Brethyn Cartref/Ynghwsg ai yn Effro?

Sam Brethyn Cartref

gan Thomas Gwynn Jones

Mab y Môr


IV. YNGHWSG AI YN EFFRO?

YR oedd Morris Jones wedi priodi, wedi bod i ffwrdd am y mis mel, ac wedi dyfod adref i ddechreu byw.

Yr oedd ganddo dŷ bychan glanwaith a chyfleus yn Llanfodlon, ac yr oedd wedi ei ddodrefnu yn barod, fel nad oedd drafferth yn y byd yn aros ei wraig pan ddygodd o hi i'w ganlyn i'w chartref newydd.

Ond nid oedd Hannah yn fodlon. Yr oedd hi yn gweled y tŷ yn anhwylus, ac nid oedd y dodrefn yn hollol wrth ei bodd ychwaith. Nid hynny, sut bynnag, oedd yn ei phoeni fwyaf.

Yr oedd hi wedi cael y syniad i'w phen rywsut fod Morris yn edifarhau ei fod wedi priodi.

Yr unig reswm oedd ganddi dros dybio felly oedd ei fod ef ar ol eu priodas yn llawer iawn distawach a mwy digalon ei olwg nag ydoedd cynt.

Nid oedd hi wedi dywedyd dim wrtho am y peth. Yn wir, yr oedd arni ofn son am dano, rhag digwydd fod ei thybiau yn gywir. Yr oedd arni ofn ei bod hi ei hun wedi gwneud neu ddywedyd rhywbeth i'w ddigio, ond er meddwl llawer am ei gweithredoedd a'i geiriau, nid allai hi yn ei byw alw i gof ei bod wedi gwneud na dywedyd dim y dylasai efô fod yn ddig wrthi o'i blegid.

Ceisiodd ei pherswadio ei hun mai dychymig oedd y cwbl, ac nad oedd dim byd o'i le ar Morris ychwaith.

Hwn oedd y diwrnod cyntaf iddynt ill dau yn eu cartref newydd. Daethant adref ar hyd y nos o Lundain, ac felly cyrhaeddasant i Lanfodlon tua deg o'r gloch y bore. Aeth Morris at ei waith i'r offis lle'r oedd yn glerc, a daeth adref i'w ginio, y cinio cyntaf iddo yn ei dŷ newydd, a'r cyntaf i Hannah ei ddarparu iddo.

Hwyrach mai y cinio oedd heb fod wrth ei fodd. Daeth hynny i feddwl Hannah, ond erbyn ystyried, nid dyna oedd achos distawrwydd a digalondid Morris. Yr oedd o yn ddistaw a digalon cyn amser cinio.

Penderfynodd Hannah wneud ei goreu, pa beth bynnag oedd yr achos. Meddyliodd am wneud y lle mor siriol ag y gallai ar ei gyfer erbyn y deuai adref i gael te. Bu wrthi drwy'r prynhawn yn taclu pethau, ac erbyn amser te, yr oedd y tŷ yn edrych yn siriolach lawer, er nad oedd y dodrefn yn hollol wrth fodd Hannah.

Daeth Morris i nol ei de, ond yr oedd cyn ddistawed a chyn brudded ei olwg ag o'r blaen. Ceisiodd Hannah fod yn siriol a siaradus, a gwnaeth hynny i Morris edrych dipyn yn llonnach ei hun. Siaradodd dipyn â hi hefyd, ond nid cymaint âg arfer. Yr oedd rhywbeth yn ddiau yn pwyso ar ei feddwl o hyd. Aeth yn ei ol at ei waith, gan adael Hannah yn bur ddigalon.

Ond wedi meddwl a meddwl, penderfynodd Hannah wneud un ymdrech arall. Aeth ati i wneud y lle yn siriolach fyth, ac i ddisgwyl Morris adref i'w swper.

Yr oedd Morris yntau wrthi gyda'i waith yn yr offis, ond yn dra chythryblus ei feddwl o hyd am ryw reswm neu gilydd. Gofynnodd un o'i gyd-glercod iddo yn chwareus,—

"Morris, be sydd arnat ti? 'Rwyt ti yn edrych yn ddigalon iawn. Wyt ti yn edifaru priodi, dywed?"

Ceisiodd Morris chwerthin, ond nid atebodd air. Daeth amser cadw noswyl, ac aeth Morris allan o'r offis. Cerddodd yn ei flaen ar hyd yr ystryd, nid tua'i gartref, ond i'r cyfeiriad arall yn hollol.

Gwelodd y clerc y soniwyd am dano eisoes ef yn mynd, a meddyliodd am alw ar ei ol a gofyn o ran direidi a ydoedd wedi anghofio ei fod wedi priodi, ond meddyliodd nad oedd hynny ond peth ofer. Diau fod gan Morris ryw neges yn rhywle, ac yr oeddynt wedi herian digon arno eisoes yn ddiameu. Felly cafodd Morris lonydd y tro hwn, ac aeth yn ei flaen yn araf drwy'r dref, ac allan i'r wlad. Pe buasai y clerc arall yn ei weled yn mynd y ffordd honno, buasai yn synnu, hyd yn oed os na buasai yn gofyn iddo i ba le yr oedd am fyned.

Yr oedd hi yn noswaith hyfryd ym mis Medi. Yr oedd y meusydd ŷd yn wynion, a'r meusydd porfa yn wyrddion iawn. Yr oedd dail y coed eisoes yn dechreu troi eu lliwiau, a rhyw dristwch distaw yn gorffwys ar bopeth. Felly, o leiaf, y teimlai Morris. Cerddai yn ei flaen yn araf o hyd, gan edrych o gwmpas yn awr ac eilwaith ac yna edrych ar lawr am yn hir.

Daeth o'r diwedd at groesffordd, ac yno, heb betruso o gwbl, troes o'r ffordd fawr, a cherddodd yn ei flaen yn araf fel o'r blaen hyd ryw hen lôn las, a gwrych uchel o bobtu iddi.

Cerddodd yn ei flaen nes daeth at fwthyn bychan tô gwellt a gardd o'i flaen.

Yr oedd penwar bychan yn agor o'r ffordd i'r ardd, a llwybr yn arwain at ddrws y tŷ. Yr oedd yno ddigonedd o flodau tlysion o bob math yn yr ardd, a hocys tal a blodau o bob lliw arnynt yn eu plith.

Heb sylwi ar y blodau na dim arall, agorodd Morris y penwar, aeth drwodd, caeodd ar ei ol a cherddodd yn araf hyd y llwybr at y tŷ. Yr oedd y drws yn agored. Aeth Morris i mewn heb guro, ac aeth ac eisteddodd ar gadair wrth y tân, bron dan yr hen fantell fawr gysgodol.

Yr oedd y lle yn berffaith ddistaw. Nid oedd yno neb ond efô ei hun, na neb yn agos—o leiaf, nid oedd swn neb i'w glywed nag yn y tŷ nag yn yr ardd o gwmpas.

Dododd Morris bwys ei fraich ar y bwrdd a'i ben ar ei fraich, ac yn fuan iawn, yr oedd yn cysgu yn drwm.

Ac eto, nid oedd neb wedi dyfod i'r tŷ, na swn neb i'w glywed o gwmpas.

Gallesid meddwl nad oedd neb yn byw yno, er fod yn y lle ddodrefn derw da a glân, ac olion ddigon fod rhywun yn preswylio yn y bwthyn. Yr oedd hyd yn oed y tegell yn canu ar y tân a'r gath yn canu ar yr aelwyd, y naill a'r llall yn ddu ac yn canu yn y gwres.

Pa beth a ddaethai o'r trigolion? Yr oedd Morris yno ers awr bellach, ac yn cysgu yn braf o hyd, gan anadlu'n drwm ac yn rheolaidd. Yr oedd y lle wedi mynd yn dywyll erbyn hynny. Disgynnai tipyn o oleuni gwan o'r tân ar lawr, lle'r oedd y gath yn cysgu ac yn canu, ond yr oedd Morris yn y cysgod, fel nad allasai neb ei weled heb oleuo cannwyll neu rywbeth arall. Ac yr oedd yn cysgu yn drwm o hyd.

Yn sydyn, daeth rhywun drwy'r penwar ac i fyny'r llwybr at y drws. A daeth i mewn i'r tŷ heb guro ar y drws na dim arall, ỳn union fel y gwnaeth Morris.

Dynes ieuanc ydoedd, a barnu wrth ei ffurf a'i cherdded.

Daeth i mewn i ganol y tŷ, edrychodd o'i chwmpas, yn enwedig ar y tân, ac yna, tynnodd ei het oddi am ei phen, gan ryw fwmian canu yn isel. Dododd yr het o'r neilldu ar y dresel dderw oedd gyferbyn â'r drws. Yr oedd goleuni gwan y dydd wrth ddarfod yn disgyn ar y fan honno drwy'r drws agored nes ei wneud yn ddigon goleu iddi weled pa beth yr oedd yn ei wneud.

Yna, aeth y ddynes drwodd i'r ystafell gefn, ac yn fuan, daeth yn ei hol a channwyll oleuedig yn ei llaw.

Yn sydyn, yng ngoleuni'r gannwyll, gwelodd y dyn oedd yn eistedd ar y gadair a'i ben ar y bwrdd ac yn cysgu'n braf.

"Hylo," ebr hi, "ydech chi wedi dwad yn ol yn barod, ac wedi cysgu hefyd?"

Wrth ddywedyd, aeth yn ei blaen tua'r drws heb sylwi rhagor ar y dyn, ac aeth drwy ddrws arall i'r siambr. Nid atebodd y dyn hi, a bu hithau am dipyn yn y siambr. Toc, sut bynnag, daeth yn ei hol i'r gegin, a'r gannwyll yn ei llaw.

"Cysgu'r ydech chi o hyd?" meddai hi, dipyn yn uwch nag o'r blaen.

Ar hynny, deffroes Morris, a chyfododd ei ben.

Yr oedd y ddau erbyn hyn wyneb yn wyneb a'i gilydd.

Edrychasant yn fud mewn syndod am rai eiliadau.

Y ferch a lefarodd gyntaf.

"Morris!" ebr hi, "be ydech chi yn 'i wneud yn y fan yma?"

"Elin!" ebr yntau, a'i lais yn gryg gan ryw deimlad, "be ydech chi yn 'i wneud yma?"

"Ond yma yr ydw i yn byw, debyg iawn—."

"Yma yr oeddech chi yn byw ers talwm, cyn i ni—cyn i chi fynd i ffwrdd, a chyn i ni—."

"Ie," ebr hithau, "yma yr oeddwn i yn byw, ac yma yr ydw i yn byw eto er pan gladded fy mam—"

"Er pan gladded ych mam? Pryd y bu hynny?"

"Yr wythnos ar ol i chi briodi a mynd i ffwrdd. Chlywsoch chi ddim? Mae tair wythnos er hynny."

"Ac ers pryd yr ydech chi yma?"

"Er hynny, wrth gwrs."

"Ydech chi yn byw yma eich hun ynte?"

"Fy hun? Na, mae fy ngwr hefo fi, debyg iawn."

"Eich gwr!"

"Ie siwr, ac mi fydd yma yn union deg, bellach!"

"Rhaid i mi fynd," ebr Morris, gan godi ar ei draed yn frysiog. "Maddeuwch i mi. Wn i ddim sut y dois i yma. Rhaid mod i yn breuddwydio yn effro. Meddwl am yr hen amser, hwyrach. Ond rhaid i mi frysio adre. Mi fydd fy ngwraig yn methu dallt lle'r ydw i! Nos dawch,—Elin!"

"Nos dawch, Morris!"

Ac aeth Morris ymaith, fel drychiolaeth. Ni ddywedodd wrth ei wraig ym mha le y bu, ond ar ol y noswaith honno, nid oedd Morris mor ddistaw a digalon ychwaith.

Nodiadau

golygu