Blodau Drain Duon/Y Cynhaeaf
← Pleser a Phoen | Blodau Drain Duon gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Proffwyd a Sant → |
Y CYNHAEAF
OD yw'r gŵr yn hen a ffaeledig,
Ni wywodd ei natur gref;
Bu tynged yn hir aredig
Ar wndwn ei enaid ef;
A'r lle y bu drain, a chawn, a chwyn
Yn barod i'r cynhaeaf gwyn.