Brithgofion/Prydyddion
← Crefydd | Brithgofion gan Thomas Gwynn Jones |
Ffermwyr → |
VII.
PRYDYDDION.
BYDDAI traddodiad llenyddol yn yr ardal, yn mynd yn ôl rai canrifoedd, fel y deuthum i wybod wedyn. Clywid ystraeon am rai prydyddion gynt, a adroddid yn yr ardal o hyd. Yr oedd un ohonynt, a elwid Owen, yn mynd ar hyd y ffordd un diwrnod, a gwelai brydydd arall wrthi'n chwŷs mawr yn medi haidd. Dringodd Owen i ben y clawdd a gwaeddodd:—
"Siôn Parri'i hun sy'n pori haidd."
Ac heb godi ei ben atebodd y llall:—
"Tyrd tithau yma, Owen gry'
I dynnu o'r gwraidd."
Yr oedd chwaer i Siôn Parri a natur prydyddu ynddi. Un tro yr oeddis wrthi'n corlannu defaid a'r prydydd yn lled ddiamcan gyda'r gwaith, fel y tybiai'r chwaer. Meddai hi:—
"Sa 'n nes, Siôn ni,
Yn y boncan, yr hen benci!"
Dro arall aeth y prydydd i edrych am ei chwaer i'w thŷ hi ei hun. Aeth hithau ag ef i'r parlwr, lle'r oedd tân, yn gystal ag yn y gegin. Meddai'r prydydd:—
O, dau dân sy'n dy dŷ di."
Meddai hithau yn y fan:—
"Un yn ddigon i ddau ddiogi."
Yr oedd Siôn Parri, yn wir, yn brydydd medrus dros ben yn ei ddydd (tua dechrau'r ganrif ddiwethaf), fel y dengys ei "Fyfyrdod mewn Mynwent," a gyhoeddwyd yn Nhrefriw yn 1814.
Clywais lawer o sôn gan fy nhad o dro i dro am brydydd gwlad a elwid Ifan Hobwrn, oddiwrth enw ei gartref, mi gredaf. Gwnâi gerddi digrif ar ryw droeon trwstan a ddigwyddai yn yr ardal nesaf, lle'r oedd fy nhad yn byw'r pryd hynny a'r prydydd yn ei wasanaeth. Byddai ar bobl ofn Ifan oblegid ei gerddi, fel y digwyddai gynt. Ryw dro, dygwyd ysbawd dafad o gerbyd rhyw gigydd. Yr oeddis yn amau pwy aeth â'r ysbawd, er nad oedd digon o sicrwydd i roi cyfraith arno chwaith. Cyn pen ychydig ddyddiau yr oedd y prydydd wedi gwneud cerdd ar yr amgylchiad, a honno ar gerdded fel tân gwyllt. Dyma'r unig bennill yr wyf yn ei gofio, a'r dôn— tôn Seisnig, mi gredaf, fel y byddai fy nhad yn ei ganu ambell waith wrth ddywedyd yr hanes:—
Byddid yn canu'r gerdd yn y tafarnau gyda hwyl fawr, a phawb a'i wydryn yn ei law, gan ei godi at ei wefusau gyda chodiad lleisiau'r tenoriaid ar ddiwedd y llinell olaf o'r byrdwn. Gwelais y prydydd unwaith. Aeth fy nhad a mi i'w ganlyn i edrych amdano. Gweithiai mewn gwaith nwy. Wedi cael te aethom gydag ef i weld y gwaith, a gwelsom ef yn taflu glo i'r tanau. Dyn cadarn, dwylath o hyd, wyneb coch, llawen, a chwarddwr calonnog. Yr oedd yn noeth o'r wasg i fyny. Agorodd ddrws y ffwrn a thaflu glo i mewn iddi. Disgynnai llwch y glo drosto nes ei fod fel dyn du. Eiliad na byddai'n ddyn gwyn eilwaith, gan y chwŷs a lifai drosto. Truan oedd gweld ei fath, un a fu gynt fyw'n rhydd yn yr haul. Gofynnodd fy nhad iddo a wnâi ambell gerdd bellach. "Na," meddai gan chwerthin, "dim cerddi yn yr uffern yma!"
Byddai diddordeb mewn englyna yn beth cyffredin ymhlith pobl o hyd, a gwobr am englyn bob amser yn y y cyfarfodydd cystadleuol a gynhelid tua'r Nadolig a'r Calan. Ryw brynhawn braf yn yr hydref, daeth dyn bach trwsiadus i holi am fy nhad, gan ddywedyd wrtho ei fod wedi gwneud englyn i'r "Mynydd," ar gyfer rhyw gystadleuaeth, ac y byddai'n ddiolchgar iawn pe cawsai farn fy nhad arno. Yr oedd y gynghanedd wedi dechrau cymryd gafael ynof innau erbyn hyn, ac yr oeddwn yn ceisio dysgu'r rheolau o Ramadeg Bardd Nantglyn, oedd gan fy nhad er pan oedd ef yn ddisgybl i Risiart Ddu of Wynedd yn ei lencyndod yn Nyffryn Clwyd. (Ni rôi fy nhad nemor gymorth i mi, canys yr oedd ar y pryd tan ddylanwad y beirniaid a ddywedai mai ar y Gynghanedd yr oedd y bai am na chododd yr un bardd mawr erioed yng Nghymru). Felly, gwrandewais ar yr ymddiddan rhwng y ddau, gan gymryd arnaf wylio'r adar to oedd yn ffraco â glas bach y wal yn y domen ger llaw. Adroddodd y prydydd ei englyn, a safodd y ddwy linell olaf ohono yn fy nghof hyd heddiw. Dyma hwy:—
"Gwir enwog gadair anian
Yw glol y mynydd glân."
Gwyddwn fod popeth bron yn enwog" yn y dyddiau hynny, ond nid oeddwn yn sicr beth oedd ystyr "glol." Ond yr oedd tyddyn heb fod ymhell a elwid "Pen y Glol," a meddyliais mai copa bryn neu fynydd oedd glol." Dywedodd fy nhad wrtho fod gwall yn y llinell gyntaf o'r ddwy a bod yr ail yn rhy fer. Rhyngddynt, trwsiwyd y ddwy, ac wedi i'r gŵr bach gael pryd o fwyd, yn ôl hen arfer Gymreig y cyfnod lleteigar hwnnw yn yr holl ffermdai, onid lle byddai ambell "hengribin" yn byw, cychwynodd y prydydd yn ei ôl, fel dyn wedi gwneud ei ddyletswydd. Pan gyrhaeddai adref, byddai wedi cerdded pedair milltir ar deg, er mwyn cael barn ar ei englyn. Dyn bach gwylaidd a chwrtais ydoedd, ac yr oeddwn yn gobeithio y cai'r wobr, o ryw hanner coron, am ei ymdrech. Ni welais mono byth mwy, na chlywed gair o'i hanes, ond gwelaf ef o flaen fy llygaid, yn neidio dros y gamfa yn hoyw ac yn cyrchu'r llwybr ar draws darn o wlad o'r prydferthaf fu erioed, un o ddosbarth yr hen brydyddion gynt, a gymerai drafferth er mwyn un ddisgyblaeth odidog a barchai rhai ohonynt, fel eu hynafiaid...
Perthynai'r prydyddion gwlad i bob dosbarth, ffermwyr, crefftwyr ac ambell was fferm yn eu plith, wedi etifeddu darn o hen draddodiad. Byddai fy mam yn sôn am un gwas fferm, a elwid "Bob y Prydydd," a drôi ambell geiniog oddiwrth grefft y prydydd hefyd. Yr oedd arno unwaith, eisiau codiad yn ei gyflog, ac nid bodlon mo'r meistr. Wrth ddyfod adref o'r ffair un noswaith, digwyddodd damwain i'r meistr. Syrthiodd i ffos y clawdd a chysgodd yno. Aeth y prydydd ato a dywedyd bod "y bechgyn y bechgyn yn crefu arno wneud cerdd. amgylchiad" honedig, ond ei fod ef yn meddwl na buasai'n iawn iddo wneud hynny heb wybod a oedd ar yr yr ystori'n wir ai peidio. "Na," meddai'r meistr, "dim gair o wir ynddi, 'machgen i." "O," meddai'r gwas, mae'n dda gen i wybod hynny," a chychwynodd "Hwda," meddai'r meistr, "gofynnaist am godiad yn dy gyflog, on'd do?" "Do, syr," meddai'r prydydd. "Wela," meddai'r meistr, "'r ydw i wedi bod yn meddwl. am y peth wedyn, ac am nad oeddat ti'n barod i gredu pob stori gelwydd, mi gei, 'ngwas i."