Blodau Drain Duon/Ymson Nel Tŷ-Ma's
← Gwyddor, y Llawforwyn | Blodau Drain Duon gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Byrder → |
YMSON NEL TŶ-MA'S
PAN wawrio bore'r codi
Ar bawb o deulu dyn,
Ac angel Duw yn dodi
Gwisg newydd am bob un;
A ddisgwyl Lady Jones y Plas
Gael gwynnach gŵn na Nel Tŷ-ma's?