Blodau Drain Duon/Cwyn y Prydydd Prin
← Cwyn y Cyfoethog | Blodau Drain Duon gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Edmygwn y Sais → |
CWYN Y PRYDYDD PRIN
MEWN bythod a phlasau
Ym mhob rhan o'r byd
Mae rhif fy mherthnasau
Yn llai-lai o hyd;
Bydd cael gafael mewn un yn gryn dipyn o dasg,
'Rwy'n ofni, pan ddelo fy nghyfrol o'r wasg.