Blodau Drain Duon (testun cyfansawdd)
← | Blodau Drain Duon (testun cyfansawdd) gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
→ |
I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Blodau Drain Duon |
Blodau Drain Duon
gan
Sarnicol
Llandysul
J. D. Lewis a'i Feibion Cyf., Gwasg Gomer
Y mae nifer o'r penillion hyn wedi ymddangos
yn y "Western Mail", ac argreffir hwy yma
drwy ganiatâd caredig y Golygydd.
—S.
Ail Argraffiad-Chwefror 1936
Trydydd Argraffiad-Ebrill 1953
Gwnaethpwyd ac Argraffwyd yng Nghymru gan
J. D. Lewis a'i Feibion Cyf., Llandysul
Blodau Drain Duon
Y BRIGAU HYN
[O "Ddrain Duon"]
BLODAU gwerinol gwlad
A dyfodd ar y brigau;
Dichon y rhônt fwynhad
Er gwaethaf rhai o'r pigau.
Cymerwch hwy, cyn troi o'r fflur
Yn bethau calon-galed, sur.
AUR Y DOETH
GOLUD ymhell
A chwilia'r ffôl,
A'r mwnai gwell
I gyd ar ôl.
Ni waeth pa fan
Y bo'n y byd,
Daw aur i ran
Y doeth o hyd.
NID Y DILLAD YW'R DYN
RHYWUN dwl sy'n barnu dyn
Heb weled ond ei bilyn.
WYLO NEU CHWERTHIN?
WRTH graffu ar y byd
Fe roed i ddyn ei ddewis
Rhwng wylo am a wêl o hyd
A chwerthin yn ei lewys.
PLESER A PHOEN
Y GLUST a gâr y ganig dlos
A boenir gan aflafar sain,
A'r fron a dawdd dan wrid y rhos
A frethir gyntaf gan y drain.
Y CYNHAEAF
OD yw'r gŵr yn hen a ffaeledig,
Ni wywodd ei natur gref;
Bu tynged yn hir aredig
Ar wndwn ei enaid ef;
A'r lle y bu drain, a chawn, a chwyn
Yn barod i'r cynhaeaf gwyn.
PROFFWYD A SANT
YN eu harch,
Parch;
Yn eu hoes,
Croes.
DIRYWIO
PAN synio dyn ei fod yn fawr
Mae'n dechrau mynd yn llai;
Ac ar ei waeth yr â o'r awr
Y tybia'i fod heb fai.
DOETHINEB FFÔL
NID yw bywyd ond trychineb
I'r gŵr trist na ddaeth erioed
O binaglau oer Doethineb
I ymuno â'r Ffolineb
Syml a chwery wrth eu troed.
HAWL A DYLETSWYDD
ER uchel floeddio ein hawl o hyd
I dâl a nawdd, i dir a nwyddau,
Ein hunig hawl er hyn i gyd
Yw'r hawl i wneud ein dyletswyddau.
Yn nhryblith byd, a'i gam a'i drawster,
Gwybod y rheini yw'r anhawster,
ADERYN DEDWYDDWCH
RHED ar ei ôl i'w ddal,
A'r aderyn ymhell a ffy;
Glŷn wrth dy orchwyl gartref,
A'i gân a leinw dy dŷ.
CWSG YR HENWR
ER mor drwm yw ar ei droed,—ni ŵyr mwy
Hun drom, hir ei faboed;
Mor ysgawn yw'r gwawn ar goed!
Ysgawnach yw cwsg henoed,
MYNYDDOEDD MEBYD
HEN fynyddoedd llwyd oeddynt,—ryw adeg
Hawdd y rhedwn drostynt;
Heddiw'n grwm,—O hwyrdrwm hynt!
'Rwy'n hŷn na'r un ohonynt.
O'R ANIAL Y CEIR YNNI
O'R anial y ceir ynni,
Trafferth a rydd nerth i ni.
GORAU PO HYNAF
GWELIR tri pheth yn pereiddio
Fel y byddont yn heneiddio,
Gwin, a chrwth, a chalon prydydd,
A'r pereiddiaf ydyw'r trydydd.
GWYDDOR, Y LLAWFORWYN
LLAWFORWYN brenin gynt a ddug
Ddau gwpan at ei fin,
Y naill llawn o wenwyn
A'r llall yn llawn o win;
Dewisodd yntau yn ei ffoledd
Yfed o'r ddau, a dyna'i ddiwedd.
YMSON NEL TŶ-MA'S
PAN wawrio bore'r codi
Ar bawb o deulu dyn,
Ac angel Duw yn dodi
Gwisg newydd am bob un;
A ddisgwyl Lady Jones y Plas
Gael gwynnach gŵn na Nel Tŷ-ma's?
BYRDER
PA bleser byw
Ond er ei mwyn?
Er lleied yw
Mae'n fawr ei swyn.
Holl brofion byd
I'r gred a'm gyr
Fod enfawr hud
Mewn mesur byr.
Y GWAEL DAN GOCHL Y GWIR
AMCAN y llenor a'r celfyddwr coeth,
Medd rhai, yw dangos y gwirionedd noeth.
Ond yn y farchnad, y mae'n weddol glir
Mai'r noethni sy'n apelio, nid y gwir.
HELPU EI GILYDD
CYSGWR:
I mi mae'ch pregethau o fendith fawr,
Maent yn help i gael cysgu ambell awr.
PREGETHWR:
'Rych chwithau o ddirfawr help i mi,
'All neb arall gysgu 'run pryd â chwi!
UNPETH ER MWYN ENW
CAEL sôn amdano yn y byd
Ydyw uchelgais hwn o hyd.
Nid oes erchylltra na wnâi'r gŵr
Er mwyn gwneud enw a chreu stŵr.
I'r adyn nid yw cael ei grogi
Ar goedd ond cyfle i ymenwogi.
Nid ofna ddim o dan y rhod
Ond cael ei grogi yn ddi-nod.
CWYN CYMEDROLWR
MAE llawer arnaf yn dal gwg
Am yfed glasaid bach neu ddau,
Nid am fod diod yn beth drwg,
Ond am fy mod yn ei mwynhau.
Y TRI BRAWD
Y CYNTAF:
RHWNG blodau'r dydd anghofiodd ef
Am sêr y nos ar feysydd nef.
YR AIL:
Dan hud y sêr bu hwn erioed
Heb weld y blodau o gylch ei droed.
Y TRYDYDD:
Wrth durio'r llwch am aur i'w godau
Aeth hwn yn ddall i sêr a blodau.
SIÔN
PAN oedd Siôn heb ddim, 'doedd neb yn y fro
Yn pryderu fawr am ei enaid o.
Ond daeth tro ar fyd, y mae Siôn yn awr
Wedi dyfod yn berchen golud mawr;
A gwelir yr eglwysi i gyd
Yn ceisio ei ennill i mewn o'r byd.
O'r seti mawr fe gyfyd cri:
"Rhaid ei gael yn aelod gyda ni!"
Aeth Siôn yn gyfoethog, a phawb drwy'r fro
Yn cystadlu am achub ei enaid o.
CWYN Y BARDD-BREGETHWR
ATEBAF, pan fo'n rhaid
Rhoi f'enw a'm swydd i'r trethwyr:
"Pregethwr ym mysg beirdd,
A bardd ym mysg pregethwyr;
Ymhlith y rhai sy'n ennill dwbwl
Fy nghyflog bach, 'dwy'n neb o gwbwl".
SAM A RHYS
'ROEDD Sam y Siopwr yn ei ddydd
Yn gampwr mewn dadleuon,
A gyrrodd rai o deulu'r ffydd
Ymhell i dir amheuon.
Ond denai Rhys yr Hendref hwy
Cyn hir yn ôl i'w llefydd
Heb drwst—na dadlau mwy na mwy—
'Roedd Rhys yn byw ei grefydd.
SET DDIWIFRAU GŴR SAFIN
FE brynodd set ail-law am bunt
Er mwyn cael pregeth yn ei dŷ,
A pheidio â mynd drwy'r glaw a'r gwynt
I'r cwrdd, fel yn y dyddiau fu.
Heblaw, fe arbed gost i'r dyn;
Yn ôl ei gyfraniadau llynedd
Fe dâl y set amdani ei hun
Ymhen rhyw ugain mlynedd.
DRWGDYBIO'R LLAETHWR
FE gafwyd sildyn yn ei laeth;
O b'le daeth?
LLAWER FFORDD O FEDDWI
Aм lithro unwaith ar ei droed
Mewn diod, cedwir un i lawr;
A'r meddw ar gyfoeth byd a roed
Yn enau arian y sêt fawr.
DAU FRAWD
[Wil yn Labro, Dai'n Pregethu]
MEWN eglwys dila, ar fywoliaeth fain,
Druan o Dai ! pa rwystrau nad wynebodd?
Ond, dyma'r gwall sy'n cyfrif am y rhain,
Fe alwyd Wil, ond Dai ei frawd atebodd,
Y SANT
[O safbwynt hogyn]
Ei waith yw grwgnach ar y plant
Sy a themtasiynau yn eu trechu;
Efallai y trof innau'n sant
Pan elwyf yn rhy hen i bechu.
YR HEN FUGAIL
PETH anodd ambell waith fu trafod
Fy nefaid gynt ar ros yr Hafod.
Ond Och! y praidd sy genny' 'nawr,
Myheryn dibris llofft a llawr,
A hyrddod cynnig y sêt fawr!
CYTGAN YR ETHOL
Aм fisoedd cyn hyn
Ar oriel a llawr
Sylwasom yn syn
Mor wag yw'r sêt fawr.
Mor ddof yw'r odfeuon!
Fe gwympodd y deri,
A syrthio mae Seion
O ddiffyg pileri.
O deuwch, ffyddloniaid,
Maen' hw' wedi pasio
I wneud diaconiaid,
Rhaid dechrau canfasio.
DYN O FIL
MAE'n ddyn o fil, yn Gymro mawr,
A daw o Lundain weithiau i lawr
I'n hannog ni, werinwyr gwlad,
Sy'n ddigon isel ein hystad,
I droi ein meddwl at ddelfrydau
Yn fwy na thir, a thail, a chnydau;
A rhoddi addysg orau'r dydd
I'n plant, er mwyn yr elw y sydd
Mewn gwir ddiwylliant, nid er swydd
Na safle, nid er llog na llwydd.
Mae'n ddyn o fil, a myn rhai fod
Rhyw bymtheg cant yn nes i'r nod.
Y PEN BOSTIWR
Os credwn hwn, mae'n ben o hyd
Ym mhob rhyw gamp ar bawb i gyd;
Ac yna bostia mai efô
Yw'r mwyaf difost yn y fro.
LLYFFAINT YN Y PIBAU
AETH tapiau tref yn hysb un tro,
Ni redai'r dŵr o Lyn y Cribau,
A chafwyd, wedi dryllio bro,
Mai llyffant oedd yn tagu'r pibau.
Rhwystra rhyw lyffant mawr o hyd
Y ffrydiau sy'n adfywio'r byd.
GŴR O RADD ISEL
A'ı ben chwyddedig â drwy'r byd
Gan siglo 'i gynffon yn ddi-baid,
Ond ni'n hatgoffa eto i gyd
Am ddim ond penbwl yn y llaid.
Y CYMRO UNNOS, NEU'R TÂN PAPUR
AR NOS Gŵyl Dewi'n llawn o dân
Gwladgarol, uchel oedd ei hwyl-o;
Pan ddaeth i'r llwyfan, mawr a mân
Yn wasaidd oedd yn curo dwylo.
Darllen yr arawd ar ei hyd
(A glytiodd rhyw hen Gymro annoeth),
A disgwyl am ei gweld, ynghyd
A'i bictwr yn y papur drannoeth.
Ac yna,—aeth y gwres ar goll,
Tân papur oedd y cyfan oll.
BEDDARGRAFFIADAU
RHIGYMWR TRUENUS
GOFID a helbul o hyd
Yw rhan gwir etifedd yr awen;
Aeth yntau'r rhigymwr truenus trwy'r byd
Yn llon a llawen.
DIC SIÔN DAFYDD
ER gwawdio'i dir, a gwadu ei iaith,
'Doedd o na Sais, na Chymro chwaith,
Ond bastard mul,—'roedd yn y dyn
Wendidau'r mul i gyd ond un;
Fe fedrodd Dic, ŵr ffiaidd ffôl,
Adael llond gwlad o'i had ar ôl.
BOS Y PWLL
BU'N sacio'r gweithwyr, fach a mawr,
I brofi ei safle, 'r adyn crac;
Mae wedi mynd i bwll yn awr
Lle nid oes neb yn cael y sac.
Y GŴR HUNANGAR
Gŵr ydoedd hwn na feddai ffrind;
Ni charodd ond efô ei hun;
Ac ni fu neb yn chwennych mynd
A'i gariad oddi ar y dyn.
Y MARW-NADWR
CANODD farwnadau llu
O Lanandras i Dyddewi;
Yntau 'nawr yn farw sy,
A'i holl nadau wedi tewi.
BARDD
FE ddaeth coronau, wyth neu naw,
Yr ochor yma'n rhwydd i'w ran,
Ond os cadd un yr ochor draw,
Yr oedd hi'n gystadleuaeth wan.
ARWERTHWR
LOT ar ôl lot a droes ei ddoniau ef
Yn fargen enfawr, nes eu dwyn i dref;
Ni ddyry ef un gnoc â'i forthwyl mwy:
Fe gafodd yntau'i daro i lawr,—i bwy?
LLAETHWR ANONEST
Er filoedd yn y byd a wnaeth
Drwy ddodi dŵr ar ben ei laeth;
Ond lle mae heddiw, mae'n dra siwr,
Fe wnâi filiynau, pe câr ddŵr.
LLENOR CYMRAEG
CYHOEDDODD lyfr Cymraeg; fe glybu toc
Ei fod yn talu, a bu farw o sioc.
SÊR-SYLLYDD
CYNEFIN oedd â llwybrau'r nen
A chylchdroadau'r pellaf gysawd;
Fe bwysai'r heuliau poeth uwchben
A medrai fesur y bydysawd;
Ond digon cul ei orwel heno,
Aeth trol a mulyn dros ei ben-o.
GŴR TRA GWYBODUS
MAE gŵr yn gorwedd yma o dan yr yw
A wyddai bopeth ond y ffordd i fyw.
ATHRO TRAFFERTHUS
Bu'n rhuo uwchben plantos hyd ei oes
A'u gosod yn y gornel ar un goes;
Ond arno yntau fe roed taw, a'i ran-o
Yn awr yw'r gornel hon, heb un goes dano.
PLISMON
TREULIODD oes yn ôl ei hobi
Yn dal dyhirod ar ei rownd;
Heddiw dyma yntau'r Bobi
Yn ei gell yn ddigon sownd.
CWYN Y CYFOETHOG
MEWN bythod a phlasau
Ym mhob rhan o'r byd
Mae rhif fy mherthnasau
Ar gynnydd o hyd;
A phob un yn crefu am gyfran o'm ffawd.
A garo fyd llonydd, arhosed yn dlawd.
CWYN Y PRYDYDD PRIN
MEWN bythod a phlasau
Ym mhob rhan o'r byd
Mae rhif fy mherthnasau
Yn llai-lai o hyd;
Bydd cael gafael mewn un yn gryn dipyn o dasg,
'Rwy'n ofni, pan ddelo fy nghyfrol o'r wasg.
EDMYGWN Y SAIS
DIRMYGER Y Cymro a gais fawrhad
Ar draul diystyru hen iaith ei wlad;
Edmyger y Sais am ei fod yn ddyn
A wrthyd bob iaith ond ei iaith ei hun.
I'R LLUCHIWR BAW
GWELL iti atal dy law;
'Does undyn na wêl yn glir
Fod y neb sy'n lluchio baw
Yn colli tir.
MAE AR Y PWYLLGOR
NID yw ei farn yn werth dim grôt
Ar unrhyw bwyllgor, uwch nac is;
Ond cofiwch, y mae ganddo fôt,
Ar honno y gosodir pris.
Y DDAU NERTH
UN mewn dirfawr boen a thlodi
Drwy ei briod nerth sy'n codi;
Buan rhwng y brain a'r piod
Aethai'r llall heb nerth ei briod.
Y POENYDIWR PEN-HEOL
"A YDYCH mewn brys?" medd ef ar y stryd;
"Wel, 'rwyf yn hoffi cael bwyd yn ei bryd."
"A glywsoch chwi f'englyn olaf i?"
"Do, 'rwy'n gobeithio;" a ffwrdd â mi.
MEWN CWMNI O GYMRY
'DOES eisiau ond gweled un Sais yn ein mysg,
Rhaid troi yn y man i'r iaith fain;
Am y tri Chymro uniaith, annheilwng o'n dysg
Yw gwneud yr un sylw o'r rhain.
DIM OND MASNACHWR
MEWN gair ac mewn gweithred
Mae'n hynod o chwim;
Mae'n gwybod pris popeth
Heb wybod gwerth dim.
IAITH FY MAM
"CYMRAEG yw'ch iaith chwi, ond, Dadi, pam
'Rych chwi yn ei galw yn Iaith fy Mam?"
"Am fod dy fam, mae'n debyg, Johnny,
Yn siarad llawer mwy ohoni."
A ORFU A DDIODDEFWS
[Gan gyfaill Dai]
'ROEDD Dai a minnau'n caru'r un
Heb wybod pwy oedd orau dyn.
Bu paffio hir, nid heb gryn regi,
A chariais innau'r dydd, a Phegi.
Ond heddiw, och! 'does fawr o ddadl,
Nad ennill Dai fu colli'r badl.
CYFROL DDIWETHA'R PRYDYDD
EBE cyfaill: "Dal ati
I lunio dy gân,
Mae dy gyfrol ddiwethaf
Yn mynd fel y tân.'
A ffwrdd â mi'n llawen
Gan redeg heb stop,
I gael gweld yr holl fynd
Ar fy llyfrau'n y siop.
Mynd fel y tân! nid oedd mwy le i amau—
Pan welais y siop i gyd yn fflamau.
Y DDAU DDRWG
CADEIRIWYD llanc awengar
Yn 'steddfod Gelli Groes;
Gorffwysodd ar ei gadair
A chysgodd am ei oes.
Fe wnaeth yn well, er hynny,
Na'r gŵr o Aber Wen;
Enillodd hwn gan cadair
A'r teitl, "Y Prydydd Pren."
Y BARDD A'R BEIRNIAID
Duw a luniodd Fardd,
Yna cymerth ddyrnaid
O'r ysbwrial oedd ar ôl,
A gwnaeth dri o feirniaid.
NID DOETH POB AMLIEITHOG
GWN am hen Gymro hynod gall
Na feder ond un iaith,
Ac adwaen hyddysg ŵr na all
Siarad fawr sens mewn saith.
BYW YN GYTÛN
I'R adar bach mewn nyth, doeth yw
Trigo mewn hedd, os gallan';
Y perygl mawr o fethu byw'n
Gytûn yw syrthio allan.
HOGYN YSGOL HEDDIW
GOFYNNAI'R tad: "Wel, be' sy'n bod,
A'th liw fel yna'n mynd a dod?"
Medd Tomi'n ffyrnig fel y ddraig:
'Rwy' newydd ffraeco efo'ch gwraig."
YR AWDL LESMEIRIOL
BU'R Prydydd Crych o Bentre Mawn
Rai dyddiau'n ôl yng Nghnwc yr Hedydd
Yn darllen i gynulliad llawn
Ei awdl lesmeiriol i'r "Gweledydd;"
Yn ôl y newydd diweddaraf
Mae amryw 'n dechrau gwella'n araf.
DDOE, HEDDIW AC YFORY
BARDD DDOE:
WRTH gynllunio'i gerddi
Ei hoff arfer ef oedd
Dechrau draw yn Eden
A gorffen yn y nefoedd.
BARDD HEDDIW:
Mae ei gân yn cynnwys
Cyfriniaeth i'r ymylau;
Dechrau mewn tywyllwch
A gorffen mewn cymylau.
BARDD YFORY:
Cyfnewidia Cymru,
A daw beirdd ohoni
A ddeil na wyddai'u tadau
A.B.C. barddoni.
Y BARDD A'R BARBWR
Y BARDD:
Torrwch fy ngwallt, a rhowch dipyn o raen
Arno, 'r un fath â'r tro o'r blaen.
Y BARBWR:
Y tro o'r blaen! Yr holl amynedd!
Nid wyf i yma ond ers dwy flynedd.
UN GAIR YN DDIGON
Y PRYDYDD HIR:
'Rwy'n danfon i chwi ddarn
O'm "Cân Ddi-lyffetheiriau,"
A hoffwn gael eich barn
Mewn cant neu ddau o eiriau.
Y BEIRNIAD BYR:
Pa eisiau cant neu ddau, O ddyn ?
Mi fedraf ddweud fy marn mewn un.
AELODAU NEWYDD O'R ORSEDD
RHOWD graddau anrhydeddus i rai degau
Yn 'Steddfod Genedlaethol Pen y Traeth;
A dywaid rhai Ceiliogod o'r Colegau
Eu bod yn cyflawn haeddu hyn, a gwaeth.
Y MARCHOG
FE drowd yr hen weithwyr i dloty'r sir
Pan ddiflannodd pob ceiniog o'u pwrs,
A'r gŵr a fu byw ar eu cefnau mor hir,
Gwnaed hwnnw yn farchog, wrth gwrs.
Y RHYNGWLADWRIAETHOLWR
HOLL bobol pellter byd a gâr
O Honolulu i Odessa;
Mae felly heb ddim serch yn sbâr
I bobol y drws nesa'.
Y GORWYBODUSION
MAE gorwybodusion yn ein mysg
A'u dawn wedi diffodd o dan eu dysg;
Ffôl o beth, meddai modryb Siân,
Rhoi gormod o lo ar ychydig o dân.
Y DOMEN A'R ARDD
I LENOR a bardd,
Fel i bawb yn y byd,
Y mae tomen a gardd
Yn dreftadaeth o hyd;
Ond chwith yw gweld Proffwyd y Prydferth, fel c'lomen,
Yn gwrthod yr ardd, ac yn hedeg i'r domen.
YN ÔL HEN DDYWEDIAD
PE baet mor gyflym ar dy droed
Ä'th dafod, gwnaet o'r gore,
Fe ddalict fellt, fy ngeneth lân,
I gynnu tân y bore.
CYNGHORWR DA
ADWAENWN ŵr a oedd
Yn gwneud bywoliaeth gampus
Drwy ddysgu'r byd i gyd ar goedd
Y ffordd i fyw yn hapus.
Ond er mor deg a doeth ei farn-o,
Blinodd ei wraig, a chefnodd arno.
Y FFORDD I GADW CYFEILLION
DWED Tomos yr Hendre na waeth yn y byd
Pa nifer o ffrindiau fydd gennych;
Gellwch gadw'n gyfeillgar â'r cwbl o hyd
Ond eu gweld hwy'n ddigon anfynych.
MYND AR EI OED
MAE Dafy'n dechrau dweud nad ydyw'r gore
A welir heddiw fel yr hyn a fu;
Ni synnwn innau glywed unrhyw fore
Fod Dafy wedi myned yn dad-cu,
WRTH DDARLLEN PAPUR CYMRAEG
MOR welw ei raen, mor llipa yw!
A'i garpiog wisg yn wael ei deunydd;
Ymgripia 'mlaen yn hanner byw
A'i gorpws main feinach beunydd;
Er tân a gwleddoedd Cymrodorion
Mewn oerni deil i grafu sborion;
A holl bapurau'r Sais yn llu
Yn pesgi yma mewn digonedd,
A golud iddynt o bob tu
Yn llifo o logell gwreng a bonedd;
O feirdd, llenorion a darlithwyr
Llawn sêl heb sylwedd, O ragrithwyr !
NEWYDD BRIODI
Hi:
'Rown wedi gwneud fy nheisen gynta' i chwi,
Ond O! mae Bonzo wedi ei bwyta hi!
YNTAU:
Ol reit, 'y nghariad i, na hidiwch befo,
Fe fynnwn gi bach arall yn ei le fo.
DIRGELWCH GWRAIG
PAIR arswyd ar ddyn
Er ei fod dros chwe throedfedd;
Ond arswyda ei hun
Rhag llygoden tair modfedd.
CYNGHOR TWMI
"PAID bod mor ffôl," meddai Twmi Pen'graig
"A mynd i gwm arall i 'mofyn gwraig;
Ynfyd y gŵr a ddeil mai gwell
Na pherl o agos yw baw o bell."
HYSBYS Y DENGYS Y DYN
FFOP:
Ni phaid dy wedd â datgan y gyfrinach
Fod clamp o epa rywle yn dy linach.
CLOP:
Mae'n bosibl, er nas tybiem wrth dy lun,
Fod un o'th hen gyndeidiau dithau'n ddyn.
Y GOST O LADD UN CADNO
CYFRIFAF, pan dyr bloedd yr heliwr buan
A chri'r bytheiaid awchus ar fy nghlyw,
Eu bod yn mynd i ladd y cadno, druan,
Ar gost a gadwai ddeg o blant yn fyw.
PROFIAD HEN ATHRO
CRWYDRAIS O byllau mawn fy mro
A bwth fy nhad tua gwlad y glo,
I geisio arwain plant ymlaen
Mewn dysg a moes, yn groes
Arweinwyr creaduriaid mud
Fu'm teidiau oll, er dechrau byd.
Diolch i'r duwiau am y perthyn i'w graen.
I'n hach y wyrthiol ddawn o chwerthin.
PARADWYS Y PORCHELL
[Cetyn o awdl fodern]
DRWY ei chain dud o rochian dedwydd
Un oer wich o geg ni phair erch gigydd;
Golchion fydd yno'n llydain afonydd,
A soeg yn ddirfawr seigiau na dderfydd;
A dymunol domennydd-ym mhob man Y
n bentyrrau ban, i'w twrio beunydd.
PROFI ATHRONYDD
I BROFI athronydd danfonwyd tri pheth,
Y ddannodd, a serch, a phapur y dreth.
TORRI'R GYNFFON
[Yn ôl y bywydegwyr]
YNFYD yw'r tad a gwtoga
Chwaraeon a chastiau crwt;
Ni thyf yr un penbwl yn froga
Os torrir ei gwt.
Y MOCH-YRWYR
[Yr oedd hen air moch a'i ystyr 'buan'.]
EISTEDD mewn modur yw pleser y ffôl,
A gweled y dolydd yn rasio;
Ond gwell gan y doeth ydyw eistedd mewn dôl,
A gadael i'r ffyliaid basio.
TYNNU'R GWIFRAU
MAE tynnu dannedd weithiau'n talu'n hanswm,
Mae tynnu torf yn boddio bloeddwyr byd;
Ond eddyf pawb, 'rôl cyfrif y cyfanswm,
Mai tynnu'r gwifrau a dâl orau i gyd.
CWYN Y COLLEDIG
I LUNIO 'ngherdd yn glir
Bûm ar fy ngorau glas,
A swm yr holl feirniadaeth hir
Oedd: Dyma brydydd bas!
Danfonais gân bur faith
I 'steddfod y Nadolig;
'Doedd hon yn glir na dwfn ychwaith,
A'r ddedfryd oedd: Canolig.
Mi genais gerdd lawn hud
A miri a macwyaid;
A'r beirniaid a gytunai i gyd:
Mor dywyll â phwll hwyaid.
Onid yw hyn yn brawf i bobun
Na ŵyr y beirniaid ddim o'u jobyn?
Y FFILOSOFFYDD
[Gan ŵr mater-o-ffaith]
NID rhyfedd i minnau wallgofi
Pan dreuliodd fy hwyrnos i gyd
Yn profi na ellir profi
Dim yn y byd.
YR YSGWLYN DELFRYDOL
Ni welir un wialen—ar ei ddesg,
Garuaidd ŵr cymen,
Llywydd ei deulu llawen,
Ond heb os mae'r bós yn ben.
Y LLWYBR AUR I ENWOGRWYDD
UN oedd gynnau'n ddigeiniog—a heliodd
Olud mewn ffyrdd troeog,
A thrwy ei aur daeth y rog
Ar unwaith yn ŵr enwog.
Y CARDI
EDWYN byd ei wên o bell;—eithaf wág,
Aeth o'i fwth anghysbell
Yn aml ei gân am le gwell,
A'i lygad ar ei logell.
SIOPWR Y PENTREF
YN ei siop gwerthir popeth,―ysgadan
Ac esgidiau'n gymhleth,
Halen, dur, olew'n doreth,
Mats a byllt, 'does dim ots beth.
Glew ail-luniwr glawlenni,—ryparwr
Y peiriant fo'n torri,
Tincer, am ddim ond ' Tanci',
Siwper-nyt yw'n siopwr ni,
Y FFORDD I'W DYCHRYNU
Os am foddio'r Cymry golau,
Traethwch iddynt am gyfrolau;
Os dewiswch eu dychrynu,
Soniwch wrthynt am eu prynu.
Nodiadau
golyguBu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.