Blodau Drain Duon/Y Marchog
← Aelodau Newydd o'r Orsedd | Blodau Drain Duon gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Y Rhyngwladwriaetholwr → |
Y MARCHOG
FE drowd yr hen weithwyr i dloty'r sir
Pan ddiflannodd pob ceiniog o'u pwrs,
A'r gŵr a fu byw ar eu cefnau mor hir,
Gwnaed hwnnw yn farchog, wrth gwrs.