Blodau Drain Duon/Dic Siôn Dafydd
← Rhigymwr Truenus | Blodau Drain Duon gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Bos y Pwll → |
DIC SIÔN DAFYDD
ER gwawdio'i dir, a gwadu ei iaith,
'Doedd o na Sais, na Chymro chwaith,
Ond bastard mul,—'roedd yn y dyn
Wendidau'r mul i gyd ond un;
Fe fedrodd Dic, ŵr ffiaidd ffôl,
Adael llond gwlad o'i had ar ôl.