Breuddwydion Myfanwy/Pennod IV
← Pennod III | Breuddwydion Myfanwy gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
Pennod V → |
IV
Am olud gwell y bell bau hiraethodd,
A'm bro adawodd am wybr y dehau.
—R. WILLIAMS PARRY (Yr Haf).
O SOUTHAMPTON y cychwynai'r llong. Yr oedd y daith tuag yno hyd yn oed yn brofiad newydd a dieithr i bob un o'r wyth teithiwr. Ni fuasai'r plant erioed ymhellach na Chaerfyrddin. Ni welsent erioed y Bau hardd, na simneau uchel Llanelli, na düwch Glandwr, na dim o ryfeddodau eraill y daith chwyrn. Ni fuasent erioed mewn trên a ruthrai fel hwnnw. Yn ffodus iawn, digwyddai dau ffrind i Mr. a Mrs. Rhys fynd i Lundain ar yr un adeg. Addawsant hwy fynd gyda'r cwmni hyd Southampton a'u gweld yn ddiogel ar fwrdd y llong.
Yr oedd yn dechreu nosi pan ddaethant allan o'r trên yn Llundain. Gorfu iddynt ruthro drachefn mewn trên a redai o dan y ddaear nes dyfod i orsaf Waterloo. Dyna orsaf fawr! Dyna drênau diddiwedd! Dyna dyrfaoedd a dyna derfysg! Wedi cael pryd o fwyd yno, i'r trên â hwy drachefn. Tua deg o'r gloch cawsant eu hunain ar fwrdd y llong yn Southampton. Anfonasent eu cistiau o'u blaen. Yr oeddynt yno yn eu disgwyl, fel hen gyfeillion mewn gwlad ddieithr.
Cyn hir yr oeddynt yn eu hystafelloedd eu hunain. Yr oedd caban ar gyfer pob dau neu bob dwy ohonynt. Ystafelloedd bychain bychain oeddynt, a'r ddau wely, fel dwy silff, un uwchben y llall. Pan agorid un o'r ffenestri bychain crwn, clywid rhu y môr, a deuai cawod o ewyn i mewn yn awr ac yn y man. Siglai'r llong fel crud pan fo'r baban ar gysgu.
Wedi tipyn o gerdded ar y dec a syllu o'u cwmpas, ffarweliwyd â'r ddau ffrind, Dyna hwy bellach wrthynt eu hunain, yn rhan o deulu mawr y Ruth Nikso. Ni chychwynai'r llong am dair neu bedair awr arall. Yr oeddynt oll yn flinedig iawn ar ôl dydd mor gyffrous, felly da oedd ganddynt fynd i'w gwelyau cul i orffwys, ac os gallent, i gysgu.
Rywbryd, dihunwyd hwy gan dwrw anghyffredin, cerdded gwyllt ar y dec uwch eu pen, a bloeddio uchel. Gwelent y goleuadau o'r tu allan a'r llongau a'r cychod yn symud. Deallasant yn fuan mai hwy eu hunain oedd yn mynd. Swn dirwyn rhaff yr angor oedd y twrw a'u deffroisai. Yr oedd y fordaith fawr wedi ei dechreu.
Aeth tri diwrnod heibio cyn iddynt fod drachefn gyda'i gilydd ar y dec. Erbyn hynny daethai'r lliw yn ôl i'w hwynebau, gallent gerdded yn hŷ, ni wnai symudiadau'r llong un niwed iddynt, a medrent chwerthin am brofiadau'r dyddiau cyntaf ar y môr. Dyna hwy wedi croesi Bau Biscaia sydd mor enwog am ei stormydd, heb wybod mai arno yr oeddynt. Bellach, gwelent greigiau moelion Portugal ar eu haswy, a'r Ruth Nikso yn prysuro dros fôr llyfn i gyfeiriad Gibraltar. Yr oedd y plant erbyn hyn yn ddigon hŷ i siarad â rhai o'r teithwyr eraill. Holent hwy am enwau'r trefi a welent ar y llethrau pell. Yr oedd уг atlas a astudient ar y Sul hwnnw ym Mrynteg yn llaw Llew, a gwneid defnydd mawr ohono gan y pedwar. Mynnent weld arno bob porthladd a phen— rhyn, pob ynys ac afon a welent ar y daith. Fel hyn gwelsant Vigo, Oporto, Lisbon, Penrhyn Sant Finsent, Pileri Hercules a Gibraltar. Pan ddaethant i fyny i'r dec ar y pumed dydd yr oeddynt ar y Môr Canoldir. O, dyna lâs oedd y môr a'r awyr! A dyna beth rhyfedd oedd meddwl mai Affrica oedd y tir a welent ar y dde!
"Dyma fy mreuddwyd i wedi dod i ben," ebe Myfanwy.
"A freuddwydiaist ti ddim am Awstralia?" ebe Gareth.
"Naddo" ebe Myfanwy.
"Trueni," ebe Gwen, "Gallem gael gwybod gennyt sut le sydd yno."
"Allaf i ddim breuddwydio pryd y mynnaf na pheth y mynnaf," ebe Myfanwy.
"Cei ddigon o amser i freuddwydio am Awstralia cyn byddwn ni yno," ebe Llew.
Yr oedd yn dwym fel canol haf. Nid oedd ar neb awydd gwneud dim ond lled-orwedd ar y cadeiriau oedd ar y dec, ac edrych o'u cylch. Hyfrytach fyth oedd eistedd yno yn y nos, pan oedd popeth yn ddistaw ond sŵn y peiriannau, a gwylio'r sêr yn yr awyr ac yn y lli. Y rhieni a wnai hyn fynychaf. Yr oedd y pedwar ieuanc ar ôl eu mwynhau eu hunain drwy'r dydd yn ddigon parod am eu gwelyau pan ddeuai'r amser. Ni feddyliasai neb ohonynt erioed fod bywyd ar fwrdd llong yn un mor bleserus. Yr oeddynt yn byw yn union fel pe baent mewn gwesty mawr. Yr oedd yno ddigon o chwarae a chanu y darllen a siarad, a digon o gwmni. Yr oedd yn bosibl gwneud ffrindiau newydd o hyd. Saeson oedd y rhan fwyaf o'r teithwyr. Yr oedd yno rai Cymry hefyd heblaw hwy eu hunain, Iddewon, Ffrangwyr a Hispaenwyr. Yr oedd gweld y gwahanol genhedloedd a'u clywed yn siarad yn ddiddorol iawn. Cenid cloch i'w galw at fwyd, yna, i lawr â hwy dros lawer o risiau i'r ystafell ginio fawr. Yr oedd ystafelloedd eang eraill ar y llawr, ond ar y dec y treulient hwy y rhan fwyaf o'u hamser. Ni flinai'r bechgyn wylio'r morwyr wrth eu gwaith.
Pan ddaethant yn agos at Malta dywedodd Meredydd Llwyd :—
"Dyma'r lle mwyaf diddorol a welais i eto. Dyma'r ynys y taflwyd yr Apostol Paul arni pan dorrodd y llong yn y storm ofnadwy honno."
Edrychodd pawb yn sýn.
"Wel! Wel! Dyna beth rhyfedd yw meddwl ein bod ni ar fôr y bu Paul arno. Mi ddarllenaf y ddwy bennod olaf yn yr Actau heno, a byddant yn fwy diddorol nag erioed," ebe Ifan Rhys.
"Y mae gen i Feibl yn fy mhoced. Cei eu darllen yma yn ein clyw ni," ebe'r saer.
"Y mae'r llong yn mynd i alw yma," ebe Gareth. "O da iawn," ebe Mr. Llwyd. Cawn fwy o gyfle felly i weld yr ynys, a chawn hanes Paul wedyn ar ôl cychwyn."
"Byddwn ni yn mynd o Malta yr un ffordd ag y daeth ef iddi," ebe Llew.
Pan oeddynt yn neshau at yr ynys dangosodd rhywun golofn uchel ar graig yn y pellter, a dywedwyd wrthynt ei gosod hi yno i ddangos y lle y glaniodd Paul.
Yr oedd porthladd Valetta yn llawn o longau o bob math. Ynys greigiog uchel yw Malta. Edrych i fyny ar y dref hardd a wnaent o'r porthladd. Disgynnodd rhai teithwyr yma, a daeth eraill i mewn. Yn fuan iawn canodd y gloch fawr, ac i ffwrdd â'r Ruth Nikso drachefn
"Pe bai gen i ddigon o arian," ebe Mr. Llwyd, "mi dreuliwn flwyddyn gyfan yn y rhan hon o'r byd oddiyma i'r Aifft a Phalesteina. O fe fyddai'n hyfryd mynd trwy hen ddinasoedd y Dwyrain yma a gweld hen leoedd y gwyddom eu henwau er pan oeddem yn blant!
"Efallai bydd digon o arian gennych ar ôl bod yn Awstralia am dipyn," ebe Llew.