Blodau Drain Duon/Llyffaint yn y Pibau
← Y Pen Bostiwr | Blodau Drain Duon gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Gŵr o Radd Isel → |
LLYFFAINT YN Y PIBAU
AETH tapiau tref yn hysb un tro,
Ni redai'r dŵr o Lyn y Cribau,
A chafwyd, wedi dryllio bro,
Mai llyffant oedd yn tagu'r pibau.
Rhwystra rhyw lyffant mawr o hyd
Y ffrydiau sy'n adfywio'r byd.