartref, eu gyrru o'u gwlad a pheri eu bod yn ddirmygus yng ngolwg eu cymdogion. Oni bai amdano ef, gallasent fod eto'n hapus ym Maesycoed, yng nghanol eu cyfeillion a'u cydnabod. Daethai'r gofid a'r ymdrech a'r anghysur i gyd oherwydd drygioni'r bachgen hwn. Ond gwnaethai Stanley, wedi'r cwbl, fwy o ddrwg iddo’i hunan nag iddynt hwy. Gwell goddef cam na'i wneuthur, yn wir. Oni bai amdano ef, ni buasai Eric wedi cael y cyfle a gawsai, na'r plant ysgol ragorach y dref. Oni bai amdano ef, ni buasent wedi dyfod i Gaergrawnt. Gwridodd Beryl pan sylweddolodd fod byw yng Nghaergrawnt wedi troi'n sydyn yn beth hyfryd yn ei golwg.

Pan oedd yng nghanol ei myfyrdodau, a'r dagrau o hyd ar ei gruddiau, daeth sŵn cerdded ar y grisiau, a daeth y curo y disgwyliai amdano bob dydd ar y drws, a daeth Dr. Wyn i mewn.

Beryl! Beth sydd yn bod? A ydych wedi cael newydd drwg?'

Galwodd hi'n "Beryl," a siaradodd Gymraeg heb yn wybod iddo!

Atebodd Beryl ef yn Gymraeg, fel pe baent wedi arfer â siarad yn yr iaith honno. Wrth roi cynnwys y llythyr, rhoes hanes eu bywyd o'r dechrau,—y dedwyddwch a'r gofid, yr helbulon a'r gofalon i gyd. Nid oedd eisiau celu dim mwy, a dyna hyfryd oedd cael siarad yn rhydd a siarad yn Gymraeg, a hynny wrth un oedd mor barod i wrando a chydymdeimlo.

Prin pythefnos oedd er pan ddaethai Dr. Wyn i fyd Beryl, ond gallai feddwl ei bod yn ei adnabod erioed.

"Ers pa bryd y gwyddech chwi mai Cymry ydym ni?" ebe Beryl ymhen tipyn.

"Gwyddwn hynny pan welais chwi gyntaf, —cyn imi glywed Cymraeg gan Enid. frysiais i holi. Gwyddwn y cawn wybod gennych chwi pan ddeuai'r amser. A heddiw, pan welais chwi mewn dagrau, daeth Cymraeg allan heb yn wybod imi. Ni ddangosasoch chwithau un syndod. Ers pa bryd, ynteu, y gwyddech chwi mai Cymro wyf fi ?"

"Ofnais hynny pan glywais eich enw," ebe Beryl, a gwenu.

"Gwelais yr ofn ar eich wyneb, a dyma fi wedi bod am wythnos heb wybod yr achos! Dyn amyneddgar wyf! Ond, Llanilin! Yr wyf yn siwr bod fy ewythr yn eich adnabod."

"Eich ewythr?

Ie, fy ewythr Goronwy. Mr. Ifan Goronwy.

"O! Nid Mr. Goronwy o America! "Ie, Mr. Goronwy o America, brawd fy mam.

"O, dyna beth od! Bu yn ein tŷ ni unwaith. Y mae chwe blynedd oddi ar hynny, —chwe blynedd i'r mis nesaf, cyn i'n gofid mawr cyntaf ddyfod arnom."

"Peth od arall yw ei fod wedi bod yn sôn llawer amdanoch fel teulu yn ddiweddar, ac yn enwedig am eich mam. Yr oedd ef a hithau'n blant gyda'i gilydd, mae'n debyg. Beth oedd enw eich mam?"

"Elen."

""Len' yw ei enw ef arni, 'rwy'n meddwl. Sôn am Len a'i theulu' y mae o hyd, nid 'Mr. a Mrs. Arthur a'u teulu," felly ni feddyliais i mai am eich teulu chwi y siaradai. Ni soniais i wrtho fy mod yn adnabod teulu o Gymry yma. Buasai ef yn sicr o gymryd diddordeb ynoch, a holi eich enw ac o ba le y daethoch. Nid oeddwn am iddo holi nes imi fedru ei ateb, ac nid oeddwn am eich holi chwi cyn yr amser. Mae yn sôn am fynd i weld "Len a'i theulu " cyn hir. Bydd yn synnu pan glyw fod tri o'r teulu yma yn ei ymyl."

Ni ŵyr, ynteu, fod nhad a mam wedi marw?"

Na ŵyr. Wedi iddo ddyfod yn ôl o Gymru y tro hwnnw, cafodd ei daro'n wael iawn. Yr oeddwn i newydd fynd i'r coleg i Edinburgh ar y pryd. Aeth fy mam i America i weini arno. Ef oedd ei hunig frawd. Bu ef yn wael am dair blynedd. Cyn iddo lwyr wella, aeth fy mam yn wael a bu hi farw yno. Oddi ar hynny y mae fy ewythr wedi ceisio llanw lle tad a mam i mi, ac yr wyf finnau'n teimlo fel mab iddo yntau."

"A gydag ef yr ydych chwi'n byw?"

Ef sydd yn byw gyda mi. Daeth yma o America fis yn ôl. Ei fwriad yw mynd i Gymru i fyw,—efallai i Lanilin, ei hen ardal. Ac yn awr, Beryl, yr wyf am ddod ag ef yma i'ch gweld chwi."

Pan ddaeth Mr. Goronwy, a dal ei llaw yn dynn ac edrych yn ddwys i'w llygaid, teimlai Beryl fel y ferch un ar bymtheg oed honno ym Modowen, wedi ei chastellu â chariad ag anwyldeb. A dyma'r geiriau a glywodd: Hoffais y ferch yma'n fwy nag un o'r plant eraill y tro hwnnw y bûm yn eu cartref. Gofynnais i'w thad a'i mam am ei chael yn ferch i mi. Gwrthod a wnaethant, wrth gwrs, ac nid wyf yn eu beio, ond yr wyf yn dechrau meddwl y caf hi'n ferch i mi wedi'r cwbl."

YMARFERIADAU AR Y GWERSI

I

1. Ysgrifennwch baragraff yn disgrifio Bodowen.

2. Rhoddwch dri ansoddair i ddangos sut fachgen oedd Eric yn ôl a welwch ohono yn y bennod hon.

3. Beth yw'r unigol o meinciau, geiriau, blynyddoedd, blodau, cerrig, perthnasau?

II

1. Rhoddwch o'ch cof ddisgrifiad o Beryl.

2. Beth a wyddoch am Mr. Goronwy?

3. Rhoddwch "fy" o flaen pob un o'r geiriau hyn, a newid y cytseiniaid fel y bo'r angen: cwmni, tŷ, gwersi, plant, darlun, blodau.

III

1. Beth yw ystyr Gwyn y gwêl y frân ei chyw"? Ysgrifennwch ddeg dihareb Gymraeg arall.

2 Beth oedd bwriad Mr. a Mrs. Arthur ynglŷn â'r plant?

3. Rhoddwch "dy" o flaen y geiriau y geiriau yn Rhif 3 uchod.

IV

1. Gwnewch frawddegau yn cynnwys archwaeth, arholiad, aroglau, addoli, cynlluniau, didor.

2. Trowch yr ail baragraff i'r Saesneg.

3. Rhoddwch ei (g.) ac ei (b.) o flaen y geiriau yn 2 a 3.

V

1. Trowch y paragraff sydd yn dechrau gyda "Ie, ebe Mr. Arthur," i'r Saesneg, a'i droi yn ôl wedyn i'r Gymraeg heb gymorth y llyfr.

2. Ychwanegwch ansoddeiriau at y geiriau hyn :—pen, plant, braich, pobl, mam, gwyliau, doctor, diwrnod.

3. Beth oedd cynllun bywyd Beryl?

VI

1. Ysgrifennwch grynodeb o'r bennod hon mewn un paragraff.

2. Disgrifiwch ystafell arholiad y buoch chwi ynddi.

3. Beth yw'r lluosog o llestr, pen, cwestiwn, athro, drws, llaw.

VII

1. Pam oedd Beryl am ddysgu gwaith tŷ?

2. Gwnewch frawddegau yn cynnwys hardd, harddach, harddaf, bach, llai, lleiaf.

3. Eglurwch, "Yr oedd y ddyrnod ddwbl wedi disgyn ar Mrs. Arthur."

VIII

1. A wnaeth Beryl yn iawn i beidio â mynd i'r Coleg? Rhoddwch eich rhesymau.

2. Enwch ddodrefn eich tŷ chwi, a'r llysiau a dyf yn eich gardd.

3 Gwnewch chwe brawddeg yn dechrau â'r gair "Peidiwch."

IX

1. Rhowch ddisgrifiad o'r ystafell orau yn eich tŷ chwi.

2. Enwch gymaint ag y medrwch o'r pethau sydd â'u heisiau mewn cegin.

3. Ysgrifennwch "y tro cyntaf," "yr ail dro," etc., hyd "yr ugeinfed tro."

X

1. Disgrifiwch ddydd Llun cyntaf y plant ym Maesycoed.

2. Disgrifiwch y modd y treuliwch chwi ddydd Sul.

3. Eglurwch "Y mae wedi cymryd baich mawr arni ei hun."

XI

1. Ysgrifennwch bennill o unrhyw emyn Cymraeg a wyddoch.

2. Eglurwch," Hithau a'r drysau aur ynghau o'i blaen."

3. Ychwanegwch —odd at wreiddiau'r berfau hyn: cerdded, dysgu, clywed, gwrando, canu, dywedyd, gweled.

XII

1. Pam na chyffesai Beryl fod arni ofn aros gartref ei hun?

2. Ysgrifennwch baragraff ar y ddwy linell Saesneg a geir yn y bennod hon.

3. Gwnewch frawddegau yn cynnwys os, pan, mor, byth, hyd at, yn hir.

XIII

1. Sut ferch oedd Nest?

2. Disgrifiwch yn fanwl eich ffordd chwi o wneud unrhyw fath o deisen.

3. Eglurwch yn Gymraeg, burym, pentan, sacrament.

XIV

1. Pam oedd Nest yn awyddus am fynd i siop esgidiau?

2. Pam nad oedd Eric yn fodlon iddi fynd yno?

3. Meddyliwch eich bod yn byw mewn llety ac yn ennill dwy bunt yr wythnos. Beth a wnaech â'ch arian?

XV

1. Ysgrifennwch beth a wyddoch am un o'r llyfrau a enwir yn y bennod hon.

2. Gwnewch frawddegau yn cynnwys arnaf, arnat, arno, arni, arnom, arnoch, arnynt.

3. Ysgrifennwch raniadau amser yn Gymraeg, yn dechrau gydag "eiliad."

XVI

1. Eglurwch banadl, profiadol, cystadlu, a gwnewch frawddegau yn cynnwys pob un.

2. Rhoddwch "yn" o flaen pob un o'r enwau hyn, a newid y geiriau fel bo'r angen: Bodowen, Caerdydd, Maesycoed, Trawsfynydd, Bryn Gwyn, Pwllheli, Plasmarl.

3. Gwnewch yr un peth ag "i."

XVII

1. Meddyliwch mai Beryl ydych. Beth a fyddech yn ei feddwl ar ôl ymweliad Lady Rhydderch a Mrs. Mackenzie ?

2. Rhoddwch yr unigol a'r lluosog O cwrdd, iaith, gwragedd, plant, brawd, chwaer, cynnig, llais, ardal.

3. Cyfieithwch frawddegau Saesneg Lady Rhydderch i'r Gymraeg.

XVIII

1. Enwch gynifer ag y medrwch o feirdd Cymru sydd wedi marw.

2. Difynnwch ryw linellau eraill o waith Eben Fardd.

3. Beth wnaeth i Nest benderfynu mynd i Lundain?

XIX

1. Rhoddwch enwau pob darn arian a ddefnyddir yn y wlad hon.

2. Gwnewch frawddegau yn cynnwys: ymsythu, datguddio, troseddwr, tymer.

3. Eglurwch baragraff olaf y bennod.

XX

1. Ysgrifennwch englyn Elfyn o'ch cof.

2. Eglurwch "Anwybyddodd y cyhuddiad."

3. Rhoddwch y gwrywaidd a'r fenywaidd o'r geiriau hyn: meistr, gwraig, mab, gwas, chwaer, lleidr, hi, tad, Cymro, Sais.

XXI

1. Pam y mynnai'r plant dorri pob cysylltiad â'r hen ardal?

2. Sut le yw fflat ?

3. Pam yr wylai Beryl ar ôl ymweliad Nest?

XXII

1. Sut cafodd Eric y cyfle i fynd i Buenos Aires?

2. Sut fywyd oedd ar Beryl yn y dref? Beth yw eich barn amdani?

3. Gwnewch frawddegau yn cynnwys "yn barhaus," "yn gyflym," "yn rhy," "yn haws," "yn rhaid "

XXIII

1. Beth oedd rhai o fanteision ac anfanteision byw yn y dref?

2. Rhoddwch yr unigol a'r lluosog o llall, lle, ateb, Cymro, tref, tai, eraill.

3. Pa wahaniaeth sydd rhwng Sais a Chymro?

XXIV

1. Eglurwch y ddihareb, "Gwell goddef cam na'i wneuthur."

2. Ysgrifennwch hanes Mr. Ifan Goronwy.

3. Ysgrifennwch bennod arall yn sôn am fywyd Beryl a Geraint ac Enid ar ôl hyn.

GEIRFA

MAE'R llythrennau c, p, t, g, b, d, ll, m, rh, ar ddechrau gair yn newid ar ôl geiriau neilltuol, fel hyn :

gb
ciei gi ei chify nghi
pêlei bêl ei phêlfy mhêl
ei dŷ ei thŷfy nhŷ
gwraigei wraig fy ngwraig
bysei fysfy mys
drwsei ddrwsfy nrws
llawei law
mamei fam
rhawei raw

Felly, wrth chwilio am air fel nghi, edrycher am ci, etc. Os methir â chael gair i ddechrau gydag a, e, i, o, u, w, y, edrycher dan y llythyren g, ac weithiau h, fel wraig yn y rhestr uchod.

m., masculine; f., feminine; pl., plural.





Adnabyddus, well known, familiar.

addas, suitable, fit.

afiaith (m.), enjoyment.

afreolus, disorderly.

angerddol, intense.

amddifad (m. or f.), orphan.

amheuaeth (m.), doubt.

amneidiodd, beckoned.

anfoesgar, rude.

anfonheddig, vulgar.

anniben, untidy.

annymunol, unpleasant.

anwybyddu, ignore.

ardderchog, excellent, grand.

arffed, lap.

Banadl (m.), broom.

bawd (m.), thumb.

beirniad (m.), adjudicator.

bloesg, not speaking plainly

buddugol, victorious.

byrdwn (m.), refrain.

bywoliaeth (f.), livelihood.

Cannaid, white, bright.

caruaidd, lovingly.

castellu, kept safe, fortified.

cenfigen (m.), jealousy.

cnau ceffylau (f.pl.), horse chestnuts.

codiad (m.), increase, rise.

cofleidio, embrace.

crasu, bake.

croesholi, cross-question.

crwth (m.), violin.

cwsmeriaid (m.pl.), customers.

cychwyn, start.

cyfarwyddiadau (m.pl.), directions.

cyfarwyddyd (m.), guidance.

cyfnod (m.), epoch.

cyfran (f.), share.

cyngor (m.), advice.

cyhoeddus, public.

cyhuddiad (m.), accusation, charge.

Cymanfa Bwnc (f.), A Scripture Festival.

cymeradwyaeth (f.), applause.

cymylu, to cloud.

cynnau, to light.

cynnil, economical.

cyrens bant, a flowering shrub sometimes called French Currants.

cystadlu, compete.

cystudd (m.), illness.

cyweirio, mend.

Darbodus, thrifty.

datgloi, unbolt.

datguddio, reveal.

dealledig, understood.

defnydd (m.), material.

diau, undoubtedly.

dibryder, without anxiety.

dibynnu, depend.

didol, to separate.

didor, uninterrupted, unbroken.

didrafferth, easily, without difficulty.

diddiolch, ungrateful.

dieithrwch (m.), strangeness.

digalonni, discourage.

dilywodraeth, unrestrained.

dinod, insignificant.

dirmyg (m.), scorn.

diwenwyn, without evil thoughts.

dwyster, intensity.

dychmygu, imagine.

dyfarnu, adjudge.

dyfeisio, invent.

dylifo, pouring, streaming.

dynwared, imitate.

Edmygu, admire.

eilun, idol.

elfennol, elementary.

emrynt (m.), eyelids.

euraid, golden.

Fflach (f.), flash.

fforddio, afford.

ffurfio, to form.

ffyddiog, trustful.

Gefell (m. or f.), twin.

gofalon (m., pl.), cares.

gofidus, anxious.

gogoneddus, glorious.

grwgnach, grumble.

gwae, woe.

gwannaidd, faintly, weakly.

gwario, spend.

gwastadedd (m.), flat land, plain.

gweini, serve.

gwerthfawrocach, more precious.

gwrido, blush.

gwrthod, reject.

gwrthwynebu, oppose.

Gwyddel (m.), Irishman.

gwylaidd, modestly.

gwylltineb (m.), wildness.

gynnau, just now.

Helbulon (m. pl.), troubles.

hidl, very much, copiously.

hofran, hover.

hunanfeddiannol, self-possessed.

hysbysiadau (m. pl.), advertisements.

Ing (m.), anguish.

Llaid (m.), mud.

llarpio, devour.

lleddf, sad.

lleithter (m.), moisture.

llethr (m.), slope. L

lwyddo, succeed.

llwyfan (m.), platform.

Miliynydd (m.), millionaire.

mwynder (m.), sweetness.

myfyrdod (m.), meditation, study.

Naddu, hew.

nodedig, remarkable.

nwyddau (m. pl.), goods.

Pâm (m.), flower bed.

paratoadau (m. pl.), preparations.

parlysu, paralyse.

pelydr (m.), ray, rays.

penbleth (m.), perplexity.

pendant, definite.

penisel, downcast.

peswch (m.), a cough, to cough.

pesychiad (m.), act of coughing.

profiadol, experienced.

Rhagbraw (m.), test.

rhaglen (f.), programme.

rhagolwg (m.), prospect.

rheolaidd, regular, —ly.

Sawr (m.), scent.

sylweddoli, realise.

syllu, gaze.

Taeru, insist, contend.

taflod (f.), attic.

tangnefedd (m.), peace.

tlodaidd, shabby, poor-looking.

tosturi (m.), pity.

trem (f.), glance.

trin, cultivate.

troseddwr (m.), transgressor.

trwsiadus, tidy, neat.

Uchelgais (m.), ambition.

unawd (f.), solo.

urddasol, noble, dignified.

Ychwanegu, add.

ymboeni, to be bothered.

ymfalchio, to pride oneself.

ymffrostio, boast.

ymsythu, draw oneself up.

ymwelydd (m.), visitor.



LLYFRGELL SIR GAERNARFON

CAERNARVOVSHIRE COUNTY LIBRARY

Nodiadau golygu


 

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.

 

[[Categori:Llyfrau 1931]]