Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014/Creu trethi datganoledig newydd

Cyfradd treth incwm Gymreig Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014

gan Llywodraeth y DU

Rheoli’r pwerau i godi trethi

Creu trethi datganoledig newydd

70. Mae Bil Cymru’n diffinio treth dir y dreth stamp a’r dreth tirlenwi yng Nghymru fel ‘trethi datganoledig'[1]. Fodd bynnag, hefyd drwy’r Bil gellid dynodi trethi pellach mewn ffordd debyg drwy is-ddeddfwriaeth. Gellid defnyddio’r pŵer hwn i ddau bwrpas:

  • Fel y gallai Llywodraeth Cymru gyflwyno trethi newydd penodol yng Nghymru, gyda chytundeb y ddau Dŷ Seneddol a’r Cynulliad; neu
  • Fel y gallai Llywodraeth y DU ddatganoli trethi presennol pellach neu drethi newydd y DU, eto gyda chytundeb y ddau Dŷ Seneddol a’r Cynulliad.

71. Byddai gallu cyflwyno trethi newydd yng Nghymru’n cynnig cyfrwng polisi newydd y gallai Llywodraeth Cymru ei ddefnyddio i godi refeniw ychwanegol a / neu i effeithio ar ymddygiad. 72. Bydd cynigion ar gyfer trethi newydd yn cael eu hasesu yn erbyn ystod o feini prawf, gan gynnwys i ba raddau allai’r dreth newydd:

  • effeithio ar bolisi ariannol neu facro-economaidd y DU a / neu’r farchnad sengl;
  • efallai beidio â chydymffurfio â deddfwriaeth yr UE;
  • cynyddu’r risg o osgoi trethu; neu
  • creu baich cydymffurfio ychwanegol i fusnesau a / neu unigolion;
  • yn gyson â chyfrifoldebau datganoledig.

73. Yn gyson â’r broses a gyflwynir ynghyd â Bil yr Alban, byddai angen i unrhyw gynnig gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno treth newydd gynnwys manylion llawn am y canlynol:

  • y sylfaen drethi (h.y. gweithgarwch trethadwy);
  • amcan o’r refeniw a’r effaith economaidd;
  • amcan o’r effaith ar refeniw’r DU neu ar y berthynas â threthi

ledled y DU;

  • effeithiau disgwyliedig ar fusnesau ac unigolion (ân gynnwys

effaith ddosbarthiadol);

  • asesiad yn erbyn yr holl ddeddfwriaeth a chyfarwyddebau

perthnasol, gan gynnwys y Ddeddf Hawliau Dynol, rheolau’r UE ar Gymorth Gwladwriaethol, y Ddeddf Cydraddoldeb etc; a

  • cynlluniau casglu a chydymffurfio.

74. Mae’r meini prawf uchod ar gyfer asesu cynigion treth newydd yn cynnig fframwaith ar gyfer cynnal trafodaethau adeiladol. Bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i asesu unrhyw gynigion o’r fath mewn ffordd amserol. Os yw Llywodraeth y DU yn penderfynu, ar ddiwedd y broses honno, peidio â rhoi pwerau i’r Cynulliad i greu treth ddatganoledig newydd, bydd yn egluro ei rhesymau.

75. Fel y nodir yn ymateb y Llywodraeth i Gomisiwn Silk, disgwylir y byddai’r effaith ar grant bloc Llywodraeth Cymru wedi’i chyfyngu i gymhwyso egwyddor o ‘ddim niwed’. O dan yr egwyddor hon, byddai’r Llywodraeth yn addasu’r grant bloc ond pe bai disgwyl i dreth newydd yng Nghymru arwain at lai o refeniw i’r Trysorlys.

76. Os yw Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno treth newydd sydd ag elfen o gysondeb â meysydd datganoledig, bydd yn ymgynghori â Llywodraeth Cymru i weld pa sgôp sydd i ddatganoli’r dreth honno.

Nodiadau

golygu
  1. Yn lle cael eu diffinio fel ‘treth ddatganoledig’, byddai’r dreth gyngor ac ardrethi busnes yn dod o dan ‘drethiant lleol’ a (chan ddibynnu ar refferendwm) byddai’r gyfradd treth incwm Gymreig yn cael ei chreu o fewn system dreth incwm y DU ac yn cael ei gweinyddu gan HMRC.