Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Bedd Bardd Byw
← Lleddf a Llon | Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill gan Humphrey Jones (Bryfdir) |
Llanw a Thrai → |
BEDD BARDD BYW.
[Wedi galw heibio i fedd Eifion Wyn ym mynwent Chwilog, ar daith adref o Gaernarfon, nawn Sadwrn, Ebrill 2, 1928.]
I.
'ROEDD gwrid yr hwyr yn llathru'r môr,
A miwsig Côr Sant Beuno,
Ym marw ar y gorwel draw,
A chorn y glaw yn rhuo,
Tra teithiai pedwar gwr yn chwim
Heb falio dim mewn tywydd,
O dan gyfaredd golygfeydd
Hen encilfeydd Eifionydd.
II.
Heneiddio'n gyflym wnai y dydd
Ar waun a mynydd cribog;
Nesaem fel myneich 1leddf ar wyr
At borth yr hwyr cymylog;
O'r ffordd i fynwent Chwilog gain
Heb ddybryd sain yr aethom;
A'r ysbrydoliaeth sydd o Dduw,
Wrth fedd Bardd byw a gawsom.
III.
I ganu'r gloch nid genau'r glyn
Fu'n delyn fwyn i'w dalent;
Safasom ninnau wrth ei fedd
Heb dorri hedd y fynwent;
'Roedd "chwe briallen" ar ei gell,—
Pob un mewn mantell loyw,
Yn tystio'n fud ar erw Duw
Mai bedd Bardd Byw oedd hwnnw.