Blodau Drain Duon/Sêr-Syllydd
← Llenor Cymraeg | Blodau Drain Duon gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Gŵr Tra Gwybodus → |
SÊR-SYLLYDD
CYNEFIN oedd â llwybrau'r nen
A chylchdroadau'r pellaf gysawd;
Fe bwysai'r heuliau poeth uwchben
A medrai fesur y bydysawd;
Ond digon cul ei orwel heno,
Aeth trol a mulyn dros ei ben-o.