Breuddwydion Myfanwy/Pennod VII

Pennod VI Breuddwydion Myfanwy

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod VIII


VII

Dodwyd hwy ar dramor draeth
I fyw a bod, er gwell, er gwaeth.
—CEIRIOG (Llongau Madog).

DAETH ochenaid o'r cwch ag ef ato'i hun. Neidiodd i mewn.

"Llew! Llew!" ebe llais gwan Myfanwy. "Mae mam yn galw! Dere i'r tŷ."

Yr oedd Myfanwy wedi dyrysu yn ei synhwyrau, ac yn byw drachefn yr amser oedd mor bell yn ôl.

"O, Llew! Dŵr! Dŵr!"

'Ti gei ddŵr yn awr ymhen munud," ebe Llew, heb wybod o ba le y deuai. Cododd focs tin gwag oedd ymhlith pethau eraill ar lawr y cwch,—bocs melysion a adawsai rhywun yno. Gwelodd ei lygaid gwyllt rywbeth fel llinyn arian ar y traeth fan draw. Rhedodd nerth ei draed tuag ato. O, lawenydd! Afonig fach ydoedd yn ymledu'n fâs ar y tywod. Gwnaeth le i'r dŵr gronni. Llanwodd ei focs a rhedodd yn ôl. Yr oedd syched ofnadwy arno ef ei hun, ond nid oedd amser i'w golli. Beth pe bai Myfanwy'n marw!

"Dyma fe, Myfanwy. Myfanwy! Dŵr, Myfanwy!" Yr oedd Myfanwy wedi llewygu eto, neu wedi marw. Arllwysodd Llew ychydig o'r dŵr gwerthfawr ar ei law a thaflodd ef ar wyneb Myfanwy. Gwnaeth yr un peth â Gareth, a'i ysgwyd a galw arno.

"O, dir!" ebe Gareth. "O'r goreu, nhad. 'Rwy'n codi 'nawr."

Yr oedd yntau yn ôl yn y dyddiau pell, yn ei wely gartref, ac yn meddwl mai ei dad a'i galwai i godi.

Gwylltiodd Llew. Ysgydwodd Gareth yn ddidostur a gweiddi:—

"Dihuna, Gareth. Y mae eisiau dy help arnaf i. A wyt ti'n clywed? Gareth! Dyma ddŵr i ti. O, Gareth, dere! Y mae Myfanwy'n marw."

Aeth y geiriau hynny adref. Cododd Gareth ei ben. "Beth! Myfanwy! Pwy sydd yna? Pa le mae Myfanwy? Pa le'r wyf i?"

"Dihuna 'nawr, a dere i wneud rhywbeth," ebe Llew'n gwta. Aeth at Myfanwy. Arllwysodd ychydig ddŵr rhwng ei gwefusau, a thaflodd ychydig ar ei thalcen. Cyn hir, agorodd Myfanwy ei llygaid. Edrychodd ar ei brawd a dywedyd yn wannaidd, "Llew!"

Erbyn hyn yr oedd Gareth yn effro. Dechreuodd holi Llew.

"Nid oes amser i siarad yn awr," ebe Llew. "Yr wyf yn mynd i hôl ychwaneg o ddŵr. Paid â symud. oddiwrth Myfanwy. Byddaf yn ôl ymhen pum munud. Y mae eraill yn y cwch yma. Rhaid eu helpu hwythau."

Aeth yn uwch i fyny y tro hwn, lle nad oedd y nant mor fâs. Yfodd o'r dŵr clir nes ei ddisychedu. Llanwodd y bocs drachefn. I fyny yn y coed, ar fin y nant, gwelodd rywbeth a wnaeth i'w galon lamu. Brysiodd yn ôl. Gwaeddodd cyn cyrraedd y cwch:—

"A oes cyllell yn dy boced di, Gareth?"

"Oes," ebe Gareth.


"Rho'i benthyg i mi am funud Dôf yn ôl yn union. O, yr wyt yn well, Myfanwy. Dyma i ti ddŵr hyfryd."

Ymddangosai'r amser yn hir iawn cyn iddo ddychwelyd, er na fu ond rhyw chwarter awr o'r fan. Digwyddodd pethau yn ei absenoldeb. Aeth Gareth ddwywaith â'r bocs tin at y nant. Trwy ei ymdrechion ef yr oedd y dyn a'r fenyw oedd yn y cwch yn graddol ddyfod atynt eu hunain.

Eisteddai'r dyn a phwyso'i ben ar ei ddwy law. I olwg y bechgyn, ymddangosai'n hen iawn. oedd ei wallt yn wýn fel arian, er bod blew ei wefus a'i aeliau yn hollol ddu. Yr oedd y wraig yn hynach fyth. Yr oedd hithau wedi hanner codi. Estynnai ei breichiau allan, a llefain:—

"De l'eau! Encore de l'eau! S'il vous plaît! Ah, merci!"

Tybio'n unig a wnaeth Gareth mai dŵr a geisiai, oherwydd ni wyddai ef air o Ffrangeg.

Ar hynny, daeth Llew, yn cario baich mawr o fananau melyn, aeddfed,—fel mam aderyn yn cario bwyd i'w rhai bach diamddiffyn yn y nyth.

"O!" ebe pob un ohonynt ag un llef.

Dyna fwyta'n awchus a wnaethant! Gall bananau a dŵr fod yn bryd blasus iawn ambell waith. Siriolodd pawb. Daeth hyd yn oed y wraig a Myfanwy i fedru eistedd a siarad. Dechreuasant ddywedyd eu hanes wrth ei gilydd.

Sais oedd Mr. Albert Luxton. Ysgolfeistr ydoedd yn un o drefi mawr canol Lloegr. Rhoisid iddo chwe mis o seibiant o'r ysgol fel y gallai gymryd mordaith i Awstralia er mwyn adnewyddu ei iechyd. Yr oedd wedi gwella llawer eisoes cyn torri o'r llong. Beth a ddeuai ohono mwy? Ei ofid pennaf oedd meddwl am ei wraig a'i ddau blentyn yn Lloegr, a'u pryder am dano'n cynhyddu bob dydd, ac yntau heb fedru ysgrifennu atynt na rhoddi dim o'i hanes iddynt.

Ffranges oedd y wraig—Madame D'Erville o Bordeaux. Gwraig weddw ydoedd. Yr oedd ei merch yn athrawes yn un o golegau Melbourne. Mynd allan i fyw ati hi oedd ei bwriad. Ei morwyn oedd ei hunig gwmni. Daethai honno i'r cwch fel hithau. Pa beth a ddaethai ohoni ni wyddai. O, paham y gadawsai Ffrainc?

Er y medrai Mr. Luxton ddeall Ffrangeg o lyfr, ni fedrai ei deall pan siaredid hi yn gyflym, ac ni ddeallai'r tri phlentyn ond ambell air ohoni. Medrai Madame D'Erville ychydig Saesneg, felly mewn rhyw gymysg o Saesneg a Ffrangeg y rhoddodd ei hanes. Rhoddodd Llew a Gareth eu hanes hwythau. Hanes trist oedd ganddynt i gyd. Wylodd pob un ohonynt am ychydig. Dawnsiai'r awel yn y dail gwyrdd tywyll gerllaw iddynt. Torrai'r môr glas gyda miwsig tyner ar y tywod gwýn disglair. Gwenai'r haul yn fwyn wrth neshau at y gorwel.

"Ah! Mon Dieu!" ebe Madame. Husband gone, Marie gone. Me old, no friends, nobody, nothing, why me safe."

"Cawsoch eich achub er mwyn bod yn fam i mi," ebe Myfanwy.

"Ah! Chère petite orpheline!" ebe Madame, a rhoddi ei breichiau am wddf Myfanwy a'i chusanu. Heb eiriau, seliodd y ddwy gyfamod i fod yn ffyddlon i'w gilydd pa beth bynnag a'u harhosai.

Er mai digon gwan oedd Madame a Myfanwy, barnwyd mai gwell oedd iddynt ddyfod allan o'r cwch. Yr oedd yn lanach ac yn iachach ar y tir. Wedi iddynt oll lanio, dywedodd Mr. Luxton:—

"Gadewch i ni fynd ar ein gliniau i ddiolch am ein gwaredigaeth."

Penliniodd y pump, a gweddiodd Mr. Luxton yn syml fel hyn:—

Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd. Diolch i Ti am weld yn dda ein cadw ni'n fyw. Ein Tad wyt Ti. Gad i ni gofio hynny o hyd. Ni wyddom ni paham yr arbedaist ni. Ni wyddom ddim am y lle hwn y daethom iddo, ond gwyddom Dy fod Di yma. Yr ydym yn Dy fyd Di o hyd. Yr ydym yn Dy olwg. Dymunem roddi ein hunain yn Dy ofal. Edrych arnom bob un. Arwain ni. Os na chawn eto weld ein rhai annwyl, helpa ni i deimlo'n fodlon. Ac O! bydd yn gysur iddynt hwythau, os ydynt yn fyw ac mewn pryder am danom. Gad i ni deimlo dy fod Di yn agos atom bob amser ac ym mhob lle. Amen.

Wedi hynny, tynnodd Mr. Luxton a'r ddau fachgen y cwch yn uwch i fyny o gyrraedd y llanw. Yr oedd yr haul yn neshau at y gorwel. Gwyddent nad oedd cyfnos yn y rhan honno o'r byd. Wedi machlud haul deuai'r nos ar unwaith. Rhaid oedd paratoi rhyw fath o le i orffwys dros y nos. Aeth y tri eto i fyny i'r coed. Daethant yn ôl yn fuan â baich o frigau a dail mawr llydain. Ni fuont yn hir cyn gwneud rhyw fath o gaban drwy blannu'r brigau yn y ddaear a phlygu'r pennau at ei gilydd. Rhoisant ddail ar y tó a digon o ddail ar y llawr. Cafodd Madame D'Erville a Myfanwy yr adeilad hwnnw iddynt eu hunain. Ar wely o ddail yng nghysgod y palmwydd coco y gorffwysodd Mr. Luxton a Gareth a Llew. Cysgodd y pump yn drwm hyd y bore.

Nodiadau

golygu