Blodau Drain Duon/Cwyn y Colledig

Tynnu'r Gwifrau Blodau Drain Duon

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Y Ffilosoffydd

CWYN Y COLLEDIG

I LUNIO 'ngherdd yn glir
Bûm ar fy ngorau glas,
A swm yr holl feirniadaeth hir
Oedd: Dyma brydydd bas!

Danfonais gân bur faith
I 'steddfod y Nadolig;
'Doedd hon yn glir na dwfn ychwaith,
A'r ddedfryd oedd: Canolig.

Mi genais gerdd lawn hud
A miri a macwyaid;
A'r beirniaid a gytunai i gyd:
Mor dywyll â phwll hwyaid.

Onid yw hyn yn brawf i bobun
Na ŵyr y beirniaid ddim o'u jobyn?


Nodiadau

golygu