Brethyn Cartref/Catrin Lei Bach Fawr

Ci Dafydd Tomos Brethyn Cartref

gan Thomas Gwynn Jones

Cariad Dico Bach


XI. CATRIN LEI BACH FAWR.

HEN wraig blaen iawn ei ffordd oedd Mari Huws, a rhyfeddol o blaen ei hymadrodd hefyd. Perthyn i'r oes o'r blaen yr oedd hi, rywsut ym mhob peth, ac eto yr oedd ei merch, Catrin, fel petasai wedi ei dwyn i fyny yn y dull diweddaraf a gwychaf ym mhob ystyr. Y gwir oedd mai bywyd caled iawn a gawsai—byw ar fara llaeth a chrystiau sychion, rhedeg yn droednoeth yn yr haf a gwisgo clocsiau yn y gaeaf. Ond yr oedd rhywbeth yn falch yn yr eneth erioed. Hyd yn oed yn droednoeth neu yn ei chlocsiau, yr oedd bob amser yn lân a thrwsiadus, ac yn cerdded o gwmpas fel pe buasai yn ferch sgwier y plas ac nid yn ferch ei weithiwr distadlaf. Fel yr oedd yr eneth yn dyfod yn hŷn, yr oedd yn rhaid iddi fynd i weini, ac felly yr aeth yn ddigon ieuanc hefyd. I'r Plas yr aeth i ddechreu, wrth gwrs, gan fod ei thad yn gweithio ar yr ystad, ac felly yn ei ystyried ei hun radd yn uwch na gweithwyr ffermwyr a labrwyr cyffredin yr ardal. Y mae'n debyg mai oddiwrth ei thad y cafodd y ferch ei balchter, canys yr oedd rhyw fath o falchter yn yr hen ddyn, druan. Fel yr awgrymwyd, ymfalchiai ei fod yn gweithio ar ystad yr Ysgwier, a chyfrifai fod hynny yn ei godi uwchlaw ei debyg. Pan aeth ei ferch i weini i'r Plas, ystyriai fod hynny yn anrhydedd mawr arno, a sarhaodd fwy nag un o'i gydnabod drwy awgrymu gymaint gwell oedd ei ferch ef na'u merched hwy oedd yn gweini gyda ffermwyr a phobl gyffredin felly. "Lei Bach Fawr" y byddai'r cymdogion yn galw yr hen greadur, ond Mari Huws y byddai pawb yn galw yr hen wraig. Yr oedd hi yn hollol groes i'w gŵr ym mhob ystyr.

"Dyma ti, Lias," meddai hi wrtho un noson, fel y byddai'n dywedyd yn aml, "mae gen ti ormod o gynffon i bethe'r Plas 'na o lawer. I be'r wyt ti'n tynnu dy gap iddyn nhw bob amser, ac yn digio dy gymdogion drwy ryw hen stumie gwirion yn eu cylch nhw? Wyt ti 'run mymryn mwy dy barch wedi'r cwbwl ganthyn nhw."

"Ond cofia dithe, Mari," meddai Lei yn ei dro, "mae arnyn nhw yr yden ni yn dibynnu am y'n tamed—."

"Tamed, wir!" ebe Mari Huws, "mi fase yn o ddrwg arnon ni am damed yn elo dy ddeuddeg swllt yn yr wythnos di, mi rof ngair iti! Lle base'n tamed ni oni bae mod i yn golchi tipyn ac yn manglo a smwddio dillad? Yn wir, mae'n edifar iawn gen i na faswn i wedi gneud iti fynd i weithio at y ffarmwrs ers talwm, a golchi tipyn yn chwaneg fy hun, gael i ni fod fel rhyw bobol erill, yn lle dawnsio tendans i hen dacle'r Plas yna o hyd o hyd!"

"Wel," meddai Lei, "waeth iti gyfadde na pheidio 'mod i o leia yn cael gwaith cyson ar hyd y blynydde ynte, yn lle bod weithie fel hyn ac weithie fel arall."

"Wyt, yr wyt yn cael gwaith cyson, mae'n wir," meddai Mari, "ond yr wyt ti wedi mynd yn un garfaglach wrth ostwng dy arre i ddiolch am dano fo, ac y mae dy law di yn amlach wrth dy gap nag yn unman arall, yr hen gynffon gen ti!"

"Paid a rhygnu a rhygnu fel yna o hyd, da thi," meddai Lei yn druenus, "oni bae fod yr eneth wedi cael mynd i'r Plas, fase hi ddim cystal arni hi ag ydi hi heddyw, a fase hi ddim yn cael mis o rodio fel mae hi yn cael, fel 'roedd hi yn deyd yn ei llythyr ddoe."

"O, ie, mae hi yn dwad adre i bwyso arnom ni am fis eto," ebr Mari, "yn lle bod hefo'i gwaith fel y byddwn i yn 'i hoed hi—."

"Ond mae'n siwr fod yn, dda gen ti wel'd dy ferch dy hun yn dwad adre fel ledi?" meddai Lei.

"Mi fase yn llawer gwell gen i ei gweld hi yn dwad heibio ar 'i ffordd i odro ne nol dwr," ebr Mari, "a ffedog fras o'i blaen, ac ol gwaith ar 'i dwylo hi, dyna'r cwbwl iti!"

"Rhag cwilydd iti son fel yna am dy ferch dy hun!" ebr Lei, yn gas.

"Dy ferch di ydi hi," ebr Mari, " 'does dim tebyg i'w mam ynddi. Ar fy ngair i, pan oedd hi adref y llynedd, mi allaset feddwl na fuo hi 'rioed yng Nghymru, efo'i Saesneg a'i llediaith, ac os bydd hi'r un fath eleni cheiff hi ddim croeso yma, mi gymraf fy llw iti!"

"Wel, wel," ebr Lei, ac aeth allan gan weled nad oedd ond ofer iddo ddadlu â Mari yn hwy.

Fore drannoeth, daeth Catrin adref, a'i chariad o Loegr hefo hi. Pan gyrhaeddasant y stesion, galwodd Catrin ar Dic Morus, oedd yn disgwyl am rywun gyda'i gerbyd, i gario ei phethau a'i chariad a hithau o'r stesion at y ty.

"Chi gwbod lle mae tad fi yn byw?" ebr Catrin wrth Dic.

Gwyddai Dic yn dda, ond dododd ei law wrth ei gap, edrychodd yn ddifrifol, ac atebodd,—

"Rhoswch chi, ma'm, ai nid merch y Sgwier o'r Plas ydech chi?"

"Nage, nage!" ebr Catrin, "fi dim merch i'r Sgwier chwaith."

"Wel, merch y person, ynte," ebr Dic, gan gyffwrdd ei gap drachefn.

"Nage!" ebr Catrin, braidd yn flin.

"Wel," meddai Dic yn ostyngedig, " 'does yma neb arall yn yr ardal yma yn gwisgo mor grand, ac yn siarad mor garpiog â chi."

"Ceuwch y'ch hen geg, y cena hy gynnoch chi!" ebr Catrin gan anghofio ei llediaith a'i chariad yn ei gwylltineb.

"Ho dyna well!" meddai Dic Morrus, "rhoswch chi, ai nid merch Lei Bach Fawr ydech chi, deydwch—."

Cyn iddo gael gorffen, yr oedd Catrin wedi rhoi iddo ergyd ar draws ei warr â'i hymbarelo, ac yn dechreu ei flagardio nerth ei phen, mewn cystal Cymraeg ag a glywyd nemor dro yn y lle. Neidiodd Dic i'w gerbyd, cydiodd yn ei chwip ac yn yr afwynau.

"Ga'i 'ch dreifio chi, Miss?" meddai. "Deuswllt ydi'r pris, ac os na neidiwch chi i fewn a thewi, mi fydd holl bobol y pentre yma yn gwrando arnoch chi yn union!"

Gwelodd Catrin fod Dic yn dweyd y gwir, a chan beidio â ffraeo yn sydyn, heliodd ei chariad a'i phaciau i'r cerbyd, ac aeth i mewn ar eu holau. Cleciodd Dic ei chwip gan wenu, ac ymaith a hwy drwy ganol y twrr pobl oedd yn dechreu hel o gwmpas i wel'd yr helynt.

Ac wrth basio, clywodd Catrin y geiriau "Merch Lei Bach Fawr, yn siwr i chi, hefyd!"

Ond cododd Catrin ei thrwyn i'r awyr, a chymerodd arni beidio â'u clywed. Yr oedd y cariad—dyn bach o Sais lled ofnog a diniwed,—wedi synnu at Catrin yn taro Dic Morus â'i hymbarelo, ac at ei chlywed hithau yn siarad iaith nas deallai ef, a hynny mor llithrig. Ar y ffordd mentrodd ofyn iddi am eglurhad.

"O," meddai Catrin, "un felly ydi'r hen gabmon yma, os na fyddwch chi yn gas wrtho, wneiff o ddim byd yn iawn."

"Ac 'roeddech chi yn siarad rhyw iaith ddiarth âg o—'roeddwn i yn meddwl y'ch bod chi yn deyd na fedrech chi ddim o'r iaith honno y maent yn ei siarad mewn rhai lleoedd yng Nghymru."

"Wel," ebr Catrin, "fedra i moni hi yn iawn, felly, er fod fy nhad a fy mam yn ei medru."

Pan ddaethant at y drws, daeth Mari Huws allan.

"Hylo," meddai, "ac yr wyt ti wedi dwad, 'ddyliwn. Pwy ydi'r creadur hyll yna sydd hefo ti?"

" 'Rwan, mam," meddai Catrin, gan siarad yn isel rhag i'r cariad ei chlywed, " 'rwan, mam, rhag i chi ddifetha bywyd y'ch merch, ceisiwch fod yn o neis 'rwan. Dyma 'nghariad i —."

"O, a dyma dy gariad ti, aie?" meddai Mari Huws.

Yn ei hofn, torrodd Catrin ar draws ei mam, ac ebr hi, —

"Mother, this gentleman is Mr. Smith, to whom I am engaged, as you know —."

"Be' rwyt ti yn i baldar, dywed?" ebr Mari Huws. "Be' 'wyt ti yn clebran yn Saesneg wrtha i? 'Rydw i yn dallt yn burion be' ddeydist ti, ran hynny, ond waeth i ti heb ddisgwyl i mi dwyllo'r dyn, na waeth, 'run mymryn, yr hen ffolog gen ti! Dywed wrtho sut bobol ydan ni, ne mi ddeyda i fy hun wrtho, gwnaf, myn f' einioes i —."

"Mam, mam!" ebr Catrin, heb wybod pa beth i'w ddywedyd na'i wneud.

"Be' sydd arnat ti 'rwan?" ebr Mari Huws, wrth weled Catrin yn dechreu wylo.

"Mae'n gwilydd gen i trosoch chi, mam" meddai Catrin.

"Cwilydd, aie?" ebr Mari Huws, "cwilydd gen ti drosta i, aie? Mae'n gwilydd gen i drosot ti, yn siwr, yn hudo thyw greadur fel hyn i'r fan yma i beri trafferth ac i dynnu pobol i siarad am danom ni!"

Torrodd Catrin i wylo, yn fwy o ddigofaint na dim arall.

"What is it all about, my dear?" meddai'r Sais bach, braidd yn ofnus.

Ni wyddai Catrin pa beth i'w ddywedyd, ond teimlodd ei bod ar ben arni, ac mai y tro ffolaf a wnaeth yn ei hoes oedd gadael i'w chariad fynd gyda hi adref. Eto, yr oedd digon o ddyfais ym mhen Catrin, ac ni bu yn ol o wneud y goreu o'r gwaethaf. Dywedodd wrth y Sais fod ar ei mam eisieu iddi briodi rhyw ddyn cyffredin o'r ardal, a'i bod wedi gwylltio wrth ei gweled hi yn dyfod ag ef gyda hi, megis ar waethaf ei mam.

"Ond waeth gen i beth ddywed fy mam," ebr hi, "y chi fynna i tra mynnwch chi fi!"

"Dowch gyda fi oddi yma, fy nghariad i," ebr Smith druan, ac aeth yn ol i'r cerbyd. Aeth Catrin ar ei ol yntau.

"Da b'och chi, mam, welwch chi byth mona i eto," medda hi.

"Be' wyt ti'n i ddeyd?" ebr Mari Huws. "Wela i byth monat ti eto, aie? Pwy ddeydodd wrthat ti fod arna i eisio dy weld di, tybed? Cymer ofal na ddoi di byth yma eto hyd nes byddi di wedi colli dy lediaith, ac hyd nes byddi di yn cofio pwy wyt ti. Mae'n chwith gen 'y nghalon i feddwl mod i wedi magu dy sort di erioed, mi rof fy ngair iti!"

Ac aeth Mari Huws i'r tŷ i wylo yn ddistaw, er na fynasai am y byd i neb ei gweled. Parodd Smith i Dic Morus ddreifio yn ol rhag blaen i'r stesion, a gwnaeth yntau hynny, gan chwerthin yn ei lewis, a sibrwd wrtho ei hun,—"Myn cebyst, dynes o'r sort ore ydi'r hen Fari Huws wedi'r cwbwl!"

Pan ddaeth Lei Bach adref y noswaith honno, yr oedd wedi clywed yr hanes i gyd—nid oedd neb yn yr ardal nad oedd yn gwybod fod Catrin Lei Bach Fawr wedi dyfod adref a chariad o Sais gyda hi, a bod Mari Huws wedi gwrthod gadael iddynt fynd i'r tŷ, a'u bod hwythau wedi mynd gyda'r tren rhag blaen.

" 'Rwyt ti wedi gyrru'r eneth i ffwrdd am byth," meddai Lei yn sobr, "welwn ni byth moni hi eto."

"Paid a meddwl mai dy galon di yn unig sy'n drom," meddai Mari Huws.

"Ddaw hi byth yn ol!" ebr Lei, gan dorri i wylo.

"Peidied hithe, ynte, os na ddaw hi adre yn ei synhwyre fel rhyw eneth arall ebr Mari, gan gnoi ei gwefus rhag wylo ei hun.

A phan ddaeth Catrin adref wedyn, nid oedd arni na llediaith na balchter. Daeth adref yn weddw dlawd a thri phlentyn ganddi, ac wedi colli ei hiechyd ei hun. Ac y mae Mari Huws, hithau yn weddw bellach, yn dal i olchi a smwddio i gadw Catrin a'i phlant.

"Mae hi'n debyg i rywbeth 'rwan!" ydyw geiriau Mari.

Nodiadau

golygu