Blodau Drain Duon/Y Ddau Ddrwg

Cyfrol Ddiwetha'r Prydydd Blodau Drain Duon

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Y Bardd a'r Beirniaid

Y DDAU DDRWG

 
CADEIRIWYD llanc awengar
Yn 'steddfod Gelli Groes;
Gorffwysodd ar ei gadair
A chysgodd am ei oes.

Fe wnaeth yn well, er hynny,
Na'r gŵr o Aber Wen;
Enillodd hwn gan cadair
A'r teitl, "Y Prydydd Pren."


Nodiadau

golygu