Blodau Drain Duon/Y Moch-Yrwyr
← Torri'r Gynffon | Blodau Drain Duon gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Tynnu'r Gwifrau → |
Y MOCH-YRWYR
[Yr oedd hen air moch a'i ystyr 'buan'.]
EISTEDD mewn modur yw pleser y ffôl,
A gweled y dolydd yn rasio;
Ond gwell gan y doeth ydyw eistedd mewn dôl,
A gadael i'r ffyliaid basio.