Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I/Rhagair

Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I

gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan)


golygwyd gan John Tudor Jones (John Eilian)
Rhan I


RHAGAIR

NI sgrifennwyd erioed yn Gymraeg ddim mwy miniog na "Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys." Dychan ydyw ar sectyddiaeth a gwaseiddiwch cenedlaethol.

Breuddwydia'r awdur am stad Cymru yn y flwyddyn 2012. Gwêl Brotestaniaeth wedi cwympo, a'r wlad o'r diwedd (diolch i'r Undeb Catholig") wedi ei rhyddhau "oddiwrth ddylanwad mall y sectau, y rhai, oblegid cenfigen tuag at eu gilydd, a fuasai yn cydymdrechu i'w darnio ac i'w Seisnigeiddio hi.

Breuddwydia ei fod (yn 2012) yn gwrando cyfres o ddarlithiau ar hanes Cymru a hanes yr Eglwys Gatholig, a thrwy'r darlithiau hyn fe dynnir inni ddarlun o'r hyn y gallai Cymru fod o ran bywyd ac arferion ac iaith—pe bai hi'n ffyddlon iddi hi ei hun yn lle dynwared y Saeson Yn Y Geninen, yn 1890, 1891, ac 1892, y cyhoeddwyd "Breuddwyd Pabydd" yn gyntaf. "Ni ddaw un llenor Cymreig o'r holl ganrif yn agos at Emrys ap Iwan," meddai'r Athro T. Gwynn Jones. "Pa beth bynnag y ceisiai ei wneuthur, fe'i gwnâi fel meistr."[1]

Mab i arddwr plas Bryn Aber, gerllaw Abergele, Sir Ddinbych, oedd R. Ambrose Jones (Emrys ap Iwan). Ganwyd ef yn 1851. Ffrances oedd ei hen nain—cymdeithes i wraig fonheddig a drigai yng Nghastell y Gwrych, ger Abergele. Pan oedd yn 14 oed aeth i weithio mewn siop ddillad yn Lerpwl. Daeth yn ôl ymhen blwyddyn, a bu'n arddwr ym Modelwyddan. Dechreuodd bregethu, a phan oedd yn 18 oed aeth i Goleg y Bala. Wedi bod yn athro ysgol am ychydig fe aeth i'r cyfandir. Dysgodd Ffrangeg ac Almaeneg, a bu'n dysgu Saesneg i eraill mewn ysgol yn Lausanne, Yswistir. Bu wedyn mewn ysgolion yn Bonn a Giessen.

Daeth dan ddylanwad y pamffledwyr Ffrengig, yn arbennig Paul-Louis Courier, gŵr a ysgrifennai yn erbyn "gormes y rhai mewn awdurdod," a phan ddychwelodd i Gymru dechreuodd yn ddiymdroi ysgrifennu i'r papurau—"y prif foddion at ehangu gwybodaeth, puro chwaeth, dyfnhau cydymdeimlad a meithrin annibyniaeth y lliaws."

Yn Rhagfyr, 1876, dechreuodd ei gad yn erbyn "y dwymyn Seisnig yng Nghymru," ac yn arbennig yn erbyn achosion Seisnig Methodistiaid. Gwrthodwyd ddwywaith ei ordeinio'n weinidog. Ar gais Dr. Lewis Edwards yng Nghymdeithasfa Dolgellau fe'i boicotiwyd gan y blaenoriaid.

"Tri chyhoeddiad sydd gennyf o hyn i ddiwedd y flwyddyn," meddai mewn llythyr yn 1882. Y mae blaenoriaid y sir . . . am fy ngwthio o'r weinidogaeth trwy fy newynnu."

Ond yn 1883, wedi hir ddadlau, fe'i derbyniwyd ef i'w ordeinio. Ceir hanes yr holl helynt yng Nghofiant Emrys ap Iwan," gan yr Athro T. Gwynn Jones.

Bu Emrys ap Iwan yn byw wedi hyn yn Ninbych, Trefnant, a Rhewl, ac yn Rhewl y bu farw yn Ionawr, 1906. Fe'i claddwyd ym mynwent ei gapel yno.

Ysgrifennodd lawer iawn i'r Faner a'r Geninen. Parchai'r" deddfau sy'n llyfnu'r iaith, eithr nid y mympwyon sy'n ei llygru hi." Wedi ei adnabod, hawdd deall tystiolaeth ei efrydwyr yn Rhuthyn: "Ni buom erioed heb eich parchu; ni allwn yn awr beidio â'ch caru."

Nodiadau golygu

  1. Llenyddiaeth Gymraeg y 19 Ganrif, td. 39.