Boed Clod Mawl i Fab y Dyn
Mae Boed Clod mawl i Fab y Dyn yn emyn gan Dr George Lewis DD (1763 – 1822).
- Boed clod a mawl i fab y dyn
- Am ddod yn was, mor wael ei lun
- Heb Ie i roi ei ben i lawr
- Er nad oedd neb trwy'r nef mor fawr.
- Clod byth a mawl fo i had y wraig
- Am ddod i'r byd i ladd y ddraig,
- Er bod dros dro lawr yn y bedd
- Fe ddaeth i'r lan yn wych ei wedd
- Clod byth i'r hwn sy'n ddyn a Duw
- Daeth dan y ddeddf, heb fai bu fyw
- Fe wnaeth ei waith tra'r oedd hi'n ddydd
- Ac er ei ddal mae'n awr yn rhydd
- Clod byth a mawl a fo i'r oen
- Aeth er ei mwyn dan y fath boen,
- Clod am ei waith, clod am ei waed
- Mae'r ffordd yn rhydd nawr at y Tad
- Tu draw i'r bedd, holl lu y nef :
- Ront glod i Grist yn llon eu llef
- Ymhlith y Un, heb friw na phoen
- Os caf fi fyw, rhof glod i'r oen.