Blodau Drain Duon/A Orfu a Ddioddefws
← Iaith Fy Mam | Blodau Drain Duon gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Cyfrol Ddiwetha'r Prydydd → |
A ORFU A DDIODDEFWS
[Gan gyfaill Dai]
'ROEDD Dai a minnau'n caru'r un
Heb wybod pwy oedd orau dyn.
Bu paffio hir, nid heb gryn regi,
A chariais innau'r dydd, a Phegi.
Ond heddiw, och! 'does fawr o ddadl,
Nad ennill Dai fu colli'r badl.