Breuddwydion Myfanwy/Pennod XVIII
← Pennod XVII | Breuddwydion Myfanwy gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
Pennod XIX → |
XVIII
I stood like one thunder—struck, or as if I had seen an apparition.
—DANIEL DEFOE (Robinson Crusoe).
DYWEDAI almanac Llew ei bod yn fis Mehefin. Nid oedd llawer o wahaniaeth yn yr hin. Yn ôl pob argoel, lle o dragwyddol haf oedd Ynys Pumsaint, gyda chawod o law taranau yn awr ac yn y man, ac yn ddiau, ambell storm fawr fel honno a gawsent yn nechreu Ionawr.
Yr oedd "Y Neuadd" wedi ei gorffen er ys rhai wythnosau. Yr oeddynt oll yn falch iawn ar eu cartref newydd. Lle hyfryd oedd yr ystafell fawr i eistedd ynddi ganol dydd poeth, neu i fwyta cinio ynddi gyda'r hwyr. Yr unig ddodrefn ynddi oedd y bwrdd a'r cadeiriau, astell a llyfrau arni, a drych yn hongian ar y pared.
Y mae pryd o fwyd rhwng cwmni yn fath o sacrament. Dylid ei fwyta'n weddaidd. Yn yr hwyr, ychydig cyn machlud haul y caent bryd mwyaf sylweddol y dydd. Caent hwnnw bob amser gyda'i gilydd, a gwnaeth Madame reol y bwyteid ef gyda chymaint o urddas ag oedd bosibl dan yr amgylchiadau. "Ni wyddis i ba le yr arweinir y plant yma eto," meddai yn ei meddwl. "Efallai y byddant yn diolch i mi eto am eu dysgu i wneud pethau'n iawn. Nid oes rhaid i ni fyw fel barbariaid er ein bod yma wrthym ein hunain."
Ni ddibynnent yn hollol ar y pethau a gawsent o'r llong. Yr oedd ganddynt un gwn a dau fwa a saeth. Yr oedd hela a physgota yn rhan fawr o waith y dynion. O'r llong y cawsent eu llestri coginio. Dysgodd Madame Myfanwy i wneud cawl, i rostio cig, ac i wneud llawer o ddysgleidiau blasus â'r pethau oedd ganddynt.
Trefnodd Madame fod y plant yn eu tro i wasanaethu wrth y bwrdd, a bod pob un i wneud ei hun mor daclus ag oedd modd cyn dechreu'r pryd. Hefyd, cai'r tair iaith eu lle yn eu tro. Saesneg a siaradai pawb un noson. Ffrangeg y noson ddilynol a Chymraeg y noson ar ôl honno. Siaradai Myfanwy Ffrangeg yn rhugl erbyn hyn. Hi oedd fwyaf yng nghwmni Madame. Medrai'r bechgyn a Mr. Luxton ddigon ohoni i gario ymlaen ymddiddan syml. Yr oedd y siarad yn fwy cyffredinol ar noson y Saesneg. Nid oedd Madame yn hidio dim pan wnai gamgymeriadau. Rhaid addef mai'r plant a siaradai fwyaf ar noson y Gymraeg, ond dysgai Madame yn gyflym,—yn llawer cyflymach na Mr. Luxton, ac yntau'n ysgolfeistr hefyd,
Cafwyd difyrrwch mawr lawer gwaith ar ginio yn "Y Neuadd, Bordeaux, Ynys Pumsaint."
Dacw hwy ar ginio ar yr ail o Fehefin, Llew oedd yn gweini y tro hwnnw. Yr oedd y bwyd wedi ei roddi'n barod ar ford fechan y tu allan. Nid oedd ganddo ddim i'w wneud ond cario dysglau i mewn a'u gosod yn eu lle o flaen pob un, eu cario allan drachefn wedi y bwyteid ohonynt, a rhoi rhai eraill yn eu lle. Eisteddai Mr. Luxton ar un pen i'r ford. Cot wen, lân, a llodrau tywyll oedd am dano. Ni wisgai na choler na thei. Nid oedd pethau felly yn y ffasiwn ar "Ynys Pumsaint." Gwisg ddu, o ryw ddefnydd ysgafn, sidanaidd oedd am Madame, a chlwstwr bach o bump o berlau'r ynys yn ei gwallt. Ar y llawr wrth ei thraed eisteddai Socrates, yn edrych yn addolgar arni a disgwyl yn eiddgar am damaid o'i llaw. Ar un ochr yr oedd Myfanwy, mewn ffroc o gotwm glâs. Gwisgai hithau ei pherlau; saith ohonynt wedi eu gwneud yn rhaff am ei gwddf. Yr oedd y perl du oedd yn eu canol gymaint â physen. Dywedai Madame y buasai hwnnw ei hun yn werth canpunt yn Llundain neu Baris. Gyferbyn â hi eisteddai Gareth. Llodrau morwyr oedd gan y ddau fachgen, rhai glâs tywyll, rhaffau main o liana plethedig yn wregysau, a chrysau o gotwm gwýn. Bwytaent eu bwyd bob un heb na brys nac anhrefn. Gwnai Llew ei waith yn ddistaw a deheuig. Onibai am Madame a'i rheolau, buasent yn eistedd rywsut, yn bwyta rywsut yn ddidrefn a di-urddas, yn yr un dillad ag a wisgent drwy'r dydd.
Gwaith y sawl a fyddai'n gweini oedd golchi'r llestri hefyd, ond pan fyddai tro Myfanwy i wneud hynny byddai Gareth a Llew yn ei helpu.
Gan fod ffenestr yn y tô caent ddigon o oleu am awr wedi cinio i eistedd gyda'i gilydd i siarad neu ddarllen. Fynychaf, byddai un yn darllen a'r lleill yn gwrando. Nofelau Saesneg oedd y rhan fwyaf o'r llyfrau a gawsent o'r llong. Yr oedd yno un nofel Ffrangeg,—Le Crime de Sylvestre Bonnard. Medrai Myfanwy ddarllen honno gyda help Madame. Yr oedd pob un ohonynt wedi darllen rhai o'r llyfrau eraill, ac yr oedd Gareth wedi tynnu llawer o luniau. Yr oedd byw'n barhaus yng nghwmni Madame D'Erville a Mr. Luxton cystal â blynyddoedd o ysgol i Llew a Gareth a Myfanwy.
"Ni fuom yng Nglyn y Groes er ys tro bellach. Sut hoffech fynd yno yfory i edrych a gawn ychwaneg o berlau?" ebe Mr. Luxton.
"Glyn y Groes!" ebe Myfanwy, a sylwodd Llew ar y lliw sydyn a ddaeth i'w hwyneb.
"Rwy'n siwr bod Myfanwy wedi breuddwydio rhywbeth am 'Glyn y Groes'," ebe ef wrtho'i hun. Ond ni ofynnodd iddi ac ni ddywedodd hithau ddim. Yr oedd y bechgyn wedi poeni Myfanwy am na freuddwydiasai ddim am beth mor bwysig â dyfodiad y Câro Carey, a breuddwydio pethau eraill nad oedd argoel y deuent byth i ben. Felly peidiodd Myfanwy ag adrodd ei breuddwydion wrth rai mor anghrediniol.
Bwriadent Cychwynasant yn fore drannoeth. dreulio'r dydd yn gyfan ar hyd y traeth gyferbyn â "Glyn y Groes." Yno y cawsent y rhan fwyaf o'r perlau oedd ganddynt. Gweld y perlau yng ngwallt Madame ac ar wddf Myfanwy a wnaethai i Mr. Luxton feddwl am fynd yno.
Pan lithrent yn hamddenol ar y lagŵn i gyfeiriad 'Glyn y Groes," cyfarthodd Socrates yn sydyn, a bu agos iddo â neidio allan o'r cwch. Gwelodd y pump rywbeth a wnaeth i'w calonnau guro'n wyllt. Edrychent yn sýn ar ei gilydd heb fedru dywedyd gair. Rhywun oedd yn rhedeg ar y traeth,—rhedeg yn wyllt oddiwrthynt, dyfod yn ôl drachefn tuag atynt, yn aros gyferbyn â'r cwch ac yn bloeddio rhywbeth mewn iaith annealladwy. Merch fach ydoedd, heb ddim am dani ond pais wedi ei gwneud o ddail. Yr oedd ei chroen fel eboni, a'i gwallt trwchus yn sefyll allan yn syth fel brwsh mawr ar ei phen, a dail a blodau wedi eu plannu ynddo.
Yr oedd yn olygfa arswydus. Daethant â'r cwch i'r lán. Syllai'r ferch arnynt heb ddywedyd gair. Edrychai'n barod i redeg oddiwrthynt mewn eiliad i ben draw'r byd. Daliai Llew Socrates yn dýn. O'r diwedd cafodd Madame eiriau allan.
Pwy ydych?" ebe hi yn Saesneg.
Deallodd y ferch hi, ac atebodd "Me Mili."
"O ba le y daethoch chwi yma?" ebe Mr. Luxton. "Mili live away where sun rise. Me here one moon, two moon, tri moon."
Yna holodd pob un hi. O'i hatebion hanner dealladwy daethant i wybod ychydig o'i hanes.
O ryw ynys neu wlad tua'r Dwyrain y daethai. Yr oedd cenhadwyr yno. Aethai hi atynt. Digiodd hynny ei thad neu rywun oedd yn berchen arni. Rhoddwyd hi mewn canŵ, ac ychydig fwyd a dŵr ynddo, a'i gadael at drugaredd y môr. Bu am amser hir, hir, ni wyddai pa hyd, ar y môr. Trawodd y canŵ yn erbyn y rhibyn cwrel a amgylchai Ynys Pumsaint. Neidiodd hithau ar y graig, a nofio'r lagŵn, morgwn neu beidio. Yr oedd y canŵ ar y môr o hyd. Treuliasai dri mis ar yr ynys, yn byw ar ffrwythau,. Efallai y deuai ei phobl i chwilio am dani dros y môr. Efallai na ddeuent.
"Gobeithio, yn enw popeth, na ddeuant yma," oedd gweddi pob un o'r pump a wrandawai ar Mili.
Ni chasglwyd perlau y diwrnod hwnnw. Aed â Mili yn ôl yn y cwch i'r "Neuadd." Cafodd fwyd, a rhoddodd Myfanwy rai o'i dillad hi iddi. Cafodd gysgu yn yr ystafell fawr ar wely o ddail. Hi oedd yr unig un a gysgodd yn drwm ar Ynys Pumsaint y noson honno.