Blodau Drain Duon/Cynghorwr Da
← Yn Ôl Hen Ddywediad | Blodau Drain Duon gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Y Ffordd i Gadw Cyfeillion → |
CYNGHORWR DA
ADWAENWN ŵr a oedd
Yn gwneud bywoliaeth gampus
Drwy ddysgu'r byd i gyd ar goedd
Y ffordd i fyw yn hapus.
Ond er mor deg a doeth ei farn-o,
Blinodd ei wraig, a chefnodd arno.