Blodau Drain Duon/Gorau Po Hynaf
← O'r Anial Y Ceir Ynni | Blodau Drain Duon gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Gwyddor, y Llawforwyn → |
GORAU PO HYNAF
GWELIR tri pheth yn pereiddio
Fel y byddont yn heneiddio,
Gwin, a chrwth, a chalon prydydd,
A'r pereiddiaf ydyw'r trydydd.