Blodau Drain Duon/Yr Awdl Lesmeiriol
← Hogyn Ysgol Heddiw | Blodau Drain Duon gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Ddoe, Heddiw ac Yfory → |
YR AWDL LESMEIRIOL
BU'R Prydydd Crych o Bentre Mawn
Rai dyddiau'n ôl yng Nghnwc yr Hedydd
Yn darllen i gynulliad llawn
Ei awdl lesmeiriol i'r "Gweledydd;"
Yn ôl y newydd diweddaraf
Mae amryw 'n dechrau gwella'n araf.